Cynyddu maint testun

Golwg360

10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2010

Cyhoeddwyd Tachwedd 16, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 19 Sylw.

Tagiau: 10 Uchaf, Technoleg

Mae’n anodd credu ei bod hi eisoes yn flwyddyn ers dewis y 10 blog gorau yn y Gymraeg ar gyfer 2009.

Mae tirwedd y rhithfro wedi newid ers hynny. Sawl blog wedi ymddangos, sawl blog wedi cau, ambell un wedi cau cyn sleifio’n ôl gyda’u cynffonau rhwng eu coesau (dw i’n edrych arnoch chi Hogyn o Rachub a Chris Cope).

Mewn rhai ffyrdd mae safon y rhithfro ychydig yn wannach eleni nag oedd hi’r llynedd. Dim ond cysgod o flog Rhif #1 y llynedd, Metastwnsh, sydd yn weddill.  Dyw Dogfael heb ddweud unrhyw beth ers misoedd. Ac mae ambell i flog arall oedd ar frig y rhestr y llynedd wedi tawelu’n sylweddol.

Ond mewn rhai ffyrdd eraill mae’r rhithfro yn lle llawer mwy amrywiol, ac mae’r dadansoddiad gwleidyddol, yn enwedig, wedi gwella’n sylweddol.

Efallai bod Facebook a Twitter yn ennill tir ac yn gwthio’r hen fforymau trafod a blogiau o’r neilltu fel prif gyfrwng sylwebaeth ar y we. Ond un peth nad ydi Facebook a Twitter yn ei wneud cystal yw rhoi’r cyfle am ddadl dda – ac mae blogiau yn arbenigo ar hynny.

Beth bynnag, dyma’r 10 blog gorau yn y Gymraeg sy’n cael eu hysgrifennu yn ddi-dâl…

Rhif 10: Pethau Bychain

Yn dechnegol dim ond un diwrnod allan o’r 365 oedd y blog yma o ryw lawer o ddefnydd, sef 3 Medi. Ond yn yr un diwrnod hwnnw fe achosodd mwy o gyffro nag y mae’r rhan fwyaf o flogiau yn ei greu mewn blwyddyn.

Nod y blog oedd annog pobol i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.

Fe wnaeth trigolion y rhithfro ymrwymo i wneud hynny, yn eu cannoedd, a’r canlyniad oedd un o’r dyddiau prysuraf yn hanes y we Gymraeg erioed, mae’n siŵr.

Er bod ambell i hen Scrooge wedi pigo beiau, does dim gwadu bod y diwrnod hwnnw’n llwyddiant, (er nad oedd yna effaith amlwg ar iechyd y rhithfro y diwrnod wedyn – Mr Scrooge).

Rhif 9: Fideo Bob Dydd

Blog sy’n gwneud beth mae o’n ei wneud ar y tin. A blog sy’n diweddaru’n gyson iawn hefyd, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu. Byddai creu blog llawn deunydd fideo Cymraeg yn gostus ac yn llyncu amser  – syniad y blog yma yw cymryd yr holl ddeunydd fideo Cymraeg sydd allan yno a’i archifio yn yr un lle. “Hidlo’r aur o’r cachu,” ys dywed y blog ei hun. Syniad syml ond effeithiol.

Rhif 8: Morfablog

Mae hi bron yn ddegawd ers i’r blog yma, tad y blogiau Cymraeg, gan godfather y we Gymraeg, ddechrau. Mae hi wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all yr awdur Nic Dafis gadw pethau y mae o’n taro ar eu traws wrth bori’r we. Efallai fy mod i’n dewis ar reputation yn hytrach na form fan hyn, ys dywed y pyndits rygbi, ond byddai’n rhaid cau’r blog yma i lawr cyn ei bod hi’n gadael fy 10 uchaf i.

Rhif 7: Blog Rhys Llwyd

Roedd y blog yma’n ail o’r brig y llynedd ond mae o wedi tawelu rhywfaint ers hynny, gyda chofnodion mwy ysbeidiol a phytiog.  Dyw’r cynnwys ddim at dast pawb ond mae’n cynnig dadansoddiad deallus a thrylwyr o rai o faterion y dydd, pan gaiff yr awdur amser i wneud hynny.

