Cynyddu maint testun

Golwg360

Problem Ieuan, cysur Carwyn

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Ieuan Wyn Jones


Ieuan Wyn Jones
Dylan Iorwerth yn ystyried arwyddocâd go iawn y gwyliau yn Ne Ffrainc…

Nid colli’r Agoriad Swyddogol oedd problem fawr Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru. Llawer gwaeth oedd colli dyddiau cynta’r sesiwn newydd.

Roedd hynny wedi pylu min ymosodiad ei blaid ei hun ar Carwyn Jones a Llafur – eu bod nhw’n llaesu dwylo ers yr etholiad a bod Cymru’n cael ei chario gan y llif.

Roedd gan y Prif Weinidog ateb hawdd i’r ymosodiadau yn Siambr y Cynulliad – dyw eich arweinydd chi ddim hyd yn oed yn trafferthu bod yma. Ac mae Carwyn Jones yn effeithiol iawn pan ddaw cyfle fel yna ar blât.

Gyda ffrindiau fel hyn …

Bellach, beth bynnag ydi dymuniadau Ieuan Wyn Jones, mi fydd rhaid i’r Blaid symud yn gynt i gael arweinydd newydd. Fel arall, mi fydd yn darged hawdd iawn yn y dyfodol hefyd.

Un o’r rhai sy’n sôn am sefyll i fod yn Ieuan Heir ydi Dafydd Elis-Thomas. Yn yr un sesiwn, mi wnaeth job  effeithiol iawn o danseilio cwestiynau ei gyd-aelod o Blaid Cymru, Simon Thomas, ynglŷn â phenodi Cwnsel Cyffredinol.

Mae hyn i gyd – a brwydr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr a  gwendid y Democratiaid Rhyddfrydol – yn dangos y gallai hi fod yn gymharol hawdd i Lafur lywodraethu heb fwyafrif clir.

Y Dimocratiaid Rhyddfrydol

Efo dim ond tri aelod ar hyn o bryd, mae plaid Kirsty Williams mewn mwy o strach fyth. Y dyfalu ydi na fydd y ddau aelod colledig – Aled Roberts a John Dixon – yn cael dod yn ôl. Mae mwyafrif llethol yr aelodau Llafur yn erbyn a llawer o ACau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr hefyd.

O ganlyniad, dim ond hi ei hun a Peter Black o Abertawe fydd cnewyllyn y blaid – er bod gan eilydd Aled Roberts, Eleanor Burnham, rywfaint o brofiad, mae wedi ymosod ar ei harweinydd ei hun a galw’i harweinyddiaeth yn “shambls”.

O ystyried faint o ddatganiadau polisi neu areithiau mawr sydd wedi eu gwneud, mae’r cyhuddiad yn erbyn Carwyn Jones o orffwys ar y rhwyfau’n ymddangos yn un digon teg.

Ond dyma’r pwynt: yn wleidyddol does dim rhaid iddo fo wneud affliw o ddim.

Edrych Nol Edrych 'Mlaen

Edrych nôl gawson ni gan y Llywodraeth yn y briffing bore ma, wrth i Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones fynegi -gyda rhywfaint o nostalgia -mai dyma o bosib y briffing ar y cyd olaf o’r Llywodraeth hon. Maen nhw’n falch iawn o’u record ac yn brolio i gytundeb Cymru’n Un gynnig llywodraeth sefydlog, yr hyn oedd pobol Cymru’i eisiau er efallai nid cymaint aelodau’r blaid Lafur. Ond newidwyd eu meddwl, gan gynnwys neb llai na un o’r gwrthwynebwyr pennaf Peter Hain.

O edrych nôl, rhaid edrych ‘mlaen a meddwl -ai Cymru’n Un x2 ddaw wedi etholiad y Cynulliad? Ateb cyson Carwyn Jones yw bod Llafur, fel y pleidiau eraill, yn chwilio am fwyafrif fis Mai a fydd dim trafod clymbleidio tan ar ôl canlyniad etholiadol fydd yn gorfodi hynny. Llafur wrth gwrs yw’r unig blaid ag unrhyw obaith o gael mwyafrif . Gyda’r arolygon barn ar 44% o blaid Llafur ers misoedd bellach, mae’n bosibl y gall Llafur ddychwelyd 30 a mwy o aelodau i’r Cynulliad eleni. Fe fydd y tebygolrwydd o glymblaid yn is y mwyaf o aelodau fydd gan Lafur. Er bod 31 yn fwyafrif, dyw e ddim yn ddigon i sicrhau sefydlogrwydd.

