Cynyddu maint testun

Golwg360

‘Make-over’ i’r Orsedd?

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, sy’n trafod y newidiadau mwyaf i Orsedd y Beirdd ers dyddiau Iolo Morganwg…

Rydan ni wedi cael tipyn o sylw i’r ffaith bod yr Orsedd yn chwilio am Feistres – neu Feistr – newydd i’r Gwisgoedd, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.  A thros y dyddiau nesaf, rydan ni’n gobeithio y bydd argymhellion diweddaraf Bwrdd yr Orsedd yn ysgogi trafodaeth.  Mae ‘na newidiadau mawr ar droed os yw cyfarfod cyffredinol yr Orsedd yn eu cytuno yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac efallai y bydd y gwisgoedd y bydd y Feistr neu’r Feistres newydd yn gyfrifol amdanyn nhw’n eithaf gwahanol erbyn 2012.  Na, dyw’r Orsedd ddim yn cael ‘make-over’ – wel, ddim yng ngwir ystyr y gair, ond fe fydd ‘na newidiadau sylfaenol iawn os yw’r cynlluniau’n cael eu pasio.  Yn wir, dyma’r newidiadau mwyaf i’r Orsedd ers cyfnod Iolo Morganwg ei hun.

Yr wythnos hon, bydd yr Orsedd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr hyn a drafodwyd yn eu cyfarfod cyffredinol ym Mlaenau Gwent eleni.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymuno â’r Orsedd ar yr un gwastad, gan sicrhau nad oes un lliw’n ymddangos yn fwy pwysig nag unrhyw un arall.  Mae’r cynllun yn dileu dosbarthiad yr Ofydd a Derwydd, a dim ond enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd fyddai’n derbyn y Wisg Wen, gyda’r wisg honno’n parhau i gynrychioli’r berthynas bwysig sy’n bodoli rhwng yr Orsedd a’r Eisteddfod ei hun.

Ond, dyw’r lliwiau i gyd ddim yn diflannu – ond yn hytrach, byddai’r lliwiau’n cynrychioli gwahanol arbenigedd neu ddoniau, gyda’r posibilrwydd o greu lliw arall yn cael ei drafod, lliw ar gyfer y rheini a urddir yn sgil eu cyfraniad i gymdeithas neu ym myd y campau.  Felly, fydd Meistres neu Feistr y Gwisgoedd ddim yn segur o bellffordd os y bydd y cynnig yma’n cael ei basio.

Ac mae digon o gyfle i drafod.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i Orseddigion gael cyfle i fynegi barn, ac felly, ni fydd y mater yn cael ei benderfynu’n derfynol tan y cyfarfod cyffredinol ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac os y bydd popeth yn cael ei gytuno bryd hynny, bydd y newidiadau’n dod i rym yn Eisteddfod Bro Morgannwg – ym mro Iolo Morganwg ei hun – y flwyddyn ganlynol.  Felly, os oes gennych chi farn am y newidiadau arfaethedig – mynegwch hi da chi dros y misoedd nesaf.  Gswyliwch allan yn y wasg a’r cyfryngau am wybodaeth am sut i fynegi barn.

Ac wrth gyffwrdd yn fan’na ag Eisteddfod 2012, a gynhelir ym Mro Morgannwg, braf yw nodi ein bod wedi pennu dyddiad ar gyfer cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal i ddechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y Brifwyl ymhen dwy flynedd.  A buan iawn y bydd hi’n 2012, credwch chi fi.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu fod yn rhan o’r tîm a fydd yn gweithio ar yr Eisteddfod hon, neu os ydych chi’n awyddus i glywed am rai o’r syniadau ar ei chyfer, mae croeso i chi fynychu’r cyfarfod yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, nos Fercher 6 Hydref am 18.30.  Byddwn yn hyrwyddo’r cyfarfod yma dros yr wythnosau nesaf, a gobeithio’n arw y byddwn yn gweld nifer fawr o bobl yn neuadd yr ysgol ar y noson.

Hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen fydd safle’r Eisteddfod a gynhelir o 4 Awst – 11 Awst 2012.  Cofiwch y dyddiadau, a chofiwch hefyd ddod atom i ardal sydd heb fod yn gartref i’r Brifwyl ers 1968 – a chyn hynny, 1920 – felly, mae’n hen bryd ein bod yn dychwelyd i’r Fro.  A gobeithio y bydd y torfeydd a ddaeth atom i Lyn Ebwy eleni, ac a gafodd flas ar yr Eisteddfod yn dychwelyd atom eto i Fro Morgannwg, sy’n gyfleus ar gyfer Caerdydd a rhan helaeth o dde Cymru.  Ond llawer mwy am Fro Morgannwg dros y misoedd wrth i ni ddechrau ar y paratoi – mae Wrecsam i ddod cyn hynny, ac mi fydda i’n sôn mwy am yr hyn sydd ar y gweill yno y tro nesaf.