Rhif 6: Blog yr Hogyn o Rachub

Dyfalbarhad yw un o brif rinweddau’r blog yma – mae o wedi bod wrthi ers 2003. Felly mae o’n colli pwyntiau am roi’r ffidil yn y to am gyfnod yn gynharach eleni cyn ail ddechrau ar y gwaith o gofnodi hynt a helynt ei fywyd yn fuan wedyn. Dyddiadur ydi’r blog yma i bob pwrpas, ac mae rhywun yn cael yr argraff bod ysgrifennu ei lith ddyddiol yn gymaint o ran o ddiwrnod yr awdur a mynd i’r tŷ bach. Er hynny mae yna ambell i gofnod craff ynglŷn â stad y byd fel y mae hi heddiw.

Rhif 5: Pugnacious Little Trolls

Blog arall sy’n colli pwyntiau am gau i lawr mewn huff, cyn ailymddangos ychydig yn ddiweddarach ar ôl newid ei feddwl. Fel ei lyfr Cwrw Am Ddim, mae blog Chris Cope yn boenus o agored ynglŷn a’i fywyd, i’r pwynt lle mae o bron a bod yn codi cywilydd ar y darllenwr. Ond er gwaetha’r hunan dosturi (sy’n llethod ar brydiau) does dim gwadu ei fod o’n gallu sgwennu’n abennig o dda, er ei fod o’n dal i ystyried ei hyn yn ddysgwr am ryw reswm.

Rhif 4: Y Twll

Mae y Twll i gelfyddydau beth oedd yr hen Metastwnsh i dechnoleg. Mae’n flog gan Carl Morris, sydd hefyd yn cynnal blog dwyieithog hynod ddiddorol Quixotic Quisling, ac ambell i gyfranwr gwadd. Fel Morfablog a Fideo Bob Dydd mae o’n aml yn gyfrwng er mwyn cofnodi pigion sydd wedi dal llygad yr awdur, heb ryw lawer o gyfraniad gan ef ei hun. Ond mae yna ambell gyfweliad, adolygiad a a thrafodaeth sy’n ei godi uwchlaw yr rheini.

Rhif 3: Blog Guto Dafydd

Nodwyd y blog yma ar y rhestr y llynedd fel un i’w gwylio yn y dyfodol, ac ers hynny mae o wedi blodeuo i mewn i un o’r blogiau gorau yn y rhithfro. Mae rhai o’r blogiau ychydig yn rhy gryno ac mae rhywun yn cael yr argraff bod lot o ddarpar-gynnwys y blog yn cael ei wasgaru rhwng y cŵn a’r brain ar Twitter. Serch hynny dyma’r blog orau i ddod i’r golwg ar y rhithfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhif 2: Yr Hen Rech Flin

Fel y nodwyd y llynedd, un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg sy’n cael ei ddiweddaru’n fwy cyson o lawer. Serch hynny mae cynnwys ei hen flog blin Cymraeg yn weddol unigryw. Mae ganddo’r gallu i wneud pwynt gwleidyddol craff yn gryno, ac mae’r bartneriaeth gecrus rhyngddo ef a Blogmenai (isod) yn un diddorol.

Rhif 1: Blogmenai

Dyw hi ddim yn syndod efallai mai tri blog gwleidyddol sydd ar frig y rhestr eleni, mewn blwyddyn oedd yn cynnwys un etholiad ac ar drothwy dau refferendwm ac un etholiad arall. Mae hi hefyd yn flwyddyn, diolch i’r toriadau gwario, lle y mae penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio er fywydau dydd i ddydd pobol fel erioed o’r blaen. Ond hyd yn oed heb y cyd-destun hwnnw mae’n debyg mai Blogmenai fyddai’n dod i’r brig eleni. Dyma’r dadansoddiad gwleidyddol gorau o wleidyddiaeth Cymru ar y we, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r ysgrifennu o safon broffesiynol, ond un o brif rinweddau’r blog yw nad oes gan yr awdur rôl ar reng flaen gwleidyddiaeth nac fel newyddiadurwr ac felly mae o’n rhydd i ddweud unrhyw beth mae o ei eisiau, gan dynnu blewyn o drwyn pawb o’r Archdderwydd i Aelodau Cynulliad ei blaid ei hun.

Roedd yn rhif 1 yng Nghymru yng ngwobrau blogiau Total Politics, tipyn o gamp i flog nad ydi 80% o’r boblogaeth yn gallu ei darllen. Mae’n haeddu pob clod ac fe fyddai’r rhithfro yn lle llawer salach hebddo.

