Cynyddu maint testun

Golwg360

Na! Dim Digon Da!

Cyhoeddwyd Mawrth 1, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Alwyn ap Huw, Gwir Gymru, Refferendwm Datganoli


Taflenni ymgyrch Ie Dros Gymru (Llun Plaid Cymru)
Alwyn ap Huw oedd yr unig un i wneud cais swyddogol i’r Comisiwn Etholiadol i arwain yr ymgyrch ‘Na’.

Heddiw mae’r blogiwr, sydd fel arfer yn ysgrifennu dan yr enw Hen Rech Flin, yn esbonio pam ei fod wedi penderfynu pleidleisio ‘Ie’ wedi’r cwbwl…

Yr wyf eisoes wedi pleidleisio trwy’r post. Mi bleidleisiais Ie, ond mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod wedi gwneud hynny gan ddal fy nhrwyn. Ers imi droi’n ddeunaw rhwng etholiadau i bob lefel o lywodraeth o’r cyngor plwy i Ewrop ac mewn amryfal refferenda, rwy’n amcangyfrif imi bleidleisio tua 46 o weithiau; ond nid ydwyf erioed wedi pleidleisio ar bwnc mor ddiflas, dibwys a dianghenraid a’r refferendwm yma.

Hwyrach bydd yn syndod i rai gwybod fy mod wedi rhoi’r groes yn y blwch Ie o gwbl; os edrychwch ar safle’r Comisiwn Etholiadol fe welwch fy mod i wedi fy nghofrestru yn ymgyrchydd swyddogol ar yr ochr Na!

Fel un sydd wedi ei gofrestru yn ymgyrchydd swyddogol ar ran yr ochr Na yr wyf yn cael gwario hyd at £100,000 i’ch perswadio chi i bleidleisio Na. Pe bai fy nghais i arwain yr ymgyrch Na wedi bod yn llwyddiannus mi fyddwyf wedi derbyn celc eithaf sylweddol o bwrs y wlad i’m cynorthwyo i’ch perswadio i bleidleisio Na, yn ogystal â chyfle i ymddangos ar y teledu a’r radio mewn darllediadau swyddogol tebyg i ddarllediadau etholiad, ac i ddewis pwy fyddai’n cael fod yn llefarydd swyddogol yr ymgyrch ar raglenni gan gynnwys Pawb a’i Farn a CF99.

Ond cwestiwn teg i’w ofyn yw – ‘Pam bod un sydd yn gefnogol i ymreolaeth i Gymru yn wneud cais i fod yn arweinydd yr ymgyrch na yn y lle cyntaf?’

Yr oeddwn wedi clywed y sïon bod mudiad Gwir Gymru am wrthod y cyfle i wneud cais am statws swyddogol. Ar ôl peint neu ddau roedd y syniad o roi proc yn eu llygaid trwy i genedlaetholwr wneud cais am y statws yn fy nghosi.

Mi anfonais gais i’r Comisiwn i arwain yr ymgyrch Na o dan y slogan Na! Dim Digon Da!

Peint neu ddim, pe bawn wedi ennill yr hawl i arwain yr ymgyrch, byddwn wedi mynd ati i ymgyrch dros yr achos gyda brwdfrydedd.

Mae ‘na ddigon o resymau pam y dylai’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y refferendwm fod yn wrthun i genedlaetholwr.

Yr unig reswm y mae refferendwm yn cael ei gynnal o gwbl ydi oherwydd smonach Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n rhoi’r hawl i’r Cynulliad deddfu, heb refferendwm, o dan system hynod drwsgl, ond yn mynnu refferendwm er mwyn lliflinio’r drefn; a hynny oherwydd bod rhaniadau o fewn y Blaid Lafur wedi adroddiad Comisiwn Richard. Pam ddylai Cenedlaetholwr bleidleisio o blaid tynnu’r Blaid Lafur allan o dwll o’i wneuthuriad ei hunan?

Bydd yr hyn sydd ar gael i Gymru ddatganoledig, os bydd pleidlais Ie dydd Iau, yn parhau i fod yn llai na’r hyn sydd ar gael i Gynulliad Gogledd yr Iwerddon a Senedd yr Alban. Ni fydd cyfle i ymgyrchu yn egnïol a gobeithiol am gyfartaledd a’r Alban a Gogledd yr Iwerddon am genhedlaeth arall, ysywaeth. Ond pe bai ymgyrch Na! Dim Digon Da wedi llwyddo, byddai cyfle i ddechrau ymgyrchu am Senedd digon da ddydd Gwener nesaf!

