Cynyddu maint testun

Golwg360

Yr Adar Gleision yn canu’r ‘blues’

Cyhoeddwyd Chwefror 27, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 4 Sylw.

Tagiau: Gleision, Lerpwl, Mackay, Pêl-droed



Gohebydd CPD Caerdydd Dafydd W. Williams sy’n bwrw golwg nôl ar ymdrechion y tîm i gipio teitl Cwpan Carling

Y naill yn gefnogwr Lerpwl yn ceisio ei orau i Gaerdydd, y llall yn gapten ar y clwb buddugol.  Roedd yna ddwy stori dra wahanol i deulu’r Gerrards ystyried yn Wembley ddoe wrth i ‘Stevie G’ godi Cwpan y Gynghrair wedi i Anthony Gerrard golli’r cyfle i gadw Clwb Pêl-Droed Caerdydd yn y gêm derfynol o’r smotyn.

Roedd hi’n gêm ardderchog ac un, gobeithio, fydd yn rhoi hwb i dîm pêl-droed Caerdydd yn eu hymdrechion i gyrraedd yr Uwch Gynghrair, sef prif nod y tymor hwn.  Ac mae’n siŵr taw dyna fydd thema’r wythnos hon yn y garfan wrth i Mackay baratoi’r tîm i’r gêm fawr Ddydd Sul yn erbyn West Ham.  Mae’r gêm yna hyd yn oed yn fwy nawr wrth gwrs, ac erbyn penwythnos nesaf efallai bydd yr hunllef wedi lleddfu.

Cafodd Kenny Miller, ymosodwr profiadol a thalentog, gyfle euraidd i ennill y gêm i glwb y brifddinas ym munudau ola’r gêm …ond ar ôl  i’w ergyd bwerus wibio dros y trawst fe ddechreuodd y freuddwyd dadfeilio.

Ceir stori gefndirol tu ôl i bob un o arwyr Caerdydd ddoe, megis Joe Mason a gyrhaeddodd o Plymouth ar ddechrau’r tymor yn llawn brwdfrydedd ond heb helynt “Galacti-goes” y tymor diwethaf.  Roedd yna fydysawd o sêr dros y maes chwarae gan yr Adar Gleision ddoe, a thasg Malky fydd atgoffa ei ddynion o hynny drwy’r wythnos hon.

Un o uchafbwyntiau’r gêm i mi oedd y berthynas rhwng Craig Bellamy a chefnogwyr yr Adar Gleision, fe gafodd gymaint o gydnabyddiaeth wrth gamu i’r maes, daeth o hyd i’r amser i chwifio at yr haid glas cyn iddo gymryd ei gic cornel cyntaf!

Cic gornel wedi iddo ddod i’r maes arweiniodd at y gôl i ddor â’r sgôr yn gyfartal, ond gan taw o ochr arall y cae ydoedd nid o droed y Cymro y daeth honno. Y llanc mawr Carroll gyda’r peniad penderfynol, Suarez yn taro’r postyn â’r ail beniad, a Skrtel yn taro’r bêl drwy goesau Heaton.

Cafodd ymddangosiad Bellamy effaith ar rythm y prynhawn yn sicr; roedd ei rediadau (gyda’r bêl cofiwch) hyderus yn peri ofn, a braf gweld Bellamy yn chwarae unwaith eto fel dyn sydd o’r farn mai ef yw’r gore ar y maes.  Pob maes.  Pob tro.

Cymeriad

Felly buddugoliaeth i Gymru yn HQ, buddugoliaeth i Cleverley, ond dim Coron Driphlyg i Gaerdydd yn Wembley ar y Sul.

Fel dwedodd Malky Mackay cyn y gêm, 9 gwaith allan o 10 mae dyn yn disgwyl i’r ffefrynnau ennill, ac efallai nad oedd hyd yn oed M&M yn disgwyl i’w dîm  rhoi prawf mor drwyadl i’r cochion.

Hyd yn oed wedi i Dirk Kuyt sgorio gôl yn yr amser ychwanegol i’r 90 munud, roedd gan Gaerdydd y cymeriad sy’n angenrheidiol i ddod o hyd i lwybr yn ôl i’r gêm; a thrwy gic gornel arall ddaeth honno.

O’r gic gornel gyntaf, bu bron i Kiss sgorio, ond dyna le oedd Dirk Kuyt unwaith eto i wneud y gwaith pwysig (mae’n rhaid bod torf y Kop yn ei edmygu ddigon i anghofio am yr ymadroddiad “unsung” erbyn hyn?!).

I ddweud y gwir, roeddwn i’n teimlo’n eithaf euog erbyn hyn gan ym mod i wedi cwrdd â Mr Kiss yng Nghaerdydd yr wythnos hon – hyd yn oed wedi cael sgwrs ag ef am ei famwlad Slovakia a’r ddinas Bratislava i ddweud y gwir – heb ei adnabod a heb gynnig unrhyw faint o lwc iddo.

Felly rhyddhad go iawn oedd gweld y gic gornel nesaf yn ymgartrefu yn rhwyd Lerpwl wedi gwaith gwyrthiol gan Ben Turner, a oedd yn mwynhau brwydr go iawn gyda’i gapten Hudson am chwaraewr mwyaf dylanwadol y Gleision ym mhrifddinas y Sais.

Amddiffyn cadarn

Rhaid cyfaddef taw patrwm y gêm yn gyffredinol oedd bod Lerpwl yn ei gweld hi’n anodd dod o hyd i gefn y rhwyd er eu bod yn gofalu am y bêl yn weddol dda yng nghanol y cae, a’r fath yna o bwysau a arweiniodd at eu gôl gyntaf.

Serch hynny, amddiffyn Caerdydd oedd yn creu yr argraff fwyaf ar y gêm, McNaughton hefyd yn serennu wrth i Gaerdydd amddiffyn yn bendant ac yn ymosodol hyd yn oed; nid parcio’r bws tu blaen i’r gôl oedd y bwriad – er bydden nhw wedi bod yn lwcus i ddod o hyd i rywle i barcio o gwbl wedi iddynt gyrraedd Gogledd-Orllewin Llundain hanner awr yn hwyrach na’r Kopstars.

Er gwaetha ymdrechion CPD Caerdydd, teimlaf mai dim ond am ennyd oedd yna unrhyw obaith go iawn y byddai’r Gleision yn curo’r cochion; fe ddaeth Lerpwl yn gyfartal yn y gêm gyda hanner awr o’r 90 munud yn weddill, ac unwaith iddynt dynnu anadl a dod i arfer â’r sioc, roedd Caerdydd yn chwarae’r chwarter awr ddiwethaf fel tîm a oedd yn credu yn eu ffawd.

Daeth cic rydd i’r tîm Cymreig gyda deng munud yn weddill ac wrth i’r dorf a thrydarwyr ledled Caerdydd fynnu am ergyd farwol gan Whittingham, ofer oedd ein gobeithion wrth i law atal y bêl rhag rhwygo’r rhwyd.

Wedi hynny, er gymaint ymdrechion Miller, Kiss a’r gweddill, roedd chwarae am giciau o’r smotyn yng nghefn y meddwl – a phwy all feio’r bechgyn wedi ymdrechion arbennig Heaton yn y gêm gynderfynol yn erbyn Crystal Palace.

Dwi’n siŵr y bydd yna lu o Gymry Cymraeg o Ogledd y wlad yn canu cân Gerry and the Pacemakers ac nid y “Blues” heddiw…

…wrth gwrs, byddai’r arbenigwyr yn y maes cerddorol yn honni taw perfformwyr hunanbwysig, anfaterol oedd  y Pacemakers o’i gymharu ag ymdrechion pur y “Blues”…y Gleision am byth felly!

Tîm pêl-droed Cymru: Pwy fydd wrth y llyw yn 2011?

Cyhoeddwyd Rhagfyr 3, 2010 gan Tommie Collins. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Pêl-droed

Erbyn y Nadolig fe fydd gan dîm pêl-droed Cymru reolwr newydd, ond o ba wlad ddaw o tybed? Tommie Collins sy’n ystyried y posibiliadau…

Ymysg yr rheini sy’n cael eu hystyried mae John Hartson, Ian Rush, Lawrie Sanchez, Bryan Flynn, Chris Coleman, a nawr, gŵr o Sweden…. na, peidiwch â phoeni, nid Sven ond Lars Lagerback.