10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2009

Cyhoeddwyd Tachwedd 17, 2009 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: 10 Uchaf, Technoleg

Rhydd i bawb ei farn. Dyma’r 10 blog gorau yn y Gymraeg sy’n cael eu hysgrifennu yn ddi-dâl…

Rhif 10: Clecs Cilgwri
Blog tiwtor i griw o ddysgwyr sy’n byw yng Nghilgwri yn Lloegr. Gwella ei Gymraeg yw’r rheswm swyddogol am y blog ond mae’n cynnig ei farn ar ystod eang o bynciau, a hynny bron bob dydd, ers 2004.

Rhif 9: Blog Answyddogol
Blog y cynghorydd a chyn olygydd Barn Dyfrig Jones, sy’n rhoi sedd flaen i’r frwydr waedlyd rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. O bryd i’w gilydd bydd hefyd yn trafod pynciau ychydig yn fwy ysgafn fel ffilmiau a chartwnau. Heb ddiweddaru ers deufis ac felly yn colli tir – ond mae’n swyddogol yn un o’r blogiau Cymraeg gorau.

Rhif 8: Hen Rech Flin
‘Myfyrdodau Alwyn ap Huw am Gymru a’r byd tu hwnt’. Dyn ‘blin’ sy’n gryf ei farn ar wleidyddiaeth Cymru ac sydd yn fodlon torri ei gwys ei hun a beirniadu Plaid Cymru a’i dilynwyr. Er hynny, yn anffodus i’r blog hwn, mae’n cofnodi ei farn yn fwy cyson ac yn fwy trwyadl yn Saesneg dan yr enw Miserable Old Fart.

Rhif 7: Blog Menai
Un arall sydd, fel yr Hen Rech Flin a’r blog Answyddogol, yn ei chanol hi yng Ngwynedd. Mae rhywun yn cael y teimlad ei fod yn pryfocio er mwyn ennyn ymateb ar brydiau, ond mae’n flog diddorol serch hynny gyda nifer o sylwadau craff.

Rhif 6: Blog yr Hogyn o Rachub
Blog sydd wedi bod yn mynd ar ryw ffurf neu’i gilydd ers blynyddoedd maith, yn dilyn hynt a helynt cyn-fyfyriwr sy’n treulio’i amser yn Rachub a Chaerdydd. Mae wedi blogio ei ffordd o’r ysgol uwchradd, drwy’r coleg a thu hwnt. Dyfalbarhad a barn digon diddorol ar newyddion y dydd.

Rhif 5: Arth sy’n Dawnsio
Blog yr Americanwr Chris Cope, sy’n gryf ei farn a ddim yn ofn pechu drwy ladd ar rhai agweddau o Gymru, y Cymry a’r Gymraeg. Mae braidd yn negyddol ac ar brydiau yn codi’r cwestiwn pam ei fod o wedi penderfynu symud i Gymru a dysgu’r iaith os ydi pethau mor wael â hynny. Ond mae’n ysgrifennu mewn modd doniol a darllenadwy, ac yn boenus o onest ar brydiau.

Rhif 4: Morfablog
Y blog ddechreuodd y cwbl, yn ôl yn 2001. Mae wedi bod yn dawelach yn ddiweddar, wrth i’r blogiwr Nic Dafis, godfather y we Gymraeg a chrewr fforwm trafod Maes-e, rannu ei amser gyda diddordebau eraill. Er bod y perchennog yn cyhoeddi o dro i dro ei fod wedi hen laru ar y busnes blogio yma ac yn cau’r siop am gyfnod, mae’n parhau i gynnig cofnod eclectig o bob math o ryfeddodau rhyngwladol.

Rhif 3: Blog Dogfael
Blog gan y ‘derwydd a chynghorydd’ o Aberystwyth. Mae ganddo ddigon i’w ddweud am deithio, cadw trefn ar ganol ei dref, y celfyddydau ac amrywiaeth o bynciau eraill – ac yn gwneud y cyfan mewn modd darllenadwy a diddorol. Mae’r negeseuon braidd yn hir ond mae’n torri’r tecst yn ddarnau manach drwy ddefnydd lluniau trawiadol a diddorol.

Rhif 2: Blog Rhys Llwyd
Nid pawb sydd â diddordeb yn synfyfyrio dyddiol Rhys Llwyd am stad Cristnogaeth yng Nghymru heddiw, ond does dim dadlau nad yw cysondeb ac ansawdd y blog yma yn ei roi tua brig y rhestr. Mae ganddo ddigon i’w ddweud ar ystod helaeth o bynciau, ac yn gryf ei farn. Yn ddiweddar mae hefyd wedi ychwanegu podlediadau a chyfweliadau fideo. Os nad ydych chi’n cytuno gyda’r efengylwr ifanc, mae’r ddolen ‘sylwadau’ yno am reswm.

