Cynyddu maint testun

Golwg360

Hwyl fawr Gordon Brown … a pholisi

Ifan Morgan Jones sy’n dweud bod dyddiau’r Prif Weinidog ar ben…

Y ‘Ddadl Economaidd’ oedd yr enw di-fflach braidd ar y drydedd ddadl rhwng arweinydd y prif bleidiau neithiwr. Efallai y byddai ‘Senedd Grog ta senedd Groeg?’ wedi bod yn well, gan mai dyna’r ddau beth oedd pob un o’r pleidiau yn ceisio ei osgoi.

Roedd hi hefyd yn gyfle i ddweud ‘hwyl fawr’ wrth Gordon Brown. Mae’r polau piniwn yn dangos ei fod o wedi methu â newid barn y cyhoedd yn y ddadl, wythnos cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Os na fydd Llafur yn ennill mwyafrif clir, mae’n ymddangos bron yn amhosib y bydd o’n Brif Weinidog mewn wythnos, gan gofio bod Nick Clegg eisoes wedi dweud na fyddai’n fodlon i’r Democratiaid Rhyddfrydol glymbleidio gyda Llafur dan Brown.

Gyda datganiad olaf y ddadl roedd hi fel petai Gordon Brown ei hun yn cydnabod hynny. “Fel y mae pethau nawr, ymhen wyth niwrnod fe allai David Cameron, efallai gyda chefnogaeth Nick Clegg, fod mewn pŵer,” meddai.

Rhybudd oedd o wrth gwrs, ond efallai hefyd ei fod yn gyfaddefiad gan un o ddynion mwyaf stwbwrn gwleidyddiaeth Prydain fod y gêm ar ben.

Er gwaethaf neb a dim

Mae Gordon Brown wedi dweud erioed ei fod o’n benderfynol o lwyddo er gwaethaf pawb a phopeth.

Ers colli ei olwg yn un llygad a 70% o’i olwg yn y llall yn 16 oed mae o wedi brwydro ymlaen yn erbyn y ffactorau. Ond beth sydd wedi ei ddal o yn y pen draw ydi bod gwleidyddiaeth wedi newid – personoliaeth nid polisïau sy’n bwysig erbyn hyn.

Dw i ddim yn credu fod dadleuon arweinwyr y prif bleidiau wedi troi’r ymgyrch etholiadol yn rhyw fath o X Factor gwleidyddol.

Mae pleidiau gwleidyddol yn ymosod ar bolisïau ei gilydd yn gyson drwy gydol yr ymgyrch ar ffurf datganiadau i’r wasg ond dim ond mymryn o hynny sy’n diferu i lawr at y cyhoedd. Roedd y dadleuon yn gyfle i weld arweinwyr y pleidiau yn dadlau go iawn ynglŷn a polisiau pa blaid oedd y gorau.

Nid y dadleuon oedd y broblem, o reidrwydd, ond sut y mae’r cyhoedd wedi ymateb iddyn nhw. Er mai Gordon Brown a aeth i fwyaf o ddyfnder wrth drafod yn benodol beth yw polisiau ei blaid ym mhob un o’r dadleuon, mae o wedi dod yn drydydd pell ym mhob un.

Yn y cyfamser, mae David Cameron a Nick Clegg wedi ennill dadl yr un a rhannu’r ail drwy gyffredinoli ac osgoi ateb y cwestiynau anodd. Gofynnodd Gordon Brown i David Cameron gyfiawnhau torri’r dreth etifeddu sawl gwaith neithiwr ond fe wnaeth y Ceidwadwr ei anwybyddu bob tro. Yn ôl y polau piniwn Cameron a ‘enillodd’ y ddadl.

Dyw hyn ddim wrth gwrs yn golygu y byddai Nick Clegg nag David Cameron yn waeth Prif Weinidog na Gordon Brown, na bod eu polisiau yn waeth na rhai Llafur. Ond does fiw i’r cyhoedd gwyno mai bai’r cyfryngau yw hi am roi blaenoriaeth i bersonoliaeth yn hytrach na pholisi. Y cyhoedd sy’n gwobrwyo personoliaeth yn hytrach na thrafodaeth gall ynglŷn â pholisi.

Y mwyd(r)yn

Wrth wylio’r ‘mwydyn’ ar wefan y BBC oedd yn dangos ymateb y cyhoedd i beth oedd pob un o’r arweinwyr yn ei ddweud, roedd hi’n amlwg nad oedd pwynt i Gordon Brown ddadlau ei achos.

Roedd y ‘mwydyn’ yn troi am i lawr cyn iddo ddechrau siarad bron, ac yn troi am i fyny cyn i Cameron a Clegg agor eu cegau. Faint bynnag y mae pobol yn cwyno am wleidyddion slic a PR, mae’n amlwg mai dyna y maen nhw ei eisiau yn y bôn.

A dyw canolbarth Lloegr erioed wedi cymryd at Brown, o bosib am ei fod o’n Sgotyn. Dyna un ‘bigotgate’ nad ydi’r cyfryngau’n fodlon trafod.

Ond dyna ni. Efallai mai y tu ôl i ddrws Rhif 11 Stryd Downing yr oedd lle Gordon Brown erioed. Mewn oes AB (ar ôl Blair) fydd gan Brif Weinidog sy’n rhoi polisi o flaen personoliaeth fyth obaith eto.