Beth am fynd trwy’r rhestr un wrth un er mwyn asesu eu gobeithion:

•             Hartson – Dw i ddim yn siŵr, ond mae ganddo bresenoldeb cryf ac yn ennyn parch gan y chwaraewyr. Mae hefyd wedi  cael ei fathodyn hyfforddi bellach.

•             Rush – Mae’n gweithio i’r Gymdeithas Bêl-droed yn barod, ond ddim yn ddewis da i mi am nad yw wedi rheoli ers cyfnod diflas â Dinas Caer ddeng mlynedd yn ôl.

•             Sanchez – Gwerth rhoi cyfle iddo yn  fy marn i. Fe gafodd brofiad gwych efo Gogledd

Iwerddon gan wneud yn dda efo chwaraewyr o safon isel. Dyw e ddim yn cymryd unrhyw lol.

•             Flynn – Wedi methu ei gyfle mawr, tybed? Mae’r busnes o beidio dewis Bellamy yn y ddwy gêm ddiweddar wedi bod yn gamgymeriad mawr dwi’n meddwl.  Eto pe bai’r Gymdeithas wir ei eisiau o, pam ddim rhoi’r swydd iddo yn syth. Mae Flynn yn iawn yn ei le – sef yn rheoli’r timau ieuenctid.

•             Coleman – Pam ddim? Mae wedi cael profiad o reoli dramor yn Sbaen, ac wedi gwneud yn dda gyda Fulham. Dw i’n siŵr y byddai yn ennill parch y chwaraewyr hefyd.

•             Ond mae enw Lagerback bellach yn y pair. Mae wedi cael cyfnod gwych gyda Sweden gan fynd â nhw i rowndiau terfynol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop ar bob ymgais  dros y ddegawd ddiwethaf. Unigolyn sydd wedi bod yna ac wedi gwisgo’r crys T!

Heblaw am gyfnodau Mike Smith a Bobby Gould, Cymro sydd wedi bod wrth y llyw erioed, ac mae llawer yn meddwl bod rhaid cael Cymro i’n harwain. Mewn byd delfrydol  buaswn wrth fy modd, ond  ennill lle yng  Nghwpan y Byd neu ffeinals Pencampwriaethau Ewrop ydy’r dasg, ac os oes angen tramorwr y wneud y job honno yna grêt!

Beth am edrych nôl i’r gorffennol. Does gen i ddim cof o Dave Bowen, ond dwi’n cofio Mike England, a wnaeth  job iawn chwarae teg.  Yn Wrecsam oedd y mwyafrif o’r gemau bryd hynny a dwi’n cofio fy ewythr yn mynd â mi i’r Cae Ras sawl gwaith.

Buddugoliaeth fythgofiadwy oedd y gweir 4-1 gafodd Lloegr. Allai ddim anghofio’r daith gyntaf i’r Alban gyda fy mrawd – gêm gwpan y byd oedd hi, a dim gobaith gan Gymru oedd y farn gyffredinol.  Yng Nghymru bryd hynny doedd tafarndai ddim yn agor trwy’r dydd – mynd i Sir Feirionydd ar brynhawn  Sul o’n i am beint neu ddau. Felly roedd cael tafarn yn agored yng Nglasgow am ddeg y bore yn dipyn o sioc! Cwrw trwy’r dydd,  Rush yn sgorio,  Cymru yn ennill 1-0, cwrw trwy’r nos a cheg sych ar y trên adref.

Terry Yorath ydy’r rheolwr yr ydw i a llawer o gefnogwyr yr un oed a mi’n ei gofio orau mae’n siŵr, ac fe wnes i gwrdd â Yorath sawl gwaith. Ym Mhort wnes i gwrdd ag o gyntaf pan fuodd yn gwneud sesiwn ymarfer efo Clwb Port â chael cyfle am sgwrs yn y clwb wedyn. Yn Ostrava oedd yr ail achlysur. Mi es i westy’r chwaraewyr gan fod Mike Foster o Bort yn y garfan dan-21. Pan welodd o, codi ei law a dod draw am sgwrs wnaeth Yorath.

Yn anffodus, doedd ail gyfnod Mike Smith ddim yn llwyddiant ac wedyn fe gawsom ni Sais arall sef Bobby Gould. Am gymeriad, mwydrwn go iawn de! Atgof mwyaf pawb o Gould ydy’r ddadl efo Savage am daflu crys Maldini i’r bin – diffyg parch ta be.  Alla’i chwaith ddim anghofio’r gweir boenus 7-1 gan yr Iseldiroedd, efo Vinnie Jones yn gapten. Fe wnaeth y Manic Street Preachers hyd yn oed ganu cân “Bobby must go” i Gould, yn hytrach na’r fersiwn mwy adnabyddus ‘Everything must go”!  Ond fe gawsom un daith fythgofiadwy i Copenhagen dan arweiniad Gould, gan ennill 2-1 diolch i gôl wych gan Bellamy. Fe wnaethom ni ddathlu tan oriau man bore, a bu Gould yn arwr am noson. Ond, dyn  ecsentrig ydy Bobby hyd heddiw.

Mark Hughes – dyn sych ynteu ddyn meddylgar? Chwaraewr disglair dros ei wlad wrth gwrs, ond pawb yn anghofio iddo fethu’r gêm hollbwysig honno yn erbyn Rwmania yn 1993 oherwydd cerdyn melyn diangen mewn gêm flaenorol yn erbyn Cyprus. Fel rheolwr fe fethodd ei gyfle efo Cymru hefyd. Ar ôl canlyniad gwych ym Moscow yn gemau ail gyfle Ewro 2004 fe ddefnyddiodd yr un tactegau yn y gêm gartref – diniwed ta be? Felly doedd ddim dwywaith amdani a mynd oedd rhaid.

Mr Toshack…beth alla’i ddweud. Roeddwn i o blaid Tosh am gyfnod hir, ond erbyn y diwedd roeddwn wedi cael llond bol fel pawb arall. Alla’i ddim anghofio’r ddwy gêm yn erbyn Slofacia – gêm gartre gwarthus a colli 5-1 a’r ddau fab gyda mi. Tydi digalon ddim yn dechrau disgrifio’r teimlad – roedd hwn yn drobwynt yng nghefnogaeth y mab hŷn a tydi o heb fod mor ffyddlon i’w wlad ers hynny. Ac eto, mynd i  Slofacia ac ennill 5-2 diolch i berfformiad gwych gan Bellamy. Ond, roedd ‘na fwy o siom na hapusrwydd dan Tosh ac yn amlwg doedd dim parch gan y chwaraewyr tuag at Tosh.

Felly i grynhoi, Yorath ac England gafodd y gorau o’r garfan yn fy marn i. Dwi’n siŵr mai Giggs fyddai’r dewis cyntaf i’r Gymdeithas Bêl-droed, ond am y tro, bydd rhaid aros. Beth bynnag am y dyfalu, mewn tua phythefnos byddwn yn gwybod pwy fydd yn codi ein gobeithio ni nesaf (cyn eu chwalu maen siwr!).

Gareth Bale – Cymro am byth?

Cyhoeddwyd Tachwedd 3, 2010 gan Tommie Collins. 1 Sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Gareth Bale, Pêl-droed

Tommie Collins yn pwyso a mesur seren fawr newydd pêl-droed Cymru.

Roedd gwylio Bale wrthi eto yn dangos pwy oedd y bos yn erbyn Innter Milan yn dod ag atgofion yn ôl o’r tro cyntaf imi gwrdd ag o. San  Sebastian (Donastia) 20 Mai 2006 – pen mawr a sâl fel ci.

Dyna pryd wnes i drefnu gwesty ar gyfer gêm Cymru yng Ngwlad y Basg a sioc oedd sylweddoli fod carfan Cymru yn aros yn yr un lle! Ni’n griw o  ddynion wedi meddwi a’r bachgen tenau tal ac ifanc yn edrych yn hurt atom. Prin edrych arno eilwaith wnaeth y rhan fwyaf. Ie y tro cyntaf i gwrdd â Gareth Bale.

Wnaeth o ddim chwarae yn Bilbao – yn Gratz yr wythnos wedyn y cafodd ei gap cyntaf, pan roedd Cymru yn herio Trinidad & Tobago mewn gêm gyfeillgar. Enillodd Cymru o ddwy gôl i un, a Bale yn creu’r gôl fuddugol i Earnie.

Roedd y wasg o Loegr yn bresennol oherwydd bod T & T yn wrthwynebwyr i’r Saeson yng Nghwpan y Byd mis wedyn. Tybed wnaethon nhw feddwl y byddai amser pan fydden nhw’n meddwl, ‘bechod fod o ddim yn Sais!’.

