Cynyddu maint testun

Golwg360

Tajikistan – Fflam sy’n gwrthod diffodd

Cyhoeddwyd Mehefin 13, 2011 gan Malan Wilkinson. 3 Sylw.

Tagiau: Tajikistan

Malan Wilkinson sy’n edrych yn ôl ar ei thaith wythnos o hyd i Tajikistan yng nghanolbarth Asia…

Mae taith Tajikistan wedi hedfan heibio a’r profiadau ‘dw i wedi cael wedi bod yn rhai anhygoel.

Rydw i wedi dysgu am ymdrechion grwpiau cymunedol i gydweithio a datrys problemau, cael gwybod mwy am y sialensiau sy’n wynebu plant ym myd addysg a gwaith â dod i wybod am brofiadau merched sy’n delio gydag HIV.

Tua 13,000 o filltiroedd yn ddiweddarach felly, dw i’n ffeindio fi’n hun yn teithio ar y trên o Lundain adref. Mae’n deimlad emosiynol ac yn sicr, dw i ddim yr un person a ddechreuodd y daith. ‘Dw i’n gweld eisiau Tajikistan yn barod ac mae yna rywbeth sy’n ceisio fy nhynnu’n ôl yno.


Brwydrau

Gyda theithio a diwrnodau gwaith yn gallu ymestyn i 13 awr – ro’ ni’n dod yn ôl ar ddiwedd dydd i geisio ‘sgwennu am fy mhrofiadau. Yn amlach na pheidio, ro’ ni’n ffeindio fi’n hun yn eistedd o flaen y cyfrifiadur tan oriau man y bore, wedi fy llorio – yn ceisio meddwl lle i ddechrau a pha eiriau i’w defnyddio. Nid straeon yn unig oedden nhw, ond profiadau, ofnau a brwydrau unigolion o gig a gwaed. Unigolion sy’n ymdrechu’n ddyfal  yn erbyn y ffactorau – i ddal dau ben llinyn ynghyd mewn gwlad sy’n wynebu tlodi enbyd.

Roedd Dilfuzia, sy’n 33 blwydd oed ac yn dioddef o HIV, yn son yng Nghanolfan Iechyd Meddwl a HIV Aids Dushanbe am orfod rhoi genedigaeth i’w phlentyn gartref. Roedd ei mam wedi dweud wrthi ei bod wedi clywed y byddai’n cael ei “llosgi’n fyw” petai’n mynd i’r ysbyty i roi genedigaeth a hithau’n cario’r firws. Bu’n rhaid i’w mam ofyn i gymydog helpu i’w merch roi genedigaeth i’w phlentyn gartref a dyma ddigwyddodd. Doedd gan ei chymydog ddim syniad bod Dilfuzia yn HIV positif. Nid yw’n gwybod hyd heddiw.

Mae’r frwydr yn erbyn HIV a’r stigma  sydd ynghlwm ag o yn parhau. Ac efallai y gallwn ni yng Nghymru feddwl am ein hagweddau tuag at bobl sy’n byw gydag HIV. Yng Nghymru, hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008, roedd 1600 o unigolion wedi cael gwybod eu bod yn dioddef o HIV. Mae’n broblem byd -eang. Ond, diolch byth am y prosiectau y mae Cymorth Cristnogol yn eu cefnogi yn Nhajikistan – maen nhw’n cynnig gobaith i bobl sy’n wynebu byw â’r firws.

‘Tan ‘dw i’n marw’

Gyda chanran enfawr o’r dynion yn symud i Rwsia i lafurio, mae llawer o gyfrifoldebau dydd i ddydd yn disgyn ar ysgwyddau’r merched. Y nhw sy’n edrych ar ôl plant (teuluoedd mawr o 11 a 12 weithiau) yn coginio, edrych ar ôl anifeiliaid ac yn gweithio neu’n ffermio yn y caeau. Ond, dyw statws y ferch yn gymdeithasol ddim yn adlewyrchiad o hynny o gwbl. Yn hytrach mae’r ferch yn cael ei thrin yn is raddol ac yn gallu dioddef trais difrifol yn y cartref mewn rhai achosion. Mae canran uchel yr hunanladdiadau ymhlith merched yn brawf o hynny. Ond, er gwaethaf hyn, mae dyfalbarhad ac ewyllys y merched cefais i siarad gyda nhw’n ysbrydoledig.

Dynes 70 blwydd oed o bentref  Chubek, Hamadon oedd Sharipova Odinamoh oedd wedi bod yn ffarmio ers yn 17 blwydd oed ac yn edrych ar ôl ei theulu. Roedd yn rhan o grŵp Sanam (sy’n cael ei gefnogi gan Gymorth Cristnogol) oedd yn cyfarfod tua dwywaith y mis i gyd-drafod amaeth a rhannu profiadau.

