Cynyddu maint testun

Golwg360

Y gwleidydd cwsg

Cyhoeddwyd Mai 15, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Gwelwyd yr olygfa yn y llun yma gan Jeff Davies o’r Fenni wrth iddo gerdded ar hyd Llwybr Dyffryn Wysg yr wythnos hon. Roedd mewn sied wrth ymyl y llwybr ger Bettws Newydd, Brynbuga.

A oedd yr ymdrech o ddal ei sedd yn yr etholiad wedi bod yn ormod i David Davies – neu efallai y sioc o orfod cydweithio gyda’r Lib Dems?

Gwawr y wleidyddiaeth newydd?

Dylan Iorwerth sy’n awgrymu y gallai newid y dyddiau diwetha’ fynd ymhellach eto…

Llai na diwrnod o’r llywodraeth glymblaid newydd ac mae wedi bwrw eira ym mis Mai ar fynyddoedd Eryri ac mae diweithdra eisoes wedi codi 9,000! Oedd o’n deud ar y diws.

O hyn ymlaen, y Clameroniaid fydd yn cael y bai am bopeth, yn enwedig gan Lafur a Phlaid Cymru. Ryden ni wedi troi cefn ar system ddwy blaid a chael system dau floc yn lle hynny.

Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd y gwleidydd Rhyddfrydol, Alex Carlile, yn sôn yn obeithiol am ail-lunio patrwm y pleidiau trwy wledydd Prydain ac am y posibilrwydd o glosio mawr rhwng Llafur a’r Democratiaid.

Bellach, mae’n ymddangos yn debyg bod David Cameron yn ceisio llunio rhyw fath o bartneriaeth lawer mwy parhaol na hon rhywfaint i’r dde o’r canol. Os daw PR, fe allai Clameroniaeth fod yn drefn hirdymor.

Beth wnaiff Llafur?

Dyna pam fod cam nesa’r Blaid Lafur yn allweddol bwysig. Mi fydd yn cymryd hoe i ddewis arweinydd newydd ac, os ydi’r elfennau mwy meddylgar o’i mewn yn cael eu ffordd, yn ystyried ei chyfeiriad hefyd.

O ran seddi, mae hi bellach wedi ei chyfyngu i rannau diwydiannol o Gymru a’r Alban, i ychydig o’r Midlands, rhannau o Lundain a thalp go lew o ogledd Lloegr. Yn ôl at ei phleidlais graidd.

Mi fyddai rhai am ei gweld hi’n adeiladu ar hynny yn hytrach na cheisio newid ei chefnogwyr, fel y gwnaeth Tony Blair ac arbrawf Llafur Newydd. Mi soniodd Gordon Brown lawer yn ystod yr ymgyrch am y dosbarth canol; mae’n ymddangos na wnaethon nhw ddim gwrando.

Yn ôl felly at y Clabinet a’r lluniau ohonyn nhw’n cyrraedd Downing Street y bore yma. Roedd y Ceidwadwyr yn edrych fel cŵn â dwy gynffon a’r Democratiaid – ar wahân i Vince Cable – yn edrych mor sobor â’r glaw ar b’nawn anghynnes.

Ffrindiau gorau newydd

Mae llawer wedi cymharu’r uniad i garwriaeth fawr â phriodas; mewn gwirionedd mae Cameron a Clegg yn debycach i ddau ffrind gorau newydd. Ond bod un yn hogyn mawr sydd wedi prynu cyfeillgarwch y llall gyda bag o fferins.

Er ei bod yn beryg seilio barn ar luniau, roedd Nick Clegg y bore yma yn edrych fel rhywun oedd wedi deffro ar ôl noson fawr, fel petai hi newydd wawrio arno fo beth oedd wedi digwydd. Fydd trafod y toriadau ddim wedi helpu’r cur pen.

Mae Cymru’n dangos natur y ddau floc newydd yn well nag unman – Llafur a’r Blaid yn rheoli yng Nghaerdydd, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid yn Llundain. Sut fydd pawb yn ymgyrchu a phleidleisio yn ystod y cyfnod nesa’?

Tybed a allai’r drefn newydd yn Llundain wthio Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn nes at ei gilydd eto?

PR? Arlywydd mae pawb ei eisiau

Cyhoeddwyd Mai 12, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi o’n bryd diwygio’r system…

Mae wedi dod yn amlwg dros y dyddiau diwethaf bod Prydain yn crefu am ddiwygiad sylfaenol yn y ffordd ydan ni’n ethol ein harweinwyr ni.

Na, dw i ddim yn sôn am gynrychiolaeth gyfrannol, prif gonsesiwn y Ceidwadwyr cyn gallu ffurfio clymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dw i’n siarad am arlywydd. Dyw’r cyfryngau, y pleidleiswyr na’r pleidiau wedi cyfaddef hynny dros y dyddiau diwethaf, ond mae’n amlwg mai dyna beth maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd.

Daeth hynny i’r amlwg yn gyntaf pan awgrymodd Gordon Brown y gallai aros ymlaen fel Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing tan yr hydref.

Roedd sylwebwyr gwleidyddol yn gandryll y gallai arweinydd oedd heb ei ethol yn y lle cyntaf aros ymlaen ar ôl colli etholiad.
Ac roedden nhw’n fwy blin byth pan awgrymodd o y byddai’n camu o’r neilltu cyn cynhadledd y Blaid Lafur i ganiatáu i arweinydd arall ‘heb ei ethol’ i gymryd ei le.

Fe wnaeth William Hague o’r Ceidwadwyr yn glir sut oedd ei blaid yn ei deimlo am hynny. “Rydyn ni eisiau sicrhau fod gan y wlad yma arweinydd wedi ei ethol,” meddai.

“Beth oedd pwynt dadleuon arweinydd y prif bleidiau os nad oedden ni’n dewis y person sy’n mynd i arwain y wlad?” gofynnodd y blogiwr Iain Dale echdoe.

Roedd dadleuon y prif bleidiau eu hunain hefyd yn arwydd bod gwleidyddiaeth yn newid yn y wlad yma. Mae pobol eisiau pleidleisio am arweinydd, ond nid yna’r sustem sydd gyda ni.

Dan y sustem sydd gyda ni, y Frenhines yw’r arweinydd. Pleidleisio dros gynrychiolydd yn San Steffan mae pobol yn ei wneud mewn Etholiad Cyffredinol, nid pleidleisio dros arweinydd plaid y person hwnnw.

Ac fe allai cynrychiolaeth gyfrannol arwain at aelod ‘heb ei ethol’ o’r drydedd neu bedwaredd plaid yn dod yn Brif Weinidog, pe bai’n gallu taflu clymblaid at ei gilydd.

Ers dechrau’r ganrif ddiwethaf mae’r Prif Weinidog wedi troi’n fwyfwy tebyg i arlywydd, a’r Brenin a’r Frenhines yn fwy o arweinydd mewn enw yn unig.

Efallai ei bod yn bryd diwygio’r system fel ein bod ni’n ethol un dyn penodol i swydd arweinydd – mae’n amlwg o’r sylwadau dros y dyddiau diwethaf mai dyna beth mae pawb ei eisiau yn y bôn.

Cweryl Cheryl

Rhiannon Michael sy’n gofyn a fydd Cheryl Gillan yn cadw ei lle fel Ysgrifennydd Cymru mewn clymblaid…

Pwy a wyr, erbyn diwedd y dydd efallai byddwn ni’n gwybod pwy fydd yn ffurfio llywodraeth yn San Steffan. Ar hyn o bryd, mae’r trafodaethau’n parhau ac mae’n bosib y bydden ni’n gweld llywodraeth enfys-aidd neu undod anghyfforddus rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr.

Beth fyddai pris yr undod hwnnw? Mae Michael Gove -fyddai yng nghabinet Cameron a gofal dros addysg pe bai’r Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif clir -wedi dweud y byddai’n fwy na hapus i ildio’i sedd i Ddemocrat Rhyddfrydol pe bai hynny’n sicrhau llywodraeth sefydlog.

Ond a yw’r un peth yn wir am Cheryl Gillan, sydd wedi bod yn llygadu swydd Peter Hain fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers peth amser? Cyn yr etholiad, awgrymodd Cameron y byddai hi’n cadw ei swydd. Ond gyda 8 AS Ceidwadol yng Nghymru bellach, pump yn fwy na chyn Mai 6 a’r fenyw hawliodd fwyd ci ar ei threuliau yn AS yn Amersham a Chesham, ymhell i ffwrdd o Gymru fach, a oes cyfiawnhad dros ei chadw yn ei swydd?

Oni fyddai clymblaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyfle euraid i gael gwared ar Cheryl heb godi gwrychyn? Er iddo fod yn absennol o lansiad maniffesto’i blaid, ac o unrhyw lun yn y maniffesto hwnnw, efallai bod cyfle i Roger Williams serennu ar y gorwel…

Penbleth dewis partner

Cyhoeddwyd Mai 10, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Morgan Jones sy’n ystyried yr opsiynau posib ar gyfer ffurfio’r llywodraeth nesaf …

Opsiwn #1 – Clymblaid neu gytundeb Glas a Melyn

Mae parodrwydd David Cameron i ddod i ryw fath o gytundeb gyda Nick Clegg wedi synnu rhai o ystyried y gwahaniaeth mewn polisi ar bynciau fel Ewrop, Trident a mewnfudo sydd rhwng y ddwy blaid.

Ond rydw i’n meddwl ei fod o’n gam craff iawn. Mae’n gwybod y bydd ei ben o ar y bloc os nad ydi o’n llwyddo i ffurfio llywodraeth. Mae yna esioes nifer sylweddol yn ei blaid ei hun sy’n teimlo ei fod o wedi gwneud cawlach o’r etholiad ac wedi symud y blaid yn rhy bell i’r canol.

Dyw hynny ddim yn deg iawn wrth gwrs – mae o wedi llwyddo lle’r oedd yr hen arweinwyr Toriaidd mwy adain dde – William Hague, Ian Duncan Smith, a Michael Howard – wedi methu. Ond yn sgil amhoblogrwydd Gordon Brown a’r dirwasgiad, mae rhai yn teimlo ei fod wedi gwastraffu cyfle euraid i ennill etholiad.

Mae David Cameron dan bysau i ddod i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol neu fe allen nhw redeg draw i ddwylo Llafur. Mae Nick Clegg eisoes wedi dweud ei fod yn amharod i gefnogi llywodraeth Lafur gyda Gordon Brown wrth y llyw.

Yr abwyd amlwg yw cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiad San Steffan. Allai fo ddim addo hynny ar blat – fe fyddai yna ryfel cartref o fewn ei blaid ei hun pe bai’n gwneud hynny. Ond fe allai addo refferendwm ar y pwnc ryw bryd yn y dyfodol.

Y broblem yw efallai na fyddai hynny hyd yn oed yn ddigon i ddenu Clegg. Mae arweinydd y Democratiad Rhyddfrydol yn gwybod y gallai David Cameron alw ail etholiad cyffredinol erbyn diwedd y flwyddyn, cyn i dyddiad y refferendwm gael ei gadarnhau, a sicrhau mwyafrif bryn hynny. Fe fyddai’n hawdd wedyn iddo gefnu ar y refferendwm a byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi elwa dim.

Opsiwn #2 – Clegg yn gwrthod clymbleidio gyda neb

Un opsiwn sy’n agord i Nick Clegg ydi mynd â’i bel adref gydag o. Gwrthod dewis rhwng yr un o’r ddwy blaid arall a drwy hynny ganiatáu i’r Ceidwadwyr ffurfio llywodraeth leafrifol.

Y fantais ydi y byddai’n osgoi gwrthryfel o fewn ei blaid ei hun am glymbleidio gyda plaid sydd â pholisïau gwahanol ar bynciau allweddol fel Ewrop a PR.

Mae’n debyg o gael ei farnu’n hallt gan rai pe bai’n dewis Llafur neu’r Ceidwadwyr. Yr anfantais ydi y byddai’n cael ei weld yn gwrthod cyfle unwaith mewn cenhedlaethy i sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau San Steffan.