Ar ôl  curo Inter neithiwr a Bale yn disgleirio dyna be mae’r wasg yn ei ddweud. A ddylen ni fod yn falch?  Sefyllfa Giggs eto?

Mae cenfigen yn sobor o beth. Ydy Ashley Cole yn well chwaraewr? Mae gêm amddiffyn Bale yn wael ar adegau.

O dan arweinyddiaeth Tosh, mae wedi chwarae yn eithaf da, serch hynny mewn tîm gwael ar adegau, ond dw i’n meddwl weithiau ei fod fel Giggs, yn ymdrechu gormod ei hun.

Pan fydd Ramsey a Collison yn ôl, dw i’n siŵr y gwneith pethe wellau i Gymru. Ond ydy Cymdeithas Pêl Droed Cymru yn manteisio ar Bale ai’ farchnata?

Chwarae teg, yng Nghymru roedd o wythnos diwethaf yn chwarae golff gyda’i ffrindiau, ddim yn meddwi yn rhywle a chamymddwyn. Dydi o ddim yn yfed alcohol o gwbl wrth gwrs, arwydd clir o’r proffesinoldeb a’r penderfyniad sydd ganddo ac sydd wedi ei alluogi i gyrraedd yr uchelfannau hyd yma y tymor hwn.

Oes, mae gan Gymru seren ar ei dwylo. Mae’r mab a’i ffrindiau yn ei addoli, a braf oedd gweld nad Drogba, Torres a Rooney oedd y sgwrs ar Facebook neithiwr.

Swistir v Cymru: Sgorio’r Chwaraewyr

Cyhoeddwyd Hydref 13, 2010 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Pêl-droed

Colled drom ond perfformiad gwell gan dîm Brian Flynn oedd heb 11 o chwaraewyr. Sut oedd y perfformiadau unigol felly? Owain Schiavone sy’n asesu:

Wayne Hennessey – Er gwaethaf codi’r bêl o’i rwyd ar bedwar achlysur, fe gafodd gôl geidwad ifanc Wolves gêm dda gan arbed ei dîm sawl gwaith. Roedd yn agos i arbed y gic o’r smotyn hefyd gan ddyfalu’n gywir, ond roedd gormod o bŵer ar yr ergyd. Doedd dim y gallai wneud am y goliau. (8 allan o 10)

Darcy Blake – Roedd yn edrych yn gyfforddus iawn yn yr hanner cyntaf, ond rywfaint ar fai am ail gôl y Swistir gyda thacl wân ar ymyl y cwrt. Darparodd groesiad da i roi cyfle i Andy King wedi pum munud o’r ail hanner, ond funud yn ddiweddarach roedd fel petai’n cysgu, ac oni bai a arbediad gwych Hennessey byddai Stocker wedi sgorio. Penderfynodd Flynn ei eilyddio’n syth. 5/10

Danny Collins – Mae’n dda ei weld nôl yng ngharfan Cymru, ond mae’n anodd gweithio’r boi allan. Mae wedi sefydlu ei hun fel chwaraewr Uwch Gynghrair bellach, ond mae’n gwneud rhai camgymeriadau elfennol – yr enghraifft orau neithiwr oedd caniatáu i’r bêl fownsio lle gallai fod wedi penio’n glir, gan roi cyfle i Stocker. Digon soled fel arall, ond angen cynnig mwy o gefnogaeth i Bale. 6/10

James Collins – Heb fod ar ei orau yn y ddwy gêm ddiwethaf, ond yn well neithiwr gyda Williams wrth ei ochr. Roedd ei ymgais i daclo Derdiyok wrth i hwnnw greu ail gôl Stocker yn un blinedig. Mae’n siŵr y bydd yn falch mynd nôl i Aston Villa ar ôl wythnos anodd. 6/10

Andrew Crofts – Dewis annisgwyl yng nghanol y cae ond wedi bod yn chwarae’n dda i’w glwb, Norwich, ac fe ychwanegodd ychydig o gythraul i ganol cae Cymru. Diolch i bwysau cyson Crofts, ychydig iawn o le i greu gafodd canol cae y Swistir a’i dacl gadarn arweiniodd at gôl Cymru. 7/10

Ashley Williams – Mae’n siŵr bod pawb, yn cynnwys Williams ei hun, yn falch o’i weld nôl yng nghanol yr amddiffyn ar ôl hunllef yng nghanol cae yn erbyn Bwlgaria. Roedd rywfaint ar fai am y gôl gyntaf gyda sialens wan yn yr awyr, ond gwnaeth yn iawn trwy flocio ergyd Streller oedd yn edrych fel gôl. Un arall fydd yn falch i ddychwelyd i’w glwb. 6/10

David Edwards – Llawer mwy prysur nag y mae wedi bod yn nwy gêm ddiwethaf Cymru. Mae wedi siarad yn ystod yr wythnos ynglŷn â’i awydd i weld Flynn yn rheoli’r tîm yn barhaol ac roedd ei ymdrech neithiwr yn profi hynny. Fe redodd, yn llythrennol, dros Gymru ond angen mwy o sglein ar ei gêm. 6/10

Andy King – yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru wedi cyfnod llwyddiannus yn y tîm dan-21 gyda’i glwb Leicester. Gêm ddigon da chwarae teg, gan edrych i gefnogi Church yn yr ymosod ar bob cyfle. Fe allai fod wedi gwneud mwy â’r hanner cyfleoedd a gafodd, ond digon o botensial. 7/10

Simon Church – Penderfyniad dewr gan Flynn i’w ddewis yn lle Morison yn yr ymosod. Roedd y diffyg ‘dyn mawr’ yn y llinell flaen yn amlwg yn nhactegau Cymru wrth iddyn nhw chwarae pêl-droed llawer gwell ac adeiladu’n raddol. Fe gafodd bedwar cyfle da, a dylai fod wedi sgorio’r olaf. 6/10

David Vaughan – Un o chwaraewyr pwysicaf a mwyaf cyson Cymru ar hyn o bryd. Mae’r gŵr o Abergele wastad yn chwilio am y bêl, a prin ei fod fyth yn colli’r meddiant. Rhyngddo fo a Bale, lawr yr asgell chwith y daeth y mwyafrif o gyfleoedd Cymru. 8/10

Gareth Bale – Beth allwch chi ddweud am y boi yma? Roedd y Swistir yn amlwg wedi ei dargedu, gan roi dau i’w farcio am y mwyafrif o’r gêm a throseddu’n ei erbyn yn gyson. Er hynny, Bale oedd chwaraewr gorau Cymru eto gan greu nifer o gyfleoedd a phrofi’n fygythiad bob tro yr oedd yn cael y bêl. Fe gymerodd ei gyfle’n dda i sgorio ei drydedd gôl dros ei wlad. 9/10

Eilyddion:

Ribeiro (yn lle Blake ’54) – Digon cadarnhaol ond braidd yn naïf i ildio’r gic o’r smotyn. 5/10

Morison (yn lle Edwards ’77) – Prin ei fod wedi cyffwrdd y bêl. 3/10

MacDonald (yn lle Vaughan ’88) – Ddim ar y cae’n ddigon hir i farnu.

O Fwlgaria i’r Swistir

Cyhoeddwyd Hydref 11, 2010 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Pêl-droed

Owain Schiavone sy’n dweud bod ganddo gydymdeimlad â hyfforddwr dros-dro Cymru…

Druan o Brian Flynn. Mae’n bur debygol bod ganddo un gêmnos fory i brofi fod ganddo’r gallu i droi pethau rownd i Gymru a chael ei benodi’n reolwr parhaol ar ei wlad. Bellach, mae’n rhaid iddo geisio gwneud hynny heb nifer o chwaraewyr pwysig.

O’m safbwynt i, mae’n reit amlwg lle aeth pethau o’i le yn erbyn Bwlgaria nos Wener. Fe gymerodd Flynn gambl trwy roi chwaraewyr mewn safleoedd anghyfarwydd, ac yn anffodus wnaeth y gambl ddim gweithio.

Mae Ashley Williams wedi chwarae yng nghanol cae i Gymru o’r blaen – yn y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Alban llynedd os dwi’n cofio’n iawn, gan edrych yn ddigon cyfforddus yn y safle hefyd. Ond mae Williams yn cael ei ystyried fel un o amddiffynwyr canol gorau’r Bencampwriaeth yn Lleogr, ac nid canol cae ydy ei safle gorau o bell ffordd. Yn sicr, nid canol cae ydy’r lle gorau i Williams pan mai Sam Ricketts ydy’r opsiwn arall i chwarae yn ei le yng nghanol yr amddiffyn!