Roedd Sharipova yn cofio’r byd amaeth o dan yr hen system sofietaidd. Ac er bod mwy o ddewis gyda ffermwyr beth i’w dyfu nawr, roedd yn son am y sialensiau o beidio cael peiriannau fel yr oedd ganddynt yng nghyfnod Sofiet. Fe ddisgrifiodd mor anodd oedd gweithio oriau hir ar y tir gyda llaw a hynny mewn tywydd chwilboeth. Dyma ofyn iddi, pryd y byddai’n rhoi’r gorau i ffarmio – roedd ei hateb yn dweud y cyfan.

“Fe wna i weithio yn y caeau tan ‘dw i’n marw – neu hyd nes y bydd yn amhosibl i mi wneud  rhagor,” meddai.


Fflam fechan

Trysor anghofiedig Canolbarth Asia yw Tajikistan. Mae’n wlad fynyddig, hardd a’i phobl yn ostyngedig, swil ond caredig a gweithgar. Mae hyder tawel i’w phobl. Ond, yn economaidd, mae pobl Tajikistan wedi gweld a phrofi gwell mewn sawl ffordd dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd – cyn i strwythurau allweddol ddymchwel yn sgil ei hannibyniaeth a’r rhyfel cartref.

Yn anffodus, dydw i ddim yn rhagweld y bydd sefyllfa’r wlad yn gwella’n fuan – mae’r tlodi enbyd yn effeithio ar bob elfen o fyw yno. Gyda dim dŵr glan i’w yfed yn y tapiau, bygythiad heintiau a firysau fel TB a HIV ym mhobman; tlodi ar gynnydd wrth i weithwyr heidio i Rwsia am lafur, cyflog a swyddi; a safle’r ferch yn parhau’n is raddol – byddai’n hawdd i’w phoblogaeth ddadrithio a cholli gobaith. Yn ystod fy ymweliad, roedd yr arlywydd yn adeiladu palas enfawr ar gyrion Dushanbe, a thlodi’n drwch o’i gwmpas.

Ond, welais i ddim colli gobaith. Mae gen i deimlad bod y bobl ‘dw i wedi cyfarfod hyd y daith yn gwybod beth sy’n bosibl ar gyfer y dyfodol. Ac mai amser a dyfalbarhad, nid chwyldro, allai ddod a’r newid i fywydau pobl. Er gwaethaf nifer helaeth y sialensiau a’r tlodi sy’n wynebu Tajikistan, un o’r pethau mwyaf calonnog yw ewyllys pobl i wella’u sefyllfa. Rhan greiddiol o’r ewyllys hwnnw yw’r gobaith yng nghalonnau’r bobl. Tajikistan yw’r fflam fechan yng Nghanolbarth Asia sy’n gwrthod diffodd, er gwaethaf popeth.

Dysgu byw gydag HIV yn Tajikistan

Cyhoeddwyd Mehefin 10, 2011 gan Malan Wilkinson. 3 Sylw.

Tagiau: Tajikistan


Mae Husmiya yn HIV positif
Mae Malan Vaughan Wilkinson, un o ohebwyr Golwg360, wedi mynd i Tajikistan…

Mewn unrhyw wlad, mae HIV Aids yn eiriau sy’n bwydo ofn, stigma ac yn rhannu cymdeithas.

Heddiw cefais gyfle i siarad â merched HIV positif am eu profiadau o fyw gyda’r haint.

Roedd un ohonynt wedi ei thaflu o’i chartref a’i gwrthod gan ei mam ei hun, ac wedi ei gwahardd rhag gweld ei phlentyn.

Mi fu i Husmiya geisio lladd ei hun oherwydd ei chyflwr.

Cefais hefyd wybod mwy am y cymorth maen nhw’n ei dderbyn gan Ganolfan Iechyd Meddwl a HIV/Aids ym mhrif ddinas Tajikistan, Dushanbe.

Mae’r ganolfan yn derbyn cefnogaeth gan Gymorth Cristnogol yng nghanolbarth Asia.

Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith arloesol yn ceisio lleihau’r stigma sy’n perthyn i ddioddefwyr HIV, yn gweithio gyda staff meddygol, arweinwyr crefyddol Mwslim yn y gymuned ac yn hyfforddi newyddiadurwyr i geisio atal gwybodaeth negyddol am yr haint yn y wasg.

Mae HIV yn broblem sydd ar gynnydd yn Tajikistan ar hyn o bryd, oherwydd cam-ddefnydd cyffuriau a nifer uchel y gweithwyr sy’n gadael eu teuluoedd a’r wlad i fynd i lafurio yn Rwsia gyfagos, cyn dychwelyd gyda’r haint.

Mae’r Ganolfan yn cynnig cymorth seicolegol ac ymarferol i ddioddefwyr.

