Cynyddu maint testun

Golwg360

Canlyniadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011



Holl ganlyniadau yr Eisteddfod Genedlaethol…

Canlyniadau Dydd Sadwrn 6 Awst

Grŵp Offerynnol Agored (61)

  1. Deg Darn Arian

Unawd Cân Gelf dros 25 oed (43)

  1. Glynn Morris, Sale, Cheshire
  2. Carys Griffiths, Aberaeron, Ceredigion
  3. Siân Wigley Williams, Ealing, Llundain

Unawd yr Hen Ganiadau ddros 25 oed (42)

  1. John B.R. Davies, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin
  2. Arthur Davies, Llanrwst, Sir Conwy
  3. Ann Davies, Llanarthne, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Unawd Cerdd Dant dros 21 oed (21)

  1. Nia Tudur, Caerdydd
  2. Esyllt Tudur, Llanrwst, Sir Conwy
  3. Lois Eifion, Penisasrwaun, Caernarfon, Gwynedd

Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn i rai dros 25 oed (138)

  1. Carwyn John, Bethel, Caernarfon, Gwynedd
  2. Andrea Parry, Y Bala, Gwynedd
  3. Deiniol Tudur, Caernarfon, Gwynedd

Cystadleaueth Goffa Lady Herbert Lewis (4)

  1. Trefor Pugh, Trefenter, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Meilir Wyn, Machynlleth, Powys
  3. Alaw Tecwyn, Rhiw, Pwllheli, Gwynedd

Côr Meibion rhwng 20 a 45 mewn nifer (29)

  1. A’ni’ma’to
  2. Côr Meibion Llangwm
  3. Côr Meibion Dwyfor

Gwobr Goffa David Ellis – Y Rhuban Glas (41)

  1. Gwyn Morris, Aberteifi, Ceredigion

Côr Meibion dros 45 mewn nfier (28)

  1. Côr Meibion Rhosllannerchrugog
  2. Côr Meibion Taf
  3. Côr Meibion Maelgwn

Côr yr Ŵyl

  1. Côrdydd

Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake (88)

  1. Dawnswyr Nantgarw
  2. Dawnswyr Talog
  3. Dawnswyr Glancleddau

Gwobr i’r Cerddor neu Gerddorion a rydd fwyaf o gymorth i’r dawnswyr yng nghystadlaethau 88, 89 a 90 (97)

  1. Band Glancleddau

Canlyniadau Dydd Gwener 5 Awst

Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed (75)

  1. Gwenno Morgan, Bangor, Gwynedd

Dawns Stepio i Grŵp (91)

  1. Dawnswyr Talog
  2. Dawnswyr Bro Taf
  3. Clocswyr Ceulan a Garmon

Parti Alaw Werin (2)

  1. Parti’r Efail
  2. Hogie’r Berfeddwlad
  3. Lodesi Dyfi

Unawd Contralto (37)

  1. Iona Stephen Williams, Ty’n Lôn, Caergybi
  2. Sioned Wyn Evans, Dolgellau, Gwynedd
  3. Sioned Jones, Dinbych, Sir Ddinbych

Parti Llefaru hyd at 16 o leisiau (137)

  1. Parti Sarn Helen
  2. Mamau Genod Llŷn
  3. Parti’r Wiber

Parti Cerdd Dant heb fod dros 20 mewn nifer (16)

  1. Parti’r Greal
  2. Criw Caerdydd
  3. Chwiban

Unawd Mezzo Soprano (36)

  1. Carys Griffiths, Aberaeron, Ceredigion
  2. Nia Eleri Hughes, Llangwm, Corwen
  3. Kathryn Nash, Llanelwy, Sir Ddinbych

Canu Emyn i rai dros 60 oed (44)

  1. Gwyn Jones, Llanafan, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Vernon Maher, Saron, Llandysul, Sir Gaerfyrddin
  3. Elen Davies, Llanfair Caereinion, Powys

Unawd Bas (40)

  1. Kees Huysmans, Tregroes, Llandysul
  2. Emyr Jones, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
  3. Trystan Lewis, Deganwy, Conwy

Nos Wener 5 Awst

Côr Cerdd Dant (15)

  1. Côr Merched Llangwm
  2. Lleisiau’r Nant
  3. Côr Merched y Ddinas

Côr Llefaru dros 16 o leisiau (136)

  1. Genod Llŷn
  2. Rhianedd y Cwm
  3. Lleisiau Cafflogion a Chôr Llefaru’r Mochyn Du

Côr Alaw Werin rhwng 21-40 mewn nifer (1)

1. Aelwyd yr Ynys

2. Lleisiau Clywedog

3. Côr y Bala

Côr Cymysg rhwng 20 a 45 mewn nifer (27)

  1. Cordydd
  2. Cymdeithas Gorawl Llanuwchllyn
  3. Côr Cyntaf i’r Felin

Canlyniadau Dydd Iau 4 Awst

Llefaru Unigol dros 25 oed (139)

  1. Ffion Clwyd Edwards, Henllan, Dinbych
  2. Andrea Parry, Y Bala, Gwynedd
  3. Dilys Mary Glitz, Wrecsam

Unawd Bariton dros 25 oed (39)

  1. Gwyn Morris, Aberteifi, Ceredigion
  2. Andrew Matthews, Penmark, Bro Mogannwg
  3. Gareth Wyn Rowlands, Tregarth, Gwynedd

Llefaru Unigol i Ddysgwyr (116)

  1. Jean Bragg, Rhuthun, Sir Ddinbych
  2. Ian Samways, Pittsburgh, UDA
  3. Lucy Angharad Childs, Dinbych, Sir Ddinbych

Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio (92)

  1. Grŵp Cymysg Talog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
  2. Trystan ac Osian Gruffydd, Efails Isaf, Pontypridd
  3. Merched Talog, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Unawd Soprano dros 25 oed (35)

  1. Sera Ann Baines, Bryn Saith Marchog, Corwen, Sir Ddinbych
  2. Kate Griffiths, Bryn Saith Marchog, Corwen, Sir Ddinbych
  3. Helen Gibbon, Capel Dewi, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Deuawd Cerdd Dant dros 21 oed (19)

  1. Lois a John Eifion, Penisarwaun, Gwynedd
  2. Catrin Alwen ac Einir Haf, Chwilog, Pwllheli a Rhuthun, Sir Ddinbych
  3. Elfed a Catrin, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd

Llefaru Unigol 19-25 oed (140)

  1. Teleri Mair Williams, Caergybi, Ynys Môn
  2. Glesni Euros, Brynaman, Sir Gaerfyrddin
  3. Rhiannon Mair Wyn Llewelyn, Clunderwen, Sir Benfro

Côr Merched dros 20 mewn nifer (30)

  1. Côr Lleisiau’r Nant
  2. Côr y Wiber
  3. Côr Genod y Gân

Gwobr Goffa Osborne Roberts (49)

  1. Meilir Jones, Llangefni, Ynys Môn

Gwobr Goffa Violet Mary Lewis i’r soprano fwyaf addawol (50)

  1. Meinir Wyn Roberts, Caernarfon, Gwynedd

Gwobr Goffa David Lloyd a Jean Skidmore i’r Tenor mwyaf addawol (51)

  1. Rhodri Evans, Bow Street, Ceredigion

Unawd Tenor dros 25 oed (38)

  1. Efan Williams, Lledrod, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Gregory Vearey-Roberts, Bow Street, Ceredigion
  3. Robert Jenkins, Aberteifi, Ceredigion

Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru (89)

  1. Parti Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan
  2. Dawnswyr Delyn, Yr Wyddgrug

Unawd Telyn dan 16 oed (80)

  1. 1. Rachel Edwards, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
  2. 2. Nest Jenkins, Lledrod, Aberystwyth, Ceredigion
  3. 3. Mared Emyr Pugh-Evans, Borth, Ceredigion

Unawd Chwythbrennau dan 16 oed (76)

  1. Nia Pugh, Brithdir, Dolgellau, Gwynedd
  2. Enlli Parri, Pontcanna, Caerdydd
  3. Gethin Wyn Manuel, Ponciau, Wrecsam

Unawd Llinynnau dan 16 oed (77)

  1. Hannah Lowri Roberts, Rhiwbeina, Caerdydd
  2. Carolyn Zhang Burton, Porthaethwy, Ynys Môn

Detholiad o Ddrama Gerdd (112)

  1. Ysgol Morgan Llwyd
  2. Aelwyd yr Ynys

Canlyniadau Dydd Mercher 3 Awst

Rhuban Glas Offerynnol 16-19 oed (69)

  1. Jack Taylor, Glasbury-on-Wye, Powys

Unawd Gymraeg 19-25 oed (48)

  1. Guto Ifan, Llangernyw, Abergele
  2. Rhodri Evans, Bow Street, Aberystwyth, Ceredigion
  3. Sara Angharad Anwyl, Llanbrynmair, Powys

Llefaru Unigol 16-19 oed (141)

  1. Steffan Rhys Hughes, Llangwyfan, Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Sion Jenkins, Clunderwen, Sir Benfro
  3. Megan Llŷn, Sarn, Pwllheli, Gwynedd

Unawd Operatig 19-25 oed (45)

  1. Meilir Jones, Llangefni, Ynys Môn
  2. Meinir Wyn Roberts, Caernarfon, Gwynedd
  3. Eirlys Myfanwy Davies, Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Cyflwyniad Llafar (146)

  1. Criw Magi, ardal Rhuthun, Sir Ddinbych
  2. Llais Afon, Llanrwst, Conwy
  3. Lleisiau’r Llan, Abergele, Sir Conwy

Dawns Unigol i Ferched (94)

