Cynyddu maint testun

Golwg360

Brwydr y darlledwyr

Cyhoeddwyd Mehefin 16, 2014 gan Pêl-droed.

Tagiau: BBC, cwpan y byd, Daniel Johnson, ITV


Daniel Johnson
Daniel Johnson sydd asesu’r ornest rhwng BBC ac ITV yng Nghwpan y Byd

Oni bai eich bod wedi bod yn byw o dan gragen dros y misoedd diwethaf, mae’n siŵr eich bod wedi sylweddoli fod Cwpan y Byd 2014 newydd gychwyn.

Am fis cyfan, bydd amserlen y BBC ac ITV yn cael eu newid i gynnwys y wledd o bêl-droed.

Er mwyn cadw ein diddordeb, mae’n rhaid i’r sianeli fod hefo tîm cyfryngau da er mwyn trafod y gêm, ac i ddadansoddi beth sy’n digwydd yn y gemau. Felly ydi timau’r BBC ac ITV yn gwybod am beth maen nhw’n sôn, ynta’n malu awyr?

BBC

Yn arwain sylw’r BBC mae cyflwynydd Match of the Day, Gary Lineker. Mae o’n cael ei gynorthwyo gan nifer o gyn-chwaraewyr megis Rio Ferdinand, Thierry Henry, Juninho a Clarence Seedorf.

Criw sydd hefo digon o wybodaeth ynglŷn â’r gem, yn enwedig Henry a Seedorf sydd yn diddanu’r gwylwyr hefo sylwadau diddorol.

Un gwall hefo tîm y BBC ydi Ferdinand. Dydy o ddim yn edrych mor gyfforddus â’r gweddill o flaen y camera, a dydy o ddim yn cyfrannu digon i’r sgwrs y rhan fwyaf o’r amser.

Hefyd, mae yna dueddiad iddo fo a Lineker ddychwelyd i siarad am Loegr yn eitha’ aml. Dy’n nhw ddim i’w weld yn deall nad ydy pawb eisiau gwybod am sut ddaru Adam Lallana ymarfer y pnawn yna.

ITV

Er hyn, mae’n rhaid dweud fod sylwebyddion ITV yn bell tu ôl i’r BBC. Yn arwain eu sylw nhw mae cefnogwr West Brom, y dyn hefo’r llais mwya’ boring ym mhêl-droed, Adrian Chiles.

Pan gymharwch chi fo a Lineker, mae yna fyd o wahaniaeth. Un yn llawn bywyd, y llall yn swnio fel ei fod o eisiau bod adre. Dydy o ddim yn gychwyn grêt i ITV.

Mae o’n beth da felly, fod y panel yn un deallus sydd yn rhoi digon o sylw i’r gemau. Er i’r Gwyddel, Roy Keane, dynnu allan ar fyr rybudd, mae o’n llawer mwy o fwynhad i wylio’r rhaglen hebddo.

Y noson o’r blaen, cafodd ei le ei lenwi gan Fabio Cannavaro, cyn-gapten tîm yr Eidal a enillodd Gwpan y Byd yn 2006.

Er nad ydy Cannavaro yn gallu siarad Saesneg yn rhugl, mae o’n llwyddo i ddweud mwy yn y cryn eiriau mae o’n gwybod na Keane beth bynnag.

Yn ymuno â Cannavaro mae enillwr arall y Gwpan, y Ffrancwr Patrick Vieira. Ar ôl treulio naw mlynedd hefo Arsenal, a rŵan yn gweithio i Man City, mae o’n ddigon rhugl yn Saesneg i siarad yn rhydd am y gêm.

Rydych yn gallu dweud ei fod wedi treulio blynyddoedd ar frig y gêm, gan ei fod yn siarad yn ddeallus am beth sy’n digwydd.

Yn ogystal â Cannavaro a Vieira, dau arwr yn y byd pêl-droed, mae, wel, Lee Dixon ar soffa ITV. Er nad ydy Dixon erioed wedi cyrraedd lefelau’r ddau arall, mae o’n gwybod beth mae o’n son am felly’n haeddu’i le ar y panel.

Gallwn ddweud yr un peth am y gweddill yno, gan gynnwys hyfforddwr Sunderland Gus Poyet a hyfforddwr yr Alban, Gordon Strachan. Mae Ian Wright hefyd yno’n crwydro traethau Brazil, am ryw reswm.

Tro ar fyd?

Y BBC sy’n ennill yn y frwydr sylwebaeth heb os. Gan fod ITV yn mynnu defnyddio Andy Townsend, does ‘na ddim safon uchel i’w guro i fod yn onest.

Ac ar y cyfan y BBC sydd hefyd hefo’r sylw gorau tuag at y Gwpan y tro yma. Ond hefo cwpl o newidiadau mi fuasai modd i ITV gipio’r frwydr hon.