‘Fe wnes i geisio lladd fy hun’

Fe gafodd Husmiya wybod ei bod yn HIV positif dair blynedd yn ôl ar ôl cael profion meddygol ar gyfer mynd dramor. Roedd eisiau symud i Rwsia i fyw a gweithio ac roedd prawf gwaed meddygol yn orfodol fel rhan o’r broses.

“Pan glywais i am fy statws, fe wnes i geisio lladd fy hun,” meddai’r ferch ifanc, swil yr olwg.

“Y person cyntaf i glywed am fy statws oedd mam. Fe ges i fy nghicio allan o’r tŷ. Doedd hi ddim yn gadael i mi gymryd bath na defnyddio’r lle chwech. Doedd gen i ddim ffordd arall allan – dyna pam wnes i geisio lladd fy hun,” meddai.

Mae gan Husmiya fab wyth oed – ond ei mam sy’n edrych ar ei ôl bellach. “Dydi mam ddim yn gadael i mi edrych ar ôl fy mab.  Ond, weithiau, dw i’n mynd yn ddistaw bach i’w weld…fel lleidr bron,” meddai wrth i’w llygaid lenwi.

‘Person marw’

“Pan glywais i am fy statws – am dair blynedd roeddwn i’n byw fel person marw – tan i mi ddod i wybod am y Ganolfan hon,” meddai Husmiya. Mae’r Ganolfan yn cynnig bwyd, moddion a chymorth seicolegol i bobl sy’n byw gyda HIV.

Ar hyn o bryd, mae Husmiya yn byw gyda’i ffrind, yn gofalu am blant ei ffrind ac yn glanhau ei thŷ. “Pan glywais i am y ganolfan, fe ddois i yma a derbyn cefnogaeth gan y rheolwraig.

“Roedd fy nghorff i mewn cyflwr marwaidd cyn dod yma. Roedd rhannau o fy nghorff wedi chwyddo pob dydd. Ond, fe wnaethon nhw drefnu mod i’n mynd i glinig am lawdriniaethau a rhoi cyngor i mi ar ba gyffuriau i’w ddefnyddio. Dw i eisiau pwysleisio eu bod nhw wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi.”

‘Teimlo fel dynes’

“Rŵan, dw i’n edrych yn y drych, yn cymryd gofal ohonof i’n hun, fy ngwallt a cholur. Dw i’n teimlo fel dynes unwaith eto,” meddai Husmiya gan ddweud bod y Ganolfan wedi’i chyflogi fel gwirfoddolwr ac yn talu’i chostau teithio ers mis a hanner.

“Fe wnaeth siarad gyda merched eraill oedd yn mynd drwy’r un peth fy helpu. Fe wnes i ddeall nad oeddwn i ar ben fy hun. Efallai mewn pedair blynedd y byddai farw. Ond, mae gen i blentyn ac fe ddylwn i feddwl amdano.

“Dw i eisiau dweud wrth bobl ifanc sy’n HIV positif i beidio â bod ofn…nid dyma’r diwedd,” meddai, cyn dweud nad oedd llawer o wybodaeth am yr haint ganddi cyn ymweld â’r clinig.

Mae Husmiya wedi methu datgelu ei statws HIV i’r ffrind y mae’n byw gyda hi. Mae’n ofni y byddai hi’n cau’r drws arni, fel gwnaeth ei mam, pe bydda’ hi’n gwybod y gwir.

Roedd mam-yng-nghyfraith merch arall – Dilfuzia, 33 oed, oedd yn byw yn Uzbekistan ar y pryd – wedi ei gwahardd o’r gegin ar ôl darganfod ei bod yn HIV positif yn 2007.

Roedd y fam-yng-nghyfraith (a oedd yn feddyg wrth ei gwaith) hefyd wedi ei gorfodi i fwyta ar wahân i weddill y teulu a defnyddio llestri gwahanol mewn ystafell ar wahân, meddai Dilfuzia, sy’n dweud mai bwyd dros ben yr oedd yn ei gael “fel ci” amser bwyd.

Dagrau a dewrder

Roedd siarad gyda’r merched heddiw yn brofiad arbennig. Roedden nhw mor swil ar un llaw, ac eto yn onest a dewr. Ar fwy nag un achlysur, roeddwn i’n cwffio dagrau.

Roedd eu straeon ingol yn dweud rhywbeth  ehangach am natur y cyflwr dynol.

Mewn ‘stafell fach gyffredin ym mwrlwm dinas Dushanbe heddiw, sylwais, ymhell o adref, bod modd goresgyn ofn hyd yn oed yn oed yn y llefydd tywyllaf, fel yr oedd y merched hyn wedi’i wneud.

