Cynyddu maint testun

Golwg360

Pleidleisiwch ‘Na’ i fwy o bwerau i’r Cynulliad

Cyhoeddwyd Hydref 4, 2010 gan Rachel Banner. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Refferendwm Datganoli, Y Cynulliad

Rachel Banner o True Wales sy’n dadlau dros bleidlais ‘Na’ yn y refferendwm ar fwy o berau i’r Cynulliad…

Os yw’r ymgyrch ‘Ie’ yn bwriadu dadlau y bydd pwerau newydd yn gwella ansawdd bywyd yng Nghymru, gan roi enghreifftiau penodol, yna mae’r un mor rhesymol i’r ymgyrch ‘Na’ edrych yn fanwl ar sut mae Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio ei phwerau hyd yma yn y cyswllt hwnnw. Does dim byd yn fwy sylfaenol i’r economi na llunio ansawdd bywyd yng Nghymru.

Gall ymgyrchwyr dros bleidlais ‘Ie’ gyflwyno gwahanol ddadleuon yn amlinellu llwyddiannau’r degawd cyntaf ers datganoli ond ni allant wneud hynny yn achos yr economi.

Pe bai hyn yn ddim ond arf ymgyrchu gan yr ymgyrch ‘Na’ gallai darllenwyr Golwg ddiystyru’r feirniadaeth, ond mae llawer o economegwyr blaenllaw yng Nghymru wedi dweud nad yw datganoli wedi bod o fawr ddim lles i economi Cymru.

Mae’r Athro Kevin Morgan wedi cyfeirio at fethiant y Cynulliad dros y degawd diwethaf i osod sylfeini economi fodern 21ain ganrif – er gwaethaf cyllid uwch na erioed d gan y Trysorlys a’r UE – fel ‘cyfrinach fach fudr datganoli’.

Mae’r Athro  Brian Morgan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol  (UWIC), wedi gofyn cwestiwn teg, sef paham mae “cyn lleied i’w ddangos o ran perfformiad economaidd ar ôl degawd o Lywodraeth y Cynulliad, ac ymhell dros £100 biliwn o wariant cyhoeddus”.

Mae’r record yn amlwg. Mae GVA Cymru – sef mesuriad o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn ardal fesul  – wedi gostwng o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf, o 77% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig i  75%. Mewn geiriau eraill, mae’r GVA yng Nghymru’n is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag yn holl ranbarthau Lloegr. Mae’n 25% yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig a bron i 50% yn is na Llundain.

Mae Mynegai dylanwadol Cystadleuaeth y Deyrnas Unedig (UKCI) ar gyfer 2010 yn dangos, o 12 rhanbarth a chenedl y Deyrnas Unedig, mai Cymru yw’r lleiaf cystadleuol. Mae’r holl ardaloedd lleiaf cystadleuol ar draws Prydain yng Nghymru.

Mae un o awduron yr adroddiad, yr Athro Robert Huggins o’r Ganolfan Cystadleuaeth Ryngwladol yn Athro Prifysgol Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er bod gogledd Lloegr yn gwneud “cryn gynnydd wrth wella ei gallu i gystadlu bod Cymru’n mynd yn fwyfwy ar wahân”.

Mae’n ychwanegu’n ddamniol bod  “fawr ddim tystiolaeth bod datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu at well allu i gystadlu” ac “mewn gwirionedd, mai’r gwrthwyneb sy’n wir i raddau helaeth”.

Wnaiff hi mo’r tro i Lywodraeth Cymru’n Un ddarganfod yn sydyn ddiffyg £300 miliwn Barnett a ddatgelwyd gan adroddiad Holtham. Mae’n defnyddio deilen ffigys Holtham i gelu rhag pobl Cymru’r gwirionedd sylfaenol bod gwariant uwch nag erioed ar economi Cymru wedi ein gadael, ddegawd yn ddiweddarach, yn dlotach o’n cymharu â gweddill y Deyrnas Uned.

Wrth gwrs rhaid i ni gywiro’r diffyg hwnnw – nid yw Llywodraeth San Steffan hyd yn oed wedi ymrwymo i roi “llawr” o dan fformiwla Barnett – ond nid yw’n cynnig ateb sylfaenol i wendid sylfaenol ein strwythur economaidd.

