Cynyddu maint testun

Golwg360

Oes angen gwasanaeth teledu lleol ar Gymru?

Cyhoeddwyd Awst 17, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, S4/C, Western Mail


Yn ei araith o’r Maen Llog yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhybuddiodd yr Archdderwydd T James Jones fod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru yn y fantol.

Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r trafferthion sy’n wynebu’r cyfryngau Cymraeg – S4C yn arbennig. Ond mae’r drwg wedi lledu i’r cyfryngau Saesneg hefyd. Fel y datgelodd Golwg 360 yr wythnos diwethaf, mae yna bellach ansicrwydd am ddyfodol y Western Mail. Anghofiwch am bapur dyddiol Cymraeg, os nad ydyn ni hyd yn oed yn gallu cynnal papur dyddiol Saesneg.

Mae gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg yr un broblem, sef fod yr arian hysbysebu oedd yn arfer eu cynnal nhw yn llawer prinnach yn sgil yr argyfwng ariannol. Fel y dywedodd T James Jones, y we yw’r dyfodol ond oherwydd bod pobol yn disgwyl gwasanaeth am ddim dyw e ddim yn hunangynhaliol. Ar yr un pryd, mae’n denu darllenwyr a gwylwyr oddi wrth y wasg brint a’r teledu, sy’n gallu talu ei ffordd.

Yr eironi yw bod y cyfryngau Cymraeg mewn safle cryfach na’r wasg Saesneg yng Nghymru. Does neb yn disgwyl i’r cyfryngau Cymraeg allu talu ei ffordd felly maen nhw’n cael eu cynnal gan arian cyhoeddus.  Dyw’r un ‘rhwyd diogelwch’ ddim yno i’r Western Mail ag eraill. Er gwaetha’r toriadau i S4C does neb yn rhagweld y gallai ddiflannu yn llwyr o fewn dwy flynedd.

Ond wrth chwifio’r fwyell gydag un llaw mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn rhoi â’r llaw arall. Mae’n benderfynol o sefydlu sianeli teledu lleol ar draws Prydain, a bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y fenter. Mae 11 ardal ym mhob cwr o Gymru wedi cael cynnig gwneud cais am drwydded, o Gaerdydd yn y de i Fangor yn y gogledd.

Ond rhaid gofyn ai dyma’r ffordd orau i fuddsoddi’r arian. Mae angen gwasanaethau lleol ar bobol, ond nid ar draul gweld y darlun ehangach. Os ydi gwasanaethau sy’n darparu newyddion ar gyfer Cymru gyfan yn mynd i’r gwellt oherwydd diffyg nawdd, pam buddsoddi mewn gwasanaeth sy’n ymdrin â Bangor, neu Aberdaugleddau, yn unig?

Mae yna gwestiynau i’w gofyn hefyd ynglŷn â safon y gwasanaethau teledu lleol yma a faint o bobol fydd yn eu gwylio nhw.

Dim ond arian er mwyn sefydlu’r sianeli rhain fydd y Llywodraeth yn ei gynnig ac wedyn bydd rhaid iddyn nhw eu cynnal eu hunain. Mae hynny’n awgrymu na fydd ansawdd y rhaglenni yn arbennig o uchel, oherwydd y refeniw cyfyngedig fydd yn dod i mewn gan fusnesau lleol (‘mae’r rhaglen yma wedi ei noddi gan siop y gornel Waunfawr’, ayyb…).

Ac ar beth fyddwn nhw’n ei adrodd? Mae teledu yn dibynnu ar y gweledol a’r cyffrous, nid y cyfarfodydd cyngor di-ben draw sy’n llenwi ein papurau lleol.

Mae diffyg newyddion diddorol i adrodd arno yn broblem yng Nghymru. Dyna yn rhannol pam fod cymaint o bobol yn troi at y Sun neu Sky News am eu newyddion, yn hytrach na’r Western Mail (cylchrediad 30,000) neu’r Daily Post (40,000).

Heb newyddion diddorol does neb yn darllen a does dim cymaint o incwm yn dod i mewn i dyfu’r gwasanaethau. Fe fyddai sianelu teledu lleol yn wynebu’r un broblem, ond y ganwaith gwaeth.

Fe allai sianel deledu leol weithio yng Nghaerdydd, neu ddinas fawr arall, lle mae yna lawer o bobol yn byw ar ben ei gilydd, a phobol Rhiwbeina yn pryderu am beth sy’n digwydd ym Mhenarth. Ond dyw beth sy’n digwydd ym Mangor ddim am gadw pobol Caernarfon yn gaeth i’w sgriniau teledu yn hir.

Yr hen ddyddiau – er mwyn yfory

Cyhoeddwyd Chwefror 23, 2011 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, cymdeithas yr iaith, S4/C


Dylan Iorwerth yn gweld pwynt yn y protestiadau tros annibyniaeth S4C…

Mae hi bron fel yr hen ddyddiau. Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu stiwdio’r BBC gan eistedd ar y llawr a gwneud pethau hen ffasiwn felly.

Mae fel yr hen amser hefyd am reswm arall. Mae gan y Gymdeithas darged cwbl glir a phwynt cymharol syml y tu cefn i’r brotest.

