Cynyddu maint testun

Golwg360

RT

Cyhoeddwyd Tachwedd 29, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymreig, Iechyd, Nick Bourne

Pam fod Andrew RT wedi gwneud y cyhoeddiad hwn? Yn y trydarfyd, y gred gyffredinol gan y gwrthbleidiau yw bod y polisi iechyd y mae RT yn ladmerydd mor gryf amdano o ddiogelu’r gyllideb iechyd ar draul popeth arall yn fethiant ysgubol ac felly bod rhaid iddo fynd. Dw i ddim mor siwr.

Mae Nick Bourne yn natganiad y Ceidwadwyr i’r wasg yn dweud pa mor annisgwyl yw ei ymddiswyddiad ac yn ei ddatganiad ei hun mae RT yn dweud ei fod e wedi bod yn meddwl am adael y meinciau blaen ers sbel fach erbyn hyn.

With the changes being made to the front bench team [wythnos diwethaf gadawodd David Melding y meinciau blaen i ysgrifennu maniffesto blwyddyn nesaf a daeth William Graham a Jonathan Morgan nôl i'r gorlan o'r meinciau cefn], I feel that now would be an opportune moment to make this move as it would allow any subsequent changes to be made with minimal disruption.

Mae’n swnio mwy fel datganiad o fwriad i fynd am yr arweinyddiaeth na dim arall. Wedi’r cyfan, mae dyfodol RT yn y Cynulliad yn saff. Mae ar frig ei restr ranbarthol ac mae’n fwy na thebygol o ddychwelyd, polisi iechyd diffygiol ai peidio. Dyw safle Bourne ddim mor saff. Os aiff y Ceidwadwyr â Maldwyn fis Mai nesaf -fydd yn fwy neu’n llai tebygol yn dibynnu ar ganlyniad achos llys Mick Bates -gallai Bourne fod yn ddi-waith cyn diwedd 2011.

Beth bynnag yw’r gwirionedd, dyw’r sïon a’r siarad amdanyn nhw ddim yn helpu achos y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Mae angen iddyn nhw fod yn unedig yn symud tuag at yr etholiad, neu fe fydd unrhyw riddyn o obaith o gynnig rhywbeth amgen i Cymru’n Un x2 yn diflannu’n llwyr.

Co ni off!

Gyda S4C, Treganna a’r refferendwm yn y penawdau, does dim gwadu -mae tymor y Cynulliad nôl gyda bang!

Byddai Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones wedi ffafrio trafod toriadau a’r Cwpan Ryder bore ma mae’n siwr ond roedd rhaid holi Carwyn am ei ymateb i’r cyhoeddiad bod Cyngor Caerdydd eisiau adeiladu ysgol newydd tair ffrwd i ysgol Treganna ar gost o £9 miliwn erbyn 2013. Fel y gwelwch chi yma mae’r rhieni’n poeni na fydd yr arian ar gael i adeiladu’r ysgol oherwydd yr hinsawdd economaidd. Roedd sylwadau Carwyn Jones yn galonogol i’r rhieni yn hynny o beth -mae’r sefyllfa’n “dynn” ond “mae arian ar gael.”

Yn y papur heddiw y clywodd Carwyn am gynlluniau’r cyngor i Dreganna medde fe. Weithiau gellir dadlau bod Carwyn yn rhy brin ei eiriau -mor wahanol i’w ragflaenydd oedd bob amser yn barod ei stori a’i hirwyntogrwydd -ond weithiau mae un gair yn dweud y cyfan. O drawsysgrif fy holi i bore ma:

“Ro’ch chi’n dweud cyn yr haf eich bod chi’n gweithio’n agos â Chyngor Caerdydd i ddod â datrysiad ond doedd gyda chi ddim syniad eu bod nhw’n mynd i roi cynnig ger bron i adeiladu ysgol?

Na.”