Roedd Williams a Ricketts ill dau’n edrych ar goll yn llwyr nos Wener. Ildiodd Williams y bêl ar sawl achlysur, a chamddealltwriaeth rhwng Ricketts a James Collins yng nghanol yr amddiffyn oedd ar fai am y gôl a gipiodd y gêm i Fwlgaria.

Dwi’n hanner deall penderfyniad Flynn i wneud hyn. Roedd yn meddwl y byddai Williams yn gwneud job dda iddo’n gwarchod yr amddiffyn trwy eistedd yng nghanol cae, tra bod Ricketts yn ychwanegu mwy o gyflymder i ganol yr amddiffyn. Yn anffodus, wnaeth yr un o’r ddau berfformio ac yn waeth na hynny fe gawsom nhw effaith negyddol ar chwaraewyr eraill.

Un arall oedd mewn safle anghyfarwydd oedd Joe Ledley, yn dechrau ar yr asgell dde ac yntau’n chwaraewr troed chwith.  Fel arfer byddai Ledley yng nghanol y cae, ond gan fod Williams wedi ei ddewis yno, roedd rhaid i Flynn ffeindio safle gwahanol i Ledley…a dim ond un oedd yn wag. Roedd Ledley’n dawel am y mwyafrif o’r awr y bu ar y cae, heblaw am ddeg munud ar ddiwedd yr hanner cyntaf pryd y newidiodd safleoedd gyda Gareth Bale a chreu problemau ar y chwith.

Dwi’n cytuno gyda’r egwyddor o ddewis yr 11 chwaraewr gorau i ddechrau’r gêm, ond does bosib y byddai wedi gwneud mwy o synnwyr i chwarae Williams yng nghanol yr amddiffyn, Ledley yng nghanol y cae a Ricketts, sy’n gefnwr ymosodol fel rheol, ar yr asgell dde?

Dyna ni, wnaeth yr arbrawf ddim gweithio ac mae’n rhaid symud ymlaen i’r gêm nesaf yn erbyn y Swistir.

Ar ôl i bawb fod yn pregethu ynglŷn â bod RHAID ennill yn erbyn Bwlgaria, does dim angen dweud bod wir RHAID cael rhywbeth yn erbyn y Swistir nos fory.

Y drafferth i Flynn ydy bod hyd yn oed llai o chwaraewyr ganddo i ddewis ohonyn nhw oddi-cartref yn Basel.

Fe gafodd Chris Gunter gerdyn coch a Ricketts ei ail gerdyn melyn o’r ymgyrch nos Wener, sy’n golygu fod y ddau wedi eu gwahardd o’r gêm. Ar ben hyn, mae Joe Ledley wedi aros adref oherwydd genedigaeth ei blentyn cyntaf, tra bod Hal Robson-Kanu wedi anafu ei linyn y gar ar ôl dod i’r cae yn erbyn Bwlgaria. Os nad oedd hynny’n ddigon gwael, mae ‘na hefyd ychydig o amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Ashley Williams.

Mae hi’n sefyllfa ddigon cyfarwydd i Gymru’n anffodus, ac mae’n siŵr bod Flynn yn gofyn i’w hun os ydy o wir eisiau’r swydd o reoli’r tîm yn barhaol.

Mae bron yn sicr y bydd yna o leiaf un cap newydd yn yr amddiffyn, gydag unai Darcy Blake neu Adam Matthews yn dechrau fel cefnwr de. Os na fydd Williams yn ffit i chwarae yna mae’n bosib iawn y bydd y ddau’n dechrau, tra bod Craig Morgan wedi ei alw fyny hefyd i roi opsiwn arall yn y canol.

O ran canol y cae, David Vaughan a Gareth Bale oedd dau chwaraewr gorau Cymru nos Wener, felly mae’r ochr chwith yn weddol sicr.

Doedd David Edwards o Wolves ddim ar ei orau nos Wener, ond fe fydd yn dechrau  mae’n siŵr, tra bod rhaid i Flynn ddewis Andy King o Leicester yn fy marn i. Mae King wedi sgorio pedair gôl eleni mewn 10 gêm i’w glwb, ac mae angen goliau ar Gymru.

Does gan Flynn ddim i’w golli trwy ddechrau gyda dau yn yr ymosod chwaith  – fe allai’r Morison, sy’n fawr, cryf a da yn yr awyr ffurfio partneriaeth ddigon effeithiol gyda Church, sy’n gyflym a phrysur.

Problem fwyaf Cymru nos yfory, fel yn eu dwy gêm ddiwethaf, fydd sgorio. Mae hynny’n arbennig o wir yn erbyn tîm sy’n gryf iawn yn amddiffynnol, ond does gan Flynn ddim i’w golli trwy fynd amdani. A dweud y gwir, o ystyried y chwaraewyr sydd ganddo does ganddo fawr o ddewis ond mynd amdani!

Ta ta Tosh!

Cyhoeddwyd Medi 8, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: John Toshack, Pêl-droed, Pêl-droed rhyngwladol

Ta Ta Tosh … chwe mlynedd yn hen ddigon meddai Iwan Williams, cefnogwr pêl droed brwd.

“Y peth gorau am golli yn Montenegro yw ymadawiad hir-ddisgwyliedig yr hyfforddwr.”

Fe aeth bron i 500 o gefnogwyr Cymru draw i Fontenegro yn llawn gobaith, gyda llawer yn ffyddiog fod y chwaraewyr ifanc sydd wedi chwarae i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn barod i gystadlu gyda goreuon y grŵp a cheisio am le yn Ewro 2012.

Stori go wahanol oedd hi ar ôl 90 munud poenus yn Podgorica, gyda’r mwyafrif wedi digalonni’n llwyr ac yn galw am ymddiswyddiad John Toshack ar ôl siom arall.

Yn bersonol, fe ddylai John Toshack fod wedi gorffen gyda Chymru yn llawer cynt! Fel cefnogwr ffyddlon i’r tîm cenedlaethol, mae 6 mlynedd o Tosh yn hen ddigon. Fe wnaeth gwaith da yn cyfnewid y tîm ar ôl cyfnod Mark Hughes, gan gyflwyno chwaraewyr ifanc, dawnus, megis Hennessey, Gunter, Bale, Collison, Church, Vokes a Ramsey. Rhaid oedd rhoi amser i’r chwaraewyr hyn ddysgu eu crefft ym mwrlwm pêl droed rhyngwladol, ac roedd hyn yn ddigon teg. Ond wrth i amser symud yn ei flaen, nid oedd y canlyniadau yn gwella a chynyddu wnaeth esgusodion Toshack.

Bu llawer o anghytuno ar ôl y gêm ym Montenegro ymysg cefnogwyr Cymru ynglŷn â chyfnod Toshack fel rheolwr Cymru. Fel arfer, nid oeddwn yn cytuno gyda thimau Toshack na’r tactegau, ond rhaid cyfaddef roeddwn i’n bles i weld y tîm a ddewiswyd yn Podgorica, gyda’r sêr mwyaf, Bellamy a Bale, ar yr esgyll, a chyfle arall i Steve Morison fel blaenwr. Yn gynnar yn y gêm rodd hi’n amlwg fod Montenegro yn well tîm, yn cadw’r bêl yn well, ac nid oedd system Cymru yn helpu’r chwaraewyr. Mae Toshack yn hyfforddwr pengaled ac yn amharod iawn i newid ei dactegau cyn neu yn ystod gemau, ac unwaith sgoriodd Montenegro rodd hi’n amlwg fod angen newid system Cymru, rhoi safle mwy ymosodol i Bellamy a gwneud yn siŵr fod y rhai yng nghanol cae, sef Vaughan, Ledley, ac Edwards, yn dechrau creu argraff ar y gêm.

Roedd yr amddiffyn yn sigledig iawn, gyda chapten Montenegro, Vucinic, yn creu amryw o broblemau i James Collins a’r amddiffynwyr eraill, ac roedd hi’n amlwg fod hyder y chwaraewyr yn isel. Er i Simon Church fwrw’r trawst yn yr ail hanner, bach iawn oedd cyfleoedd Cymru i sgorio ac roedd cyfle arbennig i ddechrau ymgyrch newydd gyda chanlyniad da wedi diflannu.

