Cynyddu maint testun

Golwg360

Ceredigion – brwydr rhwng Plaid, y Dems Rhydd a’r Annibynwyr

Cyhoeddwyd Mai 1, 2012 gan Catrin Haf Jones. 3 Sylw.

Tagiau: Ceredigion, enfys, etholiadau lleol


Golwg 360 sy’n cymryd golwg ar rai o’r cynghorau lleol sy’n werth eu gwylio ar 3 Mai. Heddiw, mae Catrin Haf Jones yn edrych ar y sefyllfa yng Ngheredigion…

Mae hi eisoes yn 1-1 i Blaid Cymru a’r Grŵp Annibynnol yng Ngheredigion yn etholiadau lleol 2012, gydag ymgeisydd yr un wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad mewn dwy ward.

Ond fe fydd Plaid Cymru yn gobeithio gwneud yn well na thynnu’n gyfartal yn 2012, wedi iddyn nhw fethu â sicrhau mwyafrif yn y Cyngor yn 2008 – a chael eu gwthio i’r ymylon wrth i’r Grŵp Annibynnol greu clymblaid enfys gyda’r Dems Rhydd ac un Llafurwr er mwyn rhedeg y Cyngor.

Methu cipio’r awenau o drwch blewyn fu hanes Plaid Cymru yn 2008, gyda’u 20 cynghorydd un yn brin yn erbyn clymblaid 22 aelod yr enfys.

Ond tra bod Plaid yn llygadu ambell i sedd newydd eleni, mae o leiaf un wedi llithro o’u dwylo, i afael yr Annibynwyr.

Yn Llangeitho y mae hynny, lle mae cyn-gynghorydd Plaid Cymru wedi penderfynu peidio â sefyll eleni, a does dim ymgeisydd arall gan y blaid yn ei le. Yn ôl y sôn yn lleol, yr ymgeisydd Annibynnol sydd fwyaf tebygol o’r tri o fynd â hi eleni – gan roi un sedd ychwanegol i’r Grŵp Annibynnol.

Ond mae Plaid Cymru yn brwydro’n galed, ac yn ne Ceredigion maen nhw i’w gweld yn dawel hyderus bod ganddyn nhw gyfle da i gipio sedd oddi wrth y Dems Rhydd yn Llanarth, gydag ymgeisydd Plaid yn herio Cynghorydd a etholwyd yn ddiwrthwynebiad yn 2008.

Ond tra bod brwydro carreg y drws yn bwysig, gyda phersonoliaethau mor ddylanwadol ag erioed, mae’r cyd-destun cenedlaethol hefyd yn chwarae’i ran.

Sir sy’n tynnu’n groes

Sir sy’n torri ei chwys ei hun yw Ceredigion, a thynnu’n groes i’r duedd genedlaethol yw ei harfer pan mae’n dod i etholiadau. Ac mae’n  debyg mai dyna fydd y drefn eto eleni.

Tra bod y gwybodusion yn darogan adfywiad i Lafur ar draws Cymru, wrth iddyn nhw adennill y seddau a gollwyd yn 2008, does dim ond un ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion gyfan.

Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud ychydig yn well, gydag 19 ymgeisydd ar gyfer y 42 sedd – er bod tri o’r ymgeiswyr hynny yn dod o’r un cartref.

Ond etholiad rhwng Plaid Cymru, y Dems Rhydd a’r Grŵp Annibynnol yw hwn yn draddodiadol.

Eleni, mae Plaid Cymru yn cystadlu am 33 sedd, tra bod y Dems Rhydd yn cystadlu am 28 sedd, a’r Annibynwyr yn ceisio ennill 21 sedd.

Tra bod y tir sosialaidd yn creu cystadleuaeth rhwng Llafur a Phlaid Cymru fel arfer, nid felly yng Ngheredigion, lle mae etholwyr yn cael eu rhwygo’n gyson rhwng bwrw pleidlais i’r Dems Rhydd neu i Blaid Cymru.

