Cynyddu maint testun

Golwg360

R.I.P. SRG – Rhan 2

Cyhoeddwyd Ionawr 24, 2011 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Cerddoriaeth

Dyma ail ran erthygl Owain Schiavone am y Sin Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg … mae’r rhan gyntaf fan hyn.

Tydi lleihad mewn gwerthiant cerddoriaeth ddim yn beth unigryw i Gymru – mae’r gallu i brynu cerddoriaeth mewn ffordd gwbl wahanol dros y we wedi newid y gêm yn gyfan gwbl. Y tu hwnt i’r sin Gymraeg, mae hyn wedi arwain at hwb a thwf yn y sin gerddoriaeth fyw. Mae pethau’n wahanol iawn gyda’r sin Gymraeg fyw sydd hefyd wedi dirywio’n ofnadwy.

Lle mae’r llwyfan?

Rydan ni wedi colli rhai o’r prif wyliau cerddorol mawr, ac er bod hynny wedi arwain at sefydlu rhai gwyliau bach newydd, ar y cyfan mae’n beth negyddol i’r sin. Mae gigs ar lawr gwlad yn brin iawn hefyd – y tu allan i Gaerdydd, heblaw am Dafarn y Gwachel ym Mhontardawe a gigs Dilwyn Llwyd yng Nghaernarfon, does ‘na ddim gigs Cymraeg rheolaidd gwerth sôn amdanyn nhw. Fedrai ddim cofio’r tro diwethaf i mi weld gig Cymraeg yn cael ei hyrwyddo yn Aberystwyth! Dwylo fyny, mae ‘na fai ar bobl fel fi (oedd yn arfer trefnu gigs rheolaidd) am beidio â mynd ati i drefnu gigs yn rhywle fel Aber. Tra bod problemau trefnu gigs yn Aber yn flog arall ynddo’i hun, y gwir amdani ydy fod trefnu gigs yn wirfoddol yn cymryd llawer iawn o egni ac amser ac mae blaenoriaethau pobl yn newid.

Rôl y cyfryngau

Ro’n i mewn cyfarfod agored a gynhaliwyd gan S4C yr wythnos diwethaf, ac wrth drafod un pwnc fe gododd rhyw hanner trafodaeth ymylol ynglŷn â rôl y cyfryngau yn y sin Gymraeg. Dwi wastad wedi credu mai rôl y cyfryngau ydy adlewyrchu’r sin yn hytrach na chreu’r sin. Er ei fod yn grêt i’r rhai oedd wedi llwyddo i gael tocynnau yn y Faenol, dwi ddim yn credu bod digwyddiadau fel Big Weekend Radio 1 sy’n cynnig tocynnau am ddim yn gwneud unrhyw ddaioni i wyliau eraill annibynnol sy’n trio gwerthu tocynnau i fod yn gynaliadwy. Mae’r cyfryngau’n hollbwysig i’r isadeiledd o ran hyrwyddo’r hyn sy’n digwydd, ac efallai fod angen i’w rôl nhw fod yn fwy uniongyrchol yng Nghymru, ond nid lle y cyfryngau ydy trefnu gigs. Wedi dweud hynny, mae gallu cyfrannau ‘facility fee’ bach am recordio gig i’w ddarlledu yn gallu bod yn hwb mawr i’r trefnwyr.

Mwy o nawdd cyhoeddus

Fe soniodd Dafydd Iwan mewn erthygl ar Golwg360 bod angen nawdd tebyg i’r hyn mae’r diwydiant llyfrau yn ei gael ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Dwi’n cytuno bod angen gwell bargen ar gerddoriaeth Gymraeg, ond mae’n rhaid bod yn ofalus gyda nawdd cyhoeddus hefyd gan nad yw unrhyw sin sy’n dibynnu ar sybsidi yn sin iach. Tydi hyrwyddwr sydd wedi cyfro costau ei gig cyn cychwyn ddim yn mynd i weithio mor galed i sicrhau bod pyntars yn dod mewn trwy’r drws, a tydi gig gwag yn dda i ddim i neb.

Efallai bod rôl i’w chwarae gan y pwrs cyhoeddus o ran cymorth i gyhoeddi deunydd newydd, ac hyd yn oed i farchnata a dosbarthu cynnyrch ond yr hyn sy’n rhoi’r hwb mwyaf i gerddoriaeth ydy buzz, a thrwy sin gerddoriaeth fyw hynawf mae creu’r buzz hwnnw. Sut mae creu hwnnw heb orddibynnu ar nawdd cyhoeddus? Dwn i ddim, ond mae angen y drafodaeth.

Bandiau ddim yn denu?

Mae’n gas gen i’r hen ddadl ynglŷn â ‘ddylai bandiau Cymraeg ganu’n Saesneg?’ Mae ateb bandiau wastad yr un fath, a braidd yn boring erbyn hyn hefyd – ‘y gerddoriaeth sy’n bwysig, nid y geiriau’ a ‘da ni’n cyfansoddi geiriau ym mha bynnag iaith sy’n dod yn naturiol i ni’. Dwi o’r farn bod bandiau fel Super Furry Animals, Catatonia a Gorkys wedi gwneud gwaith da o ran hybu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg trwy ganu’n Saesneg. Be wnaeth y bandiau yma oedd cyrraedd y brig yn y sin Gymraeg, gyda bandiau gwahanol i raddau yn achos Catatonia a SFA, a thrwy hynny gael cyfle i recordio deunydd Saesneg a dwyieithog i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Pan bod nhw wedi cael y cyfle yma? Yn syml iawn gan eu bod nhw’n ddigon da ac wedi dal llygad y bobol bwysig sy’n cynnig cyfleoedd i fandiau. Cyfrinach arall y bandiau yma ydy’r ffaith eu bod nhw wedi llwyddo i gynnal y gefnogaeth o fewn y gynulleidfa Gymraeg.

Dwi’n codi’r mater yma gan fod yna broblem ‘headliners’ ar hyn o bryd h.y. y bandiau sydd wir yn boblogaidd ac yn denu cynulleidfa doed a ddel. Dros y blynyddoedd diwethaf mae rhai o’r prif fandiau yma fel Frizbee a’r Genod Droog wedi dod rhoi’r gorau iddi, a does ‘na neb wedi cymryd eu lle nhw i raddau helaeth. Mae rhai o’r bandiau fyddai wedi camu’n naturiol i’w lle nhw – Sibrydion, Race Horses ac efallai Master in France fel petai nhw wedi bod yn canolbwyntio’n fwy ar y sin Saesneg. Fedra i ddim barnu faint o lwyddiant maen nhw’n ei gael efo hyn, ond dwi’n ofni bod y penderfyniad wedi effeithio rhywfaint ar eu poblogrwydd o fewn y sin Gymraeg – wnaeth y Sibrydion na’r Race Horses chwarae yn y Steddfod llynedd er enghraifft, ac er bod gan y Sibrydion esgus da o’r hyn dwi’n deall, ond mae angen i’r bandiau yma fod ar lwyfan uchafbwynt cerddorol y flwyddyn.

Dyna amlinellu rhai o brif ffaeleddau’r sin felly. Mae angen mwy o gynnyrch, mwy o gigs, bandiau sy’n denu cynulleidfa, gwell dêl o ran breindaliadau a chyllid cyhoeddus, gwell isadeiledd ond yn fwy na dim gallu creu ychydig o gyffro. Mater bach felly ynde!

R.I.P. SRG – Rhan 1

Cyhoeddwyd Ionawr 19, 2011 gan Owain Schiavone. 1 Sylw.

Tagiau: Cerddoriaeth

Owain Schiavone sy’n rhagweld tranc y Sin Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg…

Mae’r sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar ei gliniau. Tipyn o ddweud mi wn, ond dwi wir yn ofni fod y sîn mewn mwy o berygl nag y mae wedi bod ers amser maith. Mae ‘na nifer o resymau ynglŷn â’r gofid yma ac fe wna’i ymgais i drafod rhai ohonyn nhw’n gryno.

Yn fy amser sbâr dwi’n golygu cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, sy’n derbyn nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru – a diolch yn fawr iawn iddyn nhw. Mae rhifyn cyntaf y flwyddyn wastad yn un dyrys gan ei bod yn weddol dawel o ran cynnyrch cerddorol newydd a gigs ac ati wedi cyfnod prysur ail hanner y flwyddyn a’r Nadolig. Tydi hyn ddim yn broblem cofiwch gan ei fod yn gyfle perffaith i ddathlu’r flwyddyn a fu ar ffurf Gwobrau’r Selar a 10 uchaf albyms y flwyddyn – mae’r rhain wastad yn boblogaidd mewn cyfnod lle mae’r diwydiant y tu hwnt i Gymru’n gwneud yr un math o beth.

Y drafferth ydy, dwi’n gweld problemau eleni gyda’r 10 uchaf albyms, sy’n awgrymu problem fawr i’r sîn. O edrych ar y cynnyrch sydd wedi’i ryddhau y llynedd, dim ond jyst gallu llenwi’r 10 uchaf fyddwn ni! Mae’n siŵr fy mod i wedi methu un neu ddau, ond o’r hyn dwi’n gweld, dim ond rhyw bymtheg o albyms ‘cyfoes’ sydd wedi eu rhyddhau yn 2010…ac mae tri o’r rheiny’n gasgliadau aml gyfrannog o ddeunydd hen tra bod albwm Huw M yn un wedi’i ail ryddhau i bob pwrpas.