Bydd llawer o ddarllenwyr Golwg mae’n siŵr yn cefnogi’n gryf gynigion Holtham ar drethi a hefyd argymhellion Plaid Cymru ynghylch ennill pwerau macro-economaidd yn gyson. Nid oes diben i’r Blaid fod yn swil o leisio barn am gynigion treth Holtham, tra ar yr un pryd yn gweiddi’n groch am ddiffyg cyllid Barnett i Gymru.
Mae anghysondeb sylfaenol ym mholisi economaidd y Blaid. A fydd hi bob amser yn begera wrth ddrws Trysorlys y Deyrnas Unedig, neu a fydd yn ddigon onest i ddatgan yn eglur ei huchelgais ar gyfer polisi economaidd cenedlaethol?

I’r rhai sy’n dweud nad oes a wnelo’r economi ddim byd â’r refferendwm hoffwn i wneud dau bwynt i gloi. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y refferendwm ac Adroddiad Holtham; mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adolygiad tebyg i Calman o gyllid Cymru os bydd pleidlais ‘Ie’ ar Fawrth 3ydd.

Nid yw’r adolygiad hwnnw’n ymwneud yn unig â’r diffyg cyllidol a ddatgelwyd gan Gomisiwn Holtham. Mae a wnelo hefyd â chyflwyno pwerau treth incwm, fel y mae Holtham wedi argymell. Ni all Llywodraeth gyfrifol yng Nghymru gydio mewn un rhan o adroddiad mor bwysig â hyn, ond aros yn fud am y rhan arall.

Yn olaf, gadewch i ni roi sylw i eiriau Adam Price yn ei ysgrif ddisglair ‘Reinventing Radical Wales’ lle ysgrifennodd: ‘The transformation of the economy is, of course, the central question in Welsh life.’

Nid yw llywodraeth  â record economaidd druenus fel y Cynulliad dros y degawd diwethaf yn haeddu’r bleidlais o hyder fyddai ymhlyg mewn pleidlais ‘Ie’.

Llai o ASau – hwrê!

Cyhoeddwyd Gorffennaf 6, 2010 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Tŷ’r Cyffredin, Y Cynulliad

Dylan Iorwerth yn croesawu’r gostyngiad – gyda rhai amodau…

Mae angen croesawu’r bwriad i leihau nifer aelodau seneddol Cymru.

Ers datganoli, does dim digon o waith iddyn nhw ei wneud ac mae llawer – gyda rhai eithriadau amlwg – yn llwyddo i osgoi unrhyw newyddion na gweithgaredd amlwg.

Ond mae yna amodau i’r croeso.

I ddechrau, mae angen i’r newid fod yn gall. Tydi gosod ffigwr cyson ô tua 70,000 o bobol i bob sedd ddim yn cwrdd â’r gofyn hwnnw.

Hyd yn oed y tu allan i’r Orkneys ac Ynysoedd Gorllewin yr Alban, mae yna fyd o wahaniaeth rhwng y pwysau ar AS gwledig ac un trefol. Felly, mae angen rhywfaint o amrywiaeth o hyd.

Yn ail, yr effaith ar y Cynulliad. Os bydd nifer y seddi yng Nghymru’n dod i lawr i 30, mi fydd hynna’n rhoi cyfle perffaith i gael dwywaith y ffigwr o seddi yn y Cynulliad, yn ychwanegol at y seddi rhestr.

Mi fyddai hynny’n golygu cael 80 o ACau i gyd, sy’n llawer mwy addas ar gyfer yr holl waith etholaeth a’r holl waith newydd o baratoi a thrin deddfau.

Chwarae efo’r map

Mi fydd cyfle bellach i bobol chwarae efo’r map – uno hen sedd Caernarfon a Meirionnydd efallai … Môn a Bangor, cael dwy sedd i’r cyfan o Sir Gaerfyrddin, dileu un o seddi Caerdydd – ac yn y blaen.

Mi fydd angen cyfuno seddi yn y Gogledd Ddwyrain ac yn y Cymoedd hefyd ond, os nac ydi lefel y pleidleisio am syrthio eto, mi fydd rhaid i’r seddi newydd wneud sens daearyddol a chymdeithasol a fydd hynny ddim bob tro yn ffitio i’r fformiwla.