Neges y pleidiau

Mae’r Dems Rhydd wedi trio dwyn perswad ar bleidleiswyr fod Llafur yn rhoi bargen wael iddyn nhw yn y Cynulliad, a bod pleidlais iddyn nhw yn bleidlais o blaid pethau fel rhewi treth y Cyngor, ac arbed gwasanaethau lleol. Ond wrth i’r esgid fach wasgu, bydd gwaith perswadio ar garreg y drws mai ym Mae Caerdydd y mae’r bai am bopeth.

Er nad oes ganddyn nhw fwy nag un ymgeisydd yng Ngheredigion, tybed a fydd neges y Blaid Lafur yn condemnio Llywodraeth San Steffan yn cael unrhyw effaith ar bleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, a fydd hefyd yn llai tebyg o gael cefnogaeth myfyrwyr ar ôl y tro bedol tros ffioedd prifysgol.

A’r Grŵp Annibynnol wedyn mae eu maniffesto (oes, er eu bod yn ‘Annibynnol’, mae ganddyn nhw faniffesto) yn nodi mai amddiffyn gwasanaethau lleol sydd â llai o gyllideb yw eu nod, a rhoi blaenoriaeth i addysg – er bod y flaenoriaeth honno wedi sathru ar draed ambell un dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r Annibynwyr gefnogi cau ysgolion bach a chreu ysgolion bro.

Felly gyda Llafur allan ohoni, a’r Ceidwadwyr heb un sedd ar y Cyngor ar hyn o bryd, a’r un ymgeisydd Gwyrdd ar gyfyl y lle, mae’n ymddangos mai brwydr rhwng tri fydd yng Ngheredigion eleni eto – gydag un prif gwestiwn ar ddiwedd y dydd: a fydd Ceredigion yn dychwelyd i’r enfys wedi’r etholiad, neu a fydd un blaid yn llwyddo i groesi trothwy’r 21 sedd a sicrhau mwyafrif?

Gallwch weld rhestr llawn o’r ymgeiswyr ar draws Ceredigion wrth glicio YMA.

Llawenydd mawr yng Ngheredigion!

Cyhoeddwyd Mehefin 8, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Anwen Eleri, Celfyddydau, Ceredigion, Eisteddfod yr Urdd

Logo UrddFe basiodd wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am flwyddyn arall, ond bydd yr atgofion o haul a bwrlwm yn parhau’n hir i’r rhai a fu yn Llanerchaeron yr wythnos diwethaf.

Un a fu’n gweithio’n galed ymlaen llaw, ac ar y maes yw Swyddog Datblygu yr Urdd yng Ngheredigion, Anwen Eleri. Hi sy’n crynhoi ei theimladau am yr wythnos a fu…

Wedi wythnos wych a blynyddoedd o baratoi, mae’r Steddfod yng Ngheredigion wedi mynd a’n gadael ni. Rydym fel staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r mudiad ar goll heb y bwrlwm o baratoadau, heb ymarferion diri, heb gystadlaethau, heb y rhedeg o gwmpas o un peth i’r llall fel ffŵl dwl,  heb yr holl goch, gwyn a gwyrdd o’n cwmpas,  ac wrth gwrs heb yr haul tanbaid!

Fe fydd sawl peth yn aros yn y cof – y sioeau, yr oedfa,  y cystadlu, yr enillwyr lleol, y bwrlwm a’r gefnogaeth. Y môr o goch, gwyn a gwyrdd a’r hyd y sir a sut y daeth Ceredigion gyfan at ei gilydd i greu gŵyl lwyddiannus iawn yn Llanerchaeron – diolch i bawb.

Hoffwn ar ran Staff yr Urdd yn lleol a Phwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010, ddiolch o galon i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod yr wythnos a’r blynyddoedd cyn hynny wrth baratoi. Roedd yn wythnos ffantastig a chofiadwy iawn, a diolch i bawb fu’n rhan o’r broses ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd tuag at ei llwyddiant – diolch enfawr i bawb. 

Ma’r gwaddol o frwdfrydedd a chefnogaeth i’r Urdd yn parhau o hyd ac rwyf yn hynod falch o’r cyfle i weithio i fudiad sydd yn cynnig cymaint o brofiadau a chyfleoedd i’n haelodau. Yn sicr bydd Steddfod Ceredigion yn un i’w chofio i’n haelodau.

Gobeithio i bawb joio da’r Cardis!