Oherwydd datganoli a’r ffordd y mae byd yr iaith Gymraeg wedi cymhlethu yn ystod y degawdau diwetha’, tydi hynny ddim wastad wedi bod yn hawdd.

Yn fwy na hynny, tydi’r math o bynciau a dadleuon sydd wedi codi ddim wastad wedi gweddu i weithredu uniongyrchol, yn enwedig gan fod y targedau’n llawer nes aton ni bellach.

Ond, y tro yma, mae yna frwydr uniongyrchol glir i’w hymladd.

Atal y trafodaethau

Mae’r Gymdeithas yn ceisio atal y trafodaethau sy’n digwydd rhwng S4C a’r BBC i weithredu gofynion y Llywodraeth ar i’r naill fynd dan adain y llall.

Mi fydd y tactegau’n sicr o gael eu condemnio ac mi fydd rhai’n dadlau nad oes gan Gymdeithas yr Iaith fawr o obaith ennill.

Wedi’r cyfan, medden nhw, mae pawb yn gorfod derbyn toriadau gwario – er nad cymaint â’r 40% mewn arian go iawn y mae’r sianel yn eu diodde’.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi addo y bydd y sianel yn cadw’i hannibyniaeth olygyddol, medden nhw, ond mae angen craffu’n ofalus ar yr union eiriau a cheisio deall beth ydi eu hyd a’u lled.

Codi cywilydd

Ceisio codi cywilydd ar y BBC ydi un o’r tactegau – dyna pam bod y protestio’n digwydd yn ei hadeiladau hi yn hytrach na rhai’r llywodraeth – ac mae’r Gymdeithas eisoes wedi ennill cynnig gan bennaeth y Bîb, Mark Thompson, i gwrdd â nhw.

Hyd yn oed o golli’r frwydr ar y penderfyniad mawr cychwynnol, mae yna dir i’w ennill a’i golli tros annibyniaeth S4C. Mae eisio mwy nag annibyniaeth olygyddol. Mae eisio annibyniaeth gyflawn i weithredu yn ôl anghenion y gynulleidfa Gymraeg.

Go brin y bydd yna dro pedol rŵan ond mae yna frwydr dymor hir i’w hymladd hefyd tros  gyllid. Os bydd y ‘bartneriaeth’ rhwng y ddau ddarlledwr yn digwydd, mi fydd yna ymrafael yn y dyfodol tros arian.

Mae yna beryg y bydd arian S4C yn mynd yn rhan o gyllideb gyffredinol y BBC ac y bydd rhaglenni Cymraeg yn gorfod ymladd am eu siâr o’r gacen Gorfforaethol. Mae angen dangos rŵan na fydd hynny’n dderbyniol .

Gan nad ydi’r Llywodraeth wedi gwrando ar holl wleidyddion Cymru – gan gynnwys eu harweinydd eu hunain yng Nghymru – mae’n ymddangos mai dim ond protestio sydd am wneud iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn codi nyth cacwn eto.

Ac un peth arall …

Ac mae yna un peth mawr arall. Mi ddylen ni, bobol Cymru, fod yn cael gwybod lle’r ydan ni arni o ran y trafodaethau.

Be sy’n digwydd? Be sy’n cael ei drafod? A pham?

10 Uchaf: Y pethau gorau am S4C

Cyhoeddwyd Ionawr 25, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: 10 Uchaf, S4/C

Mae S4C wedi denu ei siâr o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf, yn sgil ymadawiad y Prif Weithredwr Iona Jones, ffraeo ymysg yr Awdurdod ac ansicrwydd ynglŷn ag effaith toriadau Llywodraeth San Steffan.

Felly dyma gyfle i fod yn fwy cadarnhaol am ein sianel, a rhestru rhai o’r pethau gorau am S4C.

Rhif 10: Mae yn Gymraeg

Mae’n hawdd anghofio hyn wrth i’r ddadl ferwi am safon allbwn S4C. Fel yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’r sianel yn ynys o Gymraeg mewn môr o Saesneg.  Mae’n fwy na chyfrwng i’n difyrru ni yn unig – mae hi’n symbol o statws a chryfder yr iaith yng Nghymru.

Rhif 9: Pobol y Cwm

Dyw opera sebon hynaf y BBC ddim at ddant pawb. Dydi o ddim mor ddoniol a Coronation Street, ac yn llai beiddgar na EastEnders. Ond mae Pobol y Cwm gystal ag unrhyw opera sebon Seasneg ac mae ei ffaeleddau yn rhai y mae yn ei rhannu â phob rhaglen arall o’r un fformat. Camp Pobol y Cwm yw ei fod yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mwyaf S4C, dros 35 mlynedd ers dechrau, ac mae hynny’n rywbeth i’w ganmol.

Rhif 8: Newyddion

Mae gan raglen newyddion S4C orchwyl pwysicach na rhoi newyddion i bobol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma un o’r unig lefydd y bydd y rhan fwyaf yn cael eu newyddion am Gymru, hefyd. Heb ffynhonellau newyddion o safon all gwleidyddiaeth datganoledig Cymru ddim gweithredu ac felly mae rhaglen fel hyn ar y teledu yn hanfodol.