Fydden i ddim yn synnu pe na bai’r Cyngor wedi penderfynu cyhoeddi eu cynlluniau er mwyn gorfodi trafod ar y mater, a dechrau’r broses. Rwy’n deall bod rhyw £3 miliwn gan y Cyngor i’w roi tuag at adeiladu’r ysgol ond bydd rhaid i’r Llywodraeth ddarparu’r gweddill o £6 miliwn er mwyn i’r cyngor allu dechrau adeiladu.

Iechyd oedd canolbwynt cynhadledd y Ceidwadwyr -maen nhw’n meddwl ei bod hi’n gywilyddus nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon gwarchod cyllideb iechyd y grant bloc. Gan fod Llywodraeth San Steffan wedi dweud na fydd cyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei dorri, maen nhw am i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth. Dyw Nick Bourne ddim yn derbyn dadl y Llywodraeth bod addysg ac iechyd yn ddwy draean o holl grant bloc y Cynulliad ac felly na allan nhw addo gwarchod cyllideb y ddwy adran yn llwyr heb beryglu gwasanaethau eraill.

Difyr oedd gweld bod meirioli o du’r Ceidwadwyr ar S4C -neu o leiaf mae Nick Bourne yn dangos mwy o gydymdeimlad na Jeremy Hunt yn adran ddiwylliant San Steffan wedi bod yn ei ddangos hyd yn hyn -dim siartiau yn dangos cyllideb yn cynyddu a gwylwyr yn gostwng gan Bourne bore ma. Na, mae e’n awyddus iawn i weld datrysiad brys i argyfwng S4C. Mae e am i S4C gyflwyno “strategaeth glir” am “ble maen nhw’n mynd” ac yn eu cynghori i ddweud yn blaen beth ddigwyddodd gyda ymadawiad Iona Jones er mwyn “cael y cyfan allan o’r ffordd.” Daeth y cydymdeimlad mwyaf yng nghyd-destun gwasanaeth darlledu Cymraeg. Mae’n “deall yr angen i warchod darlledu Cymraeg” ac roedd mwy o bwyslais ganddo ar hynny er iddo ail-adrodd mantra’r Ceidwadwyr bod rhaid i S4C fod yn ymwybodol o’r diffyg yn y gyllideb.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar eu ffordd nôl o Lerpwl am 11.30 bore ma felly dim cynhadledd i’r wasg i ni. Ond fe fyddai rhywbeth diddorol ganddyn nhw i’w drafod ar iechyd hefyd pe baen nhw wedi gallu cyrraedd mewn pryd. Wele.

Mae diffyg gwybodaeth yn iawn

Cyhoeddwyd Medi 14, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Iechyd

Dylan Iorwerth yn dadlau tros gadw gwybodaeth yn gudd…

Am unwaith mae’n iawn dweud dim.

Ddylai’r awdurdodau cyhoeddus ddim rhoi rhagor o wybodaeth i ni.

Ac mae’r Ceidwadwr, Andrew R T Davies, yn anghywir i ddweud fel arall.

Y pwnc ydi clefyd y llengfilwyr a’r clwstwr o achosion sydd wedi datblygu yn ardal Blaenau’r Cymoedd.

Erbyn hyn, mae yna 19 sy’n sicr yn rhan o’r clwstwr ac mae yna 4 achos arall yn cael eu hystyried – gan gynnwys y ddau berson a fu farw.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, mi ddylen ni gael gwybod ym mha drefi y mae’r cleifion i gyd yn byw ac ym mha ysbytai y maen nhw’n cael eu trin.

Mae’n dweud bod angen deall be ydi ‘ôl-troed’ y clefyd er mwyn cysuro pobol a’u helpu i ddeall beth sy’n digwydd.

Am unwaith, yr awdurdodau sy’n iawn.

Ffeithiau = llai o wybodaeth

Gan nad ydi’r clefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o berson i berson, fyddai gwybodaeth am y cleifion yn helpu neb.

O fewn dim, mi fyddai pobol leol a newyddiadurwyr wedi ffeindio pwy yn union ydyn nhw ac mi fydden nhw’n sicr o ddiodde’ oherwydd hynny.