Cwffio Clegg yn lle Williams

Bleddyn Bowen, myfyriwr yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sy’n edrych ar beth aeth o’i le i Blaid Cymru yng Ngheredigion…

Yn fuan iawn ar ôl i’r blychau pleidleisio gyrraedd y cyfri yn Aberaeron, roedd hi’n amlwg bod Mark Williams yn mynd i gadw ei sedd yng Ngheredigion. Ond hyn yn oed wedyn, roedd y fuddugoliaeth o dros 8,000 o bleidleisiau yn sioc i bawb.

Dyma oedd sedd targed Rhif 1 Plaid Cymru, ar ôl ei golli o gwta 200 o bleidleisiau yn 2005. Felly beth oedd yn gyfrifol am y canlyniad syfrdanol?

Mae’n amlwg o ystyried y canlyniadau ar draws Prydain mai Cleggmania oedd un o fflops fwyaf yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn. Roedd e’n gwneud i Ddôm y Mileniwm Llundain edrych fel llwyddiant ysgubol.

Ond wrth i’r pentwr o bleidleisiau o blaid Mark Williams gynyddu, roedd tîm Plaid Cymru yn dal i feio dadleuon arweinwyr y prif bleidiau am lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y cyfri yn Aberaeron, roedden ni wedi ein hynysu o weddill Prydain a heb unrhyw ffordd o wybod sut roedd yr etholiad yn siapio.

Roedd pawb yno dan yr argraff bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi profi’r un llwyddiant ym mhobman arall, a hynny o ganlyniad i Cleggmania. Dywedodd Elin Jones, AC Plaid y rhanbarth, fod ganddi bellach hyd yn oed yn fwy o reswm i gwyno am y BBC wrth Ofcom.

Ond wrth i mi yrru yn ôl adref i Aberystwyth (gan wibio heibio i dyrfa o fyfyrwyr yn dathlu gydag arwyddion Mark Williams ar North Parade am 3am) a gwrando ar sut oedd y ras etholiadol yn datblygu y tu allan i Gymru, daeth i’r amlwg nad oedd Cleggmania wedi cael unrhyw effaith. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli seddi.

Roedd Plaid hefyd wedi ennill brwydr agos yn erbyn y blaid Lafur yn Arfon, ac wedi cau’r bwlch yn sylweddol yn Llanelli.

‘Marmite’

Mae Penri James, ymgeisydd Plaid, wedi dweud ei fod e wedi rhedeg ymgyrch dda ac na fydden nhw wedi gallu gwneud mwy o ymdrech o ran canfasio.

Ond yr argraff sydd gen i yw bod Plaid Cymru wedi ceisio ymladd effaith Nick Clegg yn ormodol, gan anghofio’r ffaith bod Mark Williams yn AS eithaf hoffus.

Roedd aelodau pob plaid wedi dweud wrtha’i ar noson y cyfri’ fod gan Mark Williams record dda yn San Steffan, a bod cefnogaeth sylweddol i Mark Williams ei hun yng Ngheredigion.

Dywedodd un aelod o Blaid Cymru – “Mae Mark Williams yn haws i bobol i hoffi i raddau gwahanol, ble mae Penri James fel Marmite. Rydych chi’n ei gasáu neu’n ei garu.”

Ffactor arall wrth gwrs oedd pleidlais y myfyrwyr, yn bennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl y son roedd nifer y myfyrwyr wnaeth bleidleisio yng Ngheredigion dydd Iau yn uchel iawn.

Ac fe alla i fel myfyriwr yn Aberystwyth gadarnhau fod yna gefnogaeth gref i’r Dems Rhydd ymysg y myfyrwyr yn y fan honno.

Roedd pleidlais ffug yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cynhyrchu buddugoliaeth glir i Nick Clegg, gyda’r Torïaid yn ail.

Dw i’n credu bod pleidlais y myfyrwyr wedi ychwanegu yn sylweddol at fwyafrif Mark Williams – ond mae’n anodd dadlau y bydden nhw wedi newid y canlyniad.

Roedd Plaid wedi rhedeg ymgyrch llawer gwell yn 2010 nag yn 2005, ond nid oedd hi’n ddigon yn erbyn record Mark Williams yn San Steffan.

