Cynyddu maint testun

Golwg360

Ymlaen i’r Cwarteri a her y Gwyddelod


Mae Cymru wedi graddio o’i grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Caio Higginson sy’n asesu perfformiad Cymru a’i gwrthwynebwyr nesaf.

Haleliwia! Cymru yn y cwarteri ac yn chwarae rygbi sydd wrth fodd y cefnogwyr.

Mi roedd y perfformiad ddoe yn erbyn Fiji’n ennyn gobaith realistig i Gymru wneud rhywbeth go arbennig yn y gystadleuaeth yma.

Bu’r ‘ddau gawr’, fel y cyfeiriwyd atynt gan bob sylwebydd wedi’r gem ddoe, yn wefreiddiol yn hollti amddiffyn Fiji. Cyn i’r gystadleuaeth ddechrau roedd yna bryder fod Cymru yn or-ddibynnol ar nerth Jamie Roberts fel eu prif bygythiad ond gyda dyfodiad George North i’r llwyfan ryngwladol mi fydd pob amddiffyn fydd yn dod yn eu herbyn yn chwysu ryw damaid.

Wrth gwrs her gwbl wahanol fydd y Gwyddelod fore Sadwrn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef i’m hwyliau ostwng wedi gwylio Iwerddon yn dofi’r Eidal yn yr hanner cyntaf ac yna torri’n rhydd yn yr ail hanner.

Felly er gorfoledd rhai cefnogwyr ein bod yn osgoi gwledydd hemisffer y De cyn y rownd derfynol, mae pawb yn gwybod pa fath o gem fydd yn ein disgwyl yn erbyn y Gwyddelod. A phawb yn ansicr o’r canlyniad.

Fe fydd O’Connell a’i gyd flaenwyr yn awchu am y frwydr. Mi roedd sylwadau Nick Mallet, hyfforddwr Yr Eidal, cyn y gem ddoe wedi ysbrydoli dynion yr Ynys Werdd ac mae Gatland yn gwybod o brofiad nad yw sylwadau bach sarhaus yn talu ffordd yn erbyn rhain. Fe fydd cais dadleuol Mike Phillips yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddigon i greu araith danllyd yn ystafell newid Brian O’Driscoll ddydd Sadwrn.

Heb os nac oni bai fydd hon yn gem a hanner i gefnogwyr rygbi diduedd, ac yn 80 munud o straen a gofid i gefnogwyr y ddwy wlad Celtaidd. Ond mae yna ddigon i fod yn hyderus ohono.

Pwy fydd Gatland yn ei ddewis?

Mae’n ymddangos fod y blaenwyr yn fater go syml. Gyda Gethin Jenkins yn dychwelyd i’r tîm wedi cyfnod hirfaith o anafiadau mae wedi profi unwaith eto ei fod yn amhrisiadwy am ei gyfraniad yn y sgrym, chwarae rhydd ac fel trydydd blaenasgellwr ac yn ail faswr. Ac os yw’r adroddiadau’n wir, fydd carfan lawn gan Gatland i ddewis ohono, rhaid ystyried fydd Dan Lydiate yn dychwelyd i’r rheng ôl felly.

Mi fydd gan bawb, ar hyd a lled y wlad, farn am bwy ddylai ddechrau yn yr olwyr. Pwy a fyddai wedi darogan ar drothwy’r gystadleuaeth byddai Rhys Preistland bron yn sicr o’i le fel maswr? Mi fydd Gatland yn craffu yn ofalus am ei dactegau megis meistr gwyddbwyll.

Pwy, allan o bedwar cyfuniad posib, fydd yn ymuno â Jamie Roberts yn y canol? A ydi’n ddoeth i chwarae Lee Byrne? A ydi Leigh Halfpenny yn barod i chwarae yn ei le fel cefnwr? Os yw James Hook yn holliach a ydyw’n dechrau’r gem ac os ydyw ym mha safle? Ac efallai y cwestiwn pwysicaf oll, pwy all gadw Mr O’Drsicoll yn dawel?

Nerth y garfan

Ond y rheswm fwyaf am gynnal yr hyder yw nerth y garfan, a’r fainc yn benodol. Yn erbyn De Affrica, dim ond Bradley Davies a ddaeth oddi ar y fainc fel eilydd i Gymru, lle achubwyd y Springboks gan fyddin o eilyddion a ddaeth i ymateb a momentwm tîm Sam Warburton.

