Cynyddu maint testun

Golwg360

Clod i Kempf

Cyhoeddwyd Tachwedd 24, 2010 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Adolygiad, Celfyddydau, Cerddoriaeth

Malan Vaughan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Venue Cymru ddydd Sul…

Fe ddechreuodd cyfres cyngherddau clasurol  Venue Cymru ddydd Sul gyda rhaglen gyffrous gan un o brif gerddorfeydd Awstria, Cerddorfa Mozarteum Salzburg dan arweiniad Ivor Bolton a’r pianydd rhyngwladol, Freddy Kempf.

Roedd yna hefyd gyfweliad gyda’r pianydd cyn y perfformiad. Roedd o’n gyfle gwych i ddysgu mwy am Kempf – un o bianyddion amlycaf Ewrop heddiw. Ac er mor ddifyr y sesiwn a’i sylwadau, gresyn oedd gweld cyn lleied yno – criw o thua 50 yn un o ystafelloedd darlith theatr Venue Cymru – a llawer llai o Gymry ymhlith y criw hwnnw.

Dewis a dalodd

Roedd Symffoni rhif 2 opus 61  gan Robert Schumann yn C fwyaf yn ddewis dewr i ddechrau’r rhaglen – ond yn ddewis a dalodd ar ei ganfed. Mae Schumann yn un o gyfansoddwyr mawr y 19eg ganrif ac mae’r symffoni hon yn un o’m hoff ddarnau gan y cyfansoddwr – er nad yw’n ffefryn traddodiadol. Fe gafodd y symffoni ei hysgrifennu gan Schumann pan oedd yn isel ei ysbryd. Mae’n ddarn sy’n tynnu ar amrywiaeth helaeth o emosiynau tywyll ac yn darlunio anrhefn feddyliol Schumann yn ystod y cyfnod iddo’i hysgrifennu.

O’r bar cyntaf – roedd perfformiad y gerddorfa yn un gafaelgar a’u harddull perfformio yn ddwys, egnïol a sionc yng nghymalau ysgafnach y darn. Doedd dim byd statig am ymarweddiad y gerddorfa  ar y llwyfan. Nid sefyll fel delwau  llonydd, diserch yn perfformio darn yr oeddent wedi’i ddysgu eisoes oeddent (fel y gwelwch mewn ambell gerddorfa!). Ond, roedd pwyslais amlwg yma ar weithio gyda’i gilydd a chyd-symud.

Mae symudiad cyntaf y symffoni – Sostenuto Assai – allegro ma non troppo yn dechrau’n ddwys ei naws ac roedd ing y cyfansoddwr i’w glywed yn glir yng nghymalau cyfoethog y gerddorfa. Cafwyd dechrau tywyll i’r chorale pres araf yn y dechreuad cyn i’r symudiad cyntaf ddatblygu’n Sonata-Allegro aflonydd. Rwy’n teimlo fod y gerddorfa hon ar ei gorau wrth chwarae cymalau egnïol a bywiog fel y cafwyd yn y symudiad cyntaf a’r ail symudiad Scherzo Allegro Vivace sy’n fwy chwareus ei naws.

Ond i mi, fe ddaeth y brif  her nid ym mwrlwm yr Allegro ond yng ngwrthbwynt symudiad tri – Adagio Espressivo yn C leiaf.  Un o’r sialensiau mwyaf yma yw cynnal y cymalau galarus. Fe lwyddodd y llinynnau, oboau a chlarinetau wneud i hyn ymddangos yn gwbl rwydd. Camp yn wir! Dyma ddarn a hoeliodd sylw’r gynulleidfa ac a ddangosodd Schumann yn ei holl ddyfnder.

Aeddfed a gostyngedig

Yn ail ac yn ganolbwynt annisgwyl i’r gyngerdd  oedd Concerto Piano Rhif 23 yn A fwyaf K488 (1786) gan Wolfgang Amadeus Mozart gyda Kempf yn unawdydd piano.

Fe chwaraeodd Freddy Kempf y darn hwn am y tro cyntaf  pan yn ddim ond yn naw oed – ac mae wedi parhau i’w berfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd dros y ddau ddegawd diwethaf . Mae’r concerto hwn yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Mozart  – felly mae gofyn peth dychymyg i wneud cyfiawnder ag o, gan fod cymaint o ddehongliadau tebyg eisoes yn bodoli sy’n efelychiadau gwael o waith pianyddion enwog y gorffennol.

Roedd dehongliad Kempf o’r gwaith yn aeddfed  a’i ymarweddiad yn ostyngedig. Roedd yn meddu  ar arddull berfformio Ewropeaidd; arddull y daeth yn gyfarwydd â hi yn yr Almaen – lle mae’n  cadw perthynas glos ag arweinydd yr ensemble wrth ddehongli’r gerddoriaeth. Yn hytrach na phennu ei ddehongliad ei hun gan adael i’r gerddorfa chwarae ar wahân yn y cefndir. Fe wnaeth y berthynas glos hon rhwng Kempf a’r arweinydd o Loegr sicrhau perfformiad ffres a digymell, llawn cyffro o hen ffefryn. Roedd yr amrywiaeth yn nhôn ei chwarae yn drawiadol ac ar brydiau roedd nodau  uchaf y piano’n meddalu’n unsain gyda gweddill y gerddorfa.

Ar y gorau, mae cerddoriaeth piano  Mozart yn noeth ac agored yn erbyn sain cerddorfa – ond fe ddefnyddiodd kempf y noethni hwn i’w fantais gan roi perfformiad sensitif o glasur. Braint o’r mwyaf oedd cael mwynhau’r dehongliad arbennig hwn gan Freddy Kempf a’r ensemble o Salzburg – lle ganwyd Mozart ei hun.