Rhif 7: C’mon Midffild

Mae’n biti braidd bod rhaid cyfeirio yn ôl at ddiwedd yr 80au er mwyn dod o hyd i raglen gomedi gwerth sôn amdano. Serch hynny mae C’mon Midffild yn fwy na rhaglen gomedi dda – mae’n glasur, ac yn wahanol i nifer o’r rhaglenni comedi arall sy’n bethyca fformat rhaglenni Saesneg (neu sydd wedi eu hysgrifennu yn y Saesneg yn y lle cyntaf cyn cael eu cyfieithu) mae wedi ei gwreiddio yn gyfan gwbwl yn ei chymuned.

Rhif 6: Rhaglenni Gwleidyddol

Efallai bod pobol sy’n siarad Cymraeg yn naturiol yn fwy gwleidyddol na siaradwyr Seasneg, dwn i ddim. Ond mae rhywun yn teimlo fod S4C yn croesawu’r anorac gwleidyddol gyda dwylo agored tra bod y sianeli Saesneg yn eu gwthio i’r ymylon. Pawb a’i Farn, CF99, y Dydd yn y Cynulliad… mae yna gyfoeth o drafod sy’n rhagori ar yr arlwy Seasneg o Gymru.

Rhif 5: Chwaraeon

Does gen i ddim Sky, a dw i ddim yn mynd i dalu drwy fy nhrwyn i’w gael o chwaith. Tra bod S4C yn dal i ddangos gemau o’r Gynghrair Magners ac ambell gêm o’r Bencampwriaeth, fe fydda’ i’n gwylio S4C. Does dim gwadu ei fod yn denu pobol newydd i wylio’r sianel… dw i’n gwylio BBC Alba yn weddol aml er mwyn cadw golwg ar y rygbi. Tha mi airson Gàidhlig ionnsachadh.

Rhif 4: Cyw

Pwy sydd angen rywun i warchod y plant pan mae Cyw ar gael? Neu yn fwy penodol, Rapsgaliwn – rapiwr gorau’r byd, mae popeth mae’n ei ddweud yn odli o hyd. Dyma’r cymeriad plant orau ers Sali Mali, Sam Tân, a Super Ted. Synwn i ddim petai Cyw yn gyfrifol am ddysgu’r iaith i filoedd o blant dan chwech.

Rhif 3: Dramau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae S4C wedi mynd yn hen lawiau ar greu dramâu o safon i’w gwylio bob nos Sul. Rhwng Con Passionate, Teulu, Y Pris, Pen Talar ac, y penwythnos diwethaf, Alys, mae yna rywbeth gwerth chweil ymlaen o hyd. Dydyn nhw ddim bob tro at ddant pawb, a rydw i’n pryderu y bydd Alys yn disgyn i lawr twll llygoden gan adael hanner y gynulleidfa ar ei hol, ond mae’r rhaglenni wastad yn uchelgeisiol, yn wahanol ac yn ddifyr.

Rhif 2: Cymru

Mae Cymru yn wlad prydferth a diddorol ac mae S4C wedi dechrau cymryd mantais llawn o hynny yn ddiweddar. Gyda chyn lleied o raglenni am Gymru (tu hwnt i ambell un am fyd natur) yn Saesneg mae ganddyn nhw rwydd hynt i gloddio pob cnepyn o aur o’r tir o’n cwmpas. Mae Bro wedi busnesa a’r ardaloedd penodol, y Fenai wedi canolbwyntio ar ddangos hyfrydwch un ardal penodol, a 100 Lle i’w Gweld Cyn Marw yn gwneud beth mae’n ei ddweud ar y tin.

Ond y brenin ymysg y rhaglenni hyn ydi Straeon Tafarn Dewi Pws, sydd wedi llwyddo i fod yn hynod ddiddorol, yn hynod ddoniol, ac yn hynod addysgiadol yr un pryd.

Ac os ydyn ni’n colli diddordeb yng Nghymru mae yna gyfle i ddilyn Iolo i ganol yr Indiaid Cochion, neu i hwylio i lawr y Mississippi gyda Cerys Matthews.

Rhif 1: Digwyddiadau

Yr Eisteddfod Genedlaethol… y Sioe Brenhinol… Eisteddfod yr Urdd… y Ffair Aeaf… Eisteddfod Ffermwyr Ifanc… yn syml, unrhyw sioe ble mae’n bosib dweud ‘dw i’n nabod hwnna yn y cefn’, ‘oedd e’n yr ysgol gyda fi’, a ‘dwi’n siwr bod hanner y cor pensiynwyr dan 60 oed…’ Ambell wythnos bob blwyddyn mae S4C yn rhoi’r gorau i greu rhaglenni i’n difyrru ac yn troi’r camerâu i’n cyfeiriad ni. Mae’r sioeau yn llawer gwell na’r X Factor, achos rydyn ni’n nabod hanner y bobol sydd ar y llwyfan.

Pryd i blannu coeden mango

Cyhoeddwyd Ionawr 21, 2011 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: S4/C

Mae Dylan Iorwerth yn Zanzibar, yn helpu i wneud rhaglen deledu ar gyfer S4C. Mae refferendwm a chlymblaid yn eiriau mawr yno hefyd … ac mae dyfodol yr Ynys Sbeis yn dibynnu arnyn nhw …

Union wythnos yn ôl, mi welais i’r dyn ei hun – o bell, ar lwyfan mewn stadiwm bêl-droed, yn annerch miloedd o bwysigion a chefnogwyr.

