Cynyddu maint testun

Golwg360

Coron Gwlad…

Lansiwyd ymgynghoriad ar strategaeth iaith Llywodraeth y Cynulliad ddoe. Ar y cyfan, mae pobol yn croesawu cyhoeddiadau fel hyn. Dim byd newydd ddoe. Mewn ffordd mae hyn yn beth gwael. Petai’r peth yn fwy dadleuol, byddai mwy o sylw fel welon ni gyda’r mesur iaith.

Y gwir yw nad oes unrhyw beth pwysicach na chael strategaeth iaith gydag amcanion clir fel sydd gan hon. Heb fod y bobol sy’n medru’r Gymraeg yn ei siarad hi, does dim pwrpas cael Mesur Iaith i’w gwarchod hi. Does dim pwynt gwarchod rhywbeth nad yw pobol eisiau ei hachub. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod y niferoedd sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu ond am wneud yn siwr bod y bobol hynny yn siarad Cymraeg. Mae’r strategaeth werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Mae’n egluro sut mae’r Llywodraeth yn gobeithio annog rhieni ifanc i feithrin y Gymraeg yn eu plant ifanc 0-5 oed, ac i wneud y Gymraeg yn iaith y teulu. Mae’n trafod pwysigrwydd gwneud y Gymraeg yn iaith “difyrrwch” nid dim ond iaith ysgol er mwyn ei gwneud hi’n iaith apelgar i bobol ifanc yn eu harddegau, ei gwneud hi’n “cwl.” Mae’n sôn am bwysigrwydd creu’r iaith yn iaith y gweithle fel bod pobol gyffredin yn magu hyder yn eu Cymraeg -fyddai’n rhoi stop ar y frawddeg ddiflas honno “o, na dyw ‘Nghymraeg i ddim digon da” sydd i’w glywed yn fynych pan fydd rhywun yn ceisio dechrau sgwrs gyda rhywun anhyderus eu hiaith. (Problem fawr i newyddiadurwyr wrth ddod ar draws siaradwyr Cymraeg i glywed eu barn am hyn ar llall y ‘vox pops’ bondigrybwyll yw bod pobol sy’n amlwg yn gallu siarad Cymraeg yn iawn yn dweud na allan nhw siarad am nad yw eu Cymraeg nhw’n ddigon safonol -diffyg hyder yn amlwg.)

Fel mae Bwrdd yr Iaith a’r Gweinidog Treftadaeth yn ei ddweud, dyma’r unig strategaeth o’i bath yn y byd sydd mor bellgyrhaeddol ei bwriad i warchod iaith leiafrifol. Mae’r ddogfen dan ymgynghoriad nes mis Chwefror ac mae’r Llywodraeth eisiau clywed oddi wrthom ni bobol gyffredin sut allan nhw wella arni a sut i wneud y Gymraeg yn iaith hyfyw. Gobeithio wir y bydd hi’n llwyddo.

S4C – felly lle ydan ni arni?

Cyhoeddwyd Hydref 25, 2010 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, Cymraeg, Cymru, Jeremy Hunt, S4/C, sianel;

Wrth i Fwrdd yr Iaith gondemnio’r Llywodraeth yn Llundain am fod yn “sarhaus” wrth ddelio gyda’r sianel Gymraeg, mae Dylan Iorwerth yn ceisio pwyso a mesur y sefyllfa ddiweddara’ …

Un dyn sydd wedi ennill yn glir yn holl saga S4C, a’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ydi hwnnw.

Mae wedi llwyddo i wneud dau beth yn effeithiol – torri gwariant ei adran a thanseilio Awdurdod S4C.

O ran ei sgôr ar lechen George Osborne, y Canghellor, mae Jeremy Hunt wedi torri llawer mwy na 24% ar S4C. Trwy drosglwyddo’r rhan fwya’ o’r cyfrifoldeb i’r BBC, mae’n cael gwared ar tua £90 miliwn y flwyddyn oddi ar lyfrau ei adran. Seren aur i Jeremy.

Mae hefyd wedi mynd tros ben, rownd a rhwng coesau Awdurdod S4C ar ôl iddyn nhw ei gythruddo sawl gwaith – tros ymddiswyddiad/sacio Iona Jones, tros  ddweud nad oedd ganddo’r hawl i dorri eu harian o gwbl ac, mae’n ymddangos, am ei fod yn eu hamau o ollwng gwybodaeth i’r cyhoedd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mi fydd mynd am Adolygiad Barnwrol wedi ei wylltio’n waeth fyth. Efallai bod Awdurdod y Sianel yn teimlo bellach nad oes ganddyn nhw ddim i’w golli … ond mae’n anodd gweld fod llawer i’w ennill chwaith.

Os byddan nhw’n llwyddo gydag Adolygiad, mi fydd y Llywodraeth yn mynd yn eu blaenau i gyflawni’n union yr un peth mewn ffordd arall. Os collan nhw, mi fyddan nhw’n wannach nag erioed ac yn gorfod ymddiswyddo.

Beth ddigwyddodd?

Nid fod dim o hyn yn awgrymu fod penderfyniad yr Ysgrifennydd Diwylliant yn un cywir ac mae’r gwahanol ddogfennau’n dangos yn weddol glir beth ddigwyddodd. Mae dilyn beth sydd wedi’i ddweud wrth pwy fel dilyn cliwiau i ddatrys trosedd.

Mae’n dweud dau beth yn ei lythyr at y BBC nad yw’n eu dweud yn ei lythyr at S4C (gweithred ryfedd iawn gan Ysgrifennydd Gwladol, ond dyna ni). Un yw mai BBC Alba – gwasanaeth Gaeleg yr Alban – yw’r model a’r llall yw y gall y BBC dynnu’n ôl o’r trefniant a cholli £76 miliwn o’r drwydded deledu.

Felly, dyma be ddigwyddodd yn y cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth y Bîb …

Jeremy Hunt: Ti ddim eisio talu am drwydded deledu hen gojars nacwyt? Reit, felly, mi dorra’ i £76 miliwn oddi ar bres y drwydded deledu a’u rhoi nhw i S4C.

Michael Lyons: Yr uffar bach slei. Oes gen i ddewis?

JH: Nacoes.

ML: Reit, ar un amod.

JH: Ie?

ML: Ein bod ni’n cael llais yn rhedeg y sianel.

JH: Ar bob cyfri. Sgen ti syniad sut?

