Cynyddu maint testun

Golwg360

Pwy fydd Gwaredwr y Gleision?

Cyhoeddwyd Ebrill 19, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Aled Price, cyfarwyddwr rygbi, Gleision Caerdydd, Rygbi



Yn dilyn y cyhoeddiad bod Gleision Caerdydd yn bwriadu penodi Cyfarwyddwr Rygbi, Aled Price sy’n trafod rhai o’r enwau posib ar gyfer y swydd…

Er gwaethaf perfformiadau diweddar y Gleision, a nifer y chwaraewyr sy’n gadael, dylai’r swydd newydd ddenu digon o ddiddordeb. Mae’r brifddinas yn un enwog am ei rygbi a bydd cyfle i weithio gyda sêr tîm Cymru fel Warburton, Roberts a Halfpenny.

Felly pwy sydd ar dop y rhestr? Dewch i ni gael gweld…

Phil Davies. Mae’n debyg taw cyn hyfforddwr y Scarlets yw’r ffefryn am y swydd. Bydd cefnogwyr yn cofio canlyniadau cymysg gan y Scarlets pan oedd y dyn o Flaendulais wrth y llyw. Rownd gynderfynol y Cwpan Heineken yn 2007 oedd uchafbwynt teyrnasiad  dwy  flynedd Davies.

Mae digon o brofiad gan Davies. Arweiniodd Leeds o’r pumed lefel o rygbi yn Lloegr i’r Cwpan Heineken ac enillodd y Cwpan Powergen mewn llai na deg mlynedd gyda’r clwb. Mae’n gweithio fel hyfforddwr y blaenwyr ar y foment efo Caerwrangon felly efallai bydd hynny’n broblem. Dangosodd ei allu yn ei dymor cyntaf gyda’r Scarlets ac efallai bod ei ddiswyddiad yn un eithaf hallt.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 7/10

Mike Ruddock. Mae cyn-hyfforddwr Cymru wedi dweud byddai diddordeb ganddo. Hyfforddi tîm Iwerddon dan-20 yw swydd bresennol Ruddock, ac mae ffynonellau’n sôn am Ruddock fel hyfforddwr posib i dîm cenedlaethol Iwerddon ar ôl i gytundeb Declan Kidney ddod i ben blwyddyn nesaf. Felly byddai symud i’r brifddinas yn diffodd unrhyw bosibilrwydd o hynny.  Mae’n debyg bod Ruddock yn awyddus oherwydd y byddai’n gyfle i ddechrau o’r dechrau, gyda nifer y chwaraewyr sy’n gadael.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 5/10

Kingsley Jones. Mae cyn-hyfforddwr Sale wedi derbyn cytundeb pedair blynedd gan dîm cenedlaethol Rwsia. Serch hynny, dyw’r Cymro heb arwyddo’r cytundeb, felly os yw’r Gleision eisiau Jones mae’n debyg ei fod ar gael, am nawr. Mae gan Jones brofiad o weithio mewn tîm ac fe gafodd gyfnod llwyddiannus yn Sale gyda Philippe Saint-Andre. Fel Ruddock, mae Jones yn hoffi’r syniad o ddechrau o’r dechrau ac  adeiladu tîm ei hun.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 6/10

Sean Holley. Mae’n debyg bod Munster, o bawb, yn awyddus i siarad â Holley wrth i Tony McGahan symud nôl i Awstralia ar ddiwedd y tymor. Mae Holley’n deall y gêm ranbarthol yn well na neb wrth iddo weithio i’r Gweilch ers sefydlu’r rhanbarth,  gan eu harwain tan ychydig fisoedd yn ôl. Nid oedd Holley yn hynod o boblogaidd gyda chefnogwyr y Gweilch. Serch hynny  enillodd y gynghrair Magners wrth guro Leinster yn y rownd derfynol yn Nulyn, ac fe ddylai’r Gweilch fod wedi curo Biarritz yn wyth olaf Cwpan Heineken yn 2010.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 3/10