Mi bleidleisies i Ie yn y pen draw, oherwydd y byddai pleidlais Na wedi ei gyfrif yn un wrth-Gymreig yn yr hinsawdd bresennol. Rwy’n siomedig bod y mudiad cenedlaethol ddim yn ddigon hyderus i gefnogi ymgyrch Na! Dim Digon Da er mwyn hyrwyddo achos y genedl.

Plediwr y Diafol

Cyhoeddwyd Chwefror 28, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Gwir Gymru, Refferendwm Datganoli


Mae Gwir Gymru wedi eu beirniadu dros yr wythnosau diwethaf am beidio â mynd i’r afael â’r gwir resymau dros gynnal refferendwm.

Ymgyrch ar roi pwerau deddfu cynradd i‘r Cynulliad yw hwn, meddai’r ymgyrch ‘Ie’. Ond mae Gwir Gymru yn benderfynol o ymosod ar record Llywodraeth y Cynulliad a dweud mai llwybr llithrig tuag at annibyniaeth fyddai pleidlais o blaid.

Trwsio gwendid o fewn y system bresennol fyddai pleidlais ‘Ie’, meddai ymgyrch Roger Lewis, gydag amynedd oedolyn yn siarad â phlentyn ystyfnig. Ac fe fydd cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn y llywodraeth bresennol ar 5 Mai.

Ond er bod Gwir Gymru yn haeddu rywfaint o feirniadaeth am gam-liwio pwrpas y refferendwm ddydd Iau, dw i’n teimlo nad ydi eu dadleuon nhw yn gwbl amherthnasol i’r refferendwm chwaith.

Beth bynnag y mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn ei ddadlau, fe fydd pleidlais o blaid rhagor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn gwneud annibyniaeth ar ryw ben yn y dyfodol yn fwy tebygol. Fel yr ydym ni wedi ei weld yn yr Alban, mae rhagor o ddatganoli yn arwain at fwy o hyder ymysg poblogaeth gwlad eu bod nhw’n ddigon abl i reoli eu materion eu hunain. Ar ôl degawd o’r gallu i greu eu deddfau eu hunain mae pleidiau Senedd yr Alban yn barod i wthio am ‘Devolution Max’ – plisgyn chwannen i ffwrdd o annibyniaeth. Efallai nad yw’n ‘lwybr llithrig’ – chwedl Gwir Gymru – ond mae’r llwybr yn sicr yn mynd i un cyfeiriad yn unig, ac mae haenen denau o rew arno.

Gellid hefyd dadlau ei bod hi’n ddigon teg  ymosod ar record Llywodraeth y Cynulliad, os oes yna wendidau o fewn y Cynulliad sy’n golygu nad yw’r llywodraeth gystal ag y gallai fod. Ydi’r pwll o dalent y mae’r Cynulliad yn denu gwleidyddion ohono gystal â Llywodraeth San Steffan? Hyd yn oed os oes modd cael gwared ar Lywodraeth y Cynulliad ar 5 Mai, pa mor dda yw’r dewis amgen? Ydi statws eilradd y Cynulliad o’i gymharu â San Steffan yn golygu ein bod ni’n cael y gwleidyddion ail-orau o hyd? Ac yn y blaen ac yn y blaen.

Wrth gwrs, fe fyddai rhai pobol yn dadlau bod yr gwendidau uchod yn y Cynulliad yn ddadl o blaid rhagor o ddatganoli. Ond dyna’r llwybr llithrig ar waith unwaith eto…

Yr ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn pleidleisio

Cyhoeddwyd Chwefror 17, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Refferendwm Datganoli


Mae yna bythefnos i fynd cyn y refferendwm ar ragor o ddatganoli ac mae Gwir Gymru eisoes wedi dechrau herio’r canlyniad ar sail nifer isel y pleidleiswyr.

Mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg heddiw mae Rachel Banner, llefarydd y mudiad, yn dweud y bydd “pethau’n anodd” i’r ymgyrch ‘Ie’ pe bai nifer y pleidleiswyr yn syrthio dan 30%.

“Pe bai nifer y pleidleiswyr yn disgyn i 25%, byddai hynny’n codi cwestiynau difrifol,” meddai.