  1. Ceri Ann Phillips, Blaenycoed, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
  2. Hannah Elin Rowlands, Glan Conwy, Sir Conwy
  3. Lleucu Phillips, Blaencoed, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Cystadleuaeth Eisteddfodau Cymru (200)

  1. Jessica Robinson ac Osian Meilir Jones, Clunderwen, Sir Benfro
  2. Annest Mair a Rhys Meilyr, Ty Croes a Llangefni, Ynys Môn
  3. Steffan Rhys Hughes ac Angharad Rowlands, Llangwyfan a Dinbych, Sir Ddinbych

Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed (20)

  1. Steffan Rhys ac Angharad Rowlands, Llangwyfan a Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Ceri Roberts a Mared Williams, Henllan a Marli
  3. Enlli ac Alaw Lloyd Pugh, Botnnwog, Pwllheli, Gwynedd

Dawns Unigol i Fechgyn (93)

  1. Gethin Page, Blaenycoed, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
  2. Trystan Gruffydd, Efail Isaf, Pontypridd
  3. Osian Gruffydd, Efail Isaf, Pontypridd

Unawd Cân Gelf 19-25 oed (47)

  1. Guto Ifan, Llangernyw, Abergele
  2. Meinir Wyn Roberts, Caernarfon, Gwynedd
  3. Rhodri Jones, Llanfyllin, Powys

Unawd o Sioe Gerdd dan 19 oed (53)

  1. Mared Elin Williams, Marli, Abergele
  2. Casi Lewys Cartwright, Dinbych, Sir Ddinbych
  3. Hannah Jane Williams, Aberoer, Wrecsam

Triawd / Pedwarawd Cerdd Dant Agored (18)

  1. Triawd y Berfeddwlad
  2. Pedwarawd Pen-y-bryn
  3. Tri Gog a Hwntw

Parti Dawns Werin dan 25 oed (90)

  1. Dawnswyr Talog

Unawd Alaw Werin 16-21 oed (5)

  1. Steffan Rhys Hughes, Llangwyfan, Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Angharad Rowlands, Dinbych, Sir Ddinbych
  3. Bethany Celyn, Dinbych, Sir Ddinbych

Unawd Offerynnau Pres dan 16 oed (79)

  1. Ross Johnson, Morton, Croesoswallt
  2. Aled Herbert, Creigiau, Caerdydd
  3. Meleri Pryse, Aberystwyth, Ceredigion

Unawd Piano dan 16 oed (78)

  1. Gwenno Morgan, Bangor, Gwynedd
  2. Geraint Llyr Owen, Michaelston y Fedw, Caerdydd
  3. Math Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon, Gwynedd

160.        Ysgoloriaeth Emyr Feddyg
Buddugol:
Llŷr Gwyn Lewis, Caernarfon, Gwynedd

165.        Stori fer wedi’i lleoli ym myd diwydiant.
Buddugol: Helen Emanuel Davies, Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion.

166.        Blog dros gyfnod o fis hyd at 3,000 o eiriau.
Buddugol: Carwyn Tywyn, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin.

167.        Casgliad o 10 darn ar ffurf llên micro rhwng 50 a 250 o eiriau yr un: Ystafelloedd Aros.
Buddugol: Haf Llewelyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd.

168.        Ysgrif bortread: Portread o lenor, bardd neu ysgolhaig.
Buddugol: Gruff Roberts, Dyserth, Sir Ddinbych.

169.        Erthygl newyddiadurol hyd at 2,000 o eiriau ar bwnc llosg.
Buddugol: Gruff Roberts, Dyserth, Sir Ddinbych.

170.        Llythyr dychanol at wleidydd.
Buddugol: John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys.

171.        Stori arswyd wedi’i hanelu at bobl ifanc.
Buddugol: John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys

172.        Casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o’r byd chwaraeon.
Buddugol: Trefor Huw Jones, Llanfarian, Aberystwyth, Ceredigion

173.        Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin: ‘Byw yn y Wladfa heddiw’ (heb fod yn llai na 1,500 o eiriau).
Buddugol: Luned González, Gaiman, Chubut, Ariannin.

Canlyniadau Dydd Mawrth 2 Awst

Unawd Alaw Werin 12-16 oed (6)

  1. Elan Meirion, Pwllglas, Rhuthun, Sir Ddinbych
  2. Mared Elin Williams, Marli, Abergele
  3. Rhys Meilyr, Llangefni, Ynys Môn

Monolog 12-16 oed (147)

  1. Siân Elin Williams, Llanybydder, Ceredigion
  2. Lisa Erin Owen, Y Bala, Gwynedd
  3. Meleri Morgan, Bwlchllan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Unawd i Fechgyn 16-19 oed (56)

  1. Sam Ebenezer, Tal-y-bont, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Kieron-Connor Valentine, Rhosllannerchrugog, Wrecsam
  3. Steffan Rhys Hughes, Llangwyfan, Dinbych, Sir Ddinbych

Unawd i Ferched 16-19 oed (55)

  1. Elen Lloyd Roberts, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd
  2. Lisa Medi, Y Bontfaen, Bro Morgannwg
  3. Sioned Mai Roberts, Llangaffo, Ynys Môn

Dawnsio Cyfoes i Grŵp (100)

  1. Grŵp Eurgain, Amlwch, Ynys Môn
  2. Grŵp Ffynnonbedr, Cwrtnewydd, Llanybydder, Ceredigion
  3. Grŵp Ysgol I.D. Hooson, Rhosllannerchrugog, Wrecsam

Cyflwyniad ar lafar ac ar gân (8)

  1. Ysgol Bodedern, Bro Alaw, Ynys Môn
  2. Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Unawd Cerdd Dant 16-21 oed (22)

  1. Steffan Rhys Hughes, Llangwyfan, Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Huw Ynyr Evans, Rhyd-y-main, Dolgellau, Gwynedd
  3. Enlli Lloyd Pugh, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd

Llefaru o’r Ysgrythur 16-19 oed (144)

  1. Steffan Rhys Hughes, Llangwyfan, Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Lowri Ffion Thomas, Parc Borras, Wrecsam
  3. Saran Richards, Llanddarog, Sir Gaerfyrddin

Côr Pensiynwyr (31)

  1. Côr y Mochyn Du, Caerdydd
  2. Côr Pensiynwyr Aberteifi

Unawd o Oratorio neu Offeren 19-25 oed (46)

  1. Ellen Williams, Y Bontfaen, Bro Morgannwg
  2. Meilyr Jones, Llangefni, Ynys Môn
  3. Huw Ynyr Evans, Rhyd-y-main, Dolgellau, Gwynedd

Deialog (114)

  1. Sioned Alaw ac Elgan Llyr, Llaneilian, Hen Golwyn
  2. Ceri Wyn ac Elen Gwenllian, Y Felinheli, Gwynedd
  3. Hawys Evans a Manon Hughes, Gaerwen, Ynys Môn

Dawnsio Cyfoes Unigol (99)

  1. Jasmine Cross, Coedpoeth, Wrecsam
  2. Sara Louise Davies, Synod Inn, Ceredigion
  3. Meilyr Ioan, Llandysul, Ceredigion

Unawd Chwythbrennau 16-19 oed (70)

  1. Jack Taylor, Glasbury-on-Wye, Powys
  2. Heledd Mair Besent, Penlla, Machynlleth, Powys

Unawd Llinynnau 16-19 oed (71)

2. Sion Eilir Pryse, Aberystwyth, Ceredigion

Uanwd Piano 16-19 oed (72)

  1. Luke Jones, Summerhill, Wrecsam
  2. Michael Vasmer, Pwllglas, Rhuthun, Sir Ddinbych
  3. Gwenno Glyn, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd

Uanwd Offerynnau Pres 16-19 oed (73)

  1. Huw Llŷr Evans, Llanddeiniol, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Siôn Rhys Jones, Bryncrug, Tywyn, Gwynedd
  3. Elin Wyn Erfyl Jones, Llanfairpwll, Ynys Môn ac Ifan Sion Davies, Tywyn, Gwynedd

Unawd Telyn 16-19 oed (74)

  1. Bethan Griffiths, Treuddyn, Sir y Fflint
  2. Rebecca McIlroy, Derby

Canlyniadau MaesD

122.        Cystadleuaeth y Gadair.
Buddugol: Judith Crompton,Llanelltyd, Dolgellau, Gwynedd

123.        Cystadleuaeth y Tlws Rhyddiaith.
Buddugol:
Thomas Rhys Trevelyan,Llannefydd, Sir Conwy.

124.        Sgwrs rhwng dau berson ar faes yr Eisteddfod, tua 100 o eiriau.
Buddugol: Sue Johnson, Wallasey.

125.        Sgript cyfweliad hyd at 5 cwestiwn ac ateb gyda Chymro neu Gymraes enwog (byw neu farw).
Buddugol:
Miriam Maria Collard, Arddlîn, Llanymynech, Powys

126.        Llythyr cwyno (hyd at 200 o eiriau).
Buddugol: Sue Jackson, Maeshafn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

127.        Adolygiad o lyfr neu CD Cymraeg, tua 300 o eiriau.
Buddugol: Thomas Rhys Trevelyan, Llannefydd, Sir Conwy.

128.        Gwaith grŵp neu unigol.
Tudalennau o lyfr lloffion
Buddugol:
Miriam Maria Collard, Arddlîn, Llanymynech, Powys a Lyn Piggott,Y Trallwng, Powys

129. Creu cyfarwyddiadau ar gyfer 4 gweithgaredd i grwpiau ar unrhyw lefel gan ail-gylchu eitemau bob dydd. Cyflwynir yr holl syniadau i sylw Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.
Atal y wobr.