Lyn Jones. Hyfforddwr mwyaf llwyddiannus hanes y gêm ranbarthol wrth iddo arwain y Gweilch i ddwy goron Gynghrair Magners/Celtaidd a churo Caerlŷr i gipio cwpan EDF yn 2007. Ar ôl cyfnod yn Abu Dhabi mae Lyn nawr yn hyfforddi’r Cymry yn Llundain, gyda chyfle i ennill dyrchafiad i Uwch gynghrair Aviva. Er ei holl lwyddiant mae wedi bod yn amlwg dros yr wythnosau diwethaf nad oes llawer o gariad rhwng Lyn a Peter Thomas. Dewis cyntaf y cefnogwyr ‘wy wedi siarad â nhw ond os bydd Peter Thomas dal yna, mae’r tebygolrwydd o gynnig y swydd i Lyn yn isel.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 2/10

Mike Rayer. Mae cyn gefnwr Caerdydd yn hyfforddi Bedford ac wedi gwneud gwaith hynod o dda. Fel Lyn, mae gan ei dîm gyfle gwych i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn Lloegr. Pan adawodd Dai Young flwyddyn yn ôl roedd ei gyn-gyd chwaraewr a phennaeth presennol Cross Keys, Mark Ring, yn galw am Rayer i gael y swydd bryd hynny. Fel dyn lleol, bydd Rayer yn adnabod yr ardal a beth mae’n golygu i wharae dros  Gaerdydd.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 4/10

Shaun Edwards Byddai’n syndod i ddweud y lleiaf. Ers iddo adael ei swydd efo’r Wasps mae Edwards wedi dweud ei fod yn hoff o weithio bob wythnos, rhywbeth nad yw’n gwneud ar hyn o bryd. Bydd gwneud dwy swydd ddim yn broblem o ran amser, ond fe allai fod yn broblem o ystyried y ffaith y byddai’n gweithio gyda chwaraewyr y Gleision trwy’r amser, a phan ddaw’r amser i fynd nôl î’r tîm cenedlaethol efallai bydd tensiwn. À la Graham Henry â’r Llewod.

Tebygolrwydd o gael y swydd: 1/10

Mae yna enwau eraill hefyd. Graham Henry, Nick Mallett, John Plumtree a Shane Howarth i enwi rhai. Mae Peter Thomas wedi dweud bod rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus adnabod y gêm ranbarthol yn dda felly mae’n annhebygol y bydd rhywun o dramor yn cael y swydd.

Y peth pwysig yw, bod y Gleision yn cymryd eu hamser a gwneud y penodiad cywir. Mae’r Gweilch a’r Scarlets yn bygwth symud ymhell ar y blaen i dîm y brifddinas. Efallai, gyda’r dyn iawn bydd modd i’r Gleision gau’r bwlch – gorau  po gynted.

Profiad pleserus

Cyhoeddwyd Mawrth 19, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Aled Price, Camp Lawn, Cymru v Ffrainc


Ian Evans - wedi serennu'n dawel
Aled Price sy’n crynhoi ei deimladau am berfformiad Cymru yn erbyn y Ffrancwyr.

Roedd yn bleser bod yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn – roedd y strydoedd yn fyw efo bwrlwm. Mae’n brofiad i fod yn y brif ddinas ar unrhyw ddiwrnod pan fydd Cymru’n chwarae, ond roedd yr awyrgylch yn ddigon i’ch cyffroi’n lân.

Pan fydd Cymru’n ennill, yn enwedig ennill y Gamp Lawn, does unman gwell i fod ‘na Chaerdydd. Yn enwedig pan ddaw’r nos – galla’i dystio i hynny!

Efallai nawr y bydd modd anghofio’r gêm yn Auckland ac edrych tua’r dyfodol. Mae’r presennol yn hynod o gyffrous, ond mae potensial y tîm hyd yn oed yn fwy cyffrous byth.

Anodd gwylio

Cyn y gêm ro’n i’n amau na fyddai’n brofiad rhy gyfforddus i wylio’r gêm, a dyna’n union sut y teimlais. Sylweddolais fy mod i’n edrych ar y cloc trwy’r amser, ac roedd yn teimlo fel na fyddai’r 80 munud byth yn dod i ben.