Problem PRS

Pam fod ‘na gyn lleied o gynnyrch newydd felly? Heb os mae’r newidiadau yn ymwneud â thaliadau PRS wedi cyfrannu at y broblem. Heb fanylu ynglŷn â hyn (achos mae ‘na ddigon o bobl sy’n deall mwy na fi am y mater), mae’r newidiadau yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i’r prif labeli gymryd risg ar fandiau cyfoes sydd efallai ddim yn mynd i werthu llawer o unedau neu gael eu chwarae drosodd a throsodd ar y tonfeddi. Mae’n rhaid i’r labeli chwarae’n llawer mwy saff wrth ryddhau deunydd – nid eu bai nhw ydy hyn achos ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid i’r labeli fod yn fasnachol gynaliadwy. Mae cael côr mewn i’r stiwdio am ddiwrnod i recordio albwm yn fuddsoddiad llawer llai, a mwy saff, na chael band mewn i’r stiwdio i recordio am bythefnos – yn enwedig os ydy’r côr yn gwerthu mwy o CDs na’r band beth bynnag.

O’r hyn dwi’n clywed, mae gwerthiant unedau CDs yn ddigon tebyg i’r hyn mae wedi bod yn y gorffennol, felly mae’n amlwg mae’r colledion o ran breindaliadau sydd ar fai.

Rhyddhau’n annibynnol

O edrych yn fanylach ar y cynnyrch newydd sydd wedi ei ryddhau, mae’n ymddangos fod lefel y senglau yn reit debyg i’r arfer tra dwi’n tybio bod yna rywfaint o gynnydd yn y nifer o EPs sydd wedi dod allan o’i gymharu a 2009 a 2008. Mae llawer o’r cynnyrch llai wedi eu rhyddhau’n annibynnol gan artistiaid hefyd, sy’n newid trend digon iach yn fy marn i – o fynd yn ôl 10-15 mlynedd roedd hyn yn weddol gyffredin. Eto, mae buddsoddi mewn sengl neu EP yn ddoeth gan ei fod yn llai o risg ariannol yn y man cyntaf, ac mae gobaith reit dda y bydd y cynnyrch i gyd yn cael airplay ac felly’n cynhyrchu rhywfaint o incwm.

Yr unig drafferth efo rhyddhau deunydd yn annibynnol ydy’r diffyg profiad a grym marchnata ac yn aml iawn tydi’r cynnyrch ddim yn cael y sylw mae’n ei haeddu. Mae artistiaid yn dda am gynhyrchu cerddoriaeth tra bod labeli, ar y cyfan, yn dda am hyrwyddo cynnyrch, ond mae angen mwy na hyn i greu sin fywiog a llwyddiannus. Y drafferth ydy bod yna ddiffyg yn isadeiledd y sin gerddoriaeth Gymraeg ers blynyddoedd ac mae hynny wedi’i amlygu’n fwy erbyn hyn.

Bylchau ym model busnes y sin

Dwi ddim yn meddwl bod cymharu gyda’r sefyllfa y tu hwnt i’r ffin wastad yn beth da, ond wrth ystyried model syml isadeiledd sin gerddoriaeth dwi’n meddwl ei fod yn ymarfer da yn yr achos yma.  Yn Lloegr mae ‘na nifer o elfennau gwahanol sy’n gweithio i hybu’r sin – yn gyntaf mae’r band, wedyn rheolwr y band, y labeli recordio, hyrwyddwr gigs, cwmnïau plygio, y wasg a chyfryngau cerddoriaeth ac yna’r gynulleidfa wrth gwrs. Mae’r elfennau yma i gyd yn annibynnol o’i gilydd i raddau helaeth.

Yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd mae ‘na dipyn o fandiau bach da, ambell label sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, gwasg a chyfryngau sy’n rhoi rhywfaint o sylw i gerddoriaeth gyfoes a chynulleidfa sy’n disgyn ar raddfa gyflym iawn. Yn aml fe gewch chi unigolion yn trio cyflawni nifer o’r elfennau angenrheidiol y cewch chi efo enghraifft Lloegr, ond does dim modd i un person fod yn dda ar bopeth  pryd mae hi’n dod at ddisgyblaethau gwahanol iawn. Dylai artistiaid sticio at greu cerddoriaeth a dylai labeli sticio at ryddhau a hyrwyddo cerddoriaeth – y bwlch mawr yn y canol sydd angen ei lenwi.

Dyna ni ddwy broblem fawr i’r sin ddatrys felly – sut i ymdopi â’r toriadau mewn breindaliadau a sut i lenwi’r bylchau yn yr isadeiledd. Dwi’n mynd i gymryd hoe fan hyn am y tro rhag eich colli chi, ond bydd ‘R.I.P. SRG – Rhan 2’ yn ymddangos yn fuan…

Adolygiad Dyddiau Du Dyddiau Gwyn

Cyhoeddwyd Rhagfyr 15, 2010 gan Adolygiadau. Dim sylw.

Tagiau: Adolygiad, Cerddoriaeth

Owain Schiavone sy’n adolygu albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog…

Lle’r oedd eu halbwm cyntaf, Dawns y Trychfilod, yn lot fawr o hwyl, mae albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn awgrymu eu bod nhw o ddifri y tro yma.

Yn ei gyfweliad diweddar yng nghylchgrawn Y Selar, mae cyfansoddwr y Cowbois, Iwan Hughes wedi bod yn sôn am y pum mlynedd rhwng cyfansoddi caneuon y ddau albwm a’r gwahaniaeth ym mhersonoliaeth rhywun 15 oed o’i gymharu â rhywun 20 oed. Lle’r oedd Dawns y Trychfilod yn gweithio gan ei fod yn ffresh i’r sîn Gymraeg, ac yn wahanol i bob band arall, mae Dyddiau Du Dyddiau Gwyn yn cynnig rhywbeth llawnach, mwy gonest ac yn fwy na dim, yn fwy aeddfed.

Y peth arall sy’n amlwg iawn yw’r offerynnau, ac offerynwyr newydd sydd wedi eu cyflwyno i’r band gan greu sŵn llawer llawnach.

Efallai mai’r ychwanegiad mwyaf trawiadol ydy sŵn y gitâr bedal ddur Euron ‘Jôs’ sy’n cael ei gyflwyno’n effeithiol iawn ar drac cyntaf yr albwm, Y Ffenast. Beth sydd hefyd yn cael ei gyflwyno o’r cychwyn cyntaf ydy sŵn newydd y Cowbois, fydd efallai’n dod fel ychydig bach o sioc … ac o bosib siom i ffans arddull Dawns y Trychfilod.

Yn bersonol, mae’n well gen i’r sŵn llawnach, mwy taclus yma ac mae ‘na naws fach neis i’r albwm. Dwi’n meddwl bod cyfweliadau diweddar efo’r grŵp, a’r holl sôn am ganeuon ‘lleddf’ am ‘dor cariad’  ychydig yn gamarweiniol achos mae o’n albwm tipyn mwy bywiog nag y mae’r band wedi’i awgrymu.

Mae’r trac teitl ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ ac yna ‘O! Nansi’ yn rhoi ffics o’r ‘Hill Billy roc/pync’ poblogaidd a gafwyd ar Dawns y Trychfilod. Mae ‘Celwydd Golau ydy Cariad’ ac ‘Os ti’n dod nôl’ yn bell iawn o fod yn faledi diflas hefyd, ac i’r rhai oedd yn mwynhau stompiau gwallgof y Cowbois nôl tua 2007, mae ‘na hen ddigon o sgôp am setiau byw bywiog.

Ond efallai mai’r caneuon  llai ‘bywiog’ ydy’r rhai mwyaf trawiadol a chofiadwy. Be dwi ddim yn siŵr amdano ydy’r rheswm am hyn – ydy’r rhain ddim ond yn sefyll allan gan eu bod nhw’n annisgwyl gan y grŵp penodol yma ynteu a’i nhw ydy’r caneuon gorau? Wedi tri neu bedwar gwrandawiad, dwi’n tueddu i ffafrio’r ail reswm

Mae’r albwm yn cynnwys dwy gân wedi eu sgwennu gan eraill. Y gyntaf o’r rhain ydy fersiwn o ‘Gan fy Mod i’ gan Nia Morgan a dyma chi fesur o sut mae’r grŵp wedi esblygu eu harddull. Mae’r tair munud a hanner cyntaf yn adeiladwaith torcalonnus sy’n arwain at uchafbwynt epig y byddai  Dilwyn Llwyd a Yucatan yn falch ohono!

Yr ail addasiad ydy hwnnw o’r gân werin draddodiadol ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’ ac mae hon yn uchafbwynt arall o’r albwm. Eto, mae Iwan wedi sôn am ddylanwad grwpiau fel Bob Delyn a’r Ebillion arno dros gyfnod sgwennu’r albwm (mae o’r farn y dylai cerddoriaeth Bob Delyn fod ar y cwricwlwm cenedlaethol), ac mae’r dylanwad hwnnw’n amlwg iawn yma. Mae’r gân yn wyth munud a hanner mewn hyd, sy’n swnio braidd fel ‘indulgence’ gan y grŵp, ond mae’n gweithio i’r dim fel gweddill yr albwm.