ML: Wel mae yna rywbeth o’r enw BBC Alba yn y gogledd yn rhywle.

JH: Os ydio’n ddigon da iddyn nhw … Grêt!

ML: Oes angen trafod efo pobol Cymru.

JH: Pwy? Oes angen trafod efo BBC Cymru?

ML: Pwy?

A be ydi’r canlyniadau?

Nid fod hyn i gyd, o angenrheidrwydd, yn golygu fod y penderfyniad yn un drwg. Ond doedd dim paratoi ar ei gyfer a does neb yn siŵr sut y bydd yn gweithio – mae Menna Richards, pennaeth y BBC yng Nghymru wedi  dweud fod angen gwaith mawr i sefydlu trefn.

Mi ddywedodd hefyd bod y BBC wedi cytuno i “helpu” S4C. Go brin mai dyna oedd ym meddwl Michael Lyons – roedd yn ffordd o golli arian heb frifo cymaint ag ambell ddewis arall. Trwy hyn, mi fydd y BBC yn gallu cadw rhai adnoddau a fyddai wedi mynd fel arall.

Ar ôl dweud hynny, mi allai’r BBC helpu i dorri ar rai o gostau S4C trwy rannu rhai elfennau o’r gwaith. Ond y cwestiwn mawr sy’n aros ydi annibyniaeth S4C – o dan fodel Alba, mi fydd yr Awdurdod yn annibynnol, ond fydd y sianel ddim.

Mi fydd y Llywodraeth yn gwadu hynny a’r BBC hefyd, o bosib. Ond os ydi’r sianel am fod yr un mor annibynnol ag o’r blaen be ydi’r pwynt o greu trefn newydd gymhleth, anhylaw sy’n creu sgôp ar gyfer ffraeo a gwastraffu amser ar ddadlau?

Yr unig bwynt ydi … ewch yn ôl i ddechrau’r pwt yma o erthygl.

Bydd y toriadau yn taro ein cymunedau Cymraeg

Cyhoeddwyd Medi 20, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Cymraeg, Gwleidyddiaeth, Yr Economi

Ifan Morgan Jones sy’n dweud y bydd yr adolygiad gwario yn taro gorllewin Cymru yn galed…

Hydref 20, mis i heddiw. Dyna’r dyddiad y bydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi ei Hadolygiad Gwario Cynhwysfawr, a dyna’r diwrnod y byddwn ni’n cael gwybod beth fydd hyd a lled y toriadau dros y pedwar mlynedd nesaf.

Hyd yn hyn mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau o £6.2 biliwn mewn gwariant, gan docio’r gyllideb fan hyn a fan draw fel coeden bonsai. Diwedd mis Hydref bydd y llif gadwyn yn cael ei thanio a’r canghennau mawr yn disgyn wrth i’r rhan fwyaf o adrannau golli rhwng 25-40% o’u cyllidebau.

Er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobol yn cytuno bod angen cywiro’r diffyg ariannol, mae yna dystiolaeth bod y cyhoedd yn dechrau teimlo’n anghyffurddus ynglŷn â maint a chyflymder y toriadau. Yn ôl y pôl piniwn diweddaraf mae’r Blaid Lafur, sy’n pregethu mai sgil effaith y toriadau fydd ail ddirwasgiad, eisoes wedi dal i fyny gyda’r Ceidwadwyr – er nad oes ganddyn nhw arweinydd eto hyd yn oed.

Serch hynny mae yna ryw ymdeimlad o hyd mai rywbeth fydd yn digwydd i bobol eraill fydd y toriadau yma – er y bydd hynny’n siwr o newid unwaith maen nhw’n dechrau brathu. Ac yn anffodus, mae’r holl ffigyrau yn awgrymu mai ni, allan o Brydain gyfan, sy’n debygol  o gael y brathiad mwyaf hegar.

Mae sawl gwleidydd ac economegydd eisoes wedi rhybuddio y bydd Cymru yn dioddef yn waeth nag unrhyw ran arall o Brydain, ac mae’r ffigyrau yn cefnogi hynny. Mae 26.6% o weithwyr Cymru yn gweithio yn y sector gyhoeddus o’i gymharu â 21.1% ar draws Prydain.

“Cymru yw’r rhanbarth sy’n mynd i gael ei daro waethaf gan hyn,” meddai Cadeirydd y Ganolfan Ymchwil Busnes a’r Economi, Douglas McWilliams diwedd y mis diwethaf, gan rybuddio y byddai diweithdra yn cyrraedd 11% yng Nghymru erbyn 2015.

Ond yn waeth na hynny, i ni sy’n byw yng ngorllewin Cymru – a dw i’n siwr bod nifer mawr o’r rheini sy’n darllen y blog yma yn eu mysg – mae’n amlwg mai ardaloedd gwledig y gorllewin fydd yn ei chael hi’n waeth na neb. Nid y Cymoedd fydd yn dioddef waethaf tro ‘ma – Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro sydd â’r canran uchaf sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Ac mewn araith yr wythnos diwethaf dywedodd y ffefryn ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, David Miliband, mai “Cymru fydd yn cael ei tharo galetaf,” a’r gorllewin yn benodol:

“Mae’n anghywir mai economïau lleol mewn ardaloedd fel Gorllewin Cymru fydd yn dioddef mwy nag ardaloedd eraill cyfoethocach.”

Mae’r Llywodraeth yn pregethu y bydd rhaid i bawb rannu’r poen, ond mae’n ymddangos yn amlwg y bydd rhai yn rhannu mwy o’r boen nag eraill – cymunedau Cymraeg gwledig gorllewin Cymru yn eu mysg.

Nid pobol sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus fydd yn dioddef yn unig, wrth gwrs. Bydd colli swyddi yn golygu bod gan bobol yn yr ardaloedd yma llai fyth o arian i’w wario ac felly bydd busnesau yn cau a swyddi yn y sector breifat yn mynd hefyd.

Mis i fynd felly a mae pethau’n edrych yn ddu i ni. Fe gawn ni weld bryd hynny a fydd clymblaid San Steffan yn penderfynu ceisio arbed rhai o ardaloedd tlotaf Prydain, fel Gogledd Lloegr a Chymru, rhag y gwaethaf o’r boen.

Fel arall efallai mai’r ddadl gryfaf o blaid cadw cyllideb S4C yw y bydd angen rywbeth i ddifyrru’r holl Gymry Cymraeg sydd ar y clwt.

Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bolisiau economaidd newid hefyd

Cyhoeddwyd Mehefin 29, 2010 gan Menna Machreth. 2 Sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr, Cymraeg, Gwleidyddiaeth

Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n ymateb i awgrym Llywodraeth San Steffan y dylai pobol di-waith symud i ardaloedd eraill i chwilio am waith…

Ar ôl yr holl sôn am y ‘big society’, mae gwir liwiau’r Toriaid yn dod i’r amlwg bellach. Cyhoeddodd Iain Ducan Smith fwriadau Llywodraeth San Steffan eu bod am gymell pobl di-waith i symud i ardaloedd hollol wahanol er mwyn gwneud gweithlu Prydain yn llai ‘statig’ gyda’r nod o ryddhau’r bobol sydd dan ‘glo’ mewn gwahanol leoliadau. Ac fel arfer, mae’r hyn sy’n gynllun arloesol i’r Toriaid yn dwyn canlyniadau difäol i gymunedau Cymraeg.

Gwasanaethu’r sector breifat drwy symud pobol yw egwyddor y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn hytrach na chynllunio economi yn ôl gofynion cymunedau. Mae hwn yn bolisi annheg ble bynnag y caiff ei weithredu; ni ddylai neb orfod symud a gadael teulu, ffrindiau a chymuned oherwydd bod y llywodraeth yn rhy gaeedig i gynllunio ar eu cyfer.

Mae’n dorcalonnus gweld cyflwr rhai cymunedau Cymraeg a’r diffyg cyfleon gwaith sy’n golygu tlodi ac yn y diwedd allfudo. Yr allfudo mawr yma sy’n golygu bod ein cymunedau ni ar eu gliniau yn gymdeithasol ac yn ieithyddol, ac o ganlyniad mae niferoedd y plant yn yr ysgolion yn disgyn.

Cymrwch bentref fel Deiniolen lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg ond canran uchel o ddiweithdra hefyd.  O symud pobl ifanc i ffwrdd i leoliad arall, ni fydd unrhyw obaith am adfywiad cymunedol ond yn hytrach bydd cymunedau yn cael eu hamddifadu o bobol ifanc, ac felly bydd yr iaith Gymraeg yn dioddef hefyd. Yn rhy aml, mae pobol yn tueddu i anwybyddu’r cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol a dyfodol yr iaith Gymraeg. Ond, mae’n gliriach nac erioed nad oes modd gwahanu’r ddau beth. Mae diogelu incwm bobol mewn ardaloedd fel Peblig, Pontyberem a Blaenau Ffestiniog yn rhan annatod o sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg. Mae pob ymosodiad gan y Llywodraeth bresennol ar y tlawd yn ymosodiad ar gymunedau Cymraeg hefyd.

Rydym ni wedi cymharu’r sefyllfa â chwalu cymunedau iaith Gwyddeleg pan fu allfudo mawr yn y 19eg ganrif. Wrth gwrs, dyw Iain Duncan Smith ddim eisiau achosi newyn yng Nghymru, ond dyma enghraifft o bolisi economaidd bwriadol o symud pobol a sut y gall hynny gael effaith ar gymunedau Cymraeg. Ein galwad ni yw cymunedau rhydd, nid marchnad rydd. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid – gan gynnwys polisi economaidd.

Nid ydym yn aberthu llwyddiant economaidd drwy wrthod y syniad hwn. Na, mae’r hyn sy’n dda i’r iaith hefyd yn dda i gynnal bywyd ein cymunedau yn gyffredinol ac yn rhoi ansawdd i fywydau pobol.

Dyma yw sail syniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ‘cymunedau Cymraeg cynaliadwy’. Rydym ni eisiau gweld cymunedau yn pweru eu hunain ac yn penderfynu dros eu hunain beth fydd eu dyfodol. Mae cymuned Penllyn eisoes wedi ymgymryd â hyn a llunio cynllun adfywio sy’n dweud sut hoffen nhw gynnal a datblygu eu cymunedau. Yr her yng Nghymru yw gwneud yn siŵr nad ydyn ni’n dilyn llwybr Lloegr o wasanaethu’r sector breifat a mabwysiadu meddylfryd biwrocrataidd, adrannol sy’n llwyr anghydnaws ac anghenion y gymuned. Dydyn ni ddim yn gallu edrych ar ysgol, economi, trafnidiaeth, tai, diwylliant, canolfannau cymunedol, amgylchedd ar wahân oherwydd maen nhw oll yn dod at ei gilydd i greu’r gymuned rydyn ni’n byw ynddi ac yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd. Cyfrwng yw iaith, ac mae eisiau i bethau ddigwydd drwy gyfrwng ein hiaith ni fel y pethau uchod er mwyn i adfywiad iaith ddod law yn llaw ag adfywiad cymunedol. Does dim diben trafod y ddau beth ar wahân.

Mae’n bosib fod y Ceidwadwyr wedi gallu cuddio dan rith y ‘Big Society’, ond mae’r gwir am eu polisïau economaidd yn dangos nad ydynt wedi newid o gwbl. Rhaid i ni beidio â gadael i ddifaterwch adael i ni golli gafael ar ein cymunedau, ond defnyddio ein tafodau i’w gwneud yn gynaliadwy.

Eisteddfod Trevelin 2010

Cyhoeddwyd Mai 16, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cymraeg, Yr Ariannin

Isaías Eseia Grandis o Drevelin sy’n adrodd hanes Eisteddfod Trevelin 2010….

Pan oedd Isaías yn bymtheg oed, dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, ac yn 2006 cafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru.

Dychwelodd i Gymru y llynedd i ddilyn Cwrs Meistrioli yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i arsylwi a chael hyfforddiant yn Ysgol Ffynnonbedr, Llambed ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd.

Yn awr,  mae’n gweithio fel tiwtor Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, Trevelin ac fel athro Twristiaeth yn Ysgol Uwchradd Corcovado.

Cafwyd Eisteddfod Bro Hydref llwyddianus yn Nhrevelin, Patagonia, Nos Wener 31ain o fis Ebrill a Dydd Sadwrn 1af o Fai, 2010.

Mae’r traddodiadau Cymreig yn rhan o fywyd Cwm Hyfryd ers 1885 pan ddaeth y Cymry cyntaf dros y Paith i ymsefydlu yn yr Andes, dan arweiniad y Rhaglaw Fontana.