A fyddai neb ddim mymryn saffach.

Yr unig ôl-troed sy’n cyfri’ ydi tarddiad y clefyd – lle’n union y mae’r tŵr oeri dŵr neu’r system awyru sy’n achosi’r haint.

Dydi gwybod bod un claf ym Merthyr ac un arall yng Nglyn Ebwy o ddim help i neb. Yr unig ganlyniad fyddai panig.

Os cael rhagor o wybodaeth o gwbl, mi fyddai’n gwneud mwy o sens i ofyn ble’n union y mae’r tyrau dŵr sydd wedi gorfod cael eu glanhau.

Ond weithiau, mae rhagor o ffeithiau’n golygu llai o wybodaeth. Os nad y rheiny ydi tarddiad y clefyd, mi fyddai datgelu ble y maen nhw’n annheg i’r busnesau ac yn beryglus i bawb arall.

Fel arestio rhywun ar gam am lofruddiaeth … mae’r llofrudd go iawn yn rhydd.

Pandemig? Pa bandemig?

Cyhoeddwyd Ionawr 25, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Iechyd

Ifan Morgan Jones sy’n dweud hwyl fawr wrth y ffliw moch…

Mae o drosodd felly. Yng Nghymru o leiaf. Tynnwch eich masgiau ac anadlwch yr awyr iach unwaith eto. Mae’r pandemig ffliw moch ar ben.

Dyna beth mae penaethiaid meddygol Cymru yn ei ddweud, beth bynnag. A hynny ar yr un diwrnod ag y cafodd miloedd o rieni eu gwahodd i frechu eu plant.

Er eu bod nhw’n dal i annog pawb sy’n cael cynnig brechlyn i’w gymryd (beth arall mae nhw’n mynd i’w wneud gyda nhw?) maen nhw’n derbyn bod ffliw moch “ar drai” yng Nghymru.

Dydi o ddim yn syndod felly bod rhai pobol wedi dechrau gofyn ambell i gwestiwn ynglŷn â’r holl wario ar frechlynau, a’r holl banig, yn y lle cyntaf. Yn y Guardian mae’r hanner-Cymro Simon Jenkins yn ymosod ar wyddonwyr a’u proffwydoliaeth y byddai “65,000 o bobol yn marw”.

Fe wariodd y Llywodraeth £1 biliwn ar frechlynau. Fe allen nhw fod wedi talu bonws i fwy na hanner cant o fancwyr gyda phres fel yna.

Graean

Ond dw i ddim yn mynd i gwyno am hynny. Am ein bod ni, yr union yr un pryd, yn condemnio’r llywodraeth ac awdurdodau lleol am beidio â gwneud digon i ddelio gydag eira mawr y flwyddyn newydd.

Yn yr achos hwnnw fe fethodd y cynghorau â sicrhau bod digon o raean, gan sicrhau fod pawb oedd heb fod yn byw ar briffordd yn styc. Roedden nhw yn eu tro yn beio’r llywodraeth am beidio â’u cynghori nhw i storio mwy na chwe diwrnod o’r stwff.

Mae cymdeithas foduro’r AA yn dadlau eu bod nhw wedi rhybuddio’r cynghorau nad oedd digon o raean. Ond maen nhw’n gwneud hynny bod blwyddyn ac mae ganddyn nhw lot i’w ennill o wneud hynny.

Mewn un achos rydyn ni’n beirniadu’r llywodraeth am wneud gormod i ymdopi gyda phroblem yn wyneb rhybuddion gwyddonwyr, tra ar y llaw arall yn eu beirniadu nhw am beidio â gwneud digon am dywydd eithafol sy’n digwydd bob30 mlynedd.

Mae’r gallu i edrych yn ôl yn beth hyfryd.

Efallai y dylen ni fod wedi cymryd rhybuddion y gwyddonwyr gyda phinsied o halen. Ond byddai’n well gen i fod yn styc yn yr eira heb ddim halen nag ynghanol pandemig gyda dim brechlyn.