Clod i Kempf

Cyhoeddwyd Tachwedd 24, 2010 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Adolygiad, Celfyddydau, Cerddoriaeth

Malan Vaughan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Venue Cymru ddydd Sul…

Fe ddechreuodd cyfres cyngherddau clasurol  Venue Cymru ddydd Sul gyda rhaglen gyffrous gan un o brif gerddorfeydd Awstria, Cerddorfa Mozarteum Salzburg dan arweiniad Ivor Bolton a’r pianydd rhyngwladol, Freddy Kempf.

Roedd yna hefyd gyfweliad gyda’r pianydd cyn y perfformiad. Roedd o’n gyfle gwych i ddysgu mwy am Kempf – un o bianyddion amlycaf Ewrop heddiw. Ac er mor ddifyr y sesiwn a’i sylwadau, gresyn oedd gweld cyn lleied yno – criw o thua 50 yn un o ystafelloedd darlith theatr Venue Cymru – a llawer llai o Gymry ymhlith y criw hwnnw.

Dewis a dalodd

Roedd Symffoni rhif 2 opus 61  gan Robert Schumann yn C fwyaf yn ddewis dewr i ddechrau’r rhaglen – ond yn ddewis a dalodd ar ei ganfed. Mae Schumann yn un o gyfansoddwyr mawr y 19eg ganrif ac mae’r symffoni hon yn un o’m hoff ddarnau gan y cyfansoddwr – er nad yw’n ffefryn traddodiadol. Fe gafodd y symffoni ei hysgrifennu gan Schumann pan oedd yn isel ei ysbryd. Mae’n ddarn sy’n tynnu ar amrywiaeth helaeth o emosiynau tywyll ac yn darlunio anrhefn feddyliol Schumann yn ystod y cyfnod iddo’i hysgrifennu.

O’r bar cyntaf – roedd perfformiad y gerddorfa yn un gafaelgar a’u harddull perfformio yn ddwys, egnïol a sionc yng nghymalau ysgafnach y darn. Doedd dim byd statig am ymarweddiad y gerddorfa  ar y llwyfan. Nid sefyll fel delwau  llonydd, diserch yn perfformio darn yr oeddent wedi’i ddysgu eisoes oeddent (fel y gwelwch mewn ambell gerddorfa!). Ond, roedd pwyslais amlwg yma ar weithio gyda’i gilydd a chyd-symud.

Mae symudiad cyntaf y symffoni – Sostenuto Assai – allegro ma non troppo yn dechrau’n ddwys ei naws ac roedd ing y cyfansoddwr i’w glywed yn glir yng nghymalau cyfoethog y gerddorfa. Cafwyd dechrau tywyll i’r chorale pres araf yn y dechreuad cyn i’r symudiad cyntaf ddatblygu’n Sonata-Allegro aflonydd. Rwy’n teimlo fod y gerddorfa hon ar ei gorau wrth chwarae cymalau egnïol a bywiog fel y cafwyd yn y symudiad cyntaf a’r ail symudiad Scherzo Allegro Vivace sy’n fwy chwareus ei naws.

Ond i mi, fe ddaeth y brif  her nid ym mwrlwm yr Allegro ond yng ngwrthbwynt symudiad tri – Adagio Espressivo yn C leiaf.  Un o’r sialensiau mwyaf yma yw cynnal y cymalau galarus. Fe lwyddodd y llinynnau, oboau a chlarinetau wneud i hyn ymddangos yn gwbl rwydd. Camp yn wir! Dyma ddarn a hoeliodd sylw’r gynulleidfa ac a ddangosodd Schumann yn ei holl ddyfnder.

Aeddfed a gostyngedig

Yn ail ac yn ganolbwynt annisgwyl i’r gyngerdd  oedd Concerto Piano Rhif 23 yn A fwyaf K488 (1786) gan Wolfgang Amadeus Mozart gyda Kempf yn unawdydd piano.

Fe chwaraeodd Freddy Kempf y darn hwn am y tro cyntaf  pan yn ddim ond yn naw oed – ac mae wedi parhau i’w berfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd dros y ddau ddegawd diwethaf . Mae’r concerto hwn yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Mozart  – felly mae gofyn peth dychymyg i wneud cyfiawnder ag o, gan fod cymaint o ddehongliadau tebyg eisoes yn bodoli sy’n efelychiadau gwael o waith pianyddion enwog y gorffennol.

Roedd dehongliad Kempf o’r gwaith yn aeddfed  a’i ymarweddiad yn ostyngedig. Roedd yn meddu  ar arddull berfformio Ewropeaidd; arddull y daeth yn gyfarwydd â hi yn yr Almaen – lle mae’n  cadw perthynas glos ag arweinydd yr ensemble wrth ddehongli’r gerddoriaeth. Yn hytrach na phennu ei ddehongliad ei hun gan adael i’r gerddorfa chwarae ar wahân yn y cefndir. Fe wnaeth y berthynas glos hon rhwng Kempf a’r arweinydd o Loegr sicrhau perfformiad ffres a digymell, llawn cyffro o hen ffefryn. Roedd yr amrywiaeth yn nhôn ei chwarae yn drawiadol ac ar brydiau roedd nodau  uchaf y piano’n meddalu’n unsain gyda gweddill y gerddorfa.

Ar y gorau, mae cerddoriaeth piano  Mozart yn noeth ac agored yn erbyn sain cerddorfa – ond fe ddefnyddiodd kempf y noethni hwn i’w fantais gan roi perfformiad sensitif o glasur. Braint o’r mwyaf oedd cael mwynhau’r dehongliad arbennig hwn gan Freddy Kempf a’r ensemble o Salzburg – lle ganwyd Mozart ei hun.

I gloi’r cyngerdd – cafwyd Symffoni rhif 41 gan Mozart neu’r Jupiter fel y caiff ei hadnabod. Dyma ddarn ysblennydd sy’n dangos y cyfansoddwr a’i allu ar ei orau – er na lwyddodd y perfformiad heno i fy nghyffroi gymaint â’r concerto blaenorol. Er hyn, roedd gallu  Bolton i weu’r  themâu cymhleth tua’r diwedd yn gelfydd a’r coda ffiwgaidd nodedig yn dod â’r gwaith i uchafbwynt cadarn.

‘Cawr’

Fe ddywedodd Kempf yn y sesiwn holi ar ddechrau’r noson mai un o’i brif ddylanwadau ar y piano oedd y cawr o bianydd virtuoso Rwsiaidd, Vladimir Horowitz.

Ond, nid adlais o ddehongliad Horowitz  o Goncerto piano rhif 23 gan Mozart oedd yn llenwi theatr Llandudno nos Sul – ond mwynder teimladwy dehonglwr anturus sy’n prysur dorri ei gŵys ei hun.

Does dim yn sicrach yn fy meddwl – bydd  Kempf, fel Horowitz  – rhyw ddydd – yn siŵr o ddatblygu’n gawr ei hun.

Yn y jyngl jazz … wel, Aberhonddu

Dylan Iorwerth ym mhrif ddiwrnod Gŵyl Jazz Aberhonddu … ar ei newydd wedd … Prif luniau gan Rob Froud

Dydd Sadwrn

10.50

Cyrraedd ychydig yn hwyr i gael tocyn y wasg a chyrraedd y cyngerdd cynta’. Hwyrach fyth ar ôl deall bod y swyddfa docynnau wedi symud … arwydd o’r drefn newydd.

Rhuthro i lawr i Goleg Crist – yr ysgol fonedd leol. Dyna’r pencadlys bellach, nid canol y dref. Arwydd o’r amserau?

Y lawnt

11.05

Penderfynu nad oedd gobaith cyrraedd y cyngerdd am 11.00. Aros ar y lawnt yng Ngholeg Crist i edrych o gwmpas a chymharu efo’r hen drefn.

Er gwaeth: Canol y dref yn dawel. Dim tocynnau crwydro na chyfle i weld bandiau o Gymru – angen newid hynny. Dim sôn o’r bwydydd ethnig amrywiol – fel y dyn Indiaidd o Gasnewydd efo’r tyrban Draig Goch. Dim gair o Gymraeg yn unman … llai hyd yn oed nag o’r blaen.

Er gwell: Y lawnt yn braf ac ychydig stondinau o gwmpas. Mwy o fwydydd Cymreig – byrgyrs cig lleol, Blas ar Gymru yno yn cynnig samplau … omlet bara lawr, ffagots, sosej lleol, cawl pysgod o Sir Fôn … dan ofal Rolant Tomos. Cwrw lleol hefyd.

Er gwell neu waeth: Mwy o drefn broffesiynol.

Yr un peth: Sulwyn Thomas a Glenys yn landio.

12.00 Y gig cynta’.

Marcî ar dir yr ysgol – yn debyg i’r un ym Maes C.

Y band – y Kairos Quartet … dechrau ar rywfaint o is-thema, o fandiau o fechgyn cymharol ifanc yn canu jazz Ewropeaidd … yn tynnu ar ddylanwad cerddorion Sweden a llefydd felly, yn ogystal ag America.

Y ffeithiau: Sacsoffonydd (Adam Waldmann), Pianydd (Ivo Neame), Drymiau (John Scoti), Bâs (Jasper Hølby)

Sacsoffonydd – gwallt fel Affro Ewropeaidd a rhyw hanner barf; pianydd – mop o wallt lled gyrliog; basydd – gwallt golau at ei goler sy’n gorfod cael ei daflu’n ôl bob hyn a hyn; drymiwr – gwallt byr, llygaid treiddgar.


