Cynyddu maint testun

Golwg360

Gambl fawr Gatland

Cyhoeddwyd Hydref 7, 2011 gan Cymru. 1 Sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd, Warren Gatland


Owain Schiavone sy’n ystyried dewis yr hyfforddwr o faswr ar gyfer y gêm yna yfory…

Gêm rownd wyth ola’ Cwpan Rygbi’r Byd.

Gêm bwysicaf Cymru erioed efallai? Yn sicr y gêm bwysicaf dw i’n ei chofio.

Ac ar wahân i Mathew Rees, mae’r chwaraewyr i gyd ar gael i Warren Gatland eu dewis i gamu i’r maes yn erbyn y Gwyddelod.

Pwy fyddai wedi meddwl flwyddyn yn ôl, na, pwy fyddai wedi meddwl ddeufis yn ôl mai Rhys Priestland fyddai’n dechrau’n safle’r maswr i Gymru, ac na fyddai lle i Stephen Jones yn y garfan o 22 o gwbl. Nid fi yn sicr.

Fel un sy’n dilyn rhanbarth y Scarlets, dw i wedi dilyn datblygiad Rhys Priestland hefyd. Er gwaethaf fflachiadau, tan tua chanol y tymor diwethaf doeddwn i heb fy argyhoeddi fod y Cymro Cymraeg unrhyw le’n agos at fod yn olynydd hirdymor i Stephen Jones fel maswr y Scarlets, heb sôn am Gymru.

Erbyn hyn, mae hynny’n edrych yn senario realistig iawn, ac yn wir yn senario cyffrous iawn i’w ranbarth ac i’r tîm rhyngwladol.

Gwendidau a chryfderau

Tydi Priestland ddim yn berffaith o bell ffordd – er gwelliant mawr yn ei gêm dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tipyn o waith eto i’w wneud.

Mae cwestiynau am ei amddiffyn ac nid yw’n daclwr arbennig o gryf, yn enwedig o’i gymharu â Stephen Jones, sydd fel cael trydydd blaenasgellwr ar y cae (neu bedwerydd os ydach chi’n cyfrif Gethin Jenkins hefyd!).

Gall cicio Priestland fod yn anghyson hefyd, yn enwedig at y pyst. Fel mae’r sylwebydd Huw Eic yn ein atgoffa’n rheolaidd, mae llwyddiant ei gêm gicio’n dibynnu llawer ar ei gic gyntaf at y pyst.

Er hynny, mae ei hyder yn llawer uwch erbyn hyn a bydd hyder tîm hyfforddi Cymru ynddo’n siŵr o fod yn hwb pellach.

Wrth gwrs, mae’r cryfderau’n bwysicach na’r gwendidau.

Prif gryfder Priestland sydd wedi dod i’r amlwg yng Nghwpan y Byd yw ei fod yn cael y gorau o’r rhai eraill o’i gwmpas, ac yn arbennig felly prif arf ymosodol Cymru dan Warren Gatland – Jamie Roberts.

Mae Priestland yn chwarae gêm fflat iawn, ac yn barod i ymosod llinell amddiffynnol y gwrthwynebwyr. Mae hyn yn tynnu dynion ato gan ryddhau lle i’r rhai tu allan iddo, a does neb wedi elwa’n fwy o hynny na Roberts, sy’n chwarae ei rygbi gorau ers taith y Llewod ddwy flynedd yn ôl.

Druan o Stephen

Ers i’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod gael ei chyhoeddi, mae’r ymadrodd ‘druan o Stephen’ wedi bod yn un sydd wedi atseinio trwy Gymru.

Go brin y bydd Stephen Jones yn teimlo unrhyw hunandosturi. Mae’n chwaraewr hynod gystadleuol, ac fe fydd yn siomedig o fethu â  chwarae rhan mewn gêm mor allweddol i’w wlad, ond fe fydd hefyd yn falch iawn o’i brentis.

Heb os mae cael Jones yn fentor iddo wedi gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad Priestland ar y cae ac oddi arno, a bydd yn dal i fod yn ddylanwad arno am rai blynyddoedd eto rwy’n siŵr.

Penderfyniad dewr

Ac yntau wedi profi ei ffitrwydd, ychydig iawn fyddai wedi darogan na fyddai Stephen Jones i gyda’i 102 o gapiau – yn y garfan o gwbl.

Rhaid cwestiynu’r penderfyniad i anwybyddu rhywun sydd â’r fath brofiad a dawn i reoli gêm. Gêm bwysicaf Cymru ers blynyddoedd maith, a phenderfynu gadael chwaraewr mwyaf profiadol y garfan allan yn gyfan gwbl?

Mae’n benderfyniad dewr a dweud y lleiaf.

