Cynyddu maint testun

Golwg360

Bwlgaria v Cymru: 5 peth rydan ni am weld

Cyhoeddwyd Hydref 11, 2011 gan Owain Schiavone. 1 Sylw.

Tagiau: Bwlgaria, Cymru, Gary Speed, swistir


Gary Speed
Yn dilyn buddugoliaeth a pherfformiad da iawn yn erbyn Y Swistir yn Stadiwm Liberty nos Wener, Owain Schiavone sy’n awgrymu beth fydd cefnogwyr Cymru’n gobeithio ei weld gan ddynion Gary Speed ym Mwlgaria heno

Canol cae Cymru am y ddeng mlynedd nesaf

Dwi wedi sôn o’r blaen am yr opsiynau sydd gan Gymru o ran chwaraewyr canol cae erbyn hyn. Gyda Joe Ledley, Jack Collison ac Andy King wedi’u hanafu nos Wener a David Vaughan ond yn ddigon iach i ddechrau ar y fainc, o’r diwedd daeth cyfle i Joe Allen ddechrau ei gêm gyntaf i Gymru.

Gydag Allen a Ramsey’n cyfuno’n greadigol, ac Andrew Crofts yn gwneud y gwaith caib a rhaw yn gwarchod yr amddiffyn, cafwyd awgrym o bartneriaeth ganol cael Cymru am y ddeng mlynedd nesaf.

Mae Allen yn 21 a Ramsey dal ond yn 20. Mae’r ddau’n chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair eleni, ac yn chwarae pêl-droed y ffordd iawn. Mae Crofts yn hŷn wrth gwrs, yn 27 erbyn hyn ond ychwanegwch Jack Collison, sydd ond yn 22 oed, ac mae gan Gymru driawd addawol iawn yng nghanol y cae am y ddeng mlynedd nesaf.

Cofiwch hefyd bod Ramsey ac Allen yn Gymry Cymraeg – mae’n rhaid bod hynny’n fantais gan fod y ddau i’w gweld yn deall ei gilydd i’r dim. Byddwn ni’n gobeithio gweld perfformiad yr un mor hunanfeddiannol gan y ddau ym Mwlgaria heno.

Perfformiad da arall gan Morison

Ers i John Hartson ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, mae Cymru wedi’i chael hi’n anodd i lenwi esgidiau’r cawr yn y llinell flaen.

Mae Freddie Eastwood, Ched Evans, Sam Vokes a Simon Church wedi cael cyfle yn y safle ond heb argyhoeddi. Er ei fod yn cynnig rhywbeth gwahanol, doedd Morison heb argyhoeddi chwaith…nes nos Wener.

Er mai Gareth Bale oedd seren y gêm, a bod nifer o chwaraewyr eraill wedi dal y llygad, doedd yr un perfformiad yn fwy trawiadol nag un Morison. Fe weithiodd yr ymosodwr cydnerth yn galed yn y gemau yn erbyn Montenegro a Lloegr ym mis Medi, ond doedd o ddim yn edrych fel ateb hirdymor i Speed – ddim digon siarp, a’i gyffyrddiad ddim digon da i’r lefel rhyngwladol.

Ers hynny, mae wedi cael rhediad da yn nhîm Norwich, ac yn erbyn Y Swistir roedd yn chwaraewr gwahanol. Mae’n amlwg ei fod wedi codi ger wrth chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair, a gobeithio bydd ei berfformiad heno’n un cystal.

Mwy o antur gan Gunter

Digon tawel oedd hanner cyntaf Chris Gunter ar y Liberty, ond fe gafodd drawiad mawr yn ystod chwarter awr gyntaf yr ail.

Wrth iddo gyfuno’n dda â Gareth Bale ar yr asgell dde, cafwyd tacl erchyll ar gefnwr Nottingham Forrest gan Ziegler  – tacl a welodd gerdyn coch haeddiannol.

Doedd Gunter yn ddim gwaeth o’r dacl diolch byth, a munudau’n ddiweddarach roedd yn rhuthro am bas Crofts yng nghwrt cosbi’r gwrthwynebwyr. Roedd ei gyffyrddiad cyntaf yn dda a doedd dim dewis gan yr amddiffynnwr ond ei faglu, gan arwain at gic o’r smotyn a gôl gyntaf i Gymru.

Er ei addewid cynnar, mae Gunter wedi bod yn rhy geidwadol yn ei chwarae i Gymru ers peth amser bellach, gan ofni mentro’n ormodol i hanner y gwrthwynebwyr. Roedd yn dda ei weld yn cyfrannu mwy i’r ymosod nos Wener, ac yn cael dylanwad mawr ar y gêm o ganlyniad. Mwy o hyn plîs Chris.

Bellamy i chwarae dwy gêm mewn wythnos.

Mewn adroddiadau yn y wasg heddiw mae Gary Speed yn dweud ei fod am weld Craig Bellamy yn dal ati i chwarae i Gymru nes Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.

Oherwydd hanes anafiadau Bellamy dros y blynyddoedd mae hynny wedi ymddangos yn annhebygol iawn, ac yntau’n 32 oed bellach.

Tra’n chwarae i Gaerdydd llynedd, doedd dim modd i Bellamy chwarae dwy gêm mewn wythnos, ond mae’r chwaraewr wedi cael bywyd newydd wrth ymuno â Lerpwl Kenny Dalglish, ac ar hyn o bryd, does dim awgrym na fydd yn chwarae heno.