Ym mhob man, bron, ro’n i wedi gweld ei luniau – ar bosteri’n annog pawb i bleidleisio trosto. Dr Ali Muhammed Shein, Arlywydd Zanzibar, ac enw i’w drysori ar gyfer cwisiau ‘Trivial Pursuit’.

Yn ystod y nosweithiau diwetha’, dw i wedi gweld llun gwahanol iawn o’r Arlywydd, yn ddisgybl mewn crys gwyn yn Ysgol George VI, yn y dyddiau cyn y chwyldro a newidiodd bopeth ar yr Ynys Sbeis.

I ddau ddyn, gan gynnwys deintydd a hyfforddodd yng Nghaerdydd,  mi allai’r llun yna fod yn allweddol o ran dyfodol y wlad, sydd, mewn gwirionedd, yn glwstwr o ynysoedd tua phedair awr ar gwch o dir mawr Affrica.

Dw i yma’n rhan o griw o gwmni teledu Green Bay, sy’n gwneud cyfres o raglenni am ynysoedd ar gyfer S4C a’r farchnad ryngwladol.

Rhaglen am y wlad a dyfodol ei phobol fydd honno, yn llawn o luniau trawiadol a straeon personol cryf, ond wrth i ni deithio o le i le, mae yna stori wleidyddol ddiddorol wedi dod i’r wyneb hefyd.

Am y tro cynta’, mae gan Zanzibar lywodraeth cenedlaethol yn cynnwys y ddwy brif blaid fawr; am y tro cynta’ ers hanner canrif a mwy, mae wedi cael etholiadau heb ladd  a thywallt gwaed. Mae rhai’n gweld gobaith newydd … a chyfle ola’.

Arlywydd Zanzibar yn annerch y dyrfa ar Ddydd y Chwyldro.

Y cefndir

Felly … tamed o gefndir.

Mae yna ddwy brif ynys – Ujunga, sydd fel rheol yn cael ei galw’n Zanzibar, a Pemba.

Fel Cymru, mae Zanzibar yn rhan o undeb mwy – gyda’r tir mawr. Ym mis Ebrill 1964, mi gafodd yr ynysoedd eu huno efo Tanganyika i greu Gweriniaeth Tanzania.

Mae yna ddwy brif blaid – y CCM, plaid yr undeb efo Tanzania,a’r un sydd wedi rheoli’n gam neu gymwys ers 35 o flynyddoedd; a’r CUF sy’n gryf ar ynys Pemba ac ymhlith yr Arabiaid sy’n rhan bwysig o’r boblogaeth.

Yr Arabiaid oedd yng nghanol y digwyddiad mwya’ ysgytwol yn hanes diweddara’ Zanzibar – y chwyldro pan gafodd miloedd o Arabiaid ac Indiaid mwy cyfoethog eu lladd gan wrthryfelwyr Affricanaidd.

Mae rhai o’r straeon fydd ar y rhaglen yn dangos fod ofn o hyd i drafod y chwyldro hwnnw ond dathlu hwnnw yr oedd Dr Shein a’i gefnogwyr wythnos yn ôl. Ionawr 12 ydi diwrnod y chwyldro.

Doedd y deintydd a’i ffrind ddim yno. Roedden nhw wedi gwrthod mynd. A nhwthau ymhlith y miloedd a adawodd y wlad yn sgil y chwyldro, allen nhw ddim stumogi dathlu digwyddiad o’r fath.

Ond mae Hassan Jaffer a Dr Feroz Jafferi, a fu’n hyfforddi yng Nghaerdydd, yn ôl yn Zanzibar ar ôl helpu i sefydlu mudiad o’r enw Outreach Zanzibar, efo’r bwriad o gael cymorth yr alltudion i roi’r wlad yn ôl ar ei thraed.

Mae digon o angen hynny. Tua doler y dydd ydi incwm y rhan fwya’ o’r tlodion tra bod elît o bobol yn cael bywydau moethus iawn. Mae cyflwr addysg ac iechyd, medden nhw, yn waeth o lawer bellach na chyn 1964.

Un o’r arfau sydd gan y ddau, a ddaeth ar draws ei gilydd ar ôl 44 o flynyddoedd, yw eu bod ill dau’n gyn-ddisgyblion yn Ysgol George VI a bod yr Arlywydd yno hefyd. Gan Hassan Jaffer y mae’r llun i brofi hynny ac maen nhw eisio’r cyfle i’w ddangos i Dr Ali Muhammed Shein.

Y ddau alltud o Zanzibar yn ôl yn eu hen wlad.

Y cyfle ola’

Mi fydd y rhaglen deledu’n dangos rhai o’r cynlluniau bach a’r bobol benderfynol sy’n ceisio creu cyfleoedd newydd, ond mae’r angen am newid sylfaenol yn anferth, yn enwedig yn y byd gwleidyddol.

Ond ar ôl siarad efo cyn gyd-ddisgyblion eraill o Ysgol George VI erstalwm, sydd bellach yn uchel yn y Llywodraeth, mae’r ddau ddyn wedi dechrau gobeithio am well. Maen nhw’n credu, efallai bod yr arweinwyr yn gweld bod angen newid hefyd.

