Cynyddu maint testun

Golwg360

Y cyfreithiwr a'r meddyg

Es i ddim i lawnsiad ymgyrch True Wales gogyfer a’r refferendwm pwerau yn Nhrecelyn ddoe am amryw o resymau. O ganlyniad, doeddwn i ddim yno i glywed cyhoeddiad Rachel Banner na fyddai True Wales yn gwneud cais am statws ymgyrch Na swyddogol. Felly mae’n debygol na fydd ymgyrch Ie swyddogol chwaith, gan fod rheolau’r Comisiwn Etholiadol yn mynnu bod dwy ymgyrch swyddogol -un o blaid ac un yn erbyn -neu ddim un o gwbwl. Mae yna un dyn unig yn gwneud ymgais tafod yn y boch i fod yn Ymgyrch Na. Dyw Alwyn ap Huw ddim yn credu bod y cynnig presennol yn mynd yn ddigon pell. Fel yr un dyn ag yr yw e, mae’n annhebygol o gyrraedd gofynion y Comisiwn Etholiadol o gael cefnogaeth o Gymru ben baladr. Ac yn ôl ei flog, mae’n edrych am nawdd gan ryw filwnydd hael i ariannu’r fenter!

Ta beth, dadl pobol fel Helen Mary Jones o Blaid Cymru a Wayne David o’r Blaid Lafur yw bod penderfyniad True Wales i beidio ag ymgeisio am y statws swyddogol yn stynt ac yn un gwrth-ddemocrataidd. Byddai unrhyw ymgyrchoedd swyddogol yn cael rhoi taflen yr un i’w dosbarthu’n ddi-gost i bob cartref yng Nghymru ac yn cael amser am ddim ar y tonfeddi radio a theledu. Dim ymgyrchoedd swyddogol = dim cefnogaeth gyfryngol ehangach.

Nawr, fe fydd y Comisiwn yn creu un daflen yn gosod y ddwy ochr i’w dosbarthu i gartrefi Cymru os na fydd ymgyrchoedd swyddogol i wneud y taflenni eu hunain ond dw i ddim mor siwr beth fedran nhw wneud o ran cyflwyno’r ddwy ochr ar y teledu a’r radio. Sef efallai ble mae sylwadau Helen Mary a Wayne David yn dal dwr.

Ro’n i mas yng Nghaerdydd rhyw noswaith neu ddwy wedi lansiad yr Ymgyrch Ie ac yn siarad â ffrind o feddyg oedd yn dweud y byddai e’n debygol o bleidleisio Na yn y refferendwm os o gwbl. Dyw e ddim yn rhy hoff o sut mae’r Llywodraeth wedi bod yn delio â iechyd na chwaith yn gweld bod unrhyw ddaioni wedi dod o gael Cynulliad. Roedd e’n gweld pleidlais Na fel pleidlais dros ddychwelyd pwer i San Steffan, sydd ddim yn gywir wrth gwrs.

Y noson cyn siarad â’r meddyg ro’n i mewn parti dyweddio yn siarad â ffrind o gyfreithiwr oedd heb glywed am y lansiad na chwaith beth oedd holl bwynt y refferendwm. Roedd e wedi rhyw hanner clywed bod refferendwm ond heb syniad pendant o beth oedd y rheswm dros gynnal y bleidlais.

Mae’r ddau yma’n fois galluog, sy’n ymddiddori yn y newyddion, yn gwrando ar y radio ac â diddordeb ym mhethau’r byd ond heb syniad llawn o beth sy’n digwydd yn y Cynulliad -achos Radio 4 yw eu dewis nhw o radio am newyddion, gorsafoedd tu hwnt i’r rhai penodol Gymreig am eu cerddoriaeth a’r papurau â phencadlysoedd yn Lloegr sy’n mynd â’u ffansi nid y papurau Cymreig. Pe bai ymgyrchoedd swyddogol, byddai darllediadau am ddim gan y ddwy garfan ar orsafoedd radio masnachol, rhwng rhaglenni teledu ar y bocs a byddai cyfle i’r ddwy ochor ddadlau eu hachos tu hwnt i fwletinau newyddion a rhaglenni trafod. Byddai pobol yn clywed am y refferendwm, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw riddyn o ddiddordeb.