Rhif 1: Metastwnsh
Blog wedi ei redeg ar y cyd gan chwech o gyfranwyr, sy’n trafod technoleg a’r we drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd drwyadl a diddorol. Mae hefyd yn rhoi sylw i feddalwedd cyfrwng Gymraeg a datblygiadau technolegol yng Nghymru, sydd ddim yn cael lot o sylw fel arall. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth ar Twitter.

Rhai i’w gwylio…

Mae yna ambell newyddian i’r byd blogio amatur sydd heb fod ar eu traed yn ddigon hir i’w cynnwys yn y rhestr: o’r rheini, blogiau Blog Guto Dafydd a Blog Dylan Llyr sy’n denu’r sylw.

Dŵr glân ar y Lleuad – ond nid yn India…

Cyhoeddwyd Medi 25, 2009 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Technoleg, Y Gofod

Ifan Morgan Jones sy’n dweud nad yw’r Lleuad yn bwysig tan fod gwledydd yn datrys problemau sylfaenol ar y Ddaear…

Pam bod India yn chwilio am ddŵr glân ar y lleuad pam nad oes digon i’w gael ar gyfer ei phobol ei hun?

Mae’r Llywodraeth wedi gwario £49 miliwn ar y lloeren Chandrayaan-1 a ddaeth o hyd i’r dŵr, a hynny ar gefn prosiect gofod sy’n costio biliynau.

Yn y cyfamser, dim ond 8 dinas yn India, allan o dros 3,000, sydd â chyfleusterau er mwyn trin carthffosiaeth.

Mae 114 dinas yn gollwng eu gwastraff yn syth i mewn i afon Ganges – afon sy’n cael ei hystyried yn sanctaidd ac yn cael ei defnyddio ar gyfer ymolchi ac yfed.

Mae’r Ganges yn ddu mewn rhai mannau, ac yn llawn cyrff anifeiliaid a hyd yn oed cyrff pobol.

Ar yr un pryd mae China yn bwrw ymlaen gyda’i rhaglen ofod hithau. Mae gorsaf lansio Xichang – Cape Canaveral China – yn cael ei hegni yn rhannol o gyfres o argaeau i’r Gorllewin sydd wedi boddi dyffrynnoedd anferth.

Cafodd rywfaint o’r dinistr a achoswyd gan adeiladu’r argaeau ei gofnodi gan y ffotograffydd o Gymro, Rhodri Jones, ar ymweliad â China a’u cyhoeddi mewn llyfr ganddo.

Mae ein cwynion ni am Dryweryn yn ymddangos yn bitw iawn o’i gymharu â “Tryweryn Tibet”, fel y mae Rhodri yn ei alw.

Mae archwilio’r gofod a rhoi pobol yn ôl ar y Lleuad yn brosiectau pwysig – ond mi ddylai gael ei wneud am y rhesymau cywir.

Dylai gwledydd fod eisiau mynd i’r gofod er mwyn cynyddu dealltwriaeth y ddynoliaeth o’r bydysawd, nid er mwyn dangos eu hunain i weddill y gymuned ryngwladol.

Efallai mai economi China a’r India sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Ond tan eu bod nhw’n medru edrych ar ôl eu pobol ar y Ddaear, dyw’r Lleuad ddim yn bwysig.

Ydi cyfieithwyr ar-lein yn gweithio?

Cyhoeddwyd Medi 3, 2009 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Cymraeg, Technoleg

Ifan Morgan Jones yn rhoi Google Translate ar brawf…

Yr wythnos ddiwethaf, heb ddim ffanffer o gwbwl, ychwanegodd Google yr iaith Gymraeg at y rhestr o ieithoedd y mae nhw’n darparu gwasanaeth cyfieithu am ddim ar eu cyfer. Fel gwasanaethau cyfieithu ar-lein eraill, mae’r gwaith yn cael ei wneud yn awtomatig gan gyfrifiadur.

Mae yna fanteision amlwg i gyfieithwyr ar-lein o’r fath. Mae talu cyfieithydd proffesiynol yn costio tua £60 am gwta 1,000 o eiriau. Ac, am wn i, mae angen caniatau ychydig oriau iddyn nhw gwblhau’r gwaith. Mae cyfieithwyr ar-lein yn cymryd eiliadau, am ddim, ac ar gael yn hawdd i’w cyrraedd ar y we heb ddim ffws. Dim angen codi’r ffôn na e-bostio dim draw.

