Cynyddu maint testun

Golwg360

Dysgu gwersi o gêm ryngwladol olaf y flwyddyn

Cyhoeddwyd Rhagfyr 5, 2011 gan Caio Higginson. Dim sylw.

Tagiau: Awstralia, Rygbi, Warren Gatland


Warren Gatland
Gyda gêm ryngwladol olaf 2011 y tu ôl i ni, beth yw’r hyn yr ydym wedi dysgu o’r gêm honno?

Heb os fe wnaeth y rhanbarthau ddioddef ar y maes o ganlyniad i’r gêm ryngwladol. Cafwyd canlyniad arswydus i’r Gleision yn Nulyn tra bod Ravenhill wedi profi’n dalcen caled i’r Scarlets er iddyn nhw lwyddo i ennill pwynt bonws am eu hymdrechion.

Ond efallai mai’r rhwystr mwyaf anfanteisiol i’r rhanbarthau yw eu paratoadau ar gyfer gemau Cwpan Heineken y penwythnos yma. Wrth ystyried fod Munster wedi cychwyn y gêm yn erbyn y Gweilch gyda Paul O’Connell a Ronan O’Gara ar y fainc ddydd Sadwrn, roeddent yn gobeithio gorffwys y rhain cyn y gêm Gwpan Heineken yn erbyn y Scarlets yr wythnos yma. Mae’n glod i’r Gweilch orfodi iddynt ddod i’r cae i geisio adfer y canlyniad, a’u hatal rhag gwneud hynny.

Bu Warren Gatland ei hun yn ddi-flewyn ar dafod yn datgan mai am resymau ariannol y trefnwyd y gêm yn erbyn  Awstralia’r penwythnos diwethaf ac nad oedd y trefniant yn ddelfrydol o ran ffitrwydd a chyflwr corfforol y chwaraewyr.

Er hyn, ni allech amau  brwdfrydedd y chwaraewyr a gamodd i gae’r Mileniwm b’nawn Sadwrn diwethaf wrth gofio tacl Jamie Roberts a Toby Faletau. Ac ar ben hynny wrth gwrs roedd encore y dewin o’r Amman yn gyfle i’r genedl ffarwelio a’u harwr.

Ond wrth gwrs rhaid edrych ar sut mae’r rhanbarthau’n elwa o’r gêm ryngwladol yn erbyn yr Aussies. Heb y tri neu bedwar gêm arferol sydd yn digwydd yn ystod cyfres yr Hydref eleni, roedd yna dolc yn siŵr o fod yn incwm rygbi Cymru.

Felly wrth gwrs rhaid cadw mewn ystyriaeth mai er lles rygbi yng Nghymru yn gyffredinol fydd yr elw a wnaethpwyd o’r gêm ddydd Sadwrn, ac mae’n adnodd ariannol gwerthfawr i’r rhanbarthau.

Dyfodol

Felly er ein bod yn dal i chwilio am fuddugoliaeth yn erbyn un o fawrion hemisffer y de dan reolaeth Warren Gatland, mae yna bethau i’w dysgu o’r gêm yn erbyn Awstralia.

Er mor braf oedd gweld Shane Williams yn sgorio yn ei weithred olaf ar y llwyfan rhyngwladol, a galar meddwol y cefnogwyr yn diawlio ei henaint, mae yna ddigon o asgellwyr ifanc a chyffrous yng ngharfanau’r pedwar rhanbarth Cymreig a fydd yn gwthio am lefydd nes y Cwpan Byd nesa.

Ar frig agenda Gatland fydd dod o hyd i’r ‘Prop Ffactor’ nesa, ac yn fwy penodol y prop pen tynn nesa. Cafodd Scott Andrews fedydd tân yn erbyn y Crysau Aur, ond dyna’r awyrgylch gorau i ddysgu ynddo. Mae Adam Jones yn 30 mlwydd oed felly fe fydd angen aeddfedu’r genhedlaeth nesa o sgrymwyr dros y pedair blynedd nesa.

