Cynyddu maint testun

Golwg360

Coron Gwlad…

Lansiwyd ymgynghoriad ar strategaeth iaith Llywodraeth y Cynulliad ddoe. Ar y cyfan, mae pobol yn croesawu cyhoeddiadau fel hyn. Dim byd newydd ddoe. Mewn ffordd mae hyn yn beth gwael. Petai’r peth yn fwy dadleuol, byddai mwy o sylw fel welon ni gyda’r mesur iaith.

Y gwir yw nad oes unrhyw beth pwysicach na chael strategaeth iaith gydag amcanion clir fel sydd gan hon. Heb fod y bobol sy’n medru’r Gymraeg yn ei siarad hi, does dim pwrpas cael Mesur Iaith i’w gwarchod hi. Does dim pwynt gwarchod rhywbeth nad yw pobol eisiau ei hachub. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod y niferoedd sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu ond am wneud yn siwr bod y bobol hynny yn siarad Cymraeg. Mae’r strategaeth werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Mae’n egluro sut mae’r Llywodraeth yn gobeithio annog rhieni ifanc i feithrin y Gymraeg yn eu plant ifanc 0-5 oed, ac i wneud y Gymraeg yn iaith y teulu. Mae’n trafod pwysigrwydd gwneud y Gymraeg yn iaith “difyrrwch” nid dim ond iaith ysgol er mwyn ei gwneud hi’n iaith apelgar i bobol ifanc yn eu harddegau, ei gwneud hi’n “cwl.” Mae’n sôn am bwysigrwydd creu’r iaith yn iaith y gweithle fel bod pobol gyffredin yn magu hyder yn eu Cymraeg -fyddai’n rhoi stop ar y frawddeg ddiflas honno “o, na dyw ‘Nghymraeg i ddim digon da” sydd i’w glywed yn fynych pan fydd rhywun yn ceisio dechrau sgwrs gyda rhywun anhyderus eu hiaith. (Problem fawr i newyddiadurwyr wrth ddod ar draws siaradwyr Cymraeg i glywed eu barn am hyn ar llall y ‘vox pops’ bondigrybwyll yw bod pobol sy’n amlwg yn gallu siarad Cymraeg yn iawn yn dweud na allan nhw siarad am nad yw eu Cymraeg nhw’n ddigon safonol -diffyg hyder yn amlwg.)

Fel mae Bwrdd yr Iaith a’r Gweinidog Treftadaeth yn ei ddweud, dyma’r unig strategaeth o’i bath yn y byd sydd mor bellgyrhaeddol ei bwriad i warchod iaith leiafrifol. Mae’r ddogfen dan ymgynghoriad nes mis Chwefror ac mae’r Llywodraeth eisiau clywed oddi wrthom ni bobol gyffredin sut allan nhw wella arni a sut i wneud y Gymraeg yn iaith hyfyw. Gobeithio wir y bydd hi’n llwyddo.

Dechrau o'r dechrau?

Hir yw pob aros. Ond does dim syndod bod adroddiad pwyllgor deddfu 2 ar y mesur iaith wedi cymeryd cyhyd. Mae e’n anferth, yn fwystfil o beth fel y mae’r mesur yn fwysfil o beth. Mae’r crynodeb ymhell o fod yn gryno, a manylder yr argymhellion yn dangos ôl gwaith. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn dawnsio mewn llawenydd o weld bod y pwyllgor yn credu bod angen rhoi statws di-amwys i’r Gymraeg a’r Saesneg a bydd y Gweinidog Treftadaeth yn gwneud yr un peth o weld nad yw’r syniad o safonau wedi cael ei ddamsgel arno’n llwyr (ymddengys eu bod yma i aros). Ond megis dechrau yw sôn am rheiny. Mae argymhellion rif y gwlith yn yr adroddiad cynhwysfawr.

Mae Meirion Prys Jones o Fwrdd yr Iaith yn dweud y dylai deddfwriaeth iaith fod yn syml. Roedd y mesur drafft yn gymhleth ymhell cyn i’r pwyllgor deddfu adrodd nôl ac maen nhw am weld newidiadau mawr. Gyda chymaint o newididadau arfaethedig, a fyddai hi’n syniad i’r Llywodraeth fynd nôl a dechrau eto? Mae newid rhywbeth cymhleth yn cymhlethu mwy, does bosib? Wrth fynd nôl trwy’r mesur gyda’r holl newidiadau, yn derbyn rhai a gwrthod eraill onid yw’r tebygrwydd o wneud camgymeriadau neu golli newidiadau hanfodol yn cynyddu? Mae’r pwyllgor yn gresynu na fyddai’r Llywodraeth wedi rhyddhau mesur ymgynghorol cyn gosod mesur drafft yn ei le, sy’n arwyddocaol ddywedwn i. Wrth ymgynghori ag arbenigwyr mewn cyfraith ieithyddol, efallai y byddai’r mesur wedi bod yn symlach yn hytrach na beth sy’n ymddangos fel cyfaddawd gwleidyddol, cymhleth.

Fe gawn ni ymateb moel gan y Llywodraeth cyn bo hir nawr, ond bydd rhaid aros tan 21 Medi am y ddadl ar y mesur yn y siambr.

Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith i’r adroddiad yma. Plaid Cymru hyd yn hyn yw’r unig blaid sydd wedi ymateb i’r adroddiad, gweler yma.