Cynyddu maint testun

Golwg360

Oes angen i gymaint o fyfyrwyr fynd i Brifysgol?

Cyhoeddwyd Rhagfyr 2, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Addysg

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan wedi agor Bocs Pandora gyda’r bwriad i gynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr i £6,000 neu hyd yn oed £9,000. Rydym ni wedi gweld protestio ar draws Brydain, a brwydro o fewn plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth i rai Aelodau Seneddol ddweud y bydden nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur.

Daeth y cyfan i ryw fath o benllanw bisâr pan awgrymodd y Gweinidog Busnes, Vince Cable, na fyddai’n pleidleisio o blaid ei fesur ei hun er mwyn cadw undod o fewn y blaid.

Mae’r protestwyr yn dadlau y bydd cynyddu’r ffioedd dysgu yn “dinistrio eu dyfodol”. Ond yr un cwestiwn sydd wedi ei anwybyddu ynghanol y dadlau yma i gyd, ydi i ba raddau mae angen addysg brifysgol ar y mwyafrif o’n pobol ifanc? Oni fydden nhw’n dysgu mwy, ac yn gwneud arian yn hytrach nag yn mynd i ddyled, drwy symud ymlaen yn syth i fyd gwaith?

Mae’r sector addysg uwch wedi ehangu yn gyflym iawn dros y degawdau diwethaf wrth i’r Llywodraeth anelu at sicrhau bod 50% o’r rheini sy’n gadael yr ysgol yn mynd i Brifysgol. Y pryder ydi nad ydi’r Prifysgolion wedi dod o hyd i rywbeth gwerth chweil i’w wneud gyda nhw i gyd.

A ydi’r myfyrwyr rheini yn dysgu sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer byd gwaith? Mewn marchnad swyddi cystadleuol, mae ryw fath o ‘arms race’ addysgol wedi datblygu, gyda myfyrwyr yn teimlo bod rhaid iddyn nhw fynd i Brifysgol oherwydd bod pawb arall yn gwneud hefyd.

Ond canlyniad hynny ydi nad ydi gradd brifysgol hyd yn oed yn rhoi sicrwydd swydd erbyn hyn. Oherwydd bod pawb yn mynd i brifysgol, mae’r pyst wedi eu symud. Erbyn hyn mae angen MA, neu hyd yn oed PhD, er mwyn gwneud argraff ar gyflogwyr.

Dydw i ddim yn dadlau nad oes angen addysg prifysgol ar ddoctoriaid, gwyddonwyr, neu hyd yn oed gyfrifiadurwyr. Dydach chi ddim yn gallu dysgu sut i wneud y swyddi rheini ar ôl mynd i fyd gwaith – ac mae angen blynyddoedd o astudio dwys er mwyn gallu eu gwneud nhw.

Ond mae yna ormod o gyrsiau, yn enwedig yn y dyniaethau, sydd ddim o unrhyw ddefnydd ymarferol y tu allan i waliau’r Brifysgol. Yn aml, yr unig berson sy’n gwneud bywoliaeth o’i feistrolaeth o’r pwnc yw’r person sy’n ei ddysgu.

Er enghraifft, fe ddewisais i astudio Newyddiaduraeth a Saesneg Canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Heblaw am werthfawrogiad newydd o waith Chaucer dydw i ddim yn credu fy mod i wedi dysgu unrhyw beth ymarferol o’r ail gwrs . A dweud y gwir yr unig ffordd y gallai fod wedi bod o gymorth i fi ym myd gwaith oedd petawn i wedi cael swydd fel academydd oedd yn astudio Beowulf neu Paradise Lost yn llawn amser.

O ran y cwrs Newyddiaduraeth, roedd hwnnw’n amlwg o ddefnydd am fy mod i bellach yn newyddiadurwr – ond dw i’n credu i mi ddysgu mwy mewn tua phythefnos ar bapur newydd go iawn na wnes i ar fy nghwrs newyddiadurol cyfan, oedd yn gwyro tuag at yr academaidd yn hytrach na’r ymarferol.

Hyd yn oed ar y cwrs Newyddiaduraeth, roedd rhai o’r modiwlau yn gwbwl ddiwerth. Fe wnes i fwynhau y modiwl ‘Horror and the Media’ yn fawr iawn, ond allai’m gweld sut mae sgwennu traethawd ar The Shining gan Stanley Kubrick o ddefnydd i fi heddiw.

Ac unwaith ydach chi’n dod o hyd i swydd, dyw eich cefndir academaidd chi ddim o bwys i’r cyflogwr nesaf, dim ond eich profiad ym myd gwaith.

Cwestiwn arall ydi i ba raddau mae angen tair blynedd i gyflawni cwrs mewn prifysgol. Dim ond dwy awr o ddarlithoedd oedd gen i, a bob un o fy nghyfeillion, bob diwrnod ar y mwyaf. Pe baen ni wedi gweithio’r un oriau ag oedden ni yn ôl adeg TGAU, fe fyddai wedi bod yn bosib gwasgu tair blynedd o addysg mewn i un neu ddwy flynedd yn hawdd.

Wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o’r myfyriwr eu hunain, nid dyna’r pwynt. Mae Prifysgol bron â bod wedi troi’n debycach i ryw fath o ‘gap year’ tair blynedd, ble mae pobol ifanc yn cael gadael cartref, meddwi, caru, a phrifio. Dyw addysg ddim yn uchel ar restr blaenoriaethau y rhan fwyaf o fyfyrwyr.

Ond wrth i ffioedd dysgu gynyddu, mae’r ‘gap year’ tair blynedd yn mynd yn fwy a mwy costus. Am yr arian yna fe allech chi deithio’r byd. Neu hyd yn oed fynd yn syth i mewn i swydd a dysgu beth sydd ei angen arnoch chi’n llawer cynt.

Serch hynny, dydw i ddim yn awgrymu mai codi ffioedd dysgu yw’r ffordd gywir o annog pobol ifanc i beidio â mynd i brifysgol. Bydd pobol sydd ddim angen mynd i brifysgol o deuluoedd cefnog yn dal i fynd, a phobol sydd angen mynd i brifysgolion o deuluoedd tlawd ddim yn gallu.

Os ydi arian yn dynn, beth am yrru llai o fyfyrwyr i brifysgolion, ond canolbwyntio ar y myfyrwyr sydd wir angen mynd, o bob cefndir, a’u hariannu nhw’n llawn?

Dywedwch na i Frynderi

Cyhoeddwyd Hydref 6, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg

Geraint Evans sy’n dadlau yn erbyn codi ysgol newydd Gymraeg ar safle Brynderi yn Ystradgynlais…

Sefydlwyd grŵp gweithredu Rhieni Yn Erbyn Brynderi i ymladd dros chwarae teg i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a thros gyfartalwch i’r iaith Gymraeg yn nalgylch Maesydderwen yn ardal Ystradgynlais, ym mhen uchaf Cwmtawe.