Er cystal chwaraewr yw Aaron Ramsey, mae Speed yn gwybod yn iawn mai cyflymder Gareth Bale a Craig Bellamy ar yr esgyll ydy bygythiad ymosodol mawr Cymru a bydd yn awyddus i Bellamy chwarae i’w wlad mor hir â phosib.

Buddugoliaeth

Tydi Cymru heb sicrhau dwy fuddugoliaeth gefn-wrth-gefn ers chwe blynedd bellach. Digwyddodd hynny ddiwethaf yn ystod ymgyrch gyntaf John Toshack fel rheolwr gyda buddugoliaethau yn erbyn Gogledd Iwerddon ac Azerbaijan.

Cafwyd y perfformiadau gefn-wrth-gefn fis yn ôl, ond er gwaetha’r perfformiad colli wnaethon ni’n erbyn y Saeson. Bydd Speed ar dân i sicrhau buddugoliaeth heno fydd yn hwb enfawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.

Mae canlyniad heno’n bwysig yng nghyd-destun y grŵp. Fe alla’i buddugoliaeth olygu bod Cymru’n gorffen yn drydydd, petai Montenegro’n curo’r Swistir yn Basel. Ar y llaw arall, byddai colli’n golygu bod Cymru’n gorffen ar waelod y grŵp.

Nos Wener, curodd Cymru dîm sy’n safle 18 yn rhestr dethol FIFA ar hyn o bryd – ac ni ddylid diystyru safon tîm Y Swistir. Mae Bwlgaria’n is ar y rhestr, yn safle 55 tra bod Cymru’n safle 90. Os ydw i wedi deall yn iawn, fe alla’i buddugoliaeth heno godi Cymru i hanner cant uchaf y byd, lle ddylen ni fod.

Mae Speed hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd gêm heno wrth baratoi at yr ymgyrch nesaf lle bydd ei dîm yn wynebu timau Dwyreiniol Macedonia, Serbia a Croatia yn eu grŵp rhagbrofol.

Yn fwy na dim, byddai buddugoliaeth yn cynnal hyder y chwaraewyr ifanc sy’n asgwrn cefn i garfan Gary Speed, gan hefyd gadarnhau fod y rheolwr yn mynd o’i chwmpas hi’r ffordd iawn.

S4C – felly lle ydan ni arni?

Cyhoeddwyd Hydref 25, 2010 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, Cymraeg, Cymru, Jeremy Hunt, S4/C, sianel;

Wrth i Fwrdd yr Iaith gondemnio’r Llywodraeth yn Llundain am fod yn “sarhaus” wrth ddelio gyda’r sianel Gymraeg, mae Dylan Iorwerth yn ceisio pwyso a mesur y sefyllfa ddiweddara’ …

Un dyn sydd wedi ennill yn glir yn holl saga S4C, a’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ydi hwnnw.

Mae wedi llwyddo i wneud dau beth yn effeithiol – torri gwariant ei adran a thanseilio Awdurdod S4C.

O ran ei sgôr ar lechen George Osborne, y Canghellor, mae Jeremy Hunt wedi torri llawer mwy na 24% ar S4C. Trwy drosglwyddo’r rhan fwya’ o’r cyfrifoldeb i’r BBC, mae’n cael gwared ar tua £90 miliwn y flwyddyn oddi ar lyfrau ei adran. Seren aur i Jeremy.

Mae hefyd wedi mynd tros ben, rownd a rhwng coesau Awdurdod S4C ar ôl iddyn nhw ei gythruddo sawl gwaith – tros ymddiswyddiad/sacio Iona Jones, tros  ddweud nad oedd ganddo’r hawl i dorri eu harian o gwbl ac, mae’n ymddangos, am ei fod yn eu hamau o ollwng gwybodaeth i’r cyhoedd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mi fydd mynd am Adolygiad Barnwrol wedi ei wylltio’n waeth fyth. Efallai bod Awdurdod y Sianel yn teimlo bellach nad oes ganddyn nhw ddim i’w golli … ond mae’n anodd gweld fod llawer i’w ennill chwaith.

Os byddan nhw’n llwyddo gydag Adolygiad, mi fydd y Llywodraeth yn mynd yn eu blaenau i gyflawni’n union yr un peth mewn ffordd arall. Os collan nhw, mi fyddan nhw’n wannach nag erioed ac yn gorfod ymddiswyddo.

Beth ddigwyddodd?

Nid fod dim o hyn yn awgrymu fod penderfyniad yr Ysgrifennydd Diwylliant yn un cywir ac mae’r gwahanol ddogfennau’n dangos yn weddol glir beth ddigwyddodd. Mae dilyn beth sydd wedi’i ddweud wrth pwy fel dilyn cliwiau i ddatrys trosedd.

Mae’n dweud dau beth yn ei lythyr at y BBC nad yw’n eu dweud yn ei lythyr at S4C (gweithred ryfedd iawn gan Ysgrifennydd Gwladol, ond dyna ni). Un yw mai BBC Alba – gwasanaeth Gaeleg yr Alban – yw’r model a’r llall yw y gall y BBC dynnu’n ôl o’r trefniant a cholli £76 miliwn o’r drwydded deledu.