Rwy’n gwerthfawrogi ymdrechion Toshack i chwarae pêl droed deniadol, pwyllog, ond rhaid chwarae i gryfderau’r chwaraewyr, ac, yn anffodus, nid yw chwaraewyr Cymru yn ddigon da i chwarae’r system yma o bêl droed yn erbyn gwrthwynebwyr o safon. Mae gan Gymru chwaraewyr gwell na Gogledd Iwerddon, er enghraifft, ond mae Gogledd Iwerddon yn chwarae i’w cryfderau, yn ymateb i’w rheolwr ac yn cynhyrchu canlyniadau da yn gyson.

Yn amlwg mae Toshack wedi methu ac ysbrydoli’r chwaraewyr, mae ei steil rheoli yn anaddas i reoli tîm yn yr 21ain ganrif, ac rwyf wedi blino’n lan arno yn sôn am ei ddyddiau yn chwarae i Lerpwl a rheoli Real Madrid (nid unwaith, ond ddwywaith cofiwch!) yn bob un cyfweliad. Mae’r nifer o chwaraewyr sydd wedi ymddeol yn ystod cyfnod Toshack yn uchel iawn, ac er fy mod yn cytuno efo agwedd Toshack gyda rhai ohonynt, megis Savage, Parry, Koumas ayb, mae’n amlwg iawn nad yw hi’n cymryd llawer i gweryla gyda steil rheoli ystyfnig, undonog Toshack.

Roedd gêm Montenegro oddi cartref fod i ddechrau cyfnod fwya’ llwyddiannus John Toshack, ond wedi’r perfformiad simsan y peth gorau am y golled yw ymddiswyddiad hir-ddisgwyliedig yr hyfforddwr.

Diolch am dy ymdrechion Tosh, ond mae tîm pêl droed Cymru angen hyfforddwr newydd gydag egni, syniadau a chreadigrwydd. Nid wyf yn gallu gweld Ryan Giggs yn cyfuno chwarae i Man Utd a rheoli Cymru, felly pam ddim rhoi cyfle i Brian Flynn- dyn sydd wedi gwneud gwyrthiau gyda’r timau ieuenctid ac yn gwybod sut i gael y gorau o’r chwaraewyr ifanc. Pwy bynnag sy’n rheoli, mae angen canlyniad da yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd mis Hydref, neu bydd cyfle arall wedi mynd a sôn am flynyddoedd eto am ‘beth os…’ a 1958!

Tata Tosh…o’r diwedd!

Pwy ddylai’r Gymdeithas Bêl-droed benodi fel olynydd i Toshack? Cliciwch yma i bleidleisio.

Pam fod angen cefnogi Lloegr

Cyhoeddwyd Medi 7, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Ewrop 2012;, Lloegr;, Pêl-droed, Toshack;, Wayne Rooney;

Dylan Iorwerth yn dadlau tros roi heibio arfer oes

Llyncwch eich poer. Gafaelwch yn dynn ym mraich y gadair a dywedwch ar fy ôl i, “Dw i’n cefnogi Lloegr; dw i eisio i Loegr ennill”.

Dyna ydi gwir arwyddocâd perfformiad tila tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Ewrop 2010.

Os nad oes gwyrthiau’n digwydd, does gynnon ni ddim gobaith o gwbl o ennill ein grŵp – y gorau y gallwn ni obeithio amdano fo ydi’r ail safle a gêmau ail gyfle.

Felly, mae’n rhaid gobeithio y bydd Lloegr yn llwyddo i roi cweir i bob un o’r tîmau eraill, gan gynnwys y Swistir. Cym on, Rooney! Defnyddia dy droed y tro yma!


Gobaith

Er mor anodd ydi dweud y peth, os ydi Lloegr yn gorffen ar frig y grŵp yn gyfforddus, mae’n debyg o gynyddu ein gobeithion ni.

Mi fydd rhaid i ninnau guro Montenegro, Bwlgaria a’r Swistir hefyd, wrth gwrs, ond mae’n bosib mai ni hefyd fydd â’r cyfle gorau i fynd â phwyntiau oddi ar Loegr.

Mi fydd y Saeson yn edrych i lawr eu trwynau arnon ni a siawns na fydd chwarae’r hen elyn yn ddigon i roi ychydig o dân hyd yn oed ym moliau chwaraewyr ifanc Cymru.

Yn y diwedd, dyna ydi methiant mawr John Toshack. Mae ei dîm yn chwarae yr un mor ddiflas ag  mae’r dyn ei hun yn swnio. Maen nhw’n chwarae’n ddiysbryd efo tactegau diflas ac mae yntau wedi methu â’u hysbrydoli.

Mae’n debyg fod hynny’n risg o gael chwaraewyr sy’n Gymry trwy eu neiniau a pherthnasau pell eraill ond mi ddylai rheolwr allu eu codi. O’r dechrau, wnaeth Tosh ddim o hynny.

Felly, tân y Ddraig amdani a Hwrê i faner San Siôr. Am gyfanswm o 450 o funudau.

Pwy ddaw i achub Cymru?

Cyhoeddwyd Medi 7, 2010 gan Owain Schiavone. 2 Sylw.

Tagiau: John Toshack, Pêl-droed

Mae’n ymddangos fod John Toshack o’r diwedd wedi cael llond bol ac yn bwriadu ymddiswyddo fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol.

Fel cefnogwr dwi’n ansicr ynglŷn â sut i ymateb a dweud y gwir. Pan benodwyd Tosh i’r swydd ro’n i’n amheus i ddweud y lleiaf – gyda chof bachgen ifanc o’r profiad, nes i fyth faddau iddo’n llawn am adael y swydd wedi dim ond 41 diwrnod nôl yn 1994. Wedi dweud hynny, mae’r ffordd mae o wedi mynd o’i chwmpas hi i geisio ail adeiladu’r tîm dros y chwe blynedd diwethaf wedi creu tipyn o argraff arna i – rhaid dweud fod y dasg hon wedi bod yn un angenrheidiol. Ydy, mae o wedi bod yn benstiff…braidd yn rhy benstiff ar adegau, ond mae hefyd wedi ceisio rhoi ei droed lawr a dysgu gwers i rai chwaraewyr oedd yn meddwl y galle nhw ddweud a gwneud fel yr oedden nhw’n dymuno.

Yn anffodus, nifer cyfyngedig o chwaraewyr da sydd gan Gymru ac unwaith mae rhywun yn gosod cynsail gydag un chwaraewr yna mae’n rhaid sticio at hynny a thrin pob chwaraewr yn yr un modd. Efallai mai dyna ddinistriodd Toshack yn y diwedd – fe lwyddodd i bechu gormod o bobl ac yn y diwedd doedd ganddo ddim dewis ond derbyn colli chwaraewyr i fân anafiadau ac esgusodion tila.

Dwi ddim yn teimlo’n gryf un ffordd neu’r llall ynglŷn â’i ymddiswyddiad disgwyliedig, ond bydd hi’n ddiddorol gweld beth sy’n digwydd. Bydd nifer fawr yn falch i weld cefn Toshack wrth gwrs, ond mae’n anodd gwybod lle all Cymru droi am reolwr newydd. Mae ‘na nifer o enwau yn cael eu crybwyll wrth gwrs ond bydd llawer yn dibynnu ar faint all y Gymdeithas Bêl-droed fforddio, yn ogystal wrth gwrs a phwy fyddai eisiau’r swydd?

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld pa effaith y bydd rheolwr newydd yn ei gael ar y tîm. Fe allai arwain at adnewyddu gyrfaoedd rhyngwladol rhai o’r chwaraewyr hynny mae Toshack wedi alltudio wrth gwrs, ond mae Robbie Savage yn rhy hen bellach, tra bod rhywun yn amau a ydy chwaraewyr fel John Oster a Danny Collins wir yn mynd i gryfhau’r tîm. Yr un dyn a allai fod yn ddefnyddiol i Gymru petai’n dychwelyd ydy Jason Koumas, ond mae angen iddo yntau brofi ei hun gyda Chaerdydd gyntaf.

O ran olynwyr, Ryan Giggs ydy’r enw ar wefusau llawer, yn enwedig wedi iddo sôn yn ddiweddar am ei uchelgais i reoli ei wlad yn y dyfodol. Mae yna reolwyr eraill sydd heb swyddi ar hyn o bryd megis Martin O’Neill a Chris Coleman, tra bod rheolwr timau ieuenctid Cymru, Brian Flynn, hefyd yn y ffrâm.

