Cynyddu maint testun

Golwg360

Cyfaddawd… a chlymblaid?

Cyhoeddwyd Tachwedd 19, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Carwyn Jones


Carwyn Jones
Rhodri ab Owen o Positif Politics sy’n trafod prif bwc llosg yr wythnos ym Mae Caerdydd…

Bu sawl enghraifft yn y gorffennol lle na chafodd Llywodraeth Cymru ei ffordd ei hun mewn dadl ar brynhawn Mercher yn y Siambr, ac fel arfer nid yw hyn yn broblem rhy fawr iddynt. Serch hynny, ceir dau sialens sydd yn peri pryder i’r Llywodraeth. Un yw ceisio sirchau bod deddfwriaeth yn cael ei basio trwy’r Senedd heb gyfaddawdu gyda’r gwrthbleidiau yn ormodol  (does yr un darn o ddeddfwriaeth wedi ei osod ger bron y Cynulliad eto ac felly nid oes modd dweud pa mor hawdd fyddai sicrhau hyn). Yr ail sialens yw sicrhau y bydd y gyllideb yn pasio a dyna oedd stori fawr yr wythnos hon. Gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol y gyllideb ddrafft. Roedd hynny i’w ddigswyl, o ystyried fod y Cynulliad wedi ei rhannu’n cyfartal, â 30 aelod ar feinciau’r Llywodraeth a 30 ar feinciau’r wrthblaid. Ond roedd hi’n dipyn o stori; methiant cyntaf difrifol llywodraeth Carwyn Jones ers mis Mai. Ond mae’r cyfnod mwyaf diddorol i ddod.

Mae’r gyllideb nawr yn pasio i bwyllgorau scrwtani y Cynulliad a fydd yn ei hystyried ac o bosib yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Cyllid. Dyma’n aml yw’r cyfnod allweddol ar gyfer menbwn allanol a lobio. Mae fel arfer yn amser ffrantic a fe fydd yna bwysau ychwanegol eleni yn dilyn methiant yr wythnos hon. Wedi proesesu’r holl wybodaeth bydd y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn gysylltiedig gyda’r ddadl terfynol ar y gyllideb ar y 6ed o Ragfyr.

Ar yr un pryd, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod gyda’r pleidiau eraill er mwyn gweld os oes modd cyfaddawdu. Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn digwydd ers sawl wythnos ond mae’n debyg bydd unrhyw drafodaethau pellach yn cael eu cynnal ar fwy o frys. Ni fydd y Blaid Lafur yn debygol o ystyried cynigion y Ceidwadwyr o ddifrif, ond bydd gan Carwyn fwy o ddiddordeb i glywed beth sydd gan Blaid Cymru i’w ddweud a beth maent yn gofyn amdano. Mae’n debyg y bydd ganddo hyd yn oed mwy o ddiddordeb yn yr hyn hoffai’r Democratiaid Rhyddfrydol ei dderbyn gan y blaid Lafur am eu cefnogaeth. Gellir gweld manteision gwleidyddol sylweddol i’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn cytundeb o’r fath ac efallai dyma yw’r opsiwn mwyaf tebygol, yn enwedig wrth ystyried brwdfrydedd Kirsty Williams a Carwyn Jones am gynyddu gwariant ar addysg.

Wrth gwrs does dim byd yn bendant ar hyn o bryd a gall yr holl ddarogan hyn fod yn anghywir – ond mae’n  anhebygol y bydd y gwrthbleidiau i gyd yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd, gan drechu’r gyllideb y mis nesaf a dymchwel y llywodraeth o ganlyniad. Yr unig bryd ystyriwyd hyn o ddifrif oedd yn 2006 pan drechwyd y gyllideb ddrafft gan ddefnyddio’r un arthimatic, ond ar yr unfed awr ar ddeg fe wnaeth Plaid Cymru cytundeb gyda Llafur gan sicrhau bod y gyllideb yn cael ei basio. Dw i’n disgwyl i’r un peth ddigwydd eto.

A fyddai cytundeb o’r fath yn arwain at gytundeb clymbleidiol mewn amser? Wel, mae hynny’n fater arall.