Ydi’r cyfieithydd ar y we ar fin rhoi’r cyfieithydd traddodiadol allan o waith felly? Hyd y gwela i, dyw’r rhan fwyaf o’r cyfieithwyr ar-lein mwyaf poblogaidd ddim yn darparu ar gyfer y Gymraeg. Mae Babelfish yn cyfieithu i ddau wahanol fodd o ysgrifennu Tsieinëeg, FreeTranslation.com i Hausa, a WorldLingo i Pashto, ond does dim ieithoedd Celtaidd ar eu cyfyl nhw.

Wrth gwrs, o gymharu â’r ieithoedd rheiny mae’r nifer o bobol sy’n siarad Cymraeg yn bitw. Ac, yn wir, roedd Google Translate yn darparu ar gyfer 50 iaith arall cyn ychwanegu’r Gymraeg.

Inter Tran a Geriaoueg

Felly, sut beth yw’r cyfieithwyr Cymraeg sydd ar gael? Yn ogystal â chyfieithydd Google, yr unig wefan arall sy’n darparu gwasanaeth ar-lein sy’n addo cyfieithu brawddegau llawn (yn hytrach na geiriau unigol) o Gymraeg i Saesneg ac yn ôl yw Inter Tran.

Yn anffodus dyw Inter Tran bron ddim yn haeddu ei enw fel cyfieithydd. Nid diffyg ymdrech yw’r broblem – mae Inter Tran yn ceisio cyfieithu pob dim, pe bai’n gwybod beth yw’r cyfieithiad ai peidio.

Felly mae cwestiwn syml fel ‘Will this translate properly or make a mess of things?’ yn cael ei drosi i ‘Ewyllysia hon chyfieitha ‘n addas ai gwna cawdel chan bethau?’

Y trafferth gyda Inter Tran yw bod nifer o gwmniau yn ei ddefnyddio heb sylwi bod dim byd o’i le. Am ei fod o’n hyderus geisio cyfieithu popeth yn hytrach na gadael y geiriau nad yw’n deall, mae nhw dan yr agraff ei fod o’n gwybod beth mae o’n ei wneud.

Fel canlyniad, mae Inter Tran sy’n gyfrifol am ddegau o arwyddion ‘Sgymraeg’ i’w gweld ledled Cymru. Yr oll alla i ddweud yw ‘InterTran ydy crap am yn Cymreigio’.

Mae yna un cyfieithydd arall, sy’n gaddo trosi o’r Gymraeg i’r Seasneg yn unig, sef y cyfieithydd cod agored Geriaoueg. O’i gymharu a Inter Tran mae’n gywir iawn, a nid yn unig mae o’n gwrthod ceisio cyfieithu geiriau nad yw’n deall ond mae’n rhoi * bach i’ch rhybuddio chi yn eu ymyl hefyd.

Google Cymraeg

Ymlaen at Google Translate, felly. Dyma’r unig un o’r tri sy’n cyfieithu brawddegau unigol yn ogystal a gwefannau cyfan. Dyma sut y mae gwefan Golwg 360 yn ymddangos yn y Saesneg, er diddordeb.

Un pwynt diddorol yw ei bod hi’n eithaf amlwg bod Google Tranlsate wedi ei seilio ar gofnod y Cynulliad – yr un cofnod mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu fis diwethaf i gael gwared ohono. Mae hyn yn arbennig o amlwg wrth geisio cyfieithu ‘First Minister’. Mae’n dod allan fel ‘Prif Weinidog Cymru’, hyd yn oed os ydach chi’n sôn am Alex Salmond!

Mae’n gyfieithydd dipyn gwell nag Inter Tran, er bod y cyfieithiad o Gymraeg i Saesneg i weld dipyn yn fwy cywir nag y cyfieithiad o Saesneg i Gymraeg.

Ond na, dyw hwn chwaith ddim yn gywir, nac yn agos at fod yn gywir. Er ei fod o’n well nag Inter Tran, mae yna beryg o hyd y byddai cwmnïau yn penderfynu defnyddio hwn yn hytrach nag gofyn am wasanaeth cyfieithydd proffesiynol.

Ond ar y llaw arall, mae o’n rhyfeddol o agos ati, a byddai rywun di-Gymraeg fyddai’n cyfieithu i’w iaith ei hunan yn deall o leiaf 75% o’r cyfieithiad.