Os yn ffit, roedd rhaid cael James Hook ar y fainc. Mae’n gallu chwarae mewn tri safle felly mae’n gwneud synnwyr.

Bydd rhai yn dadlau y dylai fod yn dechrau yn y canol gyda Jamie Roberts, ond er nad ydyw wedi sefyll allan yn y bencampwriaeth, dw i’n tybio bod John Davies yn gwneud llawer o’r gwaith caib a rhaw sy’n mynd heb ei weld.

Os oes angen, gall Hook ddod o’r fainc a chael impact ar y gêm.

Mae Scott Williams wedi creu argraff yn y ddwy gêm ddiwethaf, ac mae’n un i’r dyfodol heb os, ond byddai dyn yn llawer mwy cyfforddus o weld Stephen Jones yn llenwi un o seddi’r fainc.

Does gen i ddim amheuaeth mai Rhys Priestland ddylai ddechrau yn safle’r maswr ddydd Sadwrn, ond dw i ddim yn siŵr o ddoethineb gollwng Stephen Jones o’r garfan o 22 chwaraewr.

Mae’n gambl gan Gatland, a does ond gobeithio ei fod yn gambl fydd yn talu ei ffordd fore Sadwrn.

Nathan Brew: Grŵp Cymru’n un caled

Cyhoeddwyd Medi 8, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd, rygbi cymru


Nathan Brew
Nathan Brew sy’n dweud y bydd ei frawd yn gaffaeliad yn erbyn Fiji a Samoa yng Nghwpan Rygbi’r byd…

Does dim byd yn achosi mwy o nerfusrwydd i chwaraewr na gorfod aros i glywed os ydych chi wedi cael eich dewis i fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ar gyfer twrnamaint rygbi mwya’r byd. Es i drwy’r broses yma nôl yn 2003.

Yn anffodus, bryd hynny, ni chefais i fy newis i fynd i Awstralia. Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda chwaraewyr fel Jonathan Thomas, ac yn deall yn iawn y siom sy’n dod gyda gwybod eich bod yn colli mas ar y cyfle i gynrychioli’ch gwlad ar y llwyfan mwyaf.

Ond mae unrhyw deimladau o siom a thristwch wedi troi’n hapusrwydd a balchder erbyn hyn, wrth i fy mrawd Aled gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Seland Newydd.

Mae’r cyfle yma sydd gan Aled yn ganlyniad o’r gwaith caled mae wedi rhoi i mewn i’w rygbi, ac yn dangos fod unrhyw beth yn bosib gyda gwaith called ac ymroddiad ( a thalent hefyd!).

Dw i’n credu fod y grŵp mae Cymru ynddo wedi helpu achos Aled. Mae chwaraewyr Fiji a Samoa yn enwog am fod yn rhedwyr a thaclwyr cryf ac egnïol, a dyna gryfderau gêm Aled. Efallai bod Warren Gatland yn bwriadu  defnyddio’r cryfderau hyn yn erbyn yr ynyswyr.

Nawr bod y penderfyniadau mawr wedi’u gwneud, a’r garfan wedi’i ddewis, gallwn droi at y cwestiwn mawr sydd ar wefusau pob cefnogwr. Pa mor bell fydd Cymru yn mynd yn y gystadleuaeth?

Does dim dwywaith amdani, mae gennym ni grŵp caled. Rydym ni mewn grŵp gyda thimau sydd wedi bod yn chwarae’n dda iawn yn ddiweddar, ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y twrnamaint. De Affrica yw pencampwyr y byd, a’r ffefrynnau i ennill y grŵp. Fyddai hi ddim yn amhosib i Gymru ennill y gêm gyntaf yn Wellington, ond fe fyddai yn sioc i’r byd rygbi.

Heb y sioc yma yn y gêm gyntaf, fe fydd angen i Gymru faeddu pob tîm arall yn y grŵp i fod yn sicr o orffen yn ail a symud ymlaen i’r rownd nesaf. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd.

Mae hanes Cymru yn erbyn Fiji a Samoa, yn enwedig yng Nghwpan y Byd, yn brawf o hynny. Ar ôl gêm gyfartal Cymru gyda Fiji yn ddiweddar, yn ogystal â buddugoliaeth Samoa dros Awstralia, yr unig beth pendant am y grŵp yma yw bod pob gêm yn mynd i fod yn frwydr a hanner.

Rydw i’n dechrau swnio braidd yn negyddol, felly dw i’n mynd i orffen ar nodyn positif. Wrth edrych ar garfan Cymru, mae’n werth nodi’r cymysgedd o chwaraewyr profiadol sydd gennym, yn ogystal â’r chwaraewyr ifanc fydd yn awyddus i greu argraff dda.