Edrych Nol Edrych 'Mlaen

Edrych nôl gawson ni gan y Llywodraeth yn y briffing bore ma, wrth i Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones fynegi -gyda rhywfaint o nostalgia -mai dyma o bosib y briffing ar y cyd olaf o’r Llywodraeth hon. Maen nhw’n falch iawn o’u record ac yn brolio i gytundeb Cymru’n Un gynnig llywodraeth sefydlog, yr hyn oedd pobol Cymru’i eisiau er efallai nid cymaint aelodau’r blaid Lafur. Ond newidwyd eu meddwl, gan gynnwys neb llai na un o’r gwrthwynebwyr pennaf Peter Hain.

O edrych nôl, rhaid edrych ‘mlaen a meddwl -ai Cymru’n Un x2 ddaw wedi etholiad y Cynulliad? Ateb cyson Carwyn Jones yw bod Llafur, fel y pleidiau eraill, yn chwilio am fwyafrif fis Mai a fydd dim trafod clymbleidio tan ar ôl canlyniad etholiadol fydd yn gorfodi hynny. Llafur wrth gwrs yw’r unig blaid ag unrhyw obaith o gael mwyafrif . Gyda’r arolygon barn ar 44% o blaid Llafur ers misoedd bellach, mae’n bosibl y gall Llafur ddychwelyd 30 a mwy o aelodau i’r Cynulliad eleni. Fe fydd y tebygolrwydd o glymblaid yn is y mwyaf o aelodau fydd gan Lafur. Er bod 31 yn fwyafrif, dyw e ddim yn ddigon i sicrhau sefydlogrwydd.

Wrth gwrs er mwyn bod yn bartner mewn llywodraeth fe fydd y pleidiau eraill yn gobeithio’n fawr na fydd Llafur yn cyrraedd yn agos at y 30 hudol. Y cwestiwn i’r ddau arweinydd llywodraethol gan gyfaill o’r lobi bore ma oedd -ydych chi’n diystyru’r posibilrwydd o glymblaid â’r Ceidwadwyr? Doedd Carwyn ddim am oedi cyn dweud bod hynny’n hollol amhosibl. Ieuan ar y llaw arall -wel, byddai hi’n anodd yn dilyn rhaglen y Ceidwadwyr yn San Steffan i glymbleidio â nhw oedd ei ateb e.

Mae’n amlwg mai ail ddewis go anghynnes i Blaid Cymru fyddai rhoi cyfle i glymblaid yr enfys, gyda llawer mwy o frwdfrydedd i glymbleidio â Llafur eto pe bai’r cyfle’n codi. Ond roedd Nick Bourne yn hapus fodlon i ddweud ei fod ef a Ieuan yn ffrindiau da a bod gwleidyddion weithiau yn dweud rhai pethau’n gyhoeddus nad ydyn nhw o reidrwydd yn ei golygu go iawn. Fyddai Nick Bourne ddim yn synnu pe bai Ieuan Wyn Jones wedi dweud rhywbeth cyffelyb am glymbleidio â’r Ceidwadwyr nôl yr adeg hon yn 2007 hefyd ac eto roedd Clymblaid yr Enfys yn bosibilrwydd go iawn wedi etholiad y flwyddyn honno.

Holodd neb Kirsty Williams bore ma beth fyddai ei dewis cyntaf hi mewn clymblaid. Gyda’r arolygon barn a’r sylwebwyr yn darogan gwae i’r Democratiaid Rhyddfrydol, efallai nad yw hi’n syndod.

Freud

Cyhoeddwyd Ionawr 5, 2011 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Llafur, peter hain, Refferendwm AV

“There will be two important polls this year…” meddai Carwyn Jones yng nghynhadledd Llafur i’r wasg bore ma i ddatgelu aelod newydd y blaid Lafur o Gastell Nedd.

Dau etholiad pwysig Mr Jones?! Ahem!!! Beth am y refferendwm ar y bleidlais amgen? Roedd rhaid holi. Wwwwps. “There will be three important polls….” cywirodd y Prif Weinidog ei hun braidd yn lletchwith. Ac na, doedd y slip Freud-aidd ddim yn arwydd bod y blaid Lafur Gymreig am anwybyddu’r refferendwm AV – mynnodd Peter Hain  gael dweud ei fod e’n llwyr gefnogol o bleidlais ie fel y mae Ed Miliband -ond y flaenoriaeth yw’r refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad ac ennill mwyafrif i Lafur ym mis Mai.