Taith y Pafiliwn Pinc yn parhau…

Hywel Wyn Edwards sy’n dweud hwyl fawr i un Eisteddfod, gan ddechrau edrych ymlaen i’r nesaf…

Wel, fe dynnwyd y Pafiliwn Pinc i lawr ac fe gaeodd y stondinau am flwyddyn arall.  Aeth y Gadair a’r Goron i gartrefi newydd, a chafodd y corau a’r bandiau dipyn o hoe ar ôl yr holl gystadlu.  A hoe oedd hanes staff yr Eisteddfod hefyd, ar ôl i bopeth ddod i ben.  Lle digon unig a thrist yw Maes yr Eisteddfod fore Sul ar ôl i’r cyfan ddod i ben.  Ychydig o lanast sydd ar ôl; y geriach a adawyd ar ôl gan stondinwyr.  Ond mae’r atgofion yn parhau.  Does dim angen y Pafiliwn Pinc i atgoffa pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd bod yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn yr ardal eleni – er bod nifer wedi bod yn awyddus i’w gadw yno!

Ond mae taith y Pafiliwn Pinc yn parhau, a pharhau hefyd y mae’n taith ninnau.  Yr wythnos nesaf, byddwn yn cerdded y tir yn Fferm Bers Isaf, Wrecsam.  Mae cerdded y tir yn rhan bwysig o’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn adnabod pob modfedd o’r tir, ac y flwyddyn nesaf, byddwn yn dychwelyd at dir amaethyddol.

Dechrau eto y bydd ymarferion y Côr  yn Wrecsam ymhen rhai wythnosau, nos Sul 26 Medi, ac mae ffons y swyddfa eisoes yn brysur gyda phobl eisiau copїau cerddoriaeth er mwyn dechrau ymarfer ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae nifer fawr eisiau gwybodaeth am garafanio ac am lety yn ardal Wrecsam.  Efallai eich bod yn teimlo bod hyn yn gynnar iawn, ond dydi o ddim mewn gwirionedd.

Wyddoch chi mai dim ond un ar ddeg wythnos a hanner sydd i fynd cyn y dyddiadau cau cyntaf – llai na thri mis!  Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen ein cyrraedd ni erbyn 1 Rhagfyr.  Felly, os ydych chi am lwyddo fel Grace Roberts neu Jerry Hunter yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, gobeithio’n arw eich bod wrthi’n brysur yn ysgrifennu erbyn hyn!

Ac unwaith mae’r dyddiadau cau’n cychwyn, mae’r holl brysurdeb cystadleol yn dychwelyd, gyda’r prosesu, y beirniadu ac yn y blaen yn llenwi oriau staff am fisoedd lawer, a dyw’r gwyliau fis Awst a’r cyfle i asesu a gwerthuso’r Brifwyl ym mis Medi’n ddim ond atgof.

Mae 2011 yn argoeli i fod yn ddiddorol am nifer o resymau.  Nid yn unig mae’r Eisteddfo yn dychwelyd i Wrecsam, tref a fu’n gartref i’r Brifwyl ddiwethaf yn 1977, ond mae’r Eisteddfod ei hun hefyd yn dathlu pen blwydd go arbennig.  Byddwn yn dathlu 150 o flynyddyoedd ar ein ffurf bresennol.  Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n brysur yn trefnu’r gweithgaredd a’r ymgyrch i ddathlu, a byddwn yn sicr o rannu’r cyfan yn y blog hwn dros yr wythnosau nesaf.

Mae’n argoeli i fod yn gyffrous, yn uchelgeisiol, ac yn mynd i ychwanegu at naws arbennig Wrecsam a’r Fro.  Eisoes bu peth gwaith paratoi, gyda’r elfen o ddathlu’n rhedeg fel edau drwy destunau Eisteddfod 2011, felly, dros y misoedd nesaf – ac yn enwedig ymhen deg mis a hanner, cawn weld pwy fydd yn dathlu go iawn, pan fydd y golau’n pylu a’r corn gwlad yn atsain drwy’r Pafiliwn.  Ond cyn llwyddo, rhaid cofio anfon y gwaith atom – felly, cofiwch da chi – un ar ddeg wythnos a hanner tan y dyddiad cau cyntaf!

Does dim Plan B

Cyhoeddwyd Awst 10, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: Eisteddfod Blaenau Gwent 2010, Ysgol Treganna

Mae hen ddigon yn ac wedi cael ei ddweud am ymgyrch Treganna ac af fi ddim i ymhelaethu rhagor ar yr ymgyrch yn yr eisteddfod, gallwch ddarllen am hynny yma. Ond mae’r posteri oedd ar ei stondin nhw’n y steddfod wythnos diwethaf werth ei dangos. Marciau llawn am wreiddioldeb!

Dai o Abersychan

Cyhoeddwyd Awst 10, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: Eisteddfod Blaenau Gwent 2010

Cwrddes i â phersonoliaeth a hanner bnawn Sadwrn, Dai o Abersychan. Fel amryw i un yn ystod yr wythnos, yn clywed criw o Gymry ifanc yn siarad Cymraeg yn rhwydd, fe ddaeth aton ni i holi’n hanes wrth i ni yfed peint bach tawel wrth y bar. Yn fuan iawn, roedd yn egluro pam ei fod yno ar Sadwrn ola’r steddfod gyda’i beint unig yn gwrando ar gerddoriaeth Dafydd Iwan.

My friends asked me last night, “What are you doing tomorrow Dai?” I said “I’m going to the Eisteddfod. £15 and I get to see Dafydd Iwan AND Meic Stevens. Bargain!” They think I’m crazy but it’s good music isn’t it? I don’t need to understand the words.

