Cynyddu maint testun

Golwg360

"Amharch"

Mae Llywodraeth Cymru’n tampan. Heddiw, roedd Edwina Hart yn cyhoeddi’i bwriad i ofyn am fwy o bwerau fel y gall y Cynulliad ddeddfu ym maes dyroddi organau. Roedd hi wedi paratoi ei haraith, ac ar fin ei thraddodi yn y Siambr pan ddaeth e-bost gan Swyddfa Cymru fod Cwnsler Cyffredinol San Steffan yn dweud nad yw e o’r farn bod dyroddi organau’n syrthio o fewn i atodiad 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru -ac felly all y Cynulliad ddim gofyn am yr hawl i ddeddfu yn y maes.

Mae’r Llywodraeth yn dweud bod ei cyngor cyfreithiol nhw’n hollol gadarn, neu fydden nhw ddim wedi dechrau’r broses o ofyn am yr hawl i ddeddfu. Maen nhw’n mynnu y gallan nhw ofyn am bwerau i ddeddfu yn  y maes yma. Fe gyfeirion nhw’r mater i Lywodraeth San Steffan nôl ym mis Tachwedd ond gan nad oedden nhw wedi ymateb a bod yr amser cyn diwedd y Cynulliad hwn yn dynn, fe ddechreuon nhw’r broses yr wythnos hon heb ymateb San Steffan.

Daeth yr ebost gan Swyddfa Cymru am 2.16 mae’n debyg. Oni bai bod cwestiynau busnes wedi mynd ymlaen yn hirrach nag y dylai, byddai wedi cyrraedd tra bod y Gweinidog ar ei thraed. Roedd aelodau’n grac yn y siambr ac mae’r Llywodraeth yn wyllt gacwn. “Agenda o Amharch” yw hyn yn ôl un ffynhonnell.

Daeth cadarnhad gan Cheryl Gillan o’i bwriad i gyfarwyddo Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i ddechrau’r broses graffu ar y Gorchymyn Dyroddi Organau yn gynharach yr wythnos hon ond mae Swyddfa Cymru eto i ymateb ar y sefyllfa bresennol. Rwy’n disgwyl sylw maes o law.

DIWEDDARIAD: Datganiad ysgrifenedig gan Cheryl Gillan:

“This LCO is being handled in exactly the same way as all other legislative bids from the Assembly and Assembly Government.

 ”It is routine for the Government to seek the view of the Attorney General on all LCOs, and to obtain Government agreement for LCOs to be submitted for pre-legislative scrutiny.

 “We have reached this stage against a very tight timetable and sent the LCO forward for the detailed scrutiny phase by MPs and Peers. This will be undertaken by the Welsh Affairs Select Committee and the Lords’ Constitution Committee under the process set up by the last Labour Government.

“Given the importance of this legislation I am determined to ensure this is done in a rational, sensitive fashion and that we do not cut corners.

“We have worked closely with the Welsh Assembly Government on this, and I discussed the LCO with the First Minister and Deputy First Minister as recently as Monday when I informed them that the legislation had been put forward for pre legislative scrutiny.”

Mwy ar y stori yma.

Caniatad Tybiedig

Mae’r Llywodraeth newydd gyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol at gyfer ei 10 mis olaf. Gan fod cyn lleied o amser cyn diwedd y tymor, dyw hi ddim yn syndod bod llai ar y rhaglen nag arfer. Mae bwriad i gyflwyno tri mesur ym maes tai ac addysg ac un gorchymyn (gas da fi’r gair LCO).

Yr hyn sy’n fy niddori i heddiw yw’r gorchymyn arfaethedig. Y bwriad yw i wneud cais am rym i ddeddfu ym maes caniatad tybiedig -hynny yw maen nhw am newid y drefn rhoi organau. Yn hytrach na disgwyl i bobol ymuno â rhestr o bobol sy’n fodlon rhoi eu organau i rywun arall ar ôl iddyn nhw farw, maen nhw am gymeryd yn ganiataol bod pobol am roi eu horganau oni bai eu bod nhw wedi dweud yn wahanol, gan gael caniatad y teulu.

Mae’r ymateb yn gymysg i’r cyhoeddiad. Babi’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart yw hwn, ac mae hi wedi bod yn benderfynol o fynd ati i gyflwyno caniatad tybiedig yng Nghymru beth bynnag mae unrhywun yn ei ddweud. Mae’r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn erbyn deddfu’n llwyr ar hyn o bryd -nid am ei fod yn erbyn caniatad tybiedig ond am nad yw’n meddwl bod y system yn barod ar gyfer y newid eto. Mae mwy o fanylion o adroddiad y pwyllgor iechyd pan oedd Jonathan Morgan yn gadeirydd arno yma.

Yr hyn sy’n fy synnu i yw hyder y Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd bod modd cael mesur ar y pwnc yma ymhen 10 mis. Pan holais i Carwyn Jones bore ma os oedd modd llunio gorchymyn a mesur o fewn y cyfnod hwn, dywedodd e y bydd hi’n dynn ond ei bod hi’n bosibl. Mae’n gwneud i fi feddwl bod Carwyn Jones yn tybio gormod am y caniatad gan San Steffan ac efallai heb ddysgu gwers gorchmynion y gorffennol. Cymerodd y gorchymyn lleiaf dadleuol erioed, y gorchymyn cig coch, ddwy flynedd i fynd drwy’r broses graffu yn San Steffan a Bae Caerdydd heb son am yr oedi anhygoel gyda’r gorchmynion ar yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd. Mae’r gorchymyn tai yn dal yn gwbl fyw yn y cof fel y gorchymyn gymerodd hirraf i’w basio yn hanes gorchmynion. Beth sy’n gwneud i Carwyn Jones fod mor hyderus y tro hwn?

Rwy’n derbyn bod y ddwy ddeddfwrfa bellach yn deall y drefn orchmynion yn well wedi bod wrthi ers 2007 ond nid gorchymyn annadleuol mo’r gorchymyn ar ganiatad tybiedig. Fe fydd adroddiad y pwyllgor iechyd sy’n argymell i’r Cynulliad beidio â mynd ar hyd y llwybr hwn yn un rhwystr, heb sôn am ddelio â barn unigolion o fewn i’r pwyllgorau craffu -yma yn y Cynulliad a’r Pwyllgor Dethol yn San Steffan. Gallai’r gorchymyn hwn eto fod yn dalcen caled i’r Llywodraeth.