Byddai’r mwyaf sinigaidd yn ein mysg yn awgrymu mai cael y cyfle i godi amheuon fel hyn oedd diben Gwir Gymru wrth wrthod gwneud cais am arian y Comisiwn Etholiadol yn y lle cyntaf… Dan yr amgylchiadau byddai 25% yn pleidleisio yn nifer eithaf uchel.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn pryderu am hyn. Mae cadeirydd yr ymgyrch, Roger Lewis, wedi ysgrifennu at bob golygydd papur newydd yng Nghymru yn galw arnynt hwy i annog dadl ar y pwnc ymysg eu darllenwyr. Hynny yw, nid i wthio dadl yr ymgyrch ‘Ie’, ond i wthio unrhyw ddadl yn y gobaith y bydd pobol yn ymwybodol bod y refferendwm yn digwydd.

Efallai y dylid newid enwau’r ymgyrchoedd, i’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn pleidleisio.

Dadl

Ond a fyddai hi’n drychineb anferth pe bai nifer y pleidleiswyr yn is na 25%? Wedi’r cwbl, mae’r refferendwm ar fater mor ddibwys, bron a bod nad oes angen refferendwm o gwbl. Yr unig reswm ydan ni’n cynnal y refferendwm ydi bod cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi cynnwys un yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn cadw ASau’r Blaid Lafur yn hapus. Pe bai’r newid wedi ei wneud heb i neb sylwi, liw nos, byddai 99% o’r wlad ddim callach y bore wedyn.

Ychydig iawn o’r bobol fydd yn pleidleisio ‘Ie’ a ‘Na’ fydd yn deall craidd y ddadl. Pe baech chi’n crybwyll Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ni fyddai’r rhan fwyaf llawer callach am beth ydych chi’n sôn. Ac er bod yr ymgyrch ‘Ie’ a ‘Na’ yn mynnu eu bod nhw eisiau dadl, dydyn nhw heb esbonio beth yn union mae’r ddadl amdano, chwaith.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ wedi seilio eu hymgyrch ar Shane Williams a Robin McBryde, gan ddadlau bod pleidlais o blaid yn fater o falchder cenedlaethol, fel gwisgo crys coch Cymru ar ddiwrnod y gêm.

Mae’r ymgyrch ‘Na’ yn rhybuddio mai cam cyntaf ar lwybr llithrig tuag at annibyniaeth yw’r bleidlais.

Iawn, dyw fideos YouTube sy’n son am symud o Ran 3 i Ran 4 deddf digon obscure ddim yn mynd i ddenu lot o ‘hits’. Ond o gofio mai refferendwm ar ddeddf digon obscure ydi hwn, ac nid refferendwm ar fodolaeth y Cynulliad, ni fydd nifer isel y pleidleiswyr yn fater o bwys tragwyddol chwaith.

Darogan

Heb son am y refferendwm, mae’n gwestiwn dilys hefyd a oes angen Etholiad Cynulliad arnom ni. Mae’r holl bolau piniwn yn dangos mai’r canlyniad anochel bron yw Llafur heb fwyafrif neu gyda mwyafrif rhy fychan i lywodraethu ar eu pennau eu hunain. Un o sgil effeithiau eironig system bleidleisio ‘mwy democrataidd’ Cymru yw bod clymbleidio bron yn anochel, ac felly y gwir benderfyniadau ynglŷn â phwy sy’n rhedeg y wlad yn cael eu gwneud gan y gwleidyddion. Mae hi bron yn sicr mai Cymru’n Un II (neu Gymru’n Ddau o bosib) fydd y canlyniad; hynny yw, Llafur a Phlaid Cymru yn clymbleidio eto.

Ond wrth weld y terfysg yn y Dwyrain Canol rhaid bod yn ddiolchgar am yr holl gyfleoedd i bleidleisio, a chymryd mantais ohonynt, amwn i!

Arolwg Barn Ionawr

Cyhoeddwyd Ionawr 26, 2011 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Refferendwm Datganoli

Mae ITV a YouGov wedi bod wrthi’n holi’r cyhoedd Cymreig am eu bwriadau pleidleisio yn ôl eu harfer misol. Llafur sy’n llwyddo’n ysgubol unwaith eto, gyda chynnydd bach yn y gefnogaeth. Mae ITV wedi comisiynu YouGov i ddarganfod pwy fyddai’n trafferthu pleidleisio’r tro hwn felly mae’r ffigyrau heb eu pwyso yn y bracedau. Wrth reswm, mae’r Ymgyrch Ie wedi rhyddhau datganiad yn dathlu bod yr arolwg yn dangos bod 49% o’r rhai a fyddai’n trafferthu mynd i’r blwch pleidleisio fis Mawrth yn bwriadu pleidleisio Ie yn y refferendwm. Fodd bynnag, dyw ymgyrchu’r pythefnos diwethaf ddim wedi cael rhyw lawer o effaith ar y nifer o bobol sy’n bwriadu pleidleisio ie.

