Cynyddu maint testun

Golwg360

Y Fwyell Amgen

Cyhoeddwyd Rhagfyr 9, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr Cymreig, Cyllideb Gysgodol

Bore ma, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ei cyllideb cysgodol. Ar ebost, gan gynnig cyfweliadau i’r rhai oedd yn dymuno un = dim cynhadledd i’r wasg. Hon yn dal yn fyw yn y cof efallai.

Y peth cyntaf i daro dyn yw mor fyr yr yw e o gymharu ag un y Llywodraeth. Does dim manylion tu ôl i’r ffigyrau. Eglurhad y Ceidwadwyr yw bod dim byddin o weision sifil ganddyn nhw i baratoi’r ddogfen iddyn nhw. Y peth yw, i gyrraedd at y ffigyrau mae rhaid iddyn nhw ysgrifennu’r holl bethau yma i lawr yn does? Beth bynnag, rhyngthyn nhw a’u cawl.

Fel yr addawyd, mae iechyd wedi’i “ddiogelu.” Ac ie, addysg sy’n dioddef. Mae’n arwyddocaol i’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw newid eu polisi ar ffioedd dysgu. Fydden nhw ddim wedi gwneud cyhoeddiad Leighton Andrews wythnos diwethaf. Maen nhw am ganiatau i brifysgolion godi ffioedd i £6,000 (dydyn nhw ddim yn disgwyl y bydd prifysgolion Cymru’n codi at £9,000 er bydd croeso iddyn nhw wneud hynny os ydyn nhw wir eisiau) ond fe fydd myfyrwyr yn gorfod talu heb help y Llywodraeth. Gallodd Guto Bebb yn y ddadl ar ffioedd yn San Steffan gynne ddweud ei fod yn cywilyddio at “stunt” Llywodraeth Cymru yn gyfforddus wybod na allai pobol ei gyhuddo o fynd yn erbyn polisi ei blaid yn y bae ers blynyddoedd.

Mae’r Ceidwadwyr wedi gwrthod rhyddhau ffigyrau, gan ddweud y bydd hon yn stori am amser i ddod ac os ydyn nhw wedi cael y ffigyrau’n anghywir, fe ddaw hynny i’r amlwg. Maen nhw’n hyderus nad ydyn nhw wedi cam-gyfrifo. Nid fy ffigyrau i yw’r canlynol, ffigyrau sydd wedi dod i fy llaw i ac mae’r Ceidwadwyr wedi dweud eu bod nhw’n “edrych yn iawn.” Maen nhw mewn £m mewn termau real.

              2010-11   Llywodraeth   Ceidwadwyr 

Iechyd       6179    5705 (-7.6%)      6170(DIM)

Llyw. Leol     4460   4130 (-7.4%)     3902(-12.5%)

Addysg      1877      1729(-8%)    1651(-12%)               

Econ&Trafn’th   973  792(-21.3%) 681(-30%)

Amgylchedd     802    634(-21%)    601(-25%)

Amaeth    144   125(-12.7%)     122(-15%)

Treftadaeth  158   137(-13%)     126(-20%)

Gwas’thau Cyh 49   40(-24.4%) 34(-30%)

Gweinyddu    351   289(-19.1%)    263(-25%)

Cyfanswm 15,022   13,582   13,550

RT

Cyhoeddwyd Tachwedd 29, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymreig, Iechyd, Nick Bourne

Pam fod Andrew RT wedi gwneud y cyhoeddiad hwn? Yn y trydarfyd, y gred gyffredinol gan y gwrthbleidiau yw bod y polisi iechyd y mae RT yn ladmerydd mor gryf amdano o ddiogelu’r gyllideb iechyd ar draul popeth arall yn fethiant ysgubol ac felly bod rhaid iddo fynd. Dw i ddim mor siwr.

Mae Nick Bourne yn natganiad y Ceidwadwyr i’r wasg yn dweud pa mor annisgwyl yw ei ymddiswyddiad ac yn ei ddatganiad ei hun mae RT yn dweud ei fod e wedi bod yn meddwl am adael y meinciau blaen ers sbel fach erbyn hyn.