Mark Williams enillodd yng Ngheredigion, nid Nick Clegg. Y rheswm amlwg dros ei fwyafrif clir ydi bod pobol Ceredigion yn hapus gyda’i waith yn San Steffan.

Brwydro am bob pleidlais yng Ngheredigion

Gyda llai nag 24 awr i fynd tan ddechrau’r pleidleisio, mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn taflu popeth at Geredigion. Dau o fyfyrwyr adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, Bleddyn Bowen a Bethan Foweraker, sy’n trafod gyda’r etholwyr sydd wedi’u dal yn y canol…

“Roedd mwy o ddiddordeb gen i yn y dwst folcanig…”

Roedd barn y dyn hwnnw yn crynhoi i ryw raddau sut ymateb gawson ni yng Ngheredigion wrth holi pobol leol a’r myfyrwyr ynglŷn â’r etholiad.

Bwriad ein taith o amgylch  Aberystwyth a Llandysul oedd gweld pwy oedd yn mynd i bleidleisio i bwy, a pham, yn ogystal â thrafod y dadleuon teledu sydd wedi bod ymlaen dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd ymateb pobl Ceredigion yn amrywio. Cawsom gwpl hŷn yn cwyno eu bod nhw wedi cael digon ar bob plaid oherwydd bod pensiynau yn wael a bod yr holl broblemau ynglŷn â’r treuliau wedi eu dadrithio nhw. Ar y llaw arall, fe drafodon ni â llawer o bobl â barn gref iawn ynglŷn â naill ai Plaid neu’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd llawer o bobl serch hynny wedi cael llond bol. Yn wir, fe ddywedodd un dyn y dylen ni gael gwared ar bawb!

Effaith y dadleuon teledu

Un peth a ddaeth yn amlwg oedd  bod y rhan fwyaf o bobol yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, am eu bod nhw’n teimlo y byddai pleidlais dros un o’r lleill  yn ddi-werth. Ar y cyfan, roedd y rhai a oedd yn bwriadu pleidleisio Democratiaid Rhyddfrydol yn teimlo ei bod hi’n bryd cael rhywun arall yn rheoli Prydain ar wahân i’r Ceidwadwyr a Llafur, a bod dadleuon yr arweinwyr ar y teledu wedi dangos mai Nick Clegg oedd y gorau o’r tri.

Yn gyffredinol, roedd y rhai a oedd yn bwriadu pleidleisio Plaid yn dweud eu bod nhw gwbl yn erbyn y dadleuon teledu a’u bod nhw’n amherthnasol i Gymru. Dwedodd un person nad oedd sôn am Gymru wedi bod mewn unrhyw un o’r dadleuon. Yn ogystal â hynny, roedd sawl un yn gweld chwith nad oedd Plaid wedi cael y cyfle i drafod ei pholisïau ar deledu, a denu mwy o bleidleisiau yng Ngheredigion.

Lle mae Llafur?

Wrth deithio ar hyd Ceredigion, daeth i’r amlwg fod ardaloedd gwahanol yn cefnogi pleidiau gwahanol. Mae ardaloedd y myfyrwyr yn Aberystwyth yn frith o bosteri oren a melyn, tra bod  sawl arwydd Plaid yn yr ardaloedd Cymreig a gwledig. Un o’r pethau mwyaf diddorol yn nhre Aberystwyth dros y penwythnos oedd bod gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol stondin yr un er mwyn trafod gyda phobl yn y dre, ond nad oedd Llafur i’w gweld yn unman!

Yr unig beth oedd bron i bawb yn cytuno arno oedd, fel y dywedodd un dyn, bydd gan bwy bynnag sy’n ennill nos yfory dasg anodd o’i blaen!

Ceredigion – amhosib proffwydo

Dau o fyfyrwyr adran Gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, Bleddyn Bowen a Bethan Foweraker, sy’n cymryd cip ar y ras agos yng Ngheredigion …

Yng Ngheredigion y mae’r frwydr ar ei mwyaf amlwg rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n amhosib i’w osgoi – mae arwyddion Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol fel brech yr ieir dros gefn gwlad ac wedi’u plastro dros pob drws a ffenestr wag yn Aberystwyth.