Roedd e wrth ei fodd. Roedd wedi ymuno â Phlaid Cymru yn y prynhawn ac wedi cael gwir flas ar rialtwch y maes. Yn ei law roedd onnen fechan a gafodd am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Coedwigaeth a bellach roedd wedi cael lle ar y fainc i werthfawrogi’r gerddoriaeth wrth iddi nosi. Mae ei wybodaeth o wleidyddiaeth Cymru’n helaeth [bu wrth gwrs drafod ar y refferendwm i gyfeiliant DI] ac er ei fod yn sicr wedi cyrraedd canol oed, mae wrthi’n dysgu ychydig o Gymraeg ac yn dweud yn falch “Gof ydw i.” Roedd yn meddwl bod yr Eisteddfod yn rhyfeddod.

Ei dro cyntaf ar y maes oedd y dydd Mawrth cynt, pan ymwelodd gyda’i fodrabedd. Doedd yr un o’r ddwy’n siwr os oedden nhw eisiau mynd i’r pair Cymreictod oedd wedi glanio ar eu stepen drws -nid welshies mohonyn nhw wedi’r cyfan -ond fe gawson nhw eu perswadio. Erbyn iddyn nhw gerdded hanner ffordd hyd y maes, roedd un fodryb am ddysgu Cymraeg. Roedd yr ail yn dal i fod yn amheus. Erbyn gwneud cylchdro cyfan, roedd hi hefyd ar dasg i ddysgu’r Gymraeg. 

Does dim gwadu, fe ges i fy nghythruddo’n llwyr gan y bobol oedd yn cwyno bod Glyn Ebwy’n rhy bell i eisteddfodwyr y gogledd a’r gorllewin (Sut felly y daethon nhw i Gaerdydd, sy’n bellach?!) ac fy nghythruddo’n fwy fyth gan y lleiafrif oedd yn dweud bod Cymry Glyn Ebwy a’r de orllewin sydd wedi colli eu Cymraeg ddim yn “Gymry go iawn.” Fel merch o Gaerdydd a chynnyrch ysgol lle roedd y mwyafrif o’r disgyblion yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, alla i ddim a deall y feddylfryd honno na sut y mae’r bobol yna’n meddwl y gall y Gymraeg oroesi heb bobol sy’n barod i’w dysgu hi, pobol na sydd mor ffodus â nhw i fod wedi ei geni i deuluoedd Cymraeg ei hiaith. Beth bynnag, roedd y sgwrs â Dai o Abersychan yn ddigon i brofi’r amheuwyr yn hollol, gwbl anghywir. Dylai pawb fod wedi dod eleni. Cymry go iawn sydd yng Nglyn Ebwy. Llongyfarchiadau Blaenau Gwent, Steddfod ffantastig.

A dyna ni …

Dylan Iorwerth yn edrych yn ôl ar wythnos yng Nglyn Ebwy.

Un arall heibio. Un dda. Un a fyddai’n well fyth pe bai’r holl eisteddfodwyr arferol wedi dod.

A rhyw feddyliau fel hyn sy’n crynhoi …

Sadwrn

Mi ddechreuodd yn Rassau a’r math o olygfa fyddai’n bwydo rhagfarnau’r rhai a gadwodd draw … anialdir o faes parcio. Ond roedd y bysys yn gweithio’n dda a’r gyrwyr yn glên.

Rhagor o fwydo rhagfarn … storis yn lledu am ddwyn ar y maes carafanau. “Dim byd newydd,” meddai’r Eisteddfod a fuodd yna ddim sôn am broblemau ar ôl hynny.

Os nac oedd yna laswellt dan draed, roedd yna ddigon ar y bryniau o gwmpas – cefn gwlad efo pentrefi di-ddiwydiant ydi’r Cymoedd erbyn hyn, yn hytrach na phentrefi diwydiannol rhwng bryniau.

Mae’r gwaith adfywio yn yr hen waith dur lle’r oedd yr Eisteddfod yn anferth … canolfan addysg, ysbyty, canolfan dreftadaeth, tai gwyrdd, llefydd hamdden …. a channoedd o dai. Neis iawn – ond lle bydd y gwaith.

Tros ddau gan mlynedd mae’r ardal wedi gweld dau chwyldro – at ddiwydiant ac yn ôl. Bellach mae patrwm newydd clir – mae’ diwydiant a siopau ar hyd ffordd fawr Blaenau’r Cymoedd neu i lawr yn nhrefi mawr y gwastadedd.

Sul

Codi’r babell ar y Maes Carafanau. Trydan am y tro cynta’ erioed. Teimlo’n swanc.

I lawr i wrando ar Gwibdaith Hen Frân ym Maes C – a chyrraedd toc wedi naw … yn rhy hwyr. Wedi prynu tocyn am 8.00 ond neb wedi boddran dweud. Diolch yn fawr.

Maes C yn handi ond un golled fawr ydi’r cysylltiad efo’r ardal leol. Un o’r pleserau erstalwm oedd dod i nabod tafarndai – a phobol – yn y gwahanol lefydd.

Llun

S4C yn rheoli’r newyddion – fel tân yn sugno’r ocsigen o bopeth arall. Y sianel yn gwrthod ateb dim am ymadawiad y Brif Weithredwarig Iona Jones. Gwrthod dweud hyd yn oed a oedd hi ar gytundeb neu staff. Boncyrs.

