Cynyddu maint testun

Golwg360

Gweledigaeth y Miliband cwsg

Cyhoeddwyd Ebrill 1, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011, Refferendwm AV


Ed Miliband
Ystyriwch y sefyllfa hon. Mae’n fore dydd Gwener, 6 Mai. Yng Nghynulliad Cymru a Senedd yr Alban, mae’r Blaid Lafur wedi ennill mwyafrif tenau. Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi cipio grym mewn sawl cyngor allweddol yn Lloegr, gan gynnwys Birmingham a Sheffield.

Mae pethau’n ddu iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol – maen nhw wedi eu dinistrio bron yn llwyr yn y Cynulliad ac yn yr Alban. Maen nhw wedi colli sawl cyngor yn Lloegr. Ac, i rwbio halen yn y briw, maen nhw hefyd wedi colli’r bleidlais ar ddiwygio’r system bleidleisio.

Mae Ed Miliband yn ymddangos ar y teledu, ac yn cynnig iachawdwriaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n cynnig clymbleidio â nhw yng Nghymru a’r Alban, ac ar draws cynghorau sir Lloegr. Mae’n galw arnyn nhw i gefnu ar y Blaid Geidwadol, a Nick Clegg, oedd wedi eu harwain nhw i lawr yr hewl i golledigaeth. Eich clymblaid â’r Blaid Geidwadol yw’r unig reswm yr ydych chi wedi dioddef yr Armageddon etholiadol yma, meddai. Dyma gyfle i chi ymuno â’r blaid boblogaidd.

Mae’r dynion yn y siwtiau llwyd yn mynd i weld Nick Clegg a dweud wrtho fod ei amser ar ben. Tim Farron, un o’r ychydig Dems Rhydd i bleidleisio yn erbyn codi ffioedd dysgu, ac a oedd hefyd wedi ymgyrch o blaid newis y system bleidleisio ar yr un llwyfan ag Ed Miliband, yw’r ffefryn i’w olynu.

Mae’r glymblaid yn chwalu a’r Dems Rhydd a Llafur yn ffurfio clymblaid newydd. Mae’r Ceidwadwyr yn honni nad oes gan y glymblaid newydd fandad i lywodraethu dros y wlad. Mae’r Blaid Lafur yn cyfeirio at y polau piniwn sy’n dangos eu bod nhw 10 pwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr. Er mwyn profi hynny, mae Ed Miliband yn galw Etholiad Cyffredinol. Dan y system gyntaf heibio’r postyn yr oedd y Ceidwadwyr wedi ymgyrchu i’w achub, mae Llafur yn ennill mwyafrif o dros 100 o seddi.

OK, efallai mai dim ond ym mreuddwydion Ed Miliband a hunllefau David Cameron y mae’r senario yma yn bodoli. Ond os yw’r polau piniwn presennol yn gywir, fe fydd 5 Mai yn brawf mawr o ba mor benderfynol yw’r Democratiaid Rhyddfrydol o sicrhau fod y glymblaid â’r Ceidwadwyr yn llwyddiant.

Y refferendwm arall

Cyhoeddwyd Chwefror 22, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Refferendwm AV


Ychydig iawn o ddiddordeb sydd wedi bod hyd yma yn y ‘refferendwm arall’ – y bleidlais ar newid y system bleidleisio. Mae’n ddyddiau cynnar ond siŵr na fydd cymaint â hynny yn pleidleisio ar y diwrnod, chwaith. Bydd yn cael ei gynnal yr un diwrnod ac Etholiadau’r Cynulliad ac felly fe fydd y rhan fwyaf o sylw cyfryngau Cymru ar beth sy’n mynd ymlaen ym Mae Caerdydd.

Ond mae yna ddau reswm da dros gymryd diddordeb. Yn gyntaf, fe allai’r refferendwm benderfynu dyfodol y glymblaid yn San Steffan. Os nad ydi’r ymgyrch ‘Ie’ yn fuddugol fe fydd nifer o ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dechrau holi pam eu bod nhw mewn clymblaid o gwbl. Yn ail, fe fydd yn refferendwm ar un o’r cwestiynau rheini nad oes gan y rhan fwyaf o bobol farn bendant amdanyn nhw.

Dyma’r tro cyntaf ers i fi ddechrau pleidleisio nad ydw i’n gwybod o flaen llaw pa ffordd fydd fy mhleidlais i’n mynd, ac mae sawl un yr ydw i wedi siarad â nhw yn yr un sefyllfa. Dw i’n gwbl agored i gael fy mherswadio’r naill ffordd neu’r llall gan yr ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn y system bleidlais amgen.