Yr her i’r ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn dros y chwe wythnos nesaf yw trosglwyddo’r neges heb yr hwb cyfryngol ychwanegol. Y cwestiwn yw, ydyn nhw’n mynd i gyrraedd pobol fel y cyfreithiwr a’r meddyg? Llwyddo ai peidio, bydd y tebygrwydd o unrhyw ffigwr sylweddol yn dod allan i bleidleisio ar Fawrth 3 yn crebachu’n sylweddol heb ymgyrchoedd swyddogol.

Anrheg Nadolig

Dydw i ddim am wneud cwis i chi fel y mae fy ffrind Tom Bodden yn ei gynnig yn ôl ei arfer tymhorol ar ei flog Gog in the Bay. Ond mae ITV a YouGov wedi dod ag anrheg nadolig fach i ni cyn i’r mwyafrif ffarwelio â’r rhithfyd i stwffio twrcio go iawn gyda’u teuluoedd dros yr wyl. Ie, yr arolwg barn misol.

Bydd Llafur yn hapus dros ben gyda 44% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio drostyn nhw yn etholiad y Cynulliad am y pedwerydd mis yn olynol. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn llawer llai hapus, gyda UKIP o’u blaen nhw mewn tair o’r rhanbarthau etholiadol. Mae’n siwr bydd peiriant datganiadau’r Gwyrddion yn anfon neges o lawenydd mawr i’r holl amgylcheddwyr eu bod nhw’n gwneud yn dda yn rhanbarth Canol De Cymru. Yn y refferendwm, mae’r nifer sy’n bwriadu taro pleidlais yn y lle cyntaf yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y cawn ni bleidlais Ie fis Mawrth.

Mae Golwg 360 yn sôn am anrheg nadolig i’r Ceidwadwyr yma. Newyddion drwg i Blaid Cymru fydd efallai’n gobeithio am wyrth ychwanegol dros yr wyl!

Dyma bigion o’r arolwg isod i chi. Nadolig Llawen!

Pe bai etholiad Cynulliad yfory, a gan ystyried y bleidlais etholaeth, sut fyddech chi’n pleidleisio?

                  2007     Mai     Meh    Gorff      Awst    Medi      Hyd        Tach       Rhag

Llafur       32%     32%     42%     40%     39%    44%      44%       44%     44%

Pl. Cymru    22%     22%     20%     22%     23%    19%      21%      21%     21%

Ceid           22%     21%     19%     20%     22%    22%      19%      21%     23%

Dem. Rhydd     15%     20%      12%    13%     10%     11%        9%       9%      6%

Eraill           8%        5%       6%       5%       6%      5%        8%       6%      6%

A gan ystyried y bleidlais blaid neu ranbathol i’r Cynulliad, dros pa restr plaid y byddech chi’n pleidleisio?

                  2007     Mai     Meh    Gorff      Awst    Medi      Hyd        Tach       Rhag

Llafur           30%    30%     40%      37%    39%    41%      40%       41%     42%

Pl. Cymru       21%    21%     19%     20%     23%    19%      23%      20%      21%

Ceid             22%     21%     20%     20%     21%    20%      18%      20%      22%

Dem. Rh       12%     18%      12%    14%       9%     12%       9%        9%        5%

Eraill            16%       9%        9%      8%       8%       8%      11%     11%       10%

Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm 

Pe bai refferendwm yfory i roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad, sut fyddech chi’n pleidleisio? 

                              Ebrill  Meh. Gorff.  Awst  Medi Hydref     Tach   Rhag 

Ie                          49%     55%     48%    48%     49%     52%      48%      46%

Na                            33%     28%     34%     32%    30%     29%      30%      25%

Ddim yn gwybod/ 18%     17%     19%     21%    20%    20%       22%      29%

Ddim am bleidleisio

Un peth bach arall. Os ydych chi eisiau jôcs arbennig o wael ar gyfer y Nadolig, edrychwch yma.