Mae’r hyfforddwr cenedlaethol wedi codi gwrychyn ambell gefnogwr wrth ddiystyru rhai propiau aeddfetach yn y rhanbarthau gan ganolbwyntio ar ieuenctid ar gyfer y dyfodol, ond mae’r polisi yma wedi gweithio mewn safleoedd eraill yn y garfan.

Erbyn hyn mae gan Gymru ddyfnder da o chwaraewyr ym mhob safle arall. Profwyd hynny’r penwythnos yma wrth ystyried fod Alun Wyn Jones a Luke Charteris wedi’u hanafu. Mae olynydd i Martin Williams sef Sam Warburton wedi ei arwisgo yn nhân Cwpan y Byd ac fel y nododd Gatland wedi’r gêm ddydd Sadwrn, Jamie Roberts yw’r hynaf o’r olwyr yn 25 mlwydd oed, nawr fod Shane Williams wedi ymddeol.

Felly’r bennod nesaf ym mhrosiect Gatland a’i dîm o hyfforddwyr yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o bropiau!

Gambl fawr Gatland

Cyhoeddwyd Hydref 7, 2011 gan Cymru. 1 Sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd, Warren Gatland


Owain Schiavone sy’n ystyried dewis yr hyfforddwr o faswr ar gyfer y gêm yna yfory…

Gêm rownd wyth ola’ Cwpan Rygbi’r Byd.

Gêm bwysicaf Cymru erioed efallai? Yn sicr y gêm bwysicaf dw i’n ei chofio.

Ac ar wahân i Mathew Rees, mae’r chwaraewyr i gyd ar gael i Warren Gatland eu dewis i gamu i’r maes yn erbyn y Gwyddelod.

Pwy fyddai wedi meddwl flwyddyn yn ôl, na, pwy fyddai wedi meddwl ddeufis yn ôl mai Rhys Priestland fyddai’n dechrau’n safle’r maswr i Gymru, ac na fyddai lle i Stephen Jones yn y garfan o 22 o gwbl. Nid fi yn sicr.

Fel un sy’n dilyn rhanbarth y Scarlets, dw i wedi dilyn datblygiad Rhys Priestland hefyd. Er gwaethaf fflachiadau, tan tua chanol y tymor diwethaf doeddwn i heb fy argyhoeddi fod y Cymro Cymraeg unrhyw le’n agos at fod yn olynydd hirdymor i Stephen Jones fel maswr y Scarlets, heb sôn am Gymru.

Erbyn hyn, mae hynny’n edrych yn senario realistig iawn, ac yn wir yn senario cyffrous iawn i’w ranbarth ac i’r tîm rhyngwladol.

Gwendidau a chryfderau

Tydi Priestland ddim yn berffaith o bell ffordd – er gwelliant mawr yn ei gêm dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tipyn o waith eto i’w wneud.

Mae cwestiynau am ei amddiffyn ac nid yw’n daclwr arbennig o gryf, yn enwedig o’i gymharu â Stephen Jones, sydd fel cael trydydd blaenasgellwr ar y cae (neu bedwerydd os ydach chi’n cyfrif Gethin Jenkins hefyd!).

Gall cicio Priestland fod yn anghyson hefyd, yn enwedig at y pyst. Fel mae’r sylwebydd Huw Eic yn ein atgoffa’n rheolaidd, mae llwyddiant ei gêm gicio’n dibynnu llawer ar ei gic gyntaf at y pyst.

Er hynny, mae ei hyder yn llawer uwch erbyn hyn a bydd hyder tîm hyfforddi Cymru ynddo’n siŵr o fod yn hwb pellach.

Wrth gwrs, mae’r cryfderau’n bwysicach na’r gwendidau.

Prif gryfder Priestland sydd wedi dod i’r amlwg yng Nghwpan y Byd yw ei fod yn cael y gorau o’r rhai eraill o’i gwmpas, ac yn arbennig felly prif arf ymosodol Cymru dan Warren Gatland – Jamie Roberts.

Mae Priestland yn chwarae gêm fflat iawn, ac yn barod i ymosod llinell amddiffynnol y gwrthwynebwyr. Mae hyn yn tynnu dynion ato gan ryddhau lle i’r rhai tu allan iddo, a does neb wedi elwa’n fwy o hynny na Roberts, sy’n chwarae ei rygbi gorau ers taith y Llewod ddwy flynedd yn ôl.