With the changes being made to the front bench team [wythnos diwethaf gadawodd David Melding y meinciau blaen i ysgrifennu maniffesto blwyddyn nesaf a daeth William Graham a Jonathan Morgan nôl i'r gorlan o'r meinciau cefn], I feel that now would be an opportune moment to make this move as it would allow any subsequent changes to be made with minimal disruption.

Mae’n swnio mwy fel datganiad o fwriad i fynd am yr arweinyddiaeth na dim arall. Wedi’r cyfan, mae dyfodol RT yn y Cynulliad yn saff. Mae ar frig ei restr ranbarthol ac mae’n fwy na thebygol o ddychwelyd, polisi iechyd diffygiol ai peidio. Dyw safle Bourne ddim mor saff. Os aiff y Ceidwadwyr â Maldwyn fis Mai nesaf -fydd yn fwy neu’n llai tebygol yn dibynnu ar ganlyniad achos llys Mick Bates -gallai Bourne fod yn ddi-waith cyn diwedd 2011.

Beth bynnag yw’r gwirionedd, dyw’r sïon a’r siarad amdanyn nhw ddim yn helpu achos y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Mae angen iddyn nhw fod yn unedig yn symud tuag at yr etholiad, neu fe fydd unrhyw riddyn o obaith o gynnig rhywbeth amgen i Cymru’n Un x2 yn diflannu’n llwyr.

Manion Mawrth

Doedd y Gweinidog dros Blant, Huw Lewis ddim yn arfer bod ar frys i gynnal refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ond bore ma, roedd ei sylwadau’n dangos yn bendant bod llywodraeth yn Llundain sy’n cynnwys y Ceidwadwyr wedi newid ei feddwl. Wrth drafod y gyllideb ddrafft gaiff ei gyhoeddi yfory (moelwch eich clustiau am wybodaeth am 3yh), dywedodd y byddai’n adlewyrchu ymroddiad Llywodraeth Cymru’n Un i gyfiawnder cymdeithasol.

We are not passive victims. We have devolution, we have the Assembly government and we have the option of a referendum next year to enhance our power.

Rhaid rhoi canmoliaeth -fe ymdopodd yn dda yn ei sesiwn gyntaf o flaen y wasg fel rhan o’r Llywodraeth. Mwynheais i’r cyfeiriad at ei wraig fel “my friend and colleague Lynne Neagle.”

Daeth chwarter y Ceidwadwyr i’w briffing nhw bore ma, gyda Andrew RT Davies y llefarydd iechyd yn ymuno â’r ddau Nick, mae’n siwr mewn rhyw fath o ymgais i ddad-wneud moch wythnos diwethaf. Rhy ychydig rhy hwyr? O leia cawson ni gadarnhad o ffigyrau pobol eraill, sef y byddai polisi’r Ceidwadwyr o ddiogelu’r gyllideb iechydyn golygu toriadau o 20% ar adrannau eraill y Llywodraeth yn hytrach na thoriadau o ryw 11%.

Methes i â mynychu cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol. Rwy’n cael ar ddeall mai Lembit a’i hwyl yn y jwngwl oedd prif bwnc trafod y pum munud hwnnw, nid y gyllideb fel yr oedd Kirsty a’i thîm yn gobeithio.

Iechydwriaeth!

Gwibiodd briffing y Llywodraeth heibio bore ma -i fi o leia. Dyw Elin Jones ddim wedi cael y pleser o gwmni’r wasg ers sbel ac er i ni ei holi hi ar bethau nad oedd hi wedi cael ei briffio arnyn nhw cyn iddi hi fentro i ffau’r llewod roedd hi’n ddigon jocos yn ateb cwestiynau ar newid enw Llywodraeth y Cynulliad i Lywodraeth Cymru a Cynulliad i Senedd ac yn y blaen gan bwysleisio mai ei barn hi oedd hynny nid y Llywodraeth. (Dim sôn am ymgyrch ie o hyd gyda llaw)