Manion Mawrth

Doedd y Gweinidog dros Blant, Huw Lewis ddim yn arfer bod ar frys i gynnal refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ond bore ma, roedd ei sylwadau’n dangos yn bendant bod llywodraeth yn Llundain sy’n cynnwys y Ceidwadwyr wedi newid ei feddwl. Wrth drafod y gyllideb ddrafft gaiff ei gyhoeddi yfory (moelwch eich clustiau am wybodaeth am 3yh), dywedodd y byddai’n adlewyrchu ymroddiad Llywodraeth Cymru’n Un i gyfiawnder cymdeithasol.

We are not passive victims. We have devolution, we have the Assembly government and we have the option of a referendum next year to enhance our power.

Rhaid rhoi canmoliaeth -fe ymdopodd yn dda yn ei sesiwn gyntaf o flaen y wasg fel rhan o’r Llywodraeth. Mwynheais i’r cyfeiriad at ei wraig fel “my friend and colleague Lynne Neagle.”

Daeth chwarter y Ceidwadwyr i’w briffing nhw bore ma, gyda Andrew RT Davies y llefarydd iechyd yn ymuno â’r ddau Nick, mae’n siwr mewn rhyw fath o ymgais i ddad-wneud moch wythnos diwethaf. Rhy ychydig rhy hwyr? O leia cawson ni gadarnhad o ffigyrau pobol eraill, sef y byddai polisi’r Ceidwadwyr o ddiogelu’r gyllideb iechydyn golygu toriadau o 20% ar adrannau eraill y Llywodraeth yn hytrach na thoriadau o ryw 11%.

Methes i â mynychu cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol. Rwy’n cael ar ddeall mai Lembit a’i hwyl yn y jwngwl oedd prif bwnc trafod y pum munud hwnnw, nid y gyllideb fel yr oedd Kirsty a’i thîm yn gobeithio.

Refferendwm -diweddaraf

Cyhoeddwyd Medi 21, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: refferendwm

Newyddion newydd mewn -Mawrth 3 yw’r dyddiad hoffai’r Llywodraeth Cymru weld refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad. Dyma’r datganiad yn llawn: 

CYHOEDDI’R DYDDIAD A FFEFRIR AR GYFER REFFERENDWM AR BWERAU PELLACH

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones heddiw [21 Medi] wedi hysbysu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, o’r dyddiad a ffefrir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer refferendwm ar bwerau pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Y dyddiad a ffefrir yw dydd Iau, 3ydd Mawrth 2011.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol eisioes wedi cyhoeddi ei pharodrwydd i gynnal y refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011 a gofynnodd hi i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnig dyddiad addas.

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Brif Weinidog hefyd wedi cwrdd ag Arweinwyr y Gwrthbleidiau yn y Cynulliad, i gasglu eu barn.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru nawr yn disgwyl ymateb ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

DIWEDDARIAD:

Ymateb yr Ysgrifenydd Gwladol yn llawn

WELSH SECRETARY RECEIVES ASSEMBLY GOVERNMENT’S PREFERRED DATE FOR REFERENDUM

Secretary of State for Wales Cheryl Gillan has today [Tuesday 21 September] received notification from the Welsh Assembly Government that its preferred date to hold the forthcoming referendum on Assembly powers is Thursday, 3 March 2011.

Mrs Gillan said: “I had previously asked the First Minister for his preferred date for the Welsh Referendum and in our discussions earlier today he indicated to me March 3rd was his preference. I told him I will do everything possible to accommodate that date and intend to lay the Referendum Order before Parliament next month.

“In the meantime, Wales Office officials continue to work with Welsh Assembly Government officials to fulfil the commitment to hold the referendum by the end of the first quarter of 2011.”

Trawsnewidiad Eisteddfodol

Cyhoeddwyd Awst 4, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Cymru Yfory, refferendwm

Does dim cymhariaeth rhwng Carwyn Jones ar y maes heddiw a Carwyn Jones ar y maes llynedd.