Y stwff Brown a’r broblem wrth ddweud sori

Cyhoeddwyd Ebrill 29, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gordon Brown, Gwleidyddiaeth

Dylan Iorwerth yn pwyso a mesur y ‘camgymeriad mawr’…

Roedd Eirwyn Pontsian yn arfer dweud mai’r peth mawr o fod mewn trwbwl oedd trio dod mas ohono.

Doedd Gordon Brown, yn amlwg, ddim yn nabod Eirwyn Pontsian. Ar ôl mynd i dwll, mi fynnodd y Prif Weinidog ddal ati i gloddio ac wedyn, ar ôl dringo allan unwaith, neidio i mewn i’r twll unwaith eto.

Roedd hi’n iawn ymddiheuro am alw dynes yn rhagfarnllyd – bigoted oedd yr union air – ond roedd teithio dwyawr yn ôl i Rochdale ac wedyn treulio 39 munud yn ei thŷ yn mynd tros ben llestri o dros ben llestri.

Dolur rhydd

Pan ddaeth allan, roedd ei ymgais at wenu i ddangos fod popeth yn iawn yn atgoffa dyn o rywun sy’n diodde’ o ddolur rhydd ac sydd newydd sylweddoli ei fod wedi llyncu llond llwy o syrup of figs trwy gamgymeriad.

Ar ryw ystyr, stori fechan ydi hon – y math o beth sy’n dod a mynd ar wib ar ôl codi lot o lwch. Ond mae hefyd yn codi tri phwynt pwysicach.

  • I ddechrau, mae’n awgrymu ychydig o ddirmyg at berson cyffredin a oedd wedi gofyn cwestiwn digon diniwed am fewnfudo – llawer gwaeth na rhai o’r rhagfarnau sydd wedi eu corddi gan wleidyddion.
  • Yn ail, roedd yn awgrymu fod Gordon Brown yn ddauwynebog, yn wên deg a neis-neis o flaen y camerâu, ond yn hollol wahanol yn ‘mhreifatrwydd’ ei gar.
  • Mae’r ddau bwynt yna’n arwain at y trydydd – gwallgofrwydd system sy’n rhoi cymaint o bwyslais ar bersonoliaeth ychydig unigolion ac ar eu gallu i berfformio’n gyhoeddus a phlesio’r cyfryngau.

Dyna pam fod Gordon Brown yn Rochdale yn y lle cynta’ – ymgais i’w gael i gyfarfod â ‘phobol go iawn’. Dyna pam fod Gillian Duffy – pleidleiswraig Lafur – wedi ei llusgo o’i flaen.

Oherwydd y cyfryngau, doedd Gordon Brown ddim yn licio ei bod hi wedi gofyn cwestiwn anghyfforddus – dim ond perffeithrwydd a hyfrydwch sydd i fod. Ac oherwydd hynny, roedd dan y camargraff fod y sgwrs wedi mynd yn wael.

Rhaid i bopeth fod yn hyfryd

Nid galw’r ddynes yn “rhagfarnllyd” oedd y broblem fwya’ ond methu â dweud hynny yn ei hwyneb. Bellach, am fod gwleidyddion yn credu mai plesio’r cyfryngau ydi’r unig nod, roedd rhaid esgus fod popeth yn wych ac yn ticytibŵ.

Dydyn nhw ddim yn fodlon dweud faint o doriadau fydd yna ac yn y dadleuon teledu, maen nhw’n gorfod esgus cytuno gyda phawb sy’n gofyn cwestiwn.

Ar wahân i roi cyfle i drydedd plaid a chreu term Cymraeg uffernol arall – dadl brifweinidogol – prif gyfraniad y rheiny ydi troi’r ymgyrch etholiadol yn fwy arwynebol ac arlywyddol nag erioed o’r blaen.

Ac mae’r straen o orfod bod yn neis-neis trwy’r amser yn gyhoeddus yn troi gwleidyddion yn llai gonest. Gorfod esgus bod yn hyfryd oedd problem Gordon Brown.

Ticytibŵ-hŵ-hŵ.

Ydi ymgyrch Etholiad 2010 ar ben? Dim cweit

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r cyfan wedi dechrau mynd i ben Nick Clegg…

Ydi’r ymgyrch etholiadol ar ben yn barod? Nid mewn seddi agos fel Ceredigion – dim ond dechrau taflu baw y maen nhw yno.

Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, ar lefel Brydeinig mae fel pe bai arweinwyr y pleidiau a’r cyfryngau eisoes wedi symud ymlaen at y cam nesaf.

Gyda senedd grog bron yn sicr mae’r drafodaeth ynglŷn â beth fydd yn digwydd wedyn wedi dechrau o flaen llaw.

Efallai mai bai’r cyfryngau diamynedd yw hynny ac mai dim ond ateb cwestiynau y mae arweinwyr y pleidiau. Mae hon yn ymgyrch etholiadol fyr, felly pwy a ŵyr pa mor ddiamynedd fyddai’r cyfryngau torfol 24 awr, pe bai hi’n ymgyrch hir!

Ond does dim rhaid i arweinwyr y pleidiau drafod posibilrwydd senedd grog mor agored, a bwydo’r tân, chwaith.

Chwarae teg, mae David Cameron a Gordon Brown wedi osgoi’r mater hyd yma. Ond bron bob dydd rydan ni’n cael awgrym gan Nick Clegg ei fod o’n pwyso i’r naill ffordd neu’r llall.