Eisteddfod ddwyieithog yw hi, Cymraeg a Sbaeneg, iaith swyddogol yr Ariannin.  Daeth bobol o Ddyffryn Camwy, sef Trelew a’r Gaiman a hefyd o Gomodoro, Dinas yr Olew. Roedd llawer o blant yn cystadlu Dydd Gwener, a Dydd Sadwrn cawsom amser da yn gwrando ar gôr lleol Seion a chorau o Drelew, Y Gaiman ac El Maiten, yn Nhalaith Chubut, ond hefyd croesawyd Nora O’Brian, Llinos, Helen ac Eluned o Gymru.

Enillodd Nant Roberts Gogledd Cymru gadair yr Eisteddfod yn yr Iaith Gymraeg a Julia Chaktoura o Drelew y goron yn yr Iaith Sbaeneg.

Dyma ran olaf y gerdd “Rhyfeddodau’r cread” a enillodd brif gystadleuaeth yr Eisteddfod hon:

Rhyfeddod prin

Ar gyfandir yn hemisffer y de,

rywle rhwng aml sgertiau gwynion yr afon a thir y tân,

fe saif teithiwr i ryfeddu.

Bydd wedi chwysu wrth ddringo’r copaon,

wedi gwlychu yn llwch dŵr y rhaeadrau,

ac wedi cyffroi wrth glywed clecian tanio gwn y rhewlifoedd.

Ac yna, ar ôl croesi’r ania1dir eang,

mae’n canfod rhyfeddod prinnach.

Mae’n synhwyro mawredd cymeriad dynion nad oedd am gael eu concro,

mae’n ymwybodol o gadernid cydwybod y rhai oedd a’r lliw haul ar eu talcen,

yn gweld patrwm cywrain gofal y gwragedd am eu plant,

a phob teulu’ n drysor.

Mae’n clywed llifeiriant parhaus moesoldeb, dysg, cerdd a chân,

mae’n blasu’r ysbryd na roddai le i anobaith ddiffodd y fflam,

yn arogli’r pridd a gloddiwyd,

ac yn teimlo cynhesrwydd y tân oedd mewn enaid.

Codwyd cartrefi a chapeli, torrwyd ffosydd,

Gyda phenderfyniad a dyfalbarhad yn lli adrenalin y gwythiennau.

Dyfrhawyd y tir, ac mae tystiolaeth yr aberth a’r llafur yno o hyd.

Yr ymdrech a’r cyffro, y chwysu, y gwlychu a’r sychu!

Er creithiau’r gofid, ni ddiffoddodd fflam yr egwyddor.

ydyn, maen nhw yno.

Ai Cymry sydd yno’n byw ym Mhatagonia?

Ai Archentwyr sy’n siarad Cymraeg?

Mae’r teithiwr yn holi,

ac yn rhyfeddu.

Maen nhw yno o hyd.

(Ffug enw: Y TEITHIWR/ Nant Roberts)

Canol nos ar ddiwedd yr Eisteddfod cawsom swper i ffarwelio â’r ymwelwyr- cystadleuwyr.

Roedd Cymanfa Ganu ar fore Dydd Sul yn Neuadd y Dref. Fe wnaeth y Parchedig Ganon Tegid Roberts o Gymru, Gweinidog Cymraeg Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa sydd yn Nyffryn Camwy am flwyddyn ein harwain yn y darlleniad a’r weddi.

Arweinwyr y canu oedd Marli Villoria, Gladys Thomas de Hughes a Rebeca White.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gobeithio cael llawer o gystadleuwyr o Gymru y flwyddyn nesaf, croeso i bawb!

Cyfarchion o’r Andes

Cyhoeddwyd Mai 9, 2010 gan Eluned Owena Evans. 2 Sylw.

Tagiau: Cymraeg, Yr Ariannin

Eluned Owena Evans o Fenter Iaith Patagonia sy’n sôn am y profiad o fynd i wlad arall i ddysgu Cymraeg…

¡Hola! ¿Cómo estás? Rydw i wedi bod yn byw ac yn gweithio yn yr Andes ers rhyw 10 wythnos bellach. Ar ôl cyfweliad gyda’r Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd fis Tachwedd y llynedd, fues i’n ddigon ffodus i gael fy newis yn un o dair i ddod yma i Batagonia i ddysgu Cymraeg yn Esquel a Trevelin ac i weithio fel Swyddog i Fenter Patagonia.

Yn dilyn ymweliad â Dyffryn Camwy lle mae’r ddwy athrawes arall wedi ymgartrefu, teithiais ar y Coche Cama ar draws y Paith i Esquel, sydd rhyw 1,200 o filltiroedd i’r De o Buenos Aires.  Roedd hi’n daith o wyth awr, ond dyma beth oedd steil – fyddech chi ddim yn cael stecen a llond bola o bwdin reis ar fws nôl yng Nghymru! Rydw i’n byw yn y fflat sy’n sownd i Ysgol Gymraeg yr Andes yma yn Esquel. Gan ei fod reit yng nghanol y dre mae’n gyfleus iawn (ac efallai’n rhy gyfleus i’r gwaith)! Mae’r adeiladau yma wedi cael eu gosod mewn blociau ac nid strydoedd – cymysglyd tu hwnt i ddechrau, ond does dim eisiau map arna i ragor!

Rydw i wedi cael sawl profiad bythgofiadwy yn barod. Yn Buenos Aires, cafodd Helen, Llinos a fi wahoddiad i gael tê gyda Shân Morgan, Llysgennad Prydain. Roeddwn i’n teimlo allan o le yng nghanol y chandeliers a’r lluniau enfawr o Winston Churchill a’r Frenhines!  Profiad gwahanol arall oedd mynychu Cymanfa Ganu mewn capel bach yng nghanol y Paith – ar wahân i ambell i emyn Sbaeneg, y mosgitos a oedd yn fy mhigo’n ddibaid a bîps negeseuon tecst, fe allwn i fod wedi bod yng Nghapel Newydd Llanddarog!

Heb os, rydw i wedi cael croeso arbennig yma ac mae pawb wedi mynd allan o’u ffordd i ‘ngwneud i deimlo’n gartrefol. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael tri parti croeso yma yn ogystal â sawl asado. Dished ar ôl dished o dê, bara menyn, caws, jam cartref, sgons, tarten afalau, cacen ddu, bisgedi dulce de leche, empanadas – rhaid profi popeth wrth gwrs!  Lwcus ‘mod i’n un sy’n hoffi’i bwyd (cig yn enwedig), er mae’n anodd dod i arfer â bwyta mor hwyr yn y nos!