Wrth gwrs er mwyn bod yn bartner mewn llywodraeth fe fydd y pleidiau eraill yn gobeithio’n fawr na fydd Llafur yn cyrraedd yn agos at y 30 hudol. Y cwestiwn i’r ddau arweinydd llywodraethol gan gyfaill o’r lobi bore ma oedd -ydych chi’n diystyru’r posibilrwydd o glymblaid â’r Ceidwadwyr? Doedd Carwyn ddim am oedi cyn dweud bod hynny’n hollol amhosibl. Ieuan ar y llaw arall -wel, byddai hi’n anodd yn dilyn rhaglen y Ceidwadwyr yn San Steffan i glymbleidio â nhw oedd ei ateb e.

Mae’n amlwg mai ail ddewis go anghynnes i Blaid Cymru fyddai rhoi cyfle i glymblaid yr enfys, gyda llawer mwy o frwdfrydedd i glymbleidio â Llafur eto pe bai’r cyfle’n codi. Ond roedd Nick Bourne yn hapus fodlon i ddweud ei fod ef a Ieuan yn ffrindiau da a bod gwleidyddion weithiau yn dweud rhai pethau’n gyhoeddus nad ydyn nhw o reidrwydd yn ei golygu go iawn. Fyddai Nick Bourne ddim yn synnu pe bai Ieuan Wyn Jones wedi dweud rhywbeth cyffelyb am glymbleidio â’r Ceidwadwyr nôl yr adeg hon yn 2007 hefyd ac eto roedd Clymblaid yr Enfys yn bosibilrwydd go iawn wedi etholiad y flwyddyn honno.

Holodd neb Kirsty Williams bore ma beth fyddai ei dewis cyntaf hi mewn clymblaid. Gyda’r arolygon barn a’r sylwebwyr yn darogan gwae i’r Democratiaid Rhyddfrydol, efallai nad yw hi’n syndod.

Strategaeth

“Beth yw’ch strategaeth chi i ennill Bro Morgannwg yn etholiad y Cynulliad?”

Cwestiwn digon diniwed gallech chi feddwl, gan mai fy nghyfaill o’r Western Mail, David Williamson oedd yn holi’r cwestiwn i Nick Bourne, a bod y Ceidwadwyr newydd gipio Bro Morgannwg oddi wrth Lafur yn yr etholiad cyffredinol. Ond dyw David ddim mor ddiniwed ag y mae rhai pobol yn meddwl ac ro’n ni newydd fod yn trafod Sain Tathan yn y briffing, Sain Tathan sydd yng nghanol etholaeth Bro Morgannwg ac sydd newydd glywed na fydd penderfyniad ar ganoli hyfforddi milwrol i’r safle milwrol yn y pentref yn cael ei wneud tan y gwanwyn ac na fydd y cwmni Metrix bellach yn ennill y cytundeb i ganoli’r hyfforddiant yno chwaith.

Ydyn ni’n gweld y miloedd o swyddi milwrol yn diflannu o flaen ein llygaid ni? Yw hi’n ta ta ar wella isadeiledd lonydd cul y Fro ac felly’n ta ta ar ddyfodol y ganolfan aerospace yn Sain Tathan hefyd? Dw i ddim yn gwybod, ac mae’n amlwg nad yw gwleidyddion Cymru’n gwybod chwaith. Mae Alun Cairns, yr AS gipiodd y Fro mor gyfforddus fis Mai, yn ymddangosiadol ffyddiog y daw y datblygiad i Sain Tathan ymhen hir a hwyr.

Ond fydd hynny’n rhy hwyr? 83 o bleidleisiau enillodd y Fro i Jane Hutt a Llafur yn 2007. Mae hi’n tampan yn ei datganiadau i’r wasg ynglyn â chyhoeddiad Sain Tathan, mae’n “devastating blow” i’r ardal mae’n debyg. Dim  cymaint felly i Jane Hutt o bosibl. Gallai penderfyniad y llywodraeth sicrhau gafael Llafur ar etholaeth Bro Morgannwg yn y Cynulliad. Newyddion da i un ceidwadwr hawddgar hefyd, diolch i’n system etholiadol. Ail i Andrew RT Davies ddaeth David Melding ar restr ymgeiswyr rhanbarth canol de Cymru’r Ceidwadwyr wedi ei hetholiad mewnol. Os yw’r Ceidwadwyr yn methu yn ei hymgyrch i gael Bro Morgannwg, mae’r tebygrwydd y bydd y blaid yn ennill dwy sedd restr yn uchel a bydd lluniwr maniffesto’r Ceidwadwyr yn parhau’n AC wedi mis Mai.