I gloi’r cyngerdd – cafwyd Symffoni rhif 41 gan Mozart neu’r Jupiter fel y caiff ei hadnabod. Dyma ddarn ysblennydd sy’n dangos y cyfansoddwr a’i allu ar ei orau – er na lwyddodd y perfformiad heno i fy nghyffroi gymaint â’r concerto blaenorol. Er hyn, roedd gallu  Bolton i weu’r  themâu cymhleth tua’r diwedd yn gelfydd a’r coda ffiwgaidd nodedig yn dod â’r gwaith i uchafbwynt cadarn.

‘Cawr’

Fe ddywedodd Kempf yn y sesiwn holi ar ddechrau’r noson mai un o’i brif ddylanwadau ar y piano oedd y cawr o bianydd virtuoso Rwsiaidd, Vladimir Horowitz.

Ond, nid adlais o ddehongliad Horowitz  o Goncerto piano rhif 23 gan Mozart oedd yn llenwi theatr Llandudno nos Sul – ond mwynder teimladwy dehonglwr anturus sy’n prysur dorri ei gŵys ei hun.

Does dim yn sicrach yn fy meddwl – bydd  Kempf, fel Horowitz  – rhyw ddydd – yn siŵr o ddatblygu’n gawr ei hun.

Adolygiad Cwrw, Chips a Darlith Deg

Cyhoeddwyd Hydref 12, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. 3 Sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Celfyddydau

Myfyrwraig yn Aberystwyth, Miriam James sy’n adolygu drama gomedi newydd Theatr Arad Goch…

Fel myfyrwraig, apeliodd y ddrama yma ataf o’r cychwyn cyntaf gyda’r teitl hwyliog ‘Cwrw Chips a Darlith Deg’.  Profiad newydd i mi oedd gweld drama un-dyn ac felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y byddai’n gweithio.  Drama gomedi yw hon am y glas-fyfyriwr –Gary Jones –o’r cymoedd sy’n wynebu chwalfa emosiynol wrth fentro o’r nyth a byw bywyd annibynnol.  Wedi gadael yr ysgol, mae gan Gary Jones obeithion mawr ynglŷn â bywyd fel myfyriwr, ond mae’n cael tipyn o sioc wrth geisio ymdopi â’r her o setlo yn y Brifysgol yn ogystal â chymhlethododau bywyd adref.

Yn amlwg mewn drama un-dyn, mae’r ffocws i gyd ar yr unig gymeriad hwnnw a’i fywyd, ond cefais syndod mor dda yr oeddwn yn dod i adnabod cymeriadau eraill drwy ddynwaredu cofiadwy yr actor o’i deulu, ei ffrind gwladgarol ‘Glyn’, a rhai o ferched y coleg megis ‘Teleri, Eleri a Meleri’.  Elfen ddifyr iawn o’r ddrama oedd yr amrywiaeth o acenion y cymeriadau yr oedd Gary yn eu dynwared.

Er fod Gary yn profi nifer o wahanol emosiynau wrth i ni ddilyn ei dymor cyntaf yn y coleg, nid yw’r ddrama hon yn rhy ddwys, ond yn hytrach yn llawn hiwmor ysgafn sy’n peri i ni gydymdeimlo â chymeriad lletchwith Gary Jones.  Wrth i’r perfformiad ganolbwyntio ar un cymeriad, fe’m tynnwyd yn ddyfnach i’r ddrama wrth ddod i adnabod y cymeriad hwnnw, ac fel myfyrwraig fy hun, gallwn ddeall Gary a’i brofiadau er nad oeddent oll yn berthnasol i mi, diolch byth!

Roedd y set gredadwy gyda holl hanfodion bywyd myfyriwr- gwely, desg, pot noodle, poteli cwrw, a’r coffi yn ychwanegu at y ddrama, ac roedd annibendod yr ystafell yn cyd-fynd ag anhrefn bywyd Gary.  O’r un ystafell fechan hon, portreadwyd yn glyfar amryw o storïau a sefyllfaoedd ei fywyd yn y Brifysgol. Mae’r ddrama’n agor gyda’r cymeriad yn hanner codi hanner syrthio allan o’i wely a’i ben i waered, yn gwisgo adenydd tylwythen deg!  Ceir ambell elfen swreal sy’n ychwanegu at hiwmor y ddrama a sy’n cyfleu ei brofiadau gwallgo’.

Tyfu’n oedolyn, a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda hynny, yw thema ganolog y ddrama.  Mae’r hiwmor yn y ddrama yn cael ei ddwysau gan y ffaith fod Gary yn unigolyn uchel ei gloch, ac er y ddelwedd galed, gwrol mae’n rhoi i ni, mae’r straen o setlo yn y coleg a phroblemau adref yn pwyso arno, a thrwy hyn gwelwn ochr dynerach i’w bersonoliaeth wrth iddo deimlo hiraeth am ei deulu a theimlo tosturi dros ‘Mari Monster’.

Nid drama sy’n procio na phryfocio yw hon, ond yn hytrach perfformiad sy’n rhoi gwen hapus ar wyneb y gynulleidfa, gyda’r boddhad o wybod fod Gary Jones wedi goroesi tymor cyntaf yn y coleg.

Dere draw i Gymru, Bilbo!