Roedd hi’n gêm glos ac yn agos trwy gydol. Roedd hi’n gêm a gafodd ei dominyddu gan amddiffyn y ddau dîm. Blaenasgellwyr ochr dywyll y ddau dîm oedd y chwaraewyr amlycaf – roedd Thierry Dussatoir yn wych, fe yw ‘chwaraewr y byd’ yr IRB, ond roedd rhif 6 Cymru, Dan Lydiate, hyd yn oed yn well.

Lydiate yn serennu

Cafodd blaenasgellwr y Dreigiau ei gêm gorau yn y crys coch. Roedd Lydiate ym mhobman trwy gydol yr ornest. Tacl ar ôl tacl. Bron pob tro’r oedd chwaraewr Ffrainc wedi cael ei daclo, roedd Lydiate o amgylch ei draed. Jerome Kaino yw, efallai, rhif 6 gorau’r byd ond dyw Lydiate dim rhy bell tu ôl iddo.

Ynghyd â Dussatoir, does gen i ddim amheuaeth taw Lydiate yw’r blaen asgellwr ochr dywyll gorau yn Ewrop. Beth sydd hyd yn oed yn bwysicach i Gymru yw’r rheng ôl fel uned. Mae Lydiate yn chwarae cystal gan ei fod yng nghanol un o’r rhengoedd ôl gorau mae Cymru wedi gweld ers sbel. Rhaid iddo gael ei enwi’n chwaraewr y bencampwriaeth.

Dim ond un gêm lawn mae Sam Warburton wedi’i chwarae yn ystod y bencampwriaeth, ond prin fod Cymru wedi gweld ei eisiau. Pan mae’n holliach, mae Warburton yn un o oreuon y byd, ac mae’n hwb i’r tîm. Serch hynny rydyn ni wedi gweld bod chwaraewyr eraill yn gallu slotio mewn i’r rheng ôl ac mae’r uned dal yn hynod o effeithiol.

Mae Ryan Jones nôl i’w orau a chreodd argraff ar ôl cymryd lle Warburton ddydd Sadwrn. Rydym wedi gweld Tipuric a Shingler hefyd yn chwarae’n wych yn y rheng ôl.

Strength in depth’ yw’r dywediad Saesneg, ac mae nerth a dyfnder tîm Cymru yn hynod erbyn hyn. Esiampl berffaith o hyn yw Ian Evans.

Mae Ian Evans wedi cael 6 Gwlad gofiadwy ar ôl methu â chwarae yn y bencampwriaeth ers 2008. Mae wedi dechrau pob gêm yn dilyn anafiadau i bawb o’i flaen, ac mae wedi cymryd ei gyfle.

Serch hyn, does dim llawer o bobol yn siarad am glo’r Gweilch, ond petawn i’n dewis carfan y Llewod yfory byddai enw Evans ar fy rhestr heb os. Mae’n gweithio’n ddiflino o amgylch y cae, yn taclo, ennill pêl yn y lein, rheoli’r lein a gwneud niwsans llwyr o’i hun.

Cafodd ei bartner yn yr ail reng, Alun-Wyn Jones, gêm hynod o effeithiol hefyd. Roedd y lein yn gweithio’n dda wrth ddefnyddio opsiynau gwahanol a dwyn y bêl yn ardal y dacl gan Alun-Wyn oedd catalydd cais Alex Cuthbert.

Tactegau ar y nod

Cefais fy mhlesio o weld tactegau Cymru. Nid yw cicio di-ri yn hynod o gyffrous i’w wylio ond dyma oedd y tactegau cywir ar gyfer y gêm yma. Roedd rhaid cyflawni’r tactegau yn iawn cofiwch – dy’ch chi ddim eisiau annog tri ôl Ffrainc i redeg nôl atoch, a ro’n i’n falch o weld Priestland yn llwyddo i wneud hyn.

Yn fy marn i, cafodd Priestland ei gêm orau o’r bencampwriaeth ac roedd Ffrainc, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, yn ei gweld hi’n anodd chwarae rygbi yn hanner Cymru. Ar brydiau dros y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi bod yn eithaf diniwed yn dactegol ond ro’n i’n meddwl bod Gatland wedi’i chael hi berffaith bnawn Sadwrn.