I ddechrau, roedd o’n awgrymu bod cadw hen lywodraeth y Blaid Lafur mewn grym yn wrthun iddo, gan awgrymu y byddai’n well ganddo glymbleidio gyda’r Ceidwadwyr.

Yna fe awgrymodd o y byddai’n fodlon clymbleidio gyda Llafur, ar yr amod nad yw Gordon Brown yn arweinydd. Heddiw mae o’n wfftio’r ddau ac yn dweud ei fod o eisiau bod yn Brif Weinidog. Mae o fel ceiliog y gwynt.

Mynd i’w ben?

Dw i ddim yn siŵr pam fod Clegg mor barod i drafod beth y byddai’n ei wneud ar ôl senedd grog.

Yn gyntaf, mae angen iddo wylio nad yw’r cyhoedd yn teimlo fod y cyfan wedi mynd i’w ben, a’i fod yn cymryd ei gefnogaeth newydd yn ganiataol.

Dydi o ddim yn debygol o fod yn Brif Weinidog, o leiaf – dan y sustem bleidleisio bresennol fe fydd yn drydydd o ran seddi y tu ôl i Llafur a’r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad, hyd yn oed os ydi o’n ennill mwy o bleidleisiau.

Ond dydi o ddim yn sicr chwaith y bydd ei blaid o eisiau clymbleidio gydag un o’r lleill, nac y bydd y pleidiau eraill eisiau clymbleidio gyda fo.

Dewis

Os bydd clymbleidio bydd rhaid iddo ddewis rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr a bydd un dewis neu’r llall yn amhoblogaidd mewn plaid gydag elfennau adain chwith ac adain dde – plaid nad oedd erioed wedi disgwyl bod mewn pŵer, ac sy’n diffinio ei hun yn bennaf fel ‘nid Llafur’ ac ‘nid Ceidwadwyr’.

Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â beth yn union fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn amdano mewn clymblaid, tu hwnt i gynrychiolaeth gyfrannol. Fydden nhw’n gallu cytuno ymysg ei gilydd ar y manylion eraill?

Ac mae’n bosib bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gofyn gormod – ydi mae’r sustem bresennol yn annheg, ond mae’n gweithio er budd Llafur a’r Ceidwadwyr, felly pam fydden nhw’n barod i’w newid?

Yr unig ddewis arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol, heblaw am benderfynu cefnogi Llafur neu’r Ceidwadwyr, ydi gwrthod ffurfio clymblaid o gwbwl. Ond mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dal i ddioddef o honiadau eu bod nhw’n llwfr ar ol iddyn nhw wrthod clymbleidio yn dilyn etholiad Cynulliad 2007.

Posibilrwydd arall

Yn ôl papur y Financial Times heddiw, mae arweinwyr y Torïaid yn ystyried trafod gyda Phlaid Cymru, yr SNP a phleidiau unolaethol Gogledd Iwerddon – os na fyddan nhw’n cael mwyafrif clir. Mantais clymblaid o’r fath ydi bod gan y pleidiau hynny restrau parod o ofynion i’w gwireddu.

Byddai’r Toriaid yn gallu ticio llond dwrn o focsys a sicrhau fod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i gynnal llywodraeth. Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn mwy ac yn bartner llawer mwy ansefydlog.

Mater arall, wrth gwrs, fyddai i Blaid Cymru gytuno i gefnogi Ceidwadwyr Llundain – o gofio’u henw a’u cynlluniau gwario cyhoeddus.

Dyna pam nad ydi’r Etholiad Cyffredinol cweit ar ben eto. Fe allai llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant y pleidiau bach wneud gwahaniaeth mawr. Fe allai seddi tynn fel Ceredigion benderfynu ar siâp y llywodraeth nesaf – a ydi’r Ceidwadwyr yn gallu clymbleidio gyda phleidiau bach fel Plaid Cymru, ynteu a fydd rhaid ceisio dd i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mw mw, me me, cwac cwac

Dylan Iorwerth yn trafod peryglon y dadleuon teledu mawr…

Wrth i bawb groesawu’r cyffro newydd a ddaeth i ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, mae yna gwestiynau mawr yn codi hefyd tros y dadleuon teledu.

Yn ogystal ag agor y ras i drydydd ceffyl, mae wedi ein gwthio ni gam anferth arall tuag at steil arlywyddol o wleidyddiaeth, lle mae personoliaeth yn bwysicach na dim.

Ac, yn hytrach na’n helpu i ddod i adnabod yr arweinwyr yn well, mae’r dadleuon yn rhoi mwy fyth o rym yn nwylo’r troellwyr a’r arbenigwyr cyflwyno.