Felly, dyma be ddigwyddodd yn y cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth y Bîb …

Jeremy Hunt: Ti ddim eisio talu am drwydded deledu hen gojars nacwyt? Reit, felly, mi dorra’ i £76 miliwn oddi ar bres y drwydded deledu a’u rhoi nhw i S4C.

Michael Lyons: Yr uffar bach slei. Oes gen i ddewis?

JH: Nacoes.

ML: Reit, ar un amod.

JH: Ie?

ML: Ein bod ni’n cael llais yn rhedeg y sianel.

JH: Ar bob cyfri. Sgen ti syniad sut?

ML: Wel mae yna rywbeth o’r enw BBC Alba yn y gogledd yn rhywle.

JH: Os ydio’n ddigon da iddyn nhw … Grêt!

ML: Oes angen trafod efo pobol Cymru.

JH: Pwy? Oes angen trafod efo BBC Cymru?

ML: Pwy?

A be ydi’r canlyniadau?

Nid fod hyn i gyd, o angenrheidrwydd, yn golygu fod y penderfyniad yn un drwg. Ond doedd dim paratoi ar ei gyfer a does neb yn siŵr sut y bydd yn gweithio – mae Menna Richards, pennaeth y BBC yng Nghymru wedi  dweud fod angen gwaith mawr i sefydlu trefn.

Mi ddywedodd hefyd bod y BBC wedi cytuno i “helpu” S4C. Go brin mai dyna oedd ym meddwl Michael Lyons – roedd yn ffordd o golli arian heb frifo cymaint ag ambell ddewis arall. Trwy hyn, mi fydd y BBC yn gallu cadw rhai adnoddau a fyddai wedi mynd fel arall.

Ar ôl dweud hynny, mi allai’r BBC helpu i dorri ar rai o gostau S4C trwy rannu rhai elfennau o’r gwaith. Ond y cwestiwn mawr sy’n aros ydi annibyniaeth S4C – o dan fodel Alba, mi fydd yr Awdurdod yn annibynnol, ond fydd y sianel ddim.

Mi fydd y Llywodraeth yn gwadu hynny a’r BBC hefyd, o bosib. Ond os ydi’r sianel am fod yr un mor annibynnol ag o’r blaen be ydi’r pwynt o greu trefn newydd gymhleth, anhylaw sy’n creu sgôp ar gyfer ffraeo a gwastraffu amser ar ddadlau?

Yr unig bwynt ydi … ewch yn ôl i ddechrau’r pwt yma o erthygl.

Y Cymoedd a Chymru

Cyhoeddwyd Hydref 13, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: Cymoedd;, Cymru, Glo, Gwleidyddiaeth, Rygbi, Y Fro Gymraeg

Yn ôl John Osmond o’r Sefydliad Materion Cymreig, mae’n rhaid dod i delerau â’r Cymoedd er mwyn deall Cymru gyfan. Dyma ddyfyniad o’i erthygl ar clickonwales.org …

Yn ôl yn 1921, rhoddodd Syr Alfred Zimmern, Athro cyntaf Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, anerchiad enwog i’r Gymdeithas Gambriaidd yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen. O dan y teitl Impressions of Wales, roedd yn cynnwys yr haeriadau hyn:

“Nid yw Cymru’r dwthwn hwn yn gymuned. Nid oes un Gymru; y mae tair … y mae’r Gymru Gymraeg; y mae’r Gymru ddiwydiannol, neu, fel y byddaf i weithiau’n synied amdani, y Gymru Americanaidd; ac mae’r Gymru ddosbarth uwch, neu’r Gymru Seisnig. Mae’r tair hon yn cynrychioli mathau gwahanol a thraddodiadau gwahanol. Y maent yn symud i gyfeiriadau gwahanol ac, os bydd y tair yn goroesi, nid ydynt yn debygol o ail-uno byth.”

I ba raddau y mae’r dadansoddiad yma’n gywir? I ba raddau y mae’n parhau’n berthnasol yn ein hoes ni, dair cenhedlaeth yn ddiweddarach? A yw’r tri rhanbarth Cymreig a nododd Zimmern yn parhau ar wahân ac yn “symud i gyfeiriadau gwahanol”? Wedi’r cyfan, mae gan bob gwlad ei rhanbarthau a’i rhaniadau. A yw Cymru rywfodd yn unigryw gyda thri rhanbarth anghymarus – yn yng ngeiriau Zimmern “yn symud i gyfeiriadau gwahanol” – i’r fath raddau nes bod unoliaeth uwch yn amhosib? A yw’r Cymoedd – y Gymru Americanaidd yn ôl darlun Zimmern – yn rhwystr anorfod i undod cenedlaethol?

Cafodd dadansoddiad Zimmern ei gadarnhau’n fras, er yn fwy dadansoddol, gan astudiaeth Denis Balsom o etholiadau yng Nghymru, yn 1979. Deilliodd honno ar yr hyn a ddaeth yn hysbys dan yr enw Model y Tair Cymru. Roedd yn rhannu Cymru’n dair ardal wleidyddol glir, wedi’u seilio ar yr atebion i ddau gwestiwn mewn arolwg; “A ydych fel rheol yn eich ystyried eich hunan yn Gymreig, yn Brydeinig, yn Seisnig, neu’n rhywbeth arall?” ac “A ydych chi’n siarad Cymraeg?” O fapio’r atebion hyn yn ddaearyddol, cafwyd tair ardal.