Canlyniadau Dydd Llun 1 Awst

Deuawd Offerynnol Agored (62)

  1. Marged Elen Wiliam a Gwenno Glyn, Bangor a Bontnewydd
  2. Daniel Sajko a Lois Eifion, Trefdraeth a Phenisarwaun

Unawd i Ferched 12-16 oed (57)

  1. Ceri Haf Roberts, Henllan, Dinbych
  2. Lydia Griffith, Cricieth, Gwynedd
  3. Ffion Elin Davies, Porthaethwy, Ynys Môn

Grŵp Offerynnol neu Offerynnol a Lleisiol (10)

  1. A Llawer Mwy, Machynlleth, Powys
  2. Band Panteg, Pont-y-pŵl
  3. Telynorion Cwm Derwent

Llefaru Unigol 12-16 oed (142)

  1. Celyn Llwyd, Dinbych, Sir Ddinbych
  2. Sara Anest Jones, Glanrafon, Corwen, Sir Ddinbych
  3. Rhys Meilyr, Llangefni, Ynys Môn

Unawd Cerdd Dant 12-16 oed(23)

  1. Mared Elin Williams, Marli, Abergele
  2. Sophie Angharad Rudge, Aberystwyth, Ceredigion
  3. Rhys Meilyr, Llangefni, Ynys Môn

Unawd i Fechgyn 12-16 oed (58)

  1. Rhydian Jenkins, Maesteg
  2. Aron Dafydd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
  3. Rhys Meilyr, Llangefni, Ynys Môn

Parti Alaw Werin dan 21 oed (3)

  1. Parti Dyffryn Clwyd
  2. Aelwyd Chwilog
  3. Aelwyd Chwilog Iau

Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed – Ysgoloriaeth Cronfa Peggy a Maldwyn Hughes(63)

  1. Siwan Mair Rhys, Llansannan, Dinbych

Dawnsio Disgo / Hip Hop (101)

  1. Shauna Louise Thomas, Amlwch, Ynys Môn
  2. Marc Caldecott, Rhosllannerchrugog, Wrecsam
  3. Ioan Williams, Caerdydd

Parti Cerdd Dant dan 25 oed (17)

  1. Parti Dyffryn Clwyd
  2. Aelwyd Penllyn
  3. Aelwyd Bro Cernyw

Cystadleuaeth Goffa John Weston Thomas (9)

  1. Steffan Wynn Thomas, Bangor, Gwynedd
  2. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin
  3. Math Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon, Gwynedd

Canlyniadau’r Babell Lên

150.      Englyn: Pwll.
Buddugol: K.M. Lintern, Clydach, Abertawe

151.      Englyn ysgafn: Rhybudd.
Atal y wobr.

152.      Telyneg mewn mydr ac odl: Tanchwa.
Buddugol: Aneirin Karadog, Pontyberem, Llanelli, Sir Gaerfyrddin

153.      Cywydd: Dathlu’r Brifwyl.
Atal y wobr.

154.      Soned: Pont.
Buddugol: Tudur Dylan Jones, Tanerdy, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

155.      Cerdd mewn vers libre hyd at 60 llinell: Rhyddid.
Buddugol: Llŷr Gwyn Lewis, Caernarfon, Gwynedd.

156.      Cerdd ddychan: Cythraul canu.
Atal y wobr.

157.      Cerdd Plygain.
Buddugol: Alice Evans, Pwlltrap, San Clêr, Sir Gaerfyrddin

158.      Chwe limrig: Rhwydweithio.
Buddugol: John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys.

159.      Trosi tair cerdd gan R.S. Thomas.
Buddugol:
Gwawr Morris, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd.

Canlyniadau Dydd Sul 31 Gorffennaf

Bandiau Pres Pencampwriaeth / Dosbarth 1 (11)

  1. Band Tredegar
  2. Band Dinas Caerdydd (Melingriffith)
  3. Band Pres Wrecsam Glyndŵr

Côr hyd at 35 o leisiau (25)

  1. Lleisiau Mignedd
  2. Meibion Marchan

Unawd dan 12 oed (59)

  1. Begw Melangell, Llanbedr D.C., Rhuthun, Sir Ddinbych
  2. Alaw Meleri, Llandwrog, Gwynedd
  3. Megan Wiliams, Llandyrnog, Dinbych, Sir Ddinbych

Unawd Alaw Werin dan 12 oed (7)

  1. Cai Fôn Davies, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn
  2. Gwen Esyllt Williams, Marli, Abergele
  3. Ffion Evans, Abergwaun, Sir Benfro

Dawnsio Disgo / Hip Hop i Bâr (102)

  1. Mark Caldecott a Bethan Rumsey Jones, Rhosllannerchrugog, Wrecsam
  2. Natasha Williams a Llio Jones, Amlwch, Ynys Môn
  3. Ellie Lloyd Williams a Shauna Thomas, Bae Cemaes, Ynys Môn

Llefaru Unigol o’r Ysgrythur dan 16 oed (145)

  1. Nest Jenkins, Lledrod, Aberystwyth, Ceredigion
  2. Gwynfor Dafydd, Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf
  3. Owain John, Llansannan, Dinbych

Dawnsio Disgo / Hip Hop i Grŵp (103)

  1. Grŵp Perlau, Amlwch, Ynys Môn
  2. Grŵp Siawns, Wrecsam
  3. Grŵp Niamh, Aberystwyth, Ceredigion

Unawd Piano dros 19 oed (66)

  1. Siwan Mair Rhys, Llansannan, Dinbych
  2. Bryony Keyse, Tregarth, Bangor, Gwynedd
  3. Lois Eifion, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd

Unawd Chwythbrennau dros 19 oed (64)

  1. Jonathan Guy, Wrecsam
  2. Bethan Caryl Jones, Gorsedd, Treffynnon, Sir y Fflint
  3. Sioned Eleri Roberts, Eithinog, Bangor, Gwynedd

Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans – Cyfeilio ar y Piano (60)

  1. Daniel Sajko, Trefdraeth, Sir Benfro

Unawd Llinynnau dros 19 oed (65)

  1. Davinder Singh, Llandybïe, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
  2. Jonathan Davies, Llanidloes, Powys
  3. Lawrence Huxham, Gwlad Belg

Unawd Telyn dros 19 oed (68)

  1. Gwenllian Llŷr, Abertawe
  2. Glain Dafydd, Pentir, Bangor, Gwynedd
  3. Tomos Xerri, Pentrepoeth, Caerdydd

Canlyniadau Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf

Bandiau Pres Dosbarth 4 (14)

  1. Band Melingriffith 2
  2. Seindorf Arian Dyffryn Nantlle
  3. Band Ystradgynlais

Bandiau Pres Dosbarth 3 (13)

  1. Band Treherbert a’r Cylch
  2. Seindorf Arian yr Oakeley
  3. Seindorf Crwbin

Côr Cymysg dros 45 mewn nifern (26)

  1. Côr Llanddarog a’r Cylch
  2. Côr Rhuthun
  3. Côr Bro Meirion

Llefaru Unigol dan 12 oed (143)

  1. Leisa Gwenllian, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd
  2. Anest Non Eirug, Aberystwyth, Ceredigion
  3. Ania Moore, Llanfairpwll, Ynys Môn

Unawd Cerdd Dant dan 12 oed (24)

  1. Cai Fôn Davies, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn
  2. Erin Meirion, Pwllglas, Rhuthun, Sir Ddinbych
  3. Llio Meirion Rogers, Efenechtyd, Rhuthun, Sir Ddinbych

Bandiau Pres Dosbarth 2 (12)

  1. Band Llanrug
  2. Band Llwydcoed
  3. Band RAF Sain Tathan

Yr Eisteddfod: Wythnos i fynd

Cyhoeddwyd Gorffennaf 21, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Wrecsam 2011


Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, sy’n blogio o faes hynod o braf…

A dyma ni ar y Maes gyda chwta wythnos i fynd cyn y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn cychwyn, ac rwy’n gwybod mod i wedi sôn y byddwn i’n blogio mwy, ond mae’r dyddiau’n hedfan heibio yr adeg yma o’r flwyddyn.

Erbyn hyn dwi bron â bod wedi symud i’r Maes – bron â bod meddwn i gan fod y swyddfa yn y broses o symud.  Ond o leiaf, mae ‘na gadair, desg a gliniadur yma, felly mae modd dal i fyny gyda negeseuon a chael eiliad i ysgrifennu hwn!

Mae’n faes hynod o braf.  Roeddem ni i fyny yn y Ganolfan Groeso ddoe yn rhoi trefn ar bethau, ac yn edrych i lawr ar Gylch yr Orsedd, y Maes a’r Pafiliwn.  Er ei bod wedi glawio tipyn dros y dyddiau diwethaf, mae’r Maes mewn cyflwr ardderchog a gobeithio’n arw y bydd hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf.

Peth od yw Maes yr Eisteddfod heb Eisteddfodwyr.  Cae ydi o heb y bobl – a’r bwrlwm a’r cynnwrf sy’n ei droi’n Faes.  A gobeithio y bydd pobl yn tyrru yma i Wrecsam gan fod gwledd yn eu haros.