Pan nad wyf i’n gweithio, rwy’n canu yng Nghôr Seion Esquel a rydw i hefyd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau dawnsio gwerin a Salsa. Gyda’r Parque Nacional Los Alerces ar stepen y drws, golygfeydd godidog ym mhob cyfeiriad a bywyd gwyllt heb ei ail, rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn ystod y penwythnosau. Wel, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i dreulio’r holl fwyd rwy’n ei fwyta!

Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddaf yn rhoi blas i chi ar fywyd yma yn yr Andes. Bydd nifer o drigolion Esquel/Trevelin a’r cyffiniau yn cyfrannu at ein blog hefyd. Mae digon o bethau wedi bod yn digwydd yma yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gynnwys Eisteddfod Ddwl yn Esquel, Rally de los Alerces ac Eisteddfod Trevelin – fe gewch chi hanes Eisteddfod Trevelin gan Isaías Grandis yr wythnos nesaf. Ddydd Gwener diwethaf, cefais fy newis i ddal baner Cymru mewn seremoni yn Ysgol 18 (sydd bellach yn amgueddfa hanesyddol), Pentre Sydyn, yn nyffryn yr Afon Gyrraints.  Roedd cyfarfod cyffredinol yn Ysgol 18 ar Ebrill 30ain 1902 gyda’r Comisiwn Ffiniau.  Yn wir, bu ymgecru ynglŷn â’r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda’r naill wlad a’r llall yn mynnu mai hwy oedd biau’r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd.  Gan nad oedd y llywodraethau yn medru dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i’r trigolion lleol – y Cymry yn bennaf – ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn. Syr Thomas Holdich oedd arolygydd Prydain, Francisco Pascasio Moreno dros yr Ariannin a Dr. Balmaceda dros Chile.  Roedd ateb y Cymry yn unfrydol.  O ganlyniad, y diwrnod hwnnw, ychwanegwyd 360,000 hectar o dir ffrwythlon i diriogaeth yr Ariannin. Y mae diwrnod y bleidlais hon yn cael ei gofio a’i ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill 30ain. Braint ac anrhydedd ydoedd i mi, felly, gael bod yn rhan o’r seremoni hon a oedd yn wledd i’r glust a’r llygaid.

Y Gymraeg mewn Addysg Uwch – brwydr allweddol

Cyhoeddwyd Ebrill 25, 2010 gan Llion Iwan. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Llion Iwan

Y newyddiadurwr a’r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n ymateb i flogiau diweddar Rhys Llwyd a Dylan Jones-Evans.

Eleni mae 473 o ieithoedd y byd ar fin marw. Dyna sawl diwylliant, hanes a thraddodiad unigryw ar fin diflannu am byth. Er bod 6809 iaith yn y byd ar hyn o bryd, mae dros hanner y rheiny yn cael eu siarad gan lai na 6000 o bobol.

Cyfranna sawl ffactor at farwolaeth iaith, ond y rhesymau blaenllaw yw diffyg defnydd o’r famiaith mewn gweinyddiaeth a’r gyfraith, ymfudo, cyflafan, addysg trwy gyfrwng iaith estron a rhieni yn gwthio eu plant i siarad iaith arall, gan eu bod yn credu fod honno’n bwysicach ac o fwy o werth.

Pam dw i’n taflu’r ffeithiau hyn atoch? Gan fy mod yn credu ein bod ynghanol brwydr ar hyn o bryd am ddyfodol defnydd o’r Gymraeg mewn addysg uwch. Bu’n rhaid brwydro am flynyddoedd i’w gael, yn awr rydym mewn perygl mawr o’i golli. Byddai’r oblygiadau hyn i’n hiaith yn angheuol.

Os na fydd Cymry yn derbyn eu haddysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn arfer defnyddio termau a geirfa Gymraeg ymhob maes, yna troi at y Saesneg y byddant wrth wneud gwaith swyddogol ac ati. Ymhen amser gallai’r Gymraeg gael ei gwthio i fod yn ddim ond iaith yr ydym yn cymdeithasu ynddi, a beth fyddai’r cam nesaf.

Prifysgol Bangor

Rwyf am fwrw golwg ar y sefyllfa ym Mhrifysgol Bangor. Ond mae’r sefyllfa drwy Gymru yn ddifrifol, ac os collwn y frwydr ym Mangor, bydd yn cynyddu’r pwysau yn y prifysgolion eraill ac yn rhoi hyder i’r criw bychan sydd yn gwrthod cydnabod y Gymraeg.

Dwi’n fach o weld fod y myfyrwyr ym Mangor wedi dechrau protestio a lleisio eu hofnau am ddyfodol dysgu cyfrwng Cymraeg. Ond dyma frwydr y mae’n rhaid ei hymladd ar sawl lefel, mewn pwyllgorau, cyfarfodydd, erthyglau a lobïo. Dyfodol addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg sydd yn y fantol.

Nid astudiaeth wyddonol mo hyn, dim ond sylwadau ac argraffiadau personol. Ond gwelaf nifer o Gymry Cymraeg yn dewis astudio yn y brifysgol trwy gyfrwng y Saesneg, gan eu bod yn credu nad yw eu Cymraeg yn ‘…ddigon da.’ Mae’r diffyg hyder yn y rhain tuag at eu hiaith yn anhygoel.

Gwelwyd cwymp hefyd yn y nifer sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae sawl rheswm dilys dros hynny. Ond y canlyniad yw bod y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn crebachu. O gynnig tair gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, bellach un a hanner sydd gennym yn ei hysgol ni, gan fod llai o staff yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae sawl ysgol dan fygythiad yn y brifysgol gan gyfrifwyr oeraidd sydd yn poeni am ddim ond ffigyrau moel ar bapur gwyn, heb ystyried am eiliad y cyd-destun a’r cefndir diwylliannol.

Hysbysebu am swydd Is-ganghellor Prifysgol Bangor heb i’r Gymraeg fod yn hanfodol iddi – dyna a gafodd y sylw diweddar bron i gyd yn y cyfryngau, ac yn haeddiannol. Ond mae’r sefyllfa yn llawer mwy difrifol na hynny.