Cyhoeddwyd Medi 27, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Celfyddydau, Y Cyfryngau

Ifan Morgan Gimli Jones sy’n dweud y byddai Cymru’n falch o gael The Hobbit…

Mae pawb sy’n fy nabod i’n gwybod fy mod i wrth fy modd gyda llyfrau JRR Tolkien, The Lord of the Rings. Yn ogystal a chasgliad llawn o’i ysgrifau mae gen i DVDs estynedig pob un o’r ffilmiau a, rhaid cyfaddef, sawl cleddyf gafodd eu defnyddio yn y ffilmiau hefyd…

Beth bynnag, daeth i’m sylw heddiw bod ffilm The Hobbit, sy’n seiliedig ar nofel gyntaf JRR Tolkien am fyd The Lord of the Rings, wedi mynd i drafferthion. Mae’r cynhyrchwyr wedi bod yn ffraeo gydag undeb actorion o Awstralia sydd eisiau galw boicot ar y ffilm. Pen draw hynny ydi bod y cyfarwyddwr, Peter Jackson, wedi bygwth symud y cynhyrchiad cyfan o Seland Newydd, lle y cafodd y ffilmiau gwreiddiol eu creu, i Ewrop.

Dyma gyfle euraid i Gymru! Wedi’r cwbl rydan ni eisoes wedi llwyddo i ddenu ffilm Russel Crowe, Robin Hood, y ffilm Harry Potter diweddaraf, The Deathly Hallows, yn ogystal ag un o ffilmia mawr Hollywood eleni, Clash of the Titans, i Gymru. Roedd y ffilmiau Lord of the Rings gwreiddiol yn hwb rhyfeddol i dwristiaeth Seland Newydd, ac fe allai The Hobbit wneud yr un peth i’n gwlad ni. Does dim dadlau fod gyda ni’n tirwedd i ail greu bryniau tonnog Hobbiton a’r Shire (Ceredigion), mynydd y draig Smaug (yr Wyddfa), a’r frwydr tyngedfennol rhwng yr Orcs a’r Corrachod (maes Caernarfon ar nos Sadwrn).

Felly dewch yn eich blaen, Llywodraeth y Cynulliad. Os allech chi wario miloedd ar ddenu rownd o golff i Gymru dwi’n siŵr y gallech chi dynnu eich llyfr siec allan ar gyfer un o gampweithiau JRR Tolkien. Dyma fy nghyfle olaf i fyw fy mreuddwyd o gael bod yn un o arwyr ‘Middle-Earth’. Efallai nad ydw i’n ddigon golygus i fod yn Elf, ond gyda’r trwyn sydd gen i rydw i’n meddwl y byddwn i’n gwneud Corrach da*!

(*Cyn i chi ddadlau fy mod i’n 6’2”, ac felly’n rhy dal i fod yn gorrach, alla’i gyfeirio at y ffaith bod prif gorrach y ffilm cynta’, John Rhys Davies, yn 6’1”, ac wedi ei leihau mewn maint ar y sgrin trwy waith twyllodrus y cyfrifiadur.)

Adolygiad Gadael yr Ugeinfed Ganrif

Cyhoeddwyd Awst 5, 2010 gan Non Tudur. 2 Sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Celfyddydau

Non Tudur, gohebydd celfyddydol cylchgrawn Golwg, sy’n adolygu Gadael yr Ugeinfed Ganrif gan Gareth Potter yn Institiwt Glyn Ebwy…

Pan oedd yr Eisteddfod ym Mhorthmadog yn 1987, mi wnes i fentro i gig y Traddodiad Ofnus a’r Cyrff yn y Coliseum yn y dre, a minnau ond yn dair-ar-ddeg oed. Mentro i ganol torf ddrygionus, meddw, lac ei thafod, a minnau yn sobor fel seintes. Roeddwn wedi mynnu cael mynd, a daeth fy ewythr druan i’m nol i ar y dot am ganol nos. Roedd yn rhaid i mi fod yno, a diodde gwg fy nghyfoedion a oedd wedi dewis mynd i gyngerdd Huw Chiswell yn rhywle, ac yntau’n torheulo yn llwyddiant ffilm Ibiza Ibiza ar y pryd ac yn eilun i lu o ferched yr un oed a mi.

Rwy’n diolch i ‘mrawd hŷn a’m cefndryd am y wybodaeth gyfrin a gefais yn ifanc am y ‘sin gerddoriaeth danddaearol’ a oedd wedi bod yn mudferwi ers dechrau’r 1980au. Roedd fy mrawd wedi bod mewn sawl grwp electronig – o dan ddylanwad meistri’r ymylon tywyll fel Kraftwerk, Joy Division, New Order ac eraill – ers ei fod yntau’n dair-ar-ddeg. Cefais docyn mantais i’r byd hwnnw fel petai.

Mi ddigwyddodd rhywbeth i mi y noson honno; taniodd ynof i ryw gariad at y gerddoriaeth anturus yma. Roedd yn fyd ei hun, yn ogof ddofn o bobol feiddgar, creadigol a chyffrous.

O wybod ychydig felly am gefndir sioe Gareth Potter yn Steddfod Glyn Ebwy eleni, Gadael yr Ugeinfed Ganrif (Sherman), roeddwn i eto am fynnu bod yno. Fel ym Mhorthmadog, mi eisteddais i lawr yn dawel, ond yn gegrwth. Roeddwn y tro hwn yn llawer mwy gwybodus ac yn llawer hŷn.

Mae Gareth Potter wedi sgrifennu a chynllunio drama, sioe, darlith neu pwy-a-wyr be’, sydd hefyd gofnod hanesyddol, gwiw o gyfnod pwysig yn y bywyd diwylliannol y Gymru gyfoes.