Dechrau meddwl am thema arall … jazz fel anifeiliaid ac adar. Weithiau mae’r sacs yn hedfan ‘arddull y pedwarawd yma. Maen nhw’n creu awyrgylch a’r sacs – soprano neu denor – yn chwarae llinellau tawel wrth i’r bâs a’r drymiau liwio’n ysgafn yn y cefndir. Mae gwefusau’r basydd yn symud wrth iddo leisio’r nodau’n dawel cyn eu byseddu ar y llinynnau; mae’r drymiwr yn edrych yn galed a di-ffocws i unman wrth ganolbwyntio ar y bît.

Dechrau’r drydedd gân, y sacs fel petai’n galw ac ateb arno’i hun ac yna ailadrodd dau nodyn wrth i’r offerynnau cefndir gryfhau a chyflymu. Un o fy hoff bethau mewn jazz, y newid mewn angerdd a’r cryfhau graddol at uchafbwynt ac yna tawelu wedyn. Mae’n digwydd bron heb ichi sylwi. A nodau herciog y sacs yn troi’n frawddegau hir, cyn i’r piano ddilyn yr un patrwm.

Y gân Passage yn dechrau â phawb efo’i gilydd yn camu’n drwm ac yna canu mwy agored a theimlad o fynd am dro hamddenol, braf. Wedyn y bâs fel rhywun yn cerdded a hanner rhedeg bob yn ail, ac yn edrych dros ei ysgwydd. Ai dyna oedd gan y band yn eu meddwl? Wel, dyna oedd gen i.

Dechrau da.

1.30

Rhuthro draw i Theatr Brycheiniog, hyd y llwybr ar lan yr afon. Y broblem fwya’ – osgoi baw ci a’r dynion canol oed hŷn sy’n edrych yn wirion yn eu hetiau gwellt a’u crysau-T o ryw daith annelwig gan fandiau mwy annelwig fyth.

Grêt o le ar gyfer jazz canolig – rhwng triawd tawel a bandiau mawr. Parhau’r thema Ogleddol efo band o Stockholm.

Y ffeithiau. Sacsys – Elin Larsson – merch bryd tywyll mewn ffrog haf ddu efo blodau, ond yn chwythu yn llawn cythrel. Kristian Persson ar y trombôn – efo cap fel Gilbert O’Sullivan. Nhw ydi’r ddau allweddol. Y gitâr, y bâs a’r drymiwr yn gwneud fawr mwy na chyfeilio. (Y drymiwr yn gwisgo cap GO’S hefyd – jyst y peth yn Stockholm).

Yn rhyfedd iawn, mae hi’n llai Sgandinafaidd na’r Saeson – jazz caled ydi hwn. Nid chwythu’n hamddenol y mae hi ond gwthio’r offeryn i’w eitha’. Wrth ganu, mae hi’n edrych yn fyr, yn crymu ei chefn tros y sacs, neu’n plygu’i phengliniau wrth bwyso’n ôl i wasgu’r ynni ola’ o’r offeryn. Wrth siarad, mae hi’n dal ar ei sgidiau platfform.

Ond mae caneuon y Llychlynwyr yn gwneud beth sydd ar y bocs. Os teitl y gân oedd ‘Awyr Dywyll’, roedd y gerddoriaeth yn swnio felly … curiad ara’ a rhyw hanner alaw’n troi’n gyd chwarae bygythiol rhwng y sacs a’r trombôn … roedd ‘Ennyd yn yr haul’ yn swnio i ddechrau fel golau trwy ddail, cyn agor a ‘Mornington’ yn brotest yn erbyn gwesty oedd yn cwyno am gerddoriaeth uchel. O ganlyniad, roedd y gitâr, y trombôn a’r sacs yn eu tro yn dechrau’n dawel, dawel cyn gorffen yn ffrwydrad dig o sŵn.

Gwell eto.

Prynu CD cynta’r dydd … pentwr ar y bwrdd y tu allan … bocs yn dweud £10 … neb yn gwylio. Dyna be ydi ffydd yn y ddynol ryw. Stwffio’r papur i’r bocs a mynd â’r albwm. Edrych ymlaen at wrando rhagor.

3.00pm

Y-hy, y-hy, y-hy. Allan o wynt ar ôl rhuthro i fyny’r rhiw i’r Eglwys Gadeiriol. Y piano y bâs a’r drymiau ym mhen ucha’ corff yr eglwys, o dan fwâu uchel y darn croes. Y tu ôl, y ffenest liw.

Triawd Kit Downes – criw o fechgyn ifanc eto a’r dyn ei hun wedi ennill gwobr y Seren Newydd yng Ngwobrau’r BBC yn 2008.  Gwallt yn gynffon fach y tu ôl i’w ben.

Ffeithiau: Kit Downes ar y piano, gwallt yn gynffon fach y tu ôl i’w ben. Y basydd, Camu Geiriol, ychydig fel arth garedig, farfog. Y drymiwr, James Maddren, yn effro i gyd.

Y bâs dwbl sydd yn y canol, a’r pianydd a’r drymiwr o boptu, yn cwmanu ymlaen ychydig, fel pâr o gromfachau.

A nhwthau yn yr eglwys gadeiriol, roedd sawl darn yn dechrau’n ddefosiynol bron ar y piano cyn chwyddo a chyflymu, a thawelu’n ôl. Cân deyrnged i’r canwr blws Skip James yn enghraifft berffaith. Yn rhyfedd iawn ‘Skip James’ oedd enw’r gân. Dechrau’n hamddenol a breuddwydiol, cynyddu’n raddol, ail adrodd yr un patrwm efo’r naill law a’r llall a thawelu’n ddim ond tincial ar nodau ucha’r piano, sibrwd ar y bâs a siffrwd ar groen y drwm.

Anifeiliaid … dwn im? Ond roedd y bumed cân fel storm mewn jyngl (am wn i). Nodau fel cloch yn troi’n alaw ara’ ramantus cyn i ryferthwy’r storm daro a chilio a chryfhau eto’n rhuthr o sŵn efo’r llaw chwith. Y bâs wedyn fel sŵn y diferion trwm oddi ar y dail cyn i’r drymiau a’r bâs orffen efo llifeiriant o nodau, fel dŵr glaw’n creu nentydd bach.

Roedd bendith y Testament Newydd a digofaint yr Hen yn y darn dwbl ola’. Ysgafnder y gwlith yn syrthio’n troi’n fellt.

Enw newydd i fi … a’r ail CD.

5.00pm

Lle chwyslyd ydi Neuadd y Farchnad os ydi hi’n ddiwrnod braf. Gweddol ydi heddiw, diolch byth. Ond mae’r adeilad hir o garreg, gyda’r distiau haearn ar ychydig o newydd wedd. Llenni du i lawr yr ochrau, i helpu efo’r sain; lle gwell i’r camerâu teledu a’r offer sain a thair sgrin fawr – un y tu cefn i’r llwyfan a’r ddwy arall ar waelod y ddwy ochr i ddatrys y problemau gweld.

Charlie Musselwhite ydi’r boi – yn ffresh o gael ei dderbyn i Oriel Anfarwolion y cantorion blŵs. Tydi’r blŵs ddim yn jazz ond tydio ddim ddim chwaith. Yn enwedig wrth i  Musselwhite fynd i mewn i’w unawdau ar yr harmonica … neu’n hytrach ar y llond cês metel o wahanol organau ceg ar y bwrdd o’i flaen. A’r gitarydd yn torri’n rhydd am funudau ar y tro a chael bonllefau o gymeradwyaeth.

Ffeithiau: Charlie Musselwhite (croes rhwng Johnny Cash a David Niven, efo hanner-gwên ar ei wefus, gwên lot o fyw yng nghorneli’i lygaid a brylcreem yn ei wallt), June Core ar y drymiau, Mike Phillips gitâr fâs, a Mike Stubbs ar y gitâr flaen, ychydig fel Gavin Henson gwyn neu’r bardd Eurig Salisbury ymhen deng mlynedd arall.


Blŵs go iawn. Dwy gân am ferched gyda choesau hir (mor hir â dydd o haf, neu mor hir fel ei bod yn cysgu yn y gegin a’i thraed allan yn y pasej). Un arall am Highway 61 o Memphis i Chicago a thu hwnt,  y ffordd a ddilynodd Musselwhite ei hun pan oedd yn ddeunaw ac arwain at gân arall, Stranger in a Strange Land. “Blues is your companion and the world is your home.”

Rhai’n llawn mynd, rhai’n ara’ a phruddflwyfus a’r cyfan yn llawn o orfoledd a phoen byw. Yn nwylo Musselwhite, mae’r organ geg yn gerddorfa o beth, mor gyfoethog â sacs.

Meddwl wnes i am Iwan Llwyd.

6.30pm

Portico. Enw band. Criw arall (eto) o ddynion ifanc. Hollol ddifrifol, fel mae’r genhedlaeth yma’n dueddol o fod. Arbrofol ac addawol (medden nhw).

Ffeithiau: Jack Wylie (sacsoffonau a’r pedlau trydan – gwallt byr, crys-T a golwg fel pe na bai’n siŵr pam ei fod yno); Duncan Bellamy, drymiau (a sawl peth arall, un sy’n lliwio nid cadw amser); Milo Fitzpatrick ar y bâs dwbl (byr, gwallt golau’n canolbwyntio gant y cant), Nick Mulvey (y padelli crog).