Tros gyfnod o amser beth ddigwyddodd ym Mangor oedd bod y rheiny sydd yn rhedeg y Brifysgol o ddydd i ddydd, y dirprwyon a phenaethiaid coleg ac uwch weinyddwyr i gyd bron iawn ddim yn Gymry. Ac nid dim ond hynny, ond aed ati yn dawel bach i gyfyngu’r Gymraeg a defnyddio rheolau trwy ailddiffinio swyddi fel nad yw’r Gymraeg bellach yn hanfodol i rai ohonyn nhw. Cadw o fewn rheolau, ond torri ysbryd polisi iaith y Brifysgol yn rhacs.

Ni chafodd swydd y dirprwy materion Cymraeg ei llenwi er enghraifft, (digwyddodd hyn hefyd ar lefelau eraill yn y Brifysgol), ac er bod yr Is-ganghellor wedi ymgymryd gyda’r dyletswyddau, ond gan ei fod ar fin gadael, fe ddylid hysbysebu’r swydd hon a’i phenodi ar fyrder.

Byddem yn naïf i ddisgwyl fod pawb sydd yn cael eu penodi yma yn dysgu’r Gymraeg. Ond mynnwn eu bod yn parchu’r Gymraeg a ddim ond yn gwneud beth sydd angen ei wneud yn arwynebol tra yn ddistaw bach cau’r drws ar y Gymraeg. Y rheiny sydd fwyaf tebygol o ddweud, ‘dwi ddim yn hiliol ond mae cas gen i…’

Ystyriwch o ddifrif am funud, fod angen dadlau a mynnu bod erthyglau academaidd yn y Gymraeg, gan eu bod yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion Cymraeg, yn haeddu eu cydnabod yn gofnodion teilwng i’w cyflwyno ar gyfer yr arolwg o safonau academaidd, yr REF. Onid yw safon academaidd yn safon academaidd, waeth bynnag yr iaith?

Problem fawr rhai o’r gweinyddwyr ac academyddion sydd yn ein prifysgolion ydi eu bod wedi hen arfer edrych ar y byd trwy lygaid Prydain fawr, ac nad yw ieithoedd eraill angen eu cydnabod na’u hystyried.

Mae gobaith

Ond mae gobaith. Rwy’n argyhoeddedig mai’r unig beth sydd gan y rheiny sydd yn gwrthwynebu’r Gymraeg ymhob maes, ac yn gwneud eu gorau i’w dilorni a’i gwthio i’r ymylon, yw culni gweledigaeth a hunanoldeb gyrfaol personol. Dyna eu gwendid.

Mae gennym ni’r Cymry ar y llaw arall ddiwylliant, iaith a gwlad yn ein huno. Aros yma er mwyn eu gyrfaoedd y mae’r rheiny sy’n ein gwrthwynebu, ac er mor nerthol a grymus y maent yn credu y maent, ymddeol a gadael fydd tynged pob un, tra bydd Cymry eraill yn cymryd ein lle ni.

Ganed fy mab, Eban Dafydd, ym mis Rhagfyr 2009. Gwnaeth ei enedigaeth imi ystyried yn ddwys beth fydd sefyllfa’r Gymraeg pan fydd yn hŷn.

Os na chymrwn safiad yn awr, ofnaf mai nifer fechan iawn o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a fydd ar gael iddo fo a’i ffrindiau ymhen ugain mlynedd. A byddwn gam yn nes i ymuno gyda’r rhestr hynny o ieithoedd sydd mewn perygl o farw.

Bygythiad sylfaenol i Gymreictod Prifysgol Bangor

Cyhoeddwyd Ebrill 16, 2010 gan Rhys Llwyd. 2 Sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Mae Rhys Llwyd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyn-warden yn Neuadd John Morris Jones. Ef yw Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae wedi bod yn ymgyrchu am fwy o addysg Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru ers wyth mlynedd…

Llynedd cyhoeddwyd cyfrol gan David Roberts, Cofrestrydd Prifysgol Bangor, yn adrodd hanes ei brifysgol ar achlysur dathlu ohoni ei phen-blwydd yn 125 oed.

Mae’r gyfrol yn nodi’n fanwl y cyfnod trist, tywyll hwnnw dan brifathrawiaeth Charles Evans, a adnabyddir erbyn hyn fel cyfnod yr ‘ehangu’ pan welwyd y Brifysgol, ar y naill law’n ‘tyfu’ a datblygu ond ar y llaw arall yn pellhau fwy fwy oddi wrth gymunedau Cymraeg gogledd Cymru.

Y cymunedau hynny a phobol y cymunedau hynny a’u hadnoddau prin a roddodd fodolaeth iddi yn y lle cyntaf.

Cyfnod o brotestio brwd ydoedd a wrthwynebai nid yn unig yr ehangu bygythiol ond hefyd yr erydu a brofwyd yng Nghymreictod y sefydliad.

Ond o ganlyniad i’r protestio ac ymrwymiad rhai unigolion o blith staff a llywodraeth y Brifysgol, daeth tro ar fyd ac erbyn troad y mileniwm yr oedd llawer o arweinwyr y Brifysgol yn Gymry egwyddorol ac roedd Bangor ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg Gymraeg yn y sector uwch.

Gorffwys ar y rhwyfau

Ond bu gorffwys difrifol ar y rhwyfau er 2000 a esgorodd ar benderfyniadau a datblygiadau difäol. Bu llawer o’r penodiadau pwysig o fewn y Brifysgol yn rhai di-Gymraeg ac yn dilyn ymddeoliad yr Is-Ganghellor yn hwyrach eleni, David Roberts y Cofrestrydd fydd yr unig Gymro Cymraeg ei iaith a fydd yn dal swydd uchel o fewn Prifysgol Bangor.

Mae’n drist nodi felly nad oedd hi, mewn gwirionedd, yn syndod i lawer o Gymry’r Brifysgol glywed na fyddai awdurdodau’r Brifysgol yn nodi bod dwyieithrwydd yn gymhwysedd angenrheidiol i olynydd Merfyn Jones.

Dadl anghyfrifol

Y ddadl anghyfrifol, yn ôl pob tebyg yw bod angen i Fangor fedru denu y “person gorau posib” ac felly rhaid wrth dderbyn ceisiadau gan unigolion di-Gymraeg.