Ddiwedd mis Hydref, roedd yna fwyafrif clir yn y wlad wedi pleidleisio tros gael Llywodraeth Genedlaethol sy’n uno’r ddwy blaid. Er bod amheuon am fuddugoliaeth y CCM yn yr etholiadau a ddilynodd ym mis Rhagfyr, mae’r blaid arall am y tro cynta’ wedi cael tua thraean o’r swyddi yn y llywodraeth.

Ond mae gan y ddau ddyn rybudd hefyd – a nhwthau’n 64 oed ac ymhlith y genhedlaeth ola’ o alltudion y chwyldro, does dim llawer o flynyddoedd ar ôl i ddefnyddio sgiliau rhai fel nhw i roi’r wlad yn ôl ar ei thraed.

Mae’r iaith Swahili, a ledodd o Zanzibar tros ran helaeth o Ddwyrain Affrica, yn llawn o ddywediadau lliwgar. Ac mae Hassan Jaffer yn eu dyfynnu nhw’n aml.

Dyma un: Yr amser gorau i blannu coeden mango ydi ugain mlynedd yn ôl; yr amser gorau wedyn ydi heddiw, er mwyn i genhedloedd y dyfodol gael y cynhaeaf.

S4C yn dod a sianel i ben

Cyhoeddwyd Ionawr 14, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: S4/C


Mae S4C wedi penderfynu dirwyn sianel S4C2 i ben yn sgil toriadau i’w cyllideb, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod nhw wedi penderfynu dod a’r sianel i ben ‘yn dilyn cyfnod o ymgynghori’.

Lansiodd y sianel ym mis Medi 1999 ac fe gafodd ei ddefnyddio yn bennaf er mwyn dangos rhaglenni di-dor nad oedd lle iddynt ar sianel gyntaf S4C, er enghraifft cystadlu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Hyd at 2010 roedd hefyd wedi dangos darllediadau o’r Senedd ym Mae Caerdydd.

“Yn dilyn cyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch toriadau i’r gyllideb, mae S4C wedi bod yn adolygu sut i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

“O ganlyniad, penderfynwyd dod â sianel S4C2 i ben.

“Mae S4C yn bwriadu darparu mwy o ddarllediadau byw yn ystod y dydd o ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe Frenhinol ar y brif sianel. Rydym hefyd yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth ar-lein yn ystod digwyddiadau byw.”

Erbyn hyn mae modd gwylio cyfarfodydd y dydd o’r Senedd ar S4C gyda’r hwyr ar nos Fawrth, Mercher ac Iau.

Un sydd ddim yn Cyw-ilyddio

Cyhoeddwyd Ionawr 5, 2011 gan Llinos Dafydd. 2 Sylw.

Tagiau: S4/C

Dros y dyddiau diwetha’, mae rhai wedi bod yn beirniadu S4C am ddangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth plant Cyw. Mae Llinos Dafydd, un o newyddiadurwyr Golwg, yn mynd yn erbyn y llif…

Mae yna fore-godwr yn tŷ ni – wel dwy i ddweud y gwir, ond mae’r un ifanca’ yn rhy fach i leisio’i barn bach 4 mis oed. Mae’r un fach benfelen arall, sydd bron yn bedair mlwydd oed yn ddigon tebol o ddweud ei dweud, ac mae hi’n hoffi dechrau ei diwrnod gyda’i ffrind, Cyw.

Am 7.45 y bore pan dw innau’n trio hel popeth ynghŷd ar gyfer y diwrnod, rhaid dweud fy mod i’n fwy na pharod i estyn y peiriant pwdryn i fy merch hynaf er mwyn iddi gael ei ffics dyddiol o gartŵns Cymraeg. Sam Tân ac Igam Ogam ydy’r ffefrynnau, gyda llaw. A dw innau’n cael llonydd i glatsho bant gyda sortio dillad, gwneud y pecynnau bwyd, ac ambell waith gaf i eiliad i gribo fy ngwallt hyd yn oed, cyn gorfod gadael y tŷ am 8 er mwyn mynd a’r plant at y warchodwraig, yna anelu trwyn y car tuag at Llambed i wneud diwrnod o waith.

Ond daeth cri bore ddoe – “Fi mo’yn Cyw!” – roedd hi’n ddiwedd y byd. Pan edrychais i ar y teledu, roedd hysbyseb bwyd cath ar y sgrin, ac yn amlwg doedd hynny ddim yn plesio fy merch fach, a oedd yn disgwyl helyntion a helbulon trigolion Pontypandy.

Dw i wedi clywed sawl un yn achwyn bod S4C wedi dechrau dangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth dyddiol Cyw – ac mae’n siŵr y bydden i’n un o’r rheini pe bawn i’n gweld hysbysebion teganau a siocledi.

Ond mae’r holl hysbysebion dw i wedi eu gweld wedi eu hanelu at oedolion – boed yn ryw siampŵ neu’i gilydd, yn fwyd ci neu’n bapur tŷ bach. A beth sy’n bod gyda hynny?