Druan o Stephen

Ers i’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod gael ei chyhoeddi, mae’r ymadrodd ‘druan o Stephen’ wedi bod yn un sydd wedi atseinio trwy Gymru.

Go brin y bydd Stephen Jones yn teimlo unrhyw hunandosturi. Mae’n chwaraewr hynod gystadleuol, ac fe fydd yn siomedig o fethu â  chwarae rhan mewn gêm mor allweddol i’w wlad, ond fe fydd hefyd yn falch iawn o’i brentis.

Heb os mae cael Jones yn fentor iddo wedi gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad Priestland ar y cae ac oddi arno, a bydd yn dal i fod yn ddylanwad arno am rai blynyddoedd eto rwy’n siŵr.

Penderfyniad dewr

Ac yntau wedi profi ei ffitrwydd, ychydig iawn fyddai wedi darogan na fyddai Stephen Jones i gyda’i 102 o gapiau – yn y garfan o gwbl.

Rhaid cwestiynu’r penderfyniad i anwybyddu rhywun sydd â’r fath brofiad a dawn i reoli gêm. Gêm bwysicaf Cymru ers blynyddoedd maith, a phenderfynu gadael chwaraewr mwyaf profiadol y garfan allan yn gyfan gwbl?

Mae’n benderfyniad dewr a dweud y lleiaf.

Os yn ffit, roedd rhaid cael James Hook ar y fainc. Mae’n gallu chwarae mewn tri safle felly mae’n gwneud synnwyr.

Bydd rhai yn dadlau y dylai fod yn dechrau yn y canol gyda Jamie Roberts, ond er nad ydyw wedi sefyll allan yn y bencampwriaeth, dw i’n tybio bod John Davies yn gwneud llawer o’r gwaith caib a rhaw sy’n mynd heb ei weld.

Os oes angen, gall Hook ddod o’r fainc a chael impact ar y gêm.

Mae Scott Williams wedi creu argraff yn y ddwy gêm ddiwethaf, ac mae’n un i’r dyfodol heb os, ond byddai dyn yn llawer mwy cyfforddus o weld Stephen Jones yn llenwi un o seddi’r fainc.

Does gen i ddim amheuaeth mai Rhys Priestland ddylai ddechrau yn safle’r maswr ddydd Sadwrn, ond dw i ddim yn siŵr o ddoethineb gollwng Stephen Jones o’r garfan o 22 chwaraewr.

Mae’n gambl gan Gatland, a does ond gobeithio ei fod yn gambl fydd yn talu ei ffordd fore Sadwrn.

Ymlaen i’r Cwarteri a her y Gwyddelod


Mae Cymru wedi graddio o’i grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Caio Higginson sy’n asesu perfformiad Cymru a’i gwrthwynebwyr nesaf.

Haleliwia! Cymru yn y cwarteri ac yn chwarae rygbi sydd wrth fodd y cefnogwyr.

Mi roedd y perfformiad ddoe yn erbyn Fiji’n ennyn gobaith realistig i Gymru wneud rhywbeth go arbennig yn y gystadleuaeth yma.

Bu’r ‘ddau gawr’, fel y cyfeiriwyd atynt gan bob sylwebydd wedi’r gem ddoe, yn wefreiddiol yn hollti amddiffyn Fiji. Cyn i’r gystadleuaeth ddechrau roedd yna bryder fod Cymru yn or-ddibynnol ar nerth Jamie Roberts fel eu prif bygythiad ond gyda dyfodiad George North i’r llwyfan ryngwladol mi fydd pob amddiffyn fydd yn dod yn eu herbyn yn chwysu ryw damaid.

Wrth gwrs her gwbl wahanol fydd y Gwyddelod fore Sadwrn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef i’m hwyliau ostwng wedi gwylio Iwerddon yn dofi’r Eidal yn yr hanner cyntaf ac yna torri’n rhydd yn yr ail hanner.