Dadl bennaf yr ymgyrch ‘Ie’ yw y bydd y system bleidlais amgen yn golygu y bydd rhaid i Aelodau Seneddol weithio’n galetach i ennill cefnogaeth eu hetholaethau. Bydd rhaid iddyn nhw sicrhau cefnogaeth o leiaf 50% o’r pleidleiswyr, hyd yn oed os ydyn nhw’n drydydd neu bedwerydd dewis rhai ohonyn nhw. Y perygl amlwg welaf i gyda’r system yma ydi y gall cynrychiolydd plaid nad oes neb wir eisiau ei weld mewn grym gipio sedd, am ei fod yn drydydd neu bedwerydd dewis llawer iawn o bobol. Efallai ei fod yn well bod ymgeisydd yn ddewis cyntaf o leiaf canran bach o’r boblogaeth, yn hytrach na’i fod yn ddewis cyntaf neb.

Yn ôl ymgyrchwyr o blaid pleidlais ‘Na’, gan gynnwys William Hague, does neb wir eisiau system y bleidlais amgen – cam cyntaf yw’r system tuag at system fwy cyfrannol sy’n debycach i’r hwnnw sy’n cael ei ddefnyddio yn Etholiadau’r Cynulliad. Ond efallai fod hwnnw’n rheswm i bleidleisio o blaid mewn gwirionedd – os ydi’r ymgyrch ‘Na’ yn fuddugol, fe fydd yn cael ei weld yn bleidlais o hyder yn y system cyntaf heibio’r postyn a fydd yna ddim gobaith diwygio’r system bleidleisio am ddegawdau mae’n siŵr.

Cwyn arall yr ymgyrch ‘Na’ ydi y byddai’r system bleidlais amgen yn arwain at ragor o glymbleidio, ac y byddai hynny yn golygu mai gwleidyddion yn trafod ymysg ei gilydd fyddai’n penderfynu pwy sy’n ennill grym yn hytrach na’r bleidlais.

Mae’n ddiddorol ystyried beth fyddai sgil effaith y system bleidleisio newydd yng Nghymru. Yn fy nhyb i fe fyddai’n gwneud drwg i Blaid Cymru ond o les i Lafur a’r Ceidwadwyr. Gan gymryd mai Cymry Cymraeg yw mwyafrif pleidleiswyr Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru, byddwn i’n dychmygu y byddai’r blaid yn ddewis cyntaf lot o bobol (ond efallai dim 50%) ond y byddai gweddill y boblogaeth yn pleidleisio dros y tair plaid fawr arall mewn rhyw drefn a fyddai’n ddigonol i gario un dros y trothwy. Heb brofi’r system mae’n amhosib gwybod, wrth gwrs.

Un ddadl arall – o blaid neu yn erbyn – yw bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud y dylid ystyried cyflwyno’r system bleidlais amgen yn Etholiadau’r Cynulliad pe bai’r ymgyrch ‘Ie’ yn ennill y dydd yn y refferendwm. Byddai hynny’n cael gwared ar y rhestr ranbarthol, ac yn debygol o leihau nifer Aelodau Cynulliad Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bennaf.

Mae’n amlwg bod diffygion i’r system cyntaf heibio’r postyn, ond a oes digon o rinweddau i’r system bleidlais amgen i gyfiawnhau’r newid? Dywedodd Winston Churchill am ddemocratiaeth: “Democracy is the worst form of government except all the others that have been tried.” Ydi’r un peth yn wir am y system cyntaf heibio’r postyn?

Freud

Cyhoeddwyd Ionawr 5, 2011 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Carwyn Jones, Llafur, peter hain, Refferendwm AV

“There will be two important polls this year…” meddai Carwyn Jones yng nghynhadledd Llafur i’r wasg bore ma i ddatgelu aelod newydd y blaid Lafur o Gastell Nedd.

Dau etholiad pwysig Mr Jones?! Ahem!!! Beth am y refferendwm ar y bleidlais amgen? Roedd rhaid holi. Wwwwps. “There will be three important polls….” cywirodd y Prif Weinidog ei hun braidd yn lletchwith. Ac na, doedd y slip Freud-aidd ddim yn arwydd bod y blaid Lafur Gymreig am anwybyddu’r refferendwm AV – mynnodd Peter Hain  gael dweud ei fod e’n llwyr gefnogol o bleidlais ie fel y mae Ed Miliband -ond y flaenoriaeth yw’r refferendwm pwerau deddfu’r Cynulliad ac ennill mwyafrif i Lafur ym mis Mai.