Hirrach o lawer oedd briffing y Ceidwadwyr. Yn wir, bytodd y Ceidwadwyr mewn i amser y Democratiaid Rhyddfrydol gymaint oeddem ni’n trio amgyffred polisi’r Ceidwadwyr o warchod cyllideb y gwasanaeth iechyd ar draul pob un adran arall sydd dan ofal Llywodraeth y Cynulliad. Dw i dal ddim wir yn deall. Doedd gen i ddim bwriad o ymuno yn y llabyddio geiriol o’r ddau Nick (Bourne a Ramsay) ar eu polisi newydd gan bod y lleill yn cael cymaint o hwyl arni ond erbyn diwedd roedd rhaid. Ar un adeg roedd hi’n edrych fel pe baen nhw’n dweud y dylai cyllideb iechyd y Cynulliad gael ei warchod hyd yn oed os oedd hynny’n golygu amharu ar gynlluniau fyddai’n atal iechyd pobol rhag dirywio (ac felly’n atal cost dianghenraid ar y gwasanaeth iechyd) er enghraifft sicrhau cartrefi o safon. Ond na na, fyddai hynny ddim yn digwydd wrth gwrs ddim meddai Bourne.

Felly heb fynd mewn i fanylder y pingpong cwestiwn ag ateb bore ma, mae’n ymddangos i fi beth fyddai’r Ceidwadwyr yn gwneud yw ad-drefnu strwythur adrannau’r Cynulliad fel bod beth bynnag sy’n ymwneud ag iechyd, boed uniongyrchol (ysgolion, nyrsys, meddyginiaeth) neu anuniongyrchol (e.e tai) i fod o fewn i’r gyllideb iechyd ac felly byddai’r gyllideb iechyd yn gallu aros yr un peth, gan gynyddu yn unol â chwyddiant (RPI nid chwyddiant iechyd gyda llaw).

Fe fydden nhw efallai’n anghytuno â’r asesiad yna, ond maen nhw’n gwrthod rhoi eglurhad o sut maen nhw’n cyfiawnhau gallu gwarchod y gyllideb ar draul pob cyllideb arall gan ddweud nad oes ganddyn nhw fyddin o weision sifil i grenshan trwy’r ffigyrau ar eu rhan mewn byr o dro. Eto’i gyd, os dyna’r ddadl sut allan nhw wneud datganiad mor bendant? Creu polisi i ddenu penawdau heb ystyried y manylion os bu un erioed.

Chwarter awr fach oedd briffing y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw am i’r Llywodraeth wario’u harian yn well. Quel surprise!

Ymarfer Dysgeidiaeth Bourne

Cyhoeddwyd Hydref 20, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr Cymreig, Jeremy Hunt, S4/C

Ymddengys bod Jeremy Hunt wedi anwybyddu nid yn unig Llywodraeth Cymru ond ei blaid yng Nghymru hefyd. Mae llythyron gan Nick Bourne at y Gweinidog Diwylliant wedi gwneud ei ffordd i swyddfa’r wasg yn y Cynulliad. Ar 9 Medi ac eto ar 18 Hydref ysgrifenodd Nick Bourne at Jeremy Hunt yn ymbil arno i warchod cyllideb S4C gymaint ag sy’n bosibl.

Mae llythyr Medi 9 yn gofyn i Jeremy Hunt ystyried yr angen i gael darlledwr cyfrwng Cymraeg hyfyw ar y teledu ac yn ei atgoffa o waith y Ceidwadwyr yn gwarchod “un o’n hieithoedd brodorol” a bod arbedion mewn sefydliadau bach yn anodd. “I understand the difficulties and I understand that some savings may be required but the Welsh Conservatives have always been supportive of S4C and will continue to be supportive.

Mae ebost 18 Hydref lawer yn gryfach yn gofyn am:

1. Statws arbennig i S4C gan DCMS i sicrhau bod lleihad yng nghyllideb S4C yn llai na’r toriadau yn yr adran yn gyfangwbl.

2. Arolwg i Awdurdod S4C yn cwmpasu pob agwedd o lywodraethiant, rheoli, y drefn gomisiynu ac atebolrwydd.

3. Yr arolwg i gynnwys ystyriaeth o drosglwyddo cyfrifoldeb dros S4C i’r Cynulliad, gan fod cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi ei drosglwyddo i’r Cynulliad eisoes.