Ydi o’n amser i gyfieithwyr Cymru ddechrau edrych dros eu hysgwyddau felly? Ydi’r peiriannau ar fin cymryd eu swyddi nhw? Nid yw’n anodd credu, o fewn cwta degawd, na fydd eu hangen nhw o gwbwl.

Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, efallai, bydd mod byw eich bywyd cyfan drwy’r Gymraeg, oherwydd bod modd cyfieithu popeth arall iddo gyda chlic botwm.

A fydd yna ddim esgusodion i gwmnïau sy’n honni bod cost cyfieithu i’r Gymraeg yn ormod…

Newyddion trist i’r rhai sy’n gwneud eu bywoliaeth o’r iaith efallai, ond – dyma’r paradocs – newyddion da i’r iaith.

A oes RSS? RSS! Gorsedd y Gîcs 2009

Cyhoeddwyd Awst 7, 2009 gan Rhodri ap Dyfrig. Dim sylw.

Tagiau: Technoleg

Archdderwydd Gorsedd y Gîcs, Rhodri ap Dyfrig, sy’n ein cyflwyno i’r digwyddiad cyntaf o’i fath yn y Gymraeg…

Eleni cynhaliwyd digwyddiad ymylol yn yr Eisteddfod nas gwelwyd ei debyg o’r blaen. Nos Iau daeth grŵp o bobol allan o’u stafelloedd a swyddfeydd tywyll, oddi wrth eu sgriniau LCD, i olau llachar haul y Bala. Yno roedd rhaglenwyr, blogwyr, dylunwyr gwefannau, nyrdiau teclynnau, cyfieithwyr meddalwedd a ffyddloniaid rhwydweithiau cymdeithasol. Roedden nhw i gyd yno ar gyfer blwyddyn gyntaf Gorsedd y Gîcs, sef cyfarfod anffurfiol i rannu gwybodaeth a straeon ar ddefnydd technoleg a’r we yn y Gymraeg.

Trefnwyd y digwyddiad gan gyfranwyr blog technoleg a gwe Metastwnsh.com ar y cyd gyda Hedyn.net, gwefan sy’n rhannu gwybodaeth ar greu gwefannau Cymraeg a phrosiectau lleoleiddio meddalwedd.

Y bwriad yn y bôn oedd cael esgus i gwrdd â’n gilydd y tu allan i’r rhithfyd. Mae sawl un o gyfranwyr Metastwnsh wedi bod yn cydweithio ar y blog ers dros chwe mis bellach a hynny heb iddyn nhw gyfarfod ei gilydd unwaith. Roedd hwn yn gyfle i roi wyneb i’r rhithffurf a gweld pwy yw’r person y tu ôl i’r persona.

Ond bron i ni gael trychineb cyn dechrau – doedd y WiFi ddim yn gweithio yn y lleoliad ddewison ni! Be fydden ni’n wneud heb sgrin fach i guddio tu ôl iddo? Ond na phoener, aethon ni dros y ffordd i dafarn arall oedd â digon o sudd gwe i gadw pawb yn hapus. Cyhoeddwyd y newid lleoliad ar Twitter a llwyddodd pawb oedd eisiau dod i gyrraedd ar ôl gweld y neges.

Ar ôl peint i lacio’r genau roedd y trafod yn frwd, pawb yn y stafell a’u ffonau i-dot a’u gliniaduron yn dangos pa feddalwedd neu wefannau roedden nhw’n gweithio neu wirioni arno. Yma mewn un stafell roedd injan y we annibynnol Gymraeg ar waith ac roedden ni’n hynod falch o weld brwdfrydedd pawb. Wrth edrych rownd roeddwn yn sylwi pa mor bwysig oedd digwyddiadau bach fel hyn i ail-danio’r egni hyn ac i sbarduno syniadau fel gwreichion bychain.

Roedd eraill nad oedd yn gallu bod yno’n dilyn y drafodaeth yn fyw ar Twitter neu ar wefan Stwnsh ‘Steddfod lle’r oedd ein negeseuon yn ymddangos, ac roedd ambell lun a fideo o’r digwyddiad yn cael eu postio i’r we yn y fan a’r lle. Felly cafwyd noson ryngweithiol, ddigidol, gymdeithasol wrth ein boddau – a hynny yng nghanol cefn gwlad Cymru. Gan brofi, os oedd angen gwneud hynny, bod gynnon ni’r potensial i fod yn wlad flaengar, gysylltiedig er ein problemau.