Er gwaetha’r ffaith mai dim ond 200 o bleidleisiau oedd rhwng y ddwy blaid yn 2005 mae Plaid Cymru’n wynebu llethr serthach i ail ennill y sedd eleni yn sgil perfformiadau Nick Clegg yn nadleuon arweinwyr y prif bleidiau Prydeinig.

Yn ogystal â hynny, mae Undeb Myfyrwyr yn Aberystwyth wedi bod yn annog myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio, a gyda mwy na 200 ohonyn nhw eisoes wedi gwneud hynny, fe allai wneud gwahaniaeth mawr i’r canlyniad dydd Iau.

Rali – gynnau mawr y Blaid

Cynhaliodd Plaid rali lwyddiannus yng nghanol Aberystwyth ddydd Sadwrn  24 Ebrill, ac roedd pob un o’u ‘gynnau mawr’ i’w gweld ar y strydoedd. Yn eu mysg, roedd Dafydd Iwan, Ron Davies (cyn Ysgrifennydd Cymru), Ieuan Wyn Jones, Elfyn Llwyd, Elin Jones, ac wrth gwrs yr ymgeisydd, Penri James, ei hun.

Prif thema’r rali oedd pwysleisio bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid o Lundain, tra bod Plaid Cyrmu yn blaid o Gymru, i’r Cymry. O ran newid y system ethol, roedd Plaid yn mynnu taw eu syniad nhw oedd hynny gynta, ymhell cyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei fabwysiadu.

Hystings

Nos Lun, yr 26ain o Ebrill cynhalwyd hystings yn Aberystwyth. Roedd pob un o’r ymgeiswyr yng Ngheredigion yno, heblaw am ymgeisydd UKIP, Elwyn Williams.

Roedd arfau niwclear Trident yn un o’r pynciau llosg, ac fe wnaeth yr ymgeisydd Llafur, Richard Boudier, ymdrech dda i amddiffyn y rhesymeg tu ôl i gadw’r system yn erbyn panel oedd yn gytun yn erbyn eu hadnewyddu. Cyfaddodd ymgeisydd y Ceidwadwyr, Luke Evetts, ei fod yn anghytuno gyda pholisi’r blaid Geidwadol ynglŷn â’r mater, ac nad oedd yn gallu amddiffyn polisi ei blaid.

Ond dadl rhwng Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd hon ac mae’n deg dweud mai Penri James a gafodd y gymeradwyaeth gryfaf – efallai bod mwy o gefnogwyr Plaid ymysg y gynnulleidfa! Er hynny roedd Mark Williams yn siaradwr gwell ac roedd yn gallu ymateb yn dda i bob un o’r pynciau a godwyd.

Un peth sy’n sicr …

Roedd yr hystings yn adlweyrchiad clir o’r sefyllfa yng Ngheredigion – mae gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol eu cryfderau, ac mae’n amhosib rhagweld beth fydd y canlyniad yn oriau man y bore 7 Mai. Yr unig beth sy’n sicr yw y bydd hi’n agos.

Gellid achub ysgolion cynradd Ceredigion

Cyhoeddwyd Ebrill 16, 2010 gan Angharad Clwyd. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Ceredigion

Angharad Clwyd, rhiant o Landysul ac un o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n rhoi ei barn ar y cynllun i adeiladu ysgol syth-drwodd 3-19 oed yn y fro…

Roedd yna deimlad cryf o ‘deja vu’ yn y cyfarfod ‘llawn i’r ymylon’ nos Fercher diwethaf yn Llandysul. Cyfarfod arall oedd hwn i drafod y posibiliad o greu un ysgol fawr 3-19 oed yn yr ardal, gan gau Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi a phump ysgol gynradd.

Lleisiwyd yr un cwestiynau a phryderon a fynegwyd gan rieni a llywodraethwyr yn y cyfarfodydd blaenorol, ac unwaith eto fe aeth y Cyfarwyddwr Addysg ac ymgynghorwyr yr astudiaeth dichonolrwydd ati i osgoi ateb y cwestiynau.

Yn hytrach, traethasant yn hirfaith ynghylch a beth yw’r problemau sydd yn ein hwynebu a cheisio gwyro sylw’r gynulleidfa wrth sôn am yr holl gyfleusterau anhygoel a fyddai ar gael yn yr adeilad newydd.