Mae cymorth a chefnogaeth y Ganolfan Iechyd Meddwl a HIV Aids wedi dod a’r merched hyn yn ôl o erchwyn y dibyn tywyllaf. HIV neu beidio – yng ngeiriau Husmiya fu ar ymyl yr union ddibyn tywyll hwnnw – “nid dyma’r diwedd”.

Drwy’r ffenestr…

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2011 gan Malan Wilkinson. 2 Sylw.

Tagiau: Tajikistan

Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio gyda Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’i hargraffiadau diweddaraf o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Mae’n anodd credu bod tri diwrnod o daith Tajikistan wedi mynd heibio yn barod.  Yn yr amser hynny, ‘dw  i wedi teithio tua 1,000 o filltiroedd yn y car – drwy bentrefi, dinasoedd, tir anial, drwy rhai ardaloedd anghysbell a mynyddig.

Drwy ffenestr y car – ‘dw i wedi cael cyfle euraid i weld y wlad a’i phobl yn byw o ddydd i ddydd ac, mae’r cyfan wedi creu dipyn o argraff arna i. Dyma ddarlun o’r wlad – drwy’r ffenestr.

‘Sofiet’

Mae hen adeiladau mawreddog  a phensaernïaeth oes Sofiet i’w weld ym mhob man yma.

Mae blociau mawr o fflatiau unfath wedi’u hesgeleuso ac yn cartrefu’r tlawd ar gyrion Dushanbe, Prif Ddinas Tajikistan. Golygfa gyffredin arall yw ffatrïoedd enfawr gwag ar ochr ffyrdd. Mae hen faes chwarae ar gyrion y ddinas gyda reidiau ffair ac olwyn fawr las wedi pydru – yn adfail bellach.

‘Dw i’n teimlo’r hiraeth wrth edrych ar yr adeiladau a’r strwythurau hyn.  Adeiladau moethus yn eu dydd – ond bellach wedi hen dyddio ac yn atgof blinedig o ‘oes aur’ dylanwad Sofiet yma cyn i’r undeb ddymchwel yn ‘91.

Golygfa gyffredin arall ar hyd ffyrdd y wlad yw’r hen geir Rwsieg Lada – yn bob lliw a llun, gydag ambell ddrws neu fŵt car yn ddigon simsan.

Ond, ble bynnag dw i’n troi, hyd yn oed yn y Brif Ddinas – mae tlodi â slymiau gyda phobl mewn ambell i le yn defnyddio systemau draenio i olchi’u dwylo, llestri ac ambell ddilledyn.


Merched a ffasiwn

Mae merched Tajik i’w gweld wrth eu gwaith yn gwisgo’r wisg draddodiadol. Topiau lliwgar, di siâp, patrymog llawes hir gyda throwsusau hir o’r un defnydd. Maen nhw’n gwisgo sgarffiau yn eu gwalltiau ac esgidiau defnydd fflat cenedlaethol i fynd â’r wisg. Mae llawer o’r merched ‘dw i wedi’i gyfarfod yn raslon – ond swil.

Arfer cyffredin arall ymysg merched Tajik yw cysylltu eu haeliau gyda phensel ddu iddo edrych fel un ael hir. Mae hynny’n cael ei ystyried yn rywbeth hardd.

Ond, dirgelwch mawr i mi am beth amser oedd deall pam bod cynifer o ferched a dynion â llond ceg o ddannedd aur!  Doeddwn i’n methu’n glir a deall y peth. Roedd rhai pobl gyda haen uchaf o ddannedd aur, eraill â’r haen isaf, rhai gydag ambell i ddaint aur yn unig ac eraill gyda llond ceg o aur. Dyma ddeall ddoe mai ffasiwn amser sofiet sy’n gyfrifol am ddannedd aur pobl Tajikistan!


Teithio i’r de

Wrth deithio i’r de tua ffin Afghanistan – mae’r dirwedd yn newid yn llwyr. O wyrddni ochrau Dushanbe i dir tywodlyd llwyd frown.

Mae llwydni ac amlinell lyfn y tir yn f’atgoffa o’r delweddau tir anial, di orwel yr ydan ni’n ei weld o Afghanistan ar y newyddion.

Mae bechgyn i’w gweld yng nghanol unlle ar gefn asynnod yn tynnu llwythi neu’n bugeilio. ‘Dw i’n cael yr argraff eu bod nhw’n hen gyfarwydd â llwybrau hir y daith.

Mae hogiau ifanc eraill yn sefyll ar gyrion ffyrdd yn chwifio poteli plastig gwag i’r awyr ac ar yrwyr – eisiau dŵr.

Mae asynnod, buchod a chwn yn croesi ffyrdd gwledig pan fynnent – a gyrwyr ceir yn canu cyrn yn ddi-baid  i’w dychryn  i’r cyfeiriad arall.

Mae masnachwyr i’w gweld ar hyd y ffordd yn gwerthu melonau, tomatos, ciwcymbr a mêl a thrigolion i’w gweld yn golchi ffrwythau a llysiau mewn dŵr afon budr.