Digon teg, ond mae’r camgymeriad yn dangos y talcen caled sy’n wynebu cefnogwyr newid y drefn etholiadol i system fwy cyfrannol. Os nad yw’r gwleidyddion sydd ynghanol y pethau yma’n cofio amdano, sut mae modd ysbrydoli’r cyhoedd?

DIWEDDARIAD: Dyw hyd yn oed y Comisiwn Etholiadolyng Nghymru ddim yn gallu cyffroi am refferendwm y bleidlais amgen. Yr awgrym o’u gwefan cymraeg a chymreig nhw yw mai dau etholiad sydd yng Nghymru eleni hefyd. Mae hyn am fod y refferendwm yn fater “Prydain gyfan” medden nhw ar ôl i fi wneud ymholiadau. Felly maen nhw’n cyfeirio ato fe fan hyn.

Eisteddfod Rod

Cyhoeddwyd Awst 4, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Rod Richards, S4/C

Daeth Rod Richards mewn i swyddfa’r wasg ar y maes bore ma. Aeth i siarad â’u holl gyfeillion newyddiadurol yn eu tro ac roedd e’n geg fawr i gyd, wrth ei fodd. Roedd am roi stori i fi. Mae wedi penderfynu sut i ddatrys problemau cyllid S4/C. Torri holl gyflogau’r staff rheoli yn eu hanner. Mae siwr o fod wedi dod o hyd i Arwel Ellis Owen erbyn hyn a dweud wrtho y dylai’r Prif Weithredwr dorri cyflog olynydd parhaol Iona Jones o £160,000 y flwyddyn i £80,000 y flwyddyn. A phob swyddog arall gyda hynny achos, meddai Rod, fe fyddai pobol dal yn rhedeg dros ei gilydd i gael y swyddi ar y cyflog bras hynny.

Bwriad arall Rod heddiw oedd corddi’r dyfroedd, mynd i gymaint o gyfarfodydd gwleidyddol â phosibl a dal pen rheswm â phawb mae’n anghytuno â nhw. Doedd ganddo fe ddim cwestiwn i Dafydd El pan oedd e’n trafod cyfansoddiad Cymru ond roedd yn tasgu wrth herio Carwyn Jones ar y pwnc o refferendwm. Aeth e ddim ymhell iawn wrth ddadlau â Carwyn bod Ed Balls yn cytuno â fe Rod bod system gyllido Cymru yn A-OK. “Wel, mae Nick Bourne yn cytuno â fi,” oedd ateb cyflym Carwyn, i fonllefau o chwerthin.

Trawsnewidiad Eisteddfodol

Cyhoeddwyd Awst 4, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Cymru Yfory, refferendwm

Does dim cymhariaeth rhwng Carwyn Jones ar y maes heddiw a Carwyn Jones ar y maes llynedd.

Llynedd, roedd y gwr fyddai cyn hir yn Brif Weinidog Cymru’n brennaidd, di-gymeriad a diflas tost. Roedd yn syllu’n galed ar ei sgript ac fe fethodd yn llwyr â chyfathrebu â’r dorf oedd wedi dod i’w weld. Heddiw, dywedodd ei fod am siarad o’r frest eleni am fod y goleuo gwael wedi gwneud darllen ei araith llynedd yn amhosibl. Rwy digwydd bod yn gwybod ei fod yn syllu mor galed ar y sgript am ei fod yn cyfieithu ei araith o’r Saesneg i’r Gymraeg tra’n annerch. Dim rhyfedd bod yr araith mor ddi ffrwt.