Pencampwriaeth hynod o lwyddiannus felly ac mae potensial i’r garfan yma fod yn un arbennig iawn. Rhaid nawr targedu buddugoliaethau cyson yn erbyn timau hemisffer y de, yng Nghaerdydd a hefyd bant o gartre.

Mae taith yn yr haf i Awstralia i chwarae tair gêm, a rhaid targedu ennill o leiaf un o’r rhain. Efallai am y tro cyntaf yn fy mywyd, galla’i edrych ymlaen at chwarae tîm o hemisffer y de bant o gartref gan deimlo’n eithaf hyderus. Rwy’n methu aros!

Cymru’n dysgu ennill

Cyhoeddwyd Chwefror 27, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Aled Price, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad


Leigh Halfenny
Aled Price sy’n cymryd anadl ar ôl gêm rygbi fawr y penwythnos ac yn dadansoddi’r hyn ry’n ni wedi’i ddysgu.

Ydych chi wedi dal eich anadl? Rydw i wedi, bron a bod!

Fe welsom gêm hynod o gyffrous yn Twickenham bnawn Sadwrn – gêm hynod o frawychus.

Ar ôl yr 80 munud oedd cyfle i gymryd anadl ddofn ac i edrych nôl ar beth yn union a digwyddodd. Y gair mwyaf perthnasol yn fy marn i yw, ‘dianc’.

Cyn y chwib gyntaf, roedd rhan fwyaf y boblogaeth yn ystyried y gêm fel buddugoliaeth hawdd. Rhwystr bach ar y ffordd i Goron Driphlyg a Champ Lawn. Doeddwn i ddim mor hyderus o hynny, ond do’n i ddim yn meddwl y byddai mor agos, chwaith!

Diffygion

Daeth Lloegr i whare, a whare’n galed. Ar brydiau ro’n i’n ofni bod chwaraewyr Cymru wedi credu’r hyn roedden nhw wedi darllen yn y wasg. Roeddwn nhw’n edrych yn ddi-batrwm, ac fel petai Lloegr wedi rhoi braw iddyn nhw. Roedd y chwarae’n araf, roedd amddiffyn Lloegr yn ymdopi’n hawdd ac edrychodd Cymru, am unwaith, yn brin o syniadau.

Dechreuodd popeth mor addawol. Byddai George North wedi sgorio o fewn dwy funud oni bai am dacl wych David Strettle. Cymru reolodd y chwarter agoriadol.

Serch hynny, roedd ugain munud wedi pasio a doedd gan Gymru’r un pwynt i ddangos am eu goruchafiaeth, ac fe newidiodd y patrwm ar ôl 20 munud.

Roedd chwarae Cymru’n edrych yn llafurus ar brydiau a’r prif reswm am hynny, yn fy marn i, oedd pêl araf Mike Phillips. Nid hon oedd gêm orau mewnwr Bayonne yn y crys coch ac roedd chwarae ymosodol Cymru’n dioddef o’r herwydd. Ar sawl achlysur cymerodd y bêl o’r ryc, oedi, a chael ei daclo. Oherwydd hyn, roedd momentwm nifer o ymosodiadau Cymru’n stopio’n syth.

Roedd gêm Rhys Priestland ddigon tebyg i gêm ei bartner yn yr haneri. Edrychodd fel petai’r achlysur wedi’i drechu ar brydiau. Nid oedd ei gicio i safon a methodd wrth gicio at yr ystlys o giciau cosb ar sawl achlysur, trosedd anfaddeuol yn fy marn i. Roedd ei reolaeth o’r gêm yn sigledig.

Edrychodd Cymru ar goll yn dactegol ar brydiau, methu ymateb i’r hyn roedd Lloegr yn gwneud yn amddiffynnol. Fel maswr, roedd Priestland yng nghanol y diffyg hwn. Serch hynny, fel y dywedodd Gatland, dylai Priestland dysgu llawer o’r gêm ac mae hynny’n dda i Gymru.

Perfformiadau i argyhoeddi

Wrth ddarllen hyd at hyn, mae’n edrych fel petai Cymru wedi colli!

Yn fwy cadarnhaol, cafodd llawer o chwaraewyr gêm dda a neb yn fwy na seren swyddogol y gêm, Sam Warburton.