Y gwir ydi y bydd y newid yn arwain at ganlyniadau mwy teg yn Lloegr hefyd – gwlad Geidwadol ydi honno ac fe ddaw hynny’n fwy a mwy clir.

A dyna’r amod mawr yn y pen draw. Siawns na fyddai’r sefyllfa newydd yn arwain at bwysau i wneud newidiadau go iawn – i’r berthynas rhwng Lloegr a’r gwledydd eraill ac i’r dull pleidleisio.

Cyfaddawd diddim ydi’r busnes pleidleisio AV – y bleidlais 1-2-3. Siawns nad oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol go iawn ychydig gywilydd o’i gynnig ac esgus ei fod yn bleidleisio cyfrannol.

Ac mi ddylai’r Cynulliad – nid Ysgrifennydd Cymru – gael yr hawl, dan rai amodau, i newid dyddiad ei etholiadau ei hun, er mwyn osgoi dylanwad annheg o gyfeiriad Llundain.

Rhaid newid y gyfraith

Cyhoeddwyd Rhagfyr 8, 2009 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Mohammad Asghar, Y Cynulliad

Dylan Iorwerth yn ymateb i’r newyddion am Mohammad Asghar – yr AC rhanbarthol cynta’ i droi côt…

Dyma lun y dyn a ddylai fod yn AC tros Ddwyrain De Cymru – Colin Mann, cynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili – a’r trydydd ar eu rhestr yn y rhanbarth.

Mae penderfyniad Mohammad Asghar i droi at y Ceidwadwyr wedi dangos bod angen newid yng nghyfraith y Cynulliad.

Bellach, mae miloedd o bobol a bleidleisiodd i Blaid Cymru yn cael eu cynrychioli gan Dori a gan un sydd, yn ôl pob golwg, yn credu’n gwbl groes i’r Blaid ar eu polisi pwysica’ – datganoli ac annibyniaeth.

Ddylai hynny ddim bod yn bosib. I blaid y mae pobol yn pleidleisio yn y rhestrau rhanbarthol, nid i unigolyn. Mewn gwirionedd, mae miloedd o bobol Dwyrain De Cymru wedi colli eu pleidlais am flwyddyn a hanner.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’n wahanol. Unigolyn sy’n sefyll ac yn ennill ac yn dewis mynd o dan enw plaid a derbyn y chwip. Mae trefn y Cynulliad yn wahanol – ond, yn anffodus, dyw’r gyfraith hyd yn hyn ddim yn cydnabod hynny.

O dan y drefn fel y mae, mae gan Mohammad Asghar yr hawl i gadw ei sedd ond mater hawdd fyddai newid a rhoi’r hawl i’r blaid benodi AC newydd (o dan rai rheolau).

Yn ôl. cyn Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad, Winston Roddick, gogoniant y gyfraith ar hyn o bryd yw ei bod yn syml. Fe allai fod yn anodd mynd yn ôl, meddai, efallai ddwy neu dair blynedd wedi etholiad.

Efallai y byddai amodau’r nesa’ ar y rhestr wedi newid – fe allai cyflwr ei iechyd fod wedi newid; efallai na fyddai eisiau cymryd y sedd.

Ond mae ffordd o amgylch hynny i gyd. Ac mae symlrwydd a hwylustod i’r awdurdodau yn llawer llai pwysig na democratiaeth.

Sut fyddai’r Ceidwadwyr yn teimlo pe bai un o’u haelodau nhw yn croesi at Lafur neu’r Blaid Gomiwnyddol?

Fe allech chi hyd yn oed gael AC rhanbarthol yn penderfynu gadael un o’r pleidiau mawr ac ymuno â’r BNP a chadw ei sedd.

Ydi pawb yn hapus ar hynny?