Ar Fedi’r 14eg 2010 pleidleisiodd Bwrdd Cyngor Powys yn unfrydol i gau’r 10 ysgol yn nalgylch Maesydderwen gan adeiladu 4 ysgol newydd yn eu lle.  Serch hynny, gwnaed un newid arwyddocaol i’r cynnig o ran y safleoedd.  Bu trafod mawr a phryderon yn cael eu mynegi gan y Bwrdd, yn enwedig dros safle Brynderi – y safle y mae Cyngor Sir Powys wedi ei ddewis gogyfer yr ysgol gyfrwng Gymraeg  newydd.  Pwysleisiodd aelodau’r Bwrdd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, dros yr angen i ddatrys materion cyfreithlon, yn ogystal â phryderon y gymuned.

Atgyfnerthwyd y momentwm y tu ôl i ymgyrch dywedwch na i Frynderi gan orymdaith drwy Ystradgynlais ar ddydd Sadwrn, Medi’r 11eg.  Roedd yr orymdaith yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o drawstoriad o’r gymuned yn protestio yn erbyn yr anghyfartalwch sydd wedi’i dargedu at addysg gyfrwng Gymraeg a’n hiaith.  Anerchwyd yr wrthdystiad gan Roger Williams AS cyn cerdded drwy Ystradgynlais i rali ar gaeau chwarae’r Tic Toc.  Mae hyn ar ben 415 o lythyron o wrthwynebiad a gasglwyd o fewn cyfnod byr o amser a chyn hyd yn oed bod  y gymuned ehangach yn ymwybodol o broblemau’r broses o Foderneiddio Ysgolion.  Yn ôl cynlluniau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Gyngor Sir Powys, mae’n pryderon ynglŷn â safle Brynderi wedi’u llwyr gyfiawnhau.

Y pryderon

Diffyg chwarae teg i blant – Yn ei ddogfen asesu rhagbaratoawl, dywed CS Powys y bydd gan yr ysgol gyfrwng Saesneg yng Nglanrhyd 30,972m2 o dir i 240 o ddisgyblion a lle i ehangu.  Fe fydd gan safle Penrhos 32,700m2 i 240 o ddisgyblion.  Ond, dim ond 17,782m2 o dir y gellid ei ddefnyddio bydd ar safle Brynderi gogyfer 300 o ddisgyblion a dim lle i ehangu.  A hynny er gwaetha’r ffaith y bydd yr ysgol, yn ôl y niferoedd arfaethedig, wedi cyrraedd y mwyafswm y bydd modd ei dderbyn yn ystod y flwyddyn gyntaf.  I grynhoi felly, fe fydd gan y plant fydd yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg 57% yn llai o le na gweddill plant Ystradgynlais!

Anghyfartalwch i addysg Gymraeg – Gofynnir i ni dderbyn y cynnig i leoli’r ysgol fwyaf ar y safle lleiaf.  Mae un golwg dros y cynlluniau yn ddigon i ddangos yr anghyfartalwch yn nhermau’r hyn a gynigir o ran caeau chwarae, cynefinoedd tu allan ac ardaloedd natur.  Mae’r safle wedi’i rannu gan lwybr cyhoeddus, sy’n lleihau maint defnyddiadwy’r safle ymhellach ac yn codi ofnau diogelwch dros y disgyblion.

Absenoldeb ysgol gymunedol Gymraeg yng nghalon y gymuned – Bydd dalgylch yr ysgol Gymraeg yn ymestyn o Goelbren a Glyntawe hyd at a thros ffin Powys.  Serch hynny, mae’r lleoliad a gynigir i’r ysgol o fewn tafliad carreg i ffin Nedd a Phort Talbot a Sir Gaerfyrddin.  Ar ben hynny, mae yna wir fygythiad na fydd lle i ddisgyblion sy’n teithio o du allan i ffiniau Powys yn yr ysgol newydd.  Disgyblion sy’n draddodiadol yn derbyn addysg Gymraeg yn Ystradgynlais.  Er mwyn cael ethos hollol gymunedol mae’n rhaid i’r ysgol fod yn hygyrch i’r gymuned ac o fewn pellter cerdded  i’r cyfleusterau cymunedol y bydd yr ysgol yn eu defnyddio’n rheolaidd.

Anghysondeb yn y broses ymgynghori – Mae Cyngor Sir Powys wedi bychanu’r mwyafrif o rieni addysg gyfrwng Gymraeg drwy ond danfon swyddogion yn hytrach na chyfarwyddwyr i’r cyfarfod ymgynghori yn wahanol i’r holl ymgynghoriadau eraill.  Mae barn y mwyafrif o rieni wedi’i hanwybyddu a’i diystyru.

Diffyg tryloywder – Mae diffyg tryloywder yn amlwg trwy gydol y broses.  Mae agendau personol a gwleidyddol wedi eu rhoi o flaen anghenion dysgwyr.  Mae tystiolaeth yn awgrymu fod angen edrych ar gyfraniad Cyngor Tref Ystradgynlais i’r broses o amddifadu cymuned Ystradgynlais o ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg newydd ar safle delfrydol a chanolog.

Gwerth arian i drethdalwyr – Tua 4.5 miliwn o bunnoedd oedd y gost arfaethedig wreiddiol gogyfer adeiladu’r ysgol.  Erbyn hyn mae’r ffigwr yma wedi cynyddu i dros 8 miliwn o bunnoedd: ffactor gyfrannol at y cynnydd yw symud Cwm Wanderers FC.  Mewn papur a ddanfonwyd i fwrdd CS Powys ar 30/3/10 dywedwyd “Fe fydd yna gost ychwanegol i’r Bwrdd Cynllunio sy’n golygu bydd y gost yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol o hyd at filiwn o bunnoedd am y cyfleusterau newydd hyn a’r gwaith tir cysylltiedig”.  Ar hyn o bryd, er i Gyngor Sir Powys ddatguddio cynlluniau newydd ar Fedi’r 30ain i symud Cwm Wanderers FC nid yw’r clwb wedi cytuno symud.  Yn ychwanegol i’r costau dianghenraid y soniwyd amdanynt eisioes, cyfeiriodd y papur hefyd at yr angen i brynu dau ddarn ychwanegol o dir er mwyn galluogi ystyried Brynderi fel safle posibl.  Yn ogystal, cydnabuwyd absenoldeb cost trin Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed) o’r cyllid presennol.  Felly Brynderi fydd y safle lleiaf ond drutaf i’w ddatblygu.  Oni fyddai’n gwell gwario’r arian ar addysg ein plant?

Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau yma yn cryfhau’r ddadl yn erbyn Brynderi ac yn ysbrydoli’r ymgyrch i barhau i ymladd dros gyfartalwch i addysg Gymraeg.

Rydym bob amser wedi llwyr gefnogi’r agenda moderneiddio ac yn ddelfrydol hoffem ddatrys y sefyllfa cyn bod rhaid mynd â’n gwrthwynebiadau at Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dyddiadur wythnos y glas

Cyhoeddwyd Medi 30, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg

Dyddiadur o wythnos y glas gan fyfyrwyr o Fangor ac Aberystwyth…

Heia! Mari dwi, myfyrwraig yn yr ail flwyddyn ym Mangor. Dwi yma’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth a does yna nunlle gwell i astudio na Phrifysgol Bangor.