Roedd y gyntaf, a alwyd yn Fro Gymraeg gan yr ymchwilwyr – Cymru Gymraeg Zimmern – yn cynnwys y gogledd-orllewin a pherfeddwlad y gorllewin a’r canolbarth. Yma, Plaid Cymru sy’n gosod yr agenda wleidyddol ac, er nad yw’n ennill pob etholiad, i raddau helaeth yn penderfynu pa blaid sy’n ennill. Yr ail ardal yw’r Cymoedd, sy’n cael ei diffinio gan faes glo de Cymru, ‘Cymru Americanaidd’ Zimmern. Dyma gadarnle etholiadol y Blaid Lafur, a ddefnyddiodd i estyn allan i dra-arglwyddiaethu tros wleidyddiaeth Cymru am lawer o’r 20fed ganrif. I raddau helaeth mae wedi cilio’n ôl iddi erbyn hyn. Y drydedd ardal, a alwyd gan ymchwilwyr 1979 yn Gymru Brydeinig yw’r gweddill annelwig – glannau’r de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, Sir Benfro, a’r rhannau o ganolbarth Cymru sy’n ffinio â Lloegr.

Cafodd y term Cymru Americanaidd ei ddefnyddio gan Zimmern ac, yn ddiweddarach, gan yr hanesydd Gwyn Alf Williams, oherwydd y mewnfudo anferth a fu i’r Cymoedd yn anterth y diwydiant glo. Dim ond yn yr Unol Daleithiau y cafwyd symud poblogaeth tebyg i’r hyn a fu yno rhwng yr 1880au a’r Rhyfel Byd Cyntaf, o’r Gymru wledig ac o Loegr, Iwerddon a gweddill y byd.

Cafodd y tebygrwydd i’r Unol Daleithiau hefyd ei godi mewn erthygl graff yn rhifyn diweddaraf Llafur, cyfnodolyn hanes pobl Cymru …. mae Daryl Leeworthy, myfyriwr doethuriaeth yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe, wedi sgrifennu papur disglair yn cymharu cymunedau glofaol y Cymoedd a Cape Breton (ar lannau dwyreiniol pellaf Canada) ar droad yr 20fed ganrif, Miners on the Margins: Characterising South Wales and Cape Breton as an Industrial Frontier, 1880-1939.

Mae wedi dod o hyd i nifer rhyfeddol o gyfatebiaethau rhwng y ddwy gymuned sydd, i mi, yn creu dealltwriaeth bwysig o natur sylfaenol y Cymoedd ac, yn y pen draw, pam nad ydyn nhw’n rhanbarth ar wahân o Gymru. Achos mae’r syniad o fod ar wahân, o fod yn ‘rhywbeth arall’ yn ei hanfod yn greadigaeth sy’n cael ei gosod o’r tu allan, gan ganolfan fetropolaidd y diwylliant. Y gwir yw nad oedd gan bobol y Cymoedd unrhyw ddewis ond datblygu’n annibynnol, i’w creu (ac yn awr i’w hail-greu) eu hunain ar eu telerau eu hunain. Trwy eu cymharu gyda’r gymuned lofaol yn Cape Breton, a oedd yn datblygu fwy neu lai yr un pryd ac ar yr un cyflymder, mae Leeworthy yn eu gweld yn ardal  ffin – frontier – ddiwydiannol, sy’n cael ei ddiffinio ganddo fel hyn:

“… rhanbarth – maes glo yn fwyaf amlwg – sydd ymhell oddi wrth ddylanwadau canolfan fetropolaidd ac sydd felly yn creu ei hunaniaeth ei hun, ei ffurfiau diwylliannol ei hun, a’i sefydliadau ei hun. Er hynny, lled-annibynnol yw ardal y ffin ddiwydiannol, oherwydd ei bod yn ddarostyngedig i alwadau o’r tu allan, sef y gyfundrefn ddiwydiannol gyfalafol y bu llawer yn ardal y ffin ddiwydiannol yn ymladd yn ei herbyn. Yn yr ystyr hwnnw, felly, mae ardal y ffin ddiwydiannol yn hunaniaeth y mae pobol yr ardal yn ei chreu a’i hail-greu genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Mae’n ffynhonnell i ddiwylliant gwrth-hegemonaidd ond sy’n dibynnu ar farchnadoedd o’r tu allan er mwyn goroesi yn rhanbarth diwydiannol.”

Aiff Leeworthy yn ei flaen i ddarlunio’r syniad craff hwn trwy drafod sut y cafodd rygbi ei fabwysiadu gan gymunedau glofaol y Cymoedd a Cape Breton. Yn y ddau achos, roedden nhw wedi cipio a newid gêm ddosbarth uwch gyda’i moesoldeb ei hun (amaturiaeth er enghraifft) i fod yn gêm a oedd o ddifri’n adlewyrchu eu hunaniaeth ddosbarth gwaith eu hunain. Roedd rygbi yn benodol yn ddeniadol oherwydd ei bod yn ei hanfod yn gorfforol, nodwedd uchel ei pharch.

