Cynyddu maint testun

Golwg360

Etholiad Cyffredinol ym mis Mai?

Cyhoeddwyd Ionawr 12, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: david cameron, Gwleidyddiaeth

Mae’n mynd i fod yn gyfnod diddorol i’r anoracs gwleidyddol yng Nghymru. Dau reffrendwm ac etholiad o fewn deufis. R’yn ni’n cael ein sbwylio yn wir.

Yn anffodus does gan sylwebwyr Lloegr ddim yr un wledd i edrych ymlaen ato, dim ond asgwrn anemig y refferendwm ar newid y sustem bleidleisio, a falle mai dyna pam eu bod nhw’n gwyntyllu sïon bod y Prif Weinidog, David Cameron, yn mynd i alw Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Dyma’r sail resymegol y tu ôl i hyn:

  • Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bartneriaid annibynadwy yn y glymblaid. Dyw nifer o’u ASau eu hunain ddim yn hapus gyda chyfeiriad y glymblaid, ac mae eu cefnogaeth wedi cwympo’n sylweddol. Pe baen nhw’n colli’r refferendwm ar newid y system bleidleisio fe allai’r glymblaid chwalu, gan adael Cameron yn arwain llywodraeth leiafrifol ansefydlog. Drwy alw etholiad fe allai Cameron droi  amhoblogrwydd y Dems Rhydd yn fantais, dwyn sawl un o’u seddi nhw, a sicrhau mwyafrif.
  • Fe fydd y toriadau yn dechrau brathu dros y misoedd nesaf ac fe fydd yr adferiad yn un araf. Fe fyddai’n well galw etholiad cyn bod poblogrwydd y Ceidwadwyr yn disgyn i’r un lefel a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
  • Mae’r Blaid Lafur yn dechrau magu stêm yn y polau piniwn, ond dyw Ed Miliband heb ennill ei blwyf eto.

Ffynhonell y sïon yw’r blog yma a’r darn barn yma yn y Telegraph. Mae’n werth cymryd y darn papur newydd gyda pinshad o halen – bydd unrhyw un sy’n darllen y Telegraph yn ddyddiol yn gwbod nad ydyn nhw wrth eu bodd â’r glymblaid.

Pe bai’r sïon yn wir fe fyddai’n amlwg yn cael tipyn o effaith ar Gymru. Mae’n siŵr y bydden nhw’n penderfynu cynnal etholiad y cynulliad a’r Etholiad Cyffredinol yr un diwrnod, ac fe fyddai’r cyd-destun Prydeinig yn drychineb i Blaid Cymru.

Gwledd hyd yn oed yn fwy i anoracs gwleidyddol Cymru felly. Gormod o wledd o bosib… fe fydd gan bawb llosg gylla gwleidyddol erbyn yr haf…

Pam fod y Ceidwadwyr yn cefnogi’r Gweriniaethwyr?

Cyhoeddwyd Tachwedd 3, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 3 Sylw.

Tagiau: Barack Obama, david cameron

Roedd hi’n hawdd rhagweld beth fyddai ymateb y papurau newydd bore ma i etholiadau ‘mid-term’ yr Unol Daleithiau. Y Guardian yn gresynu bod Obama wedi cael crasfa, a sylwebwyr y Telegraph yn llawn gobaith am y dyfodol ar ôl i’r Gweriniaethwyr gipio Tŷ’r Cynrychiolwyr a dod yn agos at gipio’r Senedd.

Rydw i’n deall bod yna gysylltiad hanesyddol rhwng Ceidwadwyr y wlad hon a’r Gweriniaethwyr, tra bod y Blaid Lafur a’r Democratiaid yn agos (er bod Blair a Bush wedi herio’r ddamcaniaeth yna). Ond dw i ddim cweit yn deall pam bod yr agosatrwydd hwnnw’r parhau. Ers misoedd mae’r Telegraph wedi bod yn colbio Obama a’n canmol y Gweriniaethwyr, a’r Guardian yn dal i drin Obama fel y Meseia.

Ond mewn gwirionedd, mae’r Gweriniaethwyr, a hyd yn oed y Democratiaid, i’r dde o’r blaid Geidwadol fodern. Pe bai Obama yn ceisio gwneud gyrfa yn y wlad yma, fe fyddai’n siŵr o fod yn Dori. Fyddai gan David Cameron lai o siawns na Christine ‘y wrach’ O’donnell o gael ei ethol i Senedd yr Unol Daleithiau.