Gyda  Stephen Jones a Ryan Jones yn dychwelyd o anafiadau, perfformiadau diweddar Scott Williams, a Paul James sy’n sgrymiwr werth ei halen ar y llwyfan ryngwladol, fe fydd Cymru yn fwy na hyderus y gall y fainc yma ategu’r momentwm a pherfformiad ei chyd chwaraewyr wrth ymuno â’r ornest yng nghyfnodau hwyrach a dwys y gem.

Felly mae meddygon carfan Cymru wedi efelychu campau’r pair dadeni, ac mae gennym un gawr yn ychwanegol i’r hyn a oedd yn chwedl Branwen. Cawn ni ddim cyfle gwell!

Nathan Brew: Grŵp Cymru’n un caled

Cyhoeddwyd Medi 8, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd, rygbi cymru


Nathan Brew
Nathan Brew sy’n dweud y bydd ei frawd yn gaffaeliad yn erbyn Fiji a Samoa yng Nghwpan Rygbi’r byd…

Does dim byd yn achosi mwy o nerfusrwydd i chwaraewr na gorfod aros i glywed os ydych chi wedi cael eich dewis i fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ar gyfer twrnamaint rygbi mwya’r byd. Es i drwy’r broses yma nôl yn 2003.

Yn anffodus, bryd hynny, ni chefais i fy newis i fynd i Awstralia. Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda chwaraewyr fel Jonathan Thomas, ac yn deall yn iawn y siom sy’n dod gyda gwybod eich bod yn colli mas ar y cyfle i gynrychioli’ch gwlad ar y llwyfan mwyaf.

Ond mae unrhyw deimladau o siom a thristwch wedi troi’n hapusrwydd a balchder erbyn hyn, wrth i fy mrawd Aled gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Seland Newydd.

Mae’r cyfle yma sydd gan Aled yn ganlyniad o’r gwaith caled mae wedi rhoi i mewn i’w rygbi, ac yn dangos fod unrhyw beth yn bosib gyda gwaith called ac ymroddiad ( a thalent hefyd!).

Dw i’n credu fod y grŵp mae Cymru ynddo wedi helpu achos Aled. Mae chwaraewyr Fiji a Samoa yn enwog am fod yn rhedwyr a thaclwyr cryf ac egnïol, a dyna gryfderau gêm Aled. Efallai bod Warren Gatland yn bwriadu  defnyddio’r cryfderau hyn yn erbyn yr ynyswyr.

Nawr bod y penderfyniadau mawr wedi’u gwneud, a’r garfan wedi’i ddewis, gallwn droi at y cwestiwn mawr sydd ar wefusau pob cefnogwr. Pa mor bell fydd Cymru yn mynd yn y gystadleuaeth?

Does dim dwywaith amdani, mae gennym ni grŵp caled. Rydym ni mewn grŵp gyda thimau sydd wedi bod yn chwarae’n dda iawn yn ddiweddar, ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y twrnamaint. De Affrica yw pencampwyr y byd, a’r ffefrynnau i ennill y grŵp. Fyddai hi ddim yn amhosib i Gymru ennill y gêm gyntaf yn Wellington, ond fe fyddai yn sioc i’r byd rygbi.

Heb y sioc yma yn y gêm gyntaf, fe fydd angen i Gymru faeddu pob tîm arall yn y grŵp i fod yn sicr o orffen yn ail a symud ymlaen i’r rownd nesaf. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd.

Mae hanes Cymru yn erbyn Fiji a Samoa, yn enwedig yng Nghwpan y Byd, yn brawf o hynny. Ar ôl gêm gyfartal Cymru gyda Fiji yn ddiweddar, yn ogystal â buddugoliaeth Samoa dros Awstralia, yr unig beth pendant am y grŵp yma yw bod pob gêm yn mynd i fod yn frwydr a hanner.

Rydw i’n dechrau swnio braidd yn negyddol, felly dw i’n mynd i orffen ar nodyn positif. Wrth edrych ar garfan Cymru, mae’n werth nodi’r cymysgedd o chwaraewyr profiadol sydd gennym, yn ogystal â’r chwaraewyr ifanc fydd yn awyddus i greu argraff dda.