Mae Leeworthy yn caniatáu inni weld, hefyd, sut yr oedd cymunedau’r Cymoedd, yn arbennig, yn codi uwchben y syniad bod eu diwylliant dosbarth gwaith wedi ei seilio ar lafur corfforol. Yma hefyd mae ei syniad o ‘frontier’ diwydiannol yn ddefnyddiol:

“ …. roedd y duedd yn ne Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Cape Breton i ddatblygu llyfrgelloedd pwll a’r Stiwtiau gwych yn ail-drefnu sylfaenol ar berthnasau cymdeithasol. Wedi’r cyfan, gwerthoedd hanfodol ddosbarth canol oedd rhoi gwerth ar wybodaeth a llwyddiant ymenyddol. Roedd y ffaith bod gweithwyr wedi meddiannu’r syniad o allu ymenyddol a’i droi i’w byd eu hunain yn dangos pa mor ddiffygiol yw’r persbectif fetropolaidd ac yn tanlinellu gwerth gweld diwylliant o safbwynt y ‘frontier’ diwydiannol …”

Felly, beth am y Cymoedd heddiw, cymuned lofaol hanesyddol heb lo? Wel, yn syml, mae pobol y Cymoedd yn amsugno Cymru, tra bod gweddill Cymru yn amsugno’r Cymoedd. Yn rhifyn nesaf Agenda (cylchgrawn y Sefydliad), byddwn yn adrodd am ymchwil ddiddorol iawn a wnaed yng Nghaerffili sy’n dangos mai’r rheswm pennaf o lawer pam fod rhieni Saesneg eu hiaith yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yw eu hawydd i uniaethu â diwylliant Cymru. Ac, wedi’r cyfan, onid yw Cymru gyfan wedi mabwysiadu rygbi yn gêm genedlaethol iconig? Efallai bod Cymru gyfan yn ‘frontier’ diwydiannol.

Mae gan Golwg360 gytundeb i gyhoeddi erthyglau achlysurol o wefan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae fersiwn ychydig llawnach o’r erthygl hon ar www.clickonwales.org/2010/10/the-valleys-as-an-industrial-frontier

Nid y rhaniad yn y bleidlais oedd y broblem, ond ei maint

Cyhoeddwyd Medi 27, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Cymru, etholiad, Gwleidyddiaeth, Llafur, Miliband;, Pleidlais

Dylan Iorwerth yn edrych ar rai o’r manylion o bleidlais arweinyddiaeth y Blaid Lafur

Llai na chwarter holl aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru a roddodd eu pleidlais gynta’ i’w harweinydd newydd, Ed Miliband, ac ychydig llai na hanner yr Aelodau Seneddol.

Oni bai am bleidlais yr undebau, fyddai’r cyn Ysgrifennydd Amgylchedd ddim wedi ennill y swydd hyd yn oed.

Dyna pam mai gwaith cynta’r arweinydd newydd fydd ennill trwch aelodau ei blaid ei hun ac wedyn tawelu ofnau pobol gwledydd Prydain ei fod ym mhoced y ‘brodyr’.

Hen stori ydi honno, wrth gwrs, ac mi fydd yn newid o’r cyhuddiadau bod Llafur – a’r Ceidwadwyr o ran hynny – ym mhocedi pobol fusnes gyfoethog.

Y manylion

Problem lawer mwy yw bod mwyafrif yr aelodau cyffredin a’r etholaethau eisiau rhywun arall. Os bydd pethau’n dechrau mynd o chwith, mi allai greu trafferthion.

Dim ond saith o’r 40 etholaeth yng Nghymru oedd wedi rhoi Ed Miliband yn gynta’, a rhai bychain iawn yn y Gogledd – fel Dwyfor Meirionnydd, Arfon ac Ynys Môn – oedd tair o’r rheiny.

O gyfri’r pleidleisiau dewis cynta’, mi gafodd David Miliband 3,625 yng Nghymru ac Ed Miliband 2,681. Roedd y sgôr ymhlith aelodau seneddol yn 13 – 10 i’r brawd lleia’.

O gyfri’r pleidleisiau ail ddewis, mi fyddai’r ddau fwy neu lai’n union gyfartal ymhlith ASau … ac yn hynny y mae’r cysur i Lafur.

David Miliband a'i frawd (Gwifren PA)

Y cysur i Lafur

Doedd gan lawer o’r aelodau ddim llawer o wahaniaeth pa un ai David neu Ed a fyddai’n ennill. Mae’n ymddangos mai personoliaeth a phrofiad oedd sail eu dewis yn aml, nid polisïau.

O ran cyfeiriad y blaid, felly, does dim rhwyg anferth ac mae galw’r arweinydd newydd yn ‘Red Ed’ yn nonsens. Dyna fydd tacteg pleidiau’r glymblaid a’r papurau Ceidwadol ond mi fyddai sosialydd go iawn yn chwerthin neu grïo wrth weld y disgrifiad.

Mae’r ymateb tros yr oriau diwetha’ hefyd yn awgrymu bod y ddau frawd yn llawn ymwybodol o’r peryglon – mae’r berthynas rhyngddyn nhw’n rhoi min ar y gystadleuaeth ond hefyd yn debyg o’u sadio nhwthau hefyd.

Y ffigwr pwysig

Tros ffigwr arall y dylai’r Blaid Lafur oedi mewn gwirionedd. Wrth gyhoeddi manylion y bleidlais, mi gyhoeddodd hefyd faint o bapurau balot oedd wedi eu dosbarthu … faint o aelodau sydd ganddi.

Yng Nghymru, mae’r cyfanswm bellach i lawr i 11,160 – cyfartaledd o lai na 280 ym mhob etholaeth. Ond, o fewn y cyfanswm, mae yna amrywiaeth fawr, o 86 ym Maldwyn i 454 yng Ngorllewin Caerdydd.