A hithau’n 43 gradd selsiws, mae dynion a bechgyn yn nofio mewn afonydd. Ond ers dechrau fy nhaith, ‘dw i heb weld merch yn nofio yn yr awyr agored. Os yw merch am wneud, mae’n debyg bod raid iddi wisgo ffrog laes.

Wrth eistedd ar falconi yn nhywyllwch y nos yn edrych ar oleuadau’r ddinas yn sgrifennu f’argraffiadau – mae’n hawdd anghofio am y tlodi am eiliad.

Mae ychydig o olau stryd yn dangos dyn sydd wedi stopio yn ei unfan ac yn gweddïo i gyfeiriad mecca, mae cŵn i’w clywed yn cyfarth ar y stryd a phlant yn chwarae pêl fasged gyferbyn.

Yr  hyn sy’n fy nharo am bobl Tajikistan yw eu cryfder, eu hysbryd a’u dyfalbarhad . Yn wyneb yr holl sialensiau dyddiol a thlodi,  maen nhw’n cario mlaen, yn dal i obeithio ac yn gweithio am fywyd gwell.

Cyn ymweld â’r wlad – doeddwn i heb glywed am ei bodolaeth. Mae’n anodd dychmygu hyn bellach – mae’r bobl dw i wedi’u cyfarfod yma wedi fy nghyffwrdd a’r profiad  wedi fy llorio.

Tajikistan: ‘Pryder’ tros ddyfodol plant

Cyhoeddwyd Mehefin 8, 2011 gan Malan Wilkinson. 1 Sylw.

Tagiau: Tajikistan


Davlatnigor
Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio â Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’r diweddaraf o’i blogiadau dyddiol o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Heddiw, fe ges i’r fraint o gyfweld dynes arbennig sy’n fam i bump o blant, yn athrawes ers dros ddau ddegawd ac yn aelod o bwyllgor cymuned sy’n ceisio datrys problemau ar lefel leol gan wella’r ddarpariaeth yn ei chymuned.

Mae Davlatnigor yn byw ym mhentref Pomir, ardal Khoja Maston – pentref bychan gwledig a  thlawd – tua dwy awr o Brif Ddinas, Tajikistan, Dushanbe.

Athrawes sy’n fam i dair o ferched a dau o fechgyn yw Davlatingor – sy’n gweithio’n ddiwyd fel aelod o bwyllgor cymuned yr ardal yn trefnu digwyddiadau, cynnal a cheisio gwella darpariaeth yn y gymuned.

Heddiw, fe soniodd am ei phryderon ar gyfer dyfodol  ei phlant, y problemau sy’n wynebu ei phentref  a’i gobeithion ar gyfer  dyfodol Tajikistan.

Mae Davlatingor wedi bod yn athrawes ers 24 mlynedd. Ond, yn ogystal â dysgu – i ddal dau ben llinyn ynghyd a chynnal ei theulu -  mae’n gweithio yn y caeau gyda’r nos yn tyfu bricyll, cotwm, tomatos, ciwcymbr, afalau, corn  a thatws.

Mae’r teulu’n gwerthu peth o’r cynnyrch er mwyn dod ag incwm ychwanegol i’r cartref. Maen nhw hefyd yn cadw anifeiliaid, yn fuchod, defaid ac ieir.


“Pryderu”

Mae’n debyg bod tua 2 filiwn o boblogaeth Tajikistan (y mwyafrif yn ddynion) wedi  symud i Rwsia  i weithio mewn meysydd megis adeiladu – gan fod prinder gwaith difrifol a chyflogau gwael yn Nhajikistan. Mae Davlatnigor yn gobeithio nad dyma fydd hanes ei mab.

Yn sgil hyn, mae’n gyffredin i wragedd beidio gweld eu gŵyr am flynyddoedd lawer, rhwng 3-8 mlynedd, yn ôl aelodau o bwyllgor cymuned Pomir.

Fe ddywedodd Davlatnigor nad oedd cwmnïau yn Rwsia’n dod i’r wlad recriwtio bechgyn ifanc i weithio yno – ond bod hogiau’n mynd yno oherwydd bod “rhwydwaith” a chysylltiad yn bodoli eisoes ers cyfnod yr oes Sofietaidd.

“Dw i’n pryderu am ddyfodol fy mhlant,” meddai Davlatnigor wrth son am y system addysg bresennol yn Nhajikistan ynghyd ag arfer bechgyn ifanc i adael yr ysgol i lafurio am gyflog yn Rwsia.

“Nid yw plant yn gallu fforddio parhau â’u haddysg ar ôl gorffen yr ysgol,” meddai gan ddweud bod ei mab a’i fryd ar fynd i goleg meddygol – ond fod y costau’n ddrud.