Sut all plaid sy’n osgoi unrhyw doriadau i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd yn y wlad yma gefnogi plaid sydd eisiau diddymu deddf iechyd Obama yn yr Unol Daleithiau? Sut all plaid sy’n cefnogi torri’r diffyg ariannol yn y wlad yma mor gyflym â phosib gefnogi plaid sydd heb unrhyw fath o gynllun i wneud hynny yn yr Unol Daleithiau? Mae’n hurt.

Cysylltiadau hanesyddol yn unig sydd rhwng y pleidiau.  Dylai’r Telegraph gefnogi Obama, a’r Guardian gefnogi, dwn i ddim, rhain?

Cweir Obama – rhybudd i Cameron

Cyhoeddwyd Tachwedd 1, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Barack Obama, david cameron, Gwleidyddiaeth

Fe fydd etholiadau ‘mid-term’ yr Unol Daleithiau yn cael eu cynnal yfory ac mae disgwyl i’r canlyniadau fod yn rhai gwael i’r Arlywydd Barack Obama a’i blaid y Democratiaid.

Yn ôl pôl piniwn gan Gallup heddiw mae 55% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio o blaid y Gweriniaethwyr, y nifer mwyaf ers 1974.

Er gwaethaf ambell lwyddiant gan Barack Obama, fel diwygio sustem gofal iechyd y wlad, dyw’r rhan fwyaf o bobol yno yn amlwg ddim teimlo ei fod o wedi gwireddu’i addewid cynnar.

Mae ei amhoblogrwydd wedi’i wreiddio yn yr argyfwng economaidd. Mae 9.2% o weithlu’r Unol Daleithiau yn ddi-waith, a does dim awgrym y bydd pethau’n gwella’n fuan.

Dan y fath amgylchiadau, mae hyd yn oed llwyddiannau Barack Obama, fel y diwygiad gofal iechyd, yn cael eu gweld yn rhy ddrud a’n cael eu beio am dynnu sylw’r weinyddiaeth oddi ar yr economi.

Yn ystod ras arlywyddol 1992 dywedodd Bill Clinton y byddai’n “canolbwyntio fel laser” ar broblemau ariannol y wlad. Mae’n amlwg nad ydi Barack Obama wedi gwneud hynny a nawr mae’n talu’r pris.

Yr un peryg

Ar yr olwg gyntaf mae clymblaid David Cameron wedi osgoi disgyn i’r un twll a Barack Obama – dydan ni heb glywed unrhyw beth heblaw am yr economi yn dod o’u cegau nhw ers yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Ond maen nhw yn rhannu un gwendid â Barack Obama, sef y tueddiad i feio’r llywodraeth flaenorol am y methiant economaidd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bod yn ddigon parod i atgoffa pawb mai llanast George Bush yw hon – wedi’r cwbl, fe oedd yn arlywydd ar ddechrau yr argyfwng yn 2008, cyn i Obama  gael ei ethol hyd yn oed.

Fel Barack Obama mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd pob cyfle i’n hatgoffa ni mai llanast y Blaid Lafur yw hwn.

Ond dw i’n amau a fydd y strategaeth yna’n gweithio yn y tymor hir. Fel George Bush mae’r llywodraeth Lafur blaenorol wedi mynd, ac mae ganddyn nhw arweinydd newydd sy’n cael llai o’r bai am y chwalfa.

Yn ôl pôl piniwn gan YouGov ar ran Prifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth heddiw dim ond 32% o bobol Cymru yn beio’r Blaid Lafur am y toriadau ariannol, tra bod 34% sy’n beio’r glymblaid yn San Steffan.

Bydd etholiadau i’r Cynulliad, Senedd yr Alban, a chynghorau Lloegr, y flwyddyn nesaf yn rhy gynnar i gael eu galw’n ‘mid-terms’.

Ond os ydi pethau’n mynd o chwith cyn hynny, does fiw iddyn nhw alw ar bobol i feio’r criw ddaeth cynt – nhw fydd yn cael eu cosbi.

Hea! Hea!