Rhy ychydig, rhy hwyr? Penderfyniad munud olaf oedd trosglwyddo cyllideb S4C draw i’r BBC; trwy wasanaeth newyddion y BBC y clywodd Cadeirydd yr Awdurdod, John Walter Jones am y cynllun yn y lle cyntaf, ddaeth galwad Jeremy Hunt i’r Cadeirydd ddim tan ar ôl i’r newyddion dorri. Mae’n ergyd i’r Ceidwadwyr Cymreig bod Jeremy Hunt wedi diystyru llythyron Nick Bourne. Mae’n amlwg o’r llythyron nad dyma’r unig ddau mae Nick Bourne wedi bod yn eu hanfon i San Steffan ar S4C. Dysgeidiaeth Bourne “in action” ys gwede nhw. Ydy hi felly’n ddysgeidiaeth lwyddiannus?

Dysgeidiaeth Bourne

R’yn ni gyd wedi clywed am The Bourne Identity, The Bourne Supremacy a The Bourne Ultimatum. Wel, heddiw fe ddaeth teitl pedwerydd ffilm i’r fei, The Bourne Doctrine. Dw i ddim yn meddwl bydd y torfeydd yn llifo hyd yn oed i’r Commodore yn Aberystwyth i weld ffilm am agwedd yr AC lleol Nick Bourne tuag at doriadau ei blaid yn Llundain ond roedd yn bwnc trafod digon difyr yn y briffing wythnosol heddiw.

Fe gyfeiries i chi at flog Jonathan Morgan i ITV wythnos diwethaf. Holi Bourne o’n i bore ma wedyn i weld os oedd e’n cytuno â”i feinciwr cefn bod angen i’r Ceidwadwyr Cymreig wrthryfela yn erbyn y glymblaid o dro i dro. Yn ddi-daro bron, dywedodd Bourne wrth gwrs y dylid brwydro dros Gymru pan fo penderfyniadau annheg neu anghymesur yn yn cael eu gwneud.

 ”If there are issues which have a particularly major Welsh dimension to them like S4C, like the passport office it is very clear we will fight for Welsh interest and the interest of the constituencies and regions we represent and the national interest of Wales…. That is the Bourne Doctrine on the cuts.

Doedd Kirsty Williams ddim mor gyfforddus yn ymateb i awgrymiadau y dylai hi fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig roi pellter rhynddi hi a phenderfyniadau’r glymblaid. Er bod y cyhoeddiad am y swyddfa basport yng Nghasnewydd yn ddigon drwg, mae adroddiad Browne ar ffioedd dysgu yn ddamniol i blaid sydd wedi ennill aml i etholaeth ar ei record yn cefnogi myfyrwyr -cofiwch y mwyafrif swmpus Ceredigion yn San Steffan a’u rheolaeth o Ganol Caerdydd yn San Steffan a Bae Caerdydd. Roedd Kirsty Williams yn mynnu amddiffyn ei chyd-bleidwyr er y gallai eu polisiau niweidio gobeithion y blaid Gymreig yn etholiad y Cynulliad.

I have always made it clear what my approach will be. I spelt that out quite clearly in my speech to the federal conference. I think there are things that the coalition government are doing that are making a difference in Wales. I also understand that the government has been left with a terrible legacy and my colleagues in London are having to make very very difficult decisions, decisions that in many ways they do not like having to make….As I said quite clearly in Liverpool if I feel Wales is not being treated equitably and fairly, if we’re having to pay more of a price for the Labour legacy, my job is to stand up for Wales in a way the Labour party in this assembly never did for the 11 years when they had their own collagues in power in London. I will not be a nodding dog, I will speak up.

Efallai wrth gwrs nad anghyfforddus oedd hi am sefyllfa’i phlaid ond yn hytrach sylwadau Bourne ei bod nhw ill dau yn gysur i’w gilydd wrth i gyhoeddiadau annifyr ddod i’r amlwg. “We buoy each other up” oedd ei union eiriau.

Es i ddim i glywed rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Cwnsler Cyffredinol John Griffiths bore ma, ond rwy’n cael ar ddeall bod unig bwynt diddorol y gynhadledd yma. Fe fydd arbedion mawr cael pleidlais Ie yn rhan fawr o’r ymgyrch ie, ond pwy a wyr pryd fydd honno’n dechrau.  Yr anhawster presennol yw rheolau’r Comisiwn Etholiadol sy’n golygu na fydd arian swyddogol yn cael ei ryddhau i ymgyrchoedd y ddwy ochor tan fis Ionawr. Yn ôl Bourne bore ma mae’r pedair plaid yn cael hewl arni yn eu cyfarfodydd wythnosol o drafod yr ymgyrch ond dim smic o hyd pryd fydd yr ymgyrch yn dechrau ar lawr gwlad.