Yn ystod yn cyfnod cyn yr Eisteddfod mae pawb yn gofyn i mi ‘Beth sy gennych chi’n newydd eleni?’  Mewn gwirionedd, mae popeth ar y Maes yn newydd – a dyna yw un o’r pethau gorau amyr Eisteddfod.  Unwaith mae’r wythnos ar ben, dyna ni, rydan ni’n symud ymlaen at y Brifwyl nesaf, gan sicrhau bod yr arlwy’n wahanol ac yn gweddu i’r ardal a dyheadau’r pwyllgorau lleol.  Mae’n bwysig cael blas lleol mewn Eisteddfod,  dyna pam fod Eisteddfod Wrecsam yn mynd i fod yn wahanol iawn i Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd, a pham fod honno’n wahanol i Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau ddwy flynedd yn ôl.

Ond mae ‘na rywbeth gwirioneddol newydd eleni, a rydw i’n bersonol yn falch iawn o weld y datblygiad yma – Cefnlen.  Cyfres o weithdai ymarferol ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o ysgrifennu yn y Gymraeg yw’r rhain, wedi’u trefnu ar y cyd gennym ni fel Eisteddfod, Barddas a Tŷ Newydd, sy’n rhan o Llenyddiaeth Cymru.  Mae ‘na gymysgedd o ryddiaith a barddoniaeth a rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n boblogaidd iawn.  A wyddoch chi lle mae Cefnlen?  Yn nghefn y Babell Lên wrth gwrs!

Mae ‘na newidiadau wedi bod yn y Theatr hefyd.  Rydan ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae gennym ni adeilad pwrpasol ar gyfer y Theatr a chaffi dros ffordd i’r adeilad erbyn hyn.  Caffi’r Theatrau yw ei enw a dyma’r lle i ddod am wybodaeth am y cynyrchiadau diweddaraf ac i brynu tocynnau ayb.

Ac mae ‘na newidiadau i’r arlwy yn y Theatr hefyd.  Mae ‘na slot newydd eleni – y slot 17.30 – dramau diwedd y p’nawn.  Cyfle i fwynhau drama fer cyn ei throi hi am adref.  Gobeithio y bydd y rhain yn cydio, a  rydan ni hefyd wedi creu slot newydd ar gyfer yr ŵyl ddrama a oedd yn arfer bod gyda’r nos – Gŵyl Ddrama Awr Ginio yw hi rwan – ac mae hyn eisoes wedi cael croeso brwd gan nifer o bobl.  Mae ‘na ragor o wybodaeth am y newidiadau yma yn ein cylchlythyr drama ar ein gwefan – ac yn y Rhaglen Swyddogol wrth gwrs.

Mi fydd gweddill y tîm yn dechrau cyrraedd o yfory ymlaen, felly bydd y lle’n prysuro.  Mae criw y Maes yn tynnu tua therfyn eu gwaith nhw a’r gwaith o addurno a pharatoi popeth ar gyfer yr ymwelwyr yn cychwyn.  Mae nifer o bethau eisoes wedi cyrraedd a’n gobaith yw y bydd y Maes eleni’n fwy lliwgar na’r gorffennol.

Beth bynnag, mi ddo i’n ôl at hyn ymhen ychydig ddyddiau pan ga i funud i ddal i fyny gyda chi!

Pethau’n poethi ar faes yr Eisteddfod

Cyhoeddwyd Gorffennaf 4, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Wrecsam 2011


Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards sy’n edrych ymlaen at ddechrau’r Eisteddfod Genedlaethol…

Wythnos arall, a’r ffôns hyd yn oed yn brysurach yr wythnos hon na’r wythnos ddiwethaf – a phan dwi’n  mynd adref ar ddiwedd y dydd, dwi’n dal i glywed y ffôn yn canu yn fy nghlustiau!  Ond, mae’n braf clywed cynifer yn ffonio i archebu tocynnau o bob math – o’r cynllun dau am un ar gyfer trigolion ardal Wrecsam i’r cyngherddau nos a’r gwyliau ymylol.

Mae’r  tywydd braf – a lluniau’r Pafiliwn wedi’i godi yn Wrecsam yn gwneud i bobol droi eu golygon tua’r Eisteddfod gan ddechrau edrych ymlaen go iawn am y Brifwyl.  Mae’r amserlenni a’r crynodebau i gyd wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan erbyn hyn hefyd, felly mae hyn yn gyfle i bobl ddechrau ar y gwaith o ddewis a dethol beth yn union maen nhw am ei wneud yn ystod yr wythnos -  lle maen nhw am fynd a beth maen nhw am ei weld.

Mae’r tywydd braf hefyd yn berffaith ar gyfer y criw sydd wrthi’n brysur ar y Maes – mae’n llawer brafiach gweithio yn yr haul a’r adeiladau’n cael eu codi’n llawer cyflymach.  Byddwn yn ôl ar y Maes yfory am y tro cyntaf ers rhai dyddiau ac fe fyddwn yn siwr o weld tipyn o newid ers i ni fod yno ganol yr wythnnos ddiwethaf.

Mae bob amser yn gyffrous troi’r gornel i mewn i’r maes parcio bach wrth ymyl swyddfa’r maes yn ystod y cyfnod hwn a gweld yr adeiladau i gyd yn codi fel madarch – a’r Maes yn edrych yn gwbl wahanol o diwrnod i ddiwrnod.

Rydan ni wedi dechrau mynd drwy’r capsiynau rydym wedi’u derbyn fel rhan o gystadleuaeth capsiynau Maes C – dipyn o hwyl a chyfle i ennill tocynnau ar gyfer gweithgareddau’r wythnos.  Mae’r deunyddiau hyrwyddo ychydig yn wahanol eleni, gan ddefnyddio rhai o luniau archif yr Eisteddfod.  Os ydych chi eisiau tro ar y gystadleuaeth, ewch i’r wefan a chlicio ar Maes C – 15 Gorffennaf yw’r dyddiad cau – a gobeithio y byddwn yn derbyn capsiynau sy’n ddigon da i’w defnyddio fel posteri a phanelau yn y Ganolfan Groeso a Maes C yn ystod yr wythnos.

Mae’r rhain i gyd yn clymu i mewn gyda’r dathliadau 150 eleni a chyda’r prosiect atgofion yn arbennig.  Eto, mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ni am hwn a gallwch rannu’ch atgofion drwy’r we hefyd.

Byddaf yn sôn mwy am hwn cyn bo hir ond yn y cyfamser, dyna’r ffôn a gwell i minnau fynd i’w ateb!

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i dir gwelltog

Cyhoeddwyd Gorffennaf 1, 2011 gan Hywel Wyn Edwards. Dim sylw.

Tagiau: Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Wrecsam 2011


Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards sy’n dweud ei fod yn braf gweld y gwyrddni dan draed…

Mae’n fis Gorffennaf a dyma fi’n addo dechrau go iawn ar y blogio am yr Eisteddfod eleni.  Mae’r misoedd diwethaf wedi hedfan, ond pan welais i’r Pafiliwn Pinc yn cael ei godi ar Fferm Bers Isaf ddechrau’r wythnos, dyna sylweddoli’i bod hi’n hen bryd i mi ail-ddechrau cyfrannu i hwn.

A beth sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf?  Do, fe godwyd y Pafiliwn, ac fel mae’r llun yn ei ddangos, rydan ni’n dychwelyd i dir gwelltog eleni – i gae go iawn – ac mae’n braf gweld y gwyrddni dan draed.  Mae’r tir mewn cyflwr arbennig o dda, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cytuno bod y Maes yn un braf iawn eleni.

Unwaith mae’r Pafiliwn i fyny, mae’r adeiladau eraill yn ymddangos ac yn tyfu fel madarch mewn dim o dro, ac er mod i wedi bod yn gweithio gyda’r Eisteddfod am nifer o flynyddoedd, mae gweld y Pafiliwn Pinc yn cael ei godi yn dal i fod yn brofiad eithaf emosiynol.  Nid yn unig oherwydd ei fod yn golygu bod rhaid i bopeth fod yn barod cyn bo hir, ond hefyd, gan bod cynifer o Gymry’n edrych ymlaen i ddod i’r Eisteddfod – ac mae hyn yn amlwg eto eleni, gyda’r ymateb i godi’r Pafiliwn yn arbennig.  Ond does neb yn edrych ymlaen yn fwy na fi a’r staff – ydi, mae’n wythnos flinedig iawn, ond dyma binacl y flwyddyn i bawb.


Y Pafiliwn Pinc

Mae’r ymateb lleol yn Wrecsam wedi bod yn ardderchog, a dyfal barhad ein gwirfoddolwyr a’n pwyllgorau lleol i godi arian ac ymwybyddiaeth yn anghredadwy.  Dydi hi byth yn hawdd codi arian mewn cyfnod o gynni economaidd, ond mae pobl Wrecsam wedi mynd ati gyda’r fath frwdfrydedd – a syniadau gwreiddiol a cwbl wahanol!  Rydan ni fel staff wedi cael croeso cynnes iawn gan drigolion yr ardal, a chan ein partneriaid fel y Cyngor lleol, sydd wedi bod yn arbennig o gefnogol.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn mynd ati ymhellach i addurno’r ardal.  Mae pob ysgol yn y dalgylch wedi derbyn fflagiau a phosteri, a rhai ohonyn nhw wedi bod wrthi’n brysur yn addurno o amgylch buarth yr ysgol a’r ystafelloedd dosbarth.  Ddechrau’r wythnos, clywsom y newyddion trist bod fflagiau un o’r ysgolion cynradd wedi’u difrodi, ond erbyn hyn, mae’r disgyblion wedi derbyn rhagor gennym, ac maen nhw’n edrych ymlaen i fynd ati i addurno eto dros y dyddiau nesaf.  Gobeithio wir na fydd y fflagiau yma’n cal eu difrodi.