Y broses ddatganoli’n symud ymlaen yn raddol

Cyhoeddwyd Tachwedd 1, 2009 gan Huw Prys Jones. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth, Y Cynulliad

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd y pôl piniwn manwl cyntaf ar gyfer Cymru ers dechrau’r flwyddyn. Cafodd Huw Prys Jones olwg fanylach arno…

Mae sefyllfa’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn ôl arolwg YouGov yr wythnos ddiwethaf wedi cryn sylw eisoes – fel yn y stori’n dwyn y pennawd ‘Llafur Cymru’n wynebu chwalfa’ ar Golwg360 ddydd Mawrth.

Mae agweddau pobl at arweinwyr y gwahanol bleidiau – gan gynnwys y tri ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur – hefyd wedi cael sylw helaeth yn y wasg a’r cyfryngau.

Yr hyn sy’n werth craffu arno ymhellach ydi agweddau pobl Cymru at ddatganoli – yn arbennig o ystyried y pwysau am refferendwm cynnar ar bwerau deddfu i’r Cynulliad.

Agweddau cadarnhaol at ddatganoli?

Mae llawer iawn o atebion yn awgrymu agweddau cadarnhaol at ddatganoli – gyda mwyafrifoedd gweddol glir yn dangos eu bod nhw’n ymddiried mwy yn y Cynulliad i weithio er lles Cymru; fod y Cynulliad wedi gwella rhywfaint ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu; ac wedi rhoi llais cryfach iddi ym Mhrydain.

Yn yr un modd mae mwyafrif tebyg yn credu mai’r Cynulliad ddylai gael y dylanwad mwyaf ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu, a mwyafrif digon sylweddol yn cytuno â gosodiad y dylai’r Cynulliad gael yr un pwerau â senedd yr Alban (63% o blaid, 28% yn erbyn).

Ar y llaw arall, pan ofynnir y cwestiwn penodol sut y bydden nhw’n pleidleisio mewn refferendwm “yfory” am hawliau deddfu llawn, mae’r ateb yn awgrymu brwydr llawer agosach – 42% o blaid, 37% yn erbyn, 6% ddim am bleidleisio a 15% ddim yn gwybod.

Mae dadansoddiad rhanbarthol o’r ffigurau hyn yn awgrymu tueddiad yn erbyn yn y Gogledd, yn y De-ddwyrain ac yng Ngorllewin y De (sef Abertawe a’r cyffiniau).

Mae hefyd yn awgrymu mwyafrif yn erbyn mwy o bwerau ymhlith y rhai nad ydyn nhw’n siarad dim Cymraeg – 42% o gymharu â 35% o blaid.

Dewisiadau cyfansoddiadol

Ar lawer ystyr, un o rannau mwyaf dadlennol yr arolwg ydi’r atebion i’r cwestiynau penodol am farn pobl ar y math o drefniant cyfansoddiadol y bydden nhw’n ei ffafrio i Gymru.

Mae’r rhain yn awgrymu niferoedd cymharol agos at ei gilydd o blaid ac yn erbyn mwy o bwerau i Gymru.

Yn debyg iawn i arolygon barn chwe mis yn ôl, y canlyniadau yw:
Annibyniaeth 14%
Senedd ddeddfwriaethol o fewn Prydain 34%
Cadw’r Cynulliad fel y mae 27%
Cael gwared ar y Cynulliad 17%
Ddim yn gwybod 6%

Mae’n ddigon rhesymol cyffredinoli’r rhain fel 48% o blaid mwy o rym (34% o blaid senedd + 14% o blaid annibyniaeth), o gymharu â 44% yn erbyn (27% dros gadw’r Cynulliad fel y mae + 17% dros gael gwared arno).

Senedd Ddeddfwriaethol

Dyma’r dewis mwyaf poblogaidd o ddigon – ym mhob rhanbarth ond un ac ym mhob grwp oedran.

Mae cryn dipyn mwy o gefnogwyr Plaid Cymru hefyd yn ffafrio senedd ddeddfwriaethol (47-49%) nag sydd eisiau annibyniaeth (31-38%). Efallai y bydd hynny’n ymddangos yn syndod i rai, ond mae’n gyson â chanlyniadau arolygon barn eraill.

Mae cefnogwyr y Torïaid wedi eu hollti dair ffordd 25% o blaid senedd ddeddfwriaethol, 30% o blaid cadw’r Cynulliad fel y mae, a 32% eisiau dileu’r Cynulliad.