Felly er gorfoledd rhai cefnogwyr ein bod yn osgoi gwledydd hemisffer y De cyn y rownd derfynol, mae pawb yn gwybod pa fath o gem fydd yn ein disgwyl yn erbyn y Gwyddelod. A phawb yn ansicr o’r canlyniad.

Fe fydd O’Connell a’i gyd flaenwyr yn awchu am y frwydr. Mi roedd sylwadau Nick Mallet, hyfforddwr Yr Eidal, cyn y gem ddoe wedi ysbrydoli dynion yr Ynys Werdd ac mae Gatland yn gwybod o brofiad nad yw sylwadau bach sarhaus yn talu ffordd yn erbyn rhain. Fe fydd cais dadleuol Mike Phillips yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddigon i greu araith danllyd yn ystafell newid Brian O’Driscoll ddydd Sadwrn.

Heb os nac oni bai fydd hon yn gem a hanner i gefnogwyr rygbi diduedd, ac yn 80 munud o straen a gofid i gefnogwyr y ddwy wlad Celtaidd. Ond mae yna ddigon i fod yn hyderus ohono.

Pwy fydd Gatland yn ei ddewis?

Mae’n ymddangos fod y blaenwyr yn fater go syml. Gyda Gethin Jenkins yn dychwelyd i’r tîm wedi cyfnod hirfaith o anafiadau mae wedi profi unwaith eto ei fod yn amhrisiadwy am ei gyfraniad yn y sgrym, chwarae rhydd ac fel trydydd blaenasgellwr ac yn ail faswr. Ac os yw’r adroddiadau’n wir, fydd carfan lawn gan Gatland i ddewis ohono, rhaid ystyried fydd Dan Lydiate yn dychwelyd i’r rheng ôl felly.

Mi fydd gan bawb, ar hyd a lled y wlad, farn am bwy ddylai ddechrau yn yr olwyr. Pwy a fyddai wedi darogan ar drothwy’r gystadleuaeth byddai Rhys Preistland bron yn sicr o’i le fel maswr? Mi fydd Gatland yn craffu yn ofalus am ei dactegau megis meistr gwyddbwyll.

Pwy, allan o bedwar cyfuniad posib, fydd yn ymuno â Jamie Roberts yn y canol? A ydi’n ddoeth i chwarae Lee Byrne? A ydi Leigh Halfpenny yn barod i chwarae yn ei le fel cefnwr? Os yw James Hook yn holliach a ydyw’n dechrau’r gem ac os ydyw ym mha safle? Ac efallai y cwestiwn pwysicaf oll, pwy all gadw Mr O’Drsicoll yn dawel?

Nerth y garfan

Ond y rheswm fwyaf am gynnal yr hyder yw nerth y garfan, a’r fainc yn benodol. Yn erbyn De Affrica, dim ond Bradley Davies a ddaeth oddi ar y fainc fel eilydd i Gymru, lle achubwyd y Springboks gan fyddin o eilyddion a ddaeth i ymateb a momentwm tîm Sam Warburton.

Gyda  Stephen Jones a Ryan Jones yn dychwelyd o anafiadau, perfformiadau diweddar Scott Williams, a Paul James sy’n sgrymiwr werth ei halen ar y llwyfan ryngwladol, fe fydd Cymru yn fwy na hyderus y gall y fainc yma ategu’r momentwm a pherfformiad ei chyd chwaraewyr wrth ymuno â’r ornest yng nghyfnodau hwyrach a dwys y gem.

Felly mae meddygon carfan Cymru wedi efelychu campau’r pair dadeni, ac mae gennym un gawr yn ychwanegol i’r hyn a oedd yn chwedl Branwen. Cawn ni ddim cyfle gwell!

Geiriau gwag Gatland

Cyhoeddwyd Chwefror 5, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Warren Gatland


Warren Gatland
Dyw’r Cymry ddim yn araf iawn fel arfer wrth alw am ben hyfforddwyr rygbi ond hyd yn hyn rydym ni wedi bod yn oddefgar iawn yn achos Warren Gatland. Dyw Cymru ddim wedi ennill gêm er iddyn nhw faeddu’r Eidal gartref y llynedd. Pe bai hyfforddwr llai profiadol fel Gareth Jenkins mewn sefyllfa o’r fath fe fyddai’n pacio ei fagiau erbyn hyn.