Dim ond 89 sydd yna yn Nwyfor Meirionnydd ac mae’r cyfanswm yn Aberconwy, Arfon, Ceredigion, Gorllewin Clwyd ac Ynys Môn i gyd o dan 170.

Mae’n awgrymu bod Llafur yn colli’r gallu i gystadlu mewn rhai rhannau o’r wlad. Hi yw’r blaid fwya’ o hyd ond mae’n gymharol wan o ran trefniadaeth a grym gweithredu mewn sawl ardal.

Heb yr undebau llafur, mi fyddai llawer o’i gallu i drefnu a chodi arian yn mynd.

Gwyddoniaeth – conglfaen hanes Cymru

Ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae John Tucker, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, yn dadlau nad yden ni’n gwybod digon am hanes gwyddoniaeth yng Nghymru …

Mae syniadau am hunaniaeth genedlaethol, treftadaeth a hanes yn ddeallusol anodd, yn ddylanwadol iawn ac yn ymarferol iawn. Pwy ydyn ni’n ei ddweud ydyn ni? Beth wyddon ni amdanon ni ein hunain? Beth allwn ni fod?

Yng Nghymru ers yr 1960au, mae haneswyr a churaduron amgueddfeydd wedi llwytho sylw ar ychydig themâu llywodraethol, gan gynnwys: hanes y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar; hanes gwerin yn y gorllewin a’r gogledd; hanes dinesig a diwydiannol yn y de; ffurfio’r dosbarth gwaith.

Ond mae yna themâu sydd wedi eu hesgeuluso: diwydiannau bydeang o Gymru heblaw glo a dur -  copr, ynni, cemegau, cerbydau, cyfrifiadureg; busnes ac arian; hanes milwrol; y dosbarth canol; y celfyddydau, hamdden, siopa a chwaraeon. A’r thema sydd mae’n debyg wedi ei hesgeuluso fwya’ o’r cyfan: Cymru a gwyddoniaeth.

Datganodd y diweddar Athro Phil Williams fod Cymru’n genedl o wyddonwyr. Mewn araith ardderchog mewn dadl yn y Cynulliad am Wyddoniaeth yng Nghymru, ym mis Mai 2001, edrychodd ar bwnc cyfoes gwyddoniaeth, gan ddechrau gyda llwyddiannau gwyddonol Cymru. Enwodd 15 o bobol a rhoi sylw bychan ar yr hyn a wnaethon nhw. Ef oedd y person cynta’ i mi ei glywed yn dathlu treftadaeth wyddonol Cymru fel petai’n fawr ac yn cyfri’.

Gwyddonydd ydw i. Fel y rhan fwya’ o wyddonwyr, mae gen i ddiddordeb yn hanes gwyddoniaeth. Mae hanes yn rhan o ddiwylliant gwyddonwyr wrth eu gwaith. Mae syniadau cynharach, cerrig milltir technegol a hyd yn oed fywgraffiadau yn rhan o esboniadau gwyddonol ac maen nhw’n rhan hanfodol o addysg gwyddonwyr.

Er enghraifft, mae hanes TGAU’n tynnu sylw at ddatblygiad syniadau ac anawsterau’r gorffennol, er enghraifft ateb Einstein yn 1905 i’r broblem a gododd yn 1827 wrth egluro’r hyn a welodd y Parch Thomas Brown wrth wylio paill yn symud ar wyneb dŵr. Dyma a sefydlodd ddamcaniaeth atomau yn yr oes fodern. Fodd bynnag, i wyddonwyr, mae hanes yn tueddu i fod yn rhyngwladol, yn arwrwol ac yn Whigaidd.

Yn wahanol i’r rhan fwya’ o wyddonwyr, bu gen i ddiddordeb ers tro yn hanes gwyddoniaeth a Chymru. Mae wedi bod yn ddiddordeb anodd ei gynnal, yn benna’ oherwydd bod pobol wybodus a llenyddiaeth yn brin. Fe gymerodd flynyddoedd i gasglu enwau a deall a gwerthfawrogi eu llwyddiannau. Trwy lwc, mae digon i’w wybod ac mae casglu yn cydio ynoch chi.

Pam fod eisiau ystyried hanes gwyddoniaeth yng Nghymru?

Mae budd i’w gael o feddwl am wyddoniaeth Gymreig a’i lle yn ein hanes a’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae natur hanes gwyddonol cenedlaethol ynddo’i hun yn herio syniadau arferol haneswyr am hanes gwyddoniaeth. Mae’n ychwanegu talpiau sylweddol o gyd-destun deallusol a hanesyddol trwy fapio rhwydweithiau cymdeithasol gwyddonwyr, trwy adfer pwrpas ymchwiliadau a thrwy wreiddio syniadau, llwyddiannau a methiannau’r gymuned wyddonol mewn hanes lleol.