Mae e yn dechrau â’i blentyndod yng Nghaerffili, a’r dylanwadau a’i denodd at y synau beiddgar newydd oedd yn hawlio sylw trwy Brydain yn ystod y 1970au. Un o’r dylanwadau hynny oedd Mr Moi Parri, ei athro yn yr ysgol gynradd, a blesiodd y Potter wyth oed trwy chwarae caneuon roc y Trwynau Coch, Edward H Dafis a Bran yn y stafell ddosbarth: “roedd Mr Parri yn cool.”

Mae e’n cofio’r Sex Pistols yn dod i’r dre a fynte’n rhy ifanc i gael mynd, ond mi adawodd y pyncs anystywallt eu marc ar y dre’, ac arno yntau. Ac ennill cystadleuaeth bandiau Yr Awr Fawr gyda’i grwp Clustiau Cŵn a chael ei flas cynta’ ar fod yn seren roc a rol yn 14 oed.

Mae’r actor yn cyflwyno’r cyfan hyn trwy adrodd yr hanes yn ddigon syml, yn adrodd i ni’r holl fanylion, ond mae ymhel o fod yn ddiflas. Weithiau mi aiff at y meic, a chanu i gyfeiliant y trac sain o ganeuon ei orffennol. Mae can Clustiau Cŵn, ‘Byw yn y Radio’, yn swnio yr un mor gyfoes heddiw ag erioed yn enwedig y llinell glo, ‘Cysgu pan mae’r rhaglen yn gorffen’. (Mi soniodd ar ol y ddrama ei fod yn bygwth dod â Clustiau Cŵn nol at’i gilydd i whare gig ym Merthyr y flwyddyn nesa’. Dyna fyddai profiad.)

Rydyn ni’n aeddfedu gydag e wrth i’r sioe fynd rhagddi. Rydyn ni’n deall ei awch wrth iddo fentro gyda’i fet bore oes, Mark Lugg, lawr i Brighton yn 17 oed, a’u grwp newydd, arbrofol Traddodiad Ofnus yn cael croeso fanno a chan label recordio Almaenig o Berlin o bobman.

I mi, y nhw oedd un o fandiau mwya’ dylanwadol diwedd y ganrif ddiwetha’, yn defnyddio peipiau, clychau gwartheg, caeadau bin i gyfeilio i wylofain tywyll, pigog Potter a dryms bachog Spode. Daethon nhw i Steddfod Llambed a pheri i olygydd y cylchgrawn Sgrech boeri ei wawd yn ddiamynedd yn rhifyn ola’r cyhoeddiad, am eu hyfrda a’u swn dieithr. “Dyna oedden ni eisiau. Ymateb!” gwaedda Potter o’r llwyfan, yn llawn balchder.

Y peth sy’n eich taro wedi’r sioe yw cymaint y mae Potter wedi’i weld, ei glywed a’i wneud yn ystod ei fywyd. Yn cynllwynio dros gasetiau gyda Rhys Mwyn a recordiau Anhrefn, yn trafod ffilmio gyda Geraint Jarman adeg Fideo 9, mentro i fyd acid house yn ei ugeiniau hwyr, yn tynnu to pafiliwn Bont i lawr adeg Eisteddfod Aberystwyth yn ’92 gyda Tŷ Gwydr a’u cyfeillion, a rhannu ty a spliffs gyda’r Cerys Matthews ifanc a’i chymar Mark Roberts o’r Cyrff.

Ond mae’r cyfan yn cael ei adrodd yn ddidwyll a hoffus. Un sy’ wedi bod yn gweld y sioe yw’r gantores Heather Jones, a fu’n ddylanwad ar y Potter ifanc, ac mae ei lluniau hi ymysg y myrdd o doriadau papur newydd a ffotograffs sy’n cael eu taflunio ar y wal tu ol i’r actor.

Mae yna ambell brofiad dadlennol am y perfformiwr. Dywed sut y teimlodd ar ol gadael y bands; un o’r pwysica’, a’r byrhoetlaf ohonyn nhw, oedd Pop Negatif Wastad a greodd gydag Esyllt Wigley o Aberystwyth. Fe wnaethon nhw un record arbennig – nad yw’n cael ei chwarae byth ar y cyfryngau – y mae’n ei chwarae ar ei hyd yn y ddrama. Mae e’n esbonio iddo adael cartre’u cyfaill Alan Holmes yn Sir Fon ar ol mynd i gasglu pentwr o’r recordiau, wedi noson ar y siampen, a gyrru am oriau, cyn cyrraedd pellafion Dinas Mawddwy, a dechrau crio. Ni ddychwelodd i’r tŷ yn Sir Fôn, nac at y band ac Esyllt, ac ni siaradodd y ddau am flynyddoedd. Mae e’n dawel am ennyd, yn gwrando ar y gan.

Dro arall mae’n cyfleu ei rwystredigaeth o gael ei ddiarddel o Traddodiad Ofnus gan Lugg a Spode, er mai fe oedd y saer geiriau, y crewr syniadau, yr un a fyddai’n trefnu. Mae’n amlwg bod hwnnw wedi bod yn siom ar y pryd.

Ond mae hi hefyd yn stori am gyfnod pwysig yn hanes diwylliant y genedl – mae hi’n fwy na sioe am greisis a grwpiau. Mae hi’n stori am genedl yn adennill ei thir a’i llais wedi iddi ddweud ‘na’ i refferendwm yn ’79, nes dweud ‘ie’ yn 1997. Mae’r actor yn dweud yn dyner falch tua’r diwedd mai ‘y nhw’ – nid dim ond fe a Lugg, ond yr holl sin herfeiddiol, newydd yma – a ddylanwadodd ar eraill i dorri’n rhydd a chodi’u llais. A hyn yn y pen draw, meddai, arweiniodd at y ffenomenon ‘Cool Cymru,’ yn hela Catatonia at frig y siartiau a Super Furries ledled y byd, a gwneud Cymreictod yn beth cŵl.