Mae’r goddefgarwch hwnnw yn bodoli’n bennaf oherwydd llwyddiant cynnar Warren Gatland, a’r ffaith bod y rhan fwyaf yn credu ei fod yn hyfforddwr da iawn yn y bôn. Camgymeriadau gwirion gan y chwaraewyr eu hunain ar y cae sy’n bennaf gyfrifol am ein problemau ni ar hyn o bryd – er nad ydw i’n deall pam na allai cyn fachwr sicrhau bod y llinell yn ddiogel.

Alla’i faddau colli yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddoe. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae Lloegr yn dîm da unwaith eto. Roedd hynny’n mynd i ddigwydd ryw ben- wedi’r cwbl o ystyried eu hadnoddau a nifer eu chwaraewyr fe ddylen nhw fod oyr un safon a thimoedd Hemisffer y De. Beth sy’n rhyfeddol ydi eu bod nhw wedi bod yn dîm mor wael cyhyd.

Ond beth sy’n fy mhoeni i am Warren Gatland yw’r duedd newydd ac anffodus o anwybyddu’r gwirionedd. Roedd yn mynnu ar ôl y gêm neithiwr bod Cymru a Lloegr yn ddau dîm o’r un safon ac y gallai’r un o’r ddau fod wedi ennill y gêm. Y gwirionedd plaen i unrhyw un oedd yn gwylio oedd bod Cymru yn ail orau drwy gydol y 90 munud.  Roedd llygedyn o obaith hanner ffordd drwy’r ail hanner ond roedd Lloegr yn gwybod yn union beth oedd ei angen er mwyn cau pen y mwdwl ar y gêm.

Roedd y gêm yn fy atgoffa i’n bennaf o’r ornest rhwng y ddau dîm dwy flynedd yn ôl yn Stadiwm y Mileniwm, pan enillodd Cymru 23-15, neu y gêm yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn yn 2008 pan enillon nhw 12-16. Er bod y sgôr yn agos roedd Cymru wedi rheoli’r gêm yn llwyr a doedd yna ddim amheuaeth pwy fyddai’n fuddugol. Maen nhw wedi colli’r gallu i wneud hynny, a Lloegr wedi ei ennill.

Efallai mai ceisio argyhoeddi’r cyhoedd, neu ei chwaraewyr ei hun, oedd Gatland drwy ddweud eu bod nhw “wedi chwarae’n ffantastig”. Ond os ydi o wir yn credu hynny ei hun, rydyn ni mewn trafferth go iawn.

Penbleth Gatland

Cyhoeddwyd Ionawr 22, 2011 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, rygbi cymru, Warren Gatland

Gyda nifer o anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae gan hyfforddwr Cymru ddigon i gnoi cil drosto cyn enwi garfan i herio Lloegr yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Euros Lloyd sy’n astudio’r opsiynnau sy’n agored i Warren Gatland.

Yn dilyn siom flynyddol y Cwpan Heineken mae’n bryd i ni unwaith yn rhagor edrych ymlaen at bencampwriaeth y Chwe’ Gwlad.  Yr adeg o’r flwyddyn lle mae cefnogwyr y bêl hirgron yn paratoi yn eiddgar am eu tripiau i Gaeredin a Pharis ac yn bendant eu barn y bydd Cymru yn ennill y gamp lawn. 

Yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd rydych yn siŵr o glywed trafodaethau di-ri yn nhafarndai ar hyd a lled Cymru ynglŷn â phwy ddylai Warren Gatland gynnwys yn ei garfan.  Pwy ddylai gael chwarae maswr?  Pwy sy’n haeddu gwisgo crys yr wythwr a phwy fydd yn gefnwr?  Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi ac yna eu trafod bob mis Ionawr.

Fodd bynnag, eleni mae’r trafodaethau yn gyffredinol wedi canolbwyntio ar yr anafiadau a’r gwaharddiadau sydd wedi taro carfan Cymru. Mae sawl un o’r anafiadau yn rhai mewn safleoedd allweddol pwysig hefyd ac mae hynny mae’n siŵr yn bryder mawr i Gatland. 