Ond am wahaniaeth heddiw! Roedd Carwyn yn ei elfen, yn mynnu, yn hollol benderfynol bod rhaid cael Ymgyrch Ie lwyddiannus a phwerau deddfu llawn i Gymru pan ddaw’r refferendwm yn y gwanwyn. Nid yn unig roedd yn ddi-sgript, roedd yn cerdded hyd y llwyfan a’i freichiau fel melin wynt a’i gorffolaeth nid an-swmpus yn meddiannu’r gwagle. Cafodd gynulleidfa gefnogol barod yn y sesiwn gan ei bod wedi’i threfnu gan Cymru Yfory ym Mhabell y Cymdeithasau ond roedd Carwyn yn amlwg frwdfrydig beth bynnag. Trochodd y dorf yn y rhethreg o blaid pleidlais Ie gan ddefnyddio’i hoff gymhariaeth bod y system ddeddfu bresennol fel rhoi bocs twls llawn i ddau o dri adeiladwr sydd wedi dod i gywiro’ch ty ond rhoi bocs gwag i’r trydydd gan addo’r offer wrth i’r adeiladwr ofyn amdanynt un wrth un. Llwyddodd i ddal ei gynulleidfa, i gynnal eu diddordeb ac roedd yn ddifyr i’w wylio. Rwy wedi bod yn dilyn Carwyn Jones yn annerch ers bron i ddwy flynedd a dyma’r tro cyntaf i fi wir fwynhau gwrando arno. Galla i ddeall nawr pam i’r blaid Lafur weld yn dda i’w ethol fel arweinydd.

Gobeithio nad blip yw hwn ac y cawn ni fwy o areithio ysbrydoledig gan Carwyn Jones. Gobeithio nad yw’r sinigwyr fu’n siarad â fi wedyn yn iawn, ac mai am fod y polisi’n hawdd ei bregethu yr oedd cystal. Amser a ddengys!

Caniatad Tybiedig

Mae’r Llywodraeth newydd gyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol at gyfer ei 10 mis olaf. Gan fod cyn lleied o amser cyn diwedd y tymor, dyw hi ddim yn syndod bod llai ar y rhaglen nag arfer. Mae bwriad i gyflwyno tri mesur ym maes tai ac addysg ac un gorchymyn (gas da fi’r gair LCO).

Yr hyn sy’n fy niddori i heddiw yw’r gorchymyn arfaethedig. Y bwriad yw i wneud cais am rym i ddeddfu ym maes caniatad tybiedig -hynny yw maen nhw am newid y drefn rhoi organau. Yn hytrach na disgwyl i bobol ymuno â rhestr o bobol sy’n fodlon rhoi eu organau i rywun arall ar ôl iddyn nhw farw, maen nhw am gymeryd yn ganiataol bod pobol am roi eu horganau oni bai eu bod nhw wedi dweud yn wahanol, gan gael caniatad y teulu.

Mae’r ymateb yn gymysg i’r cyhoeddiad. Babi’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart yw hwn, ac mae hi wedi bod yn benderfynol o fynd ati i gyflwyno caniatad tybiedig yng Nghymru beth bynnag mae unrhywun yn ei ddweud. Mae’r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn erbyn deddfu’n llwyr ar hyn o bryd -nid am ei fod yn erbyn caniatad tybiedig ond am nad yw’n meddwl bod y system yn barod ar gyfer y newid eto. Mae mwy o fanylion o adroddiad y pwyllgor iechyd pan oedd Jonathan Morgan yn gadeirydd arno yma.

Yr hyn sy’n fy synnu i yw hyder y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd bod modd cael mesur ar y pwnc yma ymhen 10 mis. Pan holais i Carwyn Jones bore ma os oedd modd llunio gorchymyn a mesur o fewn y cyfnod hwn, dywedodd e y bydd hi’n dynn ond ei bod hi’n bosibl. Mae’n gwneud i fi feddwl bod Carwyn Jones yn tybio gormod am y caniatad gan San Steffan ac efallai heb ddysgu gwers gorchmynion y gorffennol. Cymerodd y gorchymyn lleiaf dadleuol erioed, y gorchymyn cig coch, ddwy flynedd i fynd drwy’r broses graffu yn San Steffan a Bae Caerdydd heb son am yr oedi anhygoel gyda’r gorchmynion ar yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd. Mae’r gorchymyn tai yn dal yn gwbl fyw yn y cof fel y gorchymyn gymerodd hirraf i’w basio yn hanes gorchmynion. Beth sy’n gwneud i Carwyn Jones fod mor hyderus y tro hwn?

