Cynyddu maint testun

Golwg360

Pot 6: Yr ymateb

Cyhoeddwyd Awst 10, 2011 gan Tommie Collins. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan y Byd 2014, Pêl-droed Cymru


Ar ôl cael amser i ystyried y sefyllfa’n llawn, Tommie Collins sy’n ystyried gobeithio’n Cymru yng Ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Fe allai wedi bod yn waeth. Fe wnaethom ni osgoi’r cewri yn do. Oes posib i Gymru ennill lle yn ffeinals Cwpan y Byd ym Mrasil 2014? Pam lai? 

Yng Ngrŵp A y glaniodd Cymru, ac yn ymuno â ni oedd, Macedonia, Gwlad Belg, Yr Alban, Croatia a Serbia.  Ydy – mae’r timau o’r Balkans yn dechnegol ar y cyfan, ond, does bosib y gwneith yr achlysur o fod yn gymdogion a gelynion weithio o’n plaid ni?

Mae Gwlad Belg yn dîm ifanc, llawn potensial, fel Cymru.  Ond, does gennym ni ddim byd i’w ofni. 

Rydan ni’n eithaf cyfarwydd â Serbia’n – colli dwy gêm wnaethon ni yng ngemau rhagbrofol Euro 2004, pan oedden nhw’n Serbia a Montenegro. Tydyn nhw ddim mor dda â hynny ar hyn o bryd cofiwch.

Croatia fydd y ffefrynnau, ac maen nhw’n dîm llawn sêr, ond eto, maen nhw wedi gweld eu dyddiau gwell o bosib?

Yr hen elyn – Yr Alban sy’n cyflwyno’r gwrthwynebiad lleol y tro yma. Fe wnaethon nhw roi cweir i Gymru’n ddiweddar yn Nulyn wrth gwrs a heb os, bydd yr hen gefnogwyr yn cofio Anfield 1977 a llaw Joe Jordan. 

Tydi Cymru erioed wedi herio Macedonia, ond mae ganddyn nhw seren enwog sy’n chwarae yn Serie A yr Eidal, Goran Pandev, a dwi’n sicr bod angen i ni roi parch iddyn nhw. Mae eu rheolwr newydd nhw’n siŵr o ychwanegu rhywfaint o sbeis i’r achlysur hefyd.

Dwi’n sicr y bydd Gary Speed a’i dîm hyfforddi’n gweithio’n galed i drefnu’r gemau mewn modd fydd yn fanteisiol i Gymru. Dwi’n sicr hefyd y byddwn ni’n gweld double header oddi cartref wrth i ni wynebu tair gwlad o’r Balkans.

Gobeithio na fydd y Gymdeithas bêl-droed yn cael eu temtio i symud y gemau i stadiwm y mileniwm, oherwydd bydd dim mantais yn hynny i Gymry.

Beth sy’n hollbwysig dros y misoedd nesa bod y chwaraewyr i gyd yn ymuno â’r garfan ar gyfer pob gêm, gan roi’r cyfle gorau i Gary Speed baratoi ar gyfer ei ymgyrch lawn gyntaf wrth y llyw.

Pot 6

Cyhoeddwyd Gorffennaf 28, 2011 gan Pêl-droed. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan y Byd 2014, Pêl-droed Cymru, Tommie Collins


Y cefnogwr pêl-droed bytholwyrdd, Tommie Collins sy’n bwrw’i fol am sefyllfa ddigalon ddiweddaraf pêl-droed Cymru.

Yn Rio de Janeiro nos Sadwrn – mae’r enwau’n cael eu tynnu o’r het ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 … ac mae Cymru ar waelod y domen.

Na, tydan ni ddim hyd yn oed ym mhot 5 – mae’n tîm rhyngwladol ni’n swyddogol  yn waeth nag Ynysoedd y Faroe, sef un o’r timau gwaethaf yn Ewrop deng mlynedd yn ôl

Beth aeth o’i le i Gymru?  Mae pawb yn cofio tîm Sparky Hughes yn cael y rhediad gwych yna yng ngemau rhagbrofol ymgyrch 2004. Dechreuodd y rhediad gyda’r gêm fythgofiadwy honno’n Helsinki ym mis Medi 2002, ond eto, gorffen yn siomedig oedd ein hanes trwy golli yn erbyn Rwsia ar Stadiwm y Mileniwm yn 2003. 

Yn 1993 roedd Cymru mor uchel â safle 27 yn y byd – nawr rydan ni’n 112.

Be sy’n fy synnu fi ydy bod Norwy ym mhot 1! Ewch yn ôl ddim ond tair blynedd ac roeddem ni’n eu curo nhw o 3-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Felly nos Sadwrn – fe fydd cefnogwyr brwd Cymru yn aros i weld pwy gawn ni, wrth gwrs nawn byth ennill lle yn y ffeinals, ond o leiaf bydd ddim rhaid i ni fynd i San Marino eto.