Heb os, mae gennym ni garfan dalentog iawn sy’n ysu i ddangos eu doniau i’r byd. Os allwn chwarae i’r un safon a 2005 a 2008, blynyddoedd y Gamp Lawn, does dim rheswm o gwbl pam na all Cymru syfrdanu’r byd rygbi. Amdani!

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Tonga

Cyhoeddwyd Medi 8, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Kisi Pulu
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yfory, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Tonga yw’r unig un o ynysoedd y Môr Tawel sydd heb gyrraedd rownd yr wyth olaf. A dyma ei blwyddyn hi? Bydd yn chwarae yn erbyn Seland Newydd yn dilyn y seremoni agoriadol yfory.

Gan iddi orffen yn drydydd yn ei grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2007 cafodd le awtomatig yng nghystadleuaeth 2011.

Yn ystod hydref 2010 cafodd fuddugoliaeth yn erbyn tîm Barbariaid Ffrainc, oedd yn cynnwys nifer helaeth o sêr y tîm cenedlaethol, a hefyd tîm A yr Eidal.

Maeddodd Ffiji 20 – 32 oddi cartref fis diwethaf.

Mae hi yn safle 12 ar restr yr IRB o wledydd rygbi gorau’r byd.

Safle tebygol: Ennill dwy gêm yn y grŵp

Record

Ymddangosodd Tonga ym mhob Cwpan y Byd ac eithrio’r un a gynhaliwyd yn 1991.

Er mai record digon siomedig sydd ganddi, fe lwyddodd i ddychryn rhai o brif wledydd y byd ar sawl achlysur.

Dim ond dwy gêm enillodd hi yn y cystadlaethau a gynhaliwyd rhwng 1987 a 2003, ond yn 2007 maeddodd hi Samoa ac UDA, gan golli i Dde Affrica, a aeth ymlaen i ennill y Cwpan, o bum pwynt yn unig,

Chwaraewr i’w wylio

Kisi Pulu

Prop 32 oed a fu yn chwarae i’w wlad ers 2002 gan ymddangos yng Nghwpan y Byd 2003 a 2007.

Mae’n aelod o dîm Perpignan a bu’n chwarae am gyfnod i Coventry.

Pan oedd yn 19 oed cafodd malaria a dywedwyd wrtho ar y pryd na fyddai byw am fwy na dwy flynedd.

Yr Hyfforddwr

Isitolo Maka

Cafodd Isitolo Maka ei eni yn Tonga ond symudodd i Seland Newydd pan oedd yn ifanc. Cynrychiolodd dîm y Crysau Duon bedair gwaith yn 1998 a bu’n aelod o rai o dimau mwyaf nodedig Seland Newydd.

Bu hefyd yn chwarae yn Siapan a Ffrainc. Cafodd ei benodi’n hyfforddwr y tîm cenedlaethol y llynedd ar ôl cyfnod yn gofalu am dîm dan 19 y wlad.

A wyddoch chi?

Mae chwaraewyr Tonga yn aml yn cael yr enw o fod yn euog o chwarae peryglus. Mewn gêm yn ystod taith tîm Cymru i’r wlad yn 1986, yn dilyn tacl uchel gan un o dîm Tonga, cafwyd ymladd mawr.

Yn y cinio ar ôl y gêm, pan ofynnwyd i Jonathan Davies ddweud gair yn y Gymraeg, fe ddisgrifiodd e dîm Tonga fel yr un mwyaf brwnt roedd e wedi chwarae yn ei erbyn erioed.

Mae’n debyg iddo gael cymeradwyaeth frwd gan gynrychiolwyr Tonga, oedd yn meddwl ei fod e’n canmol y tîm cartref!

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Samoa

Cyhoeddwyd Medi 6, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Alesana Tuilagi
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Ar ôl maeddu Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 1991 a 1999 bydd Samoa yn gobeithio ail greu’r gamp eleni er mwyn ennill lle yn rownd yr wyth olaf…

Yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2007 dim ond un gêm a enillodd Samoa, felly bu’n rhaid iddi chwarae dwy gêm ragbrofol yn erbyn Papua Gini Newydd cyn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2011 fel cynrychiolydd Oceania.

Enillwyd y ddwy gêm honno’n hawdd iawn.

Maeddodd Awstralia 32-23 oddi cartref yn Sydney ym mis Gorffennaf, gan awgrymu y bydd y tîm yn un i’w hofni yng Ngwpan Rygbi’r Byd.

Safle tebygol: Enill dwy gêm yn y grŵp

Y Record

Ymddangosodd Samoa yn y rowndiau terfynol bob tro ers 1991 ac yn y flwyddyn honno ac yn 1995 cyrhaeddodd rownd yr wyth olaf.

Yn 1991 maeddodd dîm Cymru yn y gêmau grŵp ac eto yn 1999.