Heb os, mae gennym ni garfan dalentog iawn sy’n ysu i ddangos eu doniau i’r byd. Os allwn chwarae i’r un safon a 2005 a 2008, blynyddoedd y Gamp Lawn, does dim rheswm o gwbl pam na all Cymru syfrdanu’r byd rygbi. Amdani!

Canllaw Cwpan Rygbi’r Byd 2011: Cymru

Cyhoeddwyd Medi 6, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: cwpan rygbi'r byd, rygbi cymru


Sam Warburton, Capten Cymru
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd a fydd yn dechrau yr wythnos nesaf, sydd ar gael i’w brynu o
wefan y Lolfa.

Ar ôl siom 2007 fe fydd Cymru yn gobeithio cyrraedd rownd yr wyth olaf eleni er mwyn ad-ennill ei hunan barch – a chadw swydd yr hyfforddwr…

Er bod Cymru wedi methu mynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol yng Nghwpan y Byd 2007, roedd y ffaith ei bod wedi gorffen yn y tri cyntaf yn ei grŵp ar ddiwedd y gêmau hynny yn golygu y byddai’n cael lle awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011.

Er hynny, nid yw’r cyfnod yn arwain at Gwpan y Byd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yng ngêmau’r hydref yn 2010 collodd ei gêmau yn erbyn Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia gan lwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn Ffiji.

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad cafwyd perfformiad cymysg gan Gymru a hithau’n fuddugol yn erbyn yr Alban, yr Eidal ac Iwerddon.

Roedd gwell i ddod fis diwethaf wrth i Cymru faeddu Lloegr a’r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm.

Ar hyn o bryd mae Cymru’n 6ed ar restr yr IRB. Ers sefydlu’r rhestr honno yn 2003, yr uchaf mae Cymru wedi’i gyrraedd yw’r 4ydd safle ar ddechrau 2009.

Ei safle isaf erioed oedd 10fed, yn dilyn Cwpan y Byd 2007.

Safle tebygol: Cyrraedd rownd yr wyth olaf

Y Record

Ymddangosodd Cymru ym mhob Cwpan y Byd ers y dechrau yn 1987.

Yr adeg honno enillodd ei thair gêm ragbrofol a churo Lloegr yn rownd yr wyth olaf.

Wedi iddi golli i’r Crysau Duon yn y rownd gynderfynol, aeth ymlaen i guro Awstralia yn y gêm oedd yn pennu’r trydydd a’r pedwerydd safle.

Yn 1991 a 1995 methodd Cymru fynd ymhellach na’r rowndiau rhagbrofol, gan ennill un gêm yn unig yn y naill gystadleuaeth a’r llall.

Gwnaeth yn well yn y ddau Gwpan Byd dilynol gan golli yn y rownd gogynderfynol yn 1999 (a hithau wedi gorffen ar frig ei grŵp) ac yn 2003.

Yn 2007 bu’n rhaid iddi adael y gystadleuaeth ar ôl gorffen yn y trydydd safle yn ei grŵp, a hithau wedi colli yn erbyn Ffiji ac Awstralia.

Chwaraewr i’w wylio

Sam Warburton

Heb amheuaeth, y blaenasgellwr agored hwn, sydd ddim ond yn 22 oed, oedd chwaraewr gorau Cymru yn ystod tymor 2010-11.

Cynrychiolodd Gymru am y tro cyntaf yn erbyn tîm Unol Daleithiau America ym mis Mehefin 2009. Cyn hynny bu’n gapten ar dîm dan 20 ei wlad.

Pan oedd yn ifanc bu’n chwarae ochr yn ochr â Gareth Bale yn nhîm pêl-droed Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a chafodd gyfle i wneud gyrfa iddo’i hunan yn y gamp honno.

Ond rygbi a enillodd y dydd ac ers ei lencyndod bu’n aelod o glwb Gleision Caerdydd.

Yr Hyfforddwr

Warren Gatland

Mae Warren Gatland yn 47 oed ac yn frodor o Hamilton, Seland Newydd.

Chwaraeodd 140 o weithiau fel bachwr i dîm Waikato rhwng 1988 ac 1994, ac yntau’n gapten ar y tîm am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw.

Roedd yn dîm llwyddiannus iawn a faeddodd yn ei dro dîm Cymru, y Llewod, Canada, yr Ariannin, Awstralia a Gorllewin Samoa tra oedd Gatland yn aelod ohono.