Fe fyddai rhai hefyd yn ei weld yn anghyfrifol yn gwrthod helpu i greu llywodraeth sefydlog ynghanol argyfwng ariannol.

Yr eironi mawr yw y byddai llywodraeth Geidwadol yn siwtio Plaid Cymru a’r SNP yn iawn o ran gwthio eu hagenda wleidyddol gartref – sef sicrhau mwy o bwerau, neu annibyniaeth, i’r ddwy wlad. Mae polau piniwn yn yr Alban yn dangos y byddai cefnogaeth i Annibyniaeth yn codi’n sylweddol pe bai’r Ceidwadwyr yn rheoli yn San Steffan.

Opsiwn #3 – Clymblaid Geltaidd

Y dewis arall i Nick Clegg yw clymblaid ‘enfys’ gyda Llafur, yr SNP, Plaid Cymru a rhai o’r pleidiau llai eraill. Mae rhai’n dweud y byddai clymblaid o’r fath yn rhy anniogel i barhau, ond a ydi hynny’n dal dŵr?

Mae rhestr y consesiynau y mae’r pleidiau bychan yn galw amdanyn nhw yn eithaf penodol. Ac fe fyddai Plaid Cymru a’r SNP yn awyddus i gael eu gweld yn cadw’r Ceidwadwyr allan o lywodraeth, ac felly yn anhebygol o geisio tanseilio’r Llywodraeth yn nes ymlaen.

Y broblem fawr gyda chytundeb o’r fath ydi beth fyddai ymateb Lloegr, a bleidleisiodd yn llethol tros lywodraeth Geidwadol.

Clymblaid Geltaidd fyddai’r Glymblaid Enfys mewn gwirionedd, yn penderfynuar nifer o faterion na fydd yn effeithio ar Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon o gwbl. Mae’n anhebygol y byddai’n gwneud lles i Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol gael eu gweld yn rhoi mwy o arian i Gymru a’r Alban ar draul Lloegr ynghanol dirwsgiad.

Pen draw hynny fyddai naill ai datganoli i Loegr neu ymchwydd anferth mewn cefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Drwy gytuno i Glymblaid Enfys a fyddai Plaid Cymru a’r SNP yn newid strategaeth – gwell rheoli o Loegr nag sicrhau annibyniaeth gartref? Ynteu ydyn nhw’n bod yn bragmataidd yn wyneb yr argyfwng economaidd?

Cwffio Clegg yn lle Williams

Bleddyn Bowen, myfyriwr yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sy’n edrych ar beth aeth o’i le i Blaid Cymru yng Ngheredigion…

Yn fuan iawn ar ôl i’r blychau pleidleisio gyrraedd y cyfri yn Aberaeron, roedd hi’n amlwg bod Mark Williams yn mynd i gadw ei sedd yng Ngheredigion. Ond hyn yn oed wedyn, roedd y fuddugoliaeth o dros 8,000 o bleidleisiau yn sioc i bawb.

Dyma oedd sedd targed Rhif 1 Plaid Cymru, ar ôl ei golli o gwta 200 o bleidleisiau yn 2005. Felly beth oedd yn gyfrifol am y canlyniad syfrdanol?

Mae’n amlwg o ystyried y canlyniadau ar draws Prydain mai Cleggmania oedd un o fflops fwyaf yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn. Roedd e’n gwneud i Ddôm y Mileniwm Llundain edrych fel llwyddiant ysgubol.

Ond wrth i’r pentwr o bleidleisiau o blaid Mark Williams gynyddu, roedd tîm Plaid Cymru yn dal i feio dadleuon arweinwyr y prif bleidiau am lwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y cyfri yn Aberaeron, roedden ni wedi ein hynysu o weddill Prydain a heb unrhyw ffordd o wybod sut roedd yr etholiad yn siapio.

Roedd pawb yno dan yr argraff bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi profi’r un llwyddiant ym mhobman arall, a hynny o ganlyniad i Cleggmania. Dywedodd Elin Jones, AC Plaid y rhanbarth, fod ganddi bellach hyd yn oed yn fwy o reswm i gwyno am y BBC wrth Ofcom.

Ond wrth i mi yrru yn ôl adref i Aberystwyth (gan wibio heibio i dyrfa o fyfyrwyr yn dathlu gydag arwyddion Mark Williams ar North Parade am 3am) a gwrando ar sut oedd y ras etholiadol yn datblygu y tu allan i Gymru, daeth i’r amlwg nad oedd Cleggmania wedi cael unrhyw effaith. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli seddi.

Roedd Plaid hefyd wedi ennill brwydr agos yn erbyn y blaid Lafur yn Arfon, ac wedi cau’r bwlch yn sylweddol yn Llanelli.

‘Marmite’

Mae Penri James, ymgeisydd Plaid, wedi dweud ei fod e wedi rhedeg ymgyrch dda ac na fydden nhw wedi gallu gwneud mwy o ymdrech o ran canfasio.

Ond yr argraff sydd gen i yw bod Plaid Cymru wedi ceisio ymladd effaith Nick Clegg yn ormodol, gan anghofio’r ffaith bod Mark Williams yn AS eithaf hoffus.

Roedd aelodau pob plaid wedi dweud wrtha’i ar noson y cyfri’ fod gan Mark Williams record dda yn San Steffan, a bod cefnogaeth sylweddol i Mark Williams ei hun yng Ngheredigion.

Dywedodd un aelod o Blaid Cymru – “Mae Mark Williams yn haws i bobol i hoffi i raddau gwahanol, ble mae Penri James fel Marmite. Rydych chi’n ei gasáu neu’n ei garu.”

Ffactor arall wrth gwrs oedd pleidlais y myfyrwyr, yn bennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl y son roedd nifer y myfyrwyr wnaeth bleidleisio yng Ngheredigion dydd Iau yn uchel iawn.

Ac fe alla i fel myfyriwr yn Aberystwyth gadarnhau fod yna gefnogaeth gref i’r Dems Rhydd ymysg y myfyrwyr yn y fan honno.

Roedd pleidlais ffug yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cynhyrchu buddugoliaeth glir i Nick Clegg, gyda’r Torïaid yn ail.

Dw i’n credu bod pleidlais y myfyrwyr wedi ychwanegu yn sylweddol at fwyafrif Mark Williams – ond mae’n anodd dadlau y bydden nhw wedi newid y canlyniad.

Roedd Plaid wedi rhedeg ymgyrch llawer gwell yn 2010 nag yn 2005, ond nid oedd hi’n ddigon yn erbyn record Mark Williams yn San Steffan.

Mark Williams enillodd yng Ngheredigion, nid Nick Clegg. Y rheswm amlwg dros ei fwyafrif clir ydi bod pobol Ceredigion yn hapus gyda’i waith yn San Steffan.

Fel candi fflos yn y geg

Cyhoeddwyd Mai 7, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Dylan Iorwerth ac un olwg ar ganlyniadau’r etholiad…

Ar ôl yr holl halibalŵ am y dadleuon teledu, fe ddiflannodd eu heffaith nhw fel candi fflos yn y geg.

Yng Nghymru, fel trwy wledydd Prydain, fe gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gynnydd bychan yn eu pleidlais a chwymp bychan yn nifer eu seddi.

Roedd polau piniwn yr wythnosau diwetha’n eitha’ agos ati o ran maint pleidlais y Ceidwadwyr a Llafur, ond ymhell ohoni wrth fesur y gefnogaeth i’r Democratiaid.

Beth ddigwyddodd?

Mae’n ymddangos bod y rhai a wirionodd ar arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg, wedi cael ofn wrth i’r bleidlais go iawn ddod yn nes.

Yng Nghymru, mae’n ymddangos bod rhybuddion rhai fel Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi llwyddo o leia’ i sefydlogi’r bleidlais Lafur mewn seddi allweddol.

Er bod y blaid wedi colli tua 7% ar lefel ei phleidlais, fe lwyddodd i gadw pob un ond pedair sedd. O edrych ar hanes, roedd yn ganlyniad gwael; o edrych ar ddigwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwetha’, roedd yn llawer gwell.

O gymharu â 2002, mae’r Ceidwadwyr wedi llamu’n ôl gyda phum sedd newydd i ychwanegu at eu tair yn 2005.

Y Democratiaid fydd fwya’ siomedig; er iddyn nhw gynyddu eu mwyafrif yng Ngheredigion, roedd colli sedd Lembit Opik ym Maldwyn a methu â chipio Gorllewin Abertawe yn gic yn y dannedd.

Mae Plaid Cymru’n ceisio cuddio’i siom trwy ddweud mai dadl yr arweinwyr Prydeinig oedd ar fai am iddi gael ei gwasgu – cadw’i thair sedd ond methu â gwneud marc mewn rhai eraill.

Wnaeth y  newid mawr ddim digwydd … ond fe allai ddod eto. Fe fyddai clymblaid yn newid natur y berthynas rhwng y pleidiau ac mae Lloegr wedi troli’n lasach fyth.

Os bydd Gordon Brown yn taro bargen gyda’r Democratiaid a rhai o’r pleidiau bach yn y gwledydd Celtaidd, efallai mai Lloegr fydd yn gwrthryfela.

Blog byw noson Etholiad 2010

Cyhoeddwyd Mai 6, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Mae blog byw noson Etholiad 2010 Golwg 360 yn parhau fan hyn!

3.15am: Gŵyr

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Martin Caton Llafur 16,016
Byron Davies Ceidwadwyr 13,333
Mike Day Democratiaid Rhyddfrydol 7,947
Adrian Jones BNP 963
Darren Price Plaid Cymru 2,760
Gordon Triggs Plaid Annibyniaeth y DU 652

3.13am: Mae’n debyg nad ydi David Cameron am herio hawl y Prif Weinidog Gordon Brown i geisio ffurfio llywodraeth. Y confensiwn cyfansoddiadol ydi bod y Prif Weinidog yn cael trio ffurfio llywodraeth gyntaf os oes yna Senedd Grog. Mae’n debyg bod Gordon Brown ar ei ffordd i lawr i Gaeredin er mwyn dal awyren i Lundain. Bore yfory fe fydd rhaid iddo fynd i weld y Frenhines, naill ai i ymddiswyddo neu ddweud ei fod o am geisio ffurfio clymblaid.

3.09am: Mae Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi cadw ei sedd.

3.08am: Delyn

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Bill Brereton Democratiaid Rhyddfrydol 5747
Andrew Haigh Plaid Annibyniaeth y DU 655
David Hanson Llafur 15083
Jennifer Matthys BNP 844
Peter Ryder Plaid Cymru 1844
Antoinette Sandbach Ceidwadwyr 12811

3.04am: Mwy o ystadegau o Maldwyn…

69.4% wedi pledleisio (+3.1), Ceid +13.8, Dem -12.5, PC +1.3, Llaf -5.2, UKIP +0.4, Nat – +1.1, Ani +1

Gogwydd 13.2% o’r Democratiaid Rhyddfrydol i’r Ceidwadwyr.

3am: David Cameron wedi ei ail ethol yn Witney.  Mae’n dwqeud bod Llafur wedi collu eu mandad i lywodraethu dros Brydain. Awgrymu y bydd o’n ceisio ffurfio ei lywodraeth ei hun.

2.58am: Mewn ymateb i’r newyddion ei fod wedi colli ei sedd, meddai Lembit Opik wrth y BBC, “Allai ddim dadansoddi’r pet hi ddweud y gwir – o’n i’n meddwl ym mod i’n ennill. Os ydach chi’n sefyll etholiad mae’n rhaid i chi dderbyn colled, yn ogystal a buddugoliaeth. Ges i fy nghuro’n deg…fy nhro i i golli oedd hwn. Mae’n anodd iawn dadansoddi’r canlyniad gan ym mod i wir yn meddwl fy mod i’n ennill.”

2.57am: Jeremy Paxman wedi bod yn gofyn wrth Lembit Opik beth oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Ceidwadwyr ym Maldwyn. Dywedodd Lembit bod unrhyw awgrym mai bai’r Cheeky Girls oedd o yn nawddoglyd ac yn annheg ar Glyn Davies.