Maen nhw’n sicrhau bod y stori’n mynd ymlaen ac ymlaen … ac y daw hi’n ôl. Tydi gwleidyddion ddim yn licio, ar adeg pan mae angen cefnogaeth gwleidyddion a, phan ddaw’r gwir i’r wyneb – fel y bydd rhaid iddo fo – mi fydd un o ddau beth yn digwydd. Mi fydd pawb yn dweud be oedd y ffỳs a’r sianel yn edrych yn wirion, neu mi fydd hi’n amlwg fod pethau wedi mynd yn draed moch.

Lol yn llawn stwff am y sianel. Ychydig oedd yn hollol newydd ond rhai pethau wedi’u dweud oedd heb eu cyhoeddi o’r blaen. Darn am Golwg360 hefyd – gobeithio bod y ffeithiau’n nes ati yn stori S4C.  Er mwyn cofnodi, mae ffigurau ymwelwyr y safle bellach yn croesi 3,000.

Glenys Roberts yn ennill y Goron. Grêt. Enw newydd i’r rhan fwya’. Ond mae yna dawelwch cynnil yn y cerddi – yn fy atgoffa fi o’r cerddi a enillodd y Goron i Christine James. Llai o orchest nag sydd yng ngherddi dynion.

Gyda’r nos. Huw M, diddorol a swynol. Tecwyn Ifan – fel diwygiad! Pobol yn dawnsio a lot o hwyl.

Mawrth

Yn ôl i Lanbed i glirio ambell i beth. Yn ôl wedyn i Lyn Ebwy i gadeirio sesiwn lle’r oedd dau o benaethiaid S4C yn wynebu’r ‘dorf’. Wedi disgwyl sesiwn stormus … paratoi yn fy meddwl sut i handlo heclo a holwyr blin. Cyfarfod ymlaen llaw i drafod y drefn – ond gadael cyn iddyn nhw ddechrau briffio’i gilydd … gan mai cadeirydd annibynnol o’n i, do’n i ddim eisio gwybod. Fel y digwyddodd hi, roedd y cyfarfod yn ofnadwy o fflat. Fawr neb yn gwybod, falle? Llawer oedd yno’n rhan o’r busnes. Yr un neges glir oedd, gwell safon na llenwi amser – rhaglenni da nid lot o rai sâl.

Gyda’r nos – Geraint Lovgreen ar ei orau ym Maes C – Elwyn Williams ar y gitâr yn ychwanegu lot a phob cân yn gweithio. Wedyn ail symudiad Ail Symudiad – y band o Aberteifi’n ôl. Richard y canu’n gry’, yn amlwg yn mwynhau. Y drymar a’r gitarydd rhyddm yn edrych yn rhyfeddol o ifanc o hyd … nes sylweddoli mai meibion Richard oedden nhw. Licio’r drymar yn arbennig – rhyddmau soffistigedig, drymio’n gynnil a thynn … o’r hyn wn i.

Mercher

Mynd i dynnu lluniau yn rhai o’r Cymoedd … rhesi tai’n hongian ar y llethrau … erstalwm roedden nhw’n tyrru uwchben y gweithfeydd a’r pyllau glo. Erbyn hyn fel llinell y llanw wedi’r trai. Adeiladau bric coch pwll y Navigation yn amlwg o hyd yng Nghrymlyn ac olion o hen brysurdeb yn Abertyleri, ond y siopau’n dlawd.

Enillydd annisgwyl arall ar y Fedal Ryddiaith. Yr Americanwr cynta’ erioed. Ffotograffwyr yn cwyno nad oedd Jerry Hunter yn gwenu … ond roedd modd gweld y nerfusrwydd a’r balchder. Tipyn o beth … ail iaith, ail genedl, prif wobr.

Iau

Pobol ifanc yn anhapus. Addewid o fysys o Maes B i Maes C yn yr oriau mân ond rhywbeth wedi mynd o’i le neithiwr. Yr Eisteddfod yn addo holi … un gyrrwr heb ddod i’w waith, un arall wedi gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd y tacograff. Bos y cwmni wedi dod i’r adwy yn y diwedd – ond bwlch o rai oriau heb fysys. Trefniant munud olaf oedd o beth bynnag – angen meddwl mwy am ddiogelwch pobol ifanc.

Taro ar yr Archdderwydd – stafell y Cyngor drws nesa i stafell y Wasg – yntau’n condemnio’r Eisteddfodwyr pybyr oedd wedi cadw draw. Rhai’n cynnal y myth o Gymru a Sir Fynwy, meddai. Problem y gwrth-Gymraeg oedd hi … ein problem ni erbyn heddiw.

Emyr Lewis, y Prifardd a’r cyfreithiwr, yn rhoi darlith glir am y Mesur Iaith … rhagor fory. Ond lein orau’r pnawn – yr angen i ymgyrchwyr parchus yr iaith fod yn fwy llafar ac i ymgyrchwyr llafar beidio ag ofni bod yn barchus … neu ddisgyn rhwng dau Ffred.

Gyda’r nos – dwy ddrama gan Aled Jones Williams mewn theatr a fu’n sinema yn ardal Cendl (Beaufort). Cynullleidfa wan, dramâu cry’. Mynd yn fwy anodd i drefnu pethau ymylol. Wedi gweld Chwilys o’r blaen – taro ar ein paranoia cyfoes. Merched Eira am ddwy hen wraig yn drysu … llinellau da fel arfer a rhyw anobaith melys.