Mae 42% o bleidleiswyr Llafur o blaid senedd, o gymharu â 34% dros gadw’r Cynulliad fel y mae, a 10% dros ei ddileu.

Yr hyn sy’n awgrymu cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ydi’r gwahaniaeth rhwng gwahanol oedrannau.

Ymhlith pobl ifanc o 18 i 34 oed, mae 43% o blaid senedd ddeddfwriaethol, 25% o blaid cadw’r Cynulliad fel y mae, a dim ond 8% eisiau dileu’r Cynulliad.

Ymysg pobl dros 55, y ffigurau cyfatebol ydi: 30% o blaid pwerau deddfu o gymharu â 25% dros gadw’r Cynulliad fel y mae a 23% arall eisiau ei ddileu.

Annibyniaeth

Yn unol ag arolygon tebyg yn y gorffennol, lleiafrif bychan sy’n aros yn gymharol ddigyfnewid sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, sef 14%.

Yr hyn sy’n fwy o syndod ydi bod mwy na hanner y rhain eisiau torri’n rhydd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â’r Deyrnas Unedig.

Nid yw’n glir pam fod y cwestiwn yma’n cael ei ofyn, oherwydd prin fod y syniad yma’n bwnc trafod heb sôn am fod yn bolisi sy’n cael ei arddel gan unrhyw blaid.

Er mai lleiafrif o gefnogwyr Plaid Cymru sy’n ffafrio annibyniaeth (rhywle rhwng 31% a 38%), dydi’r gefnogaeth i annibyniaeth ddim wedi ei gyfyngu iddyn nhw.

Mae lleiafrif o gefnogwyr Llafur (12-13%) ac o gefnogwyr y Toriaid (10-11%) hefyd yn ffafrio annibyniaeth – cyfran nad yw fawr is mewn gwirionedd na’r gyfran o’r boblogaeth.

Diddorol hefyd ydi sylwi nad oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng safbwyntiau’r gwahanol genedlaethau ar annibyniaeth i Gymru. Mae’r gyfran sydd o blaid annibyniaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 18 a 34 oed (14%) bron yn union yr hyn ydi o ymhlith rhai dros 55 oed (13%).

Felly, er y shifft mewn agweddau tuag at ddatganoli pellach ymysg yr ifanc, does dim arwydd o unrhyw fath o symudiad cyfatebol tuag at annibyniaeth. Ffaith sy’n chwalu’n llwyr unrhyw ddadl fod datganoli’n gychwyn taith ‘lithrig’ at arwahanrwydd.

Gwahaniaethau rhanbarthol

Mae’n debyg mai doeth fyddai peidio darllen gormod i ddadansoddiad rhanbarthol y canlyniadau gan fod y ffigurau’n weddol fychan.

Mae’n werth nodi fodd bynnag fod y gefnogaeth wanaf yn ardal Gorllewin y De, sef Abertawe a’r cylch. Dyma’r unig ranbarth lle mae cyfanswm y rhai sydd o blaid mwy o rym i Gymru (41%) yn llai na’r cyfanswm sydd yn erbyn (51%).

Mae’r arolwg yn awgrymu hefyd fod Caerdydd erbyn hyn yn cynhesu at ddatganoli. Mae’r cyfanswm o 55% sy’n ffafrio mwy o bwerau i Gymru’n uwch na’r hyn ydi o yn y Canolbarth a’r Gorllewin ac yn y Gogledd.

Casgliad

Mae’r arolwg yn tueddu i gadarnhau’r gosodiad mai proses ydi datganoli. Mae’n awgrymu bod y broses honno’n mynd ymlaen yn raddol – ond gan ddangos yn glir hefyd nad ydi annibyniaeth yn rhan o’r broses mewn unrhyw ffordd.

Mae’n awgrymu y byddai ychydig yn fwy o bobl Cymru o blaid pwerau deddfu i’r Cynulliad nag a fyddai yn erbyn, er nad ydi’r ffigurau moel ddim yn dangos bod y ddadl wedi cael ei hennill yn llwyr eto.