Llynedd, roedd y gwr fyddai cyn hir yn Brif Weinidog Cymru’n brennaidd, di-gymeriad a diflas tost. Roedd yn syllu’n galed ar ei sgript ac fe fethodd yn llwyr â chyfathrebu â’r dorf oedd wedi dod i’w weld. Heddiw, dywedodd ei fod am siarad o’r frest eleni am fod y goleuo gwael wedi gwneud darllen ei araith llynedd yn amhosibl. Rwy digwydd bod yn gwybod ei fod yn syllu mor galed ar y sgript am ei fod yn cyfieithu ei araith o’r Saesneg i’r Gymraeg tra’n annerch. Dim rhyfedd bod yr araith mor ddi ffrwt.

Ond am wahaniaeth heddiw! Roedd Carwyn yn ei elfen, yn mynnu, yn hollol benderfynol bod rhaid cael Ymgyrch Ie lwyddiannus a phwerau deddfu llawn i Gymru pan ddaw’r refferendwm yn y gwanwyn. Nid yn unig roedd yn ddi-sgript, roedd yn cerdded hyd y llwyfan a’i freichiau fel melin wynt a’i gorffolaeth nid an-swmpus yn meddiannu’r gwagle. Cafodd gynulleidfa gefnogol barod yn y sesiwn gan ei bod wedi’i threfnu gan Cymru Yfory ym Mhabell y Cymdeithasau ond roedd Carwyn yn amlwg frwdfrydig beth bynnag. Trochodd y dorf yn y rhethreg o blaid pleidlais Ie gan ddefnyddio’i hoff gymhariaeth bod y system ddeddfu bresennol fel rhoi bocs twls llawn i ddau o dri adeiladwr sydd wedi dod i gywiro’ch ty ond rhoi bocs gwag i’r trydydd gan addo’r offer wrth i’r adeiladwr ofyn amdanynt un wrth un. Llwyddodd i ddal ei gynulleidfa, i gynnal eu diddordeb ac roedd yn ddifyr i’w wylio. Rwy wedi bod yn dilyn Carwyn Jones yn annerch ers bron i ddwy flynedd a dyma’r tro cyntaf i fi wir fwynhau gwrando arno. Galla i ddeall nawr pam i’r blaid Lafur weld yn dda i’w ethol fel arweinydd.

Gobeithio nad blip yw hwn ac y cawn ni fwy o areithio ysbrydoledig gan Carwyn Jones. Gobeithio nad yw’r sinigwyr fu’n siarad â fi wedyn yn iawn, ac mai am fod y polisi’n hawdd ei bregethu yr oedd cystal. Amser a ddengys!

Beth yw'r lluosog am refferendwm?!

Cyhoeddwyd Gorffennaf 29, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Pwyllgor Dethol, refferendwm

Ddoe cyhoeddodd ITV arolwg barn arall, yr ail mewn cyfres o arolygon misol o hyn hyd etholiad y Cynulliad. Gwerth ei nodi yw bod y gefnogaeth i’r refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad wedi gostwng o 55% fis diwethaf yn syth wedi’r etholiad cyffredinol i 48% erbyn mis yma. Ym mis Ebrill roedd y gefnogaeth ar 49%. Pwy wyr y rheswm am yr amrywiad -wrth holi 1000 o bobol wahanol bob tro, mae’r ymatebion yn siwr o fod rhywfaint yn wahanol. Fe fydd cefnogwyr mwy o bwerau’n cysuro’u hunain bod y gefnogaeth yn dal i ddawnsio o amgylch y marc 50% ac mae wyth mis tan y refferendwm beth bynnag. Mae mwy ar yr arolwg barn yma.

Yn gysgod o fath dros y refferendwm pwerau mae’r ddadl am amseru’r refferendwm arall, sef y refferendwm ar newid y drefn bleidleisio i’r bleidlais amgen, neu AV. Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan wedi penderfynu bod cynnal y bleidlais honno ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad yn bwnc teilwng i ymchwiliad ganddyn nhw ac maen nhw newydd alw am farn pobol ar hynny ac am fwriad llywodraeth y DU i leihau nifer yr aelodau seneddol yn San Steffan a gwneud poblogaeth etholaethau’n fwy cyfartal.

