Adolygiad Dyddiau Du Dyddiau Gwyn
Owain Schiavone sy’n adolygu albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog…
Lle’r oedd eu halbwm cyntaf, Dawns y Trychfilod, yn lot fawr o hwyl, mae albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn awgrymu eu bod nhw o ddifri y tro yma.
Yn ei gyfweliad diweddar yng nghylchgrawn Y Selar, mae cyfansoddwr y Cowbois, Iwan Hughes wedi bod yn sôn am y pum mlynedd rhwng cyfansoddi caneuon y ddau albwm a’r gwahaniaeth ym mhersonoliaeth rhywun 15 oed o’i gymharu â rhywun 20 oed. Lle’r oedd Dawns y Trychfilod yn gweithio gan ei fod yn ffresh i’r sîn Gymraeg, ac yn wahanol i bob band arall, mae Dyddiau Du Dyddiau Gwyn yn cynnig rhywbeth llawnach, mwy gonest ac yn fwy na dim, yn fwy aeddfed.
Y peth arall sy’n amlwg iawn yw’r offerynnau, ac offerynwyr newydd sydd wedi eu cyflwyno i’r band gan greu sŵn llawer llawnach.
Efallai mai’r ychwanegiad mwyaf trawiadol ydy sŵn y gitâr bedal ddur Euron ‘Jôs’ sy’n cael ei gyflwyno’n effeithiol iawn ar drac cyntaf yr albwm, Y Ffenast. Beth sydd hefyd yn cael ei gyflwyno o’r cychwyn cyntaf ydy sŵn newydd y Cowbois, fydd efallai’n dod fel ychydig bach o sioc … ac o bosib siom i ffans arddull Dawns y Trychfilod.
Yn bersonol, mae’n well gen i’r sŵn llawnach, mwy taclus yma ac mae ‘na naws fach neis i’r albwm. Dwi’n meddwl bod cyfweliadau diweddar efo’r grŵp, a’r holl sôn am ganeuon ‘lleddf’ am ‘dor cariad’ ychydig yn gamarweiniol achos mae o’n albwm tipyn mwy bywiog nag y mae’r band wedi’i awgrymu.
Mae’r trac teitl ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ ac yna ‘O! Nansi’ yn rhoi ffics o’r ‘Hill Billy roc/pync’ poblogaidd a gafwyd ar Dawns y Trychfilod. Mae ‘Celwydd Golau ydy Cariad’ ac ‘Os ti’n dod nôl’ yn bell iawn o fod yn faledi diflas hefyd, ac i’r rhai oedd yn mwynhau stompiau gwallgof y Cowbois nôl tua 2007, mae ‘na hen ddigon o sgôp am setiau byw bywiog.
Ond efallai mai’r caneuon llai ‘bywiog’ ydy’r rhai mwyaf trawiadol a chofiadwy. Be dwi ddim yn siŵr amdano ydy’r rheswm am hyn – ydy’r rhain ddim ond yn sefyll allan gan eu bod nhw’n annisgwyl gan y grŵp penodol yma ynteu a’i nhw ydy’r caneuon gorau? Wedi tri neu bedwar gwrandawiad, dwi’n tueddu i ffafrio’r ail reswm
Mae’r albwm yn cynnwys dwy gân wedi eu sgwennu gan eraill. Y gyntaf o’r rhain ydy fersiwn o ‘Gan fy Mod i’ gan Nia Morgan a dyma chi fesur o sut mae’r grŵp wedi esblygu eu harddull. Mae’r tair munud a hanner cyntaf yn adeiladwaith torcalonnus sy’n arwain at uchafbwynt epig y byddai Dilwyn Llwyd a Yucatan yn falch ohono!
Yr ail addasiad ydy hwnnw o’r gân werin draddodiadol ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’ ac mae hon yn uchafbwynt arall o’r albwm. Eto, mae Iwan wedi sôn am ddylanwad grwpiau fel Bob Delyn a’r Ebillion arno dros gyfnod sgwennu’r albwm (mae o’r farn y dylai cerddoriaeth Bob Delyn fod ar y cwricwlwm cenedlaethol), ac mae’r dylanwad hwnnw’n amlwg iawn yma. Mae’r gân yn wyth munud a hanner mewn hyd, sy’n swnio braidd fel ‘indulgence’ gan y grŵp, ond mae’n gweithio i’r dim fel gweddill yr albwm.











Sylwadau Diweddar