2.56am: Merthyr Tudful

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Richard Barnes BNP 1,173
Adam Brown Plaid Annibyniaeth y DU 872
Alan Cowdell Plaid Lafur Sosialaidd 195
Dai Havard Llafur 14,007
Maria Hill Ceidwadwyr 2,412
Glyndwr Cennydd Jones Plaid Cymru 1,621
Amy Kitcher Democratiaid Rhyddfrydol 9,951
Clive Tovey Annibynnol 1,845

2.55am: De Caerdydd a Phenarth

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Farida Aslam Plaid Cymru 1851
Clive Bate Y Blaid Gristnogol 285
George Burke Annibynnol 648
Robert Griffiths Plaid Gomiwnyddol Prydain 196
Dominic Hannigan Democratiaid Rhyddfrydol 9875
Simon Hoare Ceidwadwyr 12553
Alun Michael Llafur 17262
Matt Townsend Gwyrdd 554
Simon Zeigler Plaid Annibyniaeth y DU 1145

2.54am: Gorllewin Clwyd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Joe Blakesley Annibynnol 96
David Griffiths Y Blaid Gristnogol 239
Llyr Huws Gruffydd Plaid Cymru 5664
Donna Hutton Llafur 9414
Michele Jones Democratiaid Rhyddfrydol 5801
David Jones Ceidwadwyr 15833
Warwick Nicholson Plaid Annibyniaeth y DU 864

2.53am: Mae Arawn Glyn wedi bod yn siarad gyda Robin Millar o’r Ceidwadwyr ynglŷn â’r canlyniad o Arfon.

Roedd yn credu nad oedd y canlyniad heno yn adlewyrchu’r ymateb yr oedd yn ei gael ar y stepen drws.

Roedd yn falch iawn o weld nad oedd yna ddirywiad ym maint y bleidlais geidwadol yn y Gogledd Orllewin, a’i fod o’n gobeithio adeiladu ar hynny y tro nesaf.

Yn ôl Sarah Green, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd yr ymgyrch yn un positif. Dywedodd ei bod hi wedi disgwyl cwymp yn nifer y pleidleiswyr er gwaetha’r dadleuon rhwng y tair prif blaid Brydeinig yn Llundain.

Roedd hi yn falch o weld bod y Dems Rhydd wedi llwyddo i ddal eu tir. Ac ar y cyfan roedd hi’n hapus gyda’r ymateb a maint y bleidlais.

2.48am: Gorllewin Casnewydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Pippa Bartolotti Green 450
Paul Flynn Llafur 16389
Veronica German Democratiaid Rhyddfrydol 6587
Hugh Moelwyn Hughes Plaid Annibyniaeth y DU 1144
Jeff Rees Plaid Cymru 1122
Matthew Williams Ceidwadwyr 12845
Timothy Windsor BNP 1183

2.46am: Mae Guto Owen wedi cael gafael ar Myfanwy Davies yn Llanelli.

Dywedodd Myfanwy Davies fod ceisio ennill y sedd wedi bod yn afrealistig i feddwl fod gan Llafur fwyafrif o 7,234 o’r etholiad diwethaf.

Aeth yn ei blaen i ddweud mai dyma’r canlyniad gorau erioed i Blaid Cymru yn Llanelli. Dywedodd fod y canlyniad yn arbennig yng nghyd-destun y dadleuon Prif Weinidogol ac ei bod hi wedi bod yn frwydr hir a chaled.

Credai fod pobl wedi pleidleisio yn dactegol hefyd er mwyn osgoi cael llywodraeth Geidwadol. Roedd hi o’r farn y byddai’r canlyniad yn hwb i’r Blaid fedru datblygu ymhellach mewn etholaethau fel Castell Nedd ac Islwyn.

Dywedodd ei bod hi’n anrhydedd anferthol i sefyll etholiad yn yr ardal y cafodd hi ei magu ynddo. Pan ofynodd Guto a fyddai’n barod i sefyll yn yr etholiad nesaf dywedodd y byddai’n dibynnu ar yr amgylchiadau a dywedai y gall etholiad ddod unwaith eto yn fuan iawn.

2.42am: Nol mewn amser i gyhoeddi niferoedd Ogwr

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Danny Clark Plaid Cymru 3,326
Huw Irranca-Davies Llafur 18,644
Emma Moore Ceidwadwyr 5,398
Carolyn Passey Plaid Annibyniaeth y DU 780
Jackie Radford Democratiaid Rhyddfrydol 5,260
Kay Thomas BNP 1,242

2.41am: Canlyniad siomedig arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngorllewin Abertawe. Dyma oedd prif darged y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Mae’n dechrau ymddangos mai cadw Ceredigion fydd eu buddugoliaeth fawr nhw heno.

Sôn am Geredigion, dyma’r ystadegau…

64.8% wedi pleidleisio (-3.2% ar 2005), Dem +13.5, PC -7.6, Ceid -0.8, Llaf -6.3, UKIP +2.6, Gwy -0.5

Gogwydd 10.6 o Blaid Cymru i’r Democratiaid Rhyddfrydol felly! Falle mai Ceredigionmania, a nid Cleggmania, ydi o.

2.37am: Gorllewin Abertawe

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Alan Bateman Cefnogwch ein Milwyr 910
Geraint Davies Llafur 12335
Tim Jenkins Plaid Annibyniaeth y DU 716
Rene Kinzett Ceidwadwyr 7407
Peter May Democratiaid Rhyddfrydol 11831
Ian McCloy Annibynnol 374
Harri Roberts Plaid Cymru 1437
Keith Ross Gwyrdd 404
Rob Williams Clymblaid Sosialaidd yr Undebwr Llafur 179

2.36am: Dwyfor Meirionydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Simon Baynes Ceidwadwyr 6447
Steve Churchman Democratiaid Rhyddfrydol 3538
Louise Hughes Annibynnol 1310
Alwyn Humphreys Llafur 4021
Elfyn Llwyd Plaid Cymru 12814
Frank Wykes Plaid Annibyniaeth y DU 776

2.33am: Mae Arawn Glyn wedi bod yn siarad gyda Hywel Williams, AS sedd newydd Arfon. Dywedodd ei fod o’n hyderus yn fuan wed i’r cyfri ddechrau. Ond doedd o na’r blaid yn barod i ddathlu tan i’r canlyniad gael ei gadarnhau.

Bu’r ymgyrch yn un gwahanol, meddai, gyda rhannau newydd o’r etholaeth yn her newydd ac yn gyfle arbennig i ddod i adnabod cefnogwyr y blaid o Ddyffryn Ogwen a Bangor.

Fel yr ymgeiswyr eraill, dywed Hywel fod yr ymgyrch wedi bod yn un glan a teg. Ac mae’n edrych ymlaen gynrychioli pobloedd etholaeth Arfon ar ei newydd wedd.

2.30pm: Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
John Atkinson Plaid Annibyniaeth y DU 1285
Jonathan Edwards Plaid Cymru 13546
Christine Gwyther Llafur 10065
Andrew Morgan Ceidwadwyr 8506
Willian Powell Democratiaid Rhyddfrydol 4609

2.28pm: Jonathan Edwards Plaid Cymru yn cadw cyn sedd Adam Price yn saff yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

2.27pm: Mae pum munud yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig i’r Democratiaid Rhyddfrydol heno. Ychydig funudau ar ôl dathlu canlyniad gwbl syfrdanol yng Ngheredigion, gan ennill ras ‘agos’ o bron i 10,000 o bleidleisiau, i golli sedd un o’u haelodau mwyaf enwog ac un o’u seddi sicraf ym Maldwyn.

2.25am: Maldwyn

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Nick Colbourne Llafur 2407
Glyn Davies Ceidwadwyr 13976
Milton Ellis National Front 384
Heledd Fychan Plaid Cymru 2802
Bruce Lawson Annibynnol 324
Lembit Opik Democratiaid Rhyddfrydol 12792
David Rowlands Plaid Annibyniaeth y DU 1128

2.24am: Glyn Davies yn cipio Maldwyn oddi ar Lembit Opik!

2.23am: Bro Morgannwg

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Alun Cairns Ceidwadwyr 20341
Alana Davies Llafur 16034
John Harrold Y Blaid Gristnogol 236
Ian Johnson Plaid Cymru 2667
Kevin Mahoney Plaid Annibyniaeth y DU 1529
Eluned Parrott Democratiaid Rhyddfrydol 7403
Rhodri Thomas Green 457

2.22am: Alun Cairns wedi ennill Bro Morgannwg. 20,341 pleidlais i 16,034 y Blaid Lafur.

2.21am: Ceredigion

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Richard Boudier Llafur 2210
Luke Evetts Ceidwadwyr 4421
Penri James Plaid Cymru 10815
Leila Kiersch Gwyrdd 696
Elwyn Williams Plaid Annibyniaeth y DU 977
Mark Williams Democratiaid Rhyddfrydol 19139

2.20am: Ceredigion. Penri James,  Plaid Cymru – 10,815. Mark Williams, Dems Rhydd – 19,139.

2.17pm: Aberconwy yw’r sedd gyntaf i’r Ceidwadwyr ei gipio yng Nghymru, a’r un oedden nhw fwyaf sicr o gael gafael arni. Serch hynny doedd pleidlais Llafur heb ddisgyn gymaint â’r disgwyl.

Mae Guto Bebb yn dweud y bydd o’n gweithio’n galed dros bawb yn Aberconwy.

2.15pm: Aberconwy

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Guto Bebb Ceidwadwyr 10734
Phil Edwards Plaid Cymru 5341
Ronald Hughes Llafur 7336
Mike Priestley Democratiaid Rhyddfrydol 5786
Mike Wieteska Plaid Annibyniaeth y DU 632
Louise Wynne-Jones Y Blaid Gristnogol 137

2.14pm: Ydi Celggmania wedi cyrraedd Cymru? Dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol heb gipio Dwyrain Casnewydd fel yr oedden nhw’n ei obeithio, a bydd rhaid iddyn nhw ennill Gorllewin Abertawe os ydyn nhw am ychwanegu at eu siâr o seddi yng Nghymru heno.

Yn ôl y Ceidwadwyr Glyn Davies ym Maldwyn mae pethau’n agos rhyngddo ef a Lembit Opik yno, felly fe allai’r Democratiaid Rhyddfrydol dal golli seddi.

2.13am: Guto Bebb wedi ei ethol yn sedd newydd Aberconwy.

2.07am: Dwyrain Casnewydd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Fiona Cross Plaid Cymru 724
Keith Jones BNP 1168
Jessica Morden Llafur 12744
Dawn Parry Ceidwadwyr 7918
David Rowlands Plaid Annibyniaeth y DU 677
Liz Screen Plaid Lafur Sosialaidd 123
Ed Townsend Democratiaid Rhyddfrydol 11094

2.06am: Alun Pugh o’r Blaid Lafur yn dweud wrth Arawn Glyn fod yr ymgyrch yn Arfon wedi bod yn un “glan a hwylus”.

“Mae hi wedi bod yn fraint sefyll yn un o seddi mwya prydferth cymru,” meddai. “Roedd pobl yn poeni am yr economi a gwasanaethau cyhoeddus, ac yr effaith mae’r toriadau mawr am ei gael ar wasanaethau gogledd Cymru ac yn etholaeth Arfon.

“Rydw i wedi mwynhau’r ymgyrch yn fawr iawn.”

2.03am: Mwy o ystadegau o Wrecsam…

64.8% wedi pledleisio (+1.5% ar 2005), Llaf – 9.2%, Dem +2.2%, Ceid +5.4%, PC +0.4, BNP +0.4, UKIP +2.3

Gogwydd 5.7 % o Llafur i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

2am: Nôl yn Delyn, mae Fflur Jones wedi cael gafael ar ymgeisydd y Blaid Lafur David Hanson.  Mae’n dweud ei fod o’n “dawel hyderus” ynglŷn â chadw ei sedd, ac mae canlyniadau’r seddi o boptu iddo yn awgrymu bod ganddo le i fod yn hyderus. Does dim newid mawr wedi bod i gyfeiriad y Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru hyd yma.