Dyma rai o’r pryderon sy’n codi:

  • Pan fydd un o’r pleidiau mawr yn dewis ei harweinydd nesa’, un o’r prif ystyriaethau fydd eu gallu i edrych yn dda ac actio’n ddeheuig yn y ddadl deledu.
  • Yn hytrach na dod i wybod rhagor am bolisïau’r pleidiau, yr unig beth sy’n dod i’r amlwg ydi gallu’r arweinwyr i drin y cyfryngau a pharatoi ymlaen llaw. Nid trefn dair plaid sydd gynnon ni bellach ond trefn tri arweinydd.
  • O ganlyniad i’r dadleuon, mae llai a llai o sylw wedi bod ar wleidyddion eraill. Mae’r gweddill yn anweledig – os bydd angen arweinydd newydd yn y dyfodol, fydd gan neb syniad pwy ’di pwy. Mae hyd yn oed Gobaith Mawr Economaidd y Ganrif, Vince Cable, wedi ei wthio o’r neilltu.
  • Tra bo’r tri arweinydd yn ddynion, mae’n waeth byth ar wleidyddion benywaidd. Mae’n ffaith bod gwragedd y tri arweinydd wedi cael mwy o sylw na merched fel Harriet Harman a Theresa May, sydd i fod yn ddylanwadol.
  • Yng Nghymru, mae’n gwaethygu’r diffyg balans o ran sylw – enghraifft arall o’r ffaith nad yw’r system wleidyddol gyfan wedi ei haddasu i ofynion datganoli. Dadleuon Lloegr yw’r rhain, yn union fel y mae Tŷ’r Cyffredin yn troi yn Senedd i Loegr.
  • Pwy bynnag sy’n ennill, mi fydd ei rym o fewn y Llywodraeth yn ddychrynllyd. Mae’r syniad o lywodraeth trwy Gabinet eisoes wedi ei lastwreiddio’n ofnadwy. Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yma, fydd y gweinidogion eraill fawr gwell na chlwb cefnogwyr.

Gwneud pethau’n waeth fyddai syniad y Ceidwadwyr i newid y drefn os bydd plaid y Llywodraeth yn newid ei harweinydd. Yn ôl eu hawgrym nhw, byddai angen cynnal Etholiad Cyffredinol newydd o fewn chwe mis.

Mae’r peth yn nonsens – o ran gwleidyddiaeth a chyfansoddiad. Mae’n cryfhau’r syniad mai pleidleisio i berson yr yden ni, nid i blaid.

Fel arfer, rhaid i ni’r etholwyr, y cyfryngau a’r gwleidyddion rannu’r bai. Ryden ni a nhw mor barod â’n gilydd i bwysleisio personoliaethau – a rhoi’r bai ar un o’r lleill.

Cameron yn methu cyfle i roi cweir i Clegg

Ifan Morgan Jones yn pwyso a mesur perfformiad y tri arweinydd neithiwr…

Mae’r polau piniwn yn dangos anghytundeb barn ynglŷn â phwy enillodd yr ail ddadl neithiwr. Mae dau bôl biniwn wedi dweud mai Nick Clegg oedd orau, tra bod dau arall wedi rhoi David Cameron ar y blaen, gyda Gordon Brown yn drydydd agos.

Roedd agosatrwydd y tri yn ddealladwy o ystyried bod pob un wedi gwneud yn dda neithiwr – Clegg cystal â’r wythnos ddiwethaf ond Cameron a Brown yn llawer gwell.

Yn anffodus i Cameron doedd gwneud yn llawer gwell ddim digon da – roedd angen rhoi cweir iawn i Nick Clegg gan sicrhau ei fod yn cwympo cymaint yn y polau piniwn yr wythnos yma ag yr oedd wedi codi  yr wythnos diwethaf.

Roedd nifer o sylwebwyr wedi cymharu’r ddadl gyda gornest focsio – efallai bod Cameron wedi ennill yr ail rownd ar bwyntiau, ond roedd angen iddo roi’r ergyd derfynol i Clegg.

Mwy bywiog

Fel arall, roedd hi’n ddadl llawer mwy bywiog a slic na’r wythnos ddiwethaf, gyda’r arweinwyr yn torchi llewys ac yn barod i daro yn hytrach na chymryd cam yn ôl.

Nid dadleuon am arlywyddiaeth gwlad yw’r rhain wedi’r cwbl – un o ofynion pennaf bod yn Brif Weinidog ydi’r gallu i ennill dadl danllyd yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog bob dydd Mercher.

Roedd hi’n amlwg bod yr arweinwyr wedi paratoi llai o linellau a straeon o flaen llaw – strategaeth a fethodd i Brown a Cameron yr wythnos ddiwethaf – ac felly roedden nhw’n dadlau’n agored yn hytrach na darllen nodiadau.

Ond, yn eironig, un o jôcs parod Gordon Brown, fod y ddau arall fel ei blant yn ffraeo amser bath, a ddenodd yr ymateb gorau gan y gynulleidfa.

Dim ond Nick Clegg a fentrodd ddweud stori – ei fod wedi cyfarfod cwpwl oedrannus oedd yn mynd am daith ar y bws am nad oedden nhw’n gallu fforddio cynhesu eu tŷ.

Y cwestiwn annisgwyl

Dim ond un cwestiwn, am ymweliad y Pab i Brydain yn dilyn y cyhuddiadau o gam drin plant, wnaeth ysgwyd y tri ryw fymryn. Roedd hi’n amlwg nag oedden nhw wedi disgwyl honna ac roedd rhaid iddyn nhw feddwl yn gyflym, ond daeth pob un drwyddi heb unrhyw gamgymeriad mawr.

Ateb Nick Clegg, nad oedd o’n “ddyn o ffydd”, oedd fwyaf diddorol – pe bai fyth yn dod yn Brif Weinidog, ai ef fyddai’r anffyddiwr cynta’ i fod yn y swydd?