Os ydy e’n ffordd i S4C i wneud arian, gan sicrhau dyfodol i’r sianel, wel fel mam, dw i’n ddigon hapus bod y rhain yn ymddangos – cyn belled eu bod nhw ddim yn dangos rhai sydd wedi’u hanelu’n uniongyrchol at blant bach.

Mae hysbysebion yn amlwg yn dod ag arian i mewn, felly gosodaf bluen yn het S4C – ond yn amlwg, nid pluen oddi ar adenydd Cyw, achos dw i ddim eisie ei gweld hi’n glanio ar y ford fwyd fel ein cinio dydd Sul.

S4C – O’r diwedd, rhywfaint o sens

Cyhoeddwyd Rhagfyr 14, 2010 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: S4/C

Dylan Iorwerth yn diolch am esboniad am helyntion S4C

O’r diwedd ryden ni wedi cael rhywfaint o esboniad am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn S4C yn ystod y misoedd diwetha’. Y piti mawr oedd na chawson ni wybod lawer ynghynt.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Cymreig y bore yma, fe fydd yr Is Gadeirydd newydd a’r Prif Weithredwr dros dro wedi gwneud llawer i dawelu pryderon pobol yn y tymor byr.

Mi wnaethon nhw ddangos hefyd fod yna nod clir o ran yr hyn sydd ei eisiau ar S4C – arian heb linynnau, yr hawl i weithredu heb orfod gofyn caniatâd gan y BBC a digon o gyfrifoldeb i allu cyflawni eu dyletswydd i bobol Cymru.

Y broblem ydi mai Is Gadeirydd ydi un – ac y bydd Cadeirydd newydd cyn hir – ac mai Prif Weithredwr tros dro ydi’r llall. Mi allai gwaith da’r bore gael ei ddadwneud eto.

Esboniad

Ar wahân i ambell ennyd anghyfforddus wrth fynd tros helyntion y cyfnod diweddara’ ac ambell fwlch gwybodaeth, roedd Rheon Tomos ac Arwel Ellis Owen yn gadarn ac yn swnio fel petai ganddyn nhw gyfeiriad i’w gwaith.

Yr elfen allweddol oedd eu bod wedi rhoi esboniad am ymadawiad y cyn Brif Weithredwr, Iona Jones, ac, wrth wneud, fe ddaeth hi’n amlwg pa mor allweddol oedd y digwyddiadau hynny.

Am y tro cyntaf, fe gawson ni wybod yn bendant mai achos o ddiswyddo oedd hwn – tan hyn, doedd hynny hyd yn oed ddim wedi’i gydnabod ac roedd y gyfrinachedd ynddi’i hun wedi cynyddu’r pwysau ar S4C.

O geisio delio gyda’r gwrthdaro o gwmpas hynny y cododd llawer o’r trafferthion eraill a’r methiant i esbonio’r egwyddorion oedd yn y fantol yn gwneud i’r cyfan swnio’n rhyfedd ac amheus.

Hyd yn oed os nad oedd neb yn gallu trafod union amgylchiadau’r diswyddo, roedd angen trafod yr egwyddorion.

Y ddadl

Mae’n amlwg bellach fod gwrthdaro rhwng mwyafrif yr Awdurdod ac uchel swyddogion S4C ynglŷn â’r berthynas rhyngddyn nhw a faint o wybodaeth y dylai’r Awdurdod ei chael i allu craffu ar waith y sianel.

Adeg y diswyddo, yr unig ddatganiad oedd bod y drefn o ‘arwahanrwydd’ yn dod i ben – dim esboniad, dim trafodaeth ar yr egwyddorion y tu cefn i hynny.

O ganlyniad, roedd anwybodaeth yn creu amheuon, amheuon yn creu pwysau a rhagor o gamgymeriadau. O glymu hynny gyda thensiynau personol ac ymyrraeth yr Adran Ddiwylliant yn Llundain, roedd popeth yn ei le ar gyfer sioe siafins.

Diolch byth, maen nhw hefyd bellach wedi rhoi’r gorau i’r syniad gwallgo o gael arolwg barnwrol. Beth bynnag am y sefyllfa gyfreithiol, yn wleidyddol roedd hwnnw’n nonsens.

Y dyfodol

Fydd hi ddim yn hawdd i Rheon Tomos a’r Awdurdod wrth iddyn nhw fynd i mewn i’w trafodaethau gyda’r BBC heddiw – gydag annibyniaeth S4C yn y fantol – ac mi fydd trafferthion y misoedd diwetha’ yn eu gwanhau.

Yr hyn sy’n glir bellach ydi bod yna esboniad tros y digwyddiadau. Mae yna gwestiynau anodd i’w hateb o hyd am y manylion a rôl gwahanol bobol ar wahanol adegau. Ond o leia’ mae pethau’n dechrau gwneud sens.

Felly, un o’r gwersi pwysica’ i’w dysgu o flerwch y misoedd diwetha’ ydi’r angen i fod yn agored – y rheidrwydd i esbonio’n rhesymol wrth y bobol sy’n cefnogi’r sianel ac yn talu amdani.