1.57am: Buddugoliaeth mawr i Lafur ym Mlaenau Gwent. Mae’n ymddangos bod gwrthryfel Llais y Bobol ar ben.

“Naill ai mae canlyniadau Cymru yn wahanol iawn i Loegr, neu bydd pethau’n agosach rhwng y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr nag oedd y pol piniwn ar y dechrau yn ei awgrymu,” meddai Vaughan Roderick ar S4C.

1.56pm: Wrecsam

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Gareth Hughes Ceidwadwyr 8,375
John Humberstone Plaid Annibyniaeth y DU 774
Arfon Jones Plaid Cymru 2,029
Ian Lucas Llafur 12161
Tom Rippeth Democratiaid Rhyddfrydol 8,503
Melvin Roberts BNP 1134

1.55pm: Blaenau Gwent

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Dai Davies Llais y Bobol 6458
Rhodri Davies Plaid Cymru 1333
Anthony King BNP 1211
Mike Kocan Plaid Annibyniaeth y DU 488
Alyson O’Connell Plaid Lafur Sosialaidd 381
Nick Smith Llafur 16974
Matt Smith Democratiaid Rhyddfrydol 3285
Liz Stevenson Ceidwadwyr 2265

1.54pm: Dai Davies Llais y Bobol yn colli ei sedd i’r Blaid Lafur ym Mlaenau Gwent.

1.52pm: Guto Owen o Lanelli - Wrth i Myfanwy Davies ddiolch i’r etholaeth, dywedodd bod Llanelli yn haeddu gonestrwydd. Cefnogwyr Llafur yn y dorf methu derbyn hyn, bron a cerdded oddi yno.

1.51pm: De Clwyd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Susan Elan Jones Llafur 13,311
John Bell Ceidwadwyr 10,477
Bruce Roberts Democratiaid Rhyddfrydol 5,965
Janet Ryder Plaid Cymru 3,009
Sarah Hynes BNP 1,100
Nick Powell Plaid Annibyniaeth y DU 819

1.50pm: Nerys Evans AC ar S4C yn dweud bod Dr Myfanwy Davies wedi gwneud yn dda iawn i dorri lawr ar fwyafrif Llafur yn Llanelli.

Mae’n debyg bod Jonathan Edwards am ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr o tua 3,000 o bleidleisiau, meddai.

1.46am - Yn ôl i De Clwyd am funud. Y Bleidlais oedd 13,311 i Susan Elan Jones o’r Blaid Lafur a 10,477 i John Bell o’r Ceidwadwyr.

1.45am - Islwyn

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Asghar Ali Democratiaid Rhyddfrydol 3597
Jason Crew Plaid Annibyniaeth y DU 936
Christopher Evans Llafur 17069
Steffan Lewis Plaid Cymru 4518
Dave Rees Annibynnol 1495
Paul Taylor Annibynnol 901
Daniel Thomas Ceidwadwyr 4854
John Voisey BNP 1320

1.41am – Chris Evans yn cadw Islwyn.

1.39am: De Clwyd – Susan Elen Jones yn ei gadw i Lafur.

1.37am: Llanelli

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Myfanwy Davies Plaid Cymru 11215
Myrddin Edwards Democratiaid Rhyddfrydol 3902
Nia Griffith Llafur 15916
Andrew Marshall Plaid Annibyniaeth y DU 1047
Christopher Salmon Ceidwadwyr 5381

1.36am: Llanelli. Plaid Cymru – 11,215. Llafur – 15,916. Nia Griffith yn cadw ei sedd.

1.35am: Mwy o ystadegau o Ddyffryn Clwyd…

63.7% wedi pledleisio (-2.1% ar 2005), Llaf – 3.6, Ceid +3.5, Dem +0.7, PC -1.4, BNP +2.3, UKIP +0.3, C.S.G. +0.4

Gogwydd 3.6% o Llafur i’r Ceidwadwyr

1.31am: Ystadegau pellach o Ynys Mon…

68.8% wedi pleidleisio (+1.3% ar 2005), Llaf -1.3, PC – 4.9, Ceid +11.4, Dem +0.7, Ani – +6.5, UKIP  +2.5, Crist +0.5

Gogwydd 1.8% o Blaid Cymru i Lafur, mwyafrif o 2461 i Lafur.

1.28am: Dyffryn Clwyd “yn ganlyniad arwyddocaol iawn, iawn” meddai Richard Wyn Jones ar S4C. Roedd y Ceidwadwyr wedi gobeithio cipio’r sedd, ond heb ddod yn agos. Mae’n edrych fel noson “dda iawn, iawn” i’r Blaid Lafur a noson ”giami” iawn i’r Ceidwadwyr.

Mae Vaughan Roderick yn trafod a allai Peter Hain fod wedi bod yn llwyddiannus wrth annog cefnogwyr Plaid Cymru i gefnogi’r Blaid Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan.

1.25am: Mark Williams wedi cyrraedd y cyfri yng Ngheredigion. “Mae o’n dod a deigryn i’r llygad, tydi?” meddai un fenyw Ryddfrydol.

Plaid Cymru i lawr -5% yn Ynys Mon ers 2005, i lawr -14% ar etholiad y Cynulliad yn 2007.

1.24am: Dyffryn Clwyd

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Mike Butler Cynghrair Sosialaeth Gwyrdd 127
Paul Penlington Democratiaid Rhyddfrydol 4472
Chris Ruane Llafur 15017
Ian Si’Ree BNP 827
Tom Turner Plaid Annibyniaeth y DU 515
Matt Wright Ceidwadwyr 12508
Caryl Wyn Jones Plaid Cymru 2068

1.21am: Ynys Môn

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Elaine Gill Plaid Annibyniaeth y DU 1201
David Owen Y Blaid Gristnogol 163
Albert Owen Llafur 11490
Dylan Rees Plaid Cymru 9029
Anthony Ridge-Newman Ceidwadwyr 7744
Peter Rogers Annibynnol 2225
Matt Wood Democratiaid Rhyddfrydol 2592

1.19am: Ynys Môn. Llafur – 11,490. Plaid Cymru – 9,029. Albert Owen yn cadw ei sedd.

0.17am: Mae Fflur Jones yn Delyn wedi bod yn siarad gydag ymgeisydd Plaid Cymru, Peter Ryder.

Mae’n dweud ei fod o wedi blino ar ôl ymgyrchu am fis wrth weithio fel athro’r un pryd.

Dywedodd fod yr ymgyrch wedi mynd yn dda ond ei fod o’n ei chael hi’n anodd ymgyrch dros Blaid Cymru mewn etholaeth lle mae hanner y boblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.

Roedd yn barnu’r dadleuon teledu am annog yr etholwyr i “anghofio sgandalau’r pleidiau mawr” ac i ganolbwyntio ar bersonoliaethau yn hytrach nag polisïau.

1.12am: Ystadegau pellach o Arfon:

63% wedi pledleisio (cynnydd o 5.1% ar 2005), PC +3.9%, Llaf  -3.5%, Ceid +0.5, Dem -1.7, UKIP +0.7

Swing 3.7% o Llafur i Plaid Cymru, mwyafrif o 1455 i Blaid Cymru.

1.10pm: Arfon

Ymgeisydd Plaid Pleidlais
Sarah Green Democratiaid Rhyddfrydol 3666
Robin Millar Ceidwadwyr 4416
Alun Pugh Llafur 7928
Elwyn Williams Plaid Annibyniaeth y DU 685
Hywel Williams Plaid Cymru 9383

1.09am: Elin Jones yn edrych yn anhapus yng Ngheredigion. “Does dim gwen fawr ar fy ngwyneb i,” meddai hi wrth S4C. Mae’n beio’r ‘Celggmenia’ Prydeinig.

1.05am: Yn ôl y Guardian bydd Gordon Brown yn galw am “lywodraeth gref, sefydlog ag egwyddorol” wrth ennill ei sedd. Ydi hynny’n golygu clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur?

Toc cyn cyhoeddi canlyniad Arfon roedd Vaughan Roderick yn dweud bod Llafur fel pe bai’n gwneud yn well yng Nghymru nag yn Lloegr.

1am: Canlyniad Arfon: Llafur – 7,928. Plaid – 9, 383. Hywel Williams yn cadw ei sedd. Hywel Williams yn addo gweithio dros bobol Dyffryn Ogwen a phobol Bangor yn ogystal â’i etholaeth arferol yng Nghaernarfon.

Dems Rhydd – 3,666. Ceidwadwyr – 4,416. UKIP – 685.

0.57am: Yn ôl Arawn Glyn, mae’r cyfri yn Arfon bellach i weld drosodd. Mae hi wedi tawelu’n sydyn yn y ganolfan hamdden.

Dywedodd Hywel Williams bod y blaid wedi gneud yn dda iawn mewn mannau oedd yn draddodiadol perthyn iddi hi, ond eto wedi llwyddo i neud yn well na’r disgwyl mewn rhannau diarth a newydd iddi.

Mae sïon bod Alun Pugh, y cyn AC, ar fin datgan bod Hywel wedi llwyddo i ennill sedd.

0.55am: Mae Ieuan Wyn Jones wedi dweud wrth PA fod ei blaid yn wyneb noson “eithaf siomedig”.

“A bod yn onest, roedd gyda ni gyfres o seddi oedden ni eisiau eu hennill ond dydi o ddim yn edrych fel ei bod ni’n mynd i ennill nifer o’r rheiny.

“Wrth gwrs mae’n rhy gynnar i siarad am rai canlyniadau.”

0.52am: Peter Robinson, arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn colli ei sedd yn East Belfast.

0.50am: Meddai Kevin Brennan, yr ymgeisydd Llafur yng Ngorllewin Caerdydd : “Dwi ddim yn mynd i ddarogan y canlyniad – dwi i wedi gwneud y camgymeriad yna o’r blaen. Mae wedi bod yn ymgyrch dda a dwi wedi bod yn cerdded y strydoedd gymaint nes fod gen i dwll yn fy esgid! Yn anffodus, tydi’r cyfri ddim mor gyflym a Sunderland yma.”

Roedd yn credu fod y nifer pleidleiswyr i fyny dros y 60%.

0.48am: Yn ôl Rhiannon Michael mae yna sïon nad ydi’r Ceidwadwyr yn disgwyl cipio Brycheiniog a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

00.46am: Mae Peter Hain yn honni bod pleidlais Llafur yng Nghymru “fel pe bai o’n dal i fyny”.

“Yn ôl yr adroddiadau ydw i wedi bod yn eu cael ar draws Cymru dros yr awr ddiwethaf mae ein pleidlais ni wedi aros yn gryf,” meddai.

Dywedodd mai’r gobaith yn yr ymgyrch oedd anodd cefnogwyr pleidiau eraill adain chwith i gefnogi Llafur yn ngwyneb bygythiad y Ceidwadwyr.

Yn ôl S4C mae AS Llafur Gŵyr yn dawel hyderus ei fod o’n mynd i gadw ei sedd o afael y Ceidwadwyr.

0.39am: Wrth siarad gyda Huw Edwards ar y BBC, mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones yn dweud mai’r “teimlad ydy ein bod ni wedi cael ein gwasgu, a hynny’n reit ddifrifol mewn rhai ardaloedd.” Wrth gyfeirio at Lanelli meddai “mae’n edrych fel ein bod ni wedi gwneud peth cynnydd lle rydan ni wedi bod yn ymgyrchu’n galed, ond mae’r dadleuon teledu wedi’n gwasgu ni’n gyffredinol. Roedd gennym ni nifer o brif seddi i’w targedu, ac mae’n edrych yn debygol na fyddwn ni’n llwyddo gyda rhain i gyd. Mae’n edrych fel canlyniad siomedig i ni, ond mae’r ymgyrch wedi bod yn un diddorol ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.”

0.34am: Mae hi dal yn agos iawn yn Arfon, meddai Arawn Glyn, ond mae Hywel Williams yn datgan ei fod o’n meddwl ei fod o wedi llwyddo i gadw’r sedd, er ei fod o wedi colli rhai wardiau o fwyafrif bach iawn.