Rwy’n derbyn bod y ddwy ddeddfwrfa bellach yn deall y drefn orchmynion yn well wedi bod wrthi ers 2007 ond nid gorchymyn annadleuol mo’r gorchymyn ar ganiatad tybiedig. Fe fydd adroddiad y pwyllgor iechyd sy’n argymell i’r Cynulliad beidio â mynd ar hyd y llwybr hwn yn un rhwystr, heb sôn am ddelio â barn unigolion o fewn i’r pwyllgorau craffu -yma yn y Cynulliad a’r Pwyllgor Dethol yn San Steffan. Gallai’r gorchymyn hwn eto fod yn dalcen caled i’r Llywodraeth.

Pleidlais i bawb o bobol y byd

Cyhoeddwyd Gorffennaf 13, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Elin Jones, Nick Bourne

Diwrnod anodd i’r Llywodraeth heddiw, gyda’r Llys Apêl yn atal y cynlluniau i ddifa moch daear rhag mynd yn eu blaen funudau cyn i’r briffing wythnosol olaf am y tymor ddechrau. Daeth ymateb Carwyn Jones i’r cwestiwn a oedd disgwyl i’r Gweinidog Amaeth i ymddiswyddo yn gyflym a di-flewyn-ar-dafod: “Na.” Mae’n gysur mae’n debyg i Elin Jones gyda Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ei gwaed bod ei Phrif Weinidog yn sefyll gyda hi, ac hefyd yr Undebau. Doedd hi ddim yn hir cyn i’r datganiadau lifo mewn yn mynnu bod rhaid difa moch daear er lles gwartheg -mae miloedd ohonyn nhw’n cael eu lladd yn flynyddol oherwydd TB. Dyw’r Llywodraeth ddim yn fodlon dweud mwy ar y mater na’u bod nhw’n ystyried y dyfarniad ond yn benderfynol o ddelio â’r broblem o bTB. Fe fydd hi’n wythnos anodd i Elin Jones yn y Sioe Amaethyddol yr wythnos nesaf nawr.

Peidiwch a dangos hwn iddi heddiw, beth bynnag wnewch chi.

Mater oedd Carwyn Jones yn fwy parod i’w drafod bore ma oedd y refferendwm ar AV. Na, no nefar oedd ei neges i syniad Nick Clegg i’w gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad. Hyd yn oed mwy penderfynol yw AC Pen-y-Bont na fydd “Super Thursday*” ar Fai 5, gyda refferendwm pwerau’r Cynulliad, etholiad y Cynulliad a refferendwm AV ar yr un diwrnod. Dyna ddymuniad y Llywydd, Dafydd Elis Thomas, er nad ydw i’n siwr pam ei fod e’n teimlo rheidrwydd i fynegi ei farn ar bwnc nad oes â wnelo fe ryw lawer ag e. Dadl y Llywydd yw y bydd cynnal y tri ar yr un diwrnod yn arbed milynau o bunnoedd. Dadl y Prif Weinidog yw y bydd cynnal y tri ar yr un diwrnod yn cymysgu’r etholwyr, yn achosi cwt hir tu allan i’r blwch pleidleisio oherwydd yr amser fyddai ei angen i daro croes ar dair taflen bleidleisio wahanol ac y gallai pobol fod yn gymwys i bleidleisio mewn rhai o’r pleidleisiau ond ddim eraill oherwydd bod cofrestrau gwahanol ar eu cyfer. Amser a ddengys pwy fydd yn cael ei ddymuniad. Mae Carwyn Jones wedi ysgrifennu at David Cameron i ddweud wrtho i gadw’i ddwylo oddi ar Mai 5.