Ar y funud, dim ond Chiles a Townsend sydd yn mynd ar fy nerfau i yn bersonol. Tasa ITV yn cael gwared â’r ddau ohonyn nhw dwi’n tybio y buasen nhw’n llawer mwy poblogaidd ymysg y gwylwyr.

Yn 2010, gwyliodd 15.1 miliwn o bobl ffeinal Cwpan y Byd ar y BBC, tra dim ond 3.3 miliwn wnaeth ar ITV. Mae’n ymddangos mai’r BBC yw’r ffefrynnau o hyd – ond pwy a ŵyr beth all ddigwydd hefo cwpl o newidiadau bach?

Pliwraliaeth

Cyhoeddwyd Tachwedd 6, 2010 gan Rhiannon Michael.

Tagiau: BBC, ITV, Pliwraliaeth, Western Mail

Mae fy ffrind wedi bod yn mynd o gwmpas y lle’r wythnos hon yn dweud wrth bobol bod gan Rhiannon Michael bliwraliaeth. Pleurisy mae hi’n ei feddwl ond mae hi’n trio bod yn ddoniol. Achos yr aflwydd, rwy wedi bod yn gaeth i fy nhy a fy soffa ers wythnos. Digon i hala colled ar unrhyw un ond gyda’r holl weithgarwch gwleidyddol yng Nghymru yr wythnos hon, uffern ar y ddaear i newyddiadurwraig wleidyddol. Achos mae fy ngliniadur wedi bod yn y swyddfa tra mod i ar y soffa. A does nemor ddim gwleidyddiaeth Gymraeg na Chymreig ar y teledu. Ac felly mae dewis fy ffrind o jôc yn eithaf addas.

Er i amryw i un gynnig dod â bwyd a’r papur i fi, un copi o’r Western Mail ydw i wedi gweld yr wythnos hon a hynny am i fi godi copi ar y ffordd adre o’r meddyg (ond fe ges i ddigon o fwyd felly diolch yn fawr boblach). Mae’n siwr mai trio ‘ngorfodi i i orffwys oedd pobol ond mae peidio â gwybod beth sy’n digwydd yn fy ngwneud i’n fwy aflonydd! Fe dries i ddilyn y newyddion Cymreig trwy’r we ar fy ffôn ond nid iphone sydd gen i ac mae’r sgrîn yn fach a’r cysylltiad yn annibynadwy. Felly heb y we ac heb bapur newydd, roedd rhaid i fi ddibynnu ar y teledu am fy ngwleidyddiaeth. Waeth i fi heb. Heblaw am ampm y BBC ar ddydd Mawrth a dydd Mercher a phytiau byr newyddion does dim gwleidyddiaeth Gymraeg ar y teledu. Mae S4C yn dangos trafodion y Cynulliad dros nos ond go brin y bydden i, fel merch fach dost, yn aros ar ddihun drwy’r nos i wylio hynny. Ro’n i hefyd yn y gwely cyn Dragon’s Eye a Sharp End yr wythnos hon ond o leia maen nhw’n bodoli -a blog am y ddarpariaeth yn ystod y dydd yw hwn.

Mae’r arlwy ar y we yn wych i anoracs gwleidyddiaeth Gymraeg, mae gwefannau a blogs rif y gwlith sy’n cynnig dadansoddiadau o hynt a helynt y Cynulliad a San Steffan yn y cyd-destun Cymreig, gwefan newyddion y BBC (mae Democratiaeth Fyw yn dangos holl drafodion y Cynulliad yn fyw) ac wrth gwrs ein gwasanaeth gwych ni ar www.Golwg36o.com ac mae darpariaeth ar wefannau’r Cynulliad a’r Comisiwn ( mae www.senedd.tv hefyd yn dangos yr holl drafodion o’r Cynulliad). Rwy’n deall yn iawn yr awydd i gysylltu â’r cyhoedd ar y we, ac mae’n siwr mae’r we yw’r dyfodol ond beth amdanom ni drueiniaid sâl neu hen, neu gaeth i’n cartref sydd heb gyswllt gwe? Mae S4C2 yn eistedd yn segur yn dargyfeirio pobol i wifren gwylwyr S4C gydol y dydd. Pam nad yw’r sianel hon yn cael ei defnyddio i ddarlledu o’r Cynulliad o hyd? Dw i ddim yn dweud llai, fe fyddai’n debygol o fy anfon i gysgu yn fy salwch o ystyried fy mlog diweddar ond fe ddylem ni gael y cyfle i weld y trafodion yn rhwydd, oni ddylem?

