Tyndra
Mae pethau’n poethi yng ngwleidyddiaeth Cymru ers i Nick Clegg gyhoeddi ei fwriadau i ad-drefnu gwleidyddiaeth Prydain. Mae wedi cadarnhau y bydd refferendwm ar y bleidlais amgen neu AV ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad fis Mai’r flwyddyn nesaf. Fe fydd cyd-daro pellach wedyn yn 2015 rhwng pleidlais San Steffan a’r Cynulliad, gan fod y glymblaid yn San Steffan wedi cytuno i gynnal etholiad cyffredinol bob pum mlynedd. Yn ôl Elfyn Llwyd, mae Nick Clegg wedi cyfaddef yn y senedd nad yw wedi trafod y materion hyn gyda’r llywodraethau datganoledig -arwydd clir o ddirmyg medde fe.
Does dim negeseuon cyd-syniol wedi dod gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar negeseuon y glymblaid yn San Steffan. Sonies i yn y blog diwethaf fod Kirsty Williams a Nick Bourne yn anghytuno ar gynnal refferendwm AV ac etholiad y Cynulliad yr un diwrnod. Wel, neges arall gan Clegg yw bod rhaid lleihau nifer yr ASau i 600. Yn ôl datganiad Bourne, rhaid i’r lleihad yn y nifer o ASau fod yn gyfartal ac fe fydd rhan gan Gymru i’w chwarae yn hyn. Rhaid gofalu am etholaethau gwledig medd Kirsty -byw mewn gobaith am ffafrau gan ei harweinydd yn Llundain i gadw’i sedd hi ym Mrycheiniog a Maesyfed mewn un darn efallai.
![675c6a0a-48fd-4b25-9d5b-603bff6b12a6[1]](http://www.blog-golwg360.com/wp-content/uploads/2010/12/675c6a0a-48fd-4b25-9d5b-603bff6b12a61.jpg)
Sylwadau Diweddar