Ie, padelli crog – hang drums yn ôl y rhaglen. Pethau sy’n edrych fel woks efo caeadau a phantiau yn y rheiny. Sŵn fel drymiau dur, clychau Nadolig neu’r clychau tiwb.

Creu golygfeydd mewn sain y mae’r rhain. Haen ar ôl haen o liw ac wedyn y sacs yn sgriblo neu ddarlunio trostyn nhw. Neu sblashio fel Jackson Pollock. Golygfeydd o’r jyngl ydyn nhw … mae’r sŵn o’ch cwmpas ymhobman, crafiadau fan hyn, hanner-sgrech fan draw ac ambell nodyn yn cael ei ddal ar y pedalau electronig, yn holl bresennol fel cân y cicada. (Dwn i ddim oes yna gicada yn y jyngl ond mi ddylai fod).

Weithiau, mae’r tabyrddau crog yn fesmeraidd, a’r sŵn yn annaearol, fel petai’n dod o rywle arall heblaw llwyfan y Marcî (os nac ydi o’n jyngl mae o’n fydysawd pell). Mae hyd yn oed nodau’r bwa ar y bâs weithiau’n cael eu gwthio trwy’r pedalau trydan i greu sŵn fel storm. Yn y gân encore, mae’r sacs soprano fel llond lle o fabŵns gwyllt.

8.00pm

Ennyd o egwyl o’r diwedd a haul diwedd dydd yn gynnes ar lawnt yr ysgol fonedd. Cyfle am beint o Footstomper o’r bragdy lleol. Ond mae Blas ar Gymru wedi mynd … dim omlet bara lawr. Y tai bach symudol werth eu defnyddio, yn ymylu ar fod yn foethus.

9.00pm


Y diwedd, yn yr eglwys gadeiriol. Gwilym Simcock, un o’r unig ddau gig gyda chysylltiad Cymreig. Mi ddigwyddodd gael ei eni ym Mangor pan oedd ei rieni ym Mhontllyfni … digon da i ni. A fo, medden nhw, ydi un o sêr mawr y dyfodol, yn cael ei gymharu efo Keith Jarrett (y pianydd nid y chwaraewr rygbi). Fel hwnnw, mae o’n taro ar gyfuniadau newydd o nodau trwy’r amser a sŵn clasurol yn ei chwarae. Yn wahanol i hwnnw, mae o’n ddiymhongar.

Y ffeithiau: Gwilym Simcock (piano – yr allweddell a’r llinynnau o dan y caead); Yuri Goloubev ar y bâs (is-thema arall, yr holl enwau Ewropeaidd) a James Maddren ar y drymiau (ie, yr un James Maddren oedd efo Kit Downes … cadwch yn effro, bendith dduw).

Ac o sôn am fendith duw, mae’r ffenestri lliw bellach wedi’u llifoleuo ac mae sawl un o’r caneuon yn dechrau efo piano offerennaidd bron. Mae Gwilym Simcock wedi gwneud taith mewn adeiladau crefyddol efo’r band Acoustic Triangle ac mae urddas canu crefyddol yn llawer o’i gerddoriaeth.

Ond, yn fuan, mae’r nodau’n neidio ac yntau’n neidio ar ei stôl, neu’n plygu i’r chwith wrth i’r alawon raeadru. Mae’r darnau’n chwarter awr o hyd, yn chwyddo a gostwng ac yn codi fel ehedydd ar linyn o nodau.

Mae rhai cantorion jazz yn defnyddio’r un cyfuniadau dro ar ôl tro ac yn defnyddio cyfuniadau cyfarwydd. Er mai dyfeisio ar y pryd y maen nhw, mi wyddoch beth sy’n dod nesa’. Mae Gwilym Simcock yn wahanol. Mae’n eich synnu chi dro ar ôl tro.

10.40pm

A dyna ni. Diwrnod da, heb uchafbwyntiau syfrdanol rhai o’r blynyddoedd cynt, ond heb yr un funud wael. Heb awyrgylch gymdeithasol na lliw’r blynyddoedd gorau ond mwy o sylw ar jazz go iawn.

Mae angen elfen arall – un llwyfan, efallai, ar gyfer perfformiadau Cymreig. Ond, erbyn hyn, mae merched Merthyr wedi cyrraedd y sgwâr ac mae’r nos yn y jyngl yn dechrau.

Adolygiad o Wakestock 2010

Cyhoeddwyd Gorffennaf 13, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cerddoriaeth, Gwyliau, Pwllheli, wakestock

Elain Jones, myfyrwraig chweched dosbarth yn Ysgol Penweddig, sy’n dweud sut hwyl gafodd hi yng Ngŵyl Wakestock eleni.

Wythnos diwethaf, cefais fy mhrofiad cyntaf o ŵyl gerddoriaeth go iawn pan  benderfynais i a chriw o ffrindiau fynd i Wakestock (gŵyl gerddoriaeth a thonfyrddio mwyaf Ewrop) am y penwythnos. Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth i’w ddisgwyl, heblaw am gerddoriaeth, pebyll a mwd.

Wrth lwc, doedd yr olaf ddim yn llawer o broblem, ac roedd y wellies yn fwy o fashion statement i gyd-fynd â’r siorts byrion a’r sannau hirion nag o anghenraid oherwydd y tywydd.

Ar ôl cyrraedd y maes pebyll a hoelio pob peg yn ei le i sicrhau y byddai ein pabell fechan yn gwrthsefyll unrhyw gorwynt a fyddai’n chwythu dros gaeau Penrhos yn ystod y nos, yr atyniad cyntaf oedd arddangosfa anhygoel gan un o deiffwnau’r Llu Awyr. Yna swper cyflym yn un o’r stondinau bwyd ar y cae, cyn mwynhau gwledd o gerddoriaeth amrywiol tan oriau mân y bore.

Ymysg y bandiau ar lwyfan Misadventures ar y nos Wener roedd Roll Deep, Mr Hudson ac N-Dubz, ac ym mhabell Relentless roedd y gynulleidfa wrth eu boddau â Skream. Ond llwyddiant mawr y noson, yn cloi’r holl gerddoriaeth am y noson gyntaf, oedd Eric Prydz ar y prif lwyfan.

Dydd Sadwrn

Gyda’r haul yn tywynnu dros arfordir Pen Llŷn ddydd Sadwrn, doedd dim amdani ond dal y bws i draeth Abersoch i dorheulo; neu losgi i’r rhai fel fi wnaeth angofio’r eli haul! Yna, ar ôl chips a chicken nuggets o’r siop sglodion, a choffi yn Angelina’s, yn ôl a fi a fy mhengliniau coch i’r ŵyl.

Band cyntaf y noson oedd Racehorses, sy’n cynnwys cyn-ddisgyblion o’n hysgol uwchradd ni, ac un o’r llawer o fandiau Cymraeg a gafodd gyfle gwych i arddangos eu cerddoriaeth o flaen cynulleidfeydd anferth yn Wakestock. Od iawn oedd eu gweld yn canu ar brif lwyfan Wakestock ar ôl arfer eu gweld mewn crys a thei o Benweddig!

Yna yn hwyrach y noson honno, cafwyd fy uchafbwynt personol i o’r ŵyl wrth i Plan B blesio ei gynulleidfa ar y prif lwyfan â chaneuon diweddar fel She Said, Stay Too Long a Prayin’, yn ogystal â hen ffefrynnau fel Kidz. Gwnaeth hefyd fersiwn ffantastig o Kiss From A Rose gan Seal.

Ar ôl Plan B, roedd rhaid brysio i’r babell fawr goch i weld diwedd set Zane Lowe, ac i fownsio lan a lawr i Pass Out a Frisky gan Tinine Tempah. I ddilyn, cafwyd un o berfformaidau mwyaf poblogaidd y penwythnos gan Chase and Status, ac yna perfformaidau gwych gan Feeder a Maximo Park ar y prif lwyfan i gloi noson llawn hwyl arall yn Wakestock.

Dydd Sul

Bore dydd Sul, doedd dim amser i gysgu’n hwyr, wrth i ni frysio i Bwllheli i wylio rownd derfynol y tonfyrddio yn y marina.

Er nad oedd amodau’r tywydd yn ddelfrydol, gwnaeth Dean Smith, Austin Hair, Philip Soven ac Aaron Rathy y gystadleuaeth yn un fyth-gofiadwy wrth iddynt neidio o don i don mor ddiymdrech, gyda Philip Sovan yn llawn haeddu’r teitl Pencampwr Wakestock 2010. Derbyniodd yr holl donfyrddwyr eu gwobrau ar y prif lwyfan nos Sul, cyn gwlychu rhes flaen y gynulleidfa â deuddeg potel o champagne.

Yn anffodus, golygodd y gwynt bod rhaid gohirio arddangosfa parasiwt y Llu Awyr nos Sul, ond sicrhaodd band yr actor Rhys Ifans – The Peth, Robyn, Pete Tong a’r Ting Tings ein bod yn cael noson olaf i’w chofio wrth i’r ŵyl ddod i ben am flwyddyn arall.

Yna, fore dydd Llun gwelwyd golygfa ddiflas iawn wrth i 25,000 o bobl ifanc flinedig a brwnt adael Penrhos wedi tridiau o fwynhau diddiwedd. Am ddeng munud i ddau roedd rhaid llusgo ein rucksacks a’n sachau cysgu i Bwllheli, a dal y trên yn ôl i realiti Aberystwyth.