Cyhoeddwyd Hydref 27, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: cynulliad, david cameron, Ed Vaizey, Guto Bebb, San Steffan

Peth hyll yw cenfigen. Ond rhaid cyfadde mod i braidd yn genfigennus o ohebwyr gwleidyddol San Steffan weithiau. Gyda’r adolygiad o wariant cyhoeddus, holl strach S4C annatganoledig a’r ffaith ei bod hi’n hanner tymor yn y Cynulliad yr wythnos hon, rwy wedi bod yn troi fy ngolygon at drafodaethau San Steffan yn amlach nag arfer yn ddiweddar. Un o’r dadleuon i fi wylio o Westminster Hall oedd hon  ar S4C wedi ei threfnu gan Guto Bebb (Neu Gwto Bib fel y cyfeirir ato yn y clip). Mae’r ffordd mae Ed Vaizey, yr is-Ysgrifenydd Diwylliant yn mynegi ei hun yn herfeiddiol, a’i Saesneg mor goeth ac er cywilydd i fi rwy wrth fy modd yn clywed y crochlefain “hea hea” (sy fod yn “hear hear” ond rhyw uban y gair maen nhw ac mae’n sbort i’w glywed). Heddiw wedyn roedd cwestiynau’r Prif Weinidog. Waw. Mae David Cameron yn ddadleuwr heb ei ail. Beth bynnag ydych chi’n meddwl am y dyn, does dim gwadu ei ddawn i siarad yn gyhoeddus. Dyma’r sesiwn gyntaf o’i holi ers yr arolwg gwariant cyhoeddus ac roedd y siambr yn llawn i’r ymylon, gyda mwy na digon o hefru a “hea hea” yn digwydd i achosi i Mr Speaker i godi ar ei draed i’w tawelu nhw fwy nag unwaith. Mae’n debyg eu bod nhw’n bihafio ychydig fel plant ysgol sydd ddim yn cael eu ffordd eu hunain yn eu cecru a’u gweiddu a dyna pam mae’r Llywydd fan hyn yn roi taw ar unrhyw fath o heclo a chwyno mewn islais yn siambr y Cynulliad.

Peth arall sy’n brin yma yw’r areithio huawdl a’r iaith goeth. Heb orfod brwydro i ddweud eu dweud, dyw’n gwleidyddion ni ddim yn cael yr hyfforddiant i orfod bod yn huawdl, i orfod mynegi eu hunain mewn ffordd ddiddorol sy’n dal sylw’r siambr. Ac maen nhw byth a hefyd yn syllu ar eu cyfrifiaduron, yn trydar neu’n blogio neu’n pwy a wyr beth arall, felly’n llawer rhy brysur i dalu sylw i’r ddadl yn y siambr. Gallen nhw fod yn areithwyr gwell, heb fod yn heclwyr ond dyna ni, i wasanaethu pobol Cymru maen nhw yma, nid i fy nifyrru i!

Hwyl fawr Gordon Brown … a pholisi

Ifan Morgan Jones sy’n dweud bod dyddiau’r Prif Weinidog ar ben…

Y ‘Ddadl Economaidd’ oedd yr enw di-fflach braidd ar y drydedd ddadl rhwng arweinydd y prif bleidiau neithiwr. Efallai y byddai ‘Senedd Grog ta senedd Groeg?’ wedi bod yn well, gan mai dyna’r ddau beth oedd pob un o’r pleidiau yn ceisio ei osgoi.

Roedd hi hefyd yn gyfle i ddweud ‘hwyl fawr’ wrth Gordon Brown. Mae’r polau piniwn yn dangos ei fod o wedi methu â newid barn y cyhoedd yn y ddadl, wythnos cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Os na fydd Llafur yn ennill mwyafrif clir, mae’n ymddangos bron yn amhosib y bydd o’n Brif Weinidog mewn wythnos, gan gofio bod Nick Clegg eisoes wedi dweud na fyddai’n fodlon i’r Democratiaid Rhyddfrydol glymbleidio gyda Llafur dan Brown.

Gyda datganiad olaf y ddadl roedd hi fel petai Gordon Brown ei hun yn cydnabod hynny. “Fel y mae pethau nawr, ymhen wyth niwrnod fe allai David Cameron, efallai gyda chefnogaeth Nick Clegg, fod mewn pŵer,” meddai.

Rhybudd oedd o wrth gwrs, ond efallai hefyd ei fod yn gyfaddefiad gan un o ddynion mwyaf stwbwrn gwleidyddiaeth Prydain fod y gêm ar ben.

Er gwaethaf neb a dim

Mae Gordon Brown wedi dweud erioed ei fod o’n benderfynol o lwyddo er gwaethaf pawb a phopeth.

Ers colli ei olwg yn un llygad a 70% o’i olwg yn y llall yn 16 oed mae o wedi brwydro ymlaen yn erbyn y ffactorau. Ond beth sydd wedi ei ddal o yn y pen draw ydi bod gwleidyddiaeth wedi newid – personoliaeth nid polisïau sy’n bwysig erbyn hyn.

Dw i ddim yn credu fod dadleuon arweinwyr y prif bleidiau wedi troi’r ymgyrch etholiadol yn rhyw fath o X Factor gwleidyddol.