Gwener

Cadeirio trafodaeth i’r Cynulliad – tynged newyddiadurwyr sydd heibio’u selbei mae’n rhaid – cadeirio cyfarfodydd. Weithiau mae’n anodd cael pobol i drafod ond sawl sylw da y tro yma, a Meri Huws (Bwrdd yr Iaith) ac Emyr Lewis (gweler uchod) yn glir a chadarn. Dafydd El yn cloi efo ymfflamychu nodweddiadol a oedd hefyd yn help fawr o ran egluro be ydi’r drefn.

Swm a sylwedd pethau:

  • Mi fydd rhaid i’r Llywodraeth gynnwys cymal sy’n cryfhau statws y Gymraeg (efo un arall i wneud yn siŵr bod modd o hyd i wneud pethau arbennig i hyrwyddo’r iaith, heb orfod gwneud yr un peth i’r Saesneg.
  • Mae peryg i’r syniad o safonau fod yn gymhleth ofnadwy a chreu mwy o ddryswch. Mae’n ymddangos i fi mai’r peth call fyddai cael safonau i osod yr isafswm sydd raid i gyrff cyhoeddus a chwmnïau gwasanaethau cyhoeddus ei wneud, efo cynlluniau iaith o hyd i fanylu ar ddyletswydd pob un.
  • Pawb o blaid cadw Bwrdd yr Iaith neu rywbeth tebyg. Emyr Lewis yn rhybuddio pawb rhag gwneud ffetish o basio cyfreithiau. Adnoddau i hyrwyddo a hybu gwasanaethau go iawn trwy’r iaith ydi’r peth pwysicaf.

Un peryg – wrth gondemnio’r mesur, mae yna beryg fod pawb yn rhoi’r argraff fod cynlluniau iaith yn llwyddiant ysgubol. Tydyn nhw ddim, ond eisiau eu cael nhw i weithio sydd. Ac mae angen mynd â ‘chynllunio iaith’ – hynny ydi, ffeindio ffordd o gael pobol i’w defnyddio – i lefel arall.

Y Gadair. Awdl i Hywel Teifi. Cael trafferth ar y darlleniad cynta’ … gwella yr ail dro … cael gafael arni ar y trydydd. Diddorol a gwreiddiol.

Gyda’r nos. Tafarn leol o’r diwedd. Y Prince of Wales. Pobol leol yn sgwrsio,  stecen dda am bris rhesymol. Trio mynd i weld Meic Stevens yn y clwb rygbi, y tocynnau i gyd wedi mynd. Ond MS yn y Bridgend o flaen llaw, yn sobor a thaclus a phenwyn  – fel blaenor Methodus … bron iawn.

Sadwrn

Dim Eisteddfod … Gŵyl Jazz Aberhonddu … blog arall yn sôn am fan’no.

Y rhai a gadwodd draw’n fwriadol? Tyff, mi golloch chi Eisteddfod dda. Ac mi golloch chi’r cyfle i roi hwb i ardal lle mae pendil yr iaith yn symud.

Canllaw i Eisteddfod 2010 – Rhan 4

Cyhoeddwyd Awst 4, 2010 gan Fideo. Dim sylw.

Tagiau: Eisteddfod Blaenau Gwent 2010, Eisteddfod Genedlaethol

Mae uchafbwynt calendr celfyddydol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol,  wedi cyrraedd! I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn or-gyfarwydd â ardal  yr Eisteddfod eleni, mae Golwg360 yn falch iawn i lansio cyfres o  glipiau byr yn cyflwyno Glyn Ebwy a’r ardal cyfagos i chi. Dyma’r olaf ohonyn nhw – canllaw i faes yr Eisteddfod ei hun!

Mae’r gyfres yn ganlyniad prosiect ar y cyd rhwng Golwg360 a chriw i  fyfyrwyr Prifysgol Llanbed sydd wedi ei weinyddu gan GO Wales, gyda’r  bwriad o roi profiadau proffesiynol newydd i’r myfyrwyr. Diolch i GO  Wales, ac yn arbennig i’r myfyrwyr Susanna Bowen, Luke Adams a Richard  Beecher am eu holl waith.

Lluniau Eisteddfod Genedlaethol 2010

Lluniau dyddiol o faes Eisteddfod Genedlaethol 2010.
 
Seremoni Dysgwr y Flwyddyn
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Cyfranwyd y llun isod gan Gwynfor Jones
 
 
 
Cyfranwyd y llun gan Gwynfor Jones
 
 
 
 
 










 
Gig Maes B Nos Sadwrn
Roedd adloniant Maes-B 2010 yn dechrau gyda parti ‘foam’ mawreddog. Ymysgy y bandiau’n perfformio oedd Clinigol a Haku Tokin4wa. Caio Higginson fu yno gyda’i gamera ar ran Golwg360.com


Canlyniadau Eisteddfod Genedlaethol 2010

Holl ganlyniadau Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy a Blaenau Gwent wrth iddyn nhw gyrraedd…

Dydd Sadwrn

Grŵp Offerynnol Agored

Pres Poced 1af

Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Deuawd dros 12 a than 25 oed

Heledd a Carwyn Hawkins 1af
Sioned Mai a Mared Meredydd Roberts 2ail
Bethan Ruth a Huw Ynyr 3ydd