Os ydych chi am gymharu’r canlyniadau ers mis Ebrill, mae’r manylion yma.

Bwriadau Pleidleisio yn Etholiad y Cynulliad

(o gymharu ag etholiad 2007 ac arolwg barn Rhagfyr. DS Mae ffigyrau mis yma wedi cael ei pwyso o ran tebygrwydd o bleidleisio, mae’r ffigyrau heb ei pwyso mewn bracedau)

Pe bai etholiad Cynulliad yfory, a gan ystyried y bleidlais etholaeth, sut fyddech chi’n pleidleisio?

2007           Rhag       Ion

Llaf        32%           44%        45% (47%)

PC         22%          21%         21% (20%)

Ceid.           22%          23%         21% (21%)

D. Rh         15%            6%           7% (7%)

Eraill            8%            6%           6% (7%)

A gan ystyried y bleidlais blaid neu ranbathol i’r Cynulliad, dros pa restr plaid y byddech chi’n pleidleisio?

2007         Rhag       Ion

Llaf           30%          42% 41% (43%)

PC           21%       21%       21% (20%)

Ceid.             22%           22%       20% (20%)

D.Rh           12%             5%         8% (8%)

Eraill            16%           10%        10% (11%)

Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm

Pe bai refferendwm yfory i roi mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad, sut fyddech chi’n pleidleisio?

(Unwaith eto mae rhaid wedi’i pwyso)

Dec             Jan

Ie                          46% 49% (44%)

Na                            25%             26% (23%)

Ddim yn gwbod/             29%             26% (32%)

Ddim am bleidleisio

Mae’r ymgyrch ‘Na’ eich angen chi

Cyhoeddwyd Ionawr 11, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 2 Sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Refferendwm Datganoli

Os ydych chi’n darllen y blog yma, mae’n eithaf tebygol eich bod chi’n cefnogi pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar ragor o bwerau i’r Cynulliad ym mis Mawrth.

Nid dangos gogwydd ydw i (fydda i’n pleidleisio dros Pat Buchanan yn bersonol) – yn ôl pôl piniwn ITV/YouGov bydd y mwyafrif llethol o siaradwyr Cymraeg yn cefnogi pleidlais ‘Ie’. A’r mwyafrif o siaradwyr Seasneg hefyd, ar hyn o bryd o leiaf, er nad oes cweit cymaint o fwlch.

(Yn ogystal a hynny mae bron i bob Cymro Cymraeg ydw i’n eu nabod ar Twitter a Facebook wedi cysylltu ‘twibbon’ yr ymgyrch Ie i’w proffil. Dw i heb weld unrhyw un â ‘twibbon’ ‘Na’ eto.)

Ond dyma alwad i bawb sy’n cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’ – mae’n bryd i chi newid ochor, a chefnogi yr ymgyrch ‘Na’ – a hynny er lles yr ymgyrch ‘Ie’. Os yw hynny’n gwneud synnwyr.

Y Comisiwn Etholiadol sy’n dewis a fydd ymgyrch ‘Ie’ ai peidio. Ac os na fydd yna ymgyrch ‘Na’, dydyn nhw ddim yn cael rhoi arian i ymgyrch ‘Ie’… a bydd yr rheini sydd o blaid rhagor o ddatganoli wedi colli £70,000 o arian i’w wario ar eu hymgyrch.

Yr unig ymhyrch ‘Na’ werth sôn amdano ar hyn o bryd yw Gwir Gymru – a dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau bod yn ymgyrch ‘Na’. Meddai Len Gibbs o’r ymgyrch:

“Os na chawn ni’n penodi, fydd dim Ymgyrch Ie chwaith. Fyddai hynny ddim yn siom i ni. Dydyn ni ddim wir yn gweld yr angen am y statws, y cyfan fydd e’n gwneud fydd rhoi ychydig bach o arian i ni… dydyn ni ddim eisiau gwastraffu arian ar daflenni i’r post brenhinol eu dosbarthu fydd ond yn cael eu rhoi yn y bin heb eu darllen beth bynnag.”