Mae pleidiau gwleidyddol yn ymosod ar bolisïau ei gilydd yn gyson drwy gydol yr ymgyrch ar ffurf datganiadau i’r wasg ond dim ond mymryn o hynny sy’n diferu i lawr at y cyhoedd. Roedd y dadleuon yn gyfle i weld arweinwyr y pleidiau yn dadlau go iawn ynglŷn a polisiau pa blaid oedd y gorau.

Nid y dadleuon oedd y broblem, o reidrwydd, ond sut y mae’r cyhoedd wedi ymateb iddyn nhw. Er mai Gordon Brown a aeth i fwyaf o ddyfnder wrth drafod yn benodol beth yw polisiau ei blaid ym mhob un o’r dadleuon, mae o wedi dod yn drydydd pell ym mhob un.

Yn y cyfamser, mae David Cameron a Nick Clegg wedi ennill dadl yr un a rhannu’r ail drwy gyffredinoli ac osgoi ateb y cwestiynau anodd. Gofynnodd Gordon Brown i David Cameron gyfiawnhau torri’r dreth etifeddu sawl gwaith neithiwr ond fe wnaeth y Ceidwadwr ei anwybyddu bob tro. Yn ôl y polau piniwn Cameron a ‘enillodd’ y ddadl.

Dyw hyn ddim wrth gwrs yn golygu y byddai Nick Clegg nag David Cameron yn waeth Prif Weinidog na Gordon Brown, na bod eu polisiau yn waeth na rhai Llafur. Ond does fiw i’r cyhoedd gwyno mai bai’r cyfryngau yw hi am roi blaenoriaeth i bersonoliaeth yn hytrach na pholisi. Y cyhoedd sy’n gwobrwyo personoliaeth yn hytrach na thrafodaeth gall ynglŷn â pholisi.

Y mwyd(r)yn

Wrth wylio’r ‘mwydyn’ ar wefan y BBC oedd yn dangos ymateb y cyhoedd i beth oedd pob un o’r arweinwyr yn ei ddweud, roedd hi’n amlwg nad oedd pwynt i Gordon Brown ddadlau ei achos.

Roedd y ‘mwydyn’ yn troi am i lawr cyn iddo ddechrau siarad bron, ac yn troi am i fyny cyn i Cameron a Clegg agor eu cegau. Faint bynnag y mae pobol yn cwyno am wleidyddion slic a PR, mae’n amlwg mai dyna y maen nhw ei eisiau yn y bôn.

A dyw canolbarth Lloegr erioed wedi cymryd at Brown, o bosib am ei fod o’n Sgotyn. Dyna un ‘bigotgate’ nad ydi’r cyfryngau’n fodlon trafod.

Ond dyna ni. Efallai mai y tu ôl i ddrws Rhif 11 Stryd Downing yr oedd lle Gordon Brown erioed. Mewn oes AB (ar ôl Blair) fydd gan Brif Weinidog sy’n rhoi polisi o flaen personoliaeth fyth obaith eto.

Ydi ymgyrch Etholiad 2010 ar ben? Dim cweit

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r cyfan wedi dechrau mynd i ben Nick Clegg…

Ydi’r ymgyrch etholiadol ar ben yn barod? Nid mewn seddi agos fel Ceredigion – dim ond dechrau taflu baw y maen nhw yno.

Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, ar lefel Brydeinig mae fel pe bai arweinwyr y pleidiau a’r cyfryngau eisoes wedi symud ymlaen at y cam nesaf.

Gyda senedd grog bron yn sicr mae’r drafodaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd wedyn wedi dechrau o flaen llaw.

Efallai mai bai’r cyfryngau diamynedd yw hynny ac mai dim ond ateb cwestiynau y mae arweinwyr y pleidiau. Mae hon yn ymgyrch etholiadol fyr, felly pwy a ŵyr pa mor ddiamynedd fyddai’r cyfryngau torfol 24 awr, pe bai hi’n ymgyrch hir!

Ond does dim rhaid i arweinwyr y pleidiau drafod posibilrwydd senedd grog mor agored, a bwydo’r tân, chwaith.

Chwarae teg, mae David Cameron a Gordon Brown wedi osgoi’r mater hyd yma. Ond bron bob dydd rydan ni’n cael awgrym gan Nick Clegg ei fod o’n pwyso i’r naill ffordd neu’r llall.

I ddechrau, roedd o’n awgrymu bod cadw hen lywodraeth y Blaid Lafur mewn grym yn wrthun iddo, gan awgrymu y byddai’n well ganddo glymbleidio gyda’r Ceidwadwyr.