Chydig o ddryswch gyda’r Ceidwadwyr bore ma. Dwedodd Nick Bourne wrthon ni wythnos diwethaf bod y pedwar arweinydd wedi cytuno y dylai etholiad y Cynulliad gael ei wthio nol fis fel bod digon o saib rhwng y refferendwm pwerau a’r etholiad. Gwadu hyn yn llwyr wnaeth Carwyn Jones cyn i arweinydd y Ceidwadwyr ddod i ddweud helo. Beth bynnag ddigwyddodd, dyw’r Ceidwadwyr ddim yn credu bod angen newid dyddiad yr etholiad ragor achos bod y refferendwm AV wedi rhoi’r ceibosh ar hynny. Os nad ydych chi’n deall y rhesymeg, mae’n debyg does dim. Gweler sylwadau Nick Bourne ar resymeg a gwleidyddiaeth isod!

Roedd gwaith amgen yn galw adeg briffing y Democratiaid Rhyddfrydol felly alla i mo’ch goleuo chi ar farn Kirsty Williams ar hyn i gyd.

*byddai croeso mawr i syniadau o fersiwn Gymraeg o Super Thursday yn y sylwadau…

Amser chwarae

Rhiannon Michael fu’n gwrando ar wleidyddion yn ceisio osgoi ateb cwestiynau anodd…

Bwrw nol pob cwestiwn ar ad-drefnu addysg Caerdydd wnaeth y Cwnsler Cyffredinol yn sesiwn holi’r cyfryngau bore ma. John Griffiths gafodd y fraint o wynebu’r wasg a’r cwestiynau am ddoethineb penderfyniad y Prif Weinidog i wrthod cynlluniau Cyngor Caerdydd i leihau nifer y llefydd gwag yn y brifddinas. Yr un oedd yr ateb, beth bynnag y cwestiwn -mae’r llythyr gan y Prif Weinidog yn egluro’i benderfyniad yn gwneud yn union hynny ac felly’n siarad drosto’i hun. Ond roedd y penderfyniad ar ran y Llywodraeth gyfan -”collective responsibility.” Dim cyfle i Weinidogion Plaid Cymru osgoi bai felly.

Roedd ychydig bach o dodgems gan Nick Bourne heddiw hefyd. Doedd dim mwy o eglurhad dros pam bod Pwyllgor Rheoli’r Ceidwadwyr wedi mynnu bod Alun Cairns yn aros yn ei swydd fel AC er ei fod yn siomedig am y penderfyniad meddai Bourne. Ond peidiwch a phoeni, drigolion Gorllewin De Cymru, dyw’r ffaith na fydd e’n derbyn ei gyflog fel AC ddim yn golygu na fydd e’n gweithio’n galed er eich lles. Mae’n cadw ei swyddfa ac yn parhau a’i gymhorthfeydd. Ffiwff!

Newyddion bach difyr gan y Ceidwadwyr -maen nhw am wella cynrychiolaeth menywod yn y blaid. Angela Burns yw’r unig ferch ar feinciau’r Toris ond ddim am lawer hirrach efallai. Bydd llefydd gwag newydd ar y rhestrau rhanbarthol yn mynd i fenyw, a’r blaid yn y seddi targed yn dewis ymgeiswyr i’w cynrychioli o restr gyfartal o ddetholion -dwy fenyw a dau ddyn. Bydd hi’n hawdd gweld pa seddi sy’n dargedau i’r Ceidwadwyr pan fydd y rhestrau’n gyhoeddus felly!

Plaid sydd ddim yn gorfod poeni am restrau arbennig i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod yw’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mike German, y cyn-arweinydd, gymerodd eu cynhadledd i’r wasg wythnosol nhw heddiw a phan fydd e’n troi’n Arglwydd German fe fydd ei wraig Veronica yn cymeryd ei le yn y Cynulliad, gan wneud Peter Black yr unig gynrychiolydd gwrywaidd yng nghornel felen Bae Caerdydd. Roedd Mike yno i ofyn i Jane Davidson i beidio a gwario bron i hanner miliwn o bunnau ar gyhoeddusrwydd i’r dreth ar fagiau plastig ond cylchdroi o amgylch ei swydd newydd wnaeth y drafodaeth. Mae’n gobeithio gadael ar 29 Mehefin. Fydd dim teitl ffansi ganddo, am nad oes neb arall a’i gyfenw fe wedi cyrraedd Ty’r Arglwyddi o’r blaen. “Mae’r lle’n llawn almaenwyr!” meddai un hac. Ha ha.