Ar ei thaith i Brydain yn ystod tymor 2010-11 chwaraeodd yn erbyn Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Collodd Samoa bob gêm ond bu’n frwydr ddigon caled rhyngddi a’r tri thîm arall.

Chwaraewr i’w wylio

Alesana Tuilagi

Asgellwr mawr, cryf (6’1’’ ac yn pwyso dros 18 stôn) a fu’n chwarae i Gaerlŷr ers 2004. Mae’n

un o chwe brawd a fu’n cynrychioli Teigrod Caerlŷr.

Cafodd ei eni yn Samoa a bu’n chwarae dros ei wlad ers 2002. Roedd yn aelod o’r tîm a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 2007.

Yr Hyfforddwr

Fuimaono Titimaea Tafua

Yn 2009 penodwyd Fuimaono Titimaea Tafua yn hyfforddwr y tîm rygbi cenedlaethol. Cyn hynny bu’n hyfforddi tîm saith bob ochr y wlad.

Ef oedd capten y tîm cyntaf erioed o Samoa i chwarae yng Nghymru pan chwaraeodd hi ar Barc yr Arfau yn 1988.

A Wyddoch Chi?

Bydd Samoa yn perfformio hen ddawns ryfel o’r enw siva-tau cyn pob gêm a gelwir y tîm weithiau yn Manu Samoa, ar ôl un o ryfelwyr enwoca’r wlad o’r oesoedd cynt.

Tan iddi gael ei hannibyniaeth yn 1962 câi Samoa ei rheoli gan Seland Newydd a bu cysylltiad agos rhwng y ddwy wlad.

Byddai nifer fawr o frodorion Samoa yn mudo’n rheolaidd i Seland Newydd yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Dros y blynyddoedd bu llawer o chwaraewyr o dras Samoaidd yn chwarae i’r Crysau Duon, fel Bryan Williams, Michael Jones a Tana Umaga.

Penderfynodd rhai fel Pat Lam a Frank Bunce chwarae i Samoa wedi i’w gyrfa gyda thîm Seland Newydd orffen.  Nid yw rheolau yr IRB yn caniatáu hynny bellach.

Bu rhai a gafodd eu geni yn Samoa yn cynrychioli’r Crysau Duon, er enghraifft Jerry Collins, Mils Muliaina, ac Inga Tuigamala a ddewisodd chwarae i Samoa yn ddiweddarach.

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Georgia

Cyhoeddwyd Medi 5, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Akvsenti Giorgadze
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Ar ôl dod yn agos yn erbyn Iwerddon yn 2007 bydd Georgia yn gobeithio gadael eu marc ar grŵp cystadleuol eleni…

Mae Georgia ymhlith timau prif wledydd Ewrop nad y’n nhw’n chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Felly, yn ystod y tair blynedd diwethaf roedd yn rhaid iddi chwarae nifer o gêmau cymhwyso er mwyn ceisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd.

Fe fu’n llwyddiannus iawn yn y gêmau hynny yn erbyn Sbaen, Rwsia, Rwmania, Portiwgal a’r Almaen. Un gêm yn unig a gollodd allan o’r deg, a gorffennodd ar frig yr adran.

Safle tebygol: Ennill un gêm yn y grŵp

Record

Cyrhaeddodd Georgia rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn 2003. Bryd hynny, collodd bob

un o’r pedair gêm, yn erbyn Lloegr, Samoa, De Affrica ac Iwerddon.

Yn 2007 fe wnaeth well argraff o lawer. Er mai un gêm yn unig a enillwyd ganddi (curo Namibia 30-0), cafodd y byd rygbi ei syfrdanu gan ei pherfformiad yn erbyn Iwerddon.

Gyda 25 munud i fynd roedd hi ar y blaen yn y gêm honno ond daeth Iwerddon yn ôl i gipio’r fuddugoliaeth 14-10.

Cael a chael oedd hi gan y bu Georgia’n pwyso’n drwm yn ddwfn yn nhiriogaeth tîm Iwerddon tan y chwiban olaf.

Georgia ar hyn o bryd sy’n dal Cwpan Gwledydd Ewrop (y rhai nad y’n nhw’n chwarae yn y Chwe Gwlad), cwpan y mae hi wedi ei ennill dair gwaith ers 2000.

Chwaraewr i’w wylio

Akvsenti Giorgadze

Cafodd ei gap cyntaf fel bachwr yn 1996 ac erbyn hyn mae wedi chwarae 58 o weithiau dros ei wlad.

Ers 2005 bu’n chwarae i Castres yng nghynghrair Ffrainc a chyn hynny i Rovigo yn yr Eidal. Mae’n 34 oed.

Yr Hyfforddwr

Richie Dixon

Penodwyd Richie Dixon yn hyfforddwr yn haf 2010. Bu’n hyfforddi tîm yr Alban am ddwy flynedd ond cafodd ei ddiswyddo ar ôl iddyn nhw golli 25-21 yn erbyn yr Eidal ym mis Ionawr 1998.

