Mae Llywodraeth Cymru’n tampan. Heddiw, roedd Edwina Hart yn cyhoeddi’i bwriad i ofyn am fwy o bwerau fel y gall y Cynulliad ddeddfu ym maes dyroddi organau. Roedd hi wedi paratoi ei haraith, ac ar fin ei thraddodi yn y Siambr pan ddaeth e-bost gan Swyddfa Cymru fod Cwnsler Cyffredinol San Steffan yn dweud nad yw e o’r farn bod dyroddi organau’n syrthio o fewn i atodiad 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru -ac felly all y Cynulliad ddim gofyn am yr hawl i ddeddfu yn y maes.
Mae’r Llywodraeth yn dweud bod ei cyngor cyfreithiol nhw’n hollol gadarn, neu fydden nhw ddim wedi dechrau’r broses o ofyn am yr hawl i ddeddfu. Maen nhw’n mynnu y gallan nhw ofyn am bwerau i ddeddfu yn y maes yma. Fe gyfeirion nhw’r mater i Lywodraeth San Steffan nôl ym mis Tachwedd ond gan nad oedden nhw wedi ymateb a bod yr amser cyn diwedd y Cynulliad hwn yn dynn, fe ddechreuon nhw’r broses yr wythnos hon heb ymateb San Steffan.
Daeth yr ebost gan Swyddfa Cymru am 2.16 mae’n debyg. Oni bai bod cwestiynau busnes wedi mynd ymlaen yn hirrach nag y dylai, byddai wedi cyrraedd tra bod y Gweinidog ar ei thraed. Roedd aelodau’n grac yn y siambr ac mae’r Llywodraeth yn wyllt gacwn. “Agenda o Amharch” yw hyn yn ôl un ffynhonnell.
Daeth cadarnhad gan Cheryl Gillan o’i bwriad i gyfarwyddo Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i ddechrau’r broses graffu ar y Gorchymyn Dyroddi Organau yn gynharach yr wythnos hon ond mae Swyddfa Cymru eto i ymateb ar y sefyllfa bresennol. Rwy’n disgwyl sylw maes o law.
DIWEDDARIAD: Datganiad ysgrifenedig gan Cheryl Gillan:
“This LCO is being handled in exactly the same way as all other legislative bids from the Assembly and Assembly Government.
”It is routine for the Government to seek the view of the Attorney General on all LCOs, and to obtain Government agreement for LCOs to be submitted for pre-legislative scrutiny.
“We have reached this stage against a very tight timetable and sent the LCO forward for the detailed scrutiny phase by MPs and Peers. This will be undertaken by the Welsh Affairs Select Committee and the Lords’ Constitution Committee under the process set up by the last Labour Government.
“Given the importance of this legislation I am determined to ensure this is done in a rational, sensitive fashion and that we do not cut corners.
“We have worked closely with the Welsh Assembly Government on this, and I discussed the LCO with the First Minister and Deputy First Minister as recently as Monday when I informed them that the legislation had been put forward for pre legislative scrutiny.”
Mwy ar y stori yma.
Nid yn aml mae darlledwyr yn codi’u pennau uwchben y parapet a dweud eu dweud. Torrodd Angharad Mair yr arfer trwy annerch rali Cymdeithas yr Iaith y llynedd ac erbyn hyn does dim pall ar ei hymgyrchu. Ro’n i’n meddwl efallai bod yr arfer yn pylu achos pan es i o amgylch yr Eisteddfod eleni yn holi dramodwyr a chynhyrchwyr beth oedd y dyfodol i S4C, yr ymateb yn ddi-eithriad oedd “Hmmmm, well i mi beidio.”
Ond ymddengys bod yr arfer am barhau. Bore ‘ma, roedd Beti George yma yn y Cynulliad yn trafod manylion y mesur iaith a thrio perswadio’r Gweinidog Treftadaeth i roi “statws di-amod” i’r iaith Gymraeg. Gyda hi roedd yr Athro Richard Wyn Jones a’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, ac roedd y cyfarfod yn ddilyniant i’r llythyr agored gan 80 o Gymry amlwg at Alun Ffred yn Golwg Tachwedd 4.