“Dw i eisiau i’m mab barhau â’i addysg. Dw i’n trio casglu arian  ond mae’n anodd. Os ydi o’n mynd i Rwsia – ni fedr o barhau a’i addysg yn y dyfodol,” meddai.

Mae sefyllfa ariannol y teulu dan ragor o bwysau oherwydd nad yw gŵr Davlatnigor yn gallu gweithio. Mae’n anabl ar ôl gwasanaethu gyda’r fyddin yn Chernobyl. Roedd yn symud pobl o ardal y trychineb i ardal arall y tu allan.


Pwyllgor cymuned

Mae Davlatnigor hefyd yn aelod o bwyllgor cymuned yr ardal sy’n cael ei gefnogi’n ariannol  gan Gymorth Cristnogol. Ei gŵr yw cadeirydd y Pwyllgor.

Mae’r pwyllgor wedi llwyddo sortio sawl problem gymunedol drwy gyfarfod a sgwrsio – pethau fel glanhau’r  draeniau am dri chilometr â glanhau a ffensio mynwentydd. Maen nhw hefyd wedi sefydlu grŵp ‘cymorth i unigolion’ yn y pentre’ ac yn cynnal gweithgareddau hamdden yn ystod gwyliau cenedlaethol ynghyd ag ymgyrch  16 diwrnod yn erbyn trais.

TB

Ond, nid yw’r pwyllgor wedi medru dod a phibell dŵr i’r pentref ac mae TB yn broblem enfawr yn y gymuned gyda 70% o’r trigolion lleol yn ddioddef o’r salwch.

Fe ddywedodd fod pobl y pentref yn defnyddio dŵr y pentref nesaf. Ond, fod y dŵr hwnnw’n fudr ar ôl i bobl olchi’u carpedi ynddo a thaflu anifeiliaid wedi marw i mewn iddo.

Yn ystod y gaeaf , mae’n  rhaid i’r pentrefwyr deithio cymaint â thri chilomedr i nôl dŵr – cyn troi’n ôl a theithio tri chilomedr adref. Nod y pwyllgor yn y dyfodol yw ceisio datrys y sefyllfa dwr, meddai.

Mae’ pwyllgor eisoes wedi ymgeisio am grantiau, ond yn parhau i fethu fforddio costau  cwmnïau.

Ond, mae Davlatnigor yn mynnu bod bodolaeth y pwyllgor wedi cael effaith gadarnhaol ar gymuned Pomir.

‘Gobeithio’

“Pan rydan ni’n dod at ein gilydd, rydan ni’n trafod ein problemau ac yn ceisio eu datrys. Mae pawb yn gwybod am broblemau pawb ac rydan ni’n cefnogi’n gilydd – er enghraifft os ydi rhywun yn sâl iawn, rydan ni’n casglu arian i helpu’r person,” meddai.

“Cyn i’r pwyllgor ddod i fodolaeth -  roedd pawb yn edrych ar eu hôl eu hunain.

“Mae gan bobl arian nawr i ddatblygu busnesau ac rydan ni’n trefnu cystadlaethau chwaraeon ar gyfer pobl ifanc yn ogystal ag ymgyrchu i geisio atal problemau HIV,” meddai.

“Dw i’n gobeithio dod a dŵr yfed yma yn y dyfodol hefyd. ‘Dw i’n gobeithio y bydd Tajikistan yn datblygu fel gwlad – yn arbennig yr ardaloedd anghysbell ac y caiff pobl fywyd gwell.”

Taith Tajikistan: Barn y bobol

Cyhoeddwyd Mehefin 7, 2011 gan Malan Wilkinson. Dim sylw.

Tagiau: Tajikistan


Tajikistan o'r awyr
Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio â Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’r ail o’i blogiadau o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Ar ôl taith wyth i ddeg awr ar hyd ffyrdd llychlyd Tajikistan yn ne’r  wlad, mae diwrnod cyntaf y daith bellach wedi dod i ben. Ac mae’n deg dweud bod y profiad  wedi bod yn agoriad llygaid enfawr.

Heddiw, roedden ni’n cyfarfod pobl oedd wedi elwa o raglen Siambrau’r Bobol Cymorth Cristnogol a’u partneriaid yn Muminabad, Shahrah.  Fe gawson ni gyfle i siarad gyda merched oedd wedi datrys problemau personol a theuluol drwy ddefnyddio’r Siambr sy’n cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim.

Fe sefydlwyd y ganolfan i gynnig cymorth i drigolion lleol, i’r tlawd a’r bregus. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo ac yn hysbysu pobl  o’u hawliau ac yn eu hannog i ddatrys eu problemau ar lefel gymunedol, lle bo hynny’n bosibl. Mae’n ymdebygu  i raddau i’n Canolfannau Cynghori ‘di-dâl’ ni yng Nghymru a Phrydain. Mae prif broblemau trigolion yn amrywio o anghytundebau eiddo tir teuluol i broblemau’n ymwneud â’r uned deuluol (ysgariad neu gais i adael yr uned deuluol) â materion eraill fel mynediad i ddŵr glan.