Gyda llaw, rwy’n blogio o fy ngliniadur heddiw. Roedd rhaid ei nôl, yn rhinwedd y rali fawr heddiw. Os na allwn i fod yno i ohebu, ro’n i’n benderfynol o wybod sut aeth hi! Meddyg yn dweud y caf fi fod nôl yn y gwaith ddydd Llun. Ffaelu aros!

Rhydd i bawb ei (arolwg) barn

Cyhoeddwyd Mehefin 30, 2010 gan Rhiannon Michael.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011, ITV, refferendwm

Mae ITV newydd gyhoeddi canlyniadau cyntaf arolwg barn newydd, fydd yn datgelu bwriadau pleidleisio’r Cymry ar refferendwm pwerau deddfu ac yn etholiadau’r Cynulliad yn fisol, ynghyd ag ymateb i gwestiwn amserol gwahanol bob mis.

Os yw’r arolwg yma’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, gallai Llafur ffurfio llywodraeth fwyafrif ar ol yr etholiad flwyddyn nesaf, gyda 42% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros ymgeisydd Llafur ei hetholaeth, a 40% yn dweud mai Llafur fyddai eu dewis nhw ar y rhestr ranbarthol yn 2011 hefyd. Mae hyn o gymharu ag ymateb o 32% yn dewis Llafur yn yr etholaeth a 30% yn dewis Llafur yn y rhanbarth yn 2007. Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn hofran o amgylch y marc 20% nawr fel yn 2007 gan golli rhywfaint o gefnogaeth ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd fwyaf ar eu colled os yw’r arolwg i’w gredu. Fe fyddan nhw’n dweud mai’r unig arolwg sy’n cyfri yw’r bleidlais ei hunan, ond allan nhw ddim bod yn hapus mai 12% sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio drostyn nhw yn yr etholaeth wedi llwyddo i gael 20% yn mynegi bwriadu i’w cefnogi dim ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyffredinol ym Mai.

O ran y refferendwm, mae pethau’n argoeli’n dda i’r ymgyrch Ie, gyda thwf sydyn iawn mewn cefnogaeth i refferendwm ers mis Ebrill. Yn ol yr arolwg, mae cefnogaeth i gynyddu pwerau deddfu i fyny i 55%, o 49% yn Ebrill. Mae’r rhai sy’n bwriadu pleidleisio na lawr i 28%. Mae 17% un ai a dim diddordeb mewn pleidleisio neu ddim yn gwybod beth i’w wneud. Bydd rhain yn darged clir i’r ddwy garfan felly.

Dyma’r manylion i gyd:

Arolwg Barn ITV YouGov

Canlyniad arolwg 28-30 Mehefin 2010. Sampl: 1001.

Bwriadau pleidleisio ( o gymharu ag etholiad 2007 ac arolwg 3-4 Mai 2010. 

Pe bai etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yfory, gan ystyried y bleidlais etholaethol, sut fyddech chi’n pleidleisio?

                        Etholiad 2007    Arolwg Mai 2010  Arolwg Mehefin 2010

Llafur                            32%                32%                 42%

Plaid Cymru                  22%           22%                   20%

Ceidwadwyr                  22%            21%                  19%

Dem. Rhydd                 15%              20%                12%

Eraill                             8%                    5%              6% 

Gan ystyried y bleidlais ranbarthol neu bleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dros ba blaid fyddech chi’n pleidleisio?

         Etholiad 2007    Arolwg Mai 2010                    Arolwg Mehefin 2010

Llafur             30%                              30%                                          40%

Plaid Cymru  21%                              21%                                          19%

Ceidwadwyr  22%                              21%                                          20%

Dem. Rhydd  12%                              18%                                          12%

Eraill               16%                              9%                                           9%

Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm (o gymharu ag arolwg barn o 16-19 Ebrill 2010).

Pe bai refferendwm yfory ar gynyddu pwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sut fyddech chi’n pleidleisio?

 

                      Arolwg Ebrill 2010                     Arolwg Mehefin 2010

Ie                     49%                                          55%

Na                    33%                                          28%

Ddim yn Gwybod/ 18%                                          17%

Ddim am bleidleisio     

 

Mae George Osborne, Canghellor y Trysorlys, wedi datgelu ei gyllideb gyntaf. Fe gyhoeddodd toriadau mewn gwariant a chynydd mewn trethi er mwyn lleihau lefel benthyca’r Llywodraeth. Ydych chi’n meddwl…?                                                                                      Arolwg Mehefin 2010

Ei fod wedi mynd yn rhy bell er mwyn lleihau’r ddyled                       43%

Ei fod e wedi ei gael e’n iawn                                                                         36%

Nad yw e wedi mynd yn ddigon pell i leihau’r ddyled                         8%

Ddim yn gwybod                                                                                                13%