Roedd colli chwaraewyr fel Richie Rees, Andrew Bishop, George North a Gethin Jenkins yn ergyd i’n gobeithion.  Mae Shane Williams a Lee Byrne hefyd wedi bod allan gydag anafiadau yn ddiweddar ac mae dal amheuaeth ynglŷn â’u ffitrwydd hwythau. 

Y golled fwyaf

Mae’n rhestr hir iawn ond mae yna un enw arall sydd wedi ymuno â’r rhestr hon ar ddechrau’r wythnos.  Enw Adam Jones yw hwnnw wrth gwrs a heb unrhyw amheuaeth dyma’r golled fwyaf i Gymru.  Bydd yna fwlch enfawr yn rheng flaen Cymru, yn gorfforol ac yn seicolegol, wrth iddyn nhw redeg allan yn erbyn Lloegr ar 4 Chwefror ac nid wyf yn credu bod gyda ni unrhyw un amlwg i lenwi’r bwlch hwnnw. 

Mae Adam Jones wedi datblygu i fod yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle.    Mae’n anodd credu faint mae Jones wedi datblygu o gofio yn ôl i’r dyddiau hynny lle byddai Steve Hansen yn ei ddefnyddio am hanner awr yn unig ar ddechrau pob gem ac yna ei dynnu oddi ar y cae oherwydd safon ei ffitrwydd.  Dyma brop a chwaraeodd ran flaenllaw wrth wthio sgrym De Affrica yn ôl yn ystod cyfres y Llewod yn 2009 – sgrym os gofiwch chi a oedd yn cael ei chwalu bob tro cyn cyflwyno Gethin Jenkins, Mathew Rees ac Adam Jones i’r frwydr.

Mae’n rhaid i mi ddweud y buaswn wedi bod wrth fy modd i gael gweld y tri yma’n chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers tipyn.  Byddai’n rheng flaen hynod o gryf ac roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr i gael gweld sgrym Lloegr yn symud am yn ôl, a hynny wrth i Brian Moore gwyno yn y blwch sylwebu. 

Bydd Paul James wrth gwrs yn llenwi esgidiau Gethin Jenkins ac er bod sgrymio James llawn cystal, os nad ychydig yn well na sgrymio Jenkins, bydd Cymru yn gweld eisiau cyfraniad prop y Gleision o amgylch y cae.  Nid oes neb amlwg ar gael i gymryd lle Adam Jones ac mae’r safle hwn wedi achosi nifer o broblemau i Gymru dros y blynyddoedd.  Mae Rhys Thomas o’r Scarlets wedi’i anafu felly a yw Gatland yn barod i roi cyfle i rywun fel Craig Mitchell, Scott Andrews, neu Ben Broster o’r Wasps?  Mae’n ofyn mawr i un o’r tri yma gamu i fyny ond mae’r opsiynau yn brin.

Y ddwy reng ôl

Credaf fod y dewis yn yr ail reng yn un syml.  Alun Wyn Jones a Bradley Davies yw’r ddau glo amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd.  Beth yw’r opsiynau eraill?  Deiniol Jones, Luke Charteris a Lou Reed o’r Scarlets.  Tra bod dyfodol disglair o flaen Lou Reed nid yw’n barod eto ac mae Deiniol Jones a Luke Charteris yn eilyddion digon dibynadwy.  Mae Ian Gough yn rhywun y gellir ei ddibynnu arno hefyd.

Mae gan Gatland ambell i opsiwn yn y rheng ôl.  Yn bersonol teimlaf fod Ryan Jones yn well wythwr na chlo ac y dylai barhau a’i yrfa wrth fon y sgrym.  Dwi ddim yn deall penderfyniad y Gweilch i chwarae Jones yn safle’r clo tra bod Jonathan Thomas yn wythwr.  Nid yw Jonathan Thomas yn cario’r bêl yn ddigon effeithiol ac anaml y gwelwch ef yn hyrddio ymlaen a gwthio amddiffynwyr o’r neilltu. 