Wnaeth Nick Clegg ddim digon o ddefnydd o’i arf cryfaf, sef mai ei blaid o oedd yr unig un i wrthwynebu rhyfel Irac.. Ac fe gollodd y ddadl ar rai materion eraill, fel cael gwared ar Trident,  a hynny’n syml oherwydd bod y ddau arall wedi mynd penderfynu mynd amdano ar y pwnc hwnnw.

Dyna’r unig bryd y dywedodd David Cameron “rydw i’n cytuno gyda Gordon” gan awgrymu ei fod yn ystyried mai Nick Clegg yw ei elyn pennaf erbyn hyn.

Fe wnaeth Nick Clegg siarad gystal â’r wythnos ddiwethaf ond roedd yn sownd yn y canol, yn llythrennol, ar sawl mater o bwys ac roedd y ddau arall yn fwy parod i’w herio y tro yma.

Yr effaith

Mae’n anodd dweud pa effaith fydd hyn yn ei gael ar y polau piniwn. Fyddwn i’n disgwyl i gefnogaeth David Cameron gynyddu rhywfaint ond dim digon i ennill mwyafrif.

Efallai y bydd y gefnogaeth i Nick Clegg yn disgyn ychydig bach wrth i Cleggmania redeg allan o stêm, ond fe fydd o’n parhau’n ail cyffyrddus, gyda Llafur a  Brown yn drydydd.

Felly dyw’r ddadl ddim wedi newid y peth pwysig, sef ein bod ni’n anelu at Senedd Grog. Mae’n ymddangos yn debygol mai ar ôl Mai 6 y bydd y llywodraeth nesa’n cael ei phenderfynu, mewn trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig, yn hytrach nag yn y blychau pleidleisio.

Y Ceidwadwyr yn ystyried ymgyrch negyddol

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn beth fydd tactegau’r Ceidwadwyr dros yr wythnosau nesaf…

Mae’r Ceidwadwyr yn gwneud smonach o bethau, ac os nad ydi Nick Clegg yn gwneud yn ddigon gwael yn yr ail ddadl nos Fawrth i chwalu ei gefnogaeth yn llwyr, mae eu gobeithion o sicrhau mwyafrif yn San Steffan yn diflannu’n gyflym.

Roedd angen beth bynnag 10% o symudiad yn y  bleidlais i gyfeiriad y Ceidwadwyr iddyn nhw fwynhau mwyafrif yn y lle cyntaf, ac roedd yna gwestiynau a fydde nhw’n llwyddo yn hynny o beth hyd yn oed gydag amhoblogrwydd Gordon Brown.

Ond erbyn hyn senedd grog, gyda chlymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol,  sy’n edrych yn fwyaf tebygol. Fe allai hynny arwain at gynrychiolaeth gyfrannol yn San Steffan, un o brif bolisïau’r Dems Rhydd, a allai rwystro’r  Ceidwadwyr rhag ffurfio llywodraeth byth eto.

Mae’r Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio â rhedeg ymgyrch negyddol hyd yma ac mae hynny i’w glodfori. Penderfynodd David Cameron ganolbwyntio ar y cadarnhaol unwaith eto ddechrau’r wythnos hon – ond fe allai hynny fynd yn ei erbyn o.

O’r dechrau fe allai’r Ceidwadwyr fod wedi canolbwyntio ar Gordon Brown a phardduo ei enw. Ond fe benderfynodd David Cameron geisio gwerthu ei syniad o am ddyfodol Prydain, y ‘Gymdeithas Fawr’, yn lle.

Y broblem yw bod Nick Clegg wedi dwyn apêl David Cameron oddi arno. Mae’n edrych yn ifancach (er mai dim ond blwyddyn sydd rhyngddyn nhw), mae o’n posh (ond ddim cweit mor posh), mae’n addo newid a gobaith newydd. Nid newid llywodraeth yn unig, ond newid cyfan gwbl o’r sustem wleidyddol llwgr ddwy blaid sydd wedi teyrnasu dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw David Cameron ddim yn gwybod lle i droi.

Os nad yw’r polau piniwn yn gwella, ac os nad yw Nick Clegg yn llithro ar groen banana mawr melyn (onid dyna ydi symbol y blaid?), bydd angen newid cyfeiriad ar y Ceidwadwyr. Fe allai David Cameron bwysleisio ei neges gadarnhaol a gobeithio bydd yr haul yn tywynnu drwy’r cymylau llwch. Neu fe allai benderfynu mai dyma’r amser i newid cyfeiriad a mynd am ymgyrch negyddol: ‘Pleidleisiwch am Nick Clegg ac fe gewch chi Gordon Brown am bum mlynedd arall’.

Mae’n sefyll ar groesffordd ar hyn o bryd a bydd angen penderfyniad yn fuan. Os ydi Nick Clegg yn mynd a hi yn yr ail ddadl, fe allai fod yn rhy hwyr.

Y ddadl fawr – be nesa?

Dylan Iorwerth yn ystyried oblygiadau’r ‘fuddugoliaeth fawr’ i Nick Clegg…

Cwpwl o oriau gymerodd hi i’r Ceidwadwyr ddechrau ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol – arwydd mai eu harweinydd nhw, Nick Clegg, oedd wedi ennill y ddadl deledu rhwng yr arweinwyr.

Cymharol dawel oedd y Blaid Lafur a’u Svengali etholiadol, Peter Mandelson, hyd yn oed yn canmol ychydig ar yr ‘arwr’ newydd.