Nid bygythiad gwag yw hyn – mae’r gwleidyddion yn pryderu o ddifri’. Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd heddiw dywedodd Carwyn Jones fod “perygl go iawn” na fydd ymgyrch Na:

“Fe fyddai hynny, wrth gwrs, yn golygu na fydd yna ymgyrch Ie swyddogol. Ni ddylai unrhyw un gredu fod afon o arian er mwyn ariannu Ymgyrch Ie – does dim.”

Felly os ydych chi eisiau ymgyrch Ie, mae’n bryd i chi ddechrau cefnogi’r ymgyrch Na. Wedi’r cwbwl, mae angen siaradwyr Cymraeg arnyn nhw.

Gaeaf Gysgu

Cyhoeddwyd Ionawr 4, 2011 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Refferendwm Datganoli

Blwyddyn Newydd Dda i chi! Ac os na fydd hi’n flwyddyn newydd dda i wleidyddiaeth yng Nghymru, mae’n bendant am fod yn flwyddyn newydd brysur. Mae Ifan wedi cymeryd y risg o ddarogan digwyddiadau’r flwyddyn yma felly fentra i ddim ag eithrio i ddweud ein bod ni i gyd yn gwybod bod hanner cyntaf 2011 yn mynd i fod yn un aruthrol brysur gyda dau refferendwm ac etholiad ar y gweill.

Ymhen deufis, fe fydd y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad a bore ‘ma, lawnsiwyd yr Ymgyrch Ie o’r diwedd. Gwaetha’r modd, pe na bawn i’n gorfod cymeryd nodiadau yn rhinwedd fy swydd, mae’n ddigon posibl y bydden i wedi cwympo i gysgu ar fy eistedd. Cyd-ddigwyddiad anffodus mai gwesty’r Big Sleep oedd yr olygfa allan o’r ffenestr yn Atrium Prifysgol Morgannwg felly!

Peidiwch â cham-ddeall, rwy’n deall yn iawn pam y dewiswyd Roger Lewis fel cadeirydd yr Ymgyrch Ie: cyn y Nadolig ceson ni sgwrs awr a chwarter hedfanodd heibio -dyn galluog, carismataidd, llawn brwdfrydedd a Chymro i’r carn ar waethaf blynyddoedd hir yn Llundain. Ond waw, roedd hanner awr bore ma yn teimlo fel oes.

Roger Lewis oedd yn cyflwyno pawb. “Pawb” yw tri “person go iawn” oedd yno i egluro pam y bydden nhw’n pleidleisio Ie ar Fawrth 3 -Llywydd UMCA Rhiannon Wade, Prifathrawes Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Janet Hayward ac Adrian Curtis sy’n rhedeg banc bwyd Glyn Ebwy. Er bod Roger Lewis efallai’n fwy egnïol na’r lleill, doedd hynny ddim yn anodd. Darllennodd y pedwar o sgript a’r tri “go iawn” yn dweud “This is my statement” cyn lawnsio mewn i’w darllen. Diii-flas! Dim gwobrau eisteddfodol i’r rhain, hyd yn oed gyda’r beirniad mwyaf maddeugar.

Ac mae’n codi’r cwestiwn -os na allan nhw siarad o’r galon ar y pwnc, ydyn nhw wir mor frwdfrydig â hynny dros yr achos wedi’r cyfan? Efallai mai’r broblem yw’r testun. Sut mae modd cyffroi dros gwestiwn mor glymhercog er yn llawn brwdfrydedd dros ddatganoli? Neu efallai nad yw’r ymgyrchwyr eisiau gwneud neu ddweud unrhywbeth all beryglu’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd ac felly’n cadw at sgript. Naill ffordd neu’r llall, mae’n mynd i fod yn wyth wythnos hir-wyntog a di-fflach os yw pethau’n parhau fel hyn.

Dyw hi byth yn ddi-fflach siarad â Len Gibbs o True Wales, yr Ymgyrch Na. Mae’i wrthwynebiad i ddatganoli yn chwyrn, ac fe draddodith ar y pwnc yn ddi-ddiwedd os ganiatewch chi iddo. Wrth siarad â fi ddoe, atgoffodd fi bod True Wales wedi lawnsio fel Ymgyrch Na ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuodd Confensiwn Cymru Gyfan ar ei thaith o amgylch Cymru i glywed barn y cyhoedd ar bwerau’r Cynulliad. Bydd mwy o’i sylwadau e, a mwy o’r lansiad bore ma yn Golwg dydd Iau.