Yr wythnos diwethaf oedd wythnos y glas fan hyn, ac mae o wedi gadael ei ôl arna’i! Mae ceisio yfed unrhyw beth erbyn hyn yn teimlo fel tasen i’n trio llyncu draenog. Lwcus i mam bacio digon o strepsils a lemsip i bara blwyddyn – dwi’n dioddef o’r ffliw ffreshars!

Uwchafbwynt yr wythnos diwethaf oedd parti pwnsh yn neuadd gyffredin y JMJ newydd nos Iau. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â pharti pwnsh, y nod yw i bawb ddod â potel (ond dim diodydd meddal!) ac mae’r cyfan yn cael eu tywallt i fwced enfawr i greu’r pwnsh.

A gallwch chi fentro bod canlyniad y gymysgfa yn eich taro chi fel pwnsh go iawn ar eich talcen! Roedd hi’n gyfle i gymdeithasu dros lymaid ac i drigolion JMJ 2010 ddod i ‘nabod ei gilydd.

Wedi rhai oriau yno yn gwylio’r bechgyn (a rhai merched) yn derbyn sialens y twmffat roedd hi’n daith fer draw i bar Uno sydd ar y campws – taith gyfleus iawn mewn sodla uchel!

Noson Gymraeg â DJ Iolo Gwilym yn ein difyrru oedd ymlaen gyda hen ffefrynnau gan Daniel Lloyd a Mr Pinc a rhai bandiau cyfoes fel Yr Ods.

Roedd hi’n grêt gweld pawb ar eu traed yn dawnsio ac roedd hi’n noson dda – arwydd bod y Cymry wedi gwneud eu marc ar safle’r Ffriddoedd. Er ein bod yn y lleiafrif ar y safle newydd, mae myfyrwyr Cymraeg Bangor yn dal yn bresenoldeb amlwg.

Y bore canlynol, be’ well sydd i’w wneud ond cymryd mantais o’r talebau di-ri mae myfyrwyr yn eu cael yr adeg yma o’r flwyddyn a mynd lawr i’r Hen Lan i gael brecwast enfawr am hanner pris. Bydd rhieni pawb yn falch o wybod ein bod ni’n bwyta’n dda yma.

Mae wythnos yn dangos i’r ffreshars sut i fwynhau yn dechrau dangos eu hôl arnom erbyn hyn felly roedd hi’n benedrfyniad doeth cael noson i fewn nos Wener.

Têc awe a ffilm dda er mwyn magu egni yn barod ar gyfer y penwythnos. Bydd y gwaith caled yn dechrau Ddydd Llun ac fe fyddai’n syniad cael y nosweithiau gwyllt allan o’r ffordd cyn hynny!

* * *

‘Absence makes the heart grow fonder’ yw’r hen ddywediad Saesneg, ac ar ôl haf hir yn hiraethu am Aber, mae’n deimlad braf iawn cael dychwelyd i’r dref sy’n orlawn o fyfyrwyr.

Stori wahanol iawn yw’r teimlade sydd ‘da fi, Miriam, at yr hangovers… Ych a fi!  Ar y Nos Wener y cyrhaeddodd pawb, parti coctel yn Kanes oedd ‘di drefnu. Roedd y cyfuniad  gynnwrf pawb o fod nol a chocteils digon cryf yn golygu ei bod hi’n noson a hanner i ddechrau wythnos wyllt.

Ymlaen i’r nos Sadwrn gyda chrôl croesawu er mwyn i’r ail a’r trydedd flwyddyn arwain y flwyddyn gyntaf o amgylch tafarndai’r dref a dangos beth yw beth!  Wel beth allai weud… ma ‘na sbort i gal!

Noson o ganu yn y Cwps oedd hi nos Sul, traddodiad sydd yn mynd nol cenedlaethau.  Ar ôl dwy noson ar yr ochr drwm, rhaid cyfadde’ wedd y lleisie ddim yn swno ar ei gore!

Ymlaen wedyn rownd y dre a beni’r noson yn Yokos, a’r lle’n gor-lifo myfyrwyr.  Na beth yw joio!

Y Crôl Teulu oedd hi nos Lun! Noson fawr… iawn.  Felly bant a ni i’r Cwps i gyfarfod a’n cyd-fyfyrwyr newydd er mwyn i ni gael ein rhoi mewn ‘teulu’.   Roedd y drydedd flwyddyn yn chwarae rhan y Famgu a’r Tadcu, yr ail yn Fam ac yn Dad a’r cyntaf yn chwarae rhan y plant … ac yn cambihafio yn yr un modd.

Pawb yn dod i adnabod ei gilydd a chymdeithasu gyda digon o ddiod i lenwi pwll nodfio.  Glywais i rai o’r glas-fyfyrwyr yn hawlio mae hon oedd “noson gorau ei bywyd” ac yn “well na Magaluf”. Clasur o noson!

Ond mawredd mawr, sdim geirie i ddisgrifio’r ffordd ro’n i’n teimlo y bore wedyn!

Gair o gyngor i’r ffreshars…

Cyhoeddwyd Medi 24, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg

Dwy fyfyrwaig o Fangor sy’n blogio am wythnos y glas…

Helo ‘na, yn enw i yw Mared a dwi’n fy ail flwyddyn ym Mangor ar hyn o bryd yn astudio Cymraeg.

Amser hyn bob blwyddyn ‘ma Bangor yn troi o fod yn dref digon tawel dros yr haf, i dref yn llawn stiwdants gwyllt yn barod am wythnos wallgo’ o fynd mas, yfed a chwrdd â phobol newydd.

Ar ôl misoedd o gyffro, paratoi ac ysu i ddod yn ôl, roedd yr amser wedi cyrraedd o’r diwedd… wythnos y glas!

Roedd rhyw ddigwyddiad neu grôl wedi ‘i drefnu bob nos wythnos yma er mwyn croesawi’r glas fyfyrwyr  yn iawn i Fangor. Felly nos lun roedd yn rhaid trefnu crôl y glas i bawb ddod i adnabod pawb ac i ddangos rhai o dafarndai enwog y dref.

Roedd pawb yn cwrdd yn JMJ am saith gyda’r ail ar drydedd flwyddyn yn barod gyda’u pegiau a’u ceiniogau i ddal y flwyddyn gyntaf allan a’i meddwi’n rhacs!

Felly lawr a ni i dafarndai ger y pier a gweithio ein ffordd yn ôl i Fangor ucha’ at yr enwog glôb i orffen y noson mewn steil. Sawl peint, ceiniog a pheg yn ddiweddarach,  ac roedd y crôl yn mynd yn ei blaen, er bod sawl un wedi gorfod mynd gartref yn barod. Doedden nhw ddim cweit yn gallu ymdopi gyda’r ffordd Bangoraidd o yfed!