Enghraifft o’u hamharodrwydd i ateb cwestiynau oedd pan y gofynnwyd iddynt yn syml a oeddent wedi gwneud asesiad ariannol manwl ar gyfer creu ffederasiwn rhwng yr ysgolion? Ni ddaeth ateb.

Mae’n amser i’r swyddogion addysg dderbyn bellach nad yw cymunedau ardal Llandysul yn dymuno gweld ysgol enfawr â dros fil o ddisgyblion yn cael ei chodi  mewn cae y tu allan i ffiniau’r dref, ac nad ydynt yn dymuno gweld prif ffocws ein cymunedau yn cael eu chwalu, yn cynnwys cymuned tref Llandysul ei hun.

Mae’r Cyngor wrth gwrs i’w ganmol am gynnwys y cymunedau yn rhan o’r trafodaethau, ond os nad oes bwriad gan y Cyngor i wrando ar farn y cymunedau yn dilyn y cyfarfodydd, mae’r cyfarfodydd yn ddiwerth.

Roedd y mwyafrif yn y cyfarfod, gan gynnwys fi, yn cytuno fod mawr angen adeilad newydd ar gyfer Ysgol Dyffryn Teifi. Taflwyd bygythiadau gan y panel y gall yr ysgol gau neu golli ei chweched dosbarth os na fyddai’r cynllun yma’n cael ei wireddu. Ond y gwir yw nad yw’r swyddogion addysg wedi ymchwilio yn ddigonol i opsiynau eraill posibl o ddenu grantiau ar gyfer yr ysgol.

Un syniad gwerth chweil a ddaeth o’r astudiaeth dichonolrwydd oedd cael Canolfan Gydol Oes ar y campws newydd yn ogystal â Chanolfan Iaith Uwchradd a Chynradd ar gyfer hwyrddyfodiad.

Ond pam na ellir ceisio am gyllideb ar gyfer campws yn cynnwys Ysgol Uwchradd, y canolfannau iaith,  a chanolfan gydol oes gyda’i gilydd, a pheidio â chynnwys adran gynradd? Does dim synnwyr mewn llusgo’r plant o’u hysgolion a’u cymunedau er mwyn cyllido’r anghenfil hwn.

Wrth gwrs, bydd angen edrych o’r newydd ar sefyllfa addysg gynradd yr ardal. Dywedwyd dro ar ôl tro yn y cyfarfod nad yw’r status quo yn bosibl – ond nid felly’r sefyllfa ym mhob ysgol mewn gwirionedd. Mae gan ysgol gynradd Llandysul, ysgol sydd â dros 180 o blant, a dim ond ychydig iawn o leoedd gwag, adnoddau gwych ac adeilad addas eisoes.

O ran y 4 ysgol gynradd arall, mae yna nifer o opsiynau eraill posibl, ond mae angen dechrau meddwl yn greadigol, gyda’r swyddogion yn gweithio ar y cyd gyda’r cymunedau yn hytrach na meddwl yn fiwrocrataidd a mynnu canoli pob dim.

Mae yna 6 wythnos o ymgynghori ar ganlyniad yr astudiaeth yn awr a buaswn yn annog pawb i ddanfon eu sylwadau at y Cyfarwyddwr Addysg Eifion Evans. Dros y pythefnos nesaf bydd y swyddogion addysg a’r ymgynghorwyr yn cyfarfod â’r chwech corff llywodraethol sydd yn cael eu heffeithio. Mae corff llywodraethol Ysgol Dyffryn Teifi eisoes wedi pleidleisio i gefnogi’r cynllun. Petai cyrff llywodraethol y pump ysgol gynradd yn pleidleisio yn erbyn y cynllun fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd y swyddogion yn gwrando neu a fyddant yn parhau i wthio’u cynllun ar ein cymunedau.

Ceredigion – Y sedd fwyaf ymylol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd Ebrill 15, 2010 gan Ifan Dylan. 2 Sylw.