Penderfyniad mawr Eleni

Cyhoeddwyd Medi 24, 2009 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Iechyd

Dylan Iorwerth sy’n gofyn tybed a fydd achos Eleni Cordingley yn ddechrau ar gyfnod newydd?

Eleni Cordingley ydi’r weithwraig gymdeithasol sydd wedi cael ei swydd yn ôl er gwaetha’ achos pan gafodd plentyn bach o’r enw Aaron Gilbert ei lofruddio yn Abertawe.

Fel llawer gweithiwr cymdeithasol arall, mi gafodd hi gymaint o sylw â’r dyn a laddodd y plentyn a’r fam a adawodd iddo wneud.

Ond, y tro yma, mae Tribiwnlys wedi penderfynu mai camgymeriad oedd ei thynnu oddi ar restr gweithwyr cymdeithasol a’i sacio o’i gwaith.

Dim bai heb ystyried

Mae’r dyfarniad yn dweud yn glir na allwn ni bellach ddim beio gweithwyr cymdeithasol heb ystyried o ddifri beth ydi’r amgylchiadau gwaith a’u sefyllfa ar y pryd.

Mewn geiriau eraill, roedd Eleni Cordingley wedi diodde’ oherwydd ein hysteria ni – ac efallai ein heuogrwydd ni – ynglŷn ag achosion o’r fath.

Cyngor Gofal Cymru oedd wedi ei thynnu oddi ar y rhestr ac, mewn ffordd, roedden nhw’n diodde’ o’r un peth. Mae yna bwysau ar gyrff o’r fath i weithredu’n galed.

Neges i ni

Felly, mae’r neges i ni. Beth yden ni’n ei ddisgwyl gan ein gweithwyr cymdeithasol? Ac yden ni’n fodlon talu’r pris am hynny?

Fe wnaeth Eleni Cordingley gamgymeriad ond roedd hynny o fewn cyd-destun gwybodaeth niwlog, trefn flêr, cydweithwyr heb lawer o hyfforddiant a rhai uwch ei phen oedd â gormod o waith ar eu dwylo.

Fe wnaeth hi gamgymeriad, ond, yn rhannol, dyna pam. Faint ohonon ni a fyddai wedi gweithredu’n wahanol?

Mae angen gweithwyr gwell, meddai’r rhai uchel eu cloch. Ond, yn eironig, po fwya’r clochdar, y mwya’ anodd fydd hi i ddenu’r bobol iawn.

Yn eironig eto, os rhown ni’r gorau i wneud ffws afresymol, mae’n bosib y bydd plant yn saffach.

Ofni paranoia

Cyhoeddwyd Gorffennaf 24, 2009 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Addysg, Iechyd

Un o ohebwyr Golwg 360, Malan Wilkinson, sy’n gofyn a fydd cynllun newydd i amddiffyn plant yn gwneud mwy o niwed nag o les…

O fis Hydref 2009 eleni, bydd staff proffesiynol a gwirfoddol sy’n gweithio’n gysgon â phlant mewn ysgolion yn gorfod talu £64 am archwiliad ac i gofrestru ar restr yr ‘Independent Safeguarding Authority’.

Un o amcanion y cynllun yw amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin mewn ysgolion. Mae diogelu plant yn gwbl angenrheidiol ond, drwy gynllun tebyg i hwn, byddwn yn magu cenhedlaeth o blant sy’n cael eu bwydo gan ddiwylliant ofn, gan ddrwgdybiaeth a chan feddyliau negyddol.

Nid ofn yr ‘anghenfil gwyrdd yng nghefn y cwpwrdd’ y mae plant rhagor ond ofn oedolion sy’n dod i gyswllt â nhw.

Mae diogelu plant a chynyddu ymwybyddiaeth o beryglon cymdeithasol yn un peth, ond mae’r paranoia sy’n dod yn sgil cynlluniau fel cynllun mis Hydref yn rhywbeth cwbl wahanol, yn niweidiol ac mewn peryg o greithio meddwl yr ifanc.