Yna fe awgrymodd o y byddai’n fodlon clymbleidio gyda Llafur, ar yr amod nad yw Gordon Brown yn arweinydd. Heddiw mae o’n wfftio’r ddau ac yn dweud ei fod o eisiau bod yn Brif Weinidog. Mae o fel ceiliog y gwynt.

Mynd i’w ben?

Dw i ddim yn siŵr pam fod Clegg mor barod i drafod beth y byddai’n ei wneud ar ôl senedd grog.

Yn gyntaf, mae angen iddo wylio nad yw’r cyhoedd yn teimlo fod y cyfan wedi mynd i’w ben, a’i fod yn cymryd ei gefnogaeth newydd yn ganiataol.

Dydi o ddim yn debygol o fod yn Brif Weinidog, o leiaf – dan y sustem bleidleisio bresennol fe fydd yn drydydd o ran seddi y tu ôl i Llafur a’r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad, hyd yn oed os ydi o’n ennill mwy o bleidleisiau.

Ond dydi o ddim yn sicr chwaith y bydd ei blaid o eisiau clymbleidio gydag un o’r lleill, nac y bydd y pleidiau eraill eisiau clymbleidio gyda fo.

Dewis

Os bydd clymbleidio bydd rhaid iddo ddewis rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr a bydd un dewis neu’r llall yn amhoblogaidd mewn plaid gydag elfennau adain chwith ac adain dde – plaid nad oedd erioed wedi disgwyl bod mewn pŵer, ac sy’n diffinio ei hun yn bennaf fel ‘nid Llafur’ ac ‘nid Ceidwadwyr’.

Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â beth yn union fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn amdano mewn clymblaid, tu hwnt i gynrychiolaeth gyfrannol. Fydden nhw’n gallu cytuno ymysg ei gilydd ar y manylion eraill?

Ac mae’n bosib bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gofyn gormod – ydi mae’r sustem bresennol yn annheg, ond mae’n gweithio er budd Llafur a’r Ceidwadwyr, felly pam fydden nhw’n barod i’w newid?

Yr unig ddewis arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol, heblaw am benderfynu cefnogi Llafur neu’r Ceidwadwyr, ydi gwrthod ffurfio clymblaid o gwbwl. Ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dal i ddioddef o honiadau eu bod nhw’n llwfr ar ol iddyn nhw wrthod clymbleidio yn dilyn etholiad Cynulliad 2007.

Posibilrwydd arall

Yn ôl papur y Financial Times heddiw, mae arweinwyr y Torïaid yn ystyried trafod gyda Phlaid Cymru, yr SNP a phleidiau unolaethol Gogledd Iwerddon – os na fyddan nhw’n cael mwyafrif clir. Mantais clymblaid o’r fath ydi bod gan y pleidiau hynny restrau parod o ofynion i’w gwireddu.

Byddai’r Toriaid yn gallu ticio llond dwrn o focsys a sicrhau fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i gynnal llywodraeth. Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn mwy ac yn bartner llawer mwy ansefydlog.

Mater arall, wrth gwrs, fyddai i Blaid Cymru gytuno i gefnogi Ceidwadwyr Llundain – o gofio’u henw a’u cynlluniau gwario cyhoeddus.

Dyna pam nad ydi’r Etholiad Cyffredinol cweit ar ben eto. Fe allai llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y pleidiau bach wneud gwahaniaeth mawr. Fe allai seddi tynn fel Ceredigion benderfynu ar siâp y llywodraeth nesaf – a ydi’r Ceidwadwyr yn gallu clymbleidio gyda phleidiau bach fel Plaid Cymru, ynteu a fydd rhaid ceisio dd i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mw mw, me me, cwac cwac

Dylan Iorwerth yn trafod peryglon y dadleuon teledu mawr…

Wrth i bawb groesawu’r cyffro newydd a ddaeth i ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, mae yna gwestiynau mawr yn codi hefyd tros y dadleuon teledu.

Yn ogystal ag agor y ras i drydydd ceffyl, mae wedi ein gwthio ni gam anferth arall tuag at steil arlywyddol o wleidyddiaeth, lle mae personoliaeth yn bwysicach na dim.

Ac, yn hytrach na’n helpu i ddod i adnabod yr arweinwyr yn well, mae’r dadleuon yn rhoi mwy fyth o rym yn nwylo’r troellwyr a’r arbenigwyr cyflwyno.