Mae ei berfformiad wedi cadarnhau ei statws fel un o flaenasgellwyr gorau’r byd. Roedd ei waith yn ardal y dacl yn syfrdanol a’i dacl ef rwystrodd Tuialgi rhag sgorio cais yn yr hanner cyntaf. Mae’r haeddu’r clod heb os nac oni bai.

Mae gêm Leigh Halfpenny fel cefnwr yn gwella trwy’r amser. Mae pawb yn ymwybodol o’i ddawn wrth ymosod, ond mae chwarae amddiffynnol Leigh yn wych hefyd.

Mae yn y lle cywir dro ar ôl tro, yn delio efo ciciau bach trwy’r amddiffyn ac yn taclo’n gadarn. Neidiodd i mewn heb ystyried ei gorff ar eiliad olaf y gêm i helpu rhwystro Strettle rhag sgorio. Mae’n tyfu yng nghrys y cefnwr gyda phob gêm.

Gêm ryfedd yw rygbi ar brydiau. Roedd yn ymddangos fel petai Scott Williams wedi gwastraffu cyfle gorau’r gêm. Methodd â phasio’r bêl i George North a fyddai wedi arwain at gais sicr i’r asgellwr.

Pwy fyddai’n meddwl felly, taw Williams fyddai’n sgorio’r gais i ennill y gêm? Gwaith gwych i rwygo’r bêl o afael dyn sy’n 6 troedfedd 7 modfedd, cyn rhoi cic berffaith i sgorio dan y pyst. Achubiaeth? Ie, wir.

Gêm i brofi aeddfedrwydd

A ddylai Cymru fod wedi colli’r gêm? Efallai.

Y peth a’m plesiodd i fwyaf oedd y ffaith na roddodd y tîm ifanc yma’r ffidl yn y to. Ar un adeg roedd Cymru yn colli o 12 pwynt i 6, lawr i 14 dyn, a hynny yn Twickenam. Yn y gorffennol, byddai Cymru wedi colli’r gêm yma. Colli’n gyfforddus hefyd, ond mae Gatland wedi sefydlu diwylliant o hyder. Diwylliant sydd nawr yn troi’n ddiwylliant o ennill.

Yng nghwpan y byd, a chyn hynny, roedd Cymru’n colli’r gemau agos. Nawr, maent wedi dysgu sut i ennill y gemau agos. Unwaith ry’ chi’n ennill, mae’n dechrau dod yn anodd colli.

Mae pawb yn sôn am ba mor ifanc a dibrofiad yw Lloegr, a pha mor dda chwaraeon nhw. Mae fel petai pawb wedi anghofio pa mor ifanc yw tîm Cymru. Maent hyd yn oed yn iau na Lloegr ond eisoes maen nhw wedi ennill y Goron Driphlyg.

Nawr mae cyfle gwych i ennill y Gamp Lawn. Mae tîm Cymru flynyddoedd ar y blaen i dîm Lloegr.

Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy cyffrous na hynny yw mai dim ond gwella gall tîm ieuanc Gatland, ac rydw i’n edrych ymlaen at y daith.

Pwy fydd ar ôl?

Cyhoeddwyd Chwefror 21, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 2 Sylw.

Tagiau: Aled Price, Gethin Jenkins


Gethin Jenkins yn lliwiau'r Gleision
Gyda’r newyddion heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr rygbi Cymreig diweddaraf i adael am Ffrainc, Aled Price sy’n gofyn faint o argyfwng yw’r sefyllfa i rygbi Cymru?

Ydy’r dyfodol yn edrych yn dda i ranbarthau Cymru? Ar y foment, ddim yn siŵr.

Mae’r gêm yng Nghymru yn wrthgyferbyniad llwyr ar hyn o bryd. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae Cymru’n mwynhau cyfnod o lwyddiant – rownd gynderfynol Cwpan y Byd a dwy allan o ddwy yn y Chwe Gwlad.

Ac mae’r dyfodol hyd yn oed fwy cyffrous na’r presennol. Gallwch deimlo’r cynnwrf ymhlith y cyhoedd, mae’r feel-good factor yn ôl.

Rhanbarthau mewn argyfwng?

