Cynyddu maint testun

Golwg360

Hystings Plaid Cymru yng Nghaerdydd


Y tri ymgeisydd
Anna Glyn fu’n mynychu hystings Plaid Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth gan roi ei barn hi am y tri ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid…

Hogan ysgol, boring a thrahaus. Dyna ddisgrifiad un person fues i’n siarad efo fo o’r tri ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru ar ôl eu gweld nhw’n perfformio yn ystod un o’r hystings.

Chydig yn gignoeth efallai, ond does dim angen athrylith i ddyfalu p’run oedd p’run. Tan neithiwr, dim ond aelodau y blaid oedd wedi cael mynychu’r hystings led led Cymru. Ond gyda’r cyfle yn codi i’r wasg fynd i’r un yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd  doedd dim angen gofyn ddwywaith.

Mi oedden ni i gyd yno yn barod gyda’n camerâu a’n llyfrau nodiadau i gofnodi pob manylyn. Oce, mi oedd rhai gwleidyddion yno, timau y tri ymgeisydd a phobl bwysig y sefydliadau. Ond mi roedd Joe Bloggs yn llenwi’r seddi hefyd, y lle dan ei sang ac mi o’n i yn synnu faint o wynebau ifanc oedd yno.

Roedd na ryw awyrgylch ddisgwylgar cyn i’r mân siarad dawelu. Dechrau fel mae nhw yn gwneud yn America gyda’r araith agoriadol a phodiwm yr un i’r ymgeiswyr. Dafydd Êl yn cyfeirio at y Cynulliad ac yn dweud rhyw jôc neu ddwy.

Elin Jones wedyn yn sôn am annibyniaeth yn yr ail frawddeg. Defnyddio dipyn o Saesneg, er mwyn trio pwysleisio bod ei hapêl hi yn ymestyn ymhellach na joscins Ceredigion efallai?

A Leanne Wood yn ei gwneud hi yn glir mai sosialwraig yw hi trwy gyfeirio at y bancwyr drwg yn y Ddinas. Ac ymlaen at y cwestiynau.

Cwestiynau

Roedd y cwestiynau wedi eu trefnu ymlaen llaw er mawr siom i un gŵr ar y diwedd oedd yn daer eisiau gofyn ei gwestiwn o. Er mor slic oedd y paratoadau tu ôl i’r llenni allwch chi ddim paratoi ar gyfer popeth!

Addysg, annibyniaeth, blaenoriaethau oedd y rhai disgwyliadwy. Ond fe gafwyd perl o gwestiwn gan un fenyw yn y gynulleidfa. A dweud y gwir mi oedd o mor dda nes i fi ddiawlio’n hun mod i ddim wedi meddwl ei ofyn wrth eu cyfweld fesul un yn y gorffennol.

Beth fyddech chi ddim yn fodlon cyfaddawdu, hyd yn oed os y byddai hynny yn golygu colli yr arweinyddiaeth? Neu rhywbeth felly oedd y cwestiwn. Does dim angen cyfaddawdu, oedd ateb Elin Jones am fod yr hyn mae hi yn gredu ynddo yn egwyddorion sydd i’w gweld yn y Blaid.

Heddwch oedd ateb Greenpeace Leanne Wood. A dyma oedd cyfle Dafydd Êl i dawelu’r rhai hynny sydd wedi ei gyhuddo o fod yn rebel o fewn y blaid a pheidio a dilyn y lein swyddogol am ynni niwclear. Oedd , mi oedd o wedi cefnogi atomfa Trawsfynydd ac o blaid Wylfa B. Ond doedd o ddim yn tynnu’n groes, meddai , oherwydd ni fyddai o am weld datblygiadau fel hyn mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Adele