Enillodd hefyd 17 o gapiau dros y Crysau Duon.

Ar ôl gorffen chwarae treuliodd ychydig o amser yn hyfforddi yn Iwerddon a Lloegr cyn mynd yn Gyfarwyddwr Rygbi ar dîm Connacht yn 1996.

Cafodd dipyn o lwyddiant yno ac, o ganlyniad, ar ôl dwy flynedd, cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm Iwerddon.

Yn 2001 penderfynodd Undeb Rygbi Iwerddon beidio ag adnewyddu ei gytundeb. Siomedig at ei gilydd oedd perfformiad y tîm cenedlaethol o dan ei arweiniad, gan ennill 18 buddugoliaeth yn unig mewn 38 o gêmau.

Ond rhwng 2002 a 2005 cafodd Gatland gyfnod eithriadol o lwyddiannus fel hyfforddwr a chyfarwyddwr rygbi tîm Wasps.

Yn 2002, 2003 a 2004, nhw oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Lloegr ac yn 2004 hefyd, nhw gipiodd Gwpan Heineken.

Ar ôl dychwelyd am gyfnod i hyfforddi yn Seland Newydd, cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm Cymru ym mis Rhagfyr 2007.

A wyddoch chi?

Yn 1905 pan gododd torf o 47,000 ym Mharc yr Arfau i ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ fel ymateb i’r haka roedd y Crysau Duon newydd ei berfformio, dyna oedd y tro cyntaf erioed i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn unrhyw achlysur yn y byd chwaraeon.

Y rheng flaen: Problem fawr Cymru

Cyhoeddwyd Awst 25, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Adam Jones, Gethin Jenkins, rygbi cymru


Adam Jones
Gydag anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae rheng flaen Cymru wedi bod yn fwy o destun trafod i’r cefnogwyr, a mwy o gur pen i’r hyfforddwyr nac erioed wrth baratoi at Gwpan y Byd.

Mae Lisa Thomas yn chwarae fel prop i dimau merched Cwins Caerfyrddin a’r Scarlets, ac wedi ennill cap dros dîm dan 18 Cymru. Hi sy’n dadansoddi penderfyniadau Warren Gatland ar ran Golwg360….

Yn  2009 rheng flaen Cymru oedd un o’r rhai gorau yn y byd. Cafodd Adam Jones, Matthew Rees a Gethin Jenkins  eu dewis i fynd ar daith y Llewod i Dde Affrica. Ond mae bod yn aelod o’r rheng flaen yn golygu ei bod hi bron yn anochel eich bod chi’n yn mynd i ddioddef rhyw fath o anaf yn ystod eich gyrfa – yn enwedig wrth herio timau cryf a chorfforol megis Fiji a Seland Newydd yn rheolaidd ar y lefel rhyngwladol. Ond anaml y gwelwch chi’r holl reng flaen yn cael eu hanafu’r un pryd!

Dyma’r union broblem sydd gan Gymru wrth iddynt baratoi i fentro i Seland Newydd i gystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011. Mae Gatland a thîm hyfforddi Cymru wedi penderfynu dewis Adam Jones a Gethin Jenkins, sydd ill dau wedi bod allan gyda chyfres o anafiadau, ar gyfer Cwpan y Byd i frwydro yn erbyn timau megis De Affrica a Fiji yn y grŵp mae pobl yn ei alw’n ‘The Group of death’. Penderfyniad call? Wel, bydd rhaid aros nes 11 Medi pan fydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn De Affrica, i wybod yn union ateb i’r cwestiwn hwnnw.

Mae dewis Gethin Jenkins i fod yn rhan o’r tîm  yn risg gan nad yw wedi chwarae ers iddo gael ei anafu nôl ar ddechrau’r flwyddyn, a methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ond wedi dweud hynny, heb os,  Jenkins yw un o’r propiau gorau yn y byd ac fe fydd ei brofiad yn y rheng flaen yn bwysig iawn i Gymru gan fod y bachwr profiadol Matthew Rees allan am 8 i 10 wythnos efo anaf i’w wddf.