Wedi hynny bu’n hyfforddi tîm Glasgow am gyfnod ac yna bu’n gweithio i’r IRB.

Yr Hanes

Ffurfiwyd Undeb Rygbi Georgia yn 1964 ond am ryw 25 mlynedd bu’n rhan o Ffederasiwn Rygbi Rwsia.

Yn 1991 cafodd Georgia ei hannibyniaeth oddi wrth Rwsia ac yn 1992 daeth yn aelod o’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (yr IRB).

Erbyn hyn mae rygbi yn un o’r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y wlad, yn fwy poblogaidd na phêl-droed.

Mae 4,100 o chwaraewyr rygbi a 25 o glybiau wedi’u cofrestru gyda Ffederasiwn Georgia. O’r dyddiau cynnar bu gan y wlad gysylltiadau rygbi agos â Ffrainc ac mae mwyafrif o’r tîm rhyngwladol yn chwarae i dimau o’r wlad honno.

Pan gynhaliwyd Cwpan y Byd yn 2007 roedd 75 o brif chwaraewyr Georgia yn chwarae yn Ffrainc.

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Lloegr

Cyhoeddwyd Medi 5, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Ben Foden (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Bydd Lloegr yn gobeithio ail greu camp y dau Gwpan y Byd ddiwethaf a chyrraedd y rownd derfynol. Os ydyn nhw’n cyrraedd brig eu grŵp mae Ffrainc ac Awstralia yn debygol y sefyll yn eu ffordd..

Mae gan Loegr le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd. Mae rhai beirniaid o’r farn y bydd y tîm yn gwneud yn dda iawn yn y gystadleuaeth ac, yn sicr, hi yw’r gryfaf o wledydd Prydain.

Enillodd Lloegr bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ac mae gobeithion y tîm ar gyfer Cwpan y Byd yn uchel.

Collodd yn erbyn Cymru 19-9 cyn dechrau’r gystadleuaeth, ond maeddodd Iwerddon yn weddol gyfforddus yn Lansdowne Road, gan sicrhau buddugoliaeth 9-20.

Safle tebygol: Rownd yr wyth olaf

Record

Mae record Lloegr yng Nghwpan y Byd, ers ei sefydlu yn 1987, yn un trawiadol iawn.

Cyrhaeddodd y rownd derfynol dair gwaith, yn 1991, 2003 a 2007. Enillodd y Cwpan yn 2003 gan guro Awstralia 20-17, gyda Jonny Wilkinson yn cicio gôl adlam i gipio’r cwpan ar ôl gêm gofiadwy.

Collodd Lloegr yn y rownd gynderfynol yn 1995, ac yn y chwarteri yn 1987 (yn erbyn Cymru) ac yn 1999 (yn erbyn De Affrica).

Chwaraewr i’w wylio

Ben Foden

Mae’r chwaraewr 25 oed hwn yn aelod o glwb Northampton. Mae’n amryddawn ac enillodd ei dri chap cyntaf dros ei wlad mewn tri safle gwahanol, fel mewnwr, asgellwr a chefnwr.

Bellach mae wedi ymsefydlu yn safle’r cefnwr ond oherwydd ei ddoniau amrywiol bydd yn gaffaeliad mawr yn ystod Cwpan y Byd.

Cynrychiolodd ei wlad o dan 16, 19 a 21 cyn ennill ei gap cyntaf i Loegr yn erbyn yr Eidal yn Chwefror 2009.

Mae ganddo’r llysenw Pops am iddo golli sesiwn ymarfer â chlwb Sale unwaith er mwyn cymryd rhan mewn gwrandawiad ar gyfer y gyfres deledu Pop Idol.

Yr Hyfforddwr

Martin Johnson

Cafodd Martin Johnson yrfa ddisglair yn yr ail reng gyda chlwb Caerlŷr a Lloegr. Enillodd 84 o gapiau dros ei wlad ac ef oedd capten Lloegr pan enillodd hi Gwpan y Byd yn 2003.

Cyn cael ei ddewis yn rheolwr tîm Lloegr yn 2008 doedd ganddo ddim profiad fel hyfforddwr ac yn ystod

ei ddau dymor cyntaf cafodd y tîm ganlyniadau cymysg.

A wyddoch chi?

Lloegr yw’r unig dîm i ymddangos yn ffeinal Cwpan y Byd ar ôl colli gêm yn rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth. Digwyddodd hynny ddwy waith, yn 1991 a 2007.

Mike Catt o Loegr yw’r chwaraewr hynaf i ymddangos mewn rownd derfynol yng Nghwpan y Byd, a hynny yn 2007 pan oedd yn 36 mlwydd a 33 diwrnod oed.