10 Uchaf: Ffyrdd o ddinistrio Cwmderi

Cyhoeddwyd Rhagfyr 8, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: 10 Uchaf, pobol y cwm, S4/C

Mae Coronation Street yn ‘dathlu’ pen-blwydd y rhaglen yn 50 oed yr wythnos hon gyda damwain tram sy’n dinistrio rhan helaeth o’r stryd eiconig ac yn lladd rhai o’r prif gymeriadau.

Denodd y ddamwain ar nos Lun gynulleidfa fwya’r sioe ers pum mlynedd. Felly sut all ein rhaglen sebon ni, Pobol y Cwm, ddenu’r gwylwyr drwy ddinistrio’i phentref eiconig ei hun?

Rhif 10: Rhywbeth ‘fishy’ am y siop jips

Mae straen ymadawiad Garry Monk yn mynd yn ormod i Britt ac mae glanweithdra siop jips y pentref yn gwaethygu. Mae sawl cymeriad yn dal gwenwyn bwyd a Britt yn wynebu achos llys am achosi’r cyfan.

Rhif 9: Deri danllyd

Heb allu ddod o hyd i unrhywun i garco garej Garry Monk yn ei absenoldeb mae ei frawd, Brandon, yn anobeithio ac yn penderfynu llosgi’r adeilad i’r llawr er mwyn hawlio’r arian yswiriant. Yn anffodus mae pethau’n mynd o chwith ac mae’r tân yn lledu i weddill adeiladau’r cwm ac yn llosgi’r stryd eiconig i’r llawr.

Rhif 8: Ffwdan Ffion

Mae Ffion yn anobeithio ar ôl perthynas trychinebus arall ac yn penderfynu dod â’r cyfan i ben dros y Nadolig. Mae’n ceisio neidio allan o flaen lori raean sy’n swerfio i’w hosgoi ac yn palu i mewn i’r Deri a sawl tŷ a siop arall cyn dod i stop.

Rhif 7: Cwmderi mewn twll

Mae pwll glo Cwmderi wedi cau ers blynyddoedd. Ond does neb wedi sylweddoli bod y rhwydwaith o dwneli o dan y pentref yn dechrau gwegian dan bwysau’r holl ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys tŷ newydd Eifion a Cadno. Un dydd mae hollt yn ymddangos i lawr prif stryd Cwmderi, a chyn i unrhyw un ddatrys y dirgelwch mae’r pentref cyfan wedi disgyn i mewn.

Rhif 6: Gwenwyn yn yr Ysgol

Unwaith eto mae glanhawr yr ysgol, Mark Jones, a Debbie Collins yn camddefnyddio adnoddau yr ysgol er mwyn creu cynnyrch ar gyfer eu busnes crysau T. Ond yn eu diogrwydd maen nhw’n gadael i’r printiwr paent weithio drwy’r nos. Mae’n gorboethi ac yn rhyddhau nwyon gwenwynig i’r aer sy’n mygu’r athrawon Ffion Llywelyn, Gaynor Evans a Macs White.

Rhif 5: Pandemig Penrhewl

Mae trigolion fferm Penrhewl yn credu eu bod nhw wedi cael gwared ar bob ôl o TB o’r fferm drwy ddifa eu stoc wartheg i gyd. Ond heb yn wybod iddyn nhw mae’r bacteria wedi mwtanu yn fath sy’n heintio pobol hefyd ac yn lledu drwy Gwmderi cyfan. Mae’r llywodraeth yn rhoi’r pentref dan gwarantîn tra bod cyrff yn llenwi’r strydoedd…

Rhif 4: Pobol y Cwm Tryweryn

Yn ddiarwybod i weddill trigolion y cwm mae’r cynghorydd a’r dyn busnes, Ieuan Griffiths, yn dod i gytundeb gyda chwmni egni adnewyddadwy o Sweden i adeiladu argae trydan dŵr ar waelod y cwm. Mae rhai o drigolion cydwybodol Cwmderi, gan gynnwys Sion White, yn gwrthod gadael a phan ddaw’r dŵr maen nhw i gyd yn boddi.

Rhif 3: Garry Monk yn herio’r Heddlu

Mae Garry Monk yn anobeithio o eisiau gweld ei fab Gwern, ond pan mae’n dychwelyd i Gwmderi mae’r heddlu eisoes yn disgwyl amdano. Yn y frwydr sy’n dilyn mae sawl cymeriad poblogaidd yn cael ei ddal yn y saethu cyn i Garry ei hun farw mewn pwll o waed ar stepen ddrws cartref Gwyneth. Mae Gwern yn gweld y cyfan ac yn addo dial yn y dyfodol.

Rhif 2: Scaffalde Dai yn syrthio

Mae Dai Scaffalde yn bles iawn ar ôl i gwmni ABD ennill cytundeb i adnewyddu hen gapel Cwmderi. Ond mae’n penderfynu torri nol ar gostau drwy ddefnyddio hen scaffalde o sgip ar ochr y lôn. Wrth i drigolion y pentref cyfan lenwi’r capel ar gyfer cymanfa ganu adeg y Nadolig mae’r scaffalde yn gwegian a nenfwd yr adeilad yn syrthio i’r llawr gan wasgu sawl un yn fflat.

Rhif 1: Jeremy Hunt yn tynnu’r plwg

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cael digon ar frwydro mewnol S4C ac yn tynnu’r plwg ar y sianel, gan olygu bod Pobol y Cwm yn diflannu am byth!