Adam Jones yn ôl

Adam Jones yw’r aelod arall o’r rheng flaen sydd heb chwarae llawer o rygbi yn y misoedd diwethaf, eto o ganlyniad i anaf. Cafodd Jones gêm dda yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn diwethaf ac ond iddo beidio â chael ei anafu’n fuan yn y bencampwriaeth fe fydd Adam  Jones yn aelod aruthrol o bwysig i garfan Cymru efo’i gryfder a thaclo pwerus.

Roedd sgrym Cymru’n ymddangos yn gryf yn erbyn yr Ariannin dros y penwythnos, llawer gwell nag yn erbyn Lloegr bythefnos ynghynt. Roedd yr Ariannin yn edrych ychydig ar goll wrth iddynt gael eu gwthio nôl – nid rhywbeth wedi arfer ei weld gan dîm sydd â rheng flaen fawr a chorfforol. Er bod  Cymru’n haeddu clod am wthio’r Ariannin am yn ôl, rhaid cofio nad oedd yr Ariannin wedi chwarae llawer fel tîm o gwbl ac heb os fe fydd eu sgrym a rheng flaen yn llawer mwy parod wrth iddynt wynebu Lloegr yng Nghwpan y Byd.

Owens yn haeddu ei le

Huw Bennett, Lloyd Burns a Ken Owens yw’r dewis i wisgo crys y bachwr yn Seland Newydd efo Adam Jones, Ryan Bevington a Craig Mitchell fel propiau pen tynn.

Mae Gatland wedi penderfynu cynnwys Ken Owens, y bachwr o’r Scarlets, fel yr unig chwaraewr sydd heb ennill cap yn y garfan. Bydd yn dipyn o her iddo os yw’n ennill ei gap cyntaf yng Nghwpan y Byd wrth iddo fynd wyneb yn wyneb efo bachwyr gorau’r byd megis y chwaraewr o Dde Affrica, Bismarck du Plessis. Ond, mae Owens wedi bod yn chwaraewr pwysig i’r Scarlets ac y mae wedi datblygu i fod yn fachwr cryf iawn dros y tymhorau diwethaf.

Er bod rheng flaen Cymru wedi cael ei effeithio arno gan anafiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n meddwl bod Gatland yn iawn i gynnwys Adam Jones a Gethin Jenkins yn y garfan ynghyd â chwaraewyr llai profiadol ond pwerus a llawn potensial megis Ken Owens a Ryan Bevington. Bydd rheng flaen Cymru, er ddim mor gryf â’r hyn ydoedd yn ôl yn 2009, yn medru cystadlu efo goreuon y byd rygbi…hynny yw os nad ydynt yn cael rhagor o anafiadau! Er gwaethaf eu diffyg amser chwarae dros y tymor diwethaf, bydd profiad Jones a Jenkins yn allweddol er mwyn sicrhau hyn.

Yr Alban v Cymru: Sgorio’r chwaraewyr

Cyhoeddwyd Chwefror 15, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: rygbi cymru


Geraint Criddle sy’n marcio chwaraewyr Cymru allan o ddeg…

Lee Byrne (6) – Perfformiad gwell gan chwaraewr sydd heb fod yn dda yn ddiweddar. Y cerdyn melyn braidd yn llym.

Morgan Stoddard (5) – Heb gael ei hun yn y gêm ddigon. Mae angen iddo wylio faint o waith mae Shane Williams yn ei wneud.

Jamie Roberts (7) – Fe sylwais i ei fod e ar y cae yr wythnos ‘ma, ond fe aeth ar goll ar ôl dechreuad gwych.

Jonathan Davies (7) – Tebyg iawn i’w bartner yn y canol. Cic dda iawn i greu ail gais Shane.

Shane Williams (7) – Dau gais yn dangos ei gryfder o fod yn y lle iawn, diolch i’w waith a’i ddeallusrwydd.

James Hook (6) – Gwefreiddiol yn yr ugain munud cyntaf, prin i’w weld am y deugain munud nesaf.

Mike Phillips (6) – Gwell na’r wythnos diwethaf. Rhai camgymeriadau elfennol fel mewnwr, ond gwaith da yn gyffredinol.

Paul James (7) – Sgrymio cadarn dros ben ac fe gariodd y bêl yn well.

Matthew Rees (6) – Cario’n dda ac yn rhan o sgrym dda, ond mae’n dal yn rhy ansicr ei daflu.

Craig Mitchell (6) – Esiampl o weddill y tîm o bosib. Dechrau’n dda, blino ychydig, ond yn rhan o ymdrech amddiffynnol dda.