Digon teg, ond mae’r camgymeriad yn dangos y talcen caled sy’n wynebu cefnogwyr newid y drefn etholiadol i system fwy cyfrannol. Os nad yw’r gwleidyddion sydd ynghanol y pethau yma’n cofio amdano, sut mae modd ysbrydoli’r cyhoedd?

DIWEDDARIAD: Dyw hyd yn oed y Comisiwn Etholiadolyng Nghymru ddim yn gallu cyffroi am refferendwm y bleidlais amgen. Yr awgrym o’u gwefan cymraeg a chymreig nhw yw mai dau etholiad sydd yng Nghymru eleni hefyd. Mae hyn am fod y refferendwm yn fater “Prydain gyfan” medden nhw ar ôl i fi wneud ymholiadau. Felly maen nhw’n cyfeirio ato fe fan hyn.

Tyndra

Mae pethau’n poethi yng ngwleidyddiaeth Cymru ers i Nick Clegg gyhoeddi ei fwriadau i ad-drefnu gwleidyddiaeth Prydain. Mae wedi cadarnhau y bydd refferendwm ar y bleidlais amgen neu AV ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad fis Mai’r flwyddyn nesaf. Fe fydd cyd-daro pellach wedyn yn 2015 rhwng pleidlais San Steffan a’r Cynulliad, gan fod y glymblaid yn San Steffan wedi cytuno i gynnal etholiad cyffredinol bob pum mlynedd. Yn ôl Elfyn Llwyd, mae Nick Clegg wedi cyfaddef yn y senedd nad yw wedi trafod y materion hyn gyda’r llywodraethau datganoledig -arwydd clir o ddirmyg medde fe.

Does dim negeseuon cyd-syniol wedi dod gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yng Nghymru ar negeseuon y glymblaid yn San Steffan. Sonies i yn y blog diwethaf fod Kirsty Williams a Nick Bourne yn anghytuno ar gynnal refferendwm AV ac etholiad y Cynulliad yr un diwrnod. Wel, neges arall gan Clegg yw bod rhaid lleihau nifer yr ASau i 600. Yn ôl datganiad Bourne, rhaid i’r lleihad yn y nifer o ASau fod yn gyfartal ac fe fydd rhan gan Gymru i’w chwarae yn hyn. Rhaid gofalu am etholaethau gwledig medd Kirsty -byw mewn gobaith am ffafrau gan ei harweinydd yn Llundain i gadw’i sedd hi ym Mrycheiniog a Maesyfed mewn un darn efallai.

Cymhlethdodau etholiadol

Cyhoeddwyd Gorffennaf 5, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr Cymreig, Refferendwm AV, Refferendwm Datganoli

Mae pawb yn gwybod y bydd refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad cyn diwedd Mawrth 2011. Mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud. Mae Nick Bourne, arweinydd y grwp Ceidwadol yn y Cynulliad yn ffafrio refferendwm yn gynnar yn y mis ac i fod yn cyfarfod â’r Ysgrifenydd Gwladol heddiw i’w hannog i wthio etholiad y Cynulliad mlaen i Fehefin 6 i sicrhau digon o amser rhwng canfasio ar y ddwy bleidlais wahanol. Mae hawl ganddi hi i wneud hyn yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod Nick Clegg yn sôn am gynnal refferendwm ar newid y system bleidleisio ar Fai 6 hefyd, mae Bourne yn meddwl bod hyn yn fwy o reswm byth i wthio etholiad y Cynulliad mewn i fis Mehefin. Fydd e ddim yn hapus felly gyda sylwadau Jonathan Morgan AC yma. Bydd e’n hapusach gyda sylwadau Glyn Davies AS sbo.

Difyr (ond cwbl amherthnasol) bod y ddau wleidydd wedi’u cysylltu â sibrydion o fiwtini yn erbyn Nick Bourne ar ryw adeg neu’i gilydd.

DIWEDDARIAD: Mae Kirsty Williams newydd gyhoeddi mewn datganiad nad yw hi’n cytuno â chynnal tair pleidlais o fewn pedwar mis a bod dim problem gyda chynnal refferendwm AV yr un pryd ag etholiad y Cynulliad. Nick Bourne mewn man go unig felly.