Pum munud yn ol bu’r canlyniad o ran nifer y pleidleiswyr, ac mae’r canran wedi codi o 60.4% i 63.52%.

Mae disgwyl y canlyniad o Arfon tua 1am.

0.28am: Mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio am bethau mawr yng Nghymru eleni, ar draul Llafur mewn sawl sedd. Bydd y frwydr Brydeinig rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn cael eu chwffio ar raddfa llai yng Nghymru. Mae Llafur yn amddiffyn pedair sedd y mae disgwyl iddyn nhw ddisgyn i ddwylo y Ceidwadwyr heno.

Eu prif targedau nhw ydi Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Aberconwy. Mae’r awgrymiadau diweddaraf yn awgrymu eu bod nhw am gipio o leiaf yr olaf o’r rheini.

Ar noson dda fe allen nhw hefyd gipio De Clwyd a Gorllewin Caerfyrddin gan Lafur. Ar noson wych fe fyddai Gŵyr, Gorllewin Caerdydd a Pen y Bont ar Ogwr o fewn eu gafael nhw.

00.26am: Ieuan Wyn Jones yn siarad am gael “post mortem” ar y canlyniadau ar S4C. Mae’n ymosod ar y darlledwyr am ddweud na fyddai y dadleuon y teledu yn cael effaith ar yr etholiad.

Gohebydd S4C yng Ngheredigion yn dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynyddu mwyafrif yn sylweddol yno. Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod dim gobaith gan y blaid o ail ennill yr etholaeth, meddai.

0.21am: Mae Nia Griffith newydd ddweud ar Radio Cymru ei bod hi’n dawel hyderus y bydd hi’n cadw ei sedd yn Llanelli, ond dim ond o drwch blewyn.

Mae’n ymddangos bod Plaid Cymru wedi colli’r frwydr i ennill Llanelli, Aberconwy, Ynys Môn a Ceredigion felly. Maen nhw’n brwydro yn Arfon ond fe ddylen nhw ennill honno.

0.14am: Yn ôl Radio Wales, mae ffynonellau Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi cydnabod eu bod wedi colli’r frwydr yno.

0.12am: Mae’n dechrau dod i’r amlwg bod Arfon yn mynd i fod yn llawer agosach na’r disgwyl. Fe fyddai’n drychineb go iawn i Blaid Cymru pe bai Hywel Williams yn colli ei sedd yno.

0.09am: Mae’n debyg fod y nifer pleidleiswyr yn 67% yn Llanelli, sydd 3% yn fwy nag yn 2005. Mae Nia Griffiths newydd ddweud wrth y BBC, “mae’n edrych fel ym mod i fymryn ar y blaen ar hyn o bryd, ond mae’n agos iawn.”

Roedd hi’n cydnabod ei bod yn frwydr dwy ffordd rhwng Plaid Cymru a hwy, “mae Plaid Cymru wedi adeiladu ar eu pleidlais yn y Cynulliad, a hefyd wedi codi pleidleisiau protest”.

Betsan Powys yn nodi ei bod yn amhosib anwybyddu’r ffaith fod Nia Griffiths yn ymddangos yn isel iawn wrth ei chyfweld.

0.06am: Yn ôl Arawn Glyn o’r cyfri yn Arfon mae’n agos iawn rhwng Alun Pugh a Hywel Williams yno. Serch hynny dyw hi ddim yn amlwg pa wardiau sydd wedi eu cyfri eto.

Mae’n debyg bod y Ceidwadwyr Robin Millar yn gwneud yn well na’r disgwyl hefyd.

0.00am: Y “teimlad cyffredinol” yng Ngheredigion erbyn hyn yw bod Mark Williams yn mynd i gadw ei sedd.

Mae Fflur Jones yn Delyn wedi bod yn siarad gyda swyddog o’r Blaid Geidwadwol, sy’n dweud bod Celggmania wedi “gorfodi iddyn nhw i gyd weithio’n galetach”. Mae’n obeithiol y gallai Antoinette Sandbach gipio’r sedd i’r Ceidwadwyr, ond fe fyddai’n “syrpreis”.

23.57pm: Awgrym cryf ar Radio Cymru fod Llafur yn mynd i ddal gafael ar Ynys Môn, “Plaid Cymru mwy neud lai yn cydnabod nad ydyn nhw’n mynd i gipio Ynys Môn. Mae eu hymgeisydd, Dylan Rees, yn eistedd yn eithaf tawel yma yn y cyfri”.

Mewn ymateb, Alun Ffred yn dweud fod y dadleuon ‘arlywyddol’ wedi cael effaith ar y ffordd mae pobl yn meddwl, ac wedi cael effaith negyddol ar bleidlais Plaid Cymru.

Helen Mary ar y BBC yn dweud ei bod yn ymddangos fod “y wedd Brydeinig iawn i’r etholiad yma yn wedi cael effaith ar seddi targed Plaid Cymru”.

23.54pm: John Dixon o Blaid Cymru yn Hwlffordd yn dweud fod y blaid yn cael ei “gwasgu” a’u bod nhw am ddysgu o’r ymgyrch yma at y dyfodol. Ydi’r ffaith ei fod o’n defnyddio’r fath iaith mor gynnar yn argoeli’n wael ar gyfer y blaid?

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod yn gwneud yn dda yng Ngheredigion, yn ôl Bleddyn Bowen sydd yn y cyfri…

23.46pm: Hedd Gwynfor ar Twitter yn awgrymu bod Plaid Cymru wedi gwneud yn dda iawn yn Llanelli, ond efallai dim digon da er mwyn ennill y sedd. Sgroliwch i lawr am gyfweliad na Nia Griffith o’r Blaid Lafur (23.17pm).

Peter Hain yn siarad ar y BBC yn ymateb i’r pôl piniwn – “roedd David Cameron yn meddwl fod allweddi rhif 10 Downing Street yn ei boced ôl, ond mae’r pôl piniwn yn dangos nad ydi hynny’n wir. Os nad ydy’r Ceidwadwyr wedi ennill y mwyafrif clir yr oedden nhw wedi disgwyl, yna mae’n profi nad ydy Cameron wedi ‘selio’r ddêl’ gyda’r pleidleiswyr. Mae hyn, a’r hyn dwi wedi clywed ar lawr gwlad yn ystod yr ymgyrch yn dangos for pobl yn ofni’r Toriaid, a ddim eisiau eu gweld nhw mewn grym.”

Dw i newydd dderbyn adroddiad fod y bel yn ôl gyda’r Dems Rhydd yng Ngheredigion…

23.44pm: Adroddiadau nawr bod pethau’n edrych yn dda i Blaid Cymru yng Ngheredigion. Mae’r sedd mor agos, fe allai fynd yn ôl ac ymlaen tan tua 3am pan fydden nhw’n cyhoeddi’r enillydd.

23.39pm: Arawn Glyn sy’n cadw llygad ar sedd Arfon, ble mae Plaid Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth, heno. Dyma ei farn o’r cyfri…

Mae’r cyfri eisoes wedi cychwyn yma yng nghanolfan hamdden Caernarfon. A gydag etholaeth newydd Arfon yn wynebu ei etholiad cyffredinol cynnar, mae yna dipyn mwy o gynnwrf gwleidyddol mewn ardal sydd yn draddodiadol saff i Blaid Cymru.

Wrth deithio nôl i Arfon ar y traws cambria heddiw o etholaeth Ceredigion mae effaith y dadleuon teledu rhwng y prif bleidiau yn amlwg ar gefn gwlad Gwynedd.

Mae yna ambell i liw diarth yn frith dros gefn gwlad, wrth i’r Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd roi’r awgrym eu bod nhw’r un mor gystadleuol â Phlaid Cymru a’r Blaid Lafur.

Dyma un o etholaethau lleiaf y deyrnas gyfunol, gyda dim ond Na h-Eileanan ân Lar ac ynysoedd orkey a shetland yn llai na hi.

Mae’r etholaeth eisoes wedi bodoli ar ryw ffurf yn barod, rhwng 1885 hyd at 1918 gyda’r Rhyddfrydwyr yn ei chynrychioli.

O ganlyniad y newid ffiniau mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur wedi targedu’r sedd. Dyw ymgeisydd Plaid Cymru, Hywel Williams, erioed wedi gorfod ymgyrchu ym Mangor o’r blaen.

Mae’r ardal honno wedi gan y Ceidwadwr Wyn Roberts am 27 o flynyddoedd, yna am 13 o flynyddoedd gan Betty Williams o’r Blaid Lafur.

Mae ardal Caernarfon wedi perthyn Plaid Cymru am yr un nifer o flynyddoedd.

Felly, a fydd Plaid yn ddigon cryf yn wardiau Bangor i sicrhau cadw’r sedd? Neu a fydd pleidleisiau cefnogwyr Llafur wardiau Bangor yn ddigon i foddi pleidlais Caernarfon.

23.33pm: Mwy am Geredigion. Dim darlun clir eto, mae’n debyg, gyda’r ddau blaid yn ennill eu siar o focsiau pleidleisio.

23.28pm: Yr ail ganlyniad o Sunderland West wedi cael ei gyhoeddi. Llafur wedi mynd a honno hefyd, gyda tua’r un faint o’r bleidlais a Sunderland South…

Mae sïon ar led bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn obeithiol iawn yng Ngheredigion…

23.23pm: Richard Wyn Jones ar S4C yn dweud mai hon oedd “yr etholiad mwyaf arlywyddol” y mae’n ei gofio a “mae’r dimensiwn Cymreig wedi disgyn allan”.

Y dadleuon teledu sydd ar fai am hynny meddai Vaughan Roderick.

David Hanson, ymgeisydd y blaid Lafur yn Delyn yn dweud ar y BBC – “Dwi ddim yn gwybod sut mae’n edrych eto, bydd rhaid i ni weld sut mae’n mynd. Mae’n edrych fel fod y turnout yn uwch, sy’n beth da i ddemocratiaeth”

Angela Jones-Evans, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Nghorllewin Caerdydd – “yn sicr mae’r niferoedd pleidleiswyr wedi bod ar ei fyny yn yr etholaeth yma o’r hyn dwi wedi gweld heddiw” a hithau’n cytuno fod hyn yn beth da i ddemocratiaeth.

23.17pm: Mae Guto Owen wedi bod yn holi ymgeisydd y Blaid Lafur, Nia Griffith, yn Llanelli…

Guto: Sut ydych chi’n credu aeth yr ymgyrch?

Nia:  Credaf fod yr ymgyrch wedi mynd yn eithaf da. Roedd hi’n wahanol iawn i’r arfer gyda Dadleuon y Prif Weinidogion yn golygu fod rhai o’r bobl gyffredin ddim yn siwr pwy i bleidleisio nes ddiwrnod yr etholiad yr hun.

Guto: A yw Plaid wedi bod yn fwy o fygythiad y tro hyn?

Nia: Dim o rheidrwydd yn fygythiad ond rwy’n credu fod y Dadleuon Prif Weinidogol wedi gadael y gystadleuaeth yn agored iawn. Y ffaith yw ei bod hi’n anodd iawn i Blaid Cymru wneud gwahaniaeth yn San Steffan gan mai dim ond 3 i 6 sedd ar y mwyaf y byddant yn ei gael, sydd yn ganran fach iawn o fewn Senedd mor fawr.

Guto: Beth am y ffaith i’ch aelodau o fewn yr etholaeth gan gynnwys y darpar ymgeisydd cynulliad Keith Davies anfon llythyr at y fforwm polisiau yn y Prif Gomisiwn Llafur yn Llundain yn gofyn iddynt newid y polisiau ar frys. Ydych chi’n credu fod hyn yn arwydd o ddiffyg hyder o fewn yr etholaeth?

Nia: Ma’ Llafur yn blaid mor fawr fel ei bod hi’n anochel ac yn naturiol bod rhai canghenau yn gwrthwynebu rhai o’r polisiau y mae’r blaid yn ei gynnig.

Guto: Yw hyn yn adlewyrchiad o farn pobl yn yr etholaeth, sydd efallai yn ffafrio polisiau Plaid Cymru o’i gymharu a’ch polisiau chi?