Mynnwn ofyn y cwestion i awdurdodau’r Brifysgol sut ar wyneb daear y medrir penodi’r person “gorau posib” i Fangor a hwnnw neu honno heb fedru’r Gymraeg a’r Saesneg? Y mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gymhwysedd hanfodol i Is-ganghellor Bangor.

Cau adrannau

Cysgod arall dros Fangor ar hyn o bryd yw’r bygythiad i ddyfodol pump o’r adrannau. Y mae lle cryf i amau mai ymarferiad PR yn unig yw pwrpas gohirio’r penderfyniad am flwyddyn gan fod y ddaeargryn eisoes wedi’i phenderfynu a’i threfnu.

Yr adrannau sydd dan fygythiad ydy’r Adran Ddaearyddiaeth, yr Adran Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, yr Adran Ieithoedd Modern, yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.

O safbwynt y Gymraeg a Chymreictod Prifysgol Bangor fe fyddai cau’r adrannau hyn yn danchwa. Tybed a oedd yr awdurdodau’n ymwybodol fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad? O neilltuo’r Adran Addysg a’r Adran Gymraeg o’r darlun, y mae’r ffigwr yn nes at 40%.

Mewn gair, byddai cau’r adrannau hyn yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor. Mae’n debyg bod yr Uwch Reolwyr yn mynnu y byddai  ail-strwythuro’n datblygu yn hytrach na lleihau dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y sefydliad, ond siarad gwag anghyfrifol yw hyn gan nad oes ganddynt strategaeth ar gyfer dysgu Cymraeg o gwbl.

Ymhellach gellir nodi fod yr Adran Gwyddorau Cymdeithas a’r Adran Ddiwinyddiaeth yn cynnig rhywbeth unigryw a thra phwysig i’r sector addysg uwch. Dyma’r unig adrannau o’u math yng Nghymru sy’n dysgu’r cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil Cymraeg a Chymreig unigryw, pwysig a safonol.

Prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg y sector yw Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ar lefel genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg, mater o bryder mawr yw gweld y prif ddarparwr yn prysur fynd i gyfeiriad arall.

Chwalu cymuned

Ond nid ymhlith gosgorddion coridorau academaidd y Brifysgol y mae’r pryderon yn cyniwair, ond hefyd ymhlith ei fyfyrwyr Cymraeg sy’n dra anhapus ynghylch y broses o geisio canfod cartref newydd i Neuadd John Morris Jones. Nifer o fflatiau a gynigwyd ac nid neuadd gymunedol newydd. Afraid dweud y byddai’r datblygiad hwn yn chwalu cymdeithas Gymraeg gyfan, cymdeithas a fu’n rhan anhepgorol o Brifysgol Bangor ers yr 1970au.

Daw hyn hefyd yn wyneb ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr arian a dderbynia Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) gan y Brifysgol i gyflogi Llywydd annibynnol.

Dyma sydd wedi arwain y myfyrwyr felly, gyda chefnogaeth bersonol llawer o ddarlithwyr, i deimlo fod yn rhaid gwneud rhywbeth. Y cam cyntaf yw llunio siarter o’n gofynion i’r Brifysgol ac ymysg pethau eraill bydd y siarter yn galw ar y Brifysgol i roi.

Gofynion y Siarter

  • Addewid na fydd cau adrannau yn effeithio ar ddysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
  • Addewid y bydd y Brifysgol yn penodi Is-Ganghellor sy’n gwbl ddwyieithog ynghyd ac unrhyw benodiadau uchel a strategol eraill yn y dyfodol.
  • Addewid y bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig, yn llunio strategaeth glir i ddatblygu ac nid dim ond i warchod addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y sefydliad.
  • Addewid i warchod a hyrwyddo bywyd cymunedol a chymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Bangor.
  • Addewid y bydd y Brifysgol yn llunio cynllun iaith gryfach ac yn cadw iddi.

Byddwn yn dwyn pwysau ar Dîm Rheoli’r Brifysgol ynghyd â’r Cyngor i dderbyn y siarter ac ymrwymo iddi. Ond os mai parhau i anwybyddu’r Cymry a dilyn llwybr strategol union fel petai Prifysgol Bangor yng nghanolbarth Lloegr y byddant, yna rhagwelir cyfnod eto o brotestio yn dod i ran Prifysgol Bangor.

Tybed a gadwodd fy nhad y placardiau hynny a oedd yn amlwg ym mhrotestiadau Bangor ar ddiwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau, pan wynebodd yntau a’i gyd-Gymry yr un bygythiad i’w bodolaeth fel Cymry?

Gadewch i’r plant bychain … yn Saesneg

Cyhoeddwyd Chwefror 25, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Cyfraith, Cymraeg

Mae adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dangos agwedd iach tuag at droseddwyr ifanc … ond diffyg dealltwriaeth lwyr o le’r iaith Gymraeg yn y broses. Siom, meddai Dylan Iorwerth

Mae Llywodraeth Cymru’n dechrau cael yr enw am fod ychydig yn iachach ei hagweddau na’r criw yn Whitehall.

Mae’r adroddiad newydd am droseddwyr ifanc yn enghraifft o hynny, gyda’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn galw am gael gwared ar beth o’r stigma a’r atgasedd sy’n cael ei ddangos at bobol ifanc.

Er bod Cadeirydd y Pwyllgor yn dweud y pethau arferol am bwysigrwydd y dioddefwyr a pheidio â bod yn rhy feddal, ac er y gallen nhw fod wedi mynd ymhellach, mae yna sŵn gwahanol i’r adroddiad trwy’r trwch.

Methu’n ddrwg

Ond mewn un lle, mae’n methu’n ddrwg. Yn achos yr iaith Gymraeg, mae’n methu’n llwyr â dilyn ei resymeg a’i werthoedd ei hun.

Er ei bod hi’n amlwg bod pobol ifanc mewn rhai achosion yn cael eu gwahardd rhag defnyddio’r iaith, ac yn methu â chael y cyfle i’w defnyddio hi mewn achosion eraill, dydi’r pwyllgor ddim wedi gwneud safiad.

Ar bynciau eraill, maen nhw’n gwneud argymhellion cry’; yn achos yr iaith, dim ond rhyw gefnogaeth wangalon i ddatganiad cyffredinol gan y Llywodraeth am gwrdd ag anghenion iaith.

Tydi’r pwyllgor ddim wedi deall.