Roedden nhw’n trin a thrafod y mesur iaith gyda’r Gweinidog am awr yn ôl beth rwy’n ddeall. Pwy a wyr a fuon nhw’n llwyddiannus yn dwyn perswâd arno. Mae’r ymateb swyddogol yn gwbl benagored. Dyma’r datganiad yn llawn:
Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Wrth i’r mesur iaith bresennol cael ei ystyried a pharhau ar ei thaith trwy’r broses graffu, rydym yn croesawu a gwrando ar bob sylw.
“Yn ystod y broses yma rydym wedi cyflwyno datganiad clir yn y Mesur ar statws swyddogol ar gyfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
“Mae Rhan 1 (1) o’r Mesur yn datgan fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. “Mae Rhan 1 (2) yn esbonio sut mae’r statws hynny yn cael effaith trwy’r gyfraith.”
Fe ges i fy nghoglais braidd i’r ymateb cyntaf ddod allan yn uniaith Saesneg. Ond chwarae teg, daeth yr ymateb Cymraeg bron yn unionsyth wedyn, ar ôl i fi ofyn amdano.
Gwibiodd briffing y Llywodraeth heibio bore ma -i fi o leia. Dyw Elin Jones ddim wedi cael y pleser o gwmni’r wasg ers sbel ac er i ni ei holi hi ar bethau nad oedd hi wedi cael ei briffio arnyn nhw cyn iddi hi fentro i ffau’r llewod roedd hi’n ddigon jocos yn ateb cwestiynau ar newid enw Llywodraeth y Cynulliad i Lywodraeth Cymru a Cynulliad i Senedd ac yn y blaen gan bwysleisio mai ei barn hi oedd hynny nid y Llywodraeth. (Dim sôn am ymgyrch ie o hyd gyda llaw)
Hirrach o lawer oedd briffing y Ceidwadwyr. Yn wir, bytodd y Ceidwadwyr mewn i amser y Democratiaid Rhyddfrydol gymaint oeddem ni’n trio amgyffred polisi’r Ceidwadwyr o warchod cyllideb y gwasanaeth iechyd ar draul pob un adran arall sydd dan ofal Llywodraeth y Cynulliad. Dw i dal ddim wir yn deall. Doedd gen i ddim bwriad o ymuno yn y llabyddio geiriol o’r ddau Nick (Bourne a Ramsay) ar eu polisi newydd gan bod y lleill yn cael cymaint o hwyl arni ond erbyn diwedd roedd rhaid. Ar un adeg roedd hi’n edrych fel pe baen nhw’n dweud y dylai cyllideb iechyd y Cynulliad gael ei warchod hyd yn oed os oedd hynny’n golygu amharu ar gynlluniau fyddai’n atal iechyd pobol rhag dirywio (ac felly’n atal cost dianghenraid ar y gwasanaeth iechyd) er enghraifft sicrhau cartrefi o safon. Ond na na, fyddai hynny ddim yn digwydd wrth gwrs ddim meddai Bourne.
Felly heb fynd mewn i fanylder y pingpong cwestiwn ag ateb bore ma, mae’n ymddangos i fi beth fyddai’r Ceidwadwyr yn gwneud yw ad-drefnu strwythur adrannau’r Cynulliad fel bod beth bynnag sy’n ymwneud ag iechyd, boed uniongyrchol (ysgolion, nyrsys, meddyginiaeth) neu anuniongyrchol (e.e tai) i fod o fewn i’r gyllideb iechyd ac felly byddai’r gyllideb iechyd yn gallu aros yr un peth, gan gynyddu yn unol â chwyddiant (RPI nid chwyddiant iechyd gyda llaw).
Fe fydden nhw efallai’n anghytuno â’r asesiad yna, ond maen nhw’n gwrthod rhoi eglurhad o sut maen nhw’n cyfiawnhau gallu gwarchod y gyllideb ar draul pob cyllideb arall gan ddweud nad oes ganddyn nhw fyddin o weision sifil i grenshan trwy’r ffigyrau ar eu rhan mewn byr o dro. Eto’i gyd, os dyna’r ddadl sut allan nhw wneud datganiad mor bendant? Creu polisi i ddenu penawdau heb ystyried y manylion os bu un erioed.
Chwarter awr fach oedd briffing y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw am i’r Llywodraeth wario’u harian yn well. Quel surprise!
Sylwadau Diweddar