Os ydw i’n onest, dwi ddim yn cofio rhyw lawer ar ôl hyn, sydd ddim yn synida da ar ol addo ysgrifennu blog…

Ond rhaid dweud bod y croeso yn ôl i Fangor wedi bod yn arbennig ac roedd hi’n noson wych ar ddechrau’r wythnos!

Roedd sawl noson arall o sbri i edrych ymlaen atynt, fel y crol tair coes, crol has-beens, ac wrth gwrs y crol teulu! Fy unig obaith i oedd llwyddo i aros allan ar ôl 11pm flwyddyn yma…

Fy nhips i ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn ystod wythnos y glas yw – ewch yn wyllt! Dim ond unwaith ydach chi’n fresher, a gewch chi ddigon o amser i gysgu wythnos nesa!

* * *

Fy enw i yw Fflur a dwi bellach yn fy mlwyddyn olaf yma ym Mhrifysgol Bangor.

Rwy’n astudio gradd gyd-anrhydedd mewn Cymraeg a Hanes.  Treuliais ddwy flynedd wych yn byw yn Neuadd Gymraeg John Morris-Jones, ac mae fy nillad i’n dal i ogleuo o’r lle.

Mae Bangor yn atgyfodi yn ystod wythnos y glas, ac yn sicr mae digonedd i’r myfyrwyr Cymraeg ei wneud yma. Mae Uneb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a’r Cymric yn trefnu digon o weithgareddau i’r glas-fyfyrwyr fel bod pawb yn adnabod ei gilydd mewn dim o amser!

Yr unig ‘dip’ fyddwn i’n gallu ei roi i’r myfyrwyr newydd yw i beidio bod ofn mynd fyny at bobl a siarad, mae yna lot o’r flwyddyn gyntaf yn mynd i deimlo union yr un peth a chi!

Roedd pawb yn gwybod fod wythnos y glas eleni am fod yn wahanol gan fod Neuadd JMJ wedi symud i safle Ffriddoedd, ond yr un oedd y drefn, ac yn dilyn traddodiad cawsom ein Crôl Teulu blynyddol ar y nos Fawrth, a dyma mewn giwironedd oedd y cyfle cyntaf gafodd y myfyrwyr newydd i wir ddod i adnabod “hen stejars” yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Hon oedd y noson yr oedd y rhan fwyaf yn edrych ymlaen ati, ond ei hofn yn yr un modd, gan fod pawb yn cael ei gwahanu a’u gyrru i gyfeiriadau gwahanol i’w ffrindiau er mwyn cymysgu hefo’r flwyddyn gyntaf.

Roeddwn i’n lwcus iawn o gael ‘teulu’ oedd yn barod i gael lot o hwyl a gan fy mod i’n y drydedd flwyddyn, roeddwn i’n Nain ac yn ben i’r teulu ac felly’n cael penderfynu pa ddiodydd oedd pawb i yfed!

O fewn dim o amser roedd pawb yn siarad fel ein bod yn adnabod ein gilydd ers blynyddoedd, ac fe benderfynodd ein teulu ni i anwybyddu pob teulu arall (tacteg bondio!).  Y gôl ar ddiwedd y crôl oedd cyrraedd yr Octagon, ond dwi’n siwr bod yna ambell i aelod o’r flwyddyn gyntaf wedi gorfod mynd adref yn fuan – yn amlwg gan eu bod wedi blino!

Roeddwn i’n falch iawn bore dydd Mercher nad oeddwn i’n un o’r glas-fyfyrwyr oedd yn gorfod codi i fynd i’r holl gyflwyniadau ac yn y blaen.  Diog yw’r gair gorau i ddisgrifio fy nghyflwr mae’n debyg, ond wedi dweud hynny mi grwydrias i ganolfan hamdden Maes Glas i ffair y clybiau a’r cymdeithasau – Serendipedd.

Yn ogystal â’r stondinau roedd digon o gyfle i gael ‘freebies’.  Yr oll oedd i’w wneud wedyn oedd edrych ymlaen at weddill yr wythnos , gan gychwyn hefo gig Cymraeg ym Mar Uno ar safle ffriddoedd!

Canlyniadau Lefel-A Cymru

Cyhoeddwyd Awst 19, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg

Dyma’r Canlyniadau Lefel-A ac AS ar draws Cymru.

Lefel-A

Pwnc Nifer y cofrestriadau Canran Graddau A* – E Canran yn ennill Gradd A (yn cynnwys A*) Canran yn ennill Gradd A*
2009 2010 2009 2010 2009 2010 2010
Almaeneg 244 209 100.0 97.1 33.6 33.0 8.6
Astudiaethau Busnes 967 1025 98.4 96.8 17.6 16.6 3.5
Astudiaethau Crefyddol 1223 1345 98.9 97.5 25.4 21.2 3.9
Astudio’r Cyfryngau / Ast. Ffilm1 1307 1380 99.2 97.9 15.2 14.6 2.0
Bioleg 2641 2712 95.5 96.2 25.5 25.4 5.5
Cemeg 2188 2132 96.4 97.3 33.8 32.8 8.5
Cerddoriaeth 734 689 98.9 98.7 15.5 20.3 2.6
Chwaraeon / Astudiaethau AG 1121 1093 96.5 96.5 12.0 12.9 2.8
Cymdeithaseg 1243 1294 97.9 96.2 21.2 23.3 6.6
Cymraeg (Ail Iaith) 595 496 98.5 97.4 18.0 16.5 2.6
Cymraeg (Iaith Gyntaf) 346 362 99.7 99.4 21.4 22.9 5.0
Daearyddiaeth 1866 1732 98.6 98.2 25.3 22.9 4.6
Drama 911 922 99.2 98.9 23.4 16.9 4.1
Ffiseg 1474 1450 94.3 95.1 28.1 27.2 8.1
Ffrangeg 866 711 99.0 96.9 33.6 32.2 5.3
Hanes 3223 2776 99.4 99.4 26.4 25.3 5.5
Mathemateg 3165 3362 97.3 97.2 43.5 44.2 13.1
Pynciau Celf a Dylunio1 2224 2247 98.0 98.7 29.9 30.7 12.9
Pynciau Technoleg1 1006 1013 97.3 97.1 11.8 11.0 2.6
Saesneg2 4080 3732 99.7 98.4 22.4 20.3 6.7
Sbaeneg 268 220 98.1 95.5 29.9 30.5 5.9
Seicoleg 1700 1730 95.0 94.2 17.4 13.9 3.9
TGCh/Cyfrifiaduro1 2021 1849 96.2 94.6 13.3 11.7 2.1
Y Gyfraith 999 769 96.3 92.3 19.9 24.1 6.2

Y blynyddoedd blaenorol

Canrannau cronnus y flwyddyn 2005 2006 2007 2008 2009 2010*
Gradd A 23.7 23.9 24.1 24.1 25.0 24.4
Graddau A-E 96.8 96.9 97.1 97.6 97.6 97.1