Wythnos yn ddiweddarach, rydw i wedi dod dros y blinder, ac mae fy atgofion o’r penwythnos yng Ngogledd Cymru yn rhai melys tu hwnt. Os na allwch chi fynd am bedair awr ar hugain heb gawod na thoiled glân, yna nid Wakestock yw’r lle i chi. Ond i’r gweddill ohonoch chi sy’n mwynhau cerddoriaeth a chwmni da ac awyrgylch hollol unigryw, ewch amdani.

Alla i ddim meddwl am ffordd well i dreulio penwythnos braf gyda ffrindiau, ac rwy’n gobeithio mai dyma ddechrau nifer mwy o benwythnosau tebyg i ddod!

Adolygiad Dacw’r Drws

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Cerddoriaeth

Miriam James sy’n adolygu ‘Dacw’r Drws’…

Tomos Wyn oedd y canwr buddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2010, gyda’i berfformiad o ‘Bws i’r Lleuad’ gan Alun Tan Lan. Erbyn hyn mae wedi rhyddhau EP o ganeuon a gyfansoddwyd gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts.

Lansiwyd CD Tomos Wyn a’r Band, sef EP 4 trac, yn Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron.  Cyfansoddwyd y geiriau a’r gerddoriaeth gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watkyn Roberts ond digon hawdd fyddai credu mae geiriau Tomos Wyn ei hun a glywn.

Mae’r naws yn un ysgafn ar y cyfan, gyda digon o egni sy’n rhoi teimlad da i’r gwrandäwr.  Mae’r caneuon yn rhai bachog ac ambell lyric yn ddigon cofiadwy.  Mae yna gryn amrywiaeth rhwng y bedair cân ond sydd oll â naws caneuon pop gyda gwedd glasurol.

Cân fywiog, llawn asbri llachar yw ‘Dacw’r Drws’ sy’n rhoi agoriad egnïol i’r CD.  Mae iddi deimlad jaslyd, fel y drydedd cân ‘Y Fan’ sy’n anadlu naws hapus braf o fywyd ieuenctid melys.  Cân sionc, llawn mynd yw ‘Y Fan’ sydd yn llawn egni ifanc.

Yn fwy ymlaciol mae’r bedwaredd gân ar y CD, ‘Pen y Daith’, sydd â naws pruddglwyfus wrth iddo hiraethu am amser serchus a fu.  Cân serchog, angerddol a theimladwy yw ‘Adre’n ôl’ sy’n adlewyrchu llais perfformio Tomos Wyn yn ei anterth.

Os ydych chi’n chwilio am ganeuon sydd ag ystyr pell a dwfn, efallai na fydd y CD yma yn plesio.  Ond os ydych chi’n un sydd yn eich elfen wrth wrando ar ganeuon sydd i ryw raddau yn gawslyd, bydd y CD hyn yn siŵr o’ch swyno.

Mae’r CD byr ond blasus hwn yn cynnig cerddoriaeth ddedwydd, ysgafnfryd sydd â naws jas melodaidd, a fydd yn siŵr o apelio at amrediad eang o bobl.

Beth ydy’ch barn chi am ‘Dacw’r Drws’? Anfonwch eich adolygiadau CD’s i ni gyhoeddi ar Golwg360 – cymorth@golwg.com

Penwythnos mawr yn plesio

Cyhoeddwyd Mai 23, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: Cerddoriaeth

Ifan Morgan Jones sy’n adolygu dydd Sadwrn Penwythnos Mawr Radio 1 o Stad y Faenol…

Gyda fy nhocyn yn boeth yn fy llaw a’r haul yn boeth uwch fy mhen dyma fi’n ymuno gyda’r miloedd o bobol oedd wedi teithio i ystad y Faenol, Bangor ar gyfer Big Weekend Radio 1.

Roeddwn i’n teimlo braidd yn euog gan fy mod i wedi rhoi cyfeiriad cartref fy mam yn hytrach na fy nghartref i yng Ngheredigion, ar ôl clywed bod pobol leol yn fwy tebygol o gael tocynnau! Roedd y trefnwyr wedi dweud o flaen llaw fod ganddyn nhw bolisi llym er mwyn atal pobol rhag gwerthu eu tocynnau ac y bydden nhw’n gofyn i unrhywun a ddrwgdybid am ID. Ond gan mai dim ond ‘Jones, Waunfawr’ oedd ar fy nhocyn byddwn i wedi gallu ei werthu i hanner fy mhentref a fyddai neb dim callach.

Roedd yr haul yn tywynnu’n llachar dros ystad prydferth y Faenol, ond os oedd hi’n chwilboeth tu allan roedd hi’n boethach byth y tu mewn i’r babell fawr las ble’r oedd y prif fandiau yn chwarae. Dim ond 500ml o ddwr oeddech chi’n cael dod gyda chi a roedd hwnna wedi ei lyncu’n sychedig erbyn i’r band cyntaf ddechrau chwarae am 1pm.

Roedd Chris Moyles a BB Aled ar y llwyfan i ddechrau yn ceisio heipio’r dyrfa. Roedd yna rywfaint o jôcs ynglŷn â rhoi enwau Cymraeg i’r bandiau, e.e. Fflorens a’r Peiriant. Fe allen nhw fod wedi mynd ymhellach… Sieryl y Glo, Alisia Allweddi, Jwstin Afanc, ayyb.

Scouting for Girls oedd y band cyntaf welais i. Roeddo’n amlwg nad oedden nhw’n cael eu talu fesul gair oherwydd roedd y prif ganwr yn ddigon bodlon i anelu ei feicroffon i gyfeiriad y dorf a gadael iddyn nhw gymryd drosodd am rannau helaeth o’r set. ‘You are not here just to listen, you are here to take part,’ meddai fo. Digon teg, gan nad oedd neb wedi gorfod talu am y pleser o gael ei wylio. Jesd gobeithio nad oedd Alicia Keys yn disgwyl i fi chwarae’r piano drosti yn ddiweddarach.

Er hynny roedd yn berfformiad digon bywiog a’r peth perffaith er mwyn deffro’r dyrfa a’u paratoi am yr enwau mawr i ddod. Yn anffodus, heblaw am ambell i gân gyfarwydd (She’s so Lovely, o’r hysbyseb Kellog’s, yn bennaf) doedd y gynulleidfa ddim yn gwybod y geiriau ac fe roddod y prif leisydd y gorau i geisio ein perswadio i gyfeilio iddo.

Roedd yna fwlch eitha hir rhwng pob band a chyfle i grwydro’r maes o’r naill babell i’r llall neu i fynd i un o’r amryw o siopau neu lefydd cael bwyd. Roedd y cyfleusterau’n wych. Wnes i ddim gorfod ciwio am fwy na phum munud i fynd at y bar na’r toiledau, ac roeddwn i’n mynychu’r ddau yn gyson drwy gydol y noson. Yr unig boen oedd y prisiau – £3.50 am beint a £5 am fwrger – ond mae hynny i’w ddisgwyl mewn gŵyl am wn i. Yr unig ddiffyg oedd tir y stad oedd yn codi i gyfeiriad y prif lwyfan gan ei gwneud hi’n anoddach i rai weld dros bennau’r pobol o’u blaen.

Yr ail fand ar y brif lwyfan oedd 30 Second to Mars ac fe wnaeth y prif leisydd argraff fawr arna’i gyda’i mohawk coch llachar a’i trenchcoat claerwyn. ‘Are you ready to go f***ing crazy?’ gofynnodd, gan gyhyrfu’r dyrfa a rhoi trawiad ar y galon i un o’r cyhyrchwyr tu ôl i’r llwyfan, mae’n siwr. Roedd o ychydig yn ormod mynd o fand pop mor ysgafn a hwyliog â Scouting for Girls i gael fy hun ynghanol gig roc trwm. Bu bron i fi gael fy llusgo i mewn i mosh pit oedd wedi agor fel trobwll ynghanol y llawr ond llwyddais i gilio i dir mwy diogel, gan osgoi’r poteli cwrw oedd yn disgyn fel cesair o’r nenfwd. ‘I know this is a family show so I’d like to apologise for my language,’ ebe’r canwr pengoch wedyn, gan awgrymu bod rhywun tu ôl i’r llwyfan wedi cael gair.

Doedd gen i ddim lot o awydd gwylio Chipmunk felly fe es i draw i’r llwyfan ‘In New Music We Trust’ i wylio Hadouken, band nad oeddwn i’n gwybod dim oll amdano ond bod yr enw’n ennyn chwilfrydedd. (Bydd unrhywun o fy oed i efallai’n cofio mai cyfeiriad at y gêm gyfrifiadur Street Fighter II ydi o!) Roedd hyn dipyn bach fel neidio o’r badell ffrio i’r tân am mai band New Rave oedd hwn, a digon buan agorodd mosh pit arall i sugno’r gynulleidfa i mewn. Ond roedd y band yn un digon difyr ac yn llenwi’r llwyfan fel y gwnaeth 30 Seconds to Mars.

Penderfynais fynd draw i’r brif lwyfan nesaf i wylio Justin Bieber. Doeddwn i heb glywed unrhywbeth amdano cyn cyrraedd yr ŵyl ond pan grybwyllwyd ei enw’n gynharach o’r llwyfan roedd hanner y gynulleidfa – y dynion – wedi bwio tra bod y merched yn sgrechian yn orffwyll. Es i draw i weld beth fyddai’r ymateb iddo, ond roedd hi’n amlwg bod pawb fyddai’n bwio wedi gadael am y bar gan adael llond pafiliwn o ferched yn eu harddegau’n sgrechian nerth eu pennau. Edrychai Justin Bieber tua deg oed a roedd ganddo lais fel ewinedd yn crafu ar fwrdd du. Dim ond am ryw chwarter awr roedd e’n perfformio a roedd hynny’n rhyddhad mewn rhai ffyrdd.