Cynrychiolodd Martin Johnson, rheolwr Lloegr, dîm Seland Newydd dan 21 oed yn 1990.

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Ffiji

Cyhoeddwyd Medi 4, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Seremaia Bai
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Bydd Ffiji yn gobeithio trechu Cymru unwaith eto eleni, fel y digwyddodd yng Ngwpan y Byd 2007, er mwyn ennill lle yn rownd yr wyth olaf.

Ond efallai mai’r gêm fwyaf tanllyd fydd eu gornest yn erbyn Samoa ar 25 Medi. Mae Stadiwm fwyaf Seland Newydd, Eden Park, wedi ei neilltuo ar ei gyfer…

Gan i Ffiji gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 2007, cafodd le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011. I gyrraedd rownd y chwarteri yn 2007 fe gurodd hi dîm Cymru 38-31 mewn gêm gyffrous iawn.

Y capten yw Deacon Manu sy’n chwarae i dîm y Scarlets.

Cafodd ganlyniadau siomedig yn ystod tymor 2010-11 gan golli i Ffrainc a’r Eidal. Ond llwyddodd i gael gêm gyfartal yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd 2010.

Safle tebygol: Ennill un gêm yn y grwp

Y Record

Bydd Ffiji eleni yn chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y chweched tro ers sefydlu’r gystadleuaeth yn 1987.

Cyrhaeddodd rownd yr wyth olaf y flwyddyn honno ac eto yn 2007 pan roddodd fraw i enillwyr y Cwpan, De Affrica, wrth golli 37-20 wedi gêm glòs.

Ond yn 1991 cafodd gystadleuaeth siomedig wrth iddi golli pob un o’i gêmau grŵp.

Yr unig dro iddi fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol oedd yn 1995.

Chwaraewr i’w wylio

Seremaia Bai

Maswr neu ganolwr cadarn a phrofiadol sydd wedi bod yn chwarae dros Ffiji ers 2000. Ni chafodd ei ddewis yn aelod o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2003 ond roedd yn un o chwaraewyr amlwg y wlad yng Nghwpan y Byd 2007.

Mae’n chwarae i glwb Castres yn Ffrainc ar hyn o bryd a chiciodd gôl gosb i ddod â Ffiji’n gyfartal â Chymru 16-16 fis Tachwedd 2010 yn Stadiwm y Mileniwm.

Yr Hyfforddwr

Sam Domoni

Enillodd Sam Domoni 5 cap fel clo i Ffiji a bu’n chwarae am gyfnod yn Lloegr i dimau’r Saraseniaid, y Gwyddelod yn Llundain a Redruth.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr yn 2009 ar ôl iddo dreulio rhyw bum mlynedd yn hyfforddi rhai o dimau llai Awstralia.

Cafodd ei benodiad ei feirniadu gan rai yn Ffiji oherwydd iddo gael cyn lleied o brofiad cyn hynny.

A wyddoch chi?

Ers 1939 bu’r tîm yn perfformio’r cibi cyn pob gêm, sef dawns ryfel sy’n dyddio o’r hen amser pan fyddai Ffiji’n arfer brwydro yn erbyn brodorion rhai o ynysoedd eraill y Môr Tawel.

Y flwyddyn honno, a hwythau ar daith yn Seland Newydd, dysgwyd y ddawns i’r chwaraewyr gan bennaeth un o lwythau traddodiadol y wlad. Bu’n daith hynod o lwyddiannus, gyda’r tîm yn ei chwblhau heb golli un waith, record sy’n sefyll hyd heddiw.

Hyd 1939 roedd yn well gan chwaraewyr Ffiji chwarae’n droednoeth ac roedden nhw wrth eu bodd yn chwarae rygbi agored cyffrous, a ddaeth yn nodwedd gyffredin o’u ffordd nhw o chwarae’r gêm.

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Yr Eidal

Cyhoeddwyd Medi 4, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Sergio Parisse (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Fel yr Alban yng ngrŵp B, a Samoa yng ngrŵp D, mae gan yr Eidal siawns wirioneddol o gyrraedd rownd yr wyth olaf. Ond mae’n rhaid iddyn nhw faeddu Iwerddon yn gyntaf…

Bu’r Eidal yn cystadlu ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau. Cafodd ei gobeithion o wneud yn dda yng Nghwpan y Byd 2011 hwb enfawr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni pan enillodd hi yn erbyn Ffrainc.

Dyna un o’r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes y gystadleuaeth honno. Daeth o fewn trwch blewyn i faeddu Iwerddon hefyd.

Cyn hynny, yn ystod hydref 2010, collodd yn erbyn yr Ariannin ac Awstralia. Eto gwnaeth yn dda i gael buddugoliaeth yn erbyn Ffiji, oedd yn uwch na hi ar restr goreuon yr IRB.