Lefel-AS

Pwnc Nifer y cofrestriadau Canran Graddau

A – E

Canran yn ennill Gradd A
2009 2010 2009 2010 2009 2010
Almaeneg 284 283 86.6 89.4 19.4 24.4
Astudiaethau Busnes 1405 1392 83.5 84.8 11.1 13.0
Astudiaethau Crefyddol 1826 1862 89.2 90.9 17.1 16.2
Astudio’r Cyfryngau/Ast. Ffilm1 1839 1909 94.6 94.7 15.5 9.3
Bioleg 3804 3825 80.3 81.6 15.6 16.6
Cemeg 3047 3269 82.8 84.2 19.1 18.0
Cerddoriaeth 927 918 92.2 93.4 13.3 14.6
Chwaraeon / Astudiaethau AG 1478 1450 82.3 82.2 7.7 9.2
Cymdeithaseg 2002 1915 82.1 82.2 14.8 14.5
Cymraeg (Ail Iaith) 683 785 96.5 97.6 16.5 19.3
Cymraeg (Iaith Gyntaf) 347 353 99.4 99.4 21.9 26.3
Daearyddiaeth 2042 2049 85.5 89.0 17.0 15.5
Drama 1023 1099 95.8 97.2 11.7 14.1
Ffiseg 2205 2225 81.0 79.8 18.3 17.3
Ffrangeg 1107 1001 88.9 88.5 18.7 23.5
Hanes 3220 3239 92.9 94.7 18.3 16.4
Mathemateg 4069 4195 82.4 81.5 30.0 29.1
Pynciau Celf a Dylunio1 3007 3142 94.3 95.5 23.6 21.6
Pynciau Technoleg1 1462 1439 82.9 83.4 7.7 6.7
Saesneg2 4308 4474 95.7 95.7 13.9 13.1
Sbaeneg 297 363 94.3 92.0 28.6 20.1
Seicoleg 2854 2992 74.6 75.1 9.2 10.3
TGCh/Cyfrifiaduro1 2071 2633 82.6 82.6 10.5 7.7
Y Gyfraith 1232 1259 81.8 81.7 15.6 15.7

Y blynyddoedd blaenorol

2005 2006 2007 2008 2009 2010
Gradd A 18.3 18.0 18.1 18.1 16.7 16.3
Graddau A-E 87.6 87.5 87.9 88.5 86.1 86.9

Newid man newid mawr

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Leighton Andrews

Newyddion mawr i ymgyrchwyr addysg heddiw -mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, eisiau cymeryd camau i sicrhau bod penderfyniadau am ad-drefnu addysg yn cael eu cadw’n lleol. Mae wedi dweud fwy nag unwaith bod y broses ad-drefnu’n cymeryd llawer gormod o amser ac heddiw dywedodd nad oedd yn credu bod y system bresennol wedi bwriadu i gymaint o gynlluniau ad-drefnu gael eu cyfeirio at y Gweinidog Addysg. Mae’u gynlluniau’n bwriadu dod a’r arfer hwnnw i ben, fel mai’r eithriad ac nid y norm fydd hynny yn y dyfodol.

Yn ol Jenny Randerson yn y siambr heddiw, mae o leiaf 42 mater yn disgwyl penderfyniad gan y Gweinidog. Ers Ionawr, mae’r Gweinidog wedi gwneud 11 penderfyniad, sydd ddim yn awgrymu bod y broses yn gyflym iawn. Y broblem wrth gwrs yw, ar waethaf ewyllys y Gweinidog yn y maes hwn, mae llawer o’r newidiadau arfaethedig yn golygu bod rhaid deddfu a newid rheoliadau ac i wneud hynny rhaid ymgynghori. Bydd hyn yn rhy hwyr i awdurdodau lleol sydd eisiau newid pethau ac athrawon a disgyblion ysgolion a’u dyfodol dan fygythiad.

Rhy hwyr hefyd i’r ysgolion sydd eisoes wedi cael ymateb i ymgynghoriadau. Mae rhieni ysgol Treganna yng Nghaerdydd sydd newydd glywed bod y cais i gau ysgol arall i wneud lle ar eu safle i ddisgyblion Treganna wedi ei wrthod yn pwyso am arolwg barnwrol o benderfyniad y Prif Weinidog. Manylion yma.

Y Gymraeg mewn Addysg Uwch – brwydr allweddol

Cyhoeddwyd Ebrill 25, 2010 gan Llion Iwan. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Llion Iwan

Y newyddiadurwr a’r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n ymateb i flogiau diweddar Rhys Llwyd a Dylan Jones-Evans.

Eleni mae 473 o ieithoedd y byd ar fin marw. Dyna sawl diwylliant, hanes a thraddodiad unigryw ar fin diflannu am byth. Er bod 6809 iaith yn y byd ar hyn o bryd, mae dros hanner y rheiny yn cael eu siarad gan lai na 6000 o bobol.

Cyfranna sawl ffactor at farwolaeth iaith, ond y rhesymau blaenllaw yw diffyg defnydd o’r famiaith mewn gweinyddiaeth a’r gyfraith, ymfudo, cyflafan, addysg trwy gyfrwng iaith estron a rhieni yn gwthio eu plant i siarad iaith arall, gan eu bod yn credu fod honno’n bwysicach ac o fwy o werth.

Pam dw i’n taflu’r ffeithiau hyn atoch? Gan fy mod yn credu ein bod ynghanol brwydr ar hyn o bryd am ddyfodol defnydd o’r Gymraeg mewn addysg uwch. Bu’n rhaid brwydro am flynyddoedd i’w gael, yn awr rydym mewn perygl mawr o’i golli. Byddai’r oblygiadau hyn i’n hiaith yn angheuol.

Os na fydd Cymry yn derbyn eu haddysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn arfer defnyddio termau a geirfa Gymraeg ymhob maes, yna troi at y Saesneg y byddant wrth wneud gwaith swyddogol ac ati. Ymhen amser gallai’r Gymraeg gael ei gwthio i fod yn ddim ond iaith yr ydym yn cymdeithasu ynddi, a beth fyddai’r cam nesaf.

Prifysgol Bangor

Rwyf am fwrw golwg ar y sefyllfa ym Mhrifysgol Bangor. Ond mae’r sefyllfa drwy Gymru yn ddifrifol, ac os collwn y frwydr ym Mangor, bydd yn cynyddu’r pwysau yn y prifysgolion eraill ac yn rhoi hyder i’r criw bychan sydd yn gwrthod cydnabod y Gymraeg.

Dwi’n fach o weld fod y myfyrwyr ym Mangor wedi dechrau protestio a lleisio eu hofnau am ddyfodol dysgu cyfrwng Cymraeg. Ond dyma frwydr y mae’n rhaid ei hymladd ar sawl lefel, mewn pwyllgorau, cyfarfodydd, erthyglau a lobïo. Dyfodol addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn y fantol.

Nid astudiaeth wyddonol mo hyn, dim ond sylwadau ac argraffiadau personol. Ond gwelaf nifer o Gymry Cymraeg yn dewis astudio yn y brifysgol trwy gyfrwng y Saesneg, gan eu bod yn credu nad yw eu Cymraeg yn ‘…ddigon da.’ Mae’r diffyg hyder yn y rhain tuag at eu hiaith yn anhygoel.