Llythyr Ymddiswyddo John Walter Jones

Cyhoeddwyd Rhagfyr 7, 2010 gan Rhiannon Michael. Dim sylw.

Tagiau: John Walter Jones, S4/C

Am ddiwrnod. Mae John Walter Jones nawr wedi dweud ei fod yn gadael S4C ac yn gadael yn syth. Dyma gopi llawn o’i lythyr, cyn i fi redeg i’r galeri gwylwyr i wrando ar ddadl y mesur iaith.

Annwyl Ysgrifennydd Gwladol,

Ni ellir caniatáu i’r sefyllfa sy’n bodoli yn S4C barhau. 

Mae’r gair dryswch, am ba bynnag reswm, yn cael ei ddefnyddio dro ar ôl tro gan rai yng nghyswllt fy mhenderfyniad i ymddeol.  Bellach, deuthum i’r casgliad mai gweithredu ar fy nghynnig i sefyll o’r neilltu i hyrwyddo unrhyw benderfyniad gennych chi ynglŷn a dyfodol S4C yw fy nymuniad.  Byddaf felly yn ymddeol fel Cadeirydd yr Awdurdod yn union.  Yn amlwg mae rhai sydd yn anfodlon caniatáu i’r trosglwyddiad trefnus y bu i chi a fi gytuno arno fis Tachwedd gymryd lle.

Rhaid i Awdurdod S4C fod yn unedig ac unplyg wrth gyrchu ateb i’r sialensiau sy’n wynebu’r sianel.  Dim ond ansefydlogi a chreu sefyllfa cwbl annerbyniol i staff ymroddedig S4C ac i’r gwneuthurwyr rhaglenni wnaiff unrhyw beth ac eithrio unfrydedd.

Dylai pawb bellach ganolbwyntio ar sicrhau trafodaeth ystyrlon gydag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran Ddiwylliant i sicrhau model gweithredol sy’n gwarantu annibyniaeth S4C ac ar greu sefydlogrwydd o ran y berthynas weithredol gyda’r sector annibynnol.  Nid wyf am i neb fy ystyried yn rhwystr yn hyn o beth nag yn wir fel dylanwad ar benderfyniadau y bydd eraill yn gyfrifol am eu gweithredu.

Mae’r materion a restrwyd yn y ddogfen “A Process of Renewal” anfonwyd atoch gan S4C ar Fedi’r 6ed angen ystyriaeth yn y ffordd fwyaf priodol.  Mae gofyn rhoi sylw ar fyrder i’r angen am ail gysylltu ieithyddol ac i broses o ymwneud gyda’r gynulleidfa.  Dylid diffinio’n glir a gwneud yn eglur union berthynas S4C gyda’r Cynulliad Cenedlaethol.  Dylid adolygu perthynas cyflenwyr rhaglenni gyda’r sianel.  Gellir ystyried hyblygrwydd ar sail dealltwriaeth o ran allbwn, sy’n adlewyrchu gweledigaeth ar y cyd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a dilyniant o ran darpariaeth mewn hinsawdd economaidd sy’n llai na ffafriol.  Yn amlwg dylid gofalu bod cystadleuaeth greadigol o ran syniadau rhaglenni rhwng darparwyr yn rhan annatod o’r broses.  Mae angen ystyried datblygiadau technolegol a dylid ystyried strwythurau comisiynu priodol yn yr hinsawdd newydd hon yn gyfochrog a’r trafodaethau gyda’r BBC.

Dylai pawb sydd ynghlwm ac ystyried y model priodol gogyfer a dyfodol S4C fod yn wynebu’r dasg gyda dim ond un bwriad – sicrhau dyfodol darlledwr cyhoeddus unigryw a’i allu i ddatblygu.  Mae’r obsesiwn sydd gan ambell un ar hyn o bryd am faterion nad ydynt yn berthnasol o gwbl i gynnwys nag allbwn rhaglenni S4C yn fater o dristwch, ond rhaid sylweddoli, tra bod yr amrywiol agendau hyn yn bodoli fod

S4C yn darlledu rhaglenni y gellir yn haeddiannol ymfalchïo ynddynt.  Mae mwyafrif helaeth o staff S4C yn ymroddedig ac yn ddygn weithio i sicrhau llwyddiant S4C.

Rhaid gweithredu nawr i sicrhau nad yw cam ganfyddiad yn datblygu’n ffaith.  Mae f’ymddeoliad yn rhan o sicrhau hyn fel bod y rhai sydd a’r cyfrifoldeb statudol am atebolrwydd S4C yn delio a’r pethau gwirioneddol bwysig a’r sialensiau, ac yn canolbwyntio’u hymdrechion ar ddatrys materion allweddol. 

John Walter Jones

DIWEDDARIAD: Mwy o wybodaeth ar y wefan. Rheon Thomas fydd y Cadeirydd dros dro.

Lluniau o'r brotest na i'r Tori-adau

Cyhoeddwyd Rhagfyr 6, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, S4/C

Diolch i Rhys Llwyd am y lluniau isod. Oes gennych chi luniau eraill o’r brotest i’w rhannu? Gyrrwch nhw at gol@golwg.com