Fe gafodd y ganolfan ei sefydlu gan wirfoddolwyr ac mae Llywodraeth leol wedi cefnogi’r cynllun drwy ddarparu swyddfa am ddim ar gyfer y siambr cyhoeddus. Fe lansiwyd y prosiect yn swyddogol fis Awst 2008, ond fe ddechreuodd y gwaith fis Tachwedd. Bellach, mae’r prosiect hanner ffordd drwodd ac mae’r swyddfa ar agor i drigolion lleol ddau ddiwrnod yr wythnos.

‘Cefnogi’

Yn ôl Shahribona Shhonasimova, aelod staff Cymorth Cristnogol oedd yn cyd-deithio â ni heddiw,  mae Llywodraeth leol yr ardal yn “cefnogi’r” siambrau cyhoeddus hyn – mae pedwar yn yr ardal i gyd. “Rydan ni’n cael llawer o gyfarfodydd ac mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod yn gyson gyda swyddogion Llywodraeth leol. Mae ganddyn nhw agwedd cadarnhaol at y peth oherwydd mae’n cymryd pwysau oddi arnyn nhw,” meddai cyn dweud nad oedd pobl Tajikistan yn gwybod at bwy i droi gyda’u problemau cyn hyn.

Mae ceisio datrys problem yng nghefn gwlad Tajikistan yn gallu profi’n dipyn o her ar y gorau gyda phobl yn gorfod teithio cyn belled ag 20 cilomedr i ganolfan berthnasol yn yr ardal dan amgylchiadau arferol.  Hyd yn oed wedyn, mae trigolion yn debyg o wynebu costau drud sy’n amrywio o ardal i ardal ac mae pobl yn agored i lwgrwobrwyaeth.

Gyda dros 70% o bobl Tajikistan yn byw mewn tlodi (ffigyrau’r Cenhedloedd Unedig) mae gwasanaeth fel hwn felly yn cynnig gobaith ac addewid i’r tlawd. Mae hefyd cynnig arweiniad ac eglurder ar faterion sy’n poeni teuluoedd  ac y gallu eu torri.  Mae’n cynnig rhagor o ddewisiadau i bobl mewn byd all fod yn eithaf cyfyngedig o ran opsiynau i’r tlawd.

Ffigyrau…

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 112 o bobl wedi ymweld â’r ganolfan ac mae’n dod yn fwy poblogaidd  wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o’i fodolaeth. Ers y dechrau’r cynllun -  mae 147 o bobl wedi gwneud cais yn y ganolfan. Mae 57 ohonynt yn ddynion a’r gweddill yn ferched.

Dim ond 17 achos oedd heb ei ddatrys gan y Ganolfan y llynedd a hynny oherwydd bod y materion hynny y tu allan i’w dwylo.

Yn ôl Shahribona Shhonasimova, mae rhan fwyaf o’r rheini sydd wedi bod ar eu hennill o ganlyniad i’r siambr yn ferched.

Straeon

Heddiw, roedd merch o’r enw Sairambi yn son am lwyddiant y Siambr ar ôl iddynt sicrhau bod arian yr oedd wedi’i roi i ddyn fel benthyciad yn cael ei dalu nôl iddi. Roedd wedi gwario ac wedi bod at awdurdodau gwahanol am bum mlynedd ond wedi methu datrys y sefyllfa cyn hyn. Roedd y siambr wedi’i chynorthwyo i drafod â’r dyn a darganfod ffordd arall o dalu’r ffi yn ôl – drwy werthu buwch.

Roedd merch arall, Adolat yn siarad am ysgaru yn 2010 ac am yr anawsterau yr oedd wedi’i brofi  gyda’r broses o geisio drefnu eiddo ar ôl i swyddog geisio’i llwgrwobrwyo  – rhywbeth sy’n eithaf cyffredin yn anffodus. Un waith yn rhagor, roedd y Siambr wedi gallu pennu cytundeb ffafriol iddi ar ôl siarad gydag aelod o’i theulu. Roedd rhagor o drafodaeth am ysgariad a’r anawsterau mawr y mae merched  a’u teuluoedd yn wynebu  - gyda’r grym i ysgaru yn nwylo dynion. Mae merched yn annhebygol o briodi eto, yn gorfod symud yn ôl adref i fyw gyda’u rhieni a delio gyda’r stigma cymdeithasol.