Tagiau: Ceredigion, Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Yn gyntaf, Ceredigion…

Gellir dadlau taw Ceredigion yw’r sedd fwyaf ymylol yng Nghymru. Dim ond 219 pleidlais o fantais oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol dros Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2005, a does dim arwydd clir o bwy sy’n debygol o fynd a hi y tro yma.

Mae’r etholaeth yn un wledig, efo cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, a chyfran uwch na’r cyffredin o fyfyrwyr prifysgol a phreswylwyr sydd wedi cael addysg prifysgol.

Mae’n debygol fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol fantais yn sgil y miloedd o fyfyrwyr prifysgol sydd yno, gan fod y blaid yn draddodiadol wedi mwynhau cefnogaeth gan gyfran fawr ohonyn nhw.

Er hyn, mae’r blaid wedi cael ei beirniadu gan undebau myfyrwyr ar ôl cyhoeddi na fyddent yn cael gwared ar ffioedd dysgu yn syth petawn nhw’n dod i rym.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd y fantais o fod â’i gafael ar y sedd, ac o fwynhau mwy o gefnogaeth ariannol na Phlaid Cymru. Yn ogystal, maen nhw’n rhannu grym efo’r Annibynwyr ar y cyngor sir.

Ond dyma sedd rhif un ar restr targedi Plaid Cymru, a gafodd eu beirniadu’n hallt am ei cholli yn y lle cyntaf yn 2005.

Yn ogystal, mae gan Blaid Cymru y fantais o fod yn rhan o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, ac o boblogrwydd AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones.

Mark Williams

Mae Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, Mark Williams, wedi dweud wrth golwg360 fod y frwydr yn mynd i fod yn un agos, ond fod hynny yn mynd i olygu “lles mawr i ddemocratiaeth”.

“Bydd rhaid i’r enillydd weithio’n galed i ennill” meddai, ac mae hynna’n “dda i’r system.”

Dywedodd fod polisïau’r ddwy blaid yn debyg mewn rhai agweddau, pan ddaw hi at wasanaethau cyhoeddus a datganoli.

Ond dywedodd taw’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n fwy tebygol o allu bod yn effeithiol yn y Senedd yn Llundain. Honnodd fod Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn gallu cael eu “gwthio i’r ochor yno”, yn sgil y nifer fechan sydd ohonyn nhw.

Dywedodd ei fod wedi bod yn weithgar yn yr etholaeth, a heurodd ei fod ef wedi bod yn fwy diwyd yn Nhŷ’r Cyffredin nac y mae Aelodau Seneddol o Blaid Cymru wedi bod.

Ynglŷn â chefnogaeth myfyrwyr a’r mater o ffioedd dysgu, dywedodd Mark Williams fod polisi’r blaid yn “dal yn glir.”

Dywedodd fod y blaid wedi “ymroi i’r egwyddor” o gael gwared o ffioedd dysgu, ond yn sgil y trafferthion economaidd, mi fyddai hyn yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd.

Rhaid bod yn “gyfrifol” meddai, ac mae’n credu y “byddai pobol yn derbyn hyn”.

Penri James

Penri James yw ymgeisydd Plaid Cymru, ac mae wedi dweud wrth golwg360 fod gan etholwyr Ceredigion “ddewis go iawn”.

Mae’n dweud y byddai ef, fel ymgeisydd Plaid Cymru yn “rhoi blaenoriaeth i anghenion Ceredigion a Chymru” yn San Steffan.

Mae hyn yn wahanol meddai, i Aelod Seneddol o’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd ond “yn un o nifer yn San Steffan,” lle mae “anghenion Ceredigion a Chymru yn cael ei foddi gan bleidiau Llundain.”

Nid yw’n derbyn meddai, fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogaeth draddodiadol ymhlith y myfyrwyr.

Honnodd taw rhyfel Irac a ffioedd dysgu oedd y pynciau llosg a allai fod wedi sbarduno’r myfyrwyr i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005.

Ond mae’n credu fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn “arwynebol iawn”, a bod dim byd ganddyn nhw i “danio’r myfyrwyr” y tro yma.

I’r gwrthwyneb, meddai, mae myfyrwyr wedi “dangos diddordeb” yn ei bolisïau ynni gwyrdd ef.

Cyhuddodd y Democratiaid Rhyddfrydol o ganolbwyntio ar ymosod ar Blaid Cymru yn hytrach nac “annog eu polisïau eu hunain.”