Rhydd i bawb ei (arolwg) barn

Cyhoeddwyd Mehefin 30, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011, ITV, refferendwm

Mae ITV newydd gyhoeddi canlyniadau cyntaf arolwg barn newydd, fydd yn datgelu bwriadau pleidleisio’r Cymry ar refferendwm pwerau deddfu ac yn etholiadau’r Cynulliad yn fisol, ynghyd ag ymateb i gwestiwn amserol gwahanol bob mis.

Os yw’r arolwg yma’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, gallai Llafur ffurfio llywodraeth fwyafrif ar ol yr etholiad flwyddyn nesaf, gyda 42% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros ymgeisydd Llafur ei hetholaeth, a 40% yn dweud mai Llafur fyddai eu dewis nhw ar y rhestr ranbarthol yn 2011 hefyd. Mae hyn o gymharu ag ymateb o 32% yn dewis Llafur yn yr etholaeth a 30% yn dewis Llafur yn y rhanbarth yn 2007. Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn hofran o amgylch y marc 20% nawr fel yn 2007 gan golli rhywfaint o gefnogaeth ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd fwyaf ar eu colled os yw’r arolwg i’w gredu. Fe fyddan nhw’n dweud mai’r unig arolwg sy’n cyfri yw’r bleidlais ei hunan, ond allan nhw ddim bod yn hapus mai 12% sy’n dweud y bydden nhw’n pleidleisio drostyn nhw yn yr etholaeth wedi llwyddo i gael 20% yn mynegi bwriadu i’w cefnogi dim ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyffredinol ym Mai.

O ran y refferendwm, mae pethau’n argoeli’n dda i’r ymgyrch Ie, gyda thwf sydyn iawn mewn cefnogaeth i refferendwm ers mis Ebrill. Yn ol yr arolwg, mae cefnogaeth i gynyddu pwerau deddfu i fyny i 55%, o 49% yn Ebrill. Mae’r rhai sy’n bwriadu pleidleisio na lawr i 28%. Mae 17% un ai a dim diddordeb mewn pleidleisio neu ddim yn gwybod beth i’w wneud. Bydd rhain yn darged clir i’r ddwy garfan felly.

Dyma’r manylion i gyd:

Arolwg Barn ITV YouGov

Canlyniad arolwg 28-30 Mehefin 2010. Sampl: 1001.

Bwriadau pleidleisio ( o gymharu ag etholiad 2007 ac arolwg 3-4 Mai 2010. 

Pe bai etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yfory, gan ystyried y bleidlais etholaethol, sut fyddech chi’n pleidleisio?

                        Etholiad 2007    Arolwg Mai 2010  Arolwg Mehefin 2010

Llafur                            32%                32%                 42%

Plaid Cymru                  22%           22%                   20%

Ceidwadwyr                  22%            21%                  19%

Dem. Rhydd                 15%              20%                12%

Eraill                             8%                    5%              6% 

Gan ystyried y bleidlais ranbarthol neu bleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dros ba blaid fyddech chi’n pleidleisio?

         Etholiad 2007    Arolwg Mai 2010                    Arolwg Mehefin 2010

Llafur             30%                              30%                                          40%

Plaid Cymru  21%                              21%                                          19%

Ceidwadwyr  22%                              21%                                          20%

Dem. Rhydd  12%                              18%                                          12%

Eraill               16%                              9%                                           9%

Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm (o gymharu ag arolwg barn o 16-19 Ebrill 2010).

Pe bai refferendwm yfory ar gynyddu pwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sut fyddech chi’n pleidleisio?

 

                      Arolwg Ebrill 2010                     Arolwg Mehefin 2010

Ie                     49%                                          55%

Na                    33%                                          28%

Ddim yn Gwybod/ 18%                                          17%

Ddim am bleidleisio     

 

Mae George Osborne, Canghellor y Trysorlys, wedi datgelu ei gyllideb gyntaf. Fe gyhoeddodd toriadau mewn gwariant a chynydd mewn trethi er mwyn lleihau lefel benthyca’r Llywodraeth. Ydych chi’n meddwl…?                                                                                      Arolwg Mehefin 2010

Ei fod wedi mynd yn rhy bell er mwyn lleihau’r ddyled                       43%

Ei fod e wedi ei gael e’n iawn                                                                         36%

Nad yw e wedi mynd yn ddigon pell i leihau’r ddyled                         8%

Ddim yn gwybod                                                                                                13%

Hear ye! Hear ye!