Mae Andy Powell wrth gwrs yn gallu gwneud hynny ond mae yna gwestiynau mawr am ei ddisgyblaeth yn enwedig mewn gemau tynn.  Mae gan Gymru ddau flaenasgellwr ifanc talentog iawn y gallai wneud tipyn o argraff eleni.  Mae Sam Warburton a Dan Lydiate eisoes wedi dangos eu bod yn gallu dylanwadu ar gêm ac mae Josh Turnbull o’r Scarlets hefyd wedi creu argraff ar nifer gan gynnwys hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill.  Mae digon o ddewis i Gatland yn y rheng ôl ac mae’n siŵr y byddai Martyn Williams yn ddigon parod i chwarae os oes angen!

Yr olwyr

Wrth ystyried yr olwyr byddwn yn ddigon hapus i roi cyfle arall i Lee Byrne yn safle’r cefnwr.  Chwaraeodd yn siomedig iawn yng ngemau’r hydref yn enwedig yn erbyn Seland Newydd lle’r oedd ar fai am o leiaf dau o geisiadau’r Crysau Duon.  Os yw Shane Williams yn holliach mae’n haeddu ei le ar yr asgell chwith gyda Halfpenny ar yr asgell arall.  Trueni nad yw George North yn cael cyfle i ddychwelyd i’r tîm ond mae digon o amser gydag ef eto. 

Yn y canol byddwn yn hoffi gweld James Hook a Jamie Roberts yn cyfuno.  Yn bersonol dwi’n ffafrio chwaraewr creadigol yn y crys rhif 12 ac mae hynny’n bwysig wrth ystyried nad yw’n maswyr presennol ni yn gallu cynnig hynny. 

Yn faswr dwi’n teimlo y bydd yn rhaid i Gatland barhau â Stephen Jones, a hynny oherwydd nad oes yna unrhyw un arall sy’n ddigon da.  Nid yw Stephen Jones ar ei orau o gwbl ac mewn gwirionedd nid yw erioed wedi bod yn faswr sydd â dawn greadigol naturiol.  Mae’n faswr saff y gallwch ddibynnu arno i wneud y pethau sylfaenol yn effeithiol.  Yr unig opsiwn arall sydd gan Gymru yw Dan Biggar ac yn sicr nid yw ef yn haeddu ei le ar sail ei berfformiadau i’r Gweilch yn ddiweddar.  Fel gwlad sydd wedi cynhyrchu rhai o faswyr gorau’r gêm ar hyd y blynyddoedd mae’r sefyllfa bresennol yn creu pryder.  Lle mae’r Barry John neu Phil Bennet nesaf? 

Mike Phillips fydd dewis cyntaf Gatland fel mewnwr ond mae angen iddo ddechrau chwarae fel y gwnaeth ar daith y Llewod.  Nid yw wedi gallu ail ddarganfod y safon hwnnw ers dod adref o’r daith honno. Eto, gyda Richie Rees wedi’i wahardd mae’r gystadleuaeth i Phillips yn wan ac efallai ei fod yn rhy gyfforddus gan wybod nad oes neb amlwg i’w herio.

Cwpan y byd yn bwysicach?

Mae’n flwyddyn fawr i rygbi yng Nghymru ac er ei fod yn siom gweld Cymru heb nifer o’i chwaraewyr blaenllaw mae’n well bod yr anafiadau hyn yn digwydd nawr ac nid ym mis Hydref yn ystod Cwpan y Byd.  Y gystadleuaeth fawr eleni yw Cwpan y Byd a’r gobaith yw y bydd y tîm ar ei orau erbyn hynny ac yn gallu cystadlu gyda’r mawrion.  Fodd bynnag, gyda dechrau da yn erbyn Lloegr gall unrhyw beth ddigwydd. Yn amlwg, bydd tynged Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm gyntaf yn erbyn yr hen elyn.

Y tîm – dewis Euros 

15 Lee Byrne
14 Leigh Halfpenny
13 Jamie Roberts
12 James Hook
11 Shane Williams
10 Stephen Jones
9 Mike Phillips
8 Ryan Jones
7 Sam Warburton
6 Jonathan Thomas
5 Alun Wyn Jones
4 Bradley Davies
3 Craig Mitchell
2. Mathew Rees
1. Paul James