Cynyddu maint testun

Golwg360

Edrych Nol Edrych 'Mlaen

Edrych nôl gawson ni gan y Llywodraeth yn y briffing bore ma, wrth i Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones fynegi -gyda rhywfaint o nostalgia -mai dyma o bosib y briffing ar y cyd olaf o’r Llywodraeth hon. Maen nhw’n falch iawn o’u record ac yn brolio i gytundeb Cymru’n Un gynnig llywodraeth sefydlog, yr hyn oedd pobol Cymru’i eisiau er efallai nid cymaint aelodau’r blaid Lafur. Ond newidwyd eu meddwl, gan gynnwys neb llai na un o’r gwrthwynebwyr pennaf Peter Hain.

O edrych nôl, rhaid edrych ‘mlaen a meddwl -ai Cymru’n Un x2 ddaw wedi etholiad y Cynulliad? Ateb cyson Carwyn Jones yw bod Llafur, fel y pleidiau eraill, yn chwilio am fwyafrif fis Mai a fydd dim trafod clymbleidio tan ar ôl canlyniad etholiadol fydd yn gorfodi hynny. Llafur wrth gwrs yw’r unig blaid ag unrhyw obaith o gael mwyafrif . Gyda’r arolygon barn ar 44% o blaid Llafur ers misoedd bellach, mae’n bosibl y gall Llafur ddychwelyd 30 a mwy o aelodau i’r Cynulliad eleni. Fe fydd y tebygolrwydd o glymblaid yn is y mwyaf o aelodau fydd gan Lafur. Er bod 31 yn fwyafrif, dyw e ddim yn ddigon i sicrhau sefydlogrwydd.

Wrth gwrs er mwyn bod yn bartner mewn llywodraeth fe fydd y pleidiau eraill yn gobeithio’n fawr na fydd Llafur yn cyrraedd yn agos at y 30 hudol. Y cwestiwn i’r ddau arweinydd llywodraethol gan gyfaill o’r lobi bore ma oedd -ydych chi’n diystyru’r posibilrwydd o glymblaid â’r Ceidwadwyr? Doedd Carwyn ddim am oedi cyn dweud bod hynny’n hollol amhosibl. Ieuan ar y llaw arall -wel, byddai hi’n anodd yn dilyn rhaglen y Ceidwadwyr yn San Steffan i glymbleidio â nhw oedd ei ateb e.

Mae’n amlwg mai ail ddewis go anghynnes i Blaid Cymru fyddai rhoi cyfle i glymblaid yr enfys, gyda llawer mwy o frwdfrydedd i glymbleidio â Llafur eto pe bai’r cyfle’n codi. Ond roedd Nick Bourne yn hapus fodlon i ddweud ei fod ef a Ieuan yn ffrindiau da a bod gwleidyddion weithiau yn dweud rhai pethau’n gyhoeddus nad ydyn nhw o reidrwydd yn ei golygu go iawn. Fyddai Nick Bourne ddim yn synnu pe bai Ieuan Wyn Jones wedi dweud rhywbeth cyffelyb am glymbleidio â’r Ceidwadwyr nôl yr adeg hon yn 2007 hefyd ac eto roedd Clymblaid yr Enfys yn bosibilrwydd go iawn wedi etholiad y flwyddyn honno.

Holodd neb Kirsty Williams bore ma beth fyddai ei dewis cyntaf hi mewn clymblaid. Gyda’r arolygon barn a’r sylwebwyr yn darogan gwae i’r Democratiaid Rhyddfrydol, efallai nad yw hi’n syndod.

Strategaeth

“Beth yw’ch strategaeth chi i ennill Bro Morgannwg yn etholiad y Cynulliad?”

Cwestiwn digon diniwed gallech chi feddwl, gan mai fy nghyfaill o’r Western Mail, David Williamson oedd yn holi’r cwestiwn i Nick Bourne, a bod y Ceidwadwyr newydd gipio Bro Morgannwg oddi wrth Lafur yn yr etholiad cyffredinol. Ond dyw David ddim mor ddiniwed ag y mae rhai pobol yn meddwl ac ro’n ni newydd fod yn trafod Sain Tathan yn y briffing, Sain Tathan sydd yng nghanol etholaeth Bro Morgannwg ac sydd newydd glywed na fydd penderfyniad ar ganoli hyfforddi milwrol i’r safle milwrol yn y pentref yn cael ei wneud tan y gwanwyn ac na fydd y cwmni Metrix bellach yn ennill y cytundeb i ganoli’r hyfforddiant yno chwaith.