Cyhoeddwyd Mehefin 16, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: cheryl gillan, Llafur, peter hain, refferendwm

Does dim amheuaeth ar ol bore ma. Mae Llafur wrth eu boddau i fod mewn gwrth-blaid yn San Steffan. Nid bod y rhai oedd yn dychan y Ceidwadwyr ar risiau’r Senedd yn y Bae bore ma mewn gwrth-blaid -nhw yw prif blaid y Llywodraeth yng Nghymru wrth gwrs -ond fyddai neb yn eich beio chi am feddwl eu bod nhw.

Rhys Williams*, cyn ddarpar ymgeisydd y blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd wyneb yr ymgais ddiweddaraf i ddifrio’r Ysgrifenydd Gwladol Cheryl Gillan sydd yn annerch y siambr am y tro cyntaf heddiw yn ei rol newydd. “Clywch Clywch, mae’r Llywodraethwr Gillan wedi dod i Gymru i roi gwerth i’n bywydau bach di-nod ni!” oedd bloedd Rhys.

Bydd aelodau Llafur, Alun Davies yn eu mysg, yn cymeryd y cyfle’r prynhawn ma i gollfarnu Cheryl Gillan am ohirio’r refferendwm tan flwyddyn nesaf ac am bob mathau o ffaeleddau eraill. Ddylai neb amau am eiliad y byddai Llafur wedi delifro ar beth wmbreth o bethau pe baen nhw wedi aros mewn llywodraeth. Refferendwm yn yr hydref? Dim problem!

Howld on…. dim ond Gorffennaf llynedd dywedodd Peter Hain wrtha i “Dw i ddim yn credu bod [refferendwm] yn mynd i ddigwydd o fewn 18-20 mis. Allwch chi ddim ennill refferendwm bryd hynny.” Felly ydyn ni wir fod credu, 11 mis yn hwyrach, y byddai wedi newid ei feddwl?

*chi’n ei gofio fe -fe ddywedodd yn Barn ei fod e’n casau’r Cymry Cymraeg

Amseru

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: cheryl gillan, Nick Bourne, refferendwm

Diolch byth, mae’r cecru dros a fydd refferendwm yn yr hydref y gwanwyn neu hydref nesaf i ben ac mae’n fater o aros i weld pryd yn nhri mis cynta 2011 fydd y bleidlais. A dweud y gwir, pryd ym mis Mawrth yw’r cwestiwn mawr.

Cyn i’r datganiad ddod yn gyhoeddus roedd Nick Bourne yn llym ei dafod tuag at Blaid Cymru yn ei gynhadledd arferol gyda’r wasg. Gallai Plaid Cymru fod wedi gwneud mwy i sicrhau bod y refferendwm yn digwydd ynghynt, gan osgoi dwy bleidlais fawr yn agos at ei gilydd yw barn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad*. Mae e a Kirsty Williams wedi dweud ar sawl achlysur mai refferendwm yn yr hydref fyddai orau, er mwyn osgoi codi’n un llais i gefnogi pleidlais Ie mewn refferendwm ac yna ddadlau’n chwyrn ar bolisiau eraill yn y frwydr i ennill pleidleisiau yn etholiadau’r Cynulliad. Gyda phleidleiso’n digwydd ym Mhrydain ar ddydd Iau, gallai’r refferendwm gael ei gynnal ar 3, 10, 17, 24 neu 31 Mawrth 2010.