Nia: Na dydw i ddim yn meddwl hynny, dwi’n credu bod y cyhoeddi yn gwerthfawrogi rôl y llywodraeth yn fwy nawr o ran yr economi ac o ran diwydiant.  Ma’n polisiau ni yn cynnig amcanion economaidd da, yn ogystal a diwygio tŷ’r arglwyddi a medru di-swyddo ASau os nad ydynt yn gwneud eu gwaith yn iawn. Mae polisiau yn hedfan o gwmpas y lle oherwydd blogiau a twitter a thechnoleg tebyg, felly mae’n naturiol gweld pobl sydd ddim yn siwr pa blaid i bleidleisio drosto.

Guto: A ydych chi’n hyderus y byddwch chi’n parhau i fod yn AS Llanelli?

Nia: Mae’n mynd i fod yn agos iawn ac mae’n rhy anodd i’w broffwydo.

23.10pm: Dyw hi ddim yn swnio’n dda i Blaid Cymru yn Aberconwy felly. Ond y gwir yw Ceredigion ag Ynys Môn yw’r seddi maen nhw wir ar eu hol nhw. Fe fyddai’n noson dda hyd yn oed pe bai nhw’n methu a chipio Aberconwy a Llanelli. Ond os ydyn nhw’n anobeithio mor gynnar yn Aberconwy fe allai awgrymu eu bod nhw wedi dod yn ail pell, a dyw hynny ddim yn argoeli yn dda ar gyfer y seddi eraill.

23.06pm: Carl Roberts ar ran y BBC yn Llandudno sy’n cyfri Aberconwy – “ffiniau newydd yn golygu fod hon yn frwydr rhwng Plaid Cymru a’r Toriaid. Gwynebau’r swyddogion Plaid Cymru yma’n edrych yn ddigon llwm ychydig yn ôl, sy’n awgrymu buddugoliaeth i Guto Bebb”.

23.05pm: Fflur Jones yn Delyn yn dweud ei bod hi wedi siarad â chanfasiwr ifanc sy’n “bryderus” ynglŷn â’r canlyniad yno. Ychwanegodd bod nifer o bleidleiswyr apathetig wedi mynd allan i daro pleidlais heddiw, a’u bod nhw’n obeithiol ynglŷn ag ail ethol David Hanson, ond nad yw’n “bosib gwybod” beth fydd y canlyniad heno.

Mae’n debyg bod 6396 o’r 7469 ofynodd am bleidlais post yn Delyn wedi ymateb. Canlyniad gwell na’r arfer ac yn awgrymu bod bobol yn awyddus i gymryd rhan eleni.

23pm: Cyn arweinydd y Lib Dems yng Nghymru, Mike German, yn dweud nad ydi’r pol piniwn yn “sgwario gyda beth ydw i’n ei deimlo ac yn ei weld”.

Betsan Powys yn dadansoddi pleidlais De Sunderland – pôl piniwn wedi awgrymu gogwydd o 7.5% yma, ond mewn gwirionedd y ffigwr yn 8.4%. Petai hyn yn cael ei adlewyrchu’n gyffredinol, byddai’n ddigon i roi mwyafrif clir i’r Toriaid.

22.57pm: Cwymp pleidlais Llafur yn De Sunderland wedi mynd i’r pleidiau llai yn hytrach nag y Ceidwadwyr. Yn ôl Vaughan Roderick ar yr S4C, bydd Llafur yn hapus gyda hynny os ydi o’n batrwm cenedlaethol…

22.54pm: De Sunderland wedi ennill y ras i gyhoeddi gyntaf! Mae’n nhw’n falch iawn o’r ffaith mai nhw sydd gyntaf bob tro. Ond mae na gymaint o ymgeiswyr fe allen nhw gymryd cymaint i ddarllen yr enwau ac i gyfri’r pledleisiau. Buddigoliaeth gyntaf i Lafur… mwyafrif mawr o 10990, ond Llafur wedi colli 12% o’r bleidlais…

22.51pm: Mae’n debyg nad ydi’r Gwyrddion yn ffyddiog y bydden nhw’n sicrhau eu AS gyntaf erioed, Caroline Lucas, heno ‘ma.

22.49pm: Un o swyddogion Plaid Cymru yng Ngheredigion newydd ddymuno lwc da i Luke Evetts, ymgeisydd y Ceidwadwyr. Chwarae teg iddo. Ond gan ddweud “y mwyaf o bledleisiau wyt ti’n eu hennill, y gorau fydd pethau i ni”.

22.45pm: Llawer o sôn am giwio yn y blychau pleidleisio, a fod pobl wedi methu pleidleisio oherwydd hynny. Adroddiad o Sheffield fod heddlu wedi eu galw mewn i symud pobl sydd wedi bod yn ciwio am oriau, ac wedi methu pleidleisio.

John Stevenson, BBC yn adrodd o Ynys Môn – pobl Llafur a Phlaid Cymru yn dweud fod y canlyniad yn rhy agos i’w ddarogan. Disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi am 1am. Peter Rogers ydy’r ‘wildcard’ ym Môn, ac mae o wedi bod yn hyderus iawn ynglŷn a’i obeithion dros y dyddiau diwethaf.

22.44pm: Y si ar Twitter yn awgrymu fod y Ceidwadwyr wedi gwneud yn dda iawn yn Nyffryn Clwyd. Sedd Llafur, gyda’r Ceidwadwyr yn herio’n gryf.

22.40pm: Swyddog Adroddol Delyn yn awgrymu fod y turnout yno yn o leiaf 70%, sydd i fyny dipyn.

Newyddion o etholaethau Islwyn ac Alun  a Dyfrdwy yn awgrymu fod disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ynghynt na’r disgwyl.

22.38pm: Jackie Ashley o’r Guardian yn ymateb i’r pôl piniwn gan ddweud “nad oedd y rhan fwyaf o bobol yn meddwl y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud cystal ag oedd heip Cleggmania yn ei awgrymu wythnosau yn ôl”. Pam wnaeth y Guardian newid ei gefnogaeth o Lafur i’r Dems Rhydd felly? Hmmm?

10.34pm: Yng nghyfri Ceredigion, mae ymgeisydd Llafur, Richard Boudier yn dweud fod ganddo gyfle i ennill, a bod ei ods wedi newid o 100-1 i 35-1. Mae pethau mwy rhyfedd nag hynny wedi digwydd yng Ngheredigion. e.e, Plaid yn mynd o bedwerydd i gyntaf yn 1992…

10.30pm: Yn siarad o’i etholaeth yn Hull, mewn ymateb i’r arolwg barn, Alan Johnson wedi dweud “rydym yn paratoi’n hunain ar gyfer pedwaredd tymor”.

Betsan Powys yn siarad ar y BBC yn dweud bod nifer y bobol wnaeth bledleisio yn mynd i fod yn uchel. “Bu’n rhaid i mi giwio i bleidleisio am y tro cyntaf erioed heddiw”. Hyn yn dangos bod mwy o gyffro o gwmpas yr etholiad eleni?

10.28pm: Mae’r pôl piniwn yn awgrymu na fydd hi’n noson cystal â’r disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a’u bod nhw’n debygol o golli seddi. Ond mae pob sylwebydd wedi nodi nad ydyn nhw’n ffyddiog ynglŷn â’r ffigyrau, am eu bod nhw mor wahanol i beth oedd y polau piniwn cyn yr etholiad yn ei awgrymu, sef y perfformiad gorau ers degawdau i’r Dems Rhydd.

Yng Nghymru mae’n dasg anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Ar un llaw mae angen iddyn nhw amddiffyn Ceredigion rhag Plaid Cymru, a Maldwyn a Brycheiniog a Sir Faesyfed o’r Ceidwadwyr. Fe allen nhw golli pob un o’r rheini heno, a dim ond Canol Caerdydd fyddai gyda nhw ar ôl.

Yn fwy optimistaidd mae gyda nhw obaith da o gipio Gorllewin Abertawe o ddwylo’r Blaid Lafur.

Beth sy’n drawiadol am y pôl piniwn ydi ei fod o’n awgrymu nad oes dim byd wedi newid, mewn gwirionedd. Roedd y polau piniwn yn dangos canlyniad tebyg i hwn cyn y dadleuon teledu, Cleggmania a popeth arall.

10.20pm: Yn ôl Bleddyn Bowen yng Ngheredigion mae’r Gwyrddion yn hyderus eu bod nhw wedi gwneud yn dda heno. Maen nhw’n credu eu bod nhw wedi ennill dipyn o gefnogaeth oherwydd eu gwrthwynebiad i ddifa’r moch daear, polisi sy’n cael ei gysylltu gyda Phlaid Cymru, ac ehangu trafnidiaeth gyhoeddus yn y sir.

Allai pleidlais gref i’r Gwyrddion gael effaith mewn ras hynod o dynn rhwng Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol?

10.17pm: Yn ôl Andrew Marr ar y BBC byddai gan David Cameron “ddigon o seddi i lywodraethu” pe bai’r pôl piniwn yn wir. Ond dywedodd fod yna “rywfaint o amheuaeth” ynglŷn â’r ffigyrau.

10.15pm: Gan Fflur Jones yn nghyfri Delyn – “Wrth ddisgwyl y blychau llawn pledleisiau yn Delyn mae Llafur yn brysur iawn yn gwneud eu ffordd o amgylch y neuadd yn cymdeithasu gyda’r rhai sy’n cyfri. Arwydd eu bod nhw’n gyfforddus iawn ynteu ydi’r ffaith eu bod nhw yno ymhell cyn y pleidiau eraill yn awgrym o ddiffyg hyder?”

10.10pm: Richard Wyn Jones ar S4C yn awgrymu y gallai’r bleidlais post gael effaith, gan bod 20% o bobol wedi pledleisio “tra bod Cleggmania ar ei anterth”. Ond byddwn i’n awgrymu mai pobol hŷn, hynny yw y bobol sydd lleiaf tebygol o gael eu heffeithio gan Celggmania, fyddai’n pledleisio drwy’r post yn y lle cyntaf…

10pm: Bong! Yn ôl arolwg barn y BBC, ITV a Sky News fe fydd yna Senedd Grog gyda’r Ceidwadwyr yn fyr o 19 sedd. Y ceidwadwyr ar 307, Llafur ar 255, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 59…

Da i’r Ceidwadwyr, ond siomedig iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Richard Wyn Jones wedi wfftio’r ystadegau ar S4C gan ddweud nad ydi o’n eu credu nhw.

9.55pm: Mae’r BBC wedi gwario £10m ar noson yr etholiad, mae’n debyg. Bydd y cyflwynydd Jeremy Vine yn cerdded i lawr Stryd Downing rhithiol, gyda pob llechfaen ar y ffordd yn cynrychioli sedd. A pob un yn arwain at ddrws Rhif 10, mae’n siwr…

Bydd hi’n ddiddorol gweld beth sydd gan S4C ar ein cyfer ni.

9.50pm: Yn ôl PA mae David Cameron wedi bod yn treulio dwy awr yn torri darnau o bren gyda bwyell. Mae’n siŵr bydd ei ben o ar y bloc os nad ydi’r Ceidwadwyr yn ennill mwy o seddi na’r Blaid Lafur heno…

Mae Gordon Brown, yn y cyfamser, wedi cael stiw cig oen i swper gyda’i wraig Sarah ac wedi cysgu am ddwy awr.

Fe wnes i gysgu am ddwy awr gynne fach, cyn cael fy neffro, yr eironig, gan bobol yn mynd a dod o’r orsaf bleidleisio yn neuadd y pentref sydd reit drws nesaf i fy nhŷ yng Ngheredigion.

Dylai pôl piniwn ar y cyd ITV, BBC a Sky News, y tro cyntaf i’r tri darlledydd Prydeinig gyd weithio yn y fath ffordd, gael ei ryddhau mewn 10 munud…

9.30pm: Ers 1997 dim ond chwe sedd mae Llafur wedi eu colli yng Nghymru, ac maen nhw wedi ennill un yn Ynys Môn. Fe allen nhw golli pump yn hawdd heno – Bro Morgannwg, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Aberconwy, ac wrth gwrs Ynys Môn.