Yn ogystal, rhybuddiodd yn erbyn taflenni canfasio camarweiniol Mark Williams, sydd, honnodd, yn “lliwio’r gwir.”

Roedd yn annog yr etholwyr i edrych ar record y pleidiau.

Yr ymgeiswyr am sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Mark Williams Democratiaid Rhyddfrydol
Penri James Plaid Cymru
Leila Kiersch Y Blaid Werdd
Luke Evetts Y Ceidwadwyr
Richard Boudier Llafur
Mike Wieteska UKIP

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Democratiaid Rhyddfrydol – Mark Williams
  • O sawl pleidlais: 219
  • Nifer yr etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 2005: 53,776
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 35,947

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Democratiaid Rhyddfrydol 13,130 36.5
Plaid Cymru 12,911 35.9
Y Ceidwadwyr 4,455 12.4
Llafur 4,337 12.1
Y Blaid Werdd 846 2.4
Veritas 268 0.7

Tictacs – sut i ennill etholiad

Dylan Iorwerth yn ystyried y tactegau posib yn un o seddi ymylol Cymru, Ceredigion…

Erbyn prynhawn dydd Mawrth, roedd y posteri etholiad cynta’ wedi ymddangos yng Ngheredigion.

Rhai oren – mwy oren hyd yn oed na Peter Hain ar ôl ymweliad a’r salon haul. Roedd hynny’n dangos mai rhai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedden nhw.

Dyna un o’r penderfyniadau cynta’ i’w wneud mewn ymgyrch etholiadol – pa mor fuan neu hwyr i arddangos nerth.

Un ddamcaniaeth ydi fod sioe gynnar yn creu’r argraff mai chi sy’n rheoli pethau … chi ydi’r blaid i’w churo.

Fe wnaeth y Democratiaid hynny yng Ngheredigion yn 2005; y nod bryd hynny oedd gwneud yn glir i bleidleiswyr Llafur a Thorïaidd mai hi oedd y dewis arall i gael gwared ar Blaid Cymru.

A nhwthau bellach yn dal y sedd, eu nod eleni eto ydi awgrymu mai ras dau geffyl ydi hon.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae Mark Williams a’i gefnogwyr wedi anfon llond llaw o wahanol bamffledi at etholwyr y sir. Amrywiol o ran safon, ond trawiadol o ran nifer.

Y peryg efo’r dacteg yma ydi cyrraedd y penllanw’n rhy gynnar. Mi all pobol ddiflasu a dechrau cymryd eich posteri’n ganiataol a fydd yna ddim byd newydd i’w ddweud mewn taflenni.

Hold on, Defi John … neu Penri

Dyna pam fod rhai trefnwyr yn licio dal yn ôl a tharo’r etholaeth gyda phosteri ychydig yn nes at ddyddiad y bleidlais.

Mi all hynny roi’r argraff fod yna symudiad cry’ yn digwydd o blaid eich ymgeisydd chi – ar y dybiaeth fod pawb yn licio cefnogi rhywun sy’n ennill.

Roedd hynny ar waith pan lwyddodd Cynog Dafis i guro Geraint Howells yn ôl yn 1992, mae’n bosib y bydd Penri James yn chwilio am effaith debyg.

Mae’n dacteg dda i wrthblaid, yn enwedig mewn isetholiad, yn erbyn y blaid sydd mewn llywodraeth ar y pryd.

Yng Ngheredigion, mae pethau’n fwy cymhleth. Mae gan y Democratiaid ran o’r grym yn y Cyngor Sir ac mae Plaid Cymru’n bartner i Lafur yn Llywodraeth y Cynulliad.

Y Democratiaid sy’n dal y sedd yn San Steffan, ond Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Ar ryw ystyr, mae’r ddwy’n cynrychioli’r status quo, a’r ddwy’n cynrychioli newid.

Dyna pam, efallai, erbyn heddiw, bod placardiau Plaid Cymru bellach yn wynebu rhai’r Democratiaid. Mae’r ddau geiliog yn ceisio meddiannu pen y domen.

Digon i roi prawf ar dictacs Arthur Picton ei hun.