Bradley Davies (6) – Cerdyn melyn gwirion, ond gellid dadlau yn angenrheidiol. Amddiffyn da fel arall.

Alun Wyn Jones (6) – Un arall oedd yn rhan o ymdrech amddiffynnol glodwiw. Fe enillodd lawer o bêl dda yn y llinell.

Dan Lydiate (8) – Y cyntaf o’r triawd enillodd y gêm i Gymru.

Ryan Jones (8) – Ei gêm orau yn y crys coch ers oes pys. Rhagorol.

Sam Warburton (9) – Hyd yn oed yn well na Lydiate a Jones. Roedd e ym mhobman a byth yn stopio.

Cymru v Lloegr: Sgorio’r chwaraewyr

Cyhoeddwyd Chwefror 6, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: rygbi cymru


Cymru v Lloegr
Geraint Criddle sy’n marcio chwaraewyr Cymru allan o ddeg…

James Hook (5) – Beth yw pwynt ei gadw mor bell o ganolbwynt yr ymosod?

Morgan Stoddard (5) – Cymerodd ei gais yn dda, ond roedd gormod o gamgymeriadau elfennol.

Jamie Roberts (3) – Fe anghofiais i ei fod e ar y cae tan yr ail hanner.

Jonathan Davies (6) – Toriad da ar gyfer y cais. Dylai’r drosedd wirion o faglu Ashton olygu y bydd yn colli gêm yr Alban.

Shane Williams (6) – Gormod o bwysau arno fe i greu rhywbeth ei hun, ond Robert Howley a’i gynllun ymosod sydd ar fai.

Stephen Jones (5) – Fe fethodd gic at y pyst a heb lwyddo i roi ei stamp ar y gêm.

Mike Phillips (2) – Ei gêm waethaf erioed i Gymru? Pasio uffernol ar adegau, ac ar fai am gais cyntaf Lloegr.

Paul James (7) – Un o chwaraewyr gorau Cymru. Fe achosodd broblemau i Dan Cole yn y sgrym.

Matthew Rees (6) – Yn gorfod delio â gormod o bêl wael wrth gario. Gallai ei daflu i’r llinell fod yn well.

Craig Mitchell (6) – Anodd beirniadu dyn ifanc yng ngêm fwyaf ei yrfa. Fe wnaeth ei waith yn dda.

Bradley Davies (8) – Ar ei ffordd i ennill ei le fel chwaraewr gorau Cymru. Rhagorol.

Alun Wyn Jones (5) – Angen mwy o waith caib a rhaw. Dylai ddilyn esiampl Bradley Davies.

Dan Lydiate (7) – Chwaraewr ifanc sy’n dangos addewid mawr iawn. Ni ddylai fod wedi cael ei eilyddio.

Andy Powell (3) – Ai anaf neu eilyddio tactegol a’i cymrodd o’r gêm? Crebwyll Ryan Jones i’w weld yn amlwg.

Sam Warburton (7) – Gweler sylwadau Lydiate. Roedd y ddau hefyd yn elwa ar arweiniad Ryan Jones yn y rheng ôl.

Penbleth Gatland

Cyhoeddwyd Ionawr 22, 2011 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, rygbi cymru, Warren Gatland

Gyda nifer o anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae gan hyfforddwr Cymru ddigon i gnoi cil drosto cyn enwi garfan i herio Lloegr yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Euros Lloyd sy’n astudio’r opsiynnau sy’n agored i Warren Gatland.

Yn dilyn siom flynyddol y Cwpan Heineken mae’n bryd i ni unwaith yn rhagor edrych ymlaen at bencampwriaeth y Chwe’ Gwlad.  Yr adeg o’r flwyddyn lle mae cefnogwyr y bêl hirgron yn paratoi yn eiddgar am eu tripiau i Gaeredin a Pharis ac yn bendant eu barn y bydd Cymru yn ennill y gamp lawn. 

Yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd rydych yn siŵr o glywed trafodaethau di-ri yn nhafarndai ar hyd a lled Cymru ynglŷn â phwy ddylai Warren Gatland gynnwys yn ei garfan.  Pwy ddylai gael chwarae maswr?  Pwy sy’n haeddu gwisgo crys yr wythwr a phwy fydd yn gefnwr?  Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi ac yna eu trafod bob mis Ionawr.