Roedd yna reswm da tros agweddau gwahanol y ddwy blaid.

Hyd yn oed os na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dod yn agos at fod yn brif blaid, hyd yn oed os na fyddan nhw’n ennill llawer rhagor o seddi, fe allan nhw chwalu gobeithion y Ceidwadwyr a David Cameron.

Mewn ambell ran o dde Lloegr, mae yna gystadlaethau agos rhwng y ddwy blaid – yn y math o seddi y mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr eu cipio er mwyn ennill grym.

Mewn seddi ymylol mewn ardaloedd eraill, fe allai cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol fod yn ddigon i atal y Ceidwadwyr rhag curo Llafur.

Siwtio Llafur

Ar hyn o bryd, felly, mae’n siwtio Llafur bod y Democratiaid yn gwneud yn eitha’ ac roedd hi’n amlwg neithiwr hefyd bod Gordon Brown a Llafur yn ffansïo’u gobeithion o daro bargen gyda Clegg wedi’r etholiad.

Os bydd y Democratiaid yn dal i ennill tir, mi fydd Llafur hefyd yn newid eu tiwn. O dan Blair, roedd hi’n amlwg bod y bleidlais dactegol wrth-Dorïaidd wedi bod yn mynd i Lafur.

Os bydd pleidleiswyr amhendant yn dechrau cymryd y Democratiaid Rhyddfrydol o ddifri, fe allai hynny newid ac wedyn mi fyddai Llafur hefyd o dan fygythiad o golli seddi i’r Dems neu o adael y Ceidwadwyr i mewn.

Er nad oedd Cymru’n rhan o’r ddadl neithiwr, mi allai llwyddiant Clegg gael effaith yma hefyd – mi allai fod yn ddigon i achub eu crwyn yn nhair sedd y Canolbarth, lle mae eu mwyafrifoedd yn gymharol fregus.

Mynd amdano

Felly, mi fydd y Ceidwadwyr – a’u cefnogwyr yn Fleet Street – yn mynd am Clegg gydag arddeliad tros yr wythnos nesa’. Yn enwedig tros ei agwedd at Ewrop a mewnfudwyr. Mi all ddisgwyl y bydd y pleidiau eraill a’r papurau’n chwilio’i bac personol hefyd.

Os bydd yn parhau’n gry’ erbyn nos Iau nesa’, gallwch ddisgwyl y bydd Cameron yn troi’r tu min tuag ato a Brown yn ceisio bod yn ffrind.

Os bydd yn parhau i ennill tir wedyn, mi gaiff ei daro o’r ddwy ochr.

Diwrnod mawr y Dems Rhydd?

Ifan Morgan Jones sy’n rhoi ei sylwadau ar ddadl fawr arweinwyr y prif bleidiau neithiwr…

Wrth danio’r teledu neithiwr roeddwn i’n disgwyl y byddai’r ddadl gyntaf rhwng tair prif blaid gwledydd Prydain yn  cadarnhau dau beth. Byddai Gordon Brown yn dangos y diffyg cyswllt gyda’r gynulleidfa, ac yn ychwanegu hoelen arall i’w arch etholiadol ei hun, abyddai David Cameron yn cau pen y mwdwl ac yn argyhoeddi pawb mai fo oedd Prif Weinidog nesaf Prydain.

Dair wythnos cyn yr etholiad, mae’r polau piniwn yn dangos nad yw’r cyhoedd  ddim yn gwbwl gyfforddus gyda’r syniad o weld Cameron yn Rhif 10 Stryd Downing. Dyma oedd y cyfle perffaith ar ei gyfer o felly – y dyn PR yn erbyn dyn gyda charisma crwban y môr.

A bod yn onest wrth ddechrau gywlio’r rhaglen doeddwn i heb lawn ystyried cyfraniad Nick Clegg. Doedd ganddo ddim  cyfle go iawn o fod yn Brif Weinidog ond fe fyddai ei adael o allan wedi corddi’r dyfroedd hyd yn oed yn fwy na’r penderfyniad i beidio  â chynnwys Alex Salmond a Phlaid Cymru.

Ond does dim dadlau erbyn hyn mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr enillwyr mawr neithiwr. Yn rhannol oherwydd bod y blaid, am y tro cyntaf yn ei hanes, wedi cael yn union yr un faint o sylw ac yn union yr un faint o gyfle i ddweud eu dweud ’r pleidiau eraill. Yn rhannol hefyd oherwydd perfformiad sicr a hyderus eu harweinydd Nick Clegg.

Yn wahanol i’r ddau arweinydd arall roedd yn edrych i lygad y camera ac yn siarad gyda’r gwylwyr gartref. Roedd hefyd yn dweud i raddau helaeth beth yr oedd y cyhoedd eisiau ei glywed, yn enwedig wrth siarad am yr economi. Doedd y ddau arweinydd arall chwaith ddim yn rhoi amser caled iddo – wedi’r cwbwl, pe bai Senedd Grog, fe fyddai’n rhaid ystyried clymbleidio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

O’r ddau arall, Gordon Brown oedd yn  argyhoeddi fwyaf. Doedd yna ddim byd arbennig o gyffrous am yr hyn yr oedd o’n ei ddweud ond roedd hi’n amlwg ei fod o’n gwybod ei stwff ac yn gallu galw i gof y manylyn lleiaf. A dyna oedd ei neges yn y bôn – ei fod yn ddibynadwy, yn ddewis saff, ac y byddai’r Ceidwadwyr yn ein harwain ni at ddirwasgiad ‘double dip’ gyda’u toriadau. Mantais y Prif Weiniodog oedd nad oedd unrhyw un yn disgwyl iddo wneud yn dda, ac felly fe wnaeth o’n well na’r disgwyl.