Cymhlethdodau etholiadol

Cyhoeddwyd Gorffennaf 5, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr Cymreig, Refferendwm AV, Refferendwm Datganoli

Mae pawb yn gwybod y bydd refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad cyn diwedd Mawrth 2011. Mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud. Mae Nick Bourne, arweinydd y grwp Ceidwadol yn y Cynulliad yn ffafrio refferendwm yn gynnar yn y mis ac i fod yn cyfarfod â’r Ysgrifenydd Gwladol heddiw i’w hannog i wthio etholiad y Cynulliad mlaen i Fehefin 6 i sicrhau digon o amser rhwng canfasio ar y ddwy bleidlais wahanol. Mae hawl ganddi hi i wneud hyn yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod Nick Clegg yn sôn am gynnal refferendwm ar newid y system bleidleisio ar Fai 6 hefyd, mae Bourne yn meddwl bod hyn yn fwy o reswm byth i wthio etholiad y Cynulliad mewn i fis Mehefin. Fydd e ddim yn hapus felly gyda sylwadau Jonathan Morgan AC yma. Bydd e’n hapusach gyda sylwadau Glyn Davies AS sbo.

Difyr (ond cwbl amherthnasol) bod y ddau wleidydd wedi’u cysylltu â sibrydion o fiwtini yn erbyn Nick Bourne ar ryw adeg neu’i gilydd.

DIWEDDARIAD: Mae Kirsty Williams newydd gyhoeddi mewn datganiad nad yw hi’n cytuno â chynnal tair pleidlais o fewn pedwar mis a bod dim problem gyda chynnal refferendwm AV yr un pryd ag etholiad y Cynulliad. Nick Bourne mewn man go unig felly.

Hyn a'r Llall

Rhiannon Michael sy’n edrych ymlaen i’r holl wleidyddion gyrraedd yn ôl i Fae Caerdydd…

Wrth i’r haul wenu’n braf tu allan mae’n anodd iawn eistedd mewn swyddfa hanner gwag yn y Cynulliad yn ewyllysio i rywbeth ddigwydd. Mae’n hanner tymor, y gwleidyddion i gyd ar eu gwyliau yn gweithio yn yr etholaeth neu’n lawnsio hyn a’r llall yn eisteddfod yr Urdd a’r Gelli. Fel arfer, mae’r undonedd wedi hen ddechrau ar ol i’r ACau fynd adref wedi cyfarfodydd y dydd Iau. Ond ddim tro ma.

Yn gynnar fore Iau dechreuodd y sibrydion bod Carwyn Jones wedi gwneud ei benderfyniad ar ad-drefnu addysg Treganna -a’i fod wedi penderfynu gwrthod cais Cyngor Caerdydd i gau Lansdowne a symud Treganna i’w hadeilad nhw. Cue ymateb gwyllt a chandryll gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o’r Cyngor, rhieni Treganna, Cymdeithas yr Iaith a hyd yn oed Dafydd Wigley ar un llaw a dathlu a llongyfarch gan rieni Lansdowne a chynghorwyr Llafur Caerdydd ar y llaw arall. Roedd galwad am chwalu’r glymblaid ar un adeg ond fel y gwelwch chi’n Golwg wythnos yma, fydd hynny ddim yn digwydd.

Cyffro arall nid annisgwyl oedd clywed ddydd Gwener bod Alun Cairns yn gorfod aros fel AC. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig ei angen yn y siambr mae’n debyg. Eglurhad arall, nad yw’r Ceidwadwyr yn fodlon ei drafod, yw bod Chris Smart yr un fyddai’n cymeryd ei le, yn gymeriad nad ydyn nhw eisiau ei ryddhau ar y cyhoedd Cymreig. Byddai’r ffaith bod Alun Cairns am wrthod y traean o gyflog y gallai dderbyn fel AC sydd hefyd yn AS yn awgrymu hynny.