Pleidleisiwch ‘Na’ i fwy o bwerau i’r Cynulliad

Cyhoeddwyd Hydref 4, 2010 gan Rachel Banner. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Refferendwm Datganoli, Y Cynulliad

Rachel Banner o True Wales sy’n dadlau dros bleidlais ‘Na’ yn y refferendwm ar fwy o berau i’r Cynulliad…

Os yw’r ymgyrch ‘Ie’ yn bwriadu dadlau y bydd pwerau newydd yn gwella ansawdd bywyd yng Nghymru, gan roi enghreifftiau penodol, yna mae’r un mor rhesymol i’r ymgyrch ‘Na’ edrych yn fanwl ar sut mae Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio ei phwerau hyd yma yn y cyswllt hwnnw. Does dim byd yn fwy sylfaenol i’r economi na llunio ansawdd bywyd yng Nghymru.

Gall ymgyrchwyr dros bleidlais ‘Ie’ gyflwyno gwahanol ddadleuon yn amlinellu llwyddiannau’r degawd cyntaf ers datganoli ond ni allant wneud hynny yn achos yr economi.

Pe bai hyn yn ddim ond arf ymgyrchu gan yr ymgyrch ‘Na’ gallai darllenwyr Golwg ddiystyru’r feirniadaeth, ond mae llawer o economegwyr blaenllaw yng Nghymru wedi dweud nad yw datganoli wedi bod o fawr ddim lles i economi Cymru.

Mae’r Athro Kevin Morgan wedi cyfeirio at fethiant y Cynulliad dros y degawd diwethaf i osod sylfeini economi fodern 21ain ganrif – er gwaethaf cyllid uwch na erioed d gan y Trysorlys a’r UE – fel ‘cyfrinach fach fudr datganoli’.

Mae’r Athro  Brian Morgan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol  (UWIC), wedi gofyn cwestiwn teg, sef paham mae “cyn lleied i’w ddangos o ran perfformiad economaidd ar ôl degawd o Lywodraeth y Cynulliad, ac ymhell dros £100 biliwn o wariant cyhoeddus”.

Mae’r record yn amlwg. Mae GVA Cymru – sef mesuriad o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn ardal fesul  – wedi gostwng o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf, o 77% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig i  75%. Mewn geiriau eraill, mae’r GVA yng Nghymru’n is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag yn holl ranbarthau Lloegr. Mae’n 25% yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig a bron i 50% yn is na Llundain.

Mae Mynegai dylanwadol Cystadleuaeth y Deyrnas Unedig (UKCI) ar gyfer 2010 yn dangos, o 12 rhanbarth a chenedl y Deyrnas Unedig, mai Cymru yw’r lleiaf cystadleuol. Mae’r holl ardaloedd lleiaf cystadleuol ar draws Prydain yng Nghymru.

Mae un o awduron yr adroddiad, yr Athro Robert Huggins o’r Ganolfan Cystadleuaeth Ryngwladol yn Athro Prifysgol Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er bod gogledd Lloegr yn gwneud “cryn gynnydd wrth wella ei gallu i gystadlu bod Cymru’n mynd yn fwyfwy ar wahân”.

Mae’n ychwanegu’n ddamniol bod  “fawr ddim tystiolaeth bod datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu at well allu i gystadlu” ac “mewn gwirionedd, mai’r gwrthwyneb sy’n wir i raddau helaeth”.

Wnaiff hi mo’r tro i Lywodraeth Cymru’n Un ddarganfod yn sydyn ddiffyg £300 miliwn Barnett a ddatgelwyd gan adroddiad Holtham. Mae’n defnyddio deilen ffigys Holtham i gelu rhag pobl Cymru’r gwirionedd sylfaenol bod gwariant uwch nag erioed ar economi Cymru wedi ein gadael, ddegawd yn ddiweddarach, yn dlotach o’n cymharu â gweddill y Deyrnas Uned.

Wrth gwrs rhaid i ni gywiro’r diffyg hwnnw – nid yw Llywodraeth San Steffan hyd yn oed wedi ymrwymo i roi “llawr” o dan fformiwla Barnett – ond nid yw’n cynnig ateb sylfaenol i wendid sylfaenol ein strwythur economaidd.

Bydd llawer o ddarllenwyr Golwg mae’n siŵr yn cefnogi’n gryf gynigion Holtham ar drethi a hefyd argymhellion Plaid Cymru ynghylch ennill pwerau macro-economaidd yn gyson. Nid oes diben i’r Blaid fod yn swil o leisio barn am gynigion treth Holtham, tra ar yr un pryd yn gweiddi’n groch am ddiffyg cyllid Barnett i Gymru.
Mae anghysondeb sylfaenol ym mholisi economaidd y Blaid. A fydd hi bob amser yn begera wrth ddrws Trysorlys y Deyrnas Unedig, neu a fydd yn ddigon onest i ddatgan yn eglur ei huchelgais ar gyfer polisi economaidd cenedlaethol?