Mae’r Sherman yn gobeithio y bydd y sioe yn mynd ar daith yn nes ymlaen eleni, os bydd nawdd ar gael. Gobeithio wir – mae eisiau i dorf y tu hwnt i ffans sobor y Traddodiad Ofnus gael ei gweld.

Yr awdur lluniau Marian Delyth?

Cyhoeddwyd Mehefin 22, 2010 gan Gwion Hallam. 1 Sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Celfyddydau, Llyfr y Flwyddyn

Gwion Hallam, awdur blog Pethe, sy’n gofyn a ddylai gwobr Llyfr y Flwyddyn fod yn canmol ffotogrraffwyr hefyd…

Mae’n rhaid llongyfarch gwasg Y Lolfa am ei llwyddiant ysgubol yn Y gystadleuaeth eleni. Efallai bod yna gystadleuaeth fach arall yn Ne Affrica sy’n mynnu sylw rhai ar hyn o bryd, ond i awduron a gweisg – a darllenwyr o bosib – mae yna ‘gêm’ sy’n bwysicach o lawer. Gwobr llyfr y flwyddyn yw honno wrth gwrs, a’r gôl i’r chwaraewyr yw cipio’r brif wobr a rhwydo’r deg mil o bunnoedd. Er nad yw’r enillydd am gael ei gyhoeddi tan ddiwed y mis, y gwir amdani yw bod y Lolfa wedi cyflawni hat trick yn barod. Pa bynnag lyfr sydd am ennill, mae gwasg Y Lolfa wedi ennill yn saff! Achos y nhw sydd pia’r dair gyfrol sydd ar ôl yn y ras.

Banerog, cyfrol gyntaf unigol o gerddi gan y prifardd ifanc Hywel Griffiths;

Naw Mis, nofel ddiweddaraf cyn-enillydd y wobr Caryl Lewis;

Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw y llyfr taith i’r bwrdd coffi (mawr iawn!) gan yr hanesydd John Davies a’r ffotograffydd Marian Delyth.

I barhau â’r trosiad pêl droed (nes ei ladd yn llwyr!) yr hyn sy’n gwneud yr hat trick yma’n un arbennig o ddisglair yw bod y ‘goliau’ – neu’r llyfrau – mor amrywiol. Yn profi bod y Lolfa, fel gweisg eraill wrth gwrs, yn gallu llwyddo ym mhob arddull. Yn gallu sgorio o bob rhan o’r cae. Pen tost i’r beirniaid efallai yw’r amrywiaeth eang yma, ac mae’r ddadl ynglŷn â’r dasg amhosib – ac efallai annheg – o drio beirniadu’r holl lyfrau yn codi ei phen yn flynyddol. Sut wir y mae gwahaniaethu rhwng barddoniaeth a nofel? Neu gyfrol o straeon a beirniadaeth lenyddol? Fel un a gafodd y fraint o drio cyflawni’r dasg ‘amhosib’ yma – gan deimlo’n anghymwys iawn i wneud – rwy’n derbyn y farn honno i raddau. Ond ga i fentro barn arall ac awgymu mai’r amrywiaeth yn y llyfrau yw un o’r pethau gorau am yr holl gystadleuaeth. Mae’n ei gosod arwahân i gystadleuthau o’u bath ac mae yna rywbeth ‘pur’ a chyffrous, a phwerus o syml, mewn chwilio am yr un llyfr – y gorau ohonynt i gyd. (yn nhŷb y beirniaid wrth gwrs).

Yn ogystal â hynny rwy’n cofio teimlo ar y pryd fod yna bethau i chwilio amdanynt ym mhob ‘Llyfr y Flwyddyn’, beth bynnag ei fwriad neu deip. Bod rhaid i’r llyfr fy ysbrydoli; fy nghyffwrdd, neu fy symud i feddwl neu i deimlo i’r byw. I boeni neu i falio am y dweud neu’r syniadau, am y cymeriadau neu’r pwnc o dan sylw. Ro’n i’n chwilio am weledigaeth a fyddai’n wreiddiol neu’n ffresh. Am lyfr a fyddai’n safonol a chyhyrog ei iaith, ond a fyddai hefyd yn gadael argraff am oes. Disgwyliadau rhy uchel? Nid o ‘Lyfr Gorau’r Flwyddyn’ does bosib.

Un o’r pethau nad o’n i’n chwilio amdanynt fel y cyfryw oedd ffotograffau, neu unrhyw luniau o ran hynny. Sy’n dod â fi at gwestiwn sydd wedi pigo ambell i un y tro yma – gan gynnwys un o’r ‘awduron’ – llyfr gan bwy yw Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw mewn gwirionedd? Yr ateb cywir wrth gwrs yw ei fod yn lyfr gan ddau: John Davies a Marian Delyth. A bod y ddau felly’n haeddu eu canmol. Dyna’r ddau enw sydd ar y clawr. A dyna’r ddau â gafodd gomiswn i’w greu. Mae’n lyfr o ddau hanner felly (dim mwy!) gyda’r lluniau lawn mor bwysig â’r testun. Dyna pam y mae gen i gydymdeimlad mawr â Marian Delyth a’i sylwadau’n y Golwg cyfredol. Y cwestiwn amlwg felly, os braidd yn ddireidus, yw pwy ddylai dderbyn y wobr? Os mai gwobr llyfr ac nid awdur y flwyddyn yw hon mewn gwirionedd?