Gwelwyd cwymp hefyd yn y nifer sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae sawl rheswm dilys dros hynny. Ond y canlyniad yw bod y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn crebachu. O gynnig tair gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, bellach un a hanner sydd gennym yn ei hysgol ni, gan fod llai o staff yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae sawl ysgol dan fygythiad yn y brifysgol gan gyfrifwyr oeraidd sydd yn poeni am ddim ond ffigyrau moel ar bapur gwyn, heb ystyried am eiliad y cyd-destun a’r cefndir diwylliannol.

Hysbysebu am swydd Is-ganghellor Prifysgol Bangor heb i’r Gymraeg fod yn hanfodol iddi – dyna a gafodd y sylw diweddar bron i gyd yn y cyfryngau, ac yn haeddiannol. Ond mae’r sefyllfa yn llawer mwy difrifol na hynny.

Tros gyfnod o amser beth ddigwyddodd ym Mangor oedd bod y rheiny sydd yn rhedeg y Brifysgol o ddydd i ddydd, y dirprwyon a phenaethiaid coleg ac uwch weinyddwyr i gyd bron iawn ddim yn Gymry. Ac nid dim ond hynny, ond aed ati yn dawel bach i gyfyngu’r Gymraeg a defnyddio rheolau trwy ailddiffinio swyddi fel nad yw’r Gymraeg bellach yn hanfodol i rai ohonyn nhw. Cadw o fewn rheolau, ond torri ysbryd polisi iaith y Brifysgol yn rhacs.

Ni chafodd swydd y dirprwy materion Cymraeg ei llenwi er enghraifft, (digwyddodd hyn hefyd ar lefelau eraill yn y Brifysgol), ac er bod yr Is-ganghellor wedi ymgymryd gyda’r dyletswyddau, ond gan ei fod ar fin gadael, fe ddylid hysbysebu’r swydd hon a’i phenodi ar fyrder.

Byddem yn naïf i ddisgwyl fod pawb sydd yn cael eu penodi yma yn dysgu’r Gymraeg. Ond mynnwn eu bod yn parchu’r Gymraeg a ddim ond yn gwneud beth sydd angen ei wneud yn arwynebol tra yn ddistaw bach cau’r drws ar y Gymraeg. Y rheiny sydd fwyaf tebygol o ddweud, ‘dwi ddim yn hiliol ond mae cas gen i…’

Ystyriwch o ddifrif am funud, fod angen dadlau a mynnu bod erthyglau academaidd yn y Gymraeg, gan eu bod yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion Cymraeg, yn haeddu eu cydnabod yn gofnodion teilwng i’w cyflwyno ar gyfer yr arolwg o safonau academaidd, yr REF. Onid yw safon academaidd yn safon academaidd, waeth bynnag yr iaith?

Problem fawr rhai o’r gweinyddwyr ac academyddion sydd yn ein prifysgolion ydi eu bod wedi hen arfer edrych ar y byd trwy lygaid Prydain fawr, ac nad yw ieithoedd eraill angen eu cydnabod na’u hystyried.

Mae gobaith

Ond mae gobaith. Rwy’n argyhoeddedig mai’r unig beth sydd gan y rheiny sydd yn gwrthwynebu’r Gymraeg ymhob maes, ac yn gwneud eu gorau i’w dilorni a’i gwthio i’r ymylon, yw culni gweledigaeth a hunanoldeb gyrfaol personol. Dyna eu gwendid.

Mae gennym ni’r Cymry ar y llaw arall ddiwylliant, iaith a gwlad yn ein huno. Aros yma er mwyn eu gyrfaoedd y mae’r rheiny sy’n ein gwrthwynebu, ac er mor nerthol a grymus y maent yn credu y maent, ymddeol a gadael fydd tynged pob un, tra bydd Cymry eraill yn cymryd ein lle ni.

Ganed fy mab, Eban Dafydd, ym mis Rhagfyr 2009. Gwnaeth ei enedigaeth imi ystyried yn ddwys beth fydd sefyllfa’r Gymraeg pan fydd yn hŷn.

Os na chymrwn safiad yn awr, ofnaf mai nifer fechan iawn o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a fydd ar gael iddo fo a’i ffrindiau ymhen ugain mlynedd. A byddwn gam yn nes i ymuno gyda’r rhestr hynny o ieithoedd sydd mewn perygl o farw.

Gellid achub ysgolion cynradd Ceredigion

Cyhoeddwyd Ebrill 16, 2010 gan Angharad Clwyd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Ceredigion

Angharad Clwyd, rhiant o Landysul ac un o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n rhoi ei barn ar y cynllun i adeiladu ysgol syth-drwodd 3-19 oed yn y fro…

Roedd yna deimlad cryf o ‘deja vu’ yn y cyfarfod ‘llawn i’r ymylon’ nos Fercher diwethaf yn Llandysul. Cyfarfod arall oedd hwn i drafod y posibiliad o greu un ysgol fawr 3-19 oed yn yr ardal, gan gau Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi a phump ysgol gynradd.

Lleisiwyd yr un cwestiynau a phryderon a fynegwyd gan rieni a llywodraethwyr yn y cyfarfodydd blaenorol, ac unwaith eto fe aeth y Cyfarwyddwr Addysg ac ymgynghorwyr yr astudiaeth dichonolrwydd ati i osgoi ateb y cwestiynau.

Yn hytrach, traethasant yn hirfaith ynghylch a beth yw’r problemau sydd yn ein hwynebu a cheisio gwyro sylw’r gynulleidfa wrth sôn am yr holl gyfleusterau anhygoel a fyddai ar gael yn yr adeilad newydd.

Enghraifft o’u hamharodrwydd i ateb cwestiynau oedd pan y gofynnwyd iddynt yn syml a oeddent wedi gwneud asesiad ariannol manwl ar gyfer creu ffederasiwn rhwng yr ysgolion? Ni ddaeth ateb.

Mae’n amser i’r swyddogion addysg dderbyn bellach nad yw cymunedau ardal Llandysul yn dymuno gweld ysgol enfawr â dros fil o ddisgyblion yn cael ei chodi  mewn cae y tu allan i ffiniau’r dref, ac nad ydynt yn dymuno gweld prif ffocws ein cymunedau yn cael eu chwalu, yn cynnwys cymuned tref Llandysul ei hun.

Mae’r Cyngor wrth gwrs i’w ganmol am gynnwys y cymunedau yn rhan o’r trafodaethau, ond os nad oes bwriad gan y Cyngor i wrando ar farn y cymunedau yn dilyn y cyfarfodydd, mae’r cyfarfodydd yn ddiwerth.

Roedd y mwyafrif yn y cyfarfod, gan gynnwys fi, yn cytuno fod mawr angen adeilad newydd ar gyfer Ysgol Dyffryn Teifi. Taflwyd bygythiadau gan y panel y gall yr ysgol gau neu golli ei chweched dosbarth os na fyddai’r cynllun yma’n cael ei wireddu. Ond y gwir yw nad yw’r swyddogion addysg wedi ymchwilio yn ddigonol i opsiynau eraill posibl o ddenu grantiau ar gyfer yr ysgol.