Dyma rai o’r pryderon sy’n codi:

  • Pan fydd un o’r pleidiau mawr yn dewis ei harweinydd nesa’, un o’r prif ystyriaethau fydd eu gallu i edrych yn dda ac actio’n ddeheuig yn y ddadl deledu.
  • Yn hytrach na dod i wybod rhagor am bolisïau’r pleidiau, yr unig beth sy’n dod i’r amlwg ydi gallu’r arweinwyr i drin y cyfryngau a pharatoi ymlaen llaw. Nid trefn dair plaid sydd gynnon ni bellach ond trefn tri arweinydd.
  • O ganlyniad i’r dadleuon, mae llai a llai o sylw wedi bod ar wleidyddion eraill. Mae’r gweddill yn anweledig – os bydd angen arweinydd newydd yn y dyfodol, fydd gan neb syniad pwy ’di pwy. Mae hyd yn oed Gobaith Mawr Economaidd y Ganrif, Vince Cable, wedi ei wthio o’r neilltu.
  • Tra bo’r tri arweinydd yn ddynion, mae’n waeth byth ar wleidyddion benywaidd. Mae’n ffaith bod gwragedd y tri arweinydd wedi cael mwy o sylw na merched fel Harriet Harman a Theresa May, sydd i fod yn ddylanwadol.
  • Yng Nghymru, mae’n gwaethygu’r diffyg balans o ran sylw – enghraifft arall o’r ffaith nad yw’r system wleidyddol gyfan wedi ei haddasu i ofynion datganoli. Dadleuon Lloegr yw’r rhain, yn union fel y mae Tŷ’r Cyffredin yn troi yn Senedd i Loegr.
  • Pwy bynnag sy’n ennill, mi fydd ei rym o fewn y Llywodraeth yn ddychrynllyd. Mae’r syniad o lywodraeth trwy Gabinet eisoes wedi ei lastwreiddio’n ofnadwy. Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yma, fydd y gweinidogion eraill fawr gwell na chlwb cefnogwyr.

Gwneud pethau’n waeth fyddai syniad y Ceidwadwyr i newid y drefn os bydd plaid y Llywodraeth yn newid ei harweinydd. Yn ôl eu hawgrym nhw, byddai angen cynnal Etholiad Cyffredinol newydd o fewn chwe mis.

Mae’r peth yn nonsens – o ran gwleidyddiaeth a chyfansoddiad. Mae’n cryfhau’r syniad mai pleidleisio i berson yr yden ni, nid i blaid.

Fel arfer, rhaid i ni’r etholwyr, y cyfryngau a’r gwleidyddion rannu’r bai. Ryden ni a nhw mor barod â’n gilydd i bwysleisio personoliaethau – a rhoi’r bai ar un o’r lleill.

Cameron yn methu cyfle i roi cweir i Clegg

Ifan Morgan Jones yn pwyso a mesur perfformiad y tri arweinydd neithiwr…

Mae’r polau piniwn yn dangos anghytundeb barn ynglŷn â phwy enillodd yr ail ddadl neithiwr. Mae dau bôl biniwn wedi dweud mai Nick Clegg oedd orau, tra bod dau arall wedi rhoi David Cameron ar y blaen, gyda Gordon Brown yn drydydd agos.

Roedd agosatrwydd y tri yn ddealladwy o ystyried bod pob un wedi gwneud yn dda neithiwr – Clegg cystal â’r wythnos ddiwethaf ond Cameron a Brown yn llawer gwell.

Yn anffodus i Cameron doedd gwneud yn llawer gwell ddim digon da – roedd angen rhoi cweir iawn i Nick Clegg gan sicrhau ei fod yn cwympo cymaint yn y polau piniwn yr wythnos yma ag yr oedd wedi codi  yr wythnos diwethaf.

Roedd nifer o sylwebwyr wedi cymharu’r ddadl gyda gornest focsio – efallai bod Cameron wedi ennill yr ail rownd ar bwyntiau, ond roedd angen iddo roi’r ergyd derfynol i Clegg.

Mwy bywiog

Fel arall, roedd hi’n ddadl llawer mwy bywiog a slic na’r wythnos ddiwethaf, gyda’r arweinwyr yn torchi llewys ac yn barod i daro yn hytrach na chymryd cam yn ôl.

Nid dadleuon am arlywyddiaeth gwlad yw’r rhain wedi’r cwbl – un o ofynion pennaf bod yn Brif Weinidog ydi’r gallu i ennill dadl danllyd yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mercher.

Roedd hi’n amlwg bod yr arweinwyr wedi paratoi llai o linellau a straeon o flaen llaw – strategaeth a fethodd i Brown a Cameron yr wythnos ddiwethaf – ac felly roedden nhw’n dadlau’n agored yn hytrach na darllen nodiadau.