Cheryl Cole oedd nesaf a hi oedd siom fawr y noson yn fy marn i. Fel un o enwau mwya’r ŵyl roeddwn i wedi disgwyl tipyn o razzamatazz ganddi ond set digon distaw a gawson, bron fel fersiwn acwstig o’i pherfformiadau yn y gigiau mawr. Am rannau helaeth o’r set fer dim ond hi yn sefyll yno ar y llwyfan gyda meicroffon a gafwyd. Roedd yna un neu ddau o ddawnswyr yn chwyrlio o boptu iddi ond doedd hi ddim yn dawnsio gyda nhw’n aml iawn. Efallai fod hynny’n beth da – roedd hi’n edrych yn ddigon bregus i fod wedi torri’n ddau pe bai un o’r dawnswyr wedi cydio ynddi’n rhy galed. Yn waeth byth, ar un pwynt fe wnaeth hi anghofio ei geiriau’n llwyr a dechrau canu pan na ddylai hi ddim.  Fe wnes i adael y babell gan deimlo nad oedd ei gweld hi yn y cnawd yn llawer mwy o brofiad na chlywed un o’i chaneuon ar y radio, ac roedd nifer o fy ffrindiau yn teimlo’r un fath.

Lostprophets oedd nesaf ac roedd y band o Bontypridd yn gwisgo’u Cymreictod yn amlwg gyda llwyfan oedd wedi ei orchuddio gyda baneri Cymru. Yn anffodus welais i ddim lot o’r gig ar ôl rhedeg draw at yr ail lwyfan i weld perfformiad Ellie Goulding. Ond camgymeriad oedd hynny ac roedd rhaid disgwyl ryw hanner awr iddi ymddangos, ac  erbyn hynny roedd yn bryd dychwelyd i’r brif lwyfan er mwyn sicrhau lle da i wylio Alicia Keys.

Roedd y brif babell yn orlawn ar gyfer y perfformiad ac er i mi gyrraedd ryw hanner awr da cyn yr oedd hi i fod i ddechrau roeddwn i ryw ugain llath o’r llwyfan. Ond bu’n rhaid disgwyl awr gyfan cyn y daeth Alicia Keys i’r llwyfan, ac roedd y dorf wedi dechrau bwio cyn hir, yn enwedig ar ôl iddyn nhw wthio piano ar y llwyfan, ac yna newid eu meddyliau a’i wthio oddi ar y llwyfan, cyn i fysellfwrdd ymddangos yn ei le.

Ond unwaith y daeth Alicia Keys i’r llwyfan anghofiodd  y dorf yn llwyr am hynny. Mae hi’n berfformiwr gwych ac roedd y dorf wedi ei swyno’n llwyr, er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n gwisgo bag bin fel trowsus. Roedd Radio 1 wedi codi gobeithion braidd drwy awgrymu y byddai hi’n canu fersiwn North Wales o’i chân eiconig Empire State of Mind. Ond New York, New York oedd hi dim North Wales, North Wales… er iddi ychwangu un ‘North Wales’ ar y diwedd a gyrru’r dorf yn wyllt. Hi oedd perfformiwr gorau’r noson yn sicr.

Un peth wnaeth fy nharo i wrth wylio’r bandiau oedd cymaint o’r dorf oedd yn ffilmio’r cyfan ar eu ffonau symudol ac yn tynnu lluniau drwy gydol y gig, fel pe bai rhoi fideo neu lun ar Facebook yn bwysicach na’r perfformiad ei hun. Wrth wylio Alicia Keys roedd gen i gannoedd o sgriniau bach o fy mlaen i a wnaethon nhw ddim diflannu drwy gydol y sioe.

Fe wnes i ddianc o’r babell yn ystod rapio Dizzie Rascal er mwyn cael tipyn o awyr iach a peint neu ddau, ond hyd yn oed o’r tu allan roedd hwyl y dorf i’w chlywed yn amlwg. Ac fe wnaeth e ddwyn syniad y Genod Droog o Sesiwn Fawr 2007 a rhyddhau peli llawn confetti ar ben y dyrfa.

Florence and the Machine oedd penllanw’r noson ac alla i ddim dweud mod i’n orgyfarwydd â’u cerddoriaeth nhw. Rhyw gymysgedd o roc a cherddoriaeth soul oedd ganddynt, ac roedd yna delyn ar y llwyfan yn ogystal â chôr cyfan gan roi blas Cymreig i bethau! Fe wnes i fwynhau’r set oedd tua awr o hyd ond erbyn hynny roedd y coesau’n dechrau gwegian ar ôl bod ar fy nhraed drwy’r dydd a doeddwn i ddim yn gweiddi am encôr mor uchel a rhai o’r lleill. Ond dyna a gafwyd a daeth Dizzie Rascal i’r llwyfan hefyd gan gyfuno roc, soul a rap mewn un cymysgedd oedd mae’n siwr yn torri tir newydd, ond doeddwn i ddim callach!

Tua deg o’r gloch daeth y cyfan i ben a roedd hen ddigon o amser i’w throi hi am Fangor neu Caernarfon am beint neu ddau cyn troi am adref. Roedd cyfuniad o’r cerddoriaeth a’r haul wedi ei gwneud yn ddiwrnod heb ei ail, a heb orfod talu ceiniog am y pleser am gael bod yno doedd dim lle i gwyno a lot i ddiolch amdano!

Yn fyw o Wembley a'r Faenol

Cyhoeddwyd Mai 22, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cerddoriaeth, Pêl-droed

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i ddwy o ddinasoedd Cymru gyda ‘Penwythnos Mawr Radio un’ yn cael ei gynnal yn ystad y Faenol, Bangor ar un llaw, a chlwb pêl-droed Caerdydd yn cystadlu yn Wembley am le yn Uwch Gynghrair Lloegr ar y llall.

Bydd Blog Golwg360 yn dilyn hynt a helynt rhai o’m darllenwyr sy’n mynd i’r ddau ddigwyddiad enfawr.  Byddwn yn cyhoeddi blog byw yn ystod y dydd yn dilyn Carwyn Dafydd a’i ffrindiau o Fangor yn ogystal a chriw o dîm pêl-droed y Gym-Gym ar eu taith i Wembley.

7.31pm- Bangor- Dizze Rascal… Blêr!

7.01pm Bangor- Bechod bod Alicia Keys ddim wedi canu fersiwn ‘North Wales’ yn lle ‘New York’!

6.34pm Bangor-  Gwylio Alicia Keys- mae hi’n wych.

6.12pm- Bangor- Yn y babell ‘In New Music We Trust’- Ellie Goulding yn wych.  Edrych ‘mlaen i weld Alicia Keys nesa yn y babell fawr!

5.39pm- Bangor- Yn y mosh i Lostprohets! Gwyllt!

5.32- Bangor- Gwylio’r Lostprophets yn y babell fawr- chwyslyd!

5.01pm- Bangor- Gwylio Cheryl Cole yn perfformio- Un gair- ‘Stunning’.

4.59pm- Llundain- Bois y Gym-Gym yn siomedig iawn gyda’r canlyniad.  Ceisio dal y trên cyntaf  ‘nôl i Gaerdydd.

4.51pm- Llundain- Cefnogwyr Caerdydd yn llifo allan o Wembley.  Beth nesaf i Gaerdydd? Bydd Dave Jones yn parhau yn rheolwr? Ble bydd rhai o chwaraewyr allweddol Caerdydd yn chwarae’r tymor nesaf? Caerdydd wedi colli cyfle gwych yn Wembley heddiw.

4.50pm Llundain- Chwiban olaf. Blackpool yn ennill 3-2.  Blackpool bydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

4.48pm- Llundain- Dau funud i fynd.

4.46pm- Bydd ‘na bedair munud o amser ychwanegol.

4.45pm- Llundain- Cic gornel i Blackpool. Caerdydd yn methu adennill meddiant.

4.42pm Llundain- Cic rydd i Blackpool. Caerdydd yn clirio.

4.37pm- Llundain- Deg munud yn weddill. Mae’n rhaid i Gaerdydd dechrau gamblo a cynyddu’r pwysau ar Blackpool.

4.32pm Llundain- Golwr Blackpool, Gilkes bron a tharo’r bêl mewn i gefn rhwyd ei hun.  Caerdydd yn pwyso.

4.30pm- Llundain- Ergyd arall i Gaerdydd- McNaughton yn cael ei eilyddio oherwyddd anaf.  Gerrard ‘mlaen yn eil le.

4.28pm- Llundain- Crainey yn blocio Chopra rhag mynd am y bêl- ond dim cic rydd!

4.23pm- Llundain- McCormack yn tanio’r bêl ond mae ymhell o gôl Blackpool.

4.21pm Llundain- Stephen McPhail wed’i anafu ac yn derbyn triniaeth ar y cae.  Gobeithio bydd McPhail yn dychwelyd i’r cae yn fuan.

4.19pm Llundain- Chwarae siomedig gan Hudson. Penio’r bêl allan am gic gornel di-angen. Amddiffyn Caerdydd wedi gadael Dave Jones lawr hyd yn hyn.