Un arall sydd wedi taflu enw ei hun i mewn i’r botes bore ma ydy John Hartson. Mae ‘Super John’ yn bersonoliaeth poblogaidd iawn ymysg y cefnogwyr, ond go brin y byddai hyd yn oed y mwyaf teilwng ohonyn nhw yn ei weld fel rheolwr ar y tîm rhyngwladol. Does gan Hartson ddim profiad o reoli o gwbl, ond mae ganddo galon fawr ac mae’n  Gymro i’r carn a fyddai’n gallu ysgogi chwaraewyr yn yr ystafell newid. Does ganddo fawr o obaith o gael ei benodi ond efallai fod rôl o rhyw fath iddo yn y tîm hyfforddi newydd.

Dyma grynhoi felly’r prif ymgeiswyr felly (odds yn ôl y bwci William Hill ar 07/09/10 oni bai nodi’r yn wahanol):

Brian Flynn

Gwnaeth Flynn waith da pan yn rheolwr ar glwb Wrecsam yn y 1990au ac mae wedi gwneud gwaith aruthrol wrth ddatblygu timau ieuenctid Cymru yn ystod cyfnod Toshack, yn arbennig y tîm dan 21. Mae hyn wedi ei wneud yn ffefryn ymysg nifer o gefnogwyr Cymru. Mae’n rheolwr sy’n credu mewn chwarae pêl-droed deniadol ac fe allai hynny fod yn ddilyniant teilwng i’r gêm basio mae Toshack wedi ceisio ei mabwysiadu.

3/1

Ryan Giggs

Mae Giggs wedi dweud yn ddiweddar fod ganddo uchelgais i reoli ei genedl rhyw ddiwrnod, ond mae’n bosib fod y cyfle wedi dod braidd yn rhy fuan ac yntau’n dal i chwarae’n rheolaidd i Man Utd. Fe allai’r Gymdeithas bêl-droed ddod i drefniant tebyg i’r hyn a wnaed yn nyddiau cynnar Mark Hughes fel rheolwr, lle caniatawyd iddo barhau i chwarae i’w glwb ar y pryd, Southampton. Ond nid Southampton ydy Man Utd ac mae Giggs yn dal i fod yn ffigwr pwysig yng ngharfan Alex Ferguson. O bosib, chwaraewr gorau hanes pêl-droed Cymru ac fe fyddai’n sicr yn ysgogi’r chwaraewyr ifanc – byddai’n dda ei weld yn derbyn rhyw fath o rôl yn y drefn newydd.

11/4

Chris Coleman

Un arall sy’n sicr yn y ffrâm ac sydd allan o waith erbyn hyn ar ôl iddo gael y sac gan Coventry ym mis Mai. Roedd yn ffigwr poblogaidd fel chwaraewr ac fe wnaeth waith da gydag adnoddau prin yn Fulham ac mae’r profiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair yn un gwerthfawr. Wedi dweud hynny, mae ei gyfnodau mwy diweddar gyda Real Sociedad a Coventry wedi bod yn llai llwyddiannus i ddweud y lleiaf. Er hynny, mae’n debygol y byddai rheolwr ifanc fel Coleman yn apelio i’r Gymdeithas bêl-droed.

9/2

Ian Rush

Arwr yn y crys coch fel chwaraewr, a phrif sgoriwr ei wlad. Fel Giggs fe fyddai’n ennyn parch y chwaraewyr ifanc, ond methiant yw ei yrfa fel rheolwr hyd yn hyn. Fe gafodd gyfnod byr fel rheolwr ar dîm Caer ac mae wedi gwneud rhywfaint o hyfforddi, ond bydd diffyg profiad fel rheolwr yn anfantais iddo.

25/1

Gary Speed

Fis yn ôl fe fyddai cyn gapten Cymru wedi bod yn un o’r ffefrynnau am y swydd, ond fe’i penodwyd yn rheolwr ar Sheffield United ganol mis Awst ac felly mae’n annhebygol y byddai’n ystyried y swydd ar hyn o bryd.

9/1

Dean Saunders

Mae Saunders, sy’n rheolwr cynorthwyol rhan amser i Toshack, yn  cael ei weld fel hyfforddwr da ac fe gafodd gyfnodau reit lwyddiannus fel rhif 2 i Greame Souness yn Blackburn a Newcastle. Dwy flynedd yn ôl fel fyddai yntau wedi bod yn un o’r ffefrynnau efallai, ond mae ei gyfnod fel rheolwr ar Wrecsam wedi bod yn hynod siomedig hyd yn hyn.

10/1

Martin O’Neill

Mae cyn rheolwr Leicester, Celtic ac Aston Villa wedi cael ei enwi’n aml dros y dyddiau diwethaf ac mae’n rheolwr uchel ei barch sydd wedi llwyddo dan amodau caled yn y gorffennol. Mae allan o waith ar ôl ymddiswyddo fel rheolwr Aston Villa ychydig wythnosau yn ôl, ond mae’n annhebygol iawn y gallai Cymru ei fforddio. Wedi dweud hynny, mae’n gymeriad hynod ac fe allai swydd fach i brynu amser tra’i fod yn disgwyl i Alex Ferguson ymddeol fel rheolwr Man Utd apelio. Ond, mae’r ffaith nad yw’r bwcis yn rhoi pris ar ei obeithion yn siarad cyfrolau.

Dim prisiau i’w canfod

Robbie Savage

I unrhyw un sy’n hoffi gamblo ar yr annhebygol, fe allwch chi gael pris o 66/1 ar Robbie Savage. Fe fyddai wrth ei fodd yn cael y swydd mae’n siŵr, ond mae’n bersonoliaeth llawer rhy wyllt sy’n hollti barn fel chwaraewr. Mae hefyd yn dechrau sefydlu gyrfa  i’w hun ym myd y cyfryngau ar hyn o bryd.

66/1

Enwau eraill yn y ffrâm: 6/1 Mark Hughes, 14/1 Tony Pulis, 20/1 Simon Davey, 20/1 Geraint Williams, 18/1 Dave Jones, 22/1 Kenny Jackett, 20/1 Roy Evans, 20/1 Alan Knill, 10/1 Paul Trollope (yn ôl bwci Victor Chandler)

Pwy ddylai’r Gymdeithas Bêl-droed benodi fel olynydd i Toshack? Cliciwch yma i bleidleisio.

Montenegro v Cymru-opsiynau Toshack

Cyhoeddwyd Awst 31, 2010 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Pêl-droed

Gyda Chymru’n chwarae eu gêm agoriadol yng gemau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop 2012 ym Montenegro nos Wener, Owain Schiavone sy’n ystyried yr opsiynau sydd gan Toshack wrth ddewis ei dîm i’r gêm gyntaf hollbwysig.

Mae gêm gyntaf unrhyw ymgyrch ragbrofol i Gymru’n creu teimladau cymysg i gefnogwr. Fel arfer, mae rhywun yn llawn cyffro a gobaith bod cyfle i weld Cymru mewn ffeinals am y tro cyntaf ers 1958, ond mae ‘na wastad rhyw deimlad amheus yng nghefn meddwl rhywun o fod wedi cael eu siomi mor aml yn y gorffennol.

Wrth i’r enwau ddod allan o’r het ar gyfer grŵp G, yr ymateb cyntaf oedd ‘gallai fod yn waeth’ tra bod y cyfle i chwarae Lloegr yn cyffroi hefyd wrth gwrs. Erbyn hyn, mae rhywun yn sylweddoli nad oes yna’r un gêm hawdd yn y grŵp ac wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm yn erbyn y gwrthwynebwyr ‘gwannaf’ ar bapur nos Wener mae’r stumog yn troi gan wybod y byddai colled yn golygu ein bod ni mewn trwbl o’r cychwyn cyntaf.

Nifer o Gymry yn Uwch Gynghrair Lloegr

Mae cymryd golwg ar garfannau’r Uwch Gynghrair (a’r Alban yn achos Joe Ledley) yn codi’r galon gan fod mwy o chwaraewyr Cymru yn chwarae i dimau ar y lefel uchaf nag ydw i’n cofio. Dyma syniad i chi o’r garfan Gymreig y gellid ei dewis o chwaraewyr sydd ar lyfrau timau Uwch Gynghrair:

  1. Wayne Hennesey ( Wolves)
  2. Sam Ricketts (Bolton)
  3. Gareth Bale (Spurs)
  4. James Collins (Aston Villa)
  5. Danny Gabbidon (West Ham)
  6. David Vaughan (Blackpool)
  7. Simon Davies (Fulham)
  8. Joe Ledley (Celtic)
  9. Craig Bellamy (Man City – ar fenthyg gyda Chaerdydd)
  10. Aaron Ramsey (Arsenal)
  11. Ryan Giggs (Man Utd)

Eilyddion:

  1. Danny Collins (Stoke City)
  2. Boaz Myhill (West Brom)
  3. Neal Eardley (Blackpool)
  4. Rob Edwards (Blackpool)
  5. Jack Collison (West Ham)
  6. David Edwards (Wolves)
  7. Sam Vokes (Wolves – ar fenthyg gyda Bristol City)
  8. Jason Brown (Blackburn Rovers)

Dyna chi 19 o Gymry sy’n chwarae pêl-droed i dimau ar y lefel uchaf – gwych i’w weld, yn enwedig mewn cynghrair sy’n denu cymaint o dramorwyr ar hyn o bryd.