Côr Meibion rhwng 20 a 45 mewn nifer

Côr Undebol Ar Ôl Tri 1af
Bechgyn Bro Taf 2ail
Côr Meibion Cas-gwent 3ydd

Unawd Cerdd Dant dros 21 oed

Edryd Williams 1af
Trefor Puw 2ail
Elin Tomos 3ydd


Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

Esyllt Tudur 1af
Andrea Parry 2ail
Carwyn John 3ydd

Côr Meibion dros 45 mewn nifer

Côr Meibion Taf 1af
Côr Meibion Llanelli 2ail
Côr Meibion Pendyrus 3ydd

Côr yr Ŵyl

Bois Ysgol Gerdd Ceredigion 1af

Gwobr Goffa David Ellis

Huw Euron 1af

Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake

Dawnswyr Talog 1af

Gwobr i’r Cerddor neu Gerddorion

Band Dawnswyr Penrhys 1af

Dydd Gwener

Deuawd, Triawd neu Bedwardawd Stepio

Dawnswyr Penrhyd 1af
Dawnswyr Hafodwenog 2ail
Dawnswyr Talog 3ydd

Parti Llefaru hyd at 16 o Leisiau

Parti’r Wiber 1af
Merched Tawe 2ail
Merched Madyn 3ydd

Canu Emyn Dros 60 oed

Geraint Roberts 1af
Vernon Maher 2ail
Arthur Wyn Parry 3ydd

Unawd Yr Hen Ganiadau Dros 25 oed

Kees Huysman 1af
Gwyn Morris 2ail
Anne Wilkins 3ydd

Dawns Stepio i Grwp

Dawnswyr Talog 1af

Llefaru Unigol Dros 25 oed

Esyllt Tudur 1af

Parti Cerdd Dant heb fod dros 20 mewn nifer

Parti’r Efail 1af
Lodesi Dyfi 2ail
Parti’r Gromlech 3ydd

Unawd Mezzo Soprano Dros 25 oed

Angharad Mair Thomas 1af
Megan Elizabeth Thomas 2ail

Llefaru Unigol 19-25 oed

Elen Morgan 1af
Teleri Mair Williams 2ail
Manon Wynn Davies 3ydd

Can Unigol i Ddysgwyr

Charlotte Forfar 1af
Ruth Evans a Helen Pendry Cydradd 2ail
Richard Vroom 3ydd

Rhuban Glas Offerynnol Dan 16 oed

Ben Tarlton 1af

Parti Dawns Werin dan 25 oed

Dawnswyr Penrhyd 1af
Dawnswyr Hafodwenog 2ail
Dawnswyr Talog 3ydd

Unawd Offerynnol Pres 16-19 oed

Huw Llyr Evans 1af
Jack Lapthorn 2ail

DyddIau

John Davies 1af
Gregory Vearey Roberts 2ail
Dewi Sion Evans 3ydd

Tlws Cymdeithas Dawns Werin Cymru

Dawnswyr Tawerin 1af
Dawnswyr Penrhyd 2ail
Cwmni Daws Werin Caerdydd 3ydd

Unawd Piano dan 16 oed

Megan Angharad Jones 1af
Harry Lovell Jones 2ail
Geraint Llyr Owen 3ydd

Unawd Soprano Dros 25 oed

Kate Griffiths 1af
Helen Gibbon 2ail
Siân Wigley Williams 3ydd

Unawd Bas Dros 25 oed

Huw Euron 1af
Kees Huysmans 2ail
Trystan Lewis 3ydd

Parti Dawns Werin dan 25 oed

Dawnswyr Penrhyd 1af
Dawnswyr Hafodwenog 2ail
Dawnswyr Talog 3ydd

Llefaru Unigol i Ddysgwyr

Gail Lewis 1af
Jean Bragg 2ail
Helena Jones / Gareth Thomas 3ydd

Deialog Agored

Dion a Catrin 1af
Elen a Ceri 2ail
Guto a Rhian 3ydd

Cyflwyniad ar Lafar ac ar Gân

Lleisiau’r Cwm 1af

Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed

Dafydd Rhun a Mirain Fflur 1af
Steffan Rhys ac Angharad Rowlands 2ail
Sioned Mai a Mared Meredydd 3ydd

Llefaru Unigol 16-19 oed

Rhian Davies 1af
Glesni Euros 2ail
Elliw Mair Dafydd 3ydd

Dydd Mercher

Unawd Chwythbrennau 16-19 oed

Jack Taylor 1af
Elin Wyn Roberts 2ail
Elin Blake 3ydd

Monolog i rai 12-16 oed

Gwynfor Dafydd 1af
Bethan Elin Wyn Jones 2ail
Joseff Glyn Clwyn Owen 3ydd

Deuawd Offerynnol Agored

Ritch a Pritch 1af
Harry a Charlie Lovell-Jones 2ail
Patrick Rimes a Glain Dafydd 3ydd