Yn rhyfeddol, mae hanes cenedlaethol yn ehangu graddfa a chymhlethdod ein dealltwriaeth o wyddoniaeth ei hun. Yn benodol, mae hanes manwl, gwreiddiedig, o’r fath yn nes at brofiad gwyddonwyr heddiw. Mae pedwar rheswm syml pam fod y pwnc yn ganolog ac yn berthnasol o ran materion o bwys yng Nghymru heddiw:

1. I wyddonwyr ac athrawon gwyddoniaeth, mae dealltwriaeth ddyfnach o natur gwyddoniaeth yn arwain at well gwyddoniaeth ymarferol, at well addysg wyddonol ac at ennill mwy o ddiddordeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

2. Mae gwyddoniaeth yn ysbrydoli ac yn un o’r pethau a sbardunodd Foderniaeth Ewropeaidd o’r 17fed ganrif. Rhaid ail osod gwyddoniaeth yn un o rannau hanfodol treftadaeth y Gymru fodern.

3. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol i wneud y Gymru fodern yn gystadleuol a chynaliadwy, yn arbennig i gwmnïau a chyrff bychan a chlyfar. Yn eu hanfod, mae dyfeisio, arloesi a newid yn hanesyddol.

4. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol yn y broses o greu polisi a gwneud penderfyniadau yn y Gymru gyfoes, sy’n llawn dogma a safbwyntiau set, yn arbennig ynglŷn â thechnoleg uwch a phynciau mawr ynni.

Mae dwsinau o feysydd polisi a channoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi mewn prosiectau lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn amlwg. Mae’r cofnod hanesyddol yn drysorfa anferth o wybodaeth a gwersi i’w dysgu, o straeon sy’n annog pwyll a rhybuddio, a’r rheiny o werth mawr i Gymru heddiw.

Mae’n galonogol deall bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi bod yn meddwl am Dreftadaeth Wyddonol Cymru, hefyd. Mae ganddi enw ardderchog o ran ymchwil, casglu ac arddangos ym maes natur a daeareg ac mae’n bwriadu gwella hynny eto.

Fodd bynnag, does fawr iawn i’w weld am weddill y byd gwyddonol. Wrth gwrs, yn ei stordai, mae yna bob math o wrthrychau sy’n perthyn i amgueddfa wyddoniaeth. Un enghraifft y gwn i amdani yw’r Stantec-Zebra. Dyma hen gyfrifiadur gwych a wnaed gan STC yn Corporation Road, Casnewydd, yn yr 1950au – gwrthrych sy’n dod â dyddiau cynnar chwyldro anferth yn fyw. Mater o frys mwy yw’r ffaith bod pob math o wrthrychau gwyddonol yn sicr o fod ar hyd a lled Cymru sy’n haeddu cael eu casglu, neu sydd â gwir angen eu hachub. Beth sydd yna? Pa straeon sydd i’w dweud amdanyn nhw? O, na fydden ni’n gwybod.

Beth sydd ei angen?

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Amgueddfa Wyddoniaeth. Y broblem yw fod anwybodaeth am hanes a threftadaeth gwyddoniaeth yng Nghymru yn eang a dwfn. Mae angen ymchwilwyr arnon ni i ddarganfod ein hanes:

  • Haneswyr sy’n gwybod am gyfnodau, llefydd, digwyddiadau, pobol, rhwydweithiau a dulliau hanesyddol.
  • Gwyddonwyr a pheirianwyr sy’n gwybod am eu pwnc, o ran damcaniaeth a gwaith ymarferol, ac sydd â diddordeb mewn hanes.
  • Gwarchodwyr a chyfeillion treftadaeth ddiwydiannol sydd â gwybodaeth gyflawn am ddatblygiadau penodol mewn lle neu amser penodol.

Mae ymchwil o’r fath yn ffynnu yn nwylo’r amatur a’r hanesydd proffesiynol. Er mwyn adeiladu treftadaeth wyddonol Cymru, rhaid i ni rannu gwybodaeth ac addysgu ein gilydd. Beth sydd ei angen i roi cychwyn ar bethau? Dylai academwyr ar draws Prifysgolion Cymru wneud hyn:

  • Sefydlu cwrs o ddarlithoedd prifysgol ar Hanes Gwyddoniaeth Cymru.
  • Cynyddu nifer y papurau a’r llyfrau dysgedig.
  • Trefnu cynadleddau a chyhoeddi’r cofnodion.
  • Sgrifennu llyfrynnau ar bynciau yn hanes gwyddoniaeth Cymru sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o ddechreuadau, hanesyddiaeth a natur gwyddoniaeth.
  • Sgrifennu llyfr poblogaidd i gyflwyno hanes gwyddoniaeth Cymru i ddangos bodolaeth y pwnc.

Dylai Amgueddfa Genedlaethol Cymru wneud hyn:

  • Eu hargyhoeddi eu hunain bod gwyddoniaeth o’u cwmpas ym mhobman yn eu casgliadau.
  • Creu rhestr o wrthrychau yng Nghymru.
  • Ail gofrestru’r gwrthrychau gwyddonol sydd ar gael mewn casgliadau.
  • Casglu’n rhyngwladol.
  • Creu rhwydweithiau lleol o bobol wybodus.
  • Dechrau casglu hanes llafar gwyddoniaeth.

Yn fyr, dylem fod yn cymhathu hanes gwyddoniaeth a’i wneud yn rhan o astudio Cymru a hanes Cymru. Dylem fod yn cysylltu pobol broffesiynol ac amaturiaid o’r cymunedau hanesyddol a gwyddonol gyda churaduron amgueddfeydd, casglwyr ac archifwyr.