Yn anffodus wrth gwrs, mae Giggs a Simon Davies wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol erbyn hyn ac er bod Giggs wedi awgrymu y byddai’n fodlon rhoi help llaw i’w wlad mewn argyfwng, mae’n ymddangos fod Toshack yn gwrthod codi’r ffôn a gofyn iddo ddod nôl. Mae Davies hefyd yn golled a byddai ei brofiad yn werthfawr yng nghanol y cae. Mae Toshack hefyd wedi ffraeo â Danny Collins wrth gwrs, er ei fod yntau wedi dweud yn gyhoeddus ei fod am gladdu’r gorffennol ac adennill ei le yn y tîm.

Tynnwch hefyd y chwaraewyr sy’n anafiedig – Ramsey, Collison a Gabbidon ac mae’r garfan yn dechrau edrych yn ysgafn. I daflu mwy o ddŵr oer ar y mater, beth am edrych i weld pwy sydd ddim yn chwarae’n rheolaidd i’w tîm cyntaf ar hyn o bryd – dyna sgrapio Hennessey, Myhill, Brown, Vokes, Eardley, Ricketts,  David Edwards a Rob Edwards felly. Mae hynny’n gadael Bale, James Collis, David Vaughan, Ledley a Bellamy – un o’r rheiny, Collins, wedi chwarae ei gêm gyntaf ddydd Sul a dau arall yn chwarae y tu allan i Uwch Gynghrair Lloegr mewn gwirionedd. Mae’r gobaith yn dechrau pylu.

Gobaith

Ond rhaid peidio bod yn rhy negyddol gan bod perfformiadau diweddar yn erbyn yr Alban a Lwcsembwrg yn awgrymu bod digon o dalent ifanc gan Toshack i greu argraff ar y grŵp. Mae ‘na chwaraewyr Cymreig y tu allan i’r Uwch Gynghrair sy’n chwarae’n dda ar hyn o bryd a dwi’n teimlo y bod digon o dalent yn y garfan i gael canlyniadau yn y gemau agoriadol gan weddïo y bydd bois fel Collison a Ramsey’n holliach erbyn  yr hydref ac y bydd rhai o’r lleill yn chwarae’n rheolaidd erbyn hynny.

Pa dîm ddylai Tosh ei ddewis felly? Fe brofodd perfformiad ail hanner Lwcsembwrg mai system 4-5-1 sy’n siwtio Cymru gan gael y gorau allan o chwaraewyr fel Bellamy.

O ran yr amddiffyn, rŵan bod James Collins yn ffit, bydd yn cymryd ei le wrth ochr Ashley Williams yn y canol. Roedd yn edrych yn addawol i Gabbidon ar un pryd wedi iddo chwarae yng ngemau agoriadol West Ham eleni, ond mae anaf arall yn awgrymu fod diwedd ei yrfa’n agosáu. Mae Chris Gunter o Nottingham Forrest, sy’n ddigon da i’r Uwch Gynghrair, yn ddewis amlwg fel cefnwr de.

Safle’r cefnwr chwith fydd yn peri’r penbleth mwyaf i Toshack yn yr amddiffyn, ac yn fwy penodol, y cwestiwn o pa safle i chwarae Gareth Bale, sef un o chwaraewyr gorau’r Uwch Gynghrair ar hyn o bryd. Mae Bale wedi bod ar dân i Spurs ar yr asgell chwith, ac fe awgrymodd Toshack yr wythnos diwethaf mai yno y byddai’n chwarae i Gymru a buaswn yn cytuno â’r penderfyniad hwnnw. Os felly, mae’n debygol o fod yn ddewis wedyn rhwng Ricketts a Lewis Nyatanga sy’n fwy cyfarwydd fel amddiffynnwr canol.

Canol cae’n allweddol

Ymlaen i ganol y cae, ac yma mae gobaith gwirioneddol Cymru. Byddai gweld Bale a Bellamy’n dechrau ar yr esgyll yn dychryn unrhyw dîm – mae angen sicrhau digon o bêl i’r ddau greu’r difrod felly. Mae’r tri yn y canol yn allweddol felly, ac ar sail ei berfformiad yn erbyn Lwcsembwrg, David Vaughan yn arbennig. Pan ddaeth Vaughan i’r cae wedi’r hanner yn y gêm gyfeillgar fis diwethaf, dechreuodd Bellamy a Chymru danio. Does ‘na ddim byd ffansi am y Cymro Cymraeg o’r gogledd – mae o’n chwaraewr taclus sy’n chwarae pêl-droed syml ond effeithiol. Mae wastad yn chwilio am y bêl ac mae’n basiwr da – dyna pam mae’n cadw ei le yn nhîm Blackpool, a dyna pam y dylai Toshack ei ddefnyddio yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Mae Joe Ledley’n debygol o hawlio un o’r llefydd eraill yng nghanol y cae tra bod gan Toshack bedwar chwaraewr a allai lenwi’r safle olaf yn y canol – petai wedi bod yn chwarae i Wolves eleni, David Edwards fyddai’r dewis amlwg ac mae’n debygol mai ef fydd dewis Toshack, ond mae gan gefnogwyr Leicester feddwl mawr o Andy King ac mae’n sicr yn werth ei ystyried.

Mae hynny’n gadael dau safle – un ym mhob pen o’r cae. Mae’n biti nad ydy Wayne Hennessey yn nhîm Wolves ar hyn o bryd, ond fo ydy golwr gorau Cymru a fo ddylai ddechrau nos Wener.

Dyn mawr i arwain y gad

Mae safle’r ymosodwr yn un pwysig iawn hefyd. Gyda system 4-5-1 bydd rhaid i bwy bynnag sydd yno weithio’n galed i ddal y bêl i fyny, yn ogystal a bod yn fygythiad o groesiadau Bellamy a Bale. Dwi’n amau fod Earnshaw a Church yn rhy fach o wneud y job, felly mae’n ddewis rhwng Ched Evans o Sheffield United a Steve Morison o Millwall yn fy marn i. Mae Evans yn chwarae yn y blaen ar ben ei hun i’w glwb, a fo ydy’r chwaraewr gorau yn dechnegol. Wedi dweud hynny, fe gafodd Morison gêm gyntaf dda yn erbyn Lwcsembwrg ac mae’n amhosib anwybyddu’r ffaith ei fod wedi sgorio 4 gôl mewn pum gêm hyd yn hyn eleni, o’i gymharu â un gôl Evans hyd yma. Yn 6’2” a 13 stôn a hanner, mae Morison hefyd yn glamp o foi sy’n gallu taflu ei bwysau ar y cae, tra’i fod hefyd yn adnabyddus fel gweithiwr caled – dwy agwedd y bydd eu hangen allan ym Montenegro.

Dyma’r tîm y buaswn i’n ei ddewis felly:

  1. Wayne Hennesey
  2. Chris Gunter
  3. Sam Ricketts
  4. James Collins
  5. Ashley Williams
  6. David Vaughan
  7. Andy King
  8. Joe Ledley
  9. Craig Bellamy
  10. Steve Morison
  11. Gareth Bale

Mae’n siŵr bod gan Toshack ei syniadau ei hun, ond mae’r asgwrn cefn cadarn i’r tîm yma a digon o fygythiad ar yr esgyll. Er hynny, byddai’n braf gweld enwau Giggs a Davies yno i ychwanegu profiad.

Breuddwyd i Bellamy a Chaerdydd

Cyhoeddwyd Awst 18, 2010 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Craig Bellamy, Pêl-droed

Craig Bellamy gyda chry Caerdydd

Newyddion chwaraeon mawr yr wythnos…os nad y ganrif, yw trosglwyddiad capten Cymru, Craig Bellamy, o Man City i Gaerdydd. Owain Schiavonr sy’n trafod nifer o gwestiynau sydd wedi codi yn sgil y ddêl.