Mae busnesau lleol hefyd wedi bod yn cysylltu er mwyn derbyn  fflagiau – ac mae teitl yr ymgyrch yn hollol gywir eto eleni – ffoli ar fflagiau – neu mynd yn boncyrs am bynting!  Rydym ni eisoes wedi dosbarthu 10km o fflagiau ac mae rhagor yn ein cyrraedd dros y dyddiau nesaf.  Bydd baneri, fflagiau a phosteri ym mhobman –gobeithio – wrth i’r Eisteddfod agosau, a gresyn nad oes modd i ni fod yn addurno’r priffyrdd tuag at Wrecsam er mwyn dangos y croeso cynnes, ond byddai hyn yn erbyn y gyfraith felly gwell peidio!

Felly, pedair wythnos i fynd – pedair wythnos cyn y cyngerdd agoriadol.  Ydych chi wedi prynu’ch tocynnau eto?  Cofiwch wneud ymlaen llaw – www.eisteddfod.org.uk – neu ffoniwch 0845 4090 800 – ac fe fydda i’n ôl efo rhagor o straeon dros y dyddiau nesaf.

1 Mawrth – dechrau’r ymgyrch fawr


A dyna ni, 1 Mawrth drosodd am flwyddyn arall!  Mae llawer o waith staff yr Eisteddfod yn canolbwyntio ar  y dyddiad hwn wrth i docynnau’r cyngherddau fynd ar werth.

Dyma’r cyfle cyntaf i weld a yw’r arlwy’n debygol o apelio, ac os yw nifer y galwadau ffôn, yr archebion arlein, a phobl yn dod i’r swyddfa i brynu  ddoe yn arwydd o’r hyn i ddod, gallwn groesi bysedd ein bod wedi llwyddo i greu cyfres o gyngherddau a fydd yn apelio at ymwelwyr o bob oed – yn Eisteddfodwyr selog ac ymwelwyr newydd.  Mi oedd hi fel ffair yn y swyddfa!

1 Mawrth yw cychwyn yr ymgyrch fawr i ddenu pobl i’r Eisteddfod.  Dyma pryd mae’r gwaith go iawn o hybu a hyrwyddo gŵyl eleni’n dechrau.  Er ein bod yn gweithio i godi proffil  yr Eisteddfod drwy gydol y flwyddyn, mae pethau’n newid gêr o 1 Mawrth ymlaen.  Ar hyn o bryd, mae 80,000 o lyfrynnau gwybodaeth wrthi’n cael eu dosbarthu ar hyd a lled y wlad, mae posteri newydd yn y wasg a safle docynnau newydd wedi’i lansio ar y we, felly mae popeth mewn lle i’n helpu ni gyda’r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Brysiwch da chi yw’r neges i unrhyw un sy’n gobeithio cael lle yn y maes carafanau swyddogol.  Ychydig iawn o le sydd ar ôl, a chyda nifer o geisiadau’n dod drwy’r post bob dydd, buan iawn y bydd y safleoedd yma wedi’u llenwi.  Mae’r maes carafanau y drws nesaf i’r Maes ei hun eleni sy’n gyfleus iawn, a chynhelir Maes C yn Ysgol Clywedog – yr hen Ysgol Bryn Offa i’r rheini ohonoch a fagwyd yn yr hen ‘Clwyd’.  Byddwn yn cyhoeddi arlwy Maes C cyn bo hir hefyd – ac mae ‘na nosweithiau go arbennig yn y lein yp eleni, a buan iawn y bydd y tocynnau yna’n cael eu gwerthu – gobeithio!

Ond Eisteddfod symol iawn fyddai hi heb unrhyw gystadlu na seremonїau, felly tra bo’r gwaith cyhoeddus yn parhau i annog pobl i ddod atom, mae’r dyddiadau cau yn dal i gyrraedd ar gyfer cystadleuwyr.  Mae nifer ohonyn nhw wedi pasio erbyn hyn, ac  1 Ebrill yw’r dyddiad mawr nesaf – dyddiad cau y cystadlaethau cyfansoddi.

Ydych chi wedi clywed y si, ‘sgwn i?  Ydych chi wedi clywed bod rhai o feirdd Cymru wrthi’n brysur yn cynganeddu ac yn cyfansoddi mwy nag arfer?  Os ddyweda i 1912 ac 1977, efallai y byddwch yn gwybod am beth ydw i’n sôn.  Mae Eisteddfod Wrecsam yn arbennig i feirdd Cymru – dyma dref y ‘dybl dybl’.

Rydym wedi gweld y ‘dybl’ ychydig o weithiau rwan, sef yr un person yn ennill y Gadair a’r Goron – ond y ‘dybl dybl’?  Dim ond yn Wrecsam y mae hyn wedi digwydd – erioed.  Yn 1912, enillodd T.H. Parry-Williams y Gadair a’r Goron (ac aeth ymlaen i gyflawni’r ‘dybl’ eto ym Mangor dair blynedd yn ddiweddarach), ac yna yn 1977, tro Donald Evans o Dalgarreg oedd hi i sefyll ar ei draed brynhawn Mawrth a Iau i sain yr utgyrn!  Llwyddodd yntau i ailadrodd y gamp dair blynedd yn ddiweddarach yn Nyffryn Lliw yn 1980.

Ond yn ôl at y si eleni.  Maen nhw’n dweud bod rhai o’n beirdd yn bwriadu ymgeisio am y Gadair a’r Goron eleni, gan fod Wrecsam yn Eisteddfod lwcus iawn, ac mae ‘na un neu ddau eisiau creu hanes drwy droi Wrecsam yn dref y ‘trebl’.  Ond mae mis i fynd cyn y dyddiad cau hyd yn oed, ac ar  ôl hynny, mae’n rhaid i’r gwaith apelio at feirniaid y ddwy gystadleuaeth, a byddai’n rhaid i’r awdl a’r bryddest gyrraedd y brig.  Ond pwy â ŵyr!  Bydd rhaid disgwyl tan 5 Awst i weld a fydd Wrecsam yn ennill y trebl ac a fydd un o feirdd Cymru’n ymuno gyda T.H a Donald Evans yn Oriel yr Anfarwolion.

Ac wrth gwrs, pwt arall o newyddion – a nid si mo hon.  Rydan ni newydd gyhoeddi mai Dinbych fydd cartref yr Eisteddfod yn 2013, wrth i ni ddychwelyd i dir Fferm Kilford.  Ond mwy am hynna y tro nesaf!

150 o ddyddiau sydd i fynd tan yr Eisteddfod rwan – dydi o ddim yn amser hir, ac fel pob blwyddyn arall, mae llawer i’w wneud yn ystod y cyfnod byr hwn.  Byddaf yn  blogio’n rheolaidd dros y misoedd nesaf gyda rhai o’r straeon wrth i Wrecsam baratoi ar gyfer y Brifwyl – a chydag un neu ddau o bytiau eraill yma ac acw mae’n siwr!

‘Make-over’ i’r Orsedd?

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, sy’n trafod y newidiadau mwyaf i Orsedd y Beirdd ers dyddiau Iolo Morganwg…

Rydan ni wedi cael tipyn o sylw i’r ffaith bod yr Orsedd yn chwilio am Feistres – neu Feistr – newydd i’r Gwisgoedd, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.  A thros y dyddiau nesaf, rydan ni’n gobeithio y bydd argymhellion diweddaraf Bwrdd yr Orsedd yn ysgogi trafodaeth.  Mae ‘na newidiadau mawr ar droed os yw cyfarfod cyffredinol yr Orsedd yn eu cytuno yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac efallai y bydd y gwisgoedd y bydd y Feistr neu’r Feistres newydd yn gyfrifol amdanyn nhw’n eithaf gwahanol erbyn 2012.  Na, dyw’r Orsedd ddim yn cael ‘make-over’ – wel, ddim yng ngwir ystyr y gair, ond fe fydd ‘na newidiadau sylfaenol iawn os yw’r cynlluniau’n cael eu pasio.  Yn wir, dyma’r newidiadau mwyaf i’r Orsedd ers cyfnod Iolo Morganwg ei hun.

Yr wythnos hon, bydd yr Orsedd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr hyn a drafodwyd yn eu cyfarfod cyffredinol ym Mlaenau Gwent eleni.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i sicrhau bod pawb yn ymuno â’r Orsedd ar yr un gwastad, gan sicrhau nad oes un lliw’n ymddangos yn fwy pwysig nag unrhyw un arall.  Mae’r cynllun yn dileu dosbarthiad yr Ofydd a Derwydd, a dim ond enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd fyddai’n derbyn y Wisg Wen, gyda’r wisg honno’n parhau i gynrychioli’r berthynas bwysig sy’n bodoli rhwng yr Orsedd a’r Eisteddfod ei hun.

Ond, dyw’r lliwiau i gyd ddim yn diflannu – ond yn hytrach, byddai’r lliwiau’n cynrychioli gwahanol arbenigedd neu ddoniau, gyda’r posibilrwydd o greu lliw arall yn cael ei drafod, lliw ar gyfer y rheini a urddir yn sgil eu cyfraniad i gymdeithas neu ym myd y campau.  Felly, fydd Meistres neu Feistr y Gwisgoedd ddim yn segur o bellffordd os y bydd y cynnig yma’n cael ei basio.