Ar noson ddrwg fe allai’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill Dwyrain Abertawe, fe allai’r Ceidwadwyr gipio De Clwyd, Dyffryn Clwyd a Delyn. Ac fe allai Plaid gipio Llanelli.

Os ydyn nhw’n cael noson erchyll fe allen nhw hyd yn oed golli Pen y Bont ar Ogwr a Gorllewin Caerdydd i’r Ceidwadwyr. Fe fyddai hynny’n embaras o ystyried mai dyma seddi cyn Brîf Weinidog Cymru, Rhodri Morgan a’r un presennol, Carwyn Jones, yn y Cynulliad.

Un sedd allen nhw ei ennill er gwaetha’r chwalfa fel arall ydi Blaenau Gwent, ble mae ymgeisydd Llais y Bobol, Dai Davies, yn AS ar hyn o bryd. Ydi’r posibilrwydd o lywodraeth Geidwadol yn ddigon i wneud i bobol yr etholaeth dyrru yn ôl i’r Blaid Lafur?

8.55pm: Mae yn sawl sedd i’w gwylio yng Nghymru heddiw ac r’yn ni wedi ymdrin â nhw mewn mwy o fanylder isod. Ond yn fyr…

Dyma’r seddi sy’n debygol o newid dwylo heno:

Aberconwy – Llafur > Ceidwadwyr yn cipio

Blaenau Gwent – Annibynol > Llafur yn cipio

Gogledd Caerdydd – Llafur > Ceidwadwyr yn cipio

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro – Llafur > Ceidwadwyr yn cipio

Gorllewin Abertawe – Llafur > Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio

Bro Morgannwg – Llafur > Ceidwadwyr yn cipio

Ynys Mon – Llafur > Plaid yn cipio

Dyma’r rhai sy’n dynn:

Ceredigion – Democratiaid Rhyddfrydol / Plaid yn herio

Wrecsam – Llafur / Democratiaid Rhyddfrydol yn herio

Gorllewin Caerdydd – Llafur / Ceidwadwyr yn herio

Arfon – Plaid Cymru / Llafur yn herio

Brycheiniog a Sir Faesyfed – Democratiaid Rhyddfrydol / Ceidwadwyr yn herio

Pen y Bont ar Ogwr – Llafur / Ceidwadwyr yn herio

Delyn – Llafur / Ceidwadwyr yn herio

Llanelli – Llafur / Plaid yn herio

Maldwyn – Democratiaid Rhydffrydol / Ceidwadwyr yn herio

Dwyrain Casnewydd – Llafur / Democratiaid Rhyddfrydol yn herio

Gorllewin Casnewydd – Llafur / Ceidwadwyr yn herio

Dyffryn Clwyd – Llafur / Ceidwadwyr yn herio

A dyma’r rhai sy’n weddol saff:

Gwyr – Llafur

Dwyfor Meirionydd – Plaid

Cwm Cynon – Llafur

Gorllewin Clwyd – Ceidwadwyr

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr – Plaid

Aberafan – Llafur

Alyn a Glannau Dyfrdwy – Llafur

Caerffili – Llafur

Canol Caerdydd – Democratiaid Rhyddfrydol

De Caerdydd a Phenarth – Llafur

De Clwyd – Llafur

Islwyn – Llafur

Merthyr Tudful – Llafur

Mynwy – Ceidwadwyr

Castell-nedd – Llafur

Ogwr – Llafur

Pontypridd – Llafur

Preseli Penfro – Ceidwadwyr

Rhondda – Llafur

Dwyrain Abertawe – Llafur

Torfaen – Llafur

8.30pm: Dyma rai ffigyrau am yr etholiad heddiw: 44 miliwn – nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio heddiw, 4,149 – nifer yr ymgeiswyr ledled Prydain, 650 – nifer y seddi sydd ar gael, 315 – nifer yr ymgeiswyr annibynnol, 50,000 – nifer y gorsafoedd pleidleisio, fydd ar agor o 7am tan 10pm, 150,000 – nifer y staff sydd yn eu rhedeg nhw, 50,000 – nifer y gweithwyr cyngor fydd yn cyfri’r pleidleisiau heno ‘ma.

8.25pm: Ar hyn o bryd mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd gan y Ceidwadwyr rhwng 268 a 294 o seddi, sawl sedd yn fyr o’r 326 sydd ei angen i sicrhau mwyafrif yn San Steffan.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd gan y Blaid Lafur tua 248-274 sedd, ac y bydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol tua 77-82 sedd.

Ond mae’r arbenigwyr ar ystadegau yn dweud bod mwy na’r arfer o bleidleiswyr yn dweud nad ydyn  nhw wedi penderfynu pwy i bleidleisio drosto. Mae hynny’n gwneud y canlyniad yn llawer llai sicr.

Un awgrym yw y gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol golli tir ar y funud olaf, wrth i’r pleidleiswyr ochri gyda’r ddau brif blaid.

Fe allai hynny olygu y bydd rhaid i’r Ceidwadwyr neu Lafur drafod gyda phleidiau Gogledd Iwerddon, Plaid Cymru a’r SNP.

Mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd eisoes wedi datgelu eu bod nhw wedi derbyn llythyr gan Gordon Brown yn addo cadw maint y grant ariannol o San Steffan i Ogledd Iwerddon os ydi o’n aros yn 10 Stryd Downing.

8.15pm: Mae hi wedi bod yn ddydd llawn drama yn barod. Cafodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, ei anafu mewn damwain awyren. Bu’n rhaid i David Cameron ddisgwyl am ddwy awr cyn cael pleidleisio yn Witney oherwydd fod yna brotestwyr ar do’r orsaf bleidleisio. Methodd gwraig Nick Clegg a phleidleisio drosto am ei bod hi’n ddinesydd Sbaenaidd.

Yn y cyfamser mae’r polau piniwn olaf yn dal i awgrymu bod gan y Ceidwadwyr fantais fawr dros Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond dim digon o fantais i osgoi Senedd Grog.

Mae Gordon Brown wedi apelio ar ei ddilynwyr i “ddod gartref i Lafur”, mae Nick Clegg wedi dweud na ddylai nhw “fodloni ar beth sydd gyda nhw, ond anelu’n uwch”, ac mae David Cameron wedi gofyn i bleidleiswyr “ennill dros Brydain”.

8pm: Mewn dwy awr fe fydd y pleidleisio yn dod i ben ac fe gawn ni syniad, diolch i bolau piniwn y BBC, ITV a Sky, pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Cofiwch, does gan neb wir syniad sut ganlyniad y cawn ni heno – er bod y rhan fwyaf o bolau piniwn yn awgrymu y bydd gan y Ceidwadwyr y mwyaf o seddi mewn Senedd Grog. Ond ar noson dda i’r Ceidwadwyr fe allen nhw sicrhau mwyafrif yn San Steffan, ac ar noson dda i Lafur fe allen nhw orffen gyda mwy o seddi na’r Ceidwadwyr, hyd yn oed os ydyn nhw’n cael llai o’r bleidlais. A does neb yn siwr pa effaith y bydd Celggmania yn ei gael ar y cwbl.

1pm: Croeso i flog byw noson etholiad Golwg 360! Fe fydd y blog yn diweddaru’n gyson o tua 8pm heno ‘ma, toc cyn i’r gorsafoedd pleidleisio gau.

Fe fyddai’n blogio’r diweddaraf o Gymru a’r datblygiadau mawr ar draws Prydain, gyda chymorth tîm o ohebwyr sydd yn y cyfrifon ac yn casglu’r wybodaeth ddiweddaraf. Felly os ydych chi’n meddwl aros i fyny tan bod y pleidleisiau olaf yn cael eu cyfri tua 6am, ymunwch gyda ni.

Ac os oes gyda chi sylw gadewch hi isod neu cysylltwch gyda ifanmorganjones@golwg.com.

Os nad ydych chi wedi bod yn dilyn Blog Golwg 360 dros y mis ddiwethaf, mae’n bosib darllen y cyfan sydd wedi ei ysgrifennu am yr etholiad drwy’r tag Etholiad Cyffredinol 2010.

Canllaw i rai o’r seddi i gadw golwg arnyn nhw

Canllaw i etholaethau seneddol Cymru

Etholiad Cyffredinol 2010 – Canllaw i’r noson

Ceredigion – Y sedd fwyaf ymylol yng Nghymru?

Llanelli – Plaid yn ennill tir

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro – beth fydd effaith y Democratiaid Rhyddfrydol?

Dyffryn Clwyd – Brwydr rhwng Llafur a’r Torïaid

Gorllewin Clwyd – agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr

Bro Morgannwg – y Ceidwadwyr yn ffyddiog

Darnau barn arweinwyr rhai o’r prif bleidiau

Nick Bourne: Pobol fydd yn gwneud i newid ddigwydd

Carwyn Jones: Dyfodol teg i bawb

Ieuan Wyn Jones: Senedd Grog yn beth da i Gymru

John Bufton: Cymerwch gip ar UKIP

Darnau barn cyfranwyr Blog Golwg 360

Brwydro am bob pleidlais yng Ngheredigion

Annibyniaeth pryd?

Ceredigion – amhosib proffwydo

Hwyl fawr Gordon Brown … a pholisi

Y stwff Brown a’r broblem wrth ddweud sori

Ydi ymgyrch Etholiad 2010 ar ben? Dim cweit

Paxo’n cael ei stwffio

Mw mw, me me, cwac cwac

Cameron yn methu cyfle i roi cweir i Clegg

All y cyfryngau ddim atal Clegg

Awtsh!

Y Ceidwadwyr yn ystyried ymgyrch negyddol

Cleggomania

Dadl yng Nghymru – ond dim dadl am Gymru

Ras tri cheffyl

Y ddadl fawr – be nesa?

Ymateb o flaen llaw

Diwrnod mawr y Dems Rhydd?

Cas gwir heb alw amdano

Rooney, siarad cyhoeddus a’r cyfryngau 24/7

Trident? Fe fyddai un yn ddigon

Pa flwyddyn ydi hi?

Tictacs – sut i ennill etholiad

Etholiad hanesyddol – wir yr!

Dylan Iorwerth yn egluro pam fod y cliche’n gywir.

Efallai mai hwn fydd yr etholiad ola’ o’i fath yng ngwledydd Prydain.

Os bydd yn senedd grog a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn taro bargen gydag un o’r ddwy blaid fawr Brydeinig arall, maen nhw’n debyg o fynnu cael pleidleisio cyfrannol go iawn.

Mi fyddai hynny’n golygu seddi mawr gyda rhestrau – dim cystadlaethau lleol, dim aros ar binnau yn oriau mân y bore i weld beth sydd wedi digwydd yn y lle a’r lle, a dim canlyniadau cwbl annisgwyl.

Dyna y mae’r polau piniwn yn ei awgrymu ar hyn o bryd, ond mae yna lawer a allai newid yn ystod yr oriau nesa’.

Mi fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio am un hwb ola’ – bod pobol yn gweld mai nhw sydd ar y blaen ac, felly, man a man eu cefnogi ac osgoi strach senedd grog.

Mi fydd Llafur yn gobeithio am ganlyniad tebyg i 1992 pan oedd safle John Major a’r Torïaid bron mor ddigalon ag un Brown a Llafur heddiw (bron).

Bryd hynny, mi gafodd pobol ofn ar y funud ola’ a doedden nhw ddim yn casáu’r Ceidwadwyr ddigon nac yn caru Llafur a Neil Kinnock ddigon i orfodi newid.

Model y pedair Cymru

Yng Nghymru, fel arfer, dydi patrymau’r polau piniwn cenedlaethol ddim yn dal dŵr – mae cymdeithasegwyr iaith yn licio sôn bod yna dair Cymru – Cymraeg, di-Gymraeg a Seisnig; ym myd gwleidyddiaeth, mae yna fwy na hynny.