Gwelwyd tystiolaeth o’r math hwn o baranoia mewn rhaglen ddogfen ar sianel 4 beth amser yn ôl o’r enw Cotton Wool Kids.

Daeth y dystiolaeth amlycaf o’r paranoia wrth i fam a merch oed cynradd ymweld â Phrifysgol i holi a oedd modd gosod sglodyn electronig yng nghroen y ferch er mwyn i’r fam i gadw llygaid arni 24 awr y dydd.

Roedd hi’n ymddangos fod y ferch yn fodlon – roedd arni ofn cael ei cham-drin. Roedd hi, fel llawer ar y pryd, yn rhy gyfarwydd â manylion achos llofruddiaeth Jessica Chapman a Holly Wells.

Roedd yr achos hwnnw’n drasig a digalon ond mae eithafion fel hyn yn frawychus a gwrthun.

Mai rhai pobol sy’n cefnogi’r cynllun fis Hydref nesaf yn dadlau nad yw plant ddim callach am y ‘fframwaith swyddogol’ sy’n eu hamddiffyn. Efallai wir, ond maen nhw’n debygol iawn o ddeall yn yr Hydref nad yw oedolion yn cael dod i gyswllt â nhw rhagor heb brawf swyddogol.

Beth am yr oedolion fydd yn gwrthod cofrestru a hynny ar sail egwyddor? Yn anochel, bydd y rheiny’n siŵr o gael eu drwgdybio am beidio â chydymffurfio â’r ‘drefn.’

Mae profion CRB yn bod eisoes – pa fanteision sydd i gyflwyno system newydd fel hon mewn gwirionedd? Ei unig effaith fydd cynyddu paranoia cymdeithasol.

Hen bryd taclo anhwylderau bwyta

Cyhoeddwyd Gorffennaf 10, 2009 gan Llinos Dafydd. Dim sylw.

Tagiau: Iechyd

Cyhoeddwyd heddiw y bydd meddygon arbenigol yn cael eu penodi er mwyn gwella’r gwasanaeth i bobol gydag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Dyma sylw gan Llinos Dafydd, gohebydd cyffredinol cylchgrawn Golwg…

Mae yna rywbeth yn digwydd i geisio taclo anhwylderau bwyta yng Nghymru, o’r diwedd. Mae e’ wedi bod yn salwch cudd ers gormod o amser, felly dw i, fel un a wnaeth ddiodde’ o anorecsia fy hun, yn estyn fy mreichiau i gofleidio’r cynllun newydd.

O fy mhrofiad i, dydy meddygon teulu ddim cweit yn deall y salwch yn iawn – a phan rydych chi’n diodde’ o anhwylderau bwyta, mae hynny’n arwain at broblemau dyfnach, meddyliol. Yn sgil hynny, rydych chi’n medru twyllo pobol – a digon hawdd, felly, yw darbwyllo’r doctoriaid, eich bod yn hollol iach.

O dan y cynllun newydd, bydd dau dîm – un yn y gogledd a’r llall yn y de – yn gweithio gyda meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd meddwl.

Byddan nhw wedyn, gobeithio, yn adnabod yr holl driciau ymhlith y rhai sy’n dioddef – y twyllo a’r sicrhau cyson nad oes yna broblem o gwbwl.

Gobeithio y bydd hyn yn medru cynnig gwellhad i gymaint o bobol â phosib sy’n brwydro drwy afeichydon bwyta . Mae rhai’n llwyddo i guro’r afiechyd, ac eraill yn dirywio dan y straen, a rhai’n marw.

Mae mor bwysig i gael yr arbenigedd yma ar stepen ein drws, yn lle gorfod teithio i Loegr. Mae mwy a mwy yn diodde’, ac mae’n fath o broblem sydd wastad yn mynd i fod yno – hyd yn oed os ydy rhywun wedi ei goncro. Mae e’ yno’n llechu – a daw yn ôl i frathu dioddefwyr dro ar ôl tro.

Hen bryd yw sicrhau nad yw anorecsia a bwlimia yn ennill y dydd.