Mae’r peth yn swnio’n swreal i ddweud y lleiaf, ac mae’n siŵr fod cefnogwyr Caerdydd yn dal i binsio eu hunain gan feddwl mai breuddwydio y maen nhw!

Craig Bellamy yn disgyn safon i Bencampwriaeth Lloegr er mwyn chwarae i’r tîm y mae’n eu cefnogi ers pan oedd yn blentyn gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Bellamy’n siarad am ei drosglwyddiad ar fenthyg a gadarnhawyd ddoe,  fel ‘gwireddu breuddwyd’ ac mae’r freuddwyd yn sicr wedi dod yn wir i nifer o selogion y clwb gyda rhai yn honni mai dyma’r trosglwyddiad mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Adar Gleision.

Er mor gyffrous ydy’r newyddion, mae nifer o gwestiynau’n codi o’r mater.

Gallu ariannol Caerdydd

Y cyntaf, ac o bosib yr un fydd yn peri’r gofid mwyaf i’r cefnogwyr, ydy’r cytundeb ariannol. Mae’n ymddangos y bydd Bellamy’n dal i dderbyn ei gyflog llawn yn Man City o £95,000 yr wythnos am y cyfnod y mae ar fenthyg yng Nghaerdydd.

Does dim sicrwydd ynglŷn â faint yn union o’r swm hwn y mae Caerdydd yn gyfrifol am ei dalu, a’r gred yw bod Man City yn parhau i dalu’r mwyafrif. Wedi dweud hyn, os ydy Caerdydd yn gyfrifol am dalu oddeutu chwarter y swm fel y mae llawer yn amau, yna mae’n dal i fod yn dolc fawr i glwb sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol dybryd yn ddiweddar.

Cofiwch chi, efallai bod y ddêl yn benderfyniad busnes digon craff gan y rhai sy’n rheoli yn y brifddinas – mae Bellamy’n sicr o ddenu’r torfeydd ac os bydd yn cael yr impact y maen nhw’n gobeithio amdano ar y cae yna bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn dop wrth i’r tîm frwydro am eu lle yn yr Uwch Gynghrair.

 Mae’r holl fater wedi agor nyth cacwn arall i Brif Weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins, sef bygythiad cyfreithiol gan Motherwell yn yr Alban, sy’n dweud fod ar yr Adar Gleision ddyled o tua £200,000 iddynt nhw. Ond, busnes ydy busnes, ac mae’n annhebygol y bydd Jenkins yn colli gormod o gwsg ynglŷn â’r mater wrth edrych ymlaen at gyfri’r arian tocynnau ar gyfer ymddangosiad cyntaf Bellamy yn erbyn Doncaster ddydd Sadwrn.

Lle i chwarae Bellamy?

Cwestiwn arall fydd yn ennyn ar drafodaeth frwd ymysg cefnogwyr Caerdydd ydy ble fydd y rheolwr, Dave Jones, yn dewis chwarae capten Cymru? Mae gan Gaerdydd eisoes un o’r llinellau blaen mwyaf cyffrous y tu allan i’r Uwch Gynghrair rhwng Chopra, Bothroyd, Whittingham a Burke – mae’n anodd gweld lle all Jones ffitio Bellamy heb aflonyddu ar y tîm.

Mae’r rhan fwyaf o wybodusion yn gytûn mai y llynedd oedd tymor gorau gyrfa Bellamy hyd yn hyn, ac yntau’n chwarae ar yr asgell chwith i Man City – yr un safle ag y perfformiodd mor ddinistriol i Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yr wythnos diwethaf. Mae’n taro felly mai yno y bydd Jones yn awyddus i’w weld yng nghrys glas Caerdydd … ond ar draul Peter Wittingham oedd yn brif sgoriwr yr holl adran y llynedd?

Does dim llawer o sgôp gan Jones o ran symud un o’i chwaraewyr ymosodol i ganol y cae chwaith gan fod y chwaraewyr newydd Seyi Olofinjana a Daniel Drinkwater wedi edrych yn dda yn eu gemau cyntaf yn y safleoedd hynny. Rhaid cofio hefyd am un dyn arall sydd wedi arwyddo i City a fyddai, oni bai am saga Bellamy, yn cael sylw eang gan y wasg – Jason Koumas.

Mae Koumas yn un o chwaraewyr canol cae gorau’r wlad ar ei ddydd ac fe fydd yntau’n cystadlu am le yn y tîm ddydd Sadwrn hefyd. O fod mewn sefyllfa lle nad oedd modd iddo arwyddo chwaraewyr o gwbl rai wythnosau nôl, mae gan Dave Jones erbyn hyn ormodedd o dalent ar ei ddwylo – problem, ond problem neis i’w chael!

Cadw trefn ar yr hogia drwg

Mae rhestru’r enwau uchod yn atgoffa rhywun o gofrestr bechgyn drwg cynghrair pêl-droed Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf! Mae Chopra, Bothroyd, Wittingham a Koumas oll wedi bod yn y newyddion am y rhesymau anghywir ac yn adnabyddus fel chwaraewyr ‘anodd’ i’w rheoli.

Mae’n brawf o sgiliau rheoli personél Dave Jones ei fod wedi llwyddo i blethu’r enwau yma yn dîm cytûn, ond sut fydd y chwaraewyr uchod yn ymateb i bersonoliaeth danllyd a phregethu diddiwedd Bellamy ar y cae. Os oes yna un rheolwr all ddygymod â’r sialens, heb os Jones ydy hwnnw. Bydd Bellamy hefyd yn mynnu’r safonau uchaf gan ei gyd chwaraewyr a gall hynny ond bod yn beth da i’r tîm.

Effaith ar y tîm cenedlaethol

Y cwestiwn mawr sy’n parhau yn fy meddwl i ydy sut effaith fydd y trosglwyddiad yn ei gael ar bêl-droed Cymru? O safbwynt datblygiad ehangach pêl-droed y wlad, mae’n beth cadarnhaol wrth gwrs gan ei fod yn cynyddu’r gobaith o gael un o’n clybiau yn yr Uwch Gynghrair a hefyd yn codi diddordeb yn y gêm.

Gan gymryd nad ydy’r clwb wedi ymestyn eu hunain yn ormodol yn ariannol, fe ddylai’r trosglwyddiad dalu ei ffordd gyda gwerthiant tocynnau a chrysau Caerdydd, ac os bydd Caerdydd yn ennill dyrchafiad bydd hynny’n ddiwedd ar eu trafferthion ariannol presennol. Bydd cael tîm yn yr Uwch Gynghrair hefyd yn hwb ariannol mawr i economi Caerdydd, heb sôn am godi hyder yn y ddinas, a’r wlad yn gyffredinol.

Byddai rhywun yn disgwyl i hyn oll gael effaith gadarnhaol ar y tîm cenedlaethol hefyd wrth iddyn nhw gystadlu am le yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2012. Os am gyrraedd y nod, bydd angen i Gymru sicrhau fod eu capten ar ei orau a 100% yn ffit … ac yno mae’r gofid i gefnogwyr y tîm rhyngwladol. Mae’r Bencampwriaeth yn cael ei gweld yn un o’r cynghreiriau caletaf ohonyn nhw i gyd.

Bydd disgwyl i Bellamy chwarae yn y mwyafrif o’r 44 gêm gynghrair sydd gan Gaerdydd yn weddill, heb sôn am gemau cwpan di rif a gemau ail-gyfle’r gynghrair petai nhw’n gorffen rhywle rhwng trydydd a chweched safle yn y gynghrair. I chwaraewr sydd wastad wedi’i chael hi’n anodd ymdopi ag anafiadau, bydd hon yn dymor caled.

Mae’n anochel hefyd y bydd Bellamy’n darged i rai o amddiffynwyr caled y gynghrair – un dacl galed wedi ei cham amseru ac fe allai Bellamy a’i bengliniau fod wedi’i hanafu am y tymor. Ond, fel y dywedodd Bellamy ddoe, mae ‘wedi tyfu i fyny yn yr adran yma’ ac mae’n chwaraewr digon profiadol a chlyfar erbyn hyn i ymdopi â’r sialens tra bod Dave Jones hefyd yn rheolwr digon doeth i wybod pryd i orffwys y chwaraewr.

Amser a ddengys ynglŷn â’r cwestiynau uchod, ond am y tro, beth am edrych mlaen i weld un o chwaraewyr Cymreig gorau ei genhedlaeth yn chwarae ei gêm gyntaf i Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Llun: Gwifren PA