Safle tebygol: Ennill dwy gêm yn y grŵp

Y Record

Ni lwyddodd yr Eidal i fynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol. Yn 2003 cafodd ddwy fuddugoliaeth, yn erbyn Tonga a Chanada. Yn 2007 enillodd ddwy gêm eto, y tro hwn yn erbyn Rwmania a Phortiwgal, gan ddod o fewn tri phwynt i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Dim ond unwaith, yn 1999, y methodd yr Eidal gael buddugoliaeth o gwbl yng Nghwpan y Byd. Bryd hynny, collodd 101-3 yn erbyn y Crysau Duon yn un o’r gêmau rhagbrofol.

Chwaraewr i’w wylio

Sergio Parisse

Cafodd yr wythwr hwn, sy’n chwarae i glwb Stade Français, ei fagu ar aelwyd Eidalaidd yn yr Ariannin, tra oedd ei dad yn gweithio yno.

Dychwelodd i’r Eidal i chwarae i Treviso yn 2001 a chael ei ddewis i gynrychioli’i wlad yn erbyn y Crysau Duon y flwyddyn wedyn ac yntau ond yn 18 oed.

Bu’n aelod cyson o dîm yr Eidal ers hynny a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 2003 a 2007.

Yn 2008 cafodd ei ddewis ar restr fer gwobr Chwaraewr Gorau’r IRB y flwyddyn honno.

Yr Hyfforddwr

Nick Mallett

Chwaraeodd Nick Mallett ddwy waith i Dde Affrica yn 1984 ac yntau’n aelod o glwb Western Province.

Treuliodd saith mlynedd fel chwaraewr a hyfforddwr yn Ffrainc cyn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm De Affrica yn 1996 ac yna’n brif hyfforddwr y flwyddyn wedyn, gan gael tipyn o lwyddiant.

Ymddiswyddodd yn 2000 wedi ymrafael mewnol ymhlith awdurdodau rygbi’r wlad. Yna cafodd gyfnod llewyrchus iawn fel hyfforddwr clwb Stade Français, cyn dod yn hyfforddwr tîm yr Eidal yn 2007.

A Wyddoch chi?

Yn nyddiau’r Ymerodraeth Rufeinig yn yr Eidal byddai’r brodorion yn arfer chwarae gêm gorfforol iawn o’r enw harpastum.

Yn ôl y disgrifiad a gafwyd gan haneswyr o’r cyfnod doedd y gêm honno ddim yn annhebyg i rygbi.

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Japan

Cyhoeddwyd Medi 3, 2011 gan Cymru. 5 Sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Koji Taira (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Bydd Siapan yn cynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019 a bydd y tîm yn awyddus iawn i ddangos eu bod nhw yn gallu cystadlu â’r goreuon…

Wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd, yng Ngrŵp Gwledydd Asia, cafodd Siapan y gorau ar Kazakhstan, Hong Kong, Gwlff Arabia a Korea, gan sgorio 326 o bwyntiau yn y 4 gêm honno.

Yng ngêmau hydref 2010 maeddodd hi Rwsia 75-3 a cholli 13-10 i Samoa. Daeth yn agos at faeddu’r Eidal fis diwethaf cyn colli 31 – 24.

Safle tebygol: Colli pob gêm

Y Record

Mae Siapan wedi cymryd rhan ym mhob Cwpan Rygbi’r Byd ers y dechrau yn 1987.

Er hynny, record siomedig iawn sydd ganddi a hithau wedi ennill un gêm yn unig, yn erbyn Zimbabwe yn 1991.

Pan gafodd gêm gyfartal yn erbyn Canada yng nghystadleuaeth 2007 dyna oedd y tro cyntaf iddi beidio â cholli mewn 13 o gêmau Cwpan Rygbi’r Byd dros 16 mlynedd.

Chwaraewr i’w wylio

Koji Taira

Canolwr cyhyrog 6’ 1’’ o daldra sydd wedi chwarae 23 o weithiau dros ei wlad.

Yng Nghwpan y Byd 2007 chwaraeodd ym mhob un o gêmau Siapan yn y rowndiau rhagbrofol.

Mae’n 28 oed ac wedi sgorio 8 cais i Siapan hyd yn hyn.

Mae’n chwarae i dîm Suntory Sungoliath a ddenodd chwaraewyr tramor fel George Gregan a Todd Clever yn ddiweddar.

Yr Hyfforddwr

John Kirwan

Rhwng 1984 a 1994 sgoriodd yr asgellwr John Kirwan 67 cais pan oedd yn gwisgo crys du tîm Seland Newydd, sy’n dal yn record yn ei wlad.