Ond tydw i ddim yn teimlo mor gryf â Sîon Jones, Castell Newydd Emlyn, a sgwennodd lythyr at Golwg yn dweud yr wythnos dwetha, “Mae’n gywilyddus fod John Davies wedi caniatau i’w enw fynd ymlaen heb sôn am Marian Delyth.” Ysgubol braidd yw’r gosodiad hwnnw . Fedra i ddychmygu John Davies yn ei ffordd hynaws arferol yn cydnabod pwysigrwydd y lluniau i’r gyfrol yn gyson a theg. Yn cydnabod mai cywaith yw’r gwaith. Mi ydw i yn deall ei ofnau serch hynny ac yn rhyw deimlo nad oes digon o sôn wedi bod am gyfraniad y ffotograffydd. Bod y lluniau’n cael eu hystyried bron fel rhywbeth ychwanegol i’r testun. I ddod yn ôl at y trosiad (blinedig!) pêl droed – mai dim ond ‘assist’ oedd y lluniau’n y gyfrol, er eu bod yn rhan mor hanfodol o’i llwyddiant. (sori!)

Ond eto, teg nodi mai gwobr lenyddol yw hon. Mae hynny’n reit glir ar wefan Academi ac yn amlwg ers dechrau’r gwobrwyo. Un peth yw gweld y lluniau’n derbyn cydnabyddiaeth a chlod, peth arall yw mater y wobr.

Pwt o stori i gloi. Ddwy flynedd yn ôl mi gyrhaeddodd casgliad o gerddi gan Iwan Llwyd y rhestr hir. Roedd Marian Delyth wedi cyfrannu lluniau i’r gyfrol – Hanner Cant - hefyd, a’r lluniau’n fwy o assist mewn gwirionedd i honno o bosib. Yn ôl y sôn, wedi iddo glywed fod y llyfr wedi cyrraedd y rhestr hir, y peth cyntaf wnaeth y bardd oedd cysylltu â’r ffotograffydd i sôn am eu llwyddiant ac i ddweud y byddai’n rhannu’r arian o ennill. Yn wahanol i’w gyfrol Dan Ddylanwad, (a oedd â chlawr wedi ei gynllunio gan Marian Delyth hefyd!) a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn iddo ym 1997, ni enillodd Iwan Llwyd y tro hwnnw. Efallai nad yw’n addas felly i grybwyll y peth, addewid oedd hynny a dim mwy. Ac nid awgrymu ydw i chwaith mai dyna’r hyn ddylid wneud y tro yma nac unrhyw dro arall. Ond â ni newydd ei golli, da cofio eto am Iwan. Am ei gerddi a’i haelioni a’i ddawn.

Fel ag y mae’n dda cofio am gyfraniad Marian Delyth i’w gyfrolau, ac i Wobr Llyfr y Flwyddyn cyn heddiw. Fel ei chyfraniad allweddol i gyfrol sydd unwaith eto ar y brig.

Llawenydd mawr yng Ngheredigion!

Cyhoeddwyd Mehefin 8, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Anwen Eleri, Celfyddydau, Ceredigion, Eisteddfod yr Urdd

Logo UrddFe basiodd wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am flwyddyn arall, ond bydd yr atgofion o haul a bwrlwm yn parhau’n hir i’r rhai a fu yn Llanerchaeron yr wythnos diwethaf.

Un a fu’n gweithio’n galed ymlaen llaw, ac ar y maes yw Swyddog Datblygu yr Urdd yng Ngheredigion, Anwen Eleri. Hi sy’n crynhoi ei theimladau am yr wythnos a fu…

Wedi wythnos wych a blynyddoedd o baratoi, mae’r Steddfod yng Ngheredigion wedi mynd a’n gadael ni. Rydym fel staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r mudiad ar goll heb y bwrlwm o baratoadau, heb ymarferion diri, heb gystadlaethau, heb y rhedeg o gwmpas o un peth i’r llall fel ffŵl dwl,  heb yr holl goch, gwyn a gwyrdd o’n cwmpas,  ac wrth gwrs heb yr haul tanbaid!

Fe fydd sawl peth yn aros yn y cof – y sioeau, yr oedfa,  y cystadlu, yr enillwyr lleol, y bwrlwm a’r gefnogaeth. Y môr o goch, gwyn a gwyrdd a’r hyd y sir a sut y daeth Ceredigion gyfan at ei gilydd i greu gŵyl lwyddiannus iawn yn Llanerchaeron – diolch i bawb.

Hoffwn ar ran Staff yr Urdd yn lleol a Phwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010, ddiolch o galon i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod yr wythnos a’r blynyddoedd cyn hynny wrth baratoi. Roedd yn wythnos ffantastig a chofiadwy iawn, a diolch i bawb fu’n rhan o’r broses ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd tuag at ei llwyddiant – diolch enfawr i bawb. 

Ma’r gwaddol o frwdfrydedd a chefnogaeth i’r Urdd yn parhau o hyd ac rwyf yn hynod falch o’r cyfle i weithio i fudiad sydd yn cynnig cymaint o brofiadau a chyfleoedd i’n haelodau. Yn sicr bydd Steddfod Ceredigion yn un i’w chofio i’n haelodau.

Gobeithio i bawb joio da’r Cardis!

Cerdyn aelodaeth i’r ‘Llwyth’

Cyhoeddwyd Mai 26, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Celfyddydau, Drama

Non Meleri Hughes fu’n gwylio Llwyth…

“Dwi ddim ‘di mynd mas i greu drama heriol o gwbl, ond dw i ddim ‘di cyfaddawdu ar beth ‘wy mo’yn sgrifennu.” – Dafydd James.