Maen nhw’n sôn am yr angen i ddod â throseddwyr ifanc yn ôl i’r gymdeithas ac am geisio gwneud yn siŵr na fyddan nhw eisio troseddu eto.

Mae hynny’n amlwg yn golygu mwy na chloi drysau; mae’n golygu addysg, a thrafod problemau a cheisio arwain i gyfeiriad newydd.

Ond os na fedr pobol ifanc wneud hynny yn eu hiaith gynta’ – eu hiaith gartrefol, gyfforddus – fydd dim yn digwydd. Fydd neb yn eu cyrraedd nhw.

Mae’n ymddangos bod y pwyllgor – neu o leia’ rai aelodau – wedi llyncu’r ddadl nad oes yna lawer o alw am ddeunyddiau a chyfleusterau Cymraeg.

Tydi’r pwyllgor ddim wedi deall.

Petaech chi’n droseddwr ifanc Cymraeg yn landio mewn canolfan gadw yn Lloegr ynghanol criw caled o droseddwyr eraill ac ynghanol swyddogion uniaith, a fyddech chi’n dechrau gwneud ff?s ac yn mynnu cael eich hawliau?

A fyddech chi hyd yn oed eisiau tynnu sylw at y ffaith eich bod chi’n wahanol ac yn siarad iaith arall?

Mae’r adroddiad yn iawn i ofyn am ddatganoli gofal am droseddwyr ifanc ac mae’n iawn i sôn am barch tuag atyn nhw, am geisio trin yr achosion ac am gadw pobol o fewn eu cymunedau.

Ond mae wedi methu â gweld beth ydi ystyr hynny i rywun sy’n siarad Cymraeg.

Bangor: iaith a safon byd – dim angen dewis

Cyhoeddwyd Chwefror 15, 2010 gan Dylan Jones-Evans. 1 Sylw.

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Yr economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans, yn mynegi ei siom am benderfyniad ei hen brifysgol … ac yn cynnig ateb arall.


Efo pwerau newydd tros yr iaith Gymraeg ar fin cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n eironig bod Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd raid i’w His-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg.

Mae hyn yn dilyn cynnig i gau pum adran sydd ymhlith y rhai mwya’ Cymraeg o ran cynnwys.

Tra bydd rhai sy’n drwglicio’r iaith yn dweud bod angen penodi’r person gorau ar gyfer y swydd, waeth beth fo’u gallu i siarad yr iaith, mae hynny’n anwybyddu’r ffaith bod Prifysgol Bangor yn ‘grud i’r iaith’, yn enwedig trwy ei rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfleus, mae hefyd yn anghofio bod Bangor yn rhan o un o’r ychydig siroedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobol a lle mae’n iaith bob dydd i lawer o gyrff lleol.

Mae gan Fangor gyfartaledd uchel o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith – ffigwr sy’n siŵr o gynyddu pan fydd ffioedd dysgu’n codi – ac mae tua 40% o’r holl fyfyrwyr yng Nghymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny ym Mangor.

Mae’r sefydliad felly mewn safle unigryw – safle a fyddai fel rheol yn cael ei ystyried wrth benodi prif weithredwr newydd. Byddai disgwyl i’r Brifysgol ddweud bod gallu yn y Gymraeg yn amod dymunol, os nad hanfodol, o’r swydd.

Pryder

All dyn ddim ond dyfalu bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad yma oherwydd pryder na all ddatblygu’n sefydliad o safon byd os oes ganddo ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg?

Os felly, mae’n amlwg nad ydyn nhw ddim wedi edrych ar lwyddiant diweddar Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Gaillimh (Galway) sydd yn un o ardaloedd Gwyddeleg y Gaeltacht.

Yn wahanol i Fangor, mae gan NUI Galway gyfrifoldeb statudol i gyflogi aelodau o staff sy’n gymwys i ddysgu trwy gyfrwng yr Wyddeleg, cyn belled â’u bod hefyd yn gymwys ym mhob ffordd arall.

Yn ail, mae wedi ymrwymo i ddatblygu campws dwyieithog trwy gynnig y math o amgylchfyd ffisegol a chymdeithasol a fydd yn cyflawni hynny.

Yn olaf, mae’n cynnig cyrsiau trwy gyfrwng yr Wyddeleg yng Nghyfadrannau’r Celfyddydau, y Gwyddorau a Masnach ac mae llawer o’r gwaith gweinyddol trwy’r Wyddeleg.

Iaith a llwyddiant yn bosib


A ydy’r ymrwymiad cryf yna i’r iaith Wyddeleg wedi gwanhau enw da Gailimh ar draws y byd?

I’r gwrthwyneb. Mae Gaillimh yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan amlwg sy’n arwain y byd o ran ymchwil i dechnoleg y rhyngrwyd, gwyddoniaeth fiofeddygol, newid yn yr amgylchedd a pholisi cymdeithasol.

Mae hefyd yn cynhyrchu mwy o batentau a sgîl-gwmnïau nag unrhyw brifysgol Wyddelig arall, gan ddenu mwy na 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn.

O ganlyniad, cafodd NUI Galway ei dewis yn Brifysgol Wyddelig y Flwyddyn 2009-10 yn y Sunday Times.

Felly, i brifysgol sydd mewn rhanbarth gyda threftadaeth gyfoethog o ran iaith, mae’n glir y gall rhagoriaeth ac ymrwymiad cryf i’r iaith leol fynd law yn llaw.

A finnau’n gyn athro ym Mangor, rydw i, fel sawl un arall, yn siomedig mai ei nod ar hyn o bryd – yn ôl pob golwg – yw troi yn gopi carbon o brifysgol Seisnig gyffredin.

Oni fyddai’n trawsnewid pethau pe bai’r brifysgol yn lle hynny’n creu gweledigaeth o sefydliad academaidd Cymreig yn yr 21fed ganrif sydd, fel Gaillimh, wedi ei wreiddio yn ei gymdeithas leol ond sydd ag uchelgais byd-eang, yn enwedig o gofio bod y Gymraeg ar ei chryfa’ ers degawdau?

A gallai lansio’r weledigaeth honno trwy benodi arweinydd sydd, yn ogystal â deall pwysigrwydd ymchwil a dysgu o safon byd, hefyd yn gallu ymwneud yn uniongyrchol â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, dau beth a ddylai fod yn sylfaen i brifysgol fel Bangor.