Tipyn bach mwy o syndod yw bod Mike German yn mynd. Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad wedi cael arglwyddiaeth yn y breintiau gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Ei wraig, Veronica German fel yr ail ar restr y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nwyrain De Cymru fydd yn cymeryd ei le. Dim son am wasanaethu dau feistr gan blaid y sandal-garwyr felly. Difyr.

Ond ar ol dod nol i’r swyddfa wedi gwyl banc y Sulgwyn, doedd dim mwy o gyffro ym Mae Caerdydd. Mae’r gwleidyddiaeth i gyd yn digwydd draw yn y Steddfod a’r Gelli yn yn ôl yr arfer. Heddiw mae Jane Davidson yn egluro i’r Gelli pam ei bod hi am godi 7c am fagiau plastig. Draw fan hyn, un e-bost diddorol sydd wedi glanio drwy’r dydd. Mae cynghorwyr Llafur yn gandryll gyda’r cyn-gynghorwr Llafur sydd bellach gyda Phlaid Cymru, Neil McEvoy oherwydd ei lif o ddicter yma. Mae’r datganiad ddaeth ar e-bost gan y cynghorwyr Llafur yn neges Daran Hill ar y gwaelod.

Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yr holl ddatganiadau wnaed wythnos diwethaf wedi dod pan ddaethon nhw. Mae’r gwleidyddion yn gobeithio bydd pob cyhoeddiad yn angof erbyn i bawb ddychwelyd ddydd Llun. Rwy’n ffyddiog y bydd sawl cwestiwn diddorol ganddom ni hacs yn y sesiynau briffio ddydd Mawrth a phwy a wyr beth fydd y gwleidyddion crac yn gofyn yn sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y siambr. Edrych mlaen!

Aros mae…

Rhiannon Michael sy’n gofyn pam bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Alun Cairns aros yn ei sedd…

Addawodd Alun Cairns y byddai’n ymddiswyddo fel AC pe bai’n cael ei ethol fel AS. Ar Fai 6 ennillodd yr etholiad i gynrychioli Bro Morgannwg ar ran y Ceidwadwyr. Doedd ei blaid ddim yn hoff o’r syniad o’i golli o’r Cynulliad am mai AC rhestr yw Cairnsy, ac yn wahanol i pan fydd AC etholaeth yn ymddiswyddo, does dim is-etholiad, mae’r ail ar y rhestr ranbarthol yn cymeryd y sedd yn awtomatig.

Oherwydd ei gefndir lliwgar, doedd y Ceidwadwyr ddim am i’r ail ar ei rhestr yn rhanbarth Gorllewin De Cymru -Chris Smart -gael y swydd. Dim syndod felly bod pwyllgor rheoli’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Alun Cairns i aros fel AC, ar waethaf ei swydd newydd yn Llundain. Dyma’r datganiad gan lefarydd ar ran y Bwrdd Rheoli:

The Board has considered Alun Cairns’ offer to resign as the Assembly Member for South Wales West and has resolved to ask Alun to carry on in his role until the next Assembly election. No further comment will be made on this matter.”

A dyma ymateb Alun Cairns i’r sefyllfa, unwaith eto gan lefarydd:

Alun has respectfully accepted the Board’s decision and has previously advised the Assembly’s Fees Office that he will not be taking a salary for his work as an AM. No further comment will be made on this matter.

Bu cryn holi ar y mater yma yn sesiwn friffio’r Ceidwadwyr ddydd Mawrth. Y cwestiwn mwyaf diddorol oedd pam fod Alun Cairns wedi cynnig ei ymddiswyddiad i’r Bwrdd Rheoli yn hytrach nag i’r Comisiwn. Fu Mohammed Ashgar ddim mor foesgar ag egluro’i benderfyniad wrth Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru pan groesodd y llawr i ymuno â’r Ceidwadwyr. Wrth reswm byddai’r Pwyllgor Gwaith wedi mynnu ei fod yn ymddiswyddo, gan mai sedd restr Plaid Cymru yw sedd Oscar. Dim rhyfedd fod y ddau ddatganiad yn dweud na fyddan nhw’n cynnig sylwadau pellach ar y mater.