Unawd Lieder 19-25 oed

Eirlys Myfanwy Davies 1af
Joy Cornock 2ail
Owain Rhys Jones 3ydd

Unawd Gymraeg 19-25 oed

Joy Cornock 1af
Ellen Williams 2ail
Alaw Tecwyn 3ydd

Unawd Sioe Gerdd dan 19 oed

Kate Harwood 1af
Meilyr Jones 2ail
Rhodri Prys Jones 3ydd

Unawd Oratario 19-25 oed

Alys Mererid Roberts 1af
Sara Lian Owen 2ail
Steffan Jones 3ydd

Dawns Unigol i Fechgyn

Steffan Rhys Davies 1af
Trystan Gruffydd 2ail
Gareth Spiers 3ydd

Unawd Operatig 19-25 oed

Sara Lian Owen 1af
Eirlys Myfanwy Davies 2ail
Guto Ifan 3ydd

Unawd Alaw Werin 16-21 oed

Ellen Williams 1af
Steffan Rhys Hughes 2ail
Catrin Herbert 3ydd

Unawd Cerdd Dant 16-21 oed

Steffan Rhys Hughes 1af
Leona Wyn Roberts 2ail
Alyn Mererid Roberts 3ydd

Llefaru Unigol o’r ysgrythyr dan 16 oed

Gethin Wyn Davies 1af
Gwenan Haf Campbell 2ail
Lowri Elen Jones 3ydd

Dawns Unigol i Ferched

Cerian Phillips 1af
Sara Mai Davies 2ail
Hannah Elin Rowlands 3ydd

Rhuban Glas Offerynol 16 – 19 oed

Glain Davies 1af

Dydd Mawrth

Medal Syr T.H. Parry-Williams

Leah Owen, Prion, Dinbych

Unawd i Fechgyn 12-16 oed

Carwyn Sion Hawkins 1af
Sam Ebenezer 2ail
Gregory Cox 3ydd

Dawnsio Disgo Agored i Grŵp

Perlan (Amlwch) 1af
Siawns (Wrecsam) 2ail
Grŵp Isha (Talybont, Aberystwyth) 3ydd

Cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas

Gwenno Glyn 1af
Beth Neal 2ail
Laura Rose Gee 3ydd

Unawd Piano 16-19 oed

Tomos Xerri 1af
Patrick Rimes 2ail

Daws Greadigol Unigol

Lowri Hughes 1af
Ellie Lloyd Williams 2ail
Marc Caldecott 3ydd

Unawd i Fechgyn 16-19 oed

Meilyr Jones 1af
Huw Ynyr Evans 2ail
Rhodri Jones 3ydd

Unawd i Ferched 16-19 oed

Lisa Medi Jones 1af
Rebecca Davies 2ail
Heulen Cynfal 3ydd

Unawd Cerdd Dant 12 – 16 oed

Mared Williams 1af
Ceri Haf Roberts 2ail
Mared Meredydd Roberts 3ydd

Dawnsio Disgo Unigol

Lowri Hughes 1af
Ceri Davies 2ail
Marc Caldecott 3ydd

Unawd Alaw Werin 12-16 oed

Kate Harwood 1af
Catrin Ann Raymond 2ail
Sioned Haf Wyn Llywelyn 3ydd

Llefaru Unigol 12-16 oed

Gethin Wynn Davies 1af
Sara Anest Jones 2ail
Bethan Elin Wynne Owen 3ydd

Grŵp Offerynol Lleisiol

Dy Werin 1af
Dawnswyr Tawerin 2ail
Telynorion Cwm Derwent 3ydd

Côr Pensiynwyr dros 60 oed

Côr Mochyn Du 1af
Côr Aberteifi 2ail
Cantorion Bro Nedd 3ydd

Unawd i Ferched 12-16 oed

Kate Harwood 1af
Sioned Haf Wyn Llywelyn 2ail
Bethan Elin Wyn Owen 3ydd

Grŵp Llefaru (2-6) mewn nifer

Parti Nant Conwy 1af

Dydd Llun

Englyn

Gwen Jones, Castell Newydd Emlyn 1af

Pum Englyn Milwr

Owain Rhys, Tyllgoed, Caerdydd 1af

Pum Englyn Penfyr

Gwyn M Lloyd, Llanfairpwll, Ynys Mon 1af

Telyneg

Huw Eirth, Pwllheli, Gwynedd 1af

Soned

Harri Williams, Fforest, Pontarddulais 1af

Cerdd Gaeth

Vernon Jones, Bow Street, Ceredigion 1af

Cerdd Rydd

Sian Northey, Cricieth, Gwynedd 1af

Cerdd Ddychan

John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys 1af

Casgliad o 100 o gerddi o gerrig beddau

John BR Davies, Llandybie, Sir Gaerfyrddin 1af

Y Goron

Glenys Mair Glyn Roberts 1af

Dawnsio Creadigol i Grŵp

Grŵp Naomi 1af
Grŵp Awen 2ail
Fantasy Feet 3ydd

Unawd Werin dan 12 oed

Rhys Meilyr 1af
Cai Fôn Davies 2ail
Ffion Ann Phillips 3ydd

Unawd dan 12 oed

Rhys Meilyr 1af
Celyn Cartwright 2ail
Charlotte Saunders 3ydd

Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed

Christopher Davies 1af

Dawnsio Disgo agored i bâr

Lowri a Jessica 1af
Ellie a Shauna 2ail
Bethan a Marc 3ydd

Llefaru Unigol dan 12 oed

Nest Jenkins 1af
Celyn Cartwright 2ail
Ffion Awen Jones 3ydd

Unawd Chwythbrennau dros 19 oed

Sioned Eleri Roberts 1af
Elin Angharad Roberts 2ail

Unawd Telyn Dros 19 Oed

Gwenllian Llŷr 1af
Elfair Grug Dyer 2ail
Bethan Semmens 3ydd

Unawd Llinynnau Dros 19 Oed

Marged Jones 1af
Jonathan Davies 2ail
Lawrence Huxham 3ydd

Deialog Agored i rai dan 25 Oed

Non Haf a Dafydd Llyr 1af
Catrin Roberts a Gruffydd Evans 2ail
Rhiannon a Kathryn / Robert Thomas a Iwan Williams 3ydd