Dylem nodi pen-blwyddi. Er enghraifft, mae 2010 yn 500 mlynedd ers marwolaeth Robert Recorde o Ddinbych y Pysgod a ddyfeisiodd yr arwydd hafal, =. Mae hefyd yn 200 mlynedd ers genedigaeth John Dillwyn Llewellyn, botanegydd a ffotograffydd arloesol a aned yn Abertawe.

Dylem godi cerfluniau, fel yr un a godwyd gan ynni-garwyr Woking i William Grove o Abertawe. Gallem hefyd sefydlu casgliadau lleol mewn amgueddfeydd a chreu archifau lleol o ddogfennau, gwrthrychau, cyfweliadau a hen bethau. Yn sicr, dylem godi cannoedd o blaciau glas. Mae posibiliadau mawr o ran creu gwefannau, rhaglenni dogfennol a dramâu yn syml trwy rannu’r hyn y mae’r cyfryngau eisoes wedi’i greu.

Mae bron yr holl gasgliadau mawr yn ein sefydliadau ni wedi eu seilio ar gasgliadau amatur, preifat. Un angen sylfaenol fydd osgoi parlys a melltith hypnotig toriadau mewn gwario cyhoeddus. Daw gwir gryfder amaturiaid o’r ffreshni a’r rhyddid sy’n codi o wneud rhywbeth yr ydych am ei wneud, gan wybod ei fod werth ei wneud.

Mae fersiwn gwreiddiol yr erthygl yma ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig fan hyn: http://www.clickonwales.org/2010/08/wales-needs-a-science-museum/

Cymru v Lwcsembwrg – sgorio’r chwaraewyr

Cyhoeddwyd Awst 12, 2010 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Cymru, Lwcsembwrg, Pêl-droed, Pêl-droed rhyngwladol

Craig Bellamy

Cymru v Lwcsembwrg – sgorio’r chwaraewyr

Roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus i’r Cymry ar Barc y Scarlets, ond pa berfformiadau unigol oedd yn sefyll allan? Owain Schiavone sy’n asesu safon y chwaraewyr.

Wayne Hennessey – Anlwcus gyda’r gôl yn ei erbyn wrth i’r ergyd wyro oddi ar droed un o’i amddiffynwyr. Dim problemau fel arall. 6/10

Sam Ricketts – Gêm dawel ond ddigon taclus. Prin iawn oedd ei rediadau ymosodol arferol. Tebygol o golli ei le os yw Bale yn ffit, ond handi i’w gael yn y garfan. 6

Chris Gunter – Fel Ricketts, tawel ond effeithiol. Dim problemau’n amddiffynnol a gwelwyd rhai rhediadau ymosodol ganddo tuag at ddiwedd y gêm. 6

Ashley Williams – Roedd cymysgwch rhyngddo a Morgan ar gyfer gôl yr ymwelwyr ond fel arall yn soled fel arfer ac yn dechrau sefydlu ei hun fel un o’r enwau cyntaf yn nhîm Tosh. 8

Craig Morgan – Wastad wedi bod â photensial enfawr, ac yn dechrau edrych fel amddiffynnwr rhyngwladol sy’n gallu camu i esgidiau James Collins pan nad yw ar gael. 7

Joe Ledley – Hanner cyntaf digon swta ond yn chwaraewr gwahanol gyda Vaughan wrth ei ochr yn yr ail. Gwaith da droeon rhyngddo a Bellamy. 8

David Cotterill – Ei gêm orau dros Gymru hyd yn hyn. Os all berfformio’n gyson i Abertawe eleni fe allai fod yn gaffaeliad i Gymru. 8

Brian Stock – Ei chael hi’n anodd codi i safon pêl-droed rhyngwladol. Rhai cyffyrddiadau’n awgrymu fod potensial ond angen profiad gyda chlwb ar safon uwch. Cymerodd Vaughan ei le yn y canol i newid y gêm. 5

Craig Bellamy – Seren y gêm. Hanner cyntaf rhwystredig ond yn wych yn yr ail wrth i basio Vaughan gael y gorau allan ohono ar yr asgell chwith. Roedd y newid siâp i 4-5-1 hefyd yn rhoi mwy o ryddid iddo. 9

Steve Morison – Fe weithiodd yr ymosodwr mawr yn galed yn ei gêm ryngwladol gyntaf gan roi llwyfan da i’r ymosod. Anodd credu ei fod yn chwarae i Stevenage Borough ychydig dros flwyddyn yn ôl! Rhywbeth i’w gynnig i Gymru yn y gemau rhagbrofol. 7

Robert Earnshaw – Digon bywiog yn ei hanner canfed gêm i Gymru, ac roedd ei groesiad yn berffaith i’r gôl gyntaf. Anlwcus i gael ei eilyddio ar yr hanner, ond yn angenrheidiol i newid siâp y tîm.  

Eilyddion:

Boaz Myhill (am Hennessey 46’)– Ychydig iawn o waith i’w wneud wrth i Gymru reoli’r ail hanner. 6

David Vaughan (am Earnshaw 46’) – Y Sbarc a drawsnewidiodd y gêm yn yr ail hanner. Dim byd ffansi, dim ond chwarae taclus, awydd i gael y bêl a phasio cywrain. Gwthio Bellamy’n agos fel seren y gêm. 9

Andy King (am Stock 46’) – 45 munud da ac enw i’r dyfodol. Rhediad a pheniad da ar gyfer ei gôl. 7

Neal Eardley (am Williams 85’) – Dim digon o funudau ar y cae i allu barnu ei berfformiad.