Hanes pedwar ffrind hoyw yw drama Gymraeg gyntaf Dafydd James. Derbyniodd ‘Y Llwyth’ ganmoliaeth uchel ac adolygiadau gwych, ac mae hi’n llawn haeddiannol ohonynt.  Dyma ddrama sy’n llawn themâu ac emosiynau y gall pob un ohonom uniaethu â hwy; yn bennaf, yr angen i berthyn.  O ganlyniad, mae’r ffaith eu bod yn bedwar dyn hoyw yn amherthnasol, bron.  Ac eto, dyma’r peth mwyaf perthnasol amdani.

Mwy…

Tân y Ddraig allan o bwff?

Cyhoeddwyd Mai 19, 2010 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Celfyddydau, Cerddoriaeth

Malan Vaughan Wilkinson sy’n gofyn a ydi Gŵyl y Feanol wedi newid ei chân…

Mae’r cyhoeddiad y bydd noson Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol eleni yn cynnwys bandiau Seisnig wedi troi’n dipyn o bwnc llosg.

Ers bron i ddegawd roedd y noson yn gyfle prin, tu hwnt i un wythnos ym mis Awst, i roi llwyfan i gerddoriaeth boblogaidd bandiau Cymraeg.

Roedd y noson wedi denu cynulleidfa ffyddlon sy’n cario ‘mlaen i fynychu’r ŵyl yn flynyddol (gan fy nghynnwys i!).

Serch hynny, mae rhai wedi croesawu penderfyniad y trefnwyr i ddarparu llwyfan i fandiau Seisnig er mwyn denu tyrfa newydd i weld bandiau Cymraeg.

Ond, mae eraill yn gofyn pam na gymerwyd y cyfle i arddangos rhai bandiau Saesneg gyda chysylltiadau cryf â Chymru – fel yr awgrymodd Arfon Wyn o fand y Moniars.

Draig digon llipa

O’m rhan i, mae’r cliw yn yr enw. Tan y Ddraig fydd enw’r noson o hyd. A heblaw eu bod nhw’n cyfeirio at ryw sarff Siapaneaidd, rwy’n cymryd mai at Gymru’n benodol y maen nhw’n cyfeirio.

Wrth gwrs bod angen sêr mawr rhyngwladol o Loegr a thu hwnt ar yr ŵyl ond dwi’n siŵr ein bod ni’n gallu llunio o leiaf un line-yp o’n talent ein hunain?

Dwi’n credu y byddai cynnwys bandiau o Gymru sy’n canu’n Saesneg, ac mae yna ddigon ohonyn nhw wedi gwneud eu henw’n fyd eang, wedi bod yn llwyddiant mawr.

Mae’n wrthun i mi fod rhaid i ‘wlad y gân’ fentro ‘allan’ i chwilio am fandiau pan mae’r genedl yn meithrin cyfoeth o dalentau ifanc, brwd a dwyieithog.

Dyma un noson mewn gŵyl benwythnos sy’n gyfle perffaith i Gymru ddangos i weddill y byd mor amryddawn yw ei cherddorion.

Datganiad ‘gwleidyddol’

Beth bynnag am Dân y Ddraig, beth oedd yn gadael y blas cas yn y geg go iawn oedd noson gyfan i ddathlu  ‘Pen-blwydd Brwydr Prydain’.

Mae pawb yn cefnogi ac yn parchu’r aberth a wnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond o edrych ar y line yp mae peryg i’r noson droi yn noson o bropaganda i frwydrau’r  presennol sydd dipyn mwy dadleuol.

Dwi’n credu y byddai noson o’r math yma yn tynnu’n groes i ddaliadau heddychlon a chenedlaetholdeb Cymreig y rhan fwyaf o drigolion y fro ble y bydd hi’n cael ei chynnal.

Wrth gwrs bod “croesawu pobl o bob cwr o Brydain” i “gornel o Gymru unwaith eto” yn bwysig, fel y mae Bryn Terfel eisoes wedi sôn.

Ond does dim pwynt eu gwahodd nhw draw i fwynhau line-yp y gallen nhw fod wedi ei weld yn Chesham.

Y pryder sydd gen i yw bod Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol wedi colli peth ar yr hyn oedd yn ei gwneud hi’n noson unigryw.

Cawn ni weld yn y man os ydi hi wedi colli blas ar ei Chymreictod ac yn canu rhyw gân arall bellach.

Anghofiwch Dryweryn?

Cyhoeddwyd Mai 4, 2010 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Celfyddydau

Malan Vaughan Wilkinson sy’n dweud bod wal Cofiwch Dryweryn yn fwy na charreg a phaent…

Ddydd Mercher diwethaf daeth i’r amlwg fod wal Cofiwch Dryweryn wedi cael cot newydd o baent – ond un nad oedd i’w chroesawu.

Mae sleifio allan fin nos ac adfer y wal gyda phaent newydd sgleiniog wedi mynd yn rhyw fath o ddefod i bobol ifanc yr ardal dros y blynyddoedd.

Ond yn anffodus nid adfer y neges wnaeth bwy bynnag baentiodd y wal dros nos, ond ei gorchuddio gyda graffiti diystyr.

Mae rhai wedi bod yn pwyntio bysedd ar-lein ac ymysg y rheini sydd wedi gwadu cyfrifoldeb mae Ifan Lewis, sy’n astudio celf yng Nghaerdydd.

Pwy bynnag oedd yn gyfrifol – ac rydw i’n drwgdybio nad oedd y person hwnnw yn ymwybodol o arwyddocâd y wal – roedd yr ymateb yn ddiddorol iawn.

Yn ôl Ifan Lewis: “Mae’n ddiddorol bod pobl yn teimlo eu bod nhw eisie darn bach o garreg a phaent i gofio Tryweryn.”