I’r rhai sy’n dweud nad oes a wnelo’r economi ddim byd â’r refferendwm hoffwn i wneud dau bwynt i gloi. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y refferendwm ac Adroddiad Holtham; mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adolygiad tebyg i Calman o gyllid Cymru os bydd pleidlais ‘Ie’ ar Fawrth 3ydd.

Nid yw’r adolygiad hwnnw’n ymwneud yn unig â’r diffyg cyllidol a ddatgelwyd gan Gomisiwn Holtham. Mae a wnelo hefyd â chyflwyno pwerau treth incwm, fel y mae Holtham wedi argymell. Ni all Llywodraeth gyfrifol yng Nghymru gydio mewn un rhan o adroddiad mor bwysig â hyn, ond aros yn fud am y rhan arall.

Yn olaf, gadewch i ni roi sylw i eiriau Adam Price yn ei ysgrif ddisglair ‘Reinventing Radical Wales’ lle ysgrifennodd: ‘The transformation of the economy is, of course, the central question in Welsh life.’

Nid yw llywodraeth  â record economaidd druenus fel y Cynulliad dros y degawd diwethaf yn haeddu’r bleidlais o hyder fyddai ymhlyg mewn pleidlais ‘Ie’.

Co ni off!

Gyda S4C, Treganna a’r refferendwm yn y penawdau, does dim gwadu -mae tymor y Cynulliad nôl gyda bang!

Byddai Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones wedi ffafrio trafod toriadau a’r Cwpan Ryder bore ma mae’n siwr ond roedd rhaid holi Carwyn am ei ymateb i’r cyhoeddiad bod Cyngor Caerdydd eisiau adeiladu ysgol newydd tair ffrwd i ysgol Treganna ar gost o £9 miliwn erbyn 2013. Fel y gwelwch chi yma mae’r rhieni’n poeni na fydd yr arian ar gael i adeiladu’r ysgol oherwydd yr hinsawdd economaidd. Roedd sylwadau Carwyn Jones yn galonogol i’r rhieni yn hynny o beth -mae’r sefyllfa’n “dynn” ond “mae arian ar gael.”

Yn y papur heddiw y clywodd Carwyn am gynlluniau’r cyngor i Dreganna medde fe. Weithiau gellir dadlau bod Carwyn yn rhy brin ei eiriau -mor wahanol i’w ragflaenydd oedd bob amser yn barod ei stori a’i hirwyntogrwydd -ond weithiau mae un gair yn dweud y cyfan. O drawsysgrif fy holi i bore ma:

“Ro’ch chi’n dweud cyn yr haf eich bod chi’n gweithio’n agos â Chyngor Caerdydd i ddod â datrysiad ond doedd gyda chi ddim syniad eu bod nhw’n mynd i roi cynnig ger bron i adeiladu ysgol?

Na.”

Fydden i ddim yn synnu pe na bai’r Cyngor wedi penderfynu cyhoeddi eu cynlluniau er mwyn gorfodi trafod ar y mater, a dechrau’r broses. Rwy’n deall bod rhyw £3 miliwn gan y Cyngor i’w roi tuag at adeiladu’r ysgol ond bydd rhaid i’r Llywodraeth ddarparu’r gweddill o £6 miliwn er mwyn i’r cyngor allu dechrau adeiladu.

Iechyd oedd canolbwynt cynhadledd y Ceidwadwyr -maen nhw’n meddwl ei bod hi’n gywilyddus nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon gwarchod cyllideb iechyd y grant bloc. Gan fod Llywodraeth San Steffan wedi dweud na fydd cyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei dorri, maen nhw am i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth. Dyw Nick Bourne ddim yn derbyn dadl y Llywodraeth bod addysg ac iechyd yn ddwy draean o holl grant bloc y Cynulliad ac felly na allan nhw addo gwarchod cyllideb y ddwy adran yn llwyr heb beryglu gwasanaethau eraill.