Cameron gafodd y noson fwyaf siomedig. Roedd golwg nerfus ar ei wyneb drwy gydol y ddadl ac, o ystyried bod ymgyrch y Blaid Lafur wedi canolbwyntio cymaint ar faint o golur yr oedd o’n ei wisgo ar ei bosteri, doedd hi ddim yn syniad da ei fod o’n edrych fel rywbeth o Madame Tussauds.

Wedi dweud hynny fo oedd gryfaf ar rai o brif bynciau’r noson – sef mewnfudo a throsedd – a daeth y cwestiynau hynny’n gynnar yn y ddadl cyn i’r rhan fwyaf o wylwyr golli diddordeb a newid sianel. Roedd Brown yn gryfach erbyn diwedd y ddadl ond efallai bod mwyafrif y gynulleidfa yn eu gwelyau erbyn hynny.

Y broblem i Nick Clegg nawr yw fod yna ddwyddadl arall ar ôl, ac fe fydd y ddau arweinydd arall am ei waed o yn rheiny. Bydd rhaid disgwyl am y polau piniwn, a’r etholiad, i weld beth fydd yr effaith ar gefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond mae’n bosib mai ddoe oedd un o’r diwrnodiau mawr yn hanes y blaid, a bod Prydain bellach yn wladwriaeth dair plaid yn hytrach nag dwy.

Bydd y ddadl bwysica i ni – wrth gwrs – am 10.30 nos Sul pan fydd arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru yn wynebu ei gilydd ar Sky News.

Rooney, siarad cyhoeddus a’r cyfryngau 24/7

Y newyddiadurwr a’r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n edrych ar y dadleuon rhwng arweinwyr y prif bleidiau heno…

Ar drothwy’r trafodaethau ‘hanesyddol’ (nid yw’r cyfryngau sydd am ddarlledu neu drafod y rhain am golli cyfle i’n perswadio fod yn rhaid gwylio’r digwyddiad) rhwng arweinwyr tair o’n pleidiau gwleidyddol, daw’n fwyfwy amlwg mai ar y cyfryngau y bydd y frwydr yn ystod yr etholiad.

A phroblem y cyfryngau torfol 24 awr ydi fod yn rhaid canfod eitemau i lenwi’r bwletinau a’r rhaglenni estynedig. Yn y bôn mae ymgyrch etholiadol yn ddiflas i’w gwylio o bell, cyfres o luniau o ddynion, gan amlaf, mewn siwtiau tywyll yn cerdded trwy dorfeydd neu yn ysgwyd dwylo gan wenu ar bawb a phopeth gan eu cyfarch oll fel hen ffrindiau. Cyfle i’r miliwnydd Cameron i chwarae pŵl gyda phobl ifanc difreintiedig neu i Brown fentro i ganol siopwyr.

Sawl gwaith y gwelsom Cameron hyd yma yn annerch criw o bobl ifanc o bob tras, a’r rheiny yn eistedd o’i amgylch fel petaent mewn amffitheatr? Nid yw’r rheiny a welwn ar y sgrin yn gweld dim ond cefn ei ben, ond fe’u rhoddwyd yno er ein mwyn ni’r gwylwyr. Mae hyn yn fy atgoffa am ohebydd o’r UDA yn dweud sut na allai fyth a pheidio rhyfeddu artGeorge W. Bush pan fyddai’n glanio mewn maes awyr, yn camu o’i awyren ac yn codi llaw a chwifio a gwenu fel petai’n gwneud hynny ar hen ffrind. Wrth gwrs, nid oedd neb yno, ond perfformio ar gyfer y cyfryngau ydoedd – a dyna mae’r gwleidyddion yn ei wneud. Dyna pam y penderfynwyd fod yn rhaid i ni weld y gwragedd yn eu cefnogi a dilyn y gŵr yn ffyddlon. Ond yn ôl at y drafodaeth fawr.

Beth sydd yn debygol o ddigwydd pan fydd tri gwleidydd profiadol sydd wedi bod yn paratoi ers wythnosau, os nad misoedd, yn cwrdd i drafod pynciau o dan amodau y mae bob plaid wedi cytuno ymlaen llaw? Wrth gwrs fe allai un wneud camgymeriad, neu edrych yn anesmwyth – neu ar ei oriawr – ond y tebygrwydd ydi mai’r un atebion, ac yr un ymosodiadau ar bolisïau eu gilydd a gawn.

Ond yn ddiweddar fe wnaed sawl camgymeriad gan ein gwleidyddion ond distaw’r yw’r drafodaeth ar y rhain bellach. Yn amlwg roedd sawl ‘spin’ wedi bod ar stori statws treth prif noddwr a chadeirydd y ceidwadwyr, a bod William Hague unai wedi bod yn ffôl iawn neu yn gyfrwys tu hwnt.

Gordon Brown yntau wrth roi tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad i ryfel Irac, yn ddweud fod digon o arian ar gael i’r fyddin bob blwyddyn, ond yna yn gorfod cyfaddef nad oedd hynny yn wir am bob blwyddyn. Camgymeriad, neu gelwydd gan obeithio na fyddai’n cael ei ddal?