Roedd y rownd o gwestiynau bachog ymhlith y mwyaf diddorol gydol y noson, gyda’r cwestiynau yn datgelu mwy na’r disgwyl am y gwleidyddion. Y peth gorau i ddod o Gymru? Cig oen, meddai Leanne Wood, llais Richard Burton meddai Dafydd Êl. Yn ôl ymateb y gynulleidfa ateb Elin Jones oedd yn plesio orau – dŵr.  Pwy ddylai ennill gwobr yn y Brits? Mi fyddai rhywun yn disgwyl i’r ferch o’r Cymoedd serennu yma gan mai apelio at yr ifanc y mae hi, yn ôl llawer. Ond doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd y Brits heb sôn am y bandiau mwyaf hip a cŵl y dyddiau yma! Ar ôl ychydig o help gan Helen Mary fe ddywedodd hi’r ateb cywir, Adele. Ail adrodd hynny wnaeth Dafydd Êl tra roedd Elin Jones yn amlwg wedi gwneud ei gwaith cartref gan ddweud mai Adele oedd yn siŵr o ennill ar ôl iddi wneud cystal yn y Grammys ryw wythnos yn ôl.

Ymateb cymysg

Fe gafwyd digon o chwerthin yng Ngwesty’r Dewi Sant ond cymysg oedd y farn wrth i mi holi hwn a llall ar ddiwedd y noson. Rhai yn daer mai Dafydd Êl ydy y boi iawn – yr un efo gravitas. Eraill yn danbaid dros Leanne.

“Ydy hi ddim yn rhy naїf?” gofynnais. “Mae’n rhaid i ti fod yn naїf i fod yn wleidydd neu fysa nhw ddim yn cyflawni dim byd,” oedd yr ateb.

Un yn dweud mai ras rhwng y ddwy ferch fydd hi yn bendant tra bod un arall yn dweud mai’r cwestiwn pwysig ydy pwy fydd yr un gorau i herio Carwyn Jones? Wn i ddim. Mae’n rhaid cyfaddef mod i yn ffeindio fy hun yn talu sylw pan oedd yr hen ben yn siarad. Mae ganddo fo’r presenoldeb hwnnw. Ond pa mor bwysig ydy hynny mewn gwirionedd?  Ai dyn ddoe ydy o? A beth am Elin Jones? Hi oedd yr unig un gafodd chwerthiniad a chymeradwyaeth wrth ymateb i gwestiwn.

Elin yw’r un mae mwyafrif gwleidyddion ei phlaid yn ei gefnogi ac fel Gweinidog yn y Llywodraeth Glymblaid o’r blaen roedd hi yn cyflawni pethau a ddim ofn mynd i’r afael â phynciau dadleuol  – megis moch daear. “Dw i yn fwy na phâr saff o ddwylo,” oedd ei phle.

Ac wedyn Leanne Wood. Merch o’r Rhondda. Oes  angen gwaed newydd ar y blaid? Ffordd i apelio tu allan i’r cadarnleoedd? Paratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia? Wyddoch chi be, dw i’n falch mod i ddim yn aelod, neu, wir yr, mi fyswn i yn y bocs pleidleisio yn pendroni am oriau!

Heddiw, ddoe, yfory….

Cyhoeddwyd Rhagfyr 21, 2011 gan Caio Higginson. Dim sylw.

Tagiau: blog, Chwe Gwlad, cwpan y byd, Rygbi


Shane Williams
Gyda’r Darbis ‘Dolig yn dod a therfyn i flwyddyn 2011, mae Caio Higginson yn taflu golwg dros y flwyddyn a fu, a’r goblygiadau sydd yn tarddu ohoni.

Ennill 9, colli 8 yw record y tîm cenedlaethol yn 2011 sydd yn berfformiad gweddol wrth ddiystyru ymateb hysterig y wasg.

Cwpan y Byd

Wedi’r Chwe Gwlad, isel oedd disgwyliadau’r genedl am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd. Ond efallai mai’r hyn rydym wedi’i ddysgu eleni, ac yn wir y wers sydd wedi’i dysgu i weddill rygbi’r byd, yw bod paratoi yn talu ffordd.

Nid fy mod yn awgrymu am eiliad nad oedd gweddill timoedd yn y gystadleuaeth wedi paratoi, er bod ambell i sylw o garfan Lloegr yn awgrymu’n wahanol! Ond roedd y manylder a’r ddisgyblaeth ym mharatoadau Cymru’n amhrisiadwy.