Fodd bynnag, eleni mae’r trafodaethau yn gyffredinol wedi canolbwyntio ar yr anafiadau a’r gwaharddiadau sydd wedi taro carfan Cymru. Mae sawl un o’r anafiadau yn rhai mewn safleoedd allweddol pwysig hefyd ac mae hynny mae’n siŵr yn bryder mawr i Gatland. 

Roedd colli chwaraewyr fel Richie Rees, Andrew Bishop, George North a Gethin Jenkins yn ergyd i’n gobeithion.  Mae Shane Williams a Lee Byrne hefyd wedi bod allan gydag anafiadau yn ddiweddar ac mae dal amheuaeth ynglŷn â’u ffitrwydd hwythau. 

Y golled fwyaf

Mae’n rhestr hir iawn ond mae yna un enw arall sydd wedi ymuno â’r rhestr hon ar ddechrau’r wythnos.  Enw Adam Jones yw hwnnw wrth gwrs a heb unrhyw amheuaeth dyma’r golled fwyaf i Gymru.  Bydd yna fwlch enfawr yn rheng flaen Cymru, yn gorfforol ac yn seicolegol, wrth iddyn nhw redeg allan yn erbyn Lloegr ar 4 Chwefror ac nid wyf yn credu bod gyda ni unrhyw un amlwg i lenwi’r bwlch hwnnw. 

Mae Adam Jones wedi datblygu i fod yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle.    Mae’n anodd credu faint mae Jones wedi datblygu o gofio yn ôl i’r dyddiau hynny lle byddai Steve Hansen yn ei ddefnyddio am hanner awr yn unig ar ddechrau pob gem ac yna ei dynnu oddi ar y cae oherwydd safon ei ffitrwydd.  Dyma brop a chwaraeodd ran flaenllaw wrth wthio sgrym De Affrica yn ôl yn ystod cyfres y Llewod yn 2009 – sgrym os gofiwch chi a oedd yn cael ei chwalu bob tro cyn cyflwyno Gethin Jenkins, Mathew Rees ac Adam Jones i’r frwydr.

Mae’n rhaid i mi ddweud y buaswn wedi bod wrth fy modd i gael gweld y tri yma’n chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers tipyn.  Byddai’n rheng flaen hynod o gryf ac roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr i gael gweld sgrym Lloegr yn symud am yn ôl, a hynny wrth i Brian Moore gwyno yn y blwch sylwebu. 

Bydd Paul James wrth gwrs yn llenwi esgidiau Gethin Jenkins ac er bod sgrymio James llawn cystal, os nad ychydig yn well na sgrymio Jenkins, bydd Cymru yn gweld eisiau cyfraniad prop y Gleision o amgylch y cae.  Nid oes neb amlwg ar gael i gymryd lle Adam Jones ac mae’r safle hwn wedi achosi nifer o broblemau i Gymru dros y blynyddoedd.  Mae Rhys Thomas o’r Scarlets wedi’i anafu felly a yw Gatland yn barod i roi cyfle i rywun fel Craig Mitchell, Scott Andrews, neu Ben Broster o’r Wasps?  Mae’n ofyn mawr i un o’r tri yma gamu i fyny ond mae’r opsiynau yn brin.

Y ddwy reng ôl

Credaf fod y dewis yn yr ail reng yn un syml.  Alun Wyn Jones a Bradley Davies yw’r ddau glo amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd.  Beth yw’r opsiynau eraill?  Deiniol Jones, Luke Charteris a Lou Reed o’r Scarlets.  Tra bod dyfodol disglair o flaen Lou Reed nid yw’n barod eto ac mae Deiniol Jones a Luke Charteris yn eilyddion digon dibynadwy.  Mae Ian Gough yn rhywun y gellir ei ddibynnu arno hefyd.

Mae gan Gatland ambell i opsiwn yn y rheng ôl.  Yn bersonol teimlaf fod Ryan Jones yn well wythwr na chlo ac y dylai barhau a’i yrfa wrth fon y sgrym.  Dwi ddim yn deall penderfyniad y Gweilch i chwarae Jones yn safle’r clo tra bod Jonathan Thomas yn wythwr.  Nid yw Jonathan Thomas yn cario’r bêl yn ddigon effeithiol ac anaml y gwelwch ef yn hyrddio ymlaen a gwthio amddiffynwyr o’r neilltu. 