Un syniad gwerth chweil a ddaeth o’r astudiaeth dichonolrwydd oedd cael Canolfan Gydol Oes ar y campws newydd yn ogystal â Chanolfan Iaith Uwchradd a Chynradd ar gyfer hwyrddyfodiad.

Ond pam na ellir ceisio am gyllideb ar gyfer campws yn cynnwys Ysgol Uwchradd, y canolfannau iaith,  a chanolfan gydol oes gyda’i gilydd, a pheidio â chynnwys adran gynradd? Does dim synnwyr mewn llusgo’r plant o’u hysgolion a’u cymunedau er mwyn cyllido’r anghenfil hwn.

Wrth gwrs, bydd angen edrych o’r newydd ar sefyllfa addysg gynradd yr ardal. Dywedwyd dro ar ôl tro yn y cyfarfod nad yw’r status quo yn bosibl – ond nid felly’r sefyllfa ym mhob ysgol mewn gwirionedd. Mae gan ysgol gynradd Llandysul, ysgol sydd â dros 180 o blant, a dim ond ychydig iawn o leoedd gwag, adnoddau gwych ac adeilad addas eisoes.

O ran y 4 ysgol gynradd arall, mae yna nifer o opsiynau eraill posibl, ond mae angen dechrau meddwl yn greadigol, gyda’r swyddogion yn gweithio ar y cyd gyda’r cymunedau yn hytrach na meddwl yn fiwrocrataidd a mynnu canoli pob dim.

Mae yna 6 wythnos o ymgynghori ar ganlyniad yr astudiaeth yn awr a buaswn yn annog pawb i ddanfon eu sylwadau at y Cyfarwyddwr Addysg Eifion Evans. Dros y pythefnos nesaf bydd y swyddogion addysg a’r ymgynghorwyr yn cyfarfod â’r chwech corff llywodraethol sydd yn cael eu heffeithio. Mae corff llywodraethol Ysgol Dyffryn Teifi eisoes wedi pleidleisio i gefnogi’r cynllun. Petai cyrff llywodraethol y pump ysgol gynradd yn pleidleisio yn erbyn y cynllun fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd y swyddogion yn gwrando neu a fyddant yn parhau i wthio’u cynllun ar ein cymunedau.

Bygythiad sylfaenol i Gymreictod Prifysgol Bangor

Cyhoeddwyd Ebrill 16, 2010 gan Rhys Llwyd. 2 Sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Mae Rhys Llwyd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyn-warden yn Neuadd John Morris Jones. Ef yw Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae wedi bod yn ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru ers wyth mlynedd…

Llynedd cyhoeddwyd cyfrol gan David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor, yn adrodd hanes ei brifysgol ar achlysur dathlu ohoni ei phen-blwydd yn 125 oed.

Mae’r gyfrol yn nodi’n fanwl y cyfnod trist, tywyll hwnnw dan brifathrawiaeth Charles Evans, a adnabyddir erbyn hyn fel cyfnod yr ‘ehangu’ pan welwyd y Brifysgol, ar y naill law’n ‘tyfu’ a datblygu ond ar y llaw arall yn pellhau fwy fwy oddi wrth gymunedau Cymraeg gogledd Cymru.

Y cymunedau hynny a phobol y cymunedau hynny a’u hadnoddau prin a roddodd fodolaeth iddi yn y lle cyntaf.

Cyfnod o brotestio brwd ydoedd a wrthwynebai nid yn unig yr ehangu bygythiol ond hefyd yr erydu a brofwyd yng Nghymreictod y sefydliad.

Ond o ganlyniad i’r protestio ac ymrwymiad rhai unigolion o blith staff a llywodraeth y Brifysgol, daeth tro ar fyd ac erbyn troad y mileniwm yr oedd llawer o arweinwyr y Brifysgol yn Gymry egwyddorol ac roedd Bangor ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg Gymraeg yn y sector uwch.

Gorffwys ar y rhwyfau

Ond bu gorffwys difrifol ar y rhwyfau er 2000 a esgorodd ar benderfyniadau a datblygiadau difäol. Bu llawer o’r penodiadau pwysig o fewn y Brifysgol yn rhai di-Gymraeg ac yn dilyn ymddeoliad yr Is-Ganghellor yn hwyrach eleni, David Roberts y Cofrestrydd fydd yr unig Gymro Cymraeg ei iaith a fydd yn dal swydd uchel o fewn Prifysgol Bangor.

Mae’n drist nodi felly nad oedd hi, mewn gwirionedd, yn syndod i lawer o Gymry’r Brifysgol glywed na fyddai awdurdodau’r Brifysgol yn nodi bod dwyieithrwydd yn gymhwysedd angenrheidiol i olynydd Merfyn Jones.

Dadl anghyfrifol

Y ddadl anghyfrifol, yn ôl pob tebyg yw bod angen i Fangor fedru denu y “person gorau posib” ac felly rhaid wrth dderbyn ceisiadau gan unigolion di-Gymraeg.

Mynnwn ofyn y cwestion i awdurdodau’r Brifysgol sut ar wyneb daear y medrir penodi’r person “gorau posib” i Fangor a hwnnw neu honno heb fedru’r Gymraeg a’r Saesneg? Y mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gymhwysedd hanfodol i Is-ganghellor Bangor.

Cau adrannau

Cysgod arall dros Fangor ar hyn o bryd yw’r bygythiad i ddyfodol pump o’r adrannau. Y mae lle cryf i amau mai ymarferiad PR yn unig yw pwrpas gohirio’r penderfyniad am flwyddyn gan fod y ddaeargryn eisoes wedi’i phenderfynu a’i threfnu.

Yr adrannau sydd dan fygythiad ydy’r Adran Ddaearyddiaeth, yr Adran Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, yr Adran Ieithoedd Modern, yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.

O safbwynt y Gymraeg a Chymreictod Prifysgol Bangor fe fyddai cau’r adrannau hyn yn danchwa. Tybed a oedd yr awdurdodau’n ymwybodol fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad? O neilltuo’r Adran Addysg a’r Adran Gymraeg o’r darlun, y mae’r ffigwr yn nes at 40%.

Mewn gair, byddai cau’r adrannau hyn yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae’n debyg bod yr Uwch Reolwyr yn mynnu y byddai  ail-strwythuro’n datblygu yn hytrach na lleihau dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y sefydliad, ond siarad gwag anghyfrifol yw hyn gan nad oes ganddynt strategaeth ar gyfer dysgu Cymraeg o gwbl.

Ymhellach gellir nodi fod yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth yn cynnig rhywbeth unigryw a thra phwysig i’r sector addysg uwch. Dyma’r unig adrannau o’u math yng Nghymru sy’n dysgu’r cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil Cymraeg a Chymreig unigryw, pwysig a safonol.

Prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg y sector yw Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ar lefel genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg, mater o bryder mawr yw gweld y prif ddarparwr yn prysur fynd i gyfeiriad arall.