Pwy fyddai’n dychmygu y byddai rhewgelloedd Gwlad Pwyl yn profi mor effeithiol wrth baratoi Cymru i’r gystadleuaeth fawr? Ac mae Warren Gatland a’i griw wedi argyhoeddi gymaint yn y fenter nes eu bod yn barod i wneud y daith eto cyn cystadleuaeth  y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.

Heb os roedd steil eu chwarae wedi toddi calonnau pobol Seland Newydd ac roedd eu hymddygiad oddi ar y cae yn destun balchder i ni. Mae’r bygi golff ar yr M4 yn atgof pell bellach.

Ond gyda moelid Vincent Clerc y daeth ymgyrch Cymru oddi ar y cledrau.

Au revoir

Ffarweliwyd â Shane ar ddechrau’r mis, ond mae’n debyg y gallwn ffarwelio â nifer mwy o’n sêr yn 2012.

Gyda Mike Phillips, James Hook, Lee Byrne, Andy Powell a Craig Mitchell wedi arwyddo cytundebau tu allan i Gymru, mae problemau wedi codi ynglŷn â’u rhyddhau ar gyfer y daith nesaf i Wlad Pwyl.

A chyda Luke Charteris wedi cadarnhau ei fod yn mynd i Ffrainc y tymor nesa, a sibrydion fod Adam Jones a Gethin Jenkins yn cael eu denu dramor, gwaethygu bydd y sefyllfa.

Tra byddent, mwy na thebyg, yn sicrhau cymal yn eu cytundebau sydd yn eu rhyddhau i ddychwelyd i’r tîm cenedlaethol ar ddyddiadau gemau rhyngwladol, bydd y clybiau Ffrengig a Saesnig yn annhebygol o’u rhyddhau am yr wythnosau cyn hynny i gael paratoi gyda’r garfan genedlaethol.

Does dim amheuaeth fod y rhanbarthau Cymreig yn feithrinfeydd heb eu hail. A dyna oedd eu pwrpas pan aethpwyd ati  i’w creu, sef datblygu chwaraewyr ifanc a’u haeddfedu ar gyfer y tîm cenedlaethol. Ond bellach mae’n ymddangos nad ydynt yn medru atal cathod boliog Ffrainc rhag dwyn eu hufen.

Mae hyfforddwyr y rhanbarthau eisoes wedi dweud na allent feio’r chwaraewyr am lygadu cytundeb tu allan i Gymru am fod y goblygiadau ariannol gymaint yn fwy atyniadol.

Cytundebau canolog

Mae sôn ers nifer o flynyddoedd bellach am yr angen i Undeb Rygbi Cymru  gyflwyno ‘Cytundebau Canolog’ i’w prif chwaraewyr, ond does neb wedi gosod syniad pendant ar sut fyddai hynny’n gweithio.

Un peth sy’n sicr, hyd yn oed pe bai URC i helpu’n ariannol gyda chyflogau sêr y rhanbarthau, mae’n annhebygol y byddent yn medru dod yn agos i’r hyn a gynigir yn Lloegr ac yn bendant Ffrainc.

Yn sgil hyn byddai amryw o gwestiynau’n codi megis, ai’r Undeb fyddai’n penderfynu pa ranbarth fyddai’r chwaraewr yn mynd iddo? Beth hefyd fyddai’n digwydd i gyflog chwaraewr petai’n gyflogedig o dan gytundeb canolog ond yn colli ei le yn y garfan ryngwladol ac yn nhîm cyntaf ei rhanbarth?

Er i’r Gleision, Scarlets a Gweilch golli ar lwyfan Ewrop yr wythnos diwethaf, fe sicrhaodd y tri bwyntiau bonws am eu hymdrechion. Mae’r rhanbarthau yn gwneud yn rhyfeddol wrth ystyried yr anfantais ariannol sydd ganddynt o’i gymharu â rhai o’u gwrthwynebwyr Ewropeaidd.

Y sialens fwyaf sydd yn wynebu URC a rhanbarthau yn 2012 felly ydi’r angen i amddiffyn y nyth o chwaraewyr sydd gennym rhag hedfan i diroedd pell. Mae’r genedl gyfan yn parhau i ddangos balchder am ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd eleni ac yn gobeithio fod modd i Gatland adeiladu arno.