Roedd dwy arall, Zarafsian a Robia wedi dod i’r ganolfan gyda phroblemau mynediad i ddŵr glan. Ers mis Mai eleni – mae’r siambr wedi llwyddo gosod 48 pwynt dŵr yn lleol. Ar gyfartaledd, roedd rhaid i bobl gerdded 5 cilomedr y diwrnod i nol dŵr cyn hyn.

Gwlad Borat? Taith i Tajikistan

Cyhoeddwyd Mehefin 6, 2011 gan Malan Wilkinson. 1 Sylw.

Tagiau: Tajikistan


Malan Vaughan Wilkinson
Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio â Cymorth Cristnogol i
Tajikistan am wythnos. Dyma’r cyntaf o’i blogiadau o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Ar ôl taith awyren tua deg awr o Lundain i Dushanbe, Prif Ddinas Tajikistan, ‘dw i wedi cyrraedd un o wledydd tlotaf Asia.

Rydan ni’n clywed llawer yn y papurau ac ar y teledu am waith mudiadau fel Cymorth Cristnogol yn Affrica â gwledydd eraill sy’n ceisio goresgyn anawsterau ar ôl trychinebau.

Ond mae llawer llai o ymwybyddiaeth am waith mudiadau mewn gwledydd llai amlwg, ond sy’n wynebu trafferthion mawr, fel Tajikistan.

Anaml ydyn ni’n clywed am fodolaeth y wlad – heb son ei bod hi yn wlad dlawd ac mewn angen!

Yn ystod yr wythnos, byddaf yn teithio’r wlad gyda Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol Cymru yn ystyried yr heriau sy’n wynebu’r wlad.

Mae’n wynebu heriau mewn meysydd gan gynnwys HIV, newid hinsawdd, datblygu masnach a hawliau dynol.

Mae  Tajikistan yn parhau i geisio cryfhau a datblygu wedi rhyfel cartref a’i chreithiodd wedi annibyniaeth o’r Undeb Sofietaidd yn ’91.

Un o’r Stans

Wrth i mi baratoi ar gyfer y daith, roedd yn amlwg cyn lleied o bobl oedd wedi clywed am y wlad.

Un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin oedd ‘Ble mae Tajikistan? Un arall oedd ‘Ydi’r lle yn rhywbeth i’w wneud â Borat?’ ac yn olaf ‘Beth yw’r problemau yno?’

Yn ddaearyddol, mae Tajikistan yn ffiniao’r ‘Stans’ eraill. Mae China i’r dwyrain, Kyrgyzstan ac Uzbekistan i’r gogledd a’r gorllewin ac Afghanistan i’r de.

Mae tua 93% o’r wlad dirgaeedig yn ne ddwyrain Canolbarth Asia yn fynyddig ac mae mwyafrif y boblogaeth yn ystyried ei hunain yn Fwslemiaid.

Tajiceg yw prif iaith y wlad ynghyd â Uzbek a Rwsieg.

Yn hanesyddol, roedd tri llwybr masnach ffordd sidan ‘silk road’ yn rhedeg drwy’r wlad – y Sogdian neu Ffordd y Gogledd, Ffordd Karategin rhwng Termez a Kashgar a Ffordd Pamir oedd yn cysylltu Balkh a Tashkurgan.

Tajikistan oedd y wlad olaf i gael annibyniaeth o’r Undeb Sofietaidd yn 1991 ac yn dilyn hynny roedd rhyfel cartref yma.

Ers hynny, mae wedi brwydro i ddatblygu o’r hyn y mae llawer yn ei ystyried fel oes aur yn y gorffennol o dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd.

Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Nhajikistan ers 1997. Yn 2002, fe agorwyd swyddfa Cymorth Cristnogol yn Dushanbe, y Brif Ddinas.

Heddiw, byddaf yn cael gwybod mwy am ymdrechion partneriaid ers 1998 i roi’r grym yn nwylo’r bobol a’u haddysgu pobl i sefyll i fyny dros eu hawliau eu hunain.

Mae partneriaid y mudiad wedi sefydlu siambrau cyhoeddus yn y wlad er mwyn rhoi cyfle i bobl leol gael gwybodaeth am eu hawliau.

Mae’r rheini yn amrywio o hawliau dros y tir a’r dwr, hawliau yn ymwneud â phlant gydag anableddau neu bobl sydd angen cymorth pensiwn, maes addysg i blant a hawliau merched.

Mae’r siambrau hyn rhai democrataidd lle mae pobl leol yn ethol cynrychiolwyr sy’n ymgymryd â’r gwaith.

Nod arall y siambrau hyn yw ceisio annog trafodaeth yn y gymuned os oes ‘na broblemau’n codi e.e. ffrae yn ymwneud â thir neu ffrae’n ymwneud â mynediad i ddŵr glan.

Y gobaith yw bod problemau’n cael eu datrys ar lefel gymunedol a’u bod y siambrau yn gallu cynnig cymorth i bobl leol am ddim.