Chwalu cymuned

Ond nid ymhlith gosgorddion coridorau academaidd y Brifysgol y mae’r pryderon yn cyniwair, ond hefyd ymhlith ei fyfyrwyr Cymraeg sy’n dra anhapus ynghylch y broses o geisio canfod cartref newydd i Neuadd John Morris Jones. Nifer o fflatiau a gynigwyd ac nid neuadd gymunedol newydd. Afraid dweud y byddai’r datblygiad hwn yn chwalu cymdeithas Gymraeg gyfan, cymdeithas a fu’n rhan anhepgorol o Brifysgol Bangor ers yr 1970au.

Daw hyn hefyd yn wyneb ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr arian a dderbynia Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) gan y Brifysgol i gyflogi Llywydd annibynnol.

Dyma sydd wedi arwain y myfyrwyr felly, gyda chefnogaeth bersonol llawer o ddarlithwyr, i deimlo fod yn rhaid gwneud rhywbeth. Y cam cyntaf yw llunio siarter o’n gofynion i’r Brifysgol ac ymysg pethau eraill bydd y siarter yn galw ar y Brifysgol i roi.

Gofynion y Siarter

  • Addewid na fydd cau adrannau yn effeithio ar ddysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
  • Addewid y bydd y Brifysgol yn penodi Is-Ganghellor sy’n gwbl ddwyieithog ynghyd ac unrhyw benodiadau uchel a strategol eraill yn y dyfodol.
  • Addewid y bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig, yn llunio strategaeth glir i ddatblygu ac nid dim ond i warchod addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y sefydliad.
  • Addewid i warchod a hyrwyddo bywyd cymunedol a chymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Bangor.
  • Addewid y bydd y Brifysgol yn llunio cynllun iaith gryfach ac yn cadw iddi.

Byddwn yn dwyn pwysau ar Dîm Rheoli’r Brifysgol ynghyd â’r Cyngor i dderbyn y siarter ac ymrwymo iddi. Ond os mai parhau i anwybyddu’r Cymry a dilyn llwybr strategol union fel petai Prifysgol Bangor yng nghanolbarth Lloegr y byddant, yna rhagwelir cyfnod eto o brotestio yn dod i ran Prifysgol Bangor.

Tybed a gadwodd fy nhad y placardiau hynny a oedd yn amlwg ym mhrotestiadau Bangor ar ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau, pan wynebodd yntau a’i gyd-Gymry yr un bygythiad i’w bodolaeth fel Cymry?

Bangor: iaith a safon byd – dim angen dewis

Cyhoeddwyd Chwefror 15, 2010 gan Dylan Jones-Evans. 1 Sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Yr economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans, yn mynegi ei siom am benderfyniad ei hen brifysgol … ac yn cynnig ateb arall.


Efo pwerau newydd tros yr iaith Gymraeg ar fin cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n eironig bod Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd raid i’w His-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg.

Mae hyn yn dilyn cynnig i gau pum adran sydd ymhlith y rhai mwya’ Cymraeg o ran cynnwys.

Tra bydd rhai sy’n drwglicio’r iaith yn dweud bod angen penodi’r person gorau ar gyfer y swydd, waeth beth fo’u gallu i siarad yr iaith, mae hynny’n anwybyddu’r ffaith bod Prifysgol Bangor yn ‘grud i’r iaith’, yn enwedig trwy ei rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfleus, mae hefyd yn anghofio bod Bangor yn rhan o un o’r ychydig siroedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobol a lle mae’n iaith bob dydd i lawer o gyrff lleol.

Mae gan Fangor gyfartaledd uchel o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith – ffigwr sy’n siŵr o gynyddu pan fydd ffioedd dysgu’n codi – ac mae tua 40% o’r holl fyfyrwyr yng Nghymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny ym Mangor.

Mae’r sefydliad felly mewn safle unigryw – safle a fyddai fel rheol yn cael ei ystyried wrth benodi prif weithredwr newydd. Byddai disgwyl i’r Brifysgol ddweud bod gallu yn y Gymraeg yn amod dymunol, os nad hanfodol, o’r swydd.

Pryder

All dyn ddim ond dyfalu bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad yma oherwydd pryder na all ddatblygu’n sefydliad o safon byd os oes ganddo ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg?

Os felly, mae’n amlwg nad ydyn nhw ddim wedi edrych ar lwyddiant diweddar Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Gaillimh (Galway) sydd yn un o ardaloedd Gwyddeleg y Gaeltacht.

Yn wahanol i Fangor, mae gan NUI Galway gyfrifoldeb statudol i gyflogi aelodau o staff sy’n gymwys i ddysgu trwy gyfrwng yr Wyddeleg, cyn belled â’u bod hefyd yn gymwys ym mhob ffordd arall.

Yn ail, mae wedi ymrwymo i ddatblygu campws dwyieithog trwy gynnig y math o amgylchfyd ffisegol a chymdeithasol a fydd yn cyflawni hynny.

Yn olaf, mae’n cynnig cyrsiau trwy gyfrwng yr Wyddeleg yng Nghyfadrannau’r Celfyddydau, y Gwyddorau a Masnach ac mae llawer o’r gwaith gweinyddol trwy’r Wyddeleg.

Iaith a llwyddiant yn bosib


A ydy’r ymrwymiad cryf yna i’r iaith Wyddeleg wedi gwanhau enw da Gailimh ar draws y byd?

I’r gwrthwyneb. Mae Gaillimh yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan amlwg sy’n arwain y byd o ran ymchwil i dechnoleg y rhyngrwyd, gwyddoniaeth fiofeddygol, newid yn yr amgylchedd a pholisi cymdeithasol.

Mae hefyd yn cynhyrchu mwy o batentau a sgîl-gwmnïau nag unrhyw brifysgol Wyddelig arall, gan ddenu mwy na 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn.

O ganlyniad, cafodd NUI Galway ei dewis yn Brifysgol Wyddelig y Flwyddyn 2009-10 yn y Sunday Times.

Felly, i brifysgol sydd mewn rhanbarth gyda threftadaeth gyfoethog o ran iaith, mae’n glir y gall rhagoriaeth ac ymrwymiad cryf i’r iaith leol fynd law yn llaw.

A finnau’n gyn athro ym Mangor, rydw i, fel sawl un arall, yn siomedig mai ei nod ar hyn o bryd – yn ôl pob golwg – yw troi yn gopi carbon o brifysgol Seisnig gyffredin.

Oni fyddai’n trawsnewid pethau pe bai’r brifysgol yn lle hynny’n creu gweledigaeth o sefydliad academaidd Cymreig yn yr 21fed ganrif sydd, fel Gaillimh, wedi ei wreiddio yn ei gymdeithas leol ond sydd ag uchelgais byd-eang, yn enwedig o gofio bod y Gymraeg ar ei chryfa’ ers degawdau?

A gallai lansio’r weledigaeth honno trwy benodi arweinydd sydd, yn ogystal â deall pwysigrwydd ymchwil a dysgu o safon byd, hefyd yn gallu ymwneud yn uniongyrchol â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, dau beth a ddylai fod yn sylfaen i brifysgol fel Bangor.