Mae Andy Powell wrth gwrs yn gallu gwneud hynny ond mae yna gwestiynau mawr am ei ddisgyblaeth yn enwedig mewn gemau tynn.  Mae gan Gymru ddau flaenasgellwr ifanc talentog iawn y gallai wneud tipyn o argraff eleni.  Mae Sam Warburton a Dan Lydiate eisoes wedi dangos eu bod yn gallu dylanwadu ar gêm ac mae Josh Turnbull o’r Scarlets hefyd wedi creu argraff ar nifer gan gynnwys hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill.  Mae digon o ddewis i Gatland yn y rheng ôl ac mae’n siŵr y byddai Martyn Williams yn ddigon parod i chwarae os oes angen!

Yr olwyr

Wrth ystyried yr olwyr byddwn yn ddigon hapus i roi cyfle arall i Lee Byrne yn safle’r cefnwr.  Chwaraeodd yn siomedig iawn yng ngemau’r hydref yn enwedig yn erbyn Seland Newydd lle’r oedd ar fai am o leiaf dau o geisiadau’r Crysau Duon.  Os yw Shane Williams yn holliach mae’n haeddu ei le ar yr asgell chwith gyda Halfpenny ar yr asgell arall.  Trueni nad yw George North yn cael cyfle i ddychwelyd i’r tîm ond mae digon o amser gydag ef eto. 

Yn y canol byddwn yn hoffi gweld James Hook a Jamie Roberts yn cyfuno.  Yn bersonol dwi’n ffafrio chwaraewr creadigol yn y crys rhif 12 ac mae hynny’n bwysig wrth ystyried nad yw’n maswyr presennol ni yn gallu cynnig hynny. 

Yn faswr dwi’n teimlo y bydd yn rhaid i Gatland barhau â Stephen Jones, a hynny oherwydd nad oes yna unrhyw un arall sy’n ddigon da.  Nid yw Stephen Jones ar ei orau o gwbl ac mewn gwirionedd nid yw erioed wedi bod yn faswr sydd â dawn greadigol naturiol.  Mae’n faswr saff y gallwch ddibynnu arno i wneud y pethau sylfaenol yn effeithiol.  Yr unig opsiwn arall sydd gan Gymru yw Dan Biggar ac yn sicr nid yw ef yn haeddu ei le ar sail ei berfformiadau i’r Gweilch yn ddiweddar.  Fel gwlad sydd wedi cynhyrchu rhai o faswyr gorau’r gêm ar hyd y blynyddoedd mae’r sefyllfa bresennol yn creu pryder.  Lle mae’r Barry John neu Phil Bennet nesaf? 

Mike Phillips fydd dewis cyntaf Gatland fel mewnwr ond mae angen iddo ddechrau chwarae fel y gwnaeth ar daith y Llewod.  Nid yw wedi gallu ail ddarganfod y safon hwnnw ers dod adref o’r daith honno. Eto, gyda Richie Rees wedi’i wahardd mae’r gystadleuaeth i Phillips yn wan ac efallai ei fod yn rhy gyfforddus gan wybod nad oes neb amlwg i’w herio.

Cwpan y byd yn bwysicach?

Mae’n flwyddyn fawr i rygbi yng Nghymru ac er ei fod yn siom gweld Cymru heb nifer o’i chwaraewyr blaenllaw mae’n well bod yr anafiadau hyn yn digwydd nawr ac nid ym mis Hydref yn ystod Cwpan y Byd.  Y gystadleuaeth fawr eleni yw Cwpan y Byd a’r gobaith yw y bydd y tîm ar ei orau erbyn hynny ac yn gallu cystadlu gyda’r mawrion.  Fodd bynnag, gyda dechrau da yn erbyn Lloegr gall unrhyw beth ddigwydd. Yn amlwg, bydd tynged Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm gyntaf yn erbyn yr hen elyn.

Y tîm – dewis Euros 

15 Lee Byrne
14 Leigh Halfpenny
13 Jamie Roberts
12 James Hook
11 Shane Williams
10 Stephen Jones
9 Mike Phillips
8 Ryan Jones
7 Sam Warburton
6 Jonathan Thomas
5 Alun Wyn Jones
4 Bradley Davies
3 Craig Mitchell
2. Mathew Rees
1. Paul James