Ond, yn eironig, un o jôcs parod Gordon Brown, fod y ddau arall fel ei blant yn ffraeo amser bath, a ddenodd yr ymateb gorau gan y gynulleidfa.

Dim ond Nick Clegg a fentrodd ddweud stori – ei fod wedi cyfarfod cwpwl oedrannus oedd yn mynd am daith ar y bws am nad oedden nhw’n gallu fforddio cynhesu eu tŷ.

Y cwestiwn annisgwyl

Dim ond un cwestiwn, am ymweliad y Pab i Brydain yn dilyn y cyhuddiadau o gam drin plant, wnaeth ysgwyd y tri ryw fymryn. Roedd hi’n amlwg nag oedden nhw wedi disgwyl honna ac roedd rhaid iddyn nhw feddwl yn gyflym, ond daeth pob un drwyddi heb unrhyw gamgymeriad mawr.

Ateb Nick Clegg, nad oedd o’n “ddyn o ffydd”, oedd fwyaf diddorol – pe bai fyth yn dod yn Brif Weinidog, ai ef fyddai’r anffyddiwr cynta’ i fod yn y swydd?

Wnaeth Nick Clegg ddim digon o ddefnydd o’i arf cryfaf, sef mai ei blaid o oedd yr unig un i wrthwynebu rhyfel Irac.. Ac fe gollodd y ddadl ar rai materion eraill, fel cael gwared ar Trident,  a hynny’n syml oherwydd bod y ddau arall wedi mynd penderfynu mynd amdano ar y pwnc hwnnw.

Dyna’r unig bryd y dywedodd David Cameron “rydw i’n cytuno gyda Gordon” gan awgrymu ei fod yn ystyried mai Nick Clegg yw ei elyn pennaf erbyn hyn.

Fe wnaeth Nick Clegg siarad gystal â’r wythnos ddiwethaf ond roedd yn sownd yn y canol, yn llythrennol, ar sawl mater o bwys ac roedd y ddau arall yn fwy parod i’w herio y tro yma.

Yr effaith

Mae’n anodd dweud pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y polau piniwn. Fyddwn i’n disgwyl i gefnogaeth David Cameron gynyddu rhywfaint ond dim digon i ennill mwyafrif.

Efallai y bydd y gefnogaeth i Nick Clegg yn disgyn ychydig bach wrth i Cleggmania redeg allan o stêm, ond fe fydd o’n parhau’n ail cyffyrddus, gyda Llafur a  Brown yn drydydd.

Felly dyw’r ddadl ddim wedi newid y peth pwysig, sef ein bod ni’n anelu at Senedd Grog. Mae’n ymddangos yn debygol mai ar ôl Mai 6 y bydd y llywodraeth nesa’n cael ei phenderfynu, mewn trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig, yn hytrach nag yn y blychau pleidleisio.

Y Ceidwadwyr yn ystyried ymgyrch negyddol

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn beth fydd tactegau’r Ceidwadwyr dros yr wythnosau nesaf…

Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud smonach o bethau, ac os nad ydi Nick Clegg yn gwneud yn ddigon gwael yn yr ail ddadl nos Fawrth i chwalu ei gefnogaeth yn llwyr, mae eu gobeithion o sicrhau mwyafrif yn San Steffan yn diflannu’n gyflym.

Roedd angen beth bynnag 10% o symudiad yn y  bleidlais i gyfeiriad y Ceidwadwyr iddyn nhw fwynhau mwyafrif yn y lle cyntaf, ac roedd yna gwestiynau a fydde nhw’n llwyddo yn hynny o beth hyd yn oed gydag amhoblogrwydd Gordon Brown.

Ond erbyn hyn senedd grog, gyda chlymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol,  sy’n edrych yn fwyaf tebygol. Fe allai hynny arwain at gynrychiolaeth gyfrannol yn San Steffan, un o brif bolisïau’r Dems Rhydd, a allai rwystro’r  Ceidwadwyr rhag ffurfio llywodraeth byth eto.

Mae’r Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio â rhedeg ymgyrch negyddol hyd yma ac mae hynny i’w glodfori. Penderfynodd David Cameron ganolbwyntio ar y cadarnhaol unwaith eto ddechrau’r wythnos hon – ond fe allai hynny fynd yn ei erbyn o.

O’r dechrau fe allai’r Ceidwadwyr fod wedi canolbwyntio ar Gordon Brown a phardduo ei enw. Ond fe benderfynodd David Cameron geisio gwerthu ei syniad o am ddyfodol Prydain, y ‘Gymdeithas Fawr’, yn lle.