Os gwyliwch y cyfryngau trwy gydol diwrnod gan neidio o un orsaf i’r llall, fe welwch gymaint o ôl hyfforddi sydd ar y gwleidyddion. Mae’n amlwg bob diwrnod fod neges arbennig i’w chyflwyno, a bod atebion parod ganddynt i’r un cwestiwn. Cymerwch David Cameron ar bob gorsaf o fore gwyn tan nos Fercher yn ateb y cwestiwn fod eu mantais yn y polau piniwn wedi disgyn, ‘dim ond un pôl sydd yn bwysig a hwnnw sydd ar fai’r 6ed yw hwnnw’. Bythefnos yn ôl mentrodd Brown, yr Albanwr a hoffai chwarae rygbi, trwy gyfrwng ei bodlediad gymharu’r economi’n cryfhau gydag anaf Wayne Rooney, gan ychwanegu ei fod ef, fel pawb arall yn y wlad yn dymuno’r gorau iddo. O gofio fod Rooney nôl ar gae mewn wythnos ac nad yw pawb yn cefnogi Man Utd na Lloegr pam fod Brown yn credu ei fod yn gwneud cam doeth yn datgan ei gefnogaeth i Rooney?

Rwy’n gwybod hefyd pwy sydd am fod yn fuddugol nos yfory. Dim dwywaith amdani, yr ‘arbenigwyr’ honedig yma ar ‘iaith y corff’ – y body language experts! Y siaradwyr proffesiynol hyn sydd yn cael eu holi yn fanwl am funudau ar sawl rhaglen bellach, ac yn siŵr o fod yn ystod, ac wedi’r drafodaeth.

Beth am lun o David Cameron yn yfed dŵr? ‘Mae ei geg yn sych am ei fod yn nerfus,’ yw barn yr arbenigwr doeth ar Sky nos Fercher. Wir yr? Neu beth am luniau o Nick Clegg yn llyncu wrth wrando ar gwestiwn. ‘Mae dan bwysau ac yn poeni, mae ei geg yntau yn sych,’ yw’r farn ar unwaith.

Gordon Brown? ‘Nid yw’n hoffi gwenu.’ Dwi’n meddwl fod hynny yn amlwg i bawb ers amser, er gwaethaf yr hyfforddiant ac yr ymarfer a gafodd cyn mentro i’r ffau llewod a chael ei holi gan Piers Morgan – nid Paxman mo hwnnw.

Felly ymlaen a ni at y drafodaeth…

Pa flwyddyn ydi hi?

Dylan Iorwerth yn dyfalu pa etholiad cyffredinol sydd fwya’ tebyg i hwn – 1992 neu 1997 …

Mae’n demtasiwn fawr i droi Gordon Brown yn John Major ar ddiwedd ei gyfnod yn Brif Weinidog.

Mae yna olwg flinedig wedi bod ar y Llywodraeth a rhywfaint o sôn am wrthryfel – a hyd yn oed ymgais neu ddwy at wneud hynny.

Fel yn 1997, mae’r Prif Weinidog wedi gadael i bethau fynd fwy neu lai i’r pen cyn galw pleidlais ac mae’r polau piniwn yn awgrymu bod y blaid arall yn sylweddol ar y blaen.

Os felly, mi ddylai Samantha Cameron fod yn meddwl am y cyrtens yn Downing Street ac yn dyfalu lle i roi’r crud newydd.

Ond, dal ei dŵr fyddai orau.

Mae yna sawl peth sy’n gwneud i’r etholiad eleni ymddangos mwy fel 1992 yn hytrach nag 1997.

Fel yr oedd John Major bryd hynny, mae Gordon Brown wedi dilyn cymeriad dadleuol oedd yn gysgod dros ei blaid ac wedi cael dwy flynedd digon anodd i drio gwneud ei farc.

Fel gyda Major yn 1992, mae gan Brown fwyafrif sylweddol i’w amddiffyn, gan olygu fod yr her i’r wrthblaid gymaint â hynny’n fwy.

Dim brwdfrydedd

Yn wahanol i 1997, does yna ddim teimlad o frwdfrydedd mawr tros yr wrthblaid, rhyw deimlad sydd yna o orfod dewis y gorau o’r gwaetha’.

Mae yna debygrwydd hyd yn oed rhwng sefyllfa arweinwyr yr wrthblaid – Neil Kinnock yn 1992 a David Cameron eleni.

Wrth fynd i mewn i wythnos ola’r ymgyrch yn 1992, roedd hi’n ymddangos bod Llafur ar y blaen ond, yn y dyddiau ola’ – ar ôl y rali fawr honno yn Sheffield, efallai – fe ddechreuodd pobol lwfrhau.

Fe ddaeth hi’n amlwg fod rhai oedd yn fodlon fflyrtian gyda Kinnock yn y polau piniwn yn cael traed oer yn y bleidlais go iawn.

Yn y diwedd, efo dirwasgiad yn gafael, fe benderfynon nhw aros efo’r arweinydd llai cyffrous, ond mwy cyfarwydd, a chwarae’n saff.

Dydi hanes ddim yn cael ei ailadrodd wrth gwrs … ond mae’n ein dysgu i feddwl ddwywaith.