Ac mae digon o gyfle i drafod.  Mae Bwrdd yr Orsedd yn awyddus i Orseddigion gael cyfle i fynegi barn, ac felly, ni fydd y mater yn cael ei benderfynu’n derfynol tan y cyfarfod cyffredinol ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac os y bydd popeth yn cael ei gytuno bryd hynny, bydd y newidiadau’n dod i rym yn Eisteddfod Bro Morgannwg – ym mro Iolo Morganwg ei hun – y flwyddyn ganlynol.  Felly, os oes gennych chi farn am y newidiadau arfaethedig – mynegwch hi da chi dros y misoedd nesaf.  Gswyliwch allan yn y wasg a’r cyfryngau am wybodaeth am sut i fynegi barn.

Ac wrth gyffwrdd yn fan’na ag Eisteddfod 2012, a gynhelir ym Mro Morgannwg, braf yw nodi ein bod wedi pennu dyddiad ar gyfer cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal i ddechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y Brifwyl ymhen dwy flynedd.  A buan iawn y bydd hi’n 2012, credwch chi fi.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu fod yn rhan o’r tîm a fydd yn gweithio ar yr Eisteddfod hon, neu os ydych chi’n awyddus i glywed am rai o’r syniadau ar ei chyfer, mae croeso i chi fynychu’r cyfarfod yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, nos Fercher 6 Hydref am 18.30.  Byddwn yn hyrwyddo’r cyfarfod yma dros yr wythnosau nesaf, a gobeithio’n arw y byddwn yn gweld nifer fawr o bobl yn neuadd yr ysgol ar y noson.

Hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen fydd safle’r Eisteddfod a gynhelir o 4 Awst – 11 Awst 2012.  Cofiwch y dyddiadau, a chofiwch hefyd ddod atom i ardal sydd heb fod yn gartref i’r Brifwyl ers 1968 – a chyn hynny, 1920 – felly, mae’n hen bryd ein bod yn dychwelyd i’r Fro.  A gobeithio y bydd y torfeydd a ddaeth atom i Lyn Ebwy eleni, ac a gafodd flas ar yr Eisteddfod yn dychwelyd atom eto i Fro Morgannwg, sy’n gyfleus ar gyfer Caerdydd a rhan helaeth o dde Cymru.  Ond llawer mwy am Fro Morgannwg dros y misoedd wrth i ni ddechrau ar y paratoi – mae Wrecsam i ddod cyn hynny, ac mi fydda i’n sôn mwy am yr hyn sydd ar y gweill yno y tro nesaf.

Taith y Pafiliwn Pinc yn parhau…

Hywel Wyn Edwards sy’n dweud hwyl fawr i un Eisteddfod, gan ddechrau edrych ymlaen i’r nesaf…

Wel, fe dynnwyd y Pafiliwn Pinc i lawr ac fe gaeodd y stondinau am flwyddyn arall.  Aeth y Gadair a’r Goron i gartrefi newydd, a chafodd y corau a’r bandiau dipyn o hoe ar ôl yr holl gystadlu.  A hoe oedd hanes staff yr Eisteddfod hefyd, ar ôl i bopeth ddod i ben.  Lle digon unig a thrist yw Maes yr Eisteddfod fore Sul ar ôl i’r cyfan ddod i ben.  Ychydig o lanast sydd ar ôl; y geriach a adawyd ar ôl gan stondinwyr.  Ond mae’r atgofion yn parhau.  Does dim angen y Pafiliwn Pinc i atgoffa pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd bod yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn yr ardal eleni – er bod nifer wedi bod yn awyddus i’w gadw yno!

Ond mae taith y Pafiliwn Pinc yn parhau, a pharhau hefyd y mae’n taith ninnau.  Yr wythnos nesaf, byddwn yn cerdded y tir yn Fferm Bers Isaf, Wrecsam.  Mae cerdded y tir yn rhan bwysig o’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn adnabod pob modfedd o’r tir, ac y flwyddyn nesaf, byddwn yn dychwelyd at dir amaethyddol.

Dechrau eto y bydd ymarferion y Côr  yn Wrecsam ymhen rhai wythnosau, nos Sul 26 Medi, ac mae ffons y swyddfa eisoes yn brysur gyda phobl eisiau copїau cerddoriaeth er mwyn dechrau ymarfer ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae nifer fawr eisiau gwybodaeth am garafanio ac am lety yn ardal Wrecsam.  Efallai eich bod yn teimlo bod hyn yn gynnar iawn, ond dydi o ddim mewn gwirionedd.

Wyddoch chi mai dim ond un ar ddeg wythnos a hanner sydd i fynd cyn y dyddiadau cau cyntaf – llai na thri mis!  Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen ein cyrraedd ni erbyn 1 Rhagfyr.  Felly, os ydych chi am lwyddo fel Grace Roberts neu Jerry Hunter yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, gobeithio’n arw eich bod wrthi’n brysur yn ysgrifennu erbyn hyn!

Ac unwaith mae’r dyddiadau cau’n cychwyn, mae’r holl brysurdeb cystadleol yn dychwelyd, gyda’r prosesu, y beirniadu ac yn y blaen yn llenwi oriau staff am fisoedd lawer, a dyw’r gwyliau fis Awst a’r cyfle i asesu a gwerthuso’r Brifwyl ym mis Medi’n ddim ond atgof.

Mae 2011 yn argoeli i fod yn ddiddorol am nifer o resymau.  Nid yn unig mae’r Eisteddfo yn dychwelyd i Wrecsam, tref a fu’n gartref i’r Brifwyl ddiwethaf yn 1977, ond mae’r Eisteddfod ei hun hefyd yn dathlu pen blwydd go arbennig.  Byddwn yn dathlu 150 o flynyddyoedd ar ein ffurf bresennol.  Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n brysur yn trefnu’r gweithgaredd a’r ymgyrch i ddathlu, a byddwn yn sicr o rannu’r cyfan yn y blog hwn dros yr wythnosau nesaf.

Mae’n argoeli i fod yn gyffrous, yn uchelgeisiol, ac yn mynd i ychwanegu at naws arbennig Wrecsam a’r Fro.  Eisoes bu peth gwaith paratoi, gyda’r elfen o ddathlu’n rhedeg fel edau drwy destunau Eisteddfod 2011, felly, dros y misoedd nesaf – ac yn enwedig ymhen deg mis a hanner, cawn weld pwy fydd yn dathlu go iawn, pan fydd y golau’n pylu a’r corn gwlad yn atsain drwy’r Pafiliwn.  Ond cyn llwyddo, rhaid cofio anfon y gwaith atom – felly, cofiwch da chi – un ar ddeg wythnos a hanner tan y dyddiad cau cyntaf!

Symud ymlaen i Flaenau Gwent

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n dathlu rhan bwysig o draddodiad yr Eisteddfod…

Efallai i Elfed Roberts sôn y byddai’n falch o weld rhywfaint o law yn disgyn yng Nglyn Ebwy dros yr wythnosau nesaf, ond croesi bysedd am haul ac awyr las roedden ni’n ei wneud ar gyfer Seremoni’r Cyhoeddi, a gynhaliwyd yn Wrecsam ddydd Sadwrn.

A diolch i’r drefn, haul a gawsom, gyda thywydd bendigedig – a ddim yn rhy boeth – drwy’r dydd.  Tywydd Cyhoeddi perffaith.  Mae’n syndod faint o waith yw trefnu’r  Cyhoeddi – yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r elfen o hwyl a gŵyl ddatblygu.  A chredwch chi fi, dydi hi ddim yn hawdd trefnu gorymdaith a sicrhau bod pawb yn eistedd yn y cadeiriau cywir am seremoni gyfan!

Ond mae’r Cyhoeddi’n rhan bwysig o draddodiad yr Eisteddfod, ac yn gyfle i ni ddathlu’r ffaith bod y Brifwyl yn ymweld ag ardal benodol y flwyddyn nesaf.  Mae’n ffordd dda o ennyn diddordeb a chael y rheini sy’n frwdfrydig i ddod atom i wirfoddoli fel mae hi’n prysuro tua’r hydref a thros y gaeaf.

Roedd gwirfoddolwyr Wrecsam yn wych, yn stiwardio, helpu ar y stondinau, yn gwerthu’r Rhestr Testunau o gwmpas Cylch yr Orsedd, ac yn sicrhau bod gan yr Orsedd baned a bod eu penwisgoedd yn syth cyn iddyn nhw ddechrau ar yr Orymdaith.  Byddai’n anodd iawn trefnu seremoni o’r fath heb gymorth ein gwirfoddolwyr, felly hoffwn ddiolch o waelod calon i chwi oll am eich cymorth a’ch cefnogaeth ddi-flino.

Un o’r elfennau pwysicaf – a mwyaf poblogaidd os yw’r prysurdeb ar ein stondinau ddiwedd y prynhawn yn arwydd o unrhyw beth – sy’n digwydd adeg y Cyhoeddi yw lansio’r Rhestr Testunau, ac yn wir, roedd pobl yn heidio i’r stondin ger Swyddfeydd y Cyngor, yn lenorion, beirdd, cerddorion ac yn aelodau o’r cyhoedd, i gyd eisiau prynu copi o rywbeth a lansiwyd mewn digwyddiad mor hynod.  Fe werthwyd nifer fawr o gopїau ac erbyn heddiw, bydd wedi cyrraedd siopau ar hyd a lled Cymru ac mae modd ei brynu hefyd ar ein gwefan – www.eisteddfod.org.uk. Gobeithio’n arw y bydd ei gynnwys yn apelio atoch i gyd, ac rwy’n siwr y cawn gyfle i sôn am ambell destun a chystadleuaeth dros y misoedd nesaf, wrth i Eisteddfod Wrecsam a’r Fro agosau.