Serch hynny, wrth i chi ddisgyn lefel i’r rhanbarthau, lle mae arwyr y tîm cenedlaethol yn ennill y mwyafrif o’u cyflog, nid yw pethau mor llewyrchus.

Mae’r rhanbarthau’n rhedeg allan o arian gan nad yw’r model presennol yn gweithio. Mae cipolwg ar faint y torfeydd yn dweud y cyfan, a dyw pethau dim mynd i wella os nad ydy prif chwaraewyr tîm Cymru yn chwarae i’w ranbarthau.

Yn anffodus dyna’n union sy’n digwydd – mae’r ecsodus o Gymry ar ei eithaf. Rydym wedi darganfod heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr diweddaraf i’w ddenu gan yr arian mawr yn Ffrainc – Toulon yw ei gyrchfan.

Mae sôn hefyd, bod Jonathan Davies wedi bod mewn trafodaeth efo Northampton. Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Gatland bod Huw Bennett ar ei ffordd allan o’r Gweilch. Mae Aled Brew a Luke Charteris wedi cadarnhau eu bod yn symud i Ffrainc hefyd.

Gormod o arian dros y môr

Y ffaith syml yw, dyw’r arian sydd angen i gadw’r chwaraewyr gorau jyst ddim yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ar y foment, rygbi yw ‘hobi’ y bobol gyfoethocaf yn Ffrainc. Mae gan y timau Ffrengig ‘cap cyflog’ o €8.7m am y tymor nesaf – bydd cap y rhanbarthau Cymreig yn llai na hanner hynny, sef £3.5m. Mae mathemateg syml yn dweud y stori’n llawn. Dywedodd Peter Thomas, cadeirydd y Gleision, bod rhanbarthau Cymru’n mynd i ymatal rhag talu eu chwaraewyr Cenedlaethol pan eu bod yn chwarae i Gymru.

Mae dadleuon o blaid y ddwy ochr wrth gwrs.

Allwch chi ddim beio’r bobol sy’n talu cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyflogau am fod yn amharod i dalu’r symiau mwyaf i chwaraewyr sydd dim hyd yn oed yno am tua hanner y flwyddyn.

Ar y llaw arall, dim ond un yrfa sydd gan y chwaraewyr, ac mae’n rhaid iddynt wneud y gorau o ennill arian tra bod cyfle. Os oes digonedd o arian ar gael iddynt tu allan i Gymru, yna allwch chi ddim eu beio nhw am fanteisio ar hynny.

Safon well?

Yn fy marn i, nid yw’r llif o chwaraewyr sy’n gadael Cymru yn beth mor ddrwg â hynny i’r tîm cenedlaethol. Does dim amheuaeth gen i bod y Top 14 yn cynnig safon well o wythnos i wythnos na’r RaboDirect Pro12. Os yw’r chwaraewyr yn chwarae’n gyson yn Ffrainc, byddant yn gwella ac yn dod chwaraewyr cyflawn. Dyna’r ffactor bwysig i mi, chwarae’n gyson.

Mae Gethin ar ei ffordd i Toulon ond mae Toulon newydd gyhoeddi eu bod wedi arwyddo Andrew Sheridan o Sale hefyd. Felly bydd rhaid i Gethin gystadlu efo Sheridan am le ar y tîm. Mae’n bosib iawn felly y bydd un o chwaraewyr pwysicaf Cymru’n eistedd ar y fainc y rhan fwyaf o’r amser! I’r Gleision, byddai Gethin yn dechrau bron pob gêm. Heb os, mae hyn yn broblem i’r tîm cenedlaethol.

Wrth gwrs mae problemau hefyd yn codi ynglŷn â sicrhau caniatâd i ryddhau chwaraewyr yn gynnar i ymarfer gyda Chymru. Y penwythnos diwethaf, roedd rhaid i Mike Phillips a James Hook (i enwi dau)  ddychwelyd i’w clybiau i chwarae mewn gêm gynghrair.

Mae’r rhaid bod nerfau Gatland yn rhacs wrth iddo ofni clywed am anafiadau i chwaraewyr fel hyn! Yn anffodus, bydd hon yn fwy o gur pen i’r hyfforddwr wrth i fwy a fwy chwaraewyr ennill eu cyflog tu allan i Gymru.