Ar yr un pryd, rhaid cofio nad safbwyntiau cadarn ar faterion cyfansoddiadol fydd yr unig ffactor, o bell ffordd, mewn refferendwm. Mae hyn oherwydd y bydd cymaint yn dibynnu ar agweddau pobl at wahanol bynciau gwleidyddol eraill ar y pryd, a faint a fydd yn trafferthu pleidleisio, ac ati.

Camgymeriad felly fyddai rhoi gormod o bwys ar ganlyniadau unrhyw gwestiwn er mwyn darogan canlyniad refferendwm. Eu prif werth yn hytrach i gefnogwyr datganoli ydi fel canllawiau i ddangos y math o ddadleuon a fyddai’n dylanwadu ar bobl i wthio’r broses ymlaen.

Effin El, co – sgiliau tywyll gwleidyddiaeth

Cyhoeddwyd Hydref 6, 2009 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Tŷ’r Cyffredin, Y Cynulliad

Fe gafodd y Cynulliad wers chwerw yn sgiliau tywyll gwleidyddiaeth heddiw, a hynny wrth draed un o’r meistri. Dyma ddadansoddiad Dylan Iorwerth…

Mae’r hyn a ddigwyddodd dros gyhoeddi gwybodaeth am yr eLCO iaith yn enghraifft berffaith o sbin. Roedd hefyd yn rhan o’r frwydr am rym rhwng San Steffan a Bae Caerdydd.

Trwy ollwng gwybodaeth ymlaen llaw, fe lwyddodd Swyddfa Cymru a’r Ysgrifennydd, Peter Hain, i dynnu gwynt o hwyliau Llywodraeth y Cynulliad a throi gogwydd y stori i’w cyfeiriad nhw.

Hyd y gwelwn ni, dyma be ddigwyddodd:

• Roedd adran y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred, yn paratoi i wneud cyhoeddiad am y Gorchymyn Iaith am ddeg heddiw.

• Y cam rhyfedda’ o’r cyfan – mae Golwg 360 wedi cael ar ddeall bod Peter Hain, tua phythefnos yn f4l, wedi rhoi cyfarwyddyd clir i’r Adran Dreftadaeth yng Nghaerdydd nad oedd eisiau gweld y stori wedi ei gollwng i’r ‘Western Mail’ y bore cyn y cyhoeddiad.’

• Ryw dro yn ystod y prynhawn, fe gafodd newyddiadurwyr yn Llundain wybodaeth gan Swyddfa Cymru am beth o’r hyn oedd yn y fersiwn newydd o’r Gorchymyn, ac yn arbennig y newidiadau.

• Ben bore heddiw, roedd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ar y radio, yn cadarnhau’n bendant bod y cyhoeddiad yn digwydd ac yn rhoi rhywfaint o syniad o beth oedd wedi newid.

• Dim ond wedyn yr ymatebodd Alun Ffred a’i dîm a chondemnio’u ‘partneriaid’ yn Llundain.

Mae’r rheswm am yr ystryw’n amlwg – roedd Swyddfa Cymru eisio cymryd clod am rai o’r newidiadau … iddi hi ei hun ac i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.

Trwy weithredu’n gynta’ a thorri’r ddealltwriaeth, roedd Swyddfa Cymru yn gallu sicrhau mai dyna’r fersiwn o’r stori fyddai’n dod gynta’ ac, felly, a fyddai’n gosod yr agenda ar gyfer gweddill y dydd.

Roedd yn dilyn cyfarwyddyd yr hyfforddwr rygbi mawr, Carwyn James, “Ceisiwch daro’n ôl yn gynta’.”

Trwyn

O gofio bod dadl fawr wedi bod rhwng Caerdydd a Llundain tros rôl yr Aelodau Seneddol a’r cyhuddiad eu bod yn gwthio’u trwyn i mewn i fusnes y Cynulliad, roedd Peter Hain bellach yn hawlio bod y broses glogyrnaidd wedi arwain at orchymyn gwell.

Tybed a ydi hyn hefyd yn ddechrau ar ddadl tros gadw’r drefn ddatganoli fel y mae, yn hytrach na throsglwyddo mwy o rym i’r Cynulliad?

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd barn adain Lafur y Llywodraeth ym Mae Caerdydd, a gweddill aelodau’r Cynulliad.

Ar yr un