Ydyn ni’n gweld y miloedd o swyddi milwrol yn diflannu o flaen ein llygaid ni? Yw hi’n ta ta ar wella isadeiledd lonydd cul y Fro ac felly’n ta ta ar ddyfodol y ganolfan aerospace yn Sain Tathan hefyd? Dw i ddim yn gwybod, ac mae’n amlwg nad yw gwleidyddion Cymru’n gwybod chwaith. Mae Alun Cairns, yr AS gipiodd y Fro mor gyfforddus fis Mai, yn ymddangosiadol ffyddiog y daw y datblygiad i Sain Tathan ymhen hir a hwyr.

Ond fydd hynny’n rhy hwyr? 83 o bleidleisiau enillodd y Fro i Jane Hutt a Llafur yn 2007. Mae hi’n tampan yn ei datganiadau i’r wasg ynglyn â chyhoeddiad Sain Tathan, mae’n “devastating blow” i’r ardal mae’n debyg. Dim  cymaint felly i Jane Hutt o bosibl. Gallai penderfyniad y llywodraeth sicrhau gafael Llafur ar etholaeth Bro Morgannwg yn y Cynulliad. Newyddion da i un ceidwadwr hawddgar hefyd, diolch i’n system etholiadol. Ail i Andrew RT Davies ddaeth David Melding ar restr ymgeiswyr rhanbarth canol de Cymru’r Ceidwadwyr wedi ei hetholiad mewnol. Os yw’r Ceidwadwyr yn methu yn ei hymgyrch i gael Bro Morgannwg, mae’r tebygrwydd y bydd y blaid yn ennill dwy sedd restr yn uchel a bydd lluniwr maniffesto’r Ceidwadwyr yn parhau’n AC wedi mis Mai.

Beth arall oedd yng nghynhadleddau’r bore? Arolwg gwariant, arolwg gwariant, arolwg gwariant -a neb yn gwybod union fanylion yr arolwg hwnnw. Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn clywed am doriadau’r Llywodraeth glymblaid yr un pryd â gweddill Prydain yfory, fel y bydd Nick Bourne a Kirsty Williams. Dim rhagrybudd i wleidyddion bach Cymru fel adrannau Whitehall.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn addo y bydd y toriadau yn tagu Cymru ac yn ddiwedd y byd tra bod arweinydd y gwrthbleidiau’n unfarn mai bai Llafur yw’r holl broblem a beth bynnag, bydd y glymblaid yn San Steffan yn deg gyda’r fwyell. Fe fyddwn ni’n clywed y manylion gan George Osborne yfory, 12.30 o Dy’r Cyffredin. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru yn dod yn hwyrach.

Un peth bach arall glywon ni bore ma yw y bydd ymgyrch Ie’n cael ei lawnsio yn y diwrnodau nesaf. Na, nid ar y bleidlais amgen (er mai dyna oedd pwnc cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol i fod heddiw) ond Ymgyrch Ie refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad. Fe fydd y gorchymyn i gynnal y refferendwm ar Fawrth 3 hefyd yn cael ei osod yn fuan. Doedd Ieuan Wyn Jones ddim yn barod i fynd i fanylion pryd, sut na ble ond gwylier y gofod. Gyda’r ymgyrch Na eisoes wrthi, fe fyddai rhai’n dweud ei bod hi’n hen bryd.

Dysgeidiaeth Bourne

R’yn ni gyd wedi clywed am The Bourne Identity, The Bourne Supremacy a The Bourne Ultimatum. Wel, heddiw fe ddaeth teitl pedwerydd ffilm i’r fei, The Bourne Doctrine. Dw i ddim yn meddwl bydd y torfeydd yn llifo hyd yn oed i’r Commodore yn Aberystwyth i weld ffilm am agwedd yr AC lleol Nick Bourne tuag at doriadau ei blaid yn Llundain ond roedd yn bwnc trafod digon difyr yn y briffing wythnosol heddiw.

Fe gyfeiries i chi at flog Jonathan Morgan i ITV wythnos diwethaf. Holi Bourne o’n i bore ma wedyn i weld os oedd e’n cytuno â”i feinciwr cefn bod angen i’r Ceidwadwyr Cymreig wrthryfela yn erbyn y glymblaid o dro i dro. Yn ddi-daro bron, dywedodd Bourne wrth gwrs y dylid brwydro dros Gymru pan fo penderfyniadau annheg neu anghymesur yn yn cael eu gwneud.

 ”If there are issues which have a particularly major Welsh dimension to them like S4C, like the passport office it is very clear we will fight for Welsh interest and the interest of the constituencies and regions we represent and the national interest of Wales…. That is the Bourne Doctrine on the cuts.