Beth arall oedd yng nghynhadleddau’r bore? Arolwg gwariant, arolwg gwariant, arolwg gwariant -a neb yn gwybod union fanylion yr arolwg hwnnw. Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn clywed am doriadau’r Llywodraeth glymblaid yr un pryd â gweddill Prydain yfory, fel y bydd Nick Bourne a Kirsty Williams. Dim rhagrybudd i wleidyddion bach Cymru fel adrannau Whitehall.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn addo y bydd y toriadau yn tagu Cymru ac yn ddiwedd y byd tra bod arweinydd y gwrthbleidiau’n unfarn mai bai Llafur yw’r holl broblem a beth bynnag, bydd y glymblaid yn San Steffan yn deg gyda’r fwyell. Fe fyddwn ni’n clywed y manylion gan George Osborne yfory, 12.30 o Dy’r Cyffredin. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru yn dod yn hwyrach.

Un peth bach arall glywon ni bore ma yw y bydd ymgyrch Ie’n cael ei lawnsio yn y diwrnodau nesaf. Na, nid ar y bleidlais amgen (er mai dyna oedd pwnc cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol i fod heddiw) ond Ymgyrch Ie refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad. Fe fydd y gorchymyn i gynnal y refferendwm ar Fawrth 3 hefyd yn cael ei osod yn fuan. Doedd Ieuan Wyn Jones ddim yn barod i fynd i fanylion pryd, sut na ble ond gwylier y gofod. Gyda’r ymgyrch Na eisoes wrthi, fe fyddai rhai’n dweud ei bod hi’n hen bryd.

Eistedd-fod

Rwy ar faes yr Eisteddfod am yr wythnos felly bydd y  blogio’n brin gan fod yr holl rialtwch ar y maes, cynifer o ddarlithoedd difyr i’w mynychu a digonedd o wleidyddion i’w cyfweld. Roedd ddoe’n brysur aruthrol, gan ruthro hyd lle yn hel straeon tranc S4C ymysg pethau eraill. Ac S4C mae’n siwr oedd ysgogiad Plaid Cymru i drefnu araith funud olaf gan Ieuan Wyn Jones ym Mhabell y Cymdeithasau 2 heddiw (dyw e ddim wedi ei amserlennu ar y rhaglen beth bynnag).

Lansio un o brif bolisiau’r blaid at etholiad y Cynulliad wnaeth Ieuan Wyn Jones, gan alw am ddatganoli darlledu i Gymru. Roedd ei ddadl yn glir gan adleisio’n sylwadau’r llafurwr Alun Davies dros yr wythnosau diwethaf bod datganoli darlledu’n ofynnol gyda llywodraeth yn San Steffan sy’n bygwth torri cyllid S4C mor sylweddol a 24% dros bedair blynedd. Sylw arall digon teg gan Ieuan Wyn Jones yw bod nifer y rhaglenni wedi i gwneud yng Nghymru gan y BBC wedi dirywio o 824 awr i 696 awr ac oriau rhaglenni materion cyfoes wedi dirywio o 500 i 420. Ar ITV wedyn mae’r ddarpariaeth wedi diflannu’n llwyr o ran rhaglenni cyffredinol o Gymru a’r ddarpariaeth newyddion yn bitw o gymharu ã’r oes a fu. Mae Ieuan Wyn Jones eisiau i’r Cynulliad gael y pwer dros ddarlledu er mwyn cywiro’r diffygion hyn. Pwyslais ganddo oedd nad yw e eisiau datganoli darlledu er mwyn llywio agenda wleidyddol y darlledwyr. Mae mwy am ei araith yma.

Y cwestiwn dw i am ei holi heddiw yw: pam fod cyn lleied o bobol wedi dod i glywed y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd ail blaid y Cynulliad, heb sôn am arweinydd y blaid genedlaethol honedig yn siarad? Oni bai am bresenoldeb y wasg yno byddai Pabell y Cymdeithasau 2 wedi bod ddwy draean yn wag a’r mwyafrif o’r lleill yn bobol â chyswllt uniongyrchol â darlledu yng Nghymru.

Ai’r absenoldeb rhestru’r digwyddiad ar y rhaglen oedd yn gyfrifol? Go brin -roedd y digwyddiad dros y newyddion a’r papurau i gyd bore ma. Neu ai diffyg diddordeb ym Mhlaid Cymru gan y rhai sy’n cael eu hystyried yn bleidlais sicr i’r cenedlaetholwyr?

Dim ond gofyn.