Gan eu gweithredoedd yr adnabyddir hwy

Rhiannon Michael sy’n edrych ar y refferendwm dros fwy o bwerau i’r Cynulliad…

Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar yr Ysgrifenydd Gwladol i gynnal y refferendwm fis Hydref. Tra bod Peter Hain yn saff yn Gwydir House, mynnu bod “pob opsiwn yn agored” o ran cynnal y refferendwm wnai Carwyn. Gyda Cheidwadwraig bellach yn cadw sedd yr Ysgrifenydd Gwladol yn gynnes mewn clymblaid Ryddfrydol-Geidwadol, mae wedi newid ei diwn. Mae newydd ryddhau datganiad i’r wasg yn pwyso am refferendwm yn yr hydref. Mae hyd yn oed wedi awgrymu geiriad i’r cwestiwn. Mae fel a ganlyn:

“Ar hyn o bryd mae’r Cynulliad yn cael deddfu ar rai pethau, ond nid ar bethau eraill, sy’n effeithio ar bobl Cymru yn unig.

Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y dylai’r Cynulliad gael deddfu ar bopeth sy’n ymwneud â meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Ond dim ond os bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cefnogi hynny mewn refferendwm y gall hynny ddigwydd.

Mae’r meysydd sydd wedi’u datganoli yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a llywodraeth leol. Ni fyddai modd i’r deddfau ymwneud â nawdd cymdeithasol, amddiffyn a materion tramor.

Ydych chi am i’r Cynulliad gael y pŵer yn awr i ddeddfu ar yr holl feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru?

Ydw / Nac ydw

Gyda’r Comisiwn Etholiadol yn mynnu bod rhaid iddyn nhw gael 10 wythnos i brofi’r cwestiwn ar yr etholwyr, mae’n dynn iawn i gynnal refferendwm yn yr hydref. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi pwyso ar Peter Hain i symud yn gynt cyn yr etholiad, ond wnaethon nhw ddim. Yw hyn yn arwydd bod Llafur yng Nghymru, heb hualau Llafur mewn llywodraeth yn Llundain, yn mynd i fod yn fwy heriol o hyn ymlaen?

Cas gwir heb alw amdano

Rhiannon Michael, gohebydd Golwg yn y Cynulliad, oedd yng nghynadleddau y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd bore ma…


Druan â Roger Williams. Mae e wedi cael eithaf clatsien gan arweinydd ei blaid bore ma. Doedd hi ddim yn garedig wrth ateb cwestiwn David Cornock o’r BBC pam nad oedd dewis cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol fel Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol yn lansiad maniffesto’r blaid. Cwestiwn arall oedd pam ei fod e’n absennol yn lluniau’r maniffesto amryliw tra bod lluniau niferus o Kirsty Williams, er nad yw hi’n ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol. “Is it my fault I’m more photogenic than Roger?” protestiodd hi. “There are many things I can change but the genetic make up of my candidates isn’t one of them.” O diar.

Wrth gwrs roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun, Peter Hain, yn llond ei groen yn lansiad maniffesto Cymreig Llafur gyda Carwyn Jones yn ffyddlon wrth ei ochr. Un peth nodedig yn y lansiad oedd faint o Gymraeg oedd yno. Agorodd gyda darllediad  gwleidyddol dwyieithog ar y sgrin fawr a Carwyn Jones yn annerch gan gyfieithu ei hun o un iaith i’r llall. Do’n i ddim yn lansiad maniffesto Plaid Cymru ddydd Mawrth yn anffodus, ond y diffyg Cymraeg oedd yn nodedig yno yn ôl beth glywais i. Siom i bawb oedd pan gododd Rod Richards i ofyn cwestiwn drodd yn araith heb fod offer cyfieithu i oleuo’r di-Gymraeg am ei lith.

Beth bynnag, yn lansiad Llafur, wrth fy ochor i oedd yr unig sedd wag pan gyrhaeddodd y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Doedd e’n amlwg ddim yn poeni gormod bod dim sedd wedi’i gadw iddo.  “Diolch byth nad oes rhaid i fi ddweud adnod,” meddai’n fodlon. Carwyn Jones sydd â’r rôl honno erbyn  hyn.