Y broblem yw bod Nick Clegg wedi dwyn apêl David Cameron oddi arno. Mae’n edrych yn ifancach (er mai dim ond blwyddyn sydd rhyngddyn nhw), mae o’n posh (ond ddim cweit mor posh), mae’n addo newid a gobaith newydd. Nid newid llywodraeth yn unig, ond newid cyfan gwbl o’r sustem wleidyddol llwgr ddwy blaid sydd wedi teyrnasu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw David Cameron ddim yn gwybod lle i droi.

Os nad yw’r polau piniwn yn gwella, ac os nad yw Nick Clegg yn llithro ar groen banana mawr melyn (onid dyna ydi symbol y blaid?), bydd angen newid cyfeiriad ar y Ceidwadwyr. Fe allai David Cameron bwysleisio ei neges gadarnhaol a gobeithio bydd yr haul yn tywynnu drwy’r cymylau llwch. Neu fe allai benderfynu mai dyma’r amser i newid cyfeiriad a mynd am ymgyrch negyddol: ‘Pleidleisiwch am Nick Clegg ac fe gewch chi Gordon Brown am bum mlynedd arall’.

Mae’n sefyll ar groesffordd ar hyn o bryd a bydd angen penderfyniad yn fuan. Os ydi Nick Clegg yn mynd a hi yn yr ail ddadl, fe allai fod yn rhy hwyr.

Y ddadl fawr – be nesa?

Dylan Iorwerth yn ystyried oblygiadau’r ‘fuddugoliaeth fawr’ i Nick Clegg…

Cwpwl o oriau gymerodd hi i’r Ceidwadwyr ddechrau ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol – arwydd mai eu harweinydd nhw, Nick Clegg, oedd wedi ennill y ddadl deledu rhwng yr arweinwyr.

Cymharol dawel oedd y Blaid Lafur a’u Svengali etholiadol, Peter Mandelson, hyd yn oed yn canmol ychydig ar yr ‘arwr’ newydd.

Roedd yna reswm da tros agweddau gwahanol y ddwy blaid.

Hyd yn oed os na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dod yn agos at fod yn brif blaid, hyd yn oed os na fyddan nhw’n ennill llawer rhagor o seddi, fe allan nhw chwalu gobeithion y Ceidwadwyr a David Cameron.

Mewn ambell ran o dde Lloegr, mae yna gystadlaethau agos rhwng y ddwy blaid – yn y math o seddi y mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr eu cipio er mwyn ennill grym.

Mewn seddi ymylol mewn ardaloedd eraill, fe allai cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn ddigon i atal y Ceidwadwyr rhag curo Llafur.

Siwtio Llafur

Ar hyn o bryd, felly, mae’n siwtio Llafur bod y Democratiaid yn gwneud yn eitha’ ac roedd hi’n amlwg neithiwr hefyd bod Gordon Brown a Llafur yn ffansïo’u gobeithion o daro bargen gyda Clegg wedi’r etholiad.

Os bydd y Democratiaid yn dal i ennill tir, mi fydd Llafur hefyd yn newid eu tiwn. O dan Blair, roedd hi’n amlwg bod y bleidlais dactegol wrth-Dorïaidd wedi bod yn mynd i Lafur.

Os bydd pleidleiswyr amhendant yn dechrau cymryd y Democratiaid Rhyddfrydol o ddifri, fe allai hynny newid ac wedyn mi fyddai Llafur hefyd o dan fygythiad o golli seddi i’r Dems neu o adael y Ceidwadwyr i mewn.

Er nad oedd Cymru’n rhan o’r ddadl neithiwr, mi allai llwyddiant Clegg gael effaith yma hefyd – mi allai fod yn ddigon i achub eu crwyn yn nhair sedd y Canolbarth, lle mae eu mwyafrifoedd yn gymharol fregus.

Mynd amdano

Felly, mi fydd y Ceidwadwyr – a’u cefnogwyr yn Fleet Street – yn mynd am Clegg gydag arddeliad tros yr wythnos nesa’. Yn enwedig tros ei agwedd at Ewrop a mewnfudwyr. Mi all ddisgwyl y bydd y pleidiau eraill a’r papurau’n chwilio’i bac personol hefyd.

Os bydd yn parhau’n gry’ erbyn nos Iau nesa’, gallwch ddisgwyl y bydd Cameron yn troi’r tu min tuag ato a Brown yn ceisio bod yn ffrind.

Os bydd yn parhau i ennill tir wedyn, mi gaiff ei daro o’r ddwy ochr.