Nid diwedd y byd

Cofiwch chi, dyw’r newyddion diweddar ddim yn ddrwg i gyd.

Mae Adam Jones, chwaraewr pwysicaf Cymru yn fy nhyb i, wedi cytuno i aros efo’r Gweilch am y tro. Mae cyn gapten Cymru, Matthew Rees wedi dweud yn gyhoeddus bod rhaid atal y llif o chwaraewyr sy’n gadael. Felly dyw hi ddim fel petai bod holl dîm Cymru’n chwarae dramor.

Un peth da i’r rhanbarthau a Chymru yn hyn oll yw bod cyfleoedd di-ri yn codi i chwaraewyr ifanc.

Mae’r tîm cenedlaethol cyfredol wedi’i adeiladu ar seiliau chwaraewyr ifanc ac rydym wedi gweld yr effaith positif mae hyn gallu cael. Mae’r Scarlets wedi datblygu carfan ifanc sy’n hynod o gystadleuol ac mae’r Gweilch yn ceisio gwneud yr un peth.

All hyn ddim ond bod yn fanteisiol i’r tîm cenedlaethol. Efallai na welwn ni ranbarth yn ennill Cwpan Ewrop am dymhorau i ddod, ond efallai y cawn ni weld Cymru’n ennill Cwpan y Byd mewn 4 neu 8 mlynedd. Wy’n gwybod beth fyddai’n well gen i…

Da ond ddim yn berffaith

Cyhoeddwyd Chwefror 13, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: Aled Price, Ken Owens


Gwellodd y lein ar ôl i Ken Owens ddod i'r cae.
Aled Price sy’n dadansoddi buddugoliaeth gyfforddus Cymru’n erbyn Yr Alban ddoe.

Dwy gêm a dwy fuddugoliaeth.

Fe fyddai pawb yng Nghymru wedi bod yn ddigon hapus gyda’r record honno cyn i’r bencampwriaeth ddechrau.

Dyna’n union sydd wedi digwydd ac mae Cymru nawr ond un fuddugoliaeth o sicrhau’r Goron Driphlyg. Ar ben hynny, mae gris arall ar yr ysgol aeddfedrwydd wedi ei ddringo gan dîm ifanc Warren Gatland.

Yn debyg i’r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, nid oedd hwn yn berfformiad hollol berffaith, ond rhaid rhoi clod i dîm Yr Alban am hynny. Wnaeth Yr Alban ddim caniatáu i Gymru chwarae llawer o rygbi, ar wahân i’r cyfnod pan oeddynt lawr i 14 a 13 dyn. Roedd rhaid i Gymru amddiffyn, ac amddiffyn tipyn yn rhagor trwy gydol yr ornest. 178 tacl wedi eu cwblhau gan y Cymry o’i gymharu â 99 gan yr Albanwyr.

Roedd Cymru’n edrych yn hollol gyfforddus wrth amddiffyn, mewn gwirionedd, tacl ar ôl tacl, gan daro’r Albanwyr yn ôl. Roedd yr amddiffyn yn atgoffa dyn o’r amddiffyn y gwelsom ni wrth ennill y Gamp Lawn yn 2008 a hefyd yng Nghwpan y Byd yn yr hydref. Un dyn oedd yn enghraifft berffaith o’r hyn dwi’n sôn amdano, oedd Seren y Gêm, Dan Lydiate.

Lydiate yn Dychwelyd

Roedd ‘line speed’ Lydiate, fel maent yn dweud yn y Saesneg, yn rhagorol. Dro ar ôl tro fe glywsoch chwaraewyr yr Alban yn galw am gam sefyll, cymaint oedd ei gyflymder. O achos hyn, dro ar ôl tro roedd diffyg momentwm gan yr ymosodwyr ac roeddent yn sownd ryw bum medr tu ôl i’r llinell fantais. Fo oedd y prif reswm am gysondeb a chaledrwydd amddiffyn Cymru.