Ond y mae peryg mae gwaddol Cwpan y Byd 2011 fydd siop ffenestr o gynnyrch Cymru i glybiau Ffrainc a Lloegr.

‘Hanfodol bwysig bod gennym Gomisiynydd Pobol Hŷn’

Cyhoeddwyd Hydref 9, 2011 gan Positif Politics. Dim sylw.

Tagiau: blog, Comisiynydd Pobol Hŷn, Positive Politics


Fel cenedl mae gennym le i ymfalchio yn ein Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, Ruth Marks. Ers sefydlu’r corff yn 2008, bu gan y comisiwn bŵer statudol i ddiogelu hawliau ac i hybu buddiannau pobl hŷn dros 60 oed led led y wlad.

Yn wir, Cymru oedd y genedl gyntaf i benodi comisiynydd o’r fath a hyd nes mis Tachwedd eleni, Ruth Marks fyddai’r unig Gomisiynydd Pobol Hŷn ar wyneb y ddaear. Bu Llywodraeth Cymru’n arloesol yn creu swyddfa’r comisiwn a bydd Gogledd Iwerddon yn efelychu ein camp mis nesaf gydag apwyntiad Claire Keatinge fel eu comisiynydd hwy.

‘Pryder’

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru ei hadroddiad blynyddol, gan amlinellu ei chonsyrn am yr hyn oedd yn peri pryder i bobol hŷn ein gwlad. Yn ôl y comisiynydd un o’r achosion oedd yn gynyddol eu poeni, oedd materion ariannol yn sgîl y dirwasgiad a chynnydd mewn costau tanwydd.

Mater arall oedd yn gofidio’r Comisiynydd oedd triniaeth yr henoed mewn ysbytai a chartrefi gofal ac arweiniodd adroddiad diweddar ganddi at newidiadau yn y ffordd y caiff bobol hŷn eu trîn mewn sefydliadau o’r fath.

Cam pwysig ymlaen i hawliau pobol hŷn a ddaeth yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan na fyddai hawl gan gyflogwyr bellach i orfodi eu gweithwyr i ymddeol wedi iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 65.

‘Cyfraniad enfawr’

Pwysleisiodd y Comisiynydd Pobol Hŷn wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yr wythnos hon fod gan bobl hŷn ‘gyfraniad enfawr’ i’w wneud tuag at gymdeithas yng Nghymru ond hefyd fe dybiaf y cytunai fod ganddynt rôl a chyfraniad gwerthfawr yn y gweithle hefyd.

Ers rhai blynyddoedd yn Positif Politics bu Beryl Wichard yn aelod egniol o’r staff ac yn gweithio fel Ymgynghorydd Gwleidyddol am dridiau’r wythnos. Bellach, yn 69, cafodd ei gorfodi o’i swydd flaenorol, gan ei fod yn bolisi gan y sefydliad hwnnw na fyddant yn cyflogi unrhyw un dros oed ymddeol.

‘Ymddeol’

Nid oedd problem na chwyn o gwbl ynglŷn â’i gwaith, i’r gwrthwyneb, mi ymbiliodd ei rheolwr ar y pencadlys er mwyn ei chadw ond rheol oedd rheol, ac mi roedd yn rhaid i Beryl fynd. Yn ffodus mi gafodd waith yn ddigon hawdd oherwydd nid oedd hi’n barod i ymddeol ac yn mwynhau gweithio a bod yn rhan o weithle.

Mae hi bellach yn aelod ffraeth a bywiog o’r tîm ac yn llawer mwy meistrolgar gyda thechnoleg newydd nag amryw o’i chydweithwyr sy’ flynyddoedd yn iau. Bu diweddglo hapus i boen meddwl Beryl ond i nifer o bobol hŷn nid oes ganddynt yr egni na’r llais i gwyno ac felly dyna pam ei bod hi mor hanfodol bwysig bod gennym Gomisiynydd Pobol Hŷn i gynrychioli’r garfan bwysig hyn yn ein cymdeithas.