Difyr oedd gweld bod meirioli o du’r Ceidwadwyr ar S4C -neu o leiaf mae Nick Bourne yn dangos mwy o gydymdeimlad na Jeremy Hunt yn adran ddiwylliant San Steffan wedi bod yn ei ddangos hyd yn hyn -dim siartiau yn dangos cyllideb yn cynyddu a gwylwyr yn gostwng gan Bourne bore ma. Na, mae e’n awyddus iawn i weld datrysiad brys i argyfwng S4C. Mae e am i S4C gyflwyno “strategaeth glir” am “ble maen nhw’n mynd” ac yn eu cynghori i ddweud yn blaen beth ddigwyddodd gyda ymadawiad Iona Jones er mwyn “cael y cyfan allan o’r ffordd.” Daeth y cydymdeimlad mwyaf yng nghyd-destun gwasanaeth darlledu Cymraeg. Mae’n “deall yr angen i warchod darlledu Cymraeg” ac roedd mwy o bwyslais ganddo ar hynny er iddo ail-adrodd mantra’r Ceidwadwyr bod rhaid i S4C fod yn ymwybodol o’r diffyg yn y gyllideb.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar eu ffordd nôl o Lerpwl am 11.30 bore ma felly dim cynhadledd i’r wasg i ni. Ond fe fyddai rhywbeth diddorol ganddyn nhw i’w drafod ar iechyd hefyd pe baen nhw wedi gallu cyrraedd mewn pryd. Wele.

Anoracia

Cyhoeddwyd Medi 9, 2010 gan Rhiannon Michael. 2 Sylw.

Tagiau: Alan Trench, cheryl gillan, Refferendwm Datganoli

Felly, mae Cheryl Gillan wedi penderfynu derbyn argymhellion adroddiad y Comisiwn Etholiadol a newid cwestiwn y refferendwm.

Blog rwy’n argymell i unrhyw un sy â diddordeb mewn materion cyfansoddiadol a datganoli yw un Alan Trench, academydd blaenllaw ym maes datganoli. Mae devolution matters yn rhoi barn yr arch-anorac ar bob peth sy’n digwydd ym mywyd cyfansoddiadol y sefydliadau datganoledig. Mae’r cofnod diweddaraf yn croesawu adroddiad y Comisiwn Etholiadol fel un sy’n cynnig cwestiwn llawer gwell na’r un gynigwyd yn wreiddiol gan yr Ysgrifenydd Gwladol ond mae’n rhybuddio bod angen tacluso rhywfaint ar y cwestiwn fel ei fod yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n werth darllen y blog yn llawn, yn hytrach na mod i’n ail-bobi’i sylwadau mewn cyfieithiad. Rhywbeth i gnoi cil arno beth bynnag.

Fe fydda i yng nghynhadledd Plaid Cymru o ‘fory ‘mlaen. Gewn ni weld beth fydd yn codi yno. Mae cyfweliad gyda Ieuan Wyn Jones yn Golwg heddiw.

Cymhlethdodau etholiadol

Cyhoeddwyd Gorffennaf 5, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: Ceidwadwyr Cymreig, Refferendwm AV, Refferendwm Datganoli

Mae pawb yn gwybod y bydd refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad cyn diwedd Mawrth 2011. Mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi’i wneud. Mae Nick Bourne, arweinydd y grwp Ceidwadol yn y Cynulliad yn ffafrio refferendwm yn gynnar yn y mis ac i fod yn cyfarfod â’r Ysgrifenydd Gwladol heddiw i’w hannog i wthio etholiad y Cynulliad mlaen i Fehefin 6 i sicrhau digon o amser rhwng canfasio ar y ddwy bleidlais wahanol. Mae hawl ganddi hi i wneud hyn yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan fod Nick Clegg yn sôn am gynnal refferendwm ar newid y system bleidleisio ar Fai 6 hefyd, mae Bourne yn meddwl bod hyn yn fwy o reswm byth i wthio etholiad y Cynulliad mewn i fis Mehefin. Fydd e ddim yn hapus felly gyda sylwadau Jonathan Morgan AC yma. Bydd e’n hapusach gyda sylwadau Glyn Davies AS sbo.

Difyr (ond cwbl amherthnasol) bod y ddau wleidydd wedi’u cysylltu â sibrydion o fiwtini yn erbyn Nick Bourne ar ryw adeg neu’i gilydd.

DIWEDDARIAD: Mae Kirsty Williams newydd gyhoeddi mewn datganiad nad yw hi’n cytuno â chynnal tair pleidlais o fewn pedwar mis a bod dim problem gyda chynnal refferendwm AV yr un pryd ag etholiad y Cynulliad. Nick Bourne mewn man go unig felly.