  • Mae gan Blaid Cymru ei Chymru bosib, sy’n cynnwys y Gogledd-orllewin a rhannau o’r gorllewin ac, efallai, Geredigion.
  • Mae gan y Democratiaid eu Cymru, sy’n cynnwys y Canolbarth a rhannau o ddinasoedd y De.
  • Llafur sydd biau’r Cymoedd o hyd ac mae’r Ceidwadwyr yn gryf yn ardaloedd yr iseldiroedd lle daeth y Normaniaid i mewn gynta’.

Mae’r brwydrau wedyn yn amrywio o le i le a’r canlyniadau’n dilyn. Y tro yma, fe allai Plaid Cymru gipio Llanelli a Môn, ond mae’n amheus a gaiff hi Geredigion.

Y broffwydoliaeth

Os felly, mi fydd y Democratiaid yn cadw’u pedair sedd ac efallai’n cipio un yng Nghasnewydd ac Abertawe ac o bosib, o bosib yn Wrecsam.

Mi ddylai’r Ceidwadwyr ennill tua phedair neu pum sedd newydd, gan orffen gyda llawer llai na’u hanterth yn 1983. Mae Llafur yn sicr o golli ond petaen nhw’n cadw seddi Casnewydd a Wrecsam ac un neu ddwy o’r seddi ymylol eraill, mi fydden nhw’n ddigon hapus.

Ac os ydi’r holl ddarogan yn gywir, mi fydd hanes yn cael ei greu mewn ffordd arall. Am y tro cynta’ mi fydd llywodraeth o un lliw yng Nghaerdydd ac un o liw arall yn Llundain.

Diddorol, hanesyddol – wir yr!

Etholiad Cyffredinol 2010 – Canllaw i’r noson

Cyhoeddwyd Mai 6, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Beth fydd yn digwydd ar noson yr etholiad, a phryd?

Dyma ganllaw Ifan Morgan Jones i’r seddi pwysig i gadw golwg arnyn nhw, yng Nghymru a thu hwnt…

10pm

Bydd polau piniwn y BBC, ITV a Sky, wedi eu cynnal y tu allan i’r gorsafoedd pleidleisio wrth i bobol adael, yn cael eu cyhoeddi. Fe fydden nhw’n rhoi’r syniad cyntaf i ni pa blaid sydd wedi mynd a hi, neu o leiaf pa seddi sy’n debygol o newid dwylo.

11pm

Dylai’r etholaeth gyntaf ddatgan pwy yw’r enillydd tua’r adeg yma. Sunderland South oedd y cyntaf yn 2005 ond dyw’r etholaeth yna ddim yn bodoli bellach. Bydd Houghton and Sunderland South a Sunderland Central yn cystadlu am y wobr eleni. Mae hon yn sedd Lafur y gallai’r Ceidwadwyr ei hennill ar noson dda – ac fe fyddai’n ddechrau noson ddrwg i Lafur.

12am

Bydd y sedd gyntaf yn yr Alban, Rutherglen and Hamilton West, yn datgan y canlyniad tua’r adeg yma. Mae hon yn ras dau geffyl rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur ac fe allai ddangos a ydi Cleggmania wedi cael unrhyw effaith!

12.30am

Dylai Llafur golli ei sedd gyntaf yn Birmingham Edgbaston, lle mae’r Ceidwadwyr angen 2% yn fwy o bleidleisiau.

12.45am

Dylai Llafur golli’r sedd gyntaf i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn Newcastle Upon Tyne Central. Mae’r Dems Rhydd eisoes yn rheoli’r cyngor yno.

1am

Y seddi cyntaf yng Nghymru yn cyhoeddi’r canlyniadau. Pen y Bont ar Ogwr fydd un o’r cyntaf. Dylai Llafur dal gafael arni, gyda’r Ceidwadwyr yn ail.

Yn fuan wedyn bydd Ogwr yn cyhoeddi’r canlyniad. Unwaith eto, dylai Llafur dal gafael ar hon.

Dylai Dyffryn Clwyd gyhoeddi’r canlyniad tua’r adeg yma hefyd. Bydd hon yn frwydr agos iawn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr, ond dylai’r Ceidwadwyr ei chipio hi.

Dylai Ynys Môn gyhoeddi tua rŵan. Mae Plaid Cymru yn gobeithio’n arw disodli Llafur yn y sedd hon ac fe fydd yn ddechrau noson dda i’r blaid os ydyn nhw’n llwyddo.

Bydd y seddi yn dechrau cael eu cyhoeddi’n gyflym iawn erbyn hyn. Bydd rhaid i David Cameron ennill seddi fel Tooting, lle mae angen newid pleidlais 6% o Lafur i’r Ceidwadwyr (tua’r un faint sydd ei angen ar draws Prydain), os ydi o eisiau bod yn Brif Weinidog.

Mae Angus yn nwylo’r SNP ond mae’r Ceidwadwyr yn ei thargedu hi. Bydd y sedd yn rhoi ryw syniad ai’r SNP neu’r Ceidwadwyr sydd am gael noson dda yn yr Alban.

Mae sedd arall wnaeth y blaid Lafur ei gipio o’r Ceidwadwyr yn 1997 yn debygol o gael ei cholli – Battersea yn Llundain.

1.30am

Bydd Plaid Cymru yn gobeithio ennill sedd newydd Arfon. Byddai colli i Lafur yn drychineb iddyn nhw. Fe allai’r 30 munud rhwng Ynys Môn ag Arfon benderfynu sut noson ydi hi i’r blaid.

Bydd Islwyn yn cyhoeddi’r canlyniad. Sedd saff arall i Lafur fwy na thebyg.

Bydd Torbay, ras agos rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn datgan pwy sydd wedi ennill. Mae angen ennill seddi gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr ardal yma i’r Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif yn San Steffan. Os nad ydyn nhw’n llwyddo fe fydd yn arwydd bod Cleggmania wedi ennill y dydd.

2am

Bydd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cyhoeddi’r canlyniad. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio cadw gafael ar hon ond bydd y Ceidwadwyr yn eu herio nhw.

Bydd y sedd drws nesaf i Frycheiniog, Maldwyn, hefyd yn cyhoeddi’r enillydd. Unwaith eto bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio ei chadw hi o grafangau’r Ceidwadwyr.

Nol i’r Cymoedd, a dylai Torfaen fod wedi cyhoeddi erbyn hyn. Sedd arall weddol saff i Lafur, gyda’r Ceidwadwyr yn ail.

Fyny i Wrecsam, ble mae Llafur yn ceisio atal y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr rhag ennill tir.

2.30am

Bydd disgwyl i Guto Bebb gipio sedd newydd Aberconwy o afael y Blaid Lafur. Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn y ras.

Dylai Gogledd Caerdydd gyhoeddi tua’r un pryd. Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr gipio’r sedd o afael y blaid Lafur, a gwraig cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, Julie.

Bydd Bro Morgannwg hefyd yn cyhoeddi nawr, ac mae Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn weddol hyderus ynglŷn â chipio’r sedd oddi ar y blaid Lafur.

Draw i Blaenau Gwent, ble y mae hi’n ras agos iawn rhwng ymgeisydd Llais y Bobol Dai Davies a Llafur.

Gorllewin Casnewydd fydd yn cyhoeddi  nesaf – sedd agos iawn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Dwyrain Casnewydd sydd nesa’. Dylai Llafur ennill ond fe allen nhw wynebu her gref gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd sedd saff gan y Democratiaid Rhyddfrydol, Canol Caerdydd, hefyd yn cael ei chyhoeddi.

Ac fe ddylai Alun Michael gadw ei afael ar Dde Caerdydd a Phenarth, gyda rhywfaint o her gan y Ceidwadwyr.

Bydd Elfyn Llwyd wen o glust tua’r adeg yma wrth i Blaid Cymru gadw eu gafael ar sedd Dwyfor Meirionydd.

A bydd sedd arall saff i’r Blaid Lafur, Merthyr Tudful, yn cyhoeddi.

Preseli Penfro fydd un o’r nesaf yn cyhoeddi. Dylai’r Ceidwadwyr ennill yn weddol saff.

Ar lefel Brydeinig, os ydi’r Ceidwadwyr yn cipio Kingswood fe allen nhw fod wedi pasio’r marc 326 sedd sydd ei angen ar gyfer mwyafrif yn barod.

3am

Bydd Ceredigion yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Mae’n frwydr hynod o agos rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol a does gan neb syniad pwy eith a hi.

Dylai Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyhoeddi hefyd. Mae Simon Hart o’r Ceidwadwyr yn ffefryn i gipio’r sedd oddi ar y blaid Lafur.

Mae’r Ceidwadwyr yn weddol sicr o ddal eu gafael  ar Orllewin Clwyd, gyda Llafur yn ail.

Gŵyr yn cyhoeddi. Llafur enillodd y sedd yma yn 2005 ond fe fydd hi’n ras agosach rhyngddyn nhw’r Ceidwadwyr eleni.

Bydd Llanelli yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Bydd Plaid Cymru yn gobeithio dymchwel mwyafrif Llafur yn y sedd yma.

Llafur sy’n dal sedd Gorllewin Abertawe ar hyn o bryd ond mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei gipio oddi arnyn nhw heno.

Caerffili yn cyhoeddi, sedd arall saff i Lafur yn ne Cymru.

Gorllewin Caerdydd yn cyhoeddi. Dylai Llafur gadw’r sedd gyda’r Ceidwadwyr yn herio.

Bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr hefyd yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Sedd weddol saff i Blaid Cymru, wrth i Jonathan Edwards gymryd lle Adam Price.

Llafur yw’r ffefrynnau yn Ne Clwyd ond mae’r Ceidwadwyr yn credu fod ganddyn nhw obaith.

Bydd Cwm Cynon hefyd yn cyhoeddi, sedd hynod saff i’r Blaid Lafur.

Ac fe fydd Mynwy yn cyhoeddi tua’r adeg yma hefyd. Sedd saff iawn i’r blaid Geidwadol yng Nghymru.

Bydd Pontypridd yn cyhoeddi’r canlyniad tua’r adeg yma. Sedd saff iawn i Owen Smith o Lafur, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail.

Rhondda yn cyhoeddi’r canlyniad. Sedd arall saff i’r Blaid Lafur ond fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae Geraint Davies yn ei wneud dros Blaid Cymru.

Bydd Dwyrain Abertawe hefyd yn cyhoeddi. Dylai Llafur dal eu gafael ar hwn yn wyneb her gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar lefel Brydeining, fe allai’r Blaid Werdd sicrhau eu AS cyntaf erioed yn Brighton Pavillion.

Oeddech chi’n effro pan gollodd Portillo ei sedd? Arhoswch i fyny tan 3am ac fe allech chi fod yn effro er mwyn gweld Ed Balls, aelod o gabinet Gordon Brown, yn cael ei, um, sbaddu yn Morley & Outwood.

3.30am

Ras tri cheffyl rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Delyn. Dylai Llafur fynd a hi.

Aberafan yn cyhoeddi. Sedd weddol saff i’r Blaid Lafur.

Castell-nedd yn cyhoeddi’r canlyniad, sedd arall ble mae Llafur ar y blaen ond lle y gallai Plaid Cymru sicrhau buddugoliaeth ar noson dda iawn.

Dylai David Cameron ail ennill ei sedd yn Witney. Fe allai ei araith ddatgelu beth fydd ei gam nesaf – ceisio ffurfio’r llywodraeth nesaf neu ddisgwyl i weld beth mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i’w wneud.

4am

Fe allai’r BNP ennill eu AS cyntaf erioed, y dyn o Lanerfyl ei hyn Nick Griffin, yn Barking.

Chesham & Amersham, sedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, os ydi’r Ceidwadwyr yn ffurfio’r llywodraeth newydd.

Dydd Gwener

Bydd 25 o’r seddi ddim yn dechrau cyfri tan fore dydd Gwener, gan gynnwys Cheltenham a Lancaster and Fleetwood – dau sedd mae’r Ceidwadwyr yn eu targedu. Felly mae’n berffaith bosib na fydd hi’n glir pwy a ydi’r Ceidwadwyr wedi cael mwyafrif tan bnawn dydd Gwener… felly ewch i’r gwely!