4.17pm Llundain- Ormerod yn gadael y cae. Stephen Dobbie, sydd ar fenthyg o Abertawe, yn dod ‘mlaen yn ei le.

4.16pm- LLundain- Gwaith da gan Chopra i ennill cic gornel. Ledley bron a sgorio o’r cic gornel.

4.14pm- Llundain- Chopra yn taro’r trawst unwaith eto!  Caerdydd yn dechrau pwyso ychydig ar Blackpool.

4.11pm- Llundain- Whittingham a Burke yn cyfnewid esgyll.   Gobeithio bydd Burke yn gallu dylanwadu mwy ar y gêm.

4.09pm- Llundain- Taylor-Fletcher wedi’i anafu ac yn cael ei eilyddio- Ben Burgess yn cymryd ei le.

4.05pm- Llundain- Etuhu yn gwastraffu safle da i groesi at Chopra yn y cwrt cosbi.  Mae Caerdydd yn gweld eisiau Bothroyd.

4.04pm- Llundain- Ail hanner wedi cychwyn.  McNaughton i ffwrdd o’r cae i gael triniaeth am anaf.

3.50pm- Bangor- Mewn yn y safle.  Mae’n chwilboeth ac yn orlawn- gret!

3.47pm- Llundain- Blake yn canfod cefn y rhwyd i Gaerdydd.  Ond y llumanwr yn penderfynu ei fod yn camsefyll.  Hanner amser.

3.45pm- Llundain- Blackpool yn mynd ar y blaen. Ormerod yn sgorio ar ôl amddiffyn siomedig iawn gan Gaerdydd. 3-2.

3.40pm- Llundain-  Blackpool yn unioni’r sgôr unwaith eto. Marshall yn methu’r bêl o gic gornel. Taylor-Fletcher yn penio’r bêl mewn igefn y rhwyd. 2-2

3.37pm- Llundain- Gôl!!! Joe Ledley yn sgorio!! Caerdydd ‘nôl ar y blaen! Pas wych gan Whittingham mewn i’r cwrt cosbi at Ledley a’r Cymro’n gorffen yn dda. 2-1.

3.35pm- Llundain- Cic gornel i Gaerdydd. Blackpool yn clirio’r bêl.

3.34pm Llundain- Cic gornel cyntaf Blackpool o’r gêm.  Ond Caerdydd yn ennill meddiant ac yn cyhcywn ymosodiad.

3.32pm Llundain- Y gêm yn dechrau tawelu ar ôl hanner awr agoriadol cyffrous.

3.28pm Llundain- Chopra yn cael cyfle da oddi ar  groesiad Whittingham.  Ond methodd yr ymosodwr daro’r bêl yn iawn.

3.27pm- Llundain- Cic gornel i Gaerdydd. Whittingham yn mynd am ergyd, ond dyw e’ ddim yn bygwth y gôl.

3.24pm- Llundain- Blackpool yn pwys0 ac yn pasio’r bêl yn dda.  Ymosodiad Blackpool yn dod i ben ar ôl croesiad siomedig gan Crainey.

3.22pm Llundain- Charlie Adam yn ergydio o bell.  Ond mae digon pell o gôl Caerdydd.

3.20pm- Campbell yn methu cyfle i Blackpool.

3-14pm- Llundain- Ergyd i Gaerdydd- Jay Bothroyd wedi’i anafu ac yn cael ei eilyddio- Kelvin Etuhu yn dod ‘mlaen yn ei le.

3.12pm- Llundain- Gôl i Blackpool. Capten Blackpool, Charlie Adam yn sgorio o gic rydd ardderchog. 1-1

3.08pm- Llundain- Gôl i Gaerdydd!! Michael Chopra yn sgorio! 1-0 i’r Adar Glas. “What’s that coming over the hill, its Michael Chopra, Its Michael Chopra!”

3.06pm- Llundain- Blackpool yn targedu amddiffyn araf Caerdydd gyda phasio hir ‘mlaen at Campbell.

3.04pm- Chopra yn taro’r trawst o groesiad Whittingham.

3.03pm- Llundain- Blackpool yn mwynhau’r gorau o’r meddiant cynnar.

3.00pm- Llundain- Caerdydd i gychwyn y gêm. Mae’r awyrgylch yn drydanol yn Wembley.

2.54pm- Llundain- Chwaraewyr Caerdydd a Blackpool yn dod allan i’r cae.  Bois y Gym-Gym yn credu bydd Caerdydd yn ennill 2-0!

2.39pm- Llundain-  Yn y stadiwm.  Anhygoel, ond dim cweit mor dda a Stadiwm y Mileniwm!

2.30pm- Bangor- Ar y ffordd i’r faenol.  Gweld y babell fawr a clywed y swn.  Gobeithio cyrraedd erbyn Chipmunk a Hadouken.

2.08pm- Llundain- Wedi dod bant o’r tiwb ac yn gweld Wembley.  Mae’r awyrgylch yn hollol wych rhwng y cymysgedd o las ac oren.

2.05pm Llundain- Newyddion y timau- Tîm Caerdydd- Marshall, McNaughton, Hudson, Blake, Kennedy, Burke, McPhail, Ledley, Whittingham, Bothroyd, Chopra.

Tîm Blackpool- Gilkes, Coleman, Evatt, Baptiste, Crainey, Vaughan, Southern, Adam, Campbell, Taylor-Fletcher, Ormerod.

1.59pm Llundain- Ar y tiwb efo cefnogwyr Blackpool- pawb yn canu.

1.09pm Llundain- Wedi cyrraedd Llundain ac yn cael cwpl o beints yn The Globe ar Stryd Marylebone.  Cannoedd o Bluebirrds tu allan yn canu a saintio.

Tân y Ddraig allan o bwff?

Cyhoeddwyd Mai 19, 2010 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Celfyddydau, Cerddoriaeth

Malan Vaughan Wilkinson sy’n gofyn a ydi Gŵyl y Feanol wedi newid ei chân…

Mae’r cyhoeddiad y bydd noson Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol eleni yn cynnwys bandiau Seisnig wedi troi’n dipyn o bwnc llosg.

Ers bron i ddegawd roedd y noson yn gyfle prin, tu hwnt i un wythnos ym mis Awst, i roi llwyfan i gerddoriaeth boblogaidd bandiau Cymraeg.

Roedd y noson wedi denu cynulleidfa ffyddlon sy’n cario ‘mlaen i fynychu’r ŵyl yn flynyddol (gan fy nghynnwys i!).

Serch hynny, mae rhai wedi croesawu penderfyniad y trefnwyr i ddarparu llwyfan i fandiau Seisnig er mwyn denu tyrfa newydd i weld bandiau Cymraeg.

Ond, mae eraill yn gofyn pam na gymerwyd y cyfle i arddangos rhai bandiau Saesneg gyda chysylltiadau cryf â Chymru – fel yr awgrymodd Arfon Wyn o fand y Moniars.

Draig digon llipa

O’m rhan i, mae’r cliw yn yr enw. Tan y Ddraig fydd enw’r noson o hyd. A heblaw eu bod nhw’n cyfeirio at ryw sarff Siapaneaidd, rwy’n cymryd mai at Gymru’n benodol y maen nhw’n cyfeirio.

Wrth gwrs bod angen sêr mawr rhyngwladol o Loegr a thu hwnt ar yr ŵyl ond dwi’n siŵr ein bod ni’n gallu llunio o leiaf un line-yp o’n talent ein hunain?

Dwi’n credu y byddai cynnwys bandiau o Gymru sy’n canu’n Saesneg, ac mae yna ddigon ohonyn nhw wedi gwneud eu henw’n fyd eang, wedi bod yn llwyddiant mawr.

Mae’n wrthun i mi fod rhaid i ‘wlad y gân’ fentro ‘allan’ i chwilio am fandiau pan mae’r genedl yn meithrin cyfoeth o dalentau ifanc, brwd a dwyieithog.

Dyma un noson mewn gŵyl benwythnos sy’n gyfle perffaith i Gymru ddangos i weddill y byd mor amryddawn yw ei cherddorion.

Datganiad ‘gwleidyddol’

Beth bynnag am Dân y Ddraig, beth oedd yn gadael y blas cas yn y geg go iawn oedd noson gyfan i ddathlu  ‘Pen-blwydd Brwydr Prydain’.

Mae pawb yn cefnogi ac yn parchu’r aberth a wnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond o edrych ar y line yp mae peryg i’r noson droi yn noson o bropaganda i frwydrau’r  presennol sydd dipyn mwy dadleuol.

Dwi’n credu y byddai noson o’r math yma yn tynnu’n groes i ddaliadau heddychlon a chenedlaetholdeb Cymreig y rhan fwyaf o drigolion y fro ble y bydd hi’n cael ei chynnal.

Wrth gwrs bod “croesawu pobl o bob cwr o Brydain” i “gornel o Gymru unwaith eto” yn bwysig, fel y mae Bryn Terfel eisoes wedi sôn.

Ond does dim pwynt eu gwahodd nhw draw i fwynhau line-yp y gallen nhw fod wedi ei weld yn Chesham.

Y pryder sydd gen i yw bod Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol wedi colli peth ar yr hyn oedd yn ei gwneud hi’n noson unigryw.

Cawn ni weld yn y man os ydi hi wedi colli blas ar ei Chymreictod ac yn canu rhyw gân arall bellach.