Doedd Kirsty Williams ddim mor gyfforddus yn ymateb i awgrymiadau y dylai hi fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig roi pellter rhynddi hi a phenderfyniadau’r glymblaid. Er bod y cyhoeddiad am y swyddfa basport yng Nghasnewydd yn ddigon drwg, mae adroddiad Browne ar ffioedd dysgu yn ddamniol i blaid sydd wedi ennill aml i etholaeth ar ei record yn cefnogi myfyrwyr -cofiwch y mwyafrif swmpus Ceredigion yn San Steffan a’u rheolaeth o Ganol Caerdydd yn San Steffan a Bae Caerdydd. Roedd Kirsty Williams yn mynnu amddiffyn ei chyd-bleidwyr er y gallai eu polisiau niweidio gobeithion y blaid Gymreig yn etholiad y Cynulliad.

I have always made it clear what my approach will be. I spelt that out quite clearly in my speech to the federal conference. I think there are things that the coalition government are doing that are making a difference in Wales. I also understand that the government has been left with a terrible legacy and my colleagues in London are having to make very very difficult decisions, decisions that in many ways they do not like having to make….As I said quite clearly in Liverpool if I feel Wales is not being treated equitably and fairly, if we’re having to pay more of a price for the Labour legacy, my job is to stand up for Wales in a way the Labour party in this assembly never did for the 11 years when they had their own collagues in power in London. I will not be a nodding dog, I will speak up.

Efallai wrth gwrs nad anghyfforddus oedd hi am sefyllfa’i phlaid ond yn hytrach sylwadau Bourne ei bod nhw ill dau yn gysur i’w gilydd wrth i gyhoeddiadau annifyr ddod i’r amlwg. “We buoy each other up” oedd ei union eiriau.

Es i ddim i glywed rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth gan y Cwnsler Cyffredinol John Griffiths bore ma, ond rwy’n cael ar ddeall bod unig bwynt diddorol y gynhadledd yma. Fe fydd arbedion mawr cael pleidlais Ie yn rhan fawr o’r ymgyrch ie, ond pwy a wyr pryd fydd honno’n dechrau.  Yr anhawster presennol yw rheolau’r Comisiwn Etholiadol sy’n golygu na fydd arian swyddogol yn cael ei ryddhau i ymgyrchoedd y ddwy ochor tan fis Ionawr. Yn ôl Bourne bore ma mae’r pedair plaid yn cael hewl arni yn eu cyfarfodydd wythnosol o drafod yr ymgyrch ond dim smic o hyd pryd fydd yr ymgyrch yn dechrau ar lawr gwlad.

Tyndra

Mae pethau’n poethi yng ngwleidyddiaeth Cymru ers i Nick Clegg gyhoeddi ei fwriadau i ad-drefnu gwleidyddiaeth Prydain. Mae wedi cadarnhau y bydd refferendwm ar y bleidlais amgen neu AV ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad fis Mai’r flwyddyn nesaf. Fe fydd cyd-daro pellach wedyn yn 2015 rhwng pleidlais San Steffan a’r Cynulliad, gan fod y glymblaid yn San Steffan wedi cytuno i gynnal etholiad cyffredinol bob pum mlynedd. Yn ôl Elfyn Llwyd, mae Nick Clegg wedi cyfaddef yn y senedd nad yw wedi trafod y materion hyn gyda’r llywodraethau datganoledig -arwydd clir o ddirmyg medde fe.

Does dim negeseuon cyd-syniol wedi dod gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar negeseuon y glymblaid yn San Steffan. Sonies i yn y blog diwethaf fod Kirsty Williams a Nick Bourne yn anghytuno ar gynnal refferendwm AV ac etholiad y Cynulliad yr un diwrnod. Wel, neges arall gan Clegg yw bod rhaid lleihau nifer yr ASau i 600. Yn ôl datganiad Bourne, rhaid i’r lleihad yn y nifer o ASau fod yn gyfartal ac fe fydd rhan gan Gymru i’w chwarae yn hyn. Rhaid gofalu am etholaethau gwledig medd Kirsty -byw mewn gobaith am ffafrau gan ei harweinydd yn Llundain i gadw’i sedd hi ym Mrycheiniog a Maesyfed mewn un darn efallai.

Drygioni

Cyhoeddwyd Mehefin 10, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, Llafur

Rhiannon Michael sy’n gweld bod Twitter yn arf peryglus yn nwylo gwleidyddion…

Gallech chi feddwl bod Llafur yn joio bod yn wrthblaid yn San Steffan. Drychwch beth maen nhw’n ail-drydar ar Twitter, gan gofio bod y Gweinidog Diwylliant newydd yn San Steffan, Jeremy Hunt, wedi cyhoeddi ddydd Mawrth -ar ran llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol - na fydd cynlluniau Llafur i gael consortiwm newyddion newydd i ddarparu newyddion ar y drydedd sianel yn mynd yn eu blaen. Sylw gan Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig o 17 Mawrth eleni:

KirstyAM believes that we need the Government to get on and sign the IFNC contracts before the Tories cancel them and sell Welsh news down the river. 1,268,848,143,000.00 via web Retweeted by welshlabour and 3 others.