Bu hefyd yn chwarae yn yr Eidal a Siapan. Yn 2002 daeth yn hyfforddwr ar dîm yr Eidal ac yn ystod y ddwy flynedd

ddilynol llwyddodd hi i faeddu Cymru a’r Alban.

Ond ar ôl Pencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig yn 2005 cafodd ei ddiswyddo a daeth yn

hyfforddwr ar dîm Siapan yn 2007.

Bu’n dioddef yn ddrwg o iselder ac oherwydd ei waith gwirfoddol ym maes iechyd meddwl, cafodd ei anrhydeddu ag MBE yn 2007.

A wyddoch chi?

Chafodd clybiau Siapan erioed broblem o ran cadw disgyblaeth ar y cae rygbi gan fod y chwaraewyr

yn gwybod y byddai’r gosb yn llym pe bydden nhw’n troseddu.

Cafwyd ffrwgwd mewn gêm rhwng dwy o unedau’r fyddin yn 1975. O ganlyniad, cafodd y ddwy uned eu diddymu, diswyddwyd eu pennaeth milwrol a gwaharddwyd pob un o’r chwaraewyr rhag chwarae am gyfnod amhenodol!

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Rwsia

Cyhoeddwyd Medi 2, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Vasily Artemiev
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Rwsia yw newydd ddyfodiaid Cwpan Rygbi’r Byd eleni, ac fe fydd eu gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau yn siŵr o fod yn danllyd…

Daeth Rwsia yn gymwys i chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011 trwy orffen yn yr ail safle yng Nghwpan

Gwledydd Ewrop (2008-10).

I gyrraedd yno bu’n rhaid iddi chwarae yn erbyn Georgia, Portiwgal, Rwmania a’r Almaen ddwywaith yr un.

Mae hi’n 19eg ar restr goreuon gwledydd rygbi’r IRB.

Safle tebygol: Colli pob gêm

Y Record

Nid yw wedi cyrraedd y rowndiau terfynol o’r blaen. Er hynny, gwrthododd wahoddiad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn 1987 fel protest yn erbyn polisi apartheid De Affrica cyn i’r IRB benderfynu diarddel y Springboks o Gwpan y Byd y flwyddyn honno.

Treuliodd y tîm nifer o wythnosau yn Seland Newydd ddechrau 2011 er mwyn cynefino â’r wlad a chafodd ddwy fuddugoliaeth galonogol yn erbyn timau De Canterbury a Taranaki.

Cafodd ganlyniadau cymysg yng nghystadleuaeth Cwpan Gwledydd Ewrop ddechrau 2011, gan golli’n drwm i Rwmania.

Chwaraewr i’w wylio

Vasily Artemiev

Asgellwr a chefnwr 23 oed a ddatblygodd fel chwaraewr rygbi yn Iwerddon. Cynrychiolodd dîm ysgolion Iwerddon a’r tîm cenedlaethol o dan 19.

Roedd yn aelod o glwb rygbi Coleg Blackrock a bu’n chwarae i dîm prifysgolion Iwerddon yn 2007.

Bellach mae’n ôl yn ei famwlad ac yn chwarae i VVA-Podmoskovye. Bu’n aelod cyson o dîm Rwsia ers 2009.

Yn ddiweddar bu sôn bod gan glwb Northampton ddiddordeb ynddo.

Yr Hyfforddwr

Nikolai Nerush

Nikolai Nerush yw prif hyfforddwr y wlad, ond gwahoddwyd y Cymro a chyn-hyfforddwr Sale, Kingsley Jones, i gymryd at y gwaith o hyfforddi tîm Rwsia am gyfnod.

Cyn hynny bu Steve Diamond yn gwneud y gwaith hwnnw ond gadawodd ar ddiwedd 2010 i ymgymryd â swydd gyda chlwb rygbi Sale.

Hanes

Credir bod rygbi’n cael ei chwarae yn yr Ymerodraeth Rwsiaidd cyn Chwyldro 1917, a deng mlynedd cyn y chwaraewyd pêl-droed yno yn 1892.

Ond rhwystrwyd pobl rhag chwarae rygbi am flynyddoedd gan heddlu’r Tsar gan

ei fod yn ‘rhy ffyrnig ac yn debygol o achosi terfysg’.

Cynhaliwyd y gêm rygbi gystadleuol gyntaf yn Moscow yn 1923, ac yn 1936 cynhaliwyd Pencampwriaeth Rygbi Rwsia am y tro cyntaf.

Ond rhwng 1949 ac 1957 gwaharddwyd y gêm gan ei bod, yn ôl yr awdurdodau Sofietaidd, yn ‘brwydro yn erbyn cosmopolitaniaeth’.

Yn 1975 chwaraeodd tîm cenedlaethol Rwsia ei gêm gyntaf ac erbyn hyn ceir tua 100 o glybiau a 14,500 o chwaraewyr rygbi yn y wlad.