Yn fy meddwl i, mae’r digwyddiad wedi codi cwestiynau pwysig am safle a gwerth Celf yn ogystal â chof cenedl.

Er fy mod i’n deall egwyddor yr hyn mae’n ei ddweud, rydw i’n credu fod y wal yn fwy na “darn bach o garreg a phaent”.  Mae’n ddarn o Gelf sy’n ysbrydoli.

Ewyllys

Siawns nad oes angen unrhyw gofeb ar Gymry i gofio digwyddiad Tryweryn, erbyn hyn. Mae’r hanes hwnnw wedi’i wau yn ddwfn yn enaid bob Cymro neu Gymraes bellach.

Ond mae gan y wal a’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ arwyddocâd ehangach. Mae’n symbol artistig, gweledol o ewyllys y Cymry i nodi a symud ymlaen o’r digwyddiad a fu’n ergyd i gymuned Tryweryn a chenedlaethau o Gymry.

Yn hynny o beth mae’r wal yn debyg i garreg fedd. Dych chi ddim yn codi carreg fedd rhag ofn eich bod chi’n anghofio’r person gafodd ei gladdu – does dim siawns o hynny.

Mae’n arwydd gan deulu, neu gymdeithas, bod rhywbeth yn werth ei gofio. Ac fel arfer mae yna neges arno, ryw wers o fywyd yr ymadawedig i’r cenedlaethau ar ei ôl.

Roedd yr ymateb cyntaf glywais i i’r graffiti – ‘Does gan bobol ddim parch!’ – yn awgrymu hynny hefyd. Yn union fel pe bai carreg fedd wedi ei difetha gan fandaliaid.

Artistig

Pwy a ŵyr ai datganiad gwleidyddol oedd peintio’r graffiti newydd, datganiad artistig, ynteu weithred ddifeddwl gan fandaliaid?

Ond beth bynnag y sbardun – hyd yn oed gyda darlun aneglur, hyll o graffiti newydd ar hen eiriau ’Cofiwch Dryweryn’ – mae ystyr yr hen wal yr un mor gadarn ag erioed.

Mae’n profi bod y gelf fwyaf pwerus yn fwy na’i chyfansoddiad – carreg,  paent a phwt o graffiti.

Mae’r wal yn ddatganiad ynddi’i hun ac yn bwysicach na dim efallai, yn ysbrydoli – ‘Cofiwch Dryweryn.’

Yr hen hwch yn bygwth siopau llyfrau

Cyhoeddwyd Ebrill 2, 2010 gan Llinos Dafydd. Dim sylw.

Tagiau: Celfyddydau, Yr Economi

Llinos Dafydd, gohebydd gyda chylchgrawn Golwg, sy’n poeni am ddyfodol siopau llyfrau bychain Cymru …

Gyda phrynu ein llên dros y wê mor gyfleus y dyddiau yma, mae’n ddigon hawdd i golli nabod ar ein siopau llyfrau ni.

Un glic, ac mae gyda chi’r nofel yna ry’ch chi’n ysu am ei darllen yn eich basged siopa.

Efallai fy mod i’n euog am wneud hyn o dro i dro – ond rhanfwya’ o’r amser dw i’n mynd i’r siop leol, am fy mod i eisiau busnesa a gweld beth yw barn y siopwr am y nofel diweddara’ sydd wedi cyrraedd y silffoedd.

Mae newyddion heddiw bod perchennog Siop y Morfa yn y Rhyl yn rhoi’r gorau iddi yn un trist iawn.

Ond gyda siopau bychain fel hyn yn cystadlu gydag archfarchnadoedd mawrion pan mae’n dod at lyfrau a chrynoddisgiau, does dim gobaith.

Mae’n dda i weld y farchnad yn ehangu, a bod y cynnyrch yn cael ei werthu yn y siopa mawr – ond nid ar draul cau siopau sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd.

Peth braf yw medru cerdded mewn i siop llawn o lyfrau, cael wyneb cyfarwydd yno i gynnig arbenigedd neu farn ar lyfr.

Dy’ch chi ddim cweit yn cael y cyffyrddiad personol yna mewn archfarchnad.

Efallai bod eich Tesco neu eich Sainsbury’s yn fwy sgleiniog, a glan gloyw – ond mae yna hud yn perthyn i’r silffoedd pren, y sbec o ddwst, a’r rhesi di-ri o lyfrau yn y siopau bychain. Mae fel mynd i fyd arall.

Dw i ddim yn gwybod beth yw’r ateb go iawn – dim ond annog pawb i siopa’n eu siop lyfrau lleol.

Ond efallai, yn hytrach na gweld y we fel hen fwci, byddai modd i’r siopau hynny droi mwy at y rhyngrwyd, a chynnig gwasanaeth cludo i’w cwsmeriaid trwy greu wefannau deiniadol; neu drefnu mwy o ddigwyddiadau a fyddai’n denu’r werin datws i gamu i’w siopau.

A dw i’n gwybod o brofiad bod plant yn hoffi ymgartrefu mewn cwtsh bach i ddarllen y trysorau diweddara’.

Byddai’n braf gweld ardaloedd fel hyn ym mhob siop lyfrau, lle all y plant pigo llyfr i’w ddarllen, a physgota am ragor – gan obeithio y bydd y rhieni yn estyn am eu cardiau credit i dalu am lyfrau iddyn nhw a’u plant.

Gyda siopau llyfrau fel Siop y Morfa yn cau glep, mae rhan o’n hanes a’n diwylliant ni’n cael ei golli.

Dw i’n gobeithio na fydd yr un hwch yn bygwth mynd drwy siopau llyfrau gweddill y wlad.