Mae rheng ôl ifanc Cymru wedi creu enw i’w hunain am eu techneg yn y dacl. Maent yn taclo’n isel sy’n negyddu momentwm a phŵer yr ymosodwyr. Aeth Heaslip ac O’Brien ar gwpl o garlamau’r wythnos diwethaf pan oedd Cymru heb eu prif daclwr. Roedd absenoldeb a phresenoldeb Lydiate yn amlwg yn y ddwy gêm agoriadol felly.

Cuthbert yn creu Argraff

Ar ôl ei gap cyntaf yn y bencampwriaeth, ro’n i’n amau os oedd Alex Cuthbert yn barod am y llwyfan rhyngwladol. Ar ôl ddoe dwi’n ymddiheuro am fod ag unrhyw amheuon – cafodd asgellwr y Gleision gêm wych. Roedd yr holl sôn cyn y gêm am George North ond Cuthbert oedd yr asgellwr gorau ar y cae. Sgoriodd ei gais cyntaf dros ei wlad wrth iddo bweru, à la North, trwy Greig Laidlaw druan.

Cafodd gwpl o rediadau da yn yr hanner cyntaf i gosbi cicio llac yr Albanwyr, ac yna helpodd i greu cais cyntaf Halfpenny efo rhediad gosgeiddig. Roedd o amgylch y cae trwy’r amser hefyd yn chwilio am waith. Dyfodol disglair rwy’n tybio, i’r gŵr a chafodd ei eni yng Nghaerloyw. Diolch Lloegr!

Chwaraewr arall a greodd argraff arna’i oedd bachwr y Scarlets, Ken Owens. Fe welsom yn Nulyn pa mor sigledig mae lein Cymru’n gallu bod. Nid oedd unrhyw welliant yn erbyn yr Alban tra’r oedd Huw Bennett yn taflu. Serch hynny, aeth Bennett bant o’r cae am driniaeth gwaed a gwellodd y lein yn syth.

Nid oedd pob un yn dda, ond roedd gwelliant amlwg i’w weld. Daeth Owens nôl i’r cae ar gyfer yr ail hanner ac fe barhaodd ei chwarae cadarn. Nid yn unig ei daflu, ond hefyd ei chwarae o amgylch y cae gan daclo a chario yn dda. Mae wedi gwneud digon, yn fy marn i, i ddechrau yn erbyn yr hen elyn. Cawn weld…

Chwaraewr Arall yn Dychwelyd

Fel Dan Lydiate, dod yn ôl o anaf oedd Gethin Jenkins. Ar wahân i Sam Warburton, Gethin yn fy nhyb i, yw’r blaenwr gorau sydd gennym yn ardal y dacl, ac roedd hyn yn amlwg o’r dechrau ddoe. Enillodd o leiaf dair pêl yn ardal y dacl ac mae ei gyfraniad o amgylch y cae bob amser yn creu argraff. Sgrymiodd yn dda a dangosodd ei werth i’r tîm cenedlaethol unwaith yn rhagor.

Cymry Ifanc yn Aeddfedu

Rhaid cofio nad oedd Sam Warburton ar gael i Gymru, ar ôl iddo dynnu allan yn hwyr wedi methu prawf ffitrwydd. Trueni bod Justin Tipuric hefyd wedi’i anafu ar ôl gêm wych wythnos diwethaf, ond dirprwyodd Aaron Shingler yn rhagorol ar ei gap cyntaf. Fel y dywedodd Gatland, mae’n adlewyrchu pa mor gyflawn ac aeddfed yw ei dîm, wrth i golli eu capten cyn y gêm gael dim effaith ar eu chwarae.

Felly perfformiad clinigol a didostur gan Gymru. Mewn cyfnod o 15 munud collodd Yr Albanwyr eu pennau a dau yn mynd i’r gell cosb. Sgoriwyd 21 o bwyntiau yn y cyfnod hwnnw gan Gymru i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae taith i Dwickenham yn wynebu’r Cymry nawr. Ar ôl buddugoliaeth hynod o lafurus gan Loegr yn erbyn yr Eidal, does dim rheswm pam na all Cymru groesi dros hanner ffordd at y Gamp Lawn mewn cwpl o wythnosau.

Gallwch ddarllen sgoriau’r chwaraewyr allan o 10 fan hyn.