Mae etholiad y Cynulliad eisoes wedi ei amserlenni ar gyfer Mai 5 2011. Er mwyn cael digon o agendor rhwng y ddwy bleidlais byddai Mawrth 3 yn ddewis amlwg a dau fis i’r pleidiau gwahanol fynd am yddfau ei gilydd wedi’r love-in refferendwmaidd. Wedi dweud hynny fe fyddai canfasio yn nhywydd du Chwefror yn hunlle ac fel mae’r hen ddywediad yn dweud, mae Mawrth yn dod mewn fel llew -fydd y pleidleisiwyr yn troi mas mewn tywydd garw dechrau Mawrth? Pleidlais ddiwedd Mawrth felly? Mae’n bosib gall hyn, a sefydlu ymgyrch Ie, gael ei drafod pan fydd arweinwyr y pleidiau’n cyfarfod nos yfory. Gyda’r Llywodraeth yn dweud bod mwy o siarad a Cheryl Gillan ar amseriad y refferendwm ar y gorwel, efallai bydd dim o’r uchod yn cael ei drafod!

*manylion sylwadau Bourne yn Golwg ddydd Iau

Refferendwm Gwyl Ddewi mk 2?

Cyhoeddwyd Mehefin 15, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: refferendwm

Mae Cheryl Gillan wedi datgan y bydd refferendwm cyn diwedd Mawrth 2011. Fe allai fod wedi digwydd ynghynt oni bai am Peter Hain meddai hi. Dyma’r datganiad yn llawn.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi heddiw y dylai refferendwm ar bwerau ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gynnal cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, dywedodd Mrs Gillan ei bod, yn unol ag adran 1 04(3)(b) Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ysgrifennu ato i’w hysbysu na allai osod y Gorchymyn refferendwm drafft yn y Cyfrin Gyngor gerbron y Senedd o fewn y cyfnod 120 diwrnod, a hynny oherwydd amgylchiadau yr oedd wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol.  

Meddai Mrs Gillan: “Rydych chi a minnau, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, wedi trafod amserlen bosib ar gyfer y refferendwm, gan ystyried yr holl gamau y mae angen eu dilyn er mwyn paratoi ar ei gyfer. Yng ngoleuni ein trafodaeth, rydym wedi cytuno y dylem anelu at gynnal refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011.”

Ar 17 Chwefror 2010, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol blaenorol Cymru i’w hysbysu am benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Chwefror i alw am refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad. Roedd hyn yn ysgogi gofyniad statudol i’r Ysgrifennydd Gwladol naill ai osod Gorchymyn drafft yn y Cyfrin Gyngor dan adran 103(1) Deddf Llywodraeth Cymru (Gorchymyn refferendwm drafft) gerbron y Senedd, neu wrthod gwneud hynny a rhoi rhesymau dros wrthod, o fewn y cyfnod 120 diwrnod sy’n dod i ben ar 17 Mehefin 2010.

Meddai Mrs Gillan: “Yr amgylchiadau yr wyf wedi’u hetifeddu gan y weinyddiaeth flaenorol yw’r prif reswm na allaf osod y Gorchymyn drafft o fewn y cyfnod sy’n dod i ben ar 17 Mehefin 2010. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, nid wyf wedi gallu cyflawni fy nyletswydd, a nodir yn adran 104(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, i ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ynghylch geiriad cwestiwn y refferendwm, ac o ganlyniad, nid yw’r Comisiwn Etholiadol wedi profi nac adrodd ynghylch eglurder y cwestiwn eto. Gan i chi benderfynu na ddylid ystyried y dyddiad na’r cwestiwn tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, nid ydym eto wedi cyflwyno cwestiwn i’r Comisiwn Etholiadol, sydd wedi cadarnhau y bydd arno angen o leiaf 10 wythnos i gynnal asesiad ac yna i adrodd yn ei gylch. Mae hyn yn anochel yn arwain at sefyllfa lle na allwn osod y Gorchymyn refferendwm erbyn 17 Mehefin 2010.

Ychwanegodd: “Fodd bynnag, mae Llywodraeth glymblaid y DU wedi ymrwymo o hyd i wneud yn siŵr bod y refferendwm yn mynd rhagddo, ac i osod y Gorchymyn refferendwm drafft cyn gynted ag y bo modd, ar ôl derbyn adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn.

“Yn y cyfamser, rwy’n ddiolchgar am waith ein swyddogion yn llunio drafft o’r Gorchymyn refferendwm, a gobeithiaf y bydd y cydweithrediad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf.” 

[Roedd y fersiwn Gymraeg ar lein erbyn 17.6.10]