Unawd Cerdd Dant dan 12 oed

Rhys Meilyr 1af
Cadi Mars Jones 2ail
Cadi Fôn Davies 3ydd

Dydd Sul

Bandiau Pres Pencampwriaeth/Dosbarth 1

Band Pres Tredegar 1af
Band Pres Wrecsam Glyndŵr 2il
Band Markham a’r Cylch 3ydd

Cyfeilio ar y piano

Rhiannon Pritchard, Porthyrhyd, Caerfyddin 1af

Côr hyd at 35 o leisiau

Ysgol Gerdd Ceredigion 1af
Bechgyn Bro Taf, Caerdydd 2il

Unawd Piano dros 19 oed

Sara-Mair Smithies, Llanidloes, Powys 1af
Gareth Hughes, Caerdydd 2il

Unawd offeryn pres dros 19 oed

Christopher Davies, Caerdydd 1af

Dydd Sadwrn

Bandiau Pres Dosbarth 4

Band Melin Griffith 2 1af
Band Ieuenctid Cwmtawe 2il
Band Tref Llandudno 3ydd

Bandiau Pres Dosbarth 3

Band Llwycoed 1af
Seindorf Arian yr Oakeley 2il
Band Arian Ogmore Valley 3ydd

Bandiau Pres Dosbarth 2

Band RAF Sain Tathan 1af
Band Tylorstown 2il
Band Tref Blaenafon 3ydd

Côr Cymysg dros 45 mewn nifer

Côr Llanddarog a’r Cylch 1af
Côr Godre’r Garth 2il

Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

Simon Fenoulhet, Caerdydd 1af

Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

Natalia Dias, Caerdydd 1af

Y Fedal Aur am Bensaernïaeth

Neb yn deilwng -

Eisteddfod Genedlaethol 2010 – Sialens Sgiliau Samba

Ar ôl wythnos o gystadlu brwd, daeth hi’n amser i benderfynu,  ar enillydd cystadleuaeth Sgiliau Samba golwg360.com.  Criw Ar y Marc, BBC Radio Cymru sydd wedi cael yr anrhydedd o feirniadu’r sialens ac fe gyhoeddwyd yr enillydd lwcus a dawnus ar ei sioe byw bore ‘ma.  Yn nhraddodiad yr Eisteddfod dyma gyhoeddi y rhai oedd yn gyntaf, ail a thrydydd isod-

1. Gethin

2. Caleb

3. Ion

Os nad ydych chi wedi gweld eu triciau trawiadol, sgroliwch i lawr…

Trwy gydol yr wythnos mae Golwg360.com yn rhedeg cystadleuaeth Sialens Sgiliau Samba i ffeindio tric pél-droed gorau maes yr Eisteddfod. Bydd clipiau ffilm o’r cystadleuwyr yn gwneud eu triciau yn ymddangos yma.

Dydd Gwener 6ed o Awst

Sgiliau Llyr

Sgiliau Gwion-

Sgiliau Brigyn-

Sgiliau Gruffydd-

Sgiliau Meilyr -

Dydd Iau 5ed o Awst

Sgiliau Vladamir

Sgiliau Miriam

Chwaraewyr y Dreigiau yn dangos ei sgiliau pel droed!!

Sgiliau Ion -

Sgiliau Caleb-

Sgiliau Jeff

Sgiliau Aled Brew-

Sgiliau Gethin-

Dydd Mercher 4ydd o Awst

Sgiliau Dewi

Sgiliau Emyr

Sgiliau Daniel

Sgiliau Aled

Dydd Mawrth 3ydd o Awst

Sgiliau Steffan

Sgiliau Katherine


Sgiliau Osian

Sgiliau Rhys

Sgiliau Only Boys Aloud

Sgiliau Colin

Dydd Llun 2 Awst

Sgiliau Trystan

Sgiliau Jake

Geraint Lloyd yn dangos ei ddoniau.

Dydd Sadwrn 31 Orffennaf

Prif Weithredwr Golwg360.com, Owain Schiavone, yn rhoi ymgais gyntaf ar dric!

Canllaw i Eisteddfod 2010 – Rhan 3

Cyhoeddwyd Gorffennaf 27, 2010 gan Fideo. Dim sylw.

Tagiau: Eisteddfod Blaenau Gwent 2010, Eisteddfod Genedlaethol

Mae uchafbwynt calendr celfyddydol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y gorwel ac mae’r trefnydd, Hywel Wyn Edwards, wedi bod yn flogiwr rheolaidd i Golwg360 dros y misoedd diwethaf. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn or-gyfarwydd â ardal yr Eisteddfod eleni, mae Golwg360 yn falch iawn i lansio cyfres o glipiau byr yn cyflwyno Glyn Ebwy a’r ardal cyfagos i chi. Bydd yna glip newydd bob wythnos yn arwain at yr Eisteddfod, yn ogystal â un arbennig o’r wythnos ei hun.

Mae’r gyfres yn ganlyniad prosiect ar y cyd rhwng Golwg360 a chriw i fyfyrwyr Prifysgol Llanbed sydd wedi ei weinyddu gan GO Wales, gyda’r bwriad o roi profiadau proffesiynol newydd i’r myfyrwyr. Diolch i GO Wales, ac yn arbennig i’r myfyrwyr Susanna Bowen, Luke Adams a Richard Beecher am eu holl waith.