Ond am y tro, rydym ni’n troi’n golygon yn ôl i’r de ddwyrain ac i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.  Ymhen pythefnos, fe fydda i’n dechrau gweithio’n y swyddfa ar y Maes, ychydig ddyddiau cyn i’r rhan fwyaf o staff eraill y swyddfa gyrraedd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael trefn ar bethau ac i asesu popeth ar y Maes ac yn y swyddfa cyn i bawb arall gyrraedd ac i’r Eisteddfod i gyd symud i Flaenau Gwent.

Un datblygiad cyffrous ar gyfer eleni yw’r iSteddfod, sef ‘app’ ar gyfer yr  iphone neu’r ipod Touch, a fydd yn sicr o apelio at ein hymwelwyr a’n cynulleidfa.  Mae’n wasanaeth heb ei ail sydd wedi’i ddatblygu gan ddau ŵr ifanc, sy’n galw’u hunain yn FiaFo.  Bwriad yr app yw cynnig gwybodaeth am weithgareddau o bob math ar y Maes, a rhoi gwybodaeth am leoliad stondinau – yn wir – unrhywbeth y byddwch ei angen, ac y bydd hyn i gyd ar gael yn eich iphone.  Tipyn o ‘app’ a thipyn o wasanaeth i’r rheini ohonoch sy’n ymwneud ac yn mwynhau’r math yma o beth.  Dwi’n siwr y byddwn yn trafod mwy ar hyn cyn i’r Eisteddfod agor ei giatiau.

Ond fe fydd y rheini ohonoch sydd heb gyrraedd yr  uchel-leoedd technolegol ynsicr o fod yn  falch o glywed y bydd y Rhaglen Swyddogol ar gael erbyn diwedd yr wythnos, ac fe fydd ‘highlighters’ yn cael eu defnyddio ym mhob cwr o Gymru dros y penwythnos, wrth i Eisteddfodwyr selog fynd ati i gynllunio a rhoi trefn ar eu hwythnos, gan baratoi ar gyfer Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.

Hyrddod yn hyrwyddo’r ‘Steddfod!

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n edrych ar y gwaith o godi arian a hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent…

Mae Wythnos Addysg i Oedolion 2010 yn dechrau yfory, wythnos bwysig i hyrwyddo cyfleoedd addysg i bawb o bob oed, rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd ac i ail-gynnau diddordeb mewn pynciau o bob math.

Y penwythnos diwethaf roedd rhai o’r tîm yn Ysgol Glyncoed, Glyn Ebwy, i ddewis pedwar cystadleuydd ar gyfer rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn.  Fel arfer roedd y safon yn eithriadol o uchel, ac fel arfer roedd cynulleidfa arbennig o dda wedi dod i gefnogi’r ymgeiswyr, ond eleni, roedd mwy o gyffro nac arfer – roedd pawb wrth eu boddau bod cynifer wedi cystadlu – naw ar hugain o bobl – y nifer mwyaf erioed!

Roedd y naw ar hugain yn dod o bob math o gefndiroedd,  ac i gyd gyda rhesymau gwahanol a phersonol dros fynd ati i ddysgu’r Gymraeg.  Bwriad dydd Sadwrn oedd rhoi cyfle i’r beirniaid gael sgwrs gyda phawb ac yna, yn y prynhawn, i’r rhai ar y rhestr fer gael cyfweliad ar gyfer y rownd derfynol.  Yn ôl y sôn, roeddan nhw’n ardderchog, ac ar ddyddiau fel yna, rwy’n falch iawn mai trefnu’r Eisteddfod y bydda i, a nid gorfod dewis enillydd neu fuddugwyr!

Ac fe fum yn meddwl wedyn am y gystadleuaeth hon a pha mor bwysig yw gwobrwyo a chefnogi’r rheini sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith.  Un o amcanion yr Eisteddfod Genedlaethol yw annog pobl i fynd ati i ddysgu Cymraeg ac i gymryd diddordeb yn yr iaith a’n diwylliant, ac mae’n gyfrifoldeb bwysig iawn, yn enwedig mewn ardal fel Blaenau Gwent.  Roeddwn yn meddwl eto am eiriau Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Richard Davies, pan apeliodd am gefnogaeth pobl Cymru, gan ddweud:

“Dyma ein Eisteddfod ni.  Dyma’n cyfle ni fel siaradwyr Cymraeg, dysgwyr yr iaith a’i chefnogwyr lu i greu cyfleoedd diwylliannol ac ieithyddol i’n cymunedau lleol.  Mae’n gyfrifoldeb arnom oll i gofleidio’r gefnogaeth yma at yr iaith, ac i sicrhau bod yr Eisteddfod eleni yn tanio dychymyg y rhain a phawb arall yng  Nghymru.”

Mae geiriau Richard – un a fagwyd yn lleol, a sydd erbyn hyn yn dysgu mewn ysgol Gymraeg yn y dalgylch – yn bwysig, nid yn unig i ardal yr Eisteddfod, ond i Gymru gyfan, ac mae o’n iawn i ddweud bod cyfrifoldeb arnom ni oll i groesawu – i gofleidio hyd yn oed – y gefnogaeth yma at y Gymraeg a’r rheini sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith.  Nid pawb fydd yn cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ond mae dysgu’r iaith yn sicr o newid bywyd pob un.

Mae rhoi cyfleoedd – a thrwy hynny addysg gydol oes – yn rhan greiddiol o ethos yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae holl ymwneud y sefydliad gyda’r rheini sy’n gwirfoddoli ar ein pwyllgorau am fisoedd lawer yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl.  Mae’n debyg mai’r pwyllgorau apel lleol yw’r enghreifftiau gorau o hyn – mae croeso i unrhyw un ymuno – ac o’r pwyllgorau hyn ar lawr gwlad y daw rhai o’r syniadau mwyaf gwreiddiol a hwyliog am sut i godi arian.

Cawsom alwad yn y swyddfa ddoe, yn gofyn am gymorth i gynhyrchu posteri hyrwyddo ar gyfer rasus hwyaid a hyrddod – ie, hyrddod – i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod – a dyna bennawd – Hyrddod yn hyrwyddo’r ‘Steddfod!   Pa sefydliad arall sy’n rhoi cyfle i bobl leol ddod at ei gilydd i drafod a phenderfynu – mewn awyrgylch pwyllgor – y math yma o bethau?  Mae’n amlwg mai dyma ddigwyddodd yn y un o gyfarfodydd diweddar Pwyllgor Apel Dyffryn Ceiriog, ac fe fydd na bosteri hyrwyddo’n eu cyrraedd yn fuan iawn.  17.30 ar 4 Mehefin ar dir Ddol Penbryn, Llanarmon yw’r manylion gyda llaw, rhag ofn eich bod chi am alw draw!

A beth ond cyfle addysg gydol oes yw sefydlu côr yr Eisteddfod?  Bydd nifer o’r aelodau eisoes yn canu mewn gwahanol gorau’n lleol, ond mae croeso i unrhyw un ymuno â’r côr.  Unrhyw un sy’n mwynhau canu ac eisiau’r her o ddysgu darn o waith cerddorol a pherfformio ar lwyfan gydag unawdwyr o safon byd eang.  Buan iawn y daw taith – swyddogol o leiaf – Côr Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd i ben, pan fydd y côr yn canu Requiem hyfryd Mozart yn D leiaf ar lwyfan y Pafiliwn gyda Jason Howard, Wynne Evans, Leah-Marian Jones ac Iona Jones, gydag Alun Guy’n arwain, nos Fawrth 3 Awst.  Ond yr wythnos nesaf, cychwyn fydd taith Côr Wrecsam a’r Fro 2011, nos Sul 23 Mai yng Nghapel y Groes, Wrecsam am 19.30, gydag Ann Atkinson yn arwain.

Peth fel hyn yw Eisteddfod.  Fel mae taith gyhoeddus neu gyfnod un yn dod i ben, mae’r gweithgareddau ar gyfer yr un canlynol yn cynyddu a’r gwaith jyglo’n mynd yn ei flaen – gan y byddwn yn gweithio ar dair neu bedair Eisteddfod ar unwaith weithiau.  Ac yn aml, dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli cymaint o waith sy’n digwydd yn lleol dros gyfnod mor hir, gyda chymaint o bobl yn rhan o’r paratoi, y codi arian a’r gwaith hyrwyddo – a’r cyfan oll yn gyfle i ddefnyddio a dysgu Cymraeg, yn gyfle i ddysgu a defnyddio sgiliau newydd, ac yn gyfle i roi ffocws clir a phendant i wahanol gymunedau.

Ac yn olaf – rydan ni newydd glywed mai Only Men Aloud enillodd wobr albwm y flwyddyn yng ngwobrau’r Brits Clasurol neithiwr – gan guro’r Pab!  Llongyfarchiadau mawr i Tim a’r bechgyn.  Maen nhw’n hynod dalentog ond hefyd yn ysbrydoliaeth i gynifer o gorau ac unigolion.  Mae’r ymgyrch Only Boys Aloud yn y Cymoedd ar hyn o bryd yn ardderchog, ac yn sicr o roi hwb i’r byd corawl yng Nghymru.  Ac wrth gwrs , y nhw sy’n agor yr Eisteddfod nos Wener 30 Gorffennaf eleni.  Llongyfarchiadau lu – a chofiwch, dewch i’w gweld!

Un bleidlais wedi cau'n barod

Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n trafod canlyniadau pleidlais cyngerdd Clasur o Noson.

Gyda phawb ar hyd a lled y wlad yn mynd ati i bleidleisio heddiw, cyfri’r pleidleisiau oedd ein gwaith ni echdoe, wrth i ni fynd drwy’r dwy fil a mwy o bleidleisiau a dderbyniwyd ar gyfer y cyngerdd Clasur o Noson.

Yn debyg iawn i’r polau piniwn dros y mis diwethaf, roedd tipyn o gystadlu – a cheffylau blaen mewn gwahanol gategorїau’n newid o ddydd i ddydd.  Piti garw nad oedd gennym ninnau ‘swingometer’ crand yn y swyddfa o dro i dro wrth i’r pleidleisiau ein cyrraedd.  Ond yn wahanol efallai i ganlyniad heddiw, fe gafwyd enillwyr clir, a digon hawdd yn y pendraw oedd penderfynu ar rediad y cyngerdd, a gynhelir ar 5 Awst.

Efallai na fu llygaid y byd ar y bleidlais hon dros yr wythnosau diwethaf, ond rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y pleidleisio, trwy’r post, arlein ac mewn cymdeithasau a gweithgareddau lleol ar hyd a lled Cymru.  Diolch hefyd i’r sylw a gafwyd gan y wasg a’r cyfryngau.

Fe allwn i roi’r ystadegau, y canrannau a llond lle o wybodaeth am y pleidleisio, ond mae’n siwr ein bod ni oll wedi gweld cymaint o ffigurau’n dawnsio o flaen ein llygaid dros yr wythnosau diwethaf fel ei fod yn llawer haws cyflwyno’r wybodaeth fel rhestr hen ffasiwn, syml heb unrhyw ‘spin’ yn perthyn iddo!

  • Categori Corawl: Sadoc Ŵr Duw (Handel), Corws yr Haleliwia (Handel) ac Emyn y Pasg (Mascagni).
  • Categori Opera: Deuawd y Pysgotwyr Perl (Bizet), Grand March, Aida  ( Verdi)  a Votre Toast: Cân y Toreador, Carmen (Bizet)
  • Categori Cyfansoddwyr Cymreig: Tydi a Roddaist (Arwel Hughes), Suo Gân (trefniant George Wheldon), Hywel a Blodwen (Joseph Parry), Palladio (Karl Jenkins)
  • Categori Cerddorfaol: Nimrod, Enigma Variations (Elgar), Finlandia (Sibelius)
  • Categori Cerddoriaeth Boblogaidd : Schindler’s List (John Williams), Hymn to the Fallen (John Williams), Medli o Ffilmiau James Bond

Wrth ail-ddarllen y canlyniadau hyn, efallai nad yw’r pleidleisio wedi bod mor wahanol i’r hyn a geir heddiw wedi’r cyfan – dim un cyfansoddwr yn dod yn brig, ond yn hytrach, dau waith yr un gan Handel, John Williams a Bizet yn cael eu dewis, a rhai o’r ceffylau blaen cynharaf fel Mozart a Beethoven yn  methu ennill tir ar y munud olaf.

Dydw i ddim am geisio dadansoddi unrhyw beth ymhellach, ond gallaf eich sicrhau am un peth – bydd hwn yn gyngerdd a hanner!  Rydan ni eisoes yn trafod un neu ddau o berfformiadau ychydig yn wahanol, ac yn cysylltu â gwahanol unawdwyr ar hyn o bryd. Mae’r tocynnau ar werth rŵan, ac mae gwybodaeth ar wefan yr Eisteddfod.

Cofiwch hefyd bod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dechrau poethi dydd Sadwrn, pan fyddwn yn cael gwybod pwy fydd y pedwar yn y rownd derfynol eleni, ar ôl diwrnod o gystadlu brwd.  Mae croeso i unrhyw un alw draw i Ysgol Glyncoed yng Nglyn Ebwy o 10.00 ddydd Sadwrn i gefnogi’r naw ymgeisydd ar hugain sydd wedi cystadlu eleni – nifer ardderchog – a chawn wybod ar ddiwedd y dydd pwy fydd wedi llwyddo – cyn i ni wybod yn sicr pwy fydd yn llwyddo a beth fydd gwir ganlyniad y pleidleisio heddiw, efallai…

Ar nodyn cwbl wahanol, cyhoeddir cylchlythyr Eisteddfod Wrecsam a’r Fro heddiw, gyda llond lle o newyddion a gwybodaeth am y paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2011, ac yfory, gobeithio, byddwn yn cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr, ac yn cael ei anfon at dros 12,000 o unigolion yn rheolaidd drwy ebost erbyn hyn.  Ffordd cost-effeithiol – ac effeithiol – o gadw mewn cysylltiad gyda’n cefnogwyr.  Os nad ydych chi’n derbyn copi, cysylltwch drwy gofrestru arlein neu drwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk.

Gyda phawb ar hyd a lled y wlad yn mynd ati i bleidleisio heddiw, cyfri’r pleidleisiau oedd ein gwaith ni echdoe, wrth i ni fynd drwy’r dwy fil a mwy o bleidleisiau a dderbyniwyd ar gyfer y cyngerdd Clasur o Noson.

Yn debyg iawn i’r polau piniwn dros y mis diwethaf, roedd tipyn o gystadlu – a cheffylau blaen mewn gwahanol gategorїau’n newid o ddydd i ddydd.  Piti garw nad oedd gennym ninnau ‘swingometer’ crand yn y swyddfa o dro i dro wrth i’r pleidleisiau ein cyrraedd.  Ond yn wahanol efallai i ganlyniad heddiw, fe gafwyd enillwyr clir, a digon hawdd yn y pendraw oedd penderfynu ar rediad y cyngerdd, a gynhelir ar 5 Awst.

Efallai na fu llygaid y byd ar y bleidlais hon dros yr wythnosau diwethaf, ond rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y pleidleisio, trwy’r post, arlein ac mewn cymdeithasau a gweithgareddau lleol ar hyd a lled Cymru.  Diolch hefyd i’r sylw a gafwyd gan y wasg a’r cyfryngau.

Fe allwn i roi’r ystadegau, y canrannau a llond lle o wybodaeth am y pleidleisio, ond mae’n siwr ein bod ni oll wedi gweld cymaint o ffigurau’n dawnsio o flaen ein llygaid dros yr wythnosau diwethaf fel ei fod yn llawer haws cyflwyno’r wybodaeth fel rhestr hen ffasiwn, syml heb unrhyw ‘spin’ yn perthyn iddo!

  • Categori Corawl: Sadoc Ŵr Duw (Handel), Corws yr Haleliwia (Handel) ac Emyn y Pasg (Mascagni).
  • Categori Opera: Deuawd y Pysgotwyr Perl (Bizet), Grand March, Aida  ( Verdi)  a Votre Toast: Cân y Toreador, Carmen (Bizet)
  • Categori Cyfansoddwyr Cymreig: Tydi a Roddaist (Arwel Hughes), Suo Gân (trefniant George Wheldon), Hywel a Blodwen (Joseph Parry), Palladio (Karl Jenkins)
  • Categori Cerddorfaol: Nimrod, Enigma Variations (Elgar), Finlandia (Sibelius)
  • Categori Cerddoriaeth Boblogaidd : Schindler’s List (John Williams), Hymn to the Fallen (John Williams), Medli o Ffilmiau James Bond

Wrth ail-ddarllen y canlyniadau hyn, efallai nad yw’r pleidleisio wedi bod mor wahanol i’r hyn a geir heddiw wedi’r cyfan – dim un cyfansoddwr yn dod yn brig, ond yn hytrach, dau waith yr un gan Handel, John Williams a Bizet yn cael eu dewis, a rhai o’r ceffylau blaen cynharaf fel Mozart a Beethoven yn  methu ennill tir ar y munud olaf.

Dydw i ddim am geisio dadansoddi unrhyw beth ymhellach, ond gallaf eich sicrhau am un peth – bydd hwn yn gyngerdd a hanner!  Rydan ni eisoes yn trafod un neu ddau o berfformiadau ychydig yn wahanol, ac yn cysylltu â gwahanol unawdwyr ar hyn o bryd. Mae’r tocynnau ar werth rŵan, ac mae gwybodaeth ar wefan yr Eisteddfod.

Cofiwch hefyd bod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dechrau poethi dydd Sadwrn, pan fyddwn yn cael gwybod pwy fydd y pedwar yn y rownd derfynol eleni, ar ôl diwrnod o gystadlu brwd.  Mae croeso i unrhyw un alw draw i Ysgol Glyncoed yng Nglyn Ebwy o 10.00 ddydd Sadwrn i gefnogi’r naw ymgeisydd ar hugain sydd wedi cystadlu eleni – nifer ardderchog – a chawn wybod ar ddiwedd y dydd pwy fydd wedi llwyddo – cyn i ni wybod yn sicr pwy fydd yn llwyddo a beth fydd gwir ganlyniad y pleidleisio heddiw, efallai…

Ar nodyn cwbl wahanol, cyhoeddir cylchlythyr Eisteddfod Wrecsam a’r Fro heddiw, gyda llond lle o newyddion a gwybodaeth am y paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2011, ac yfory, gobeithio, byddwn yn cyhoeddi’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr, ac yn cael ei anfon at dros 12,000 o unigolion yn rheolaidd drwy ebost erbyn hyn.  Ffordd cost-effeithiol – ac effeithiol – o gadw mewn cysylltiad gyda’n cefnogwyr.  Os nad ydych chi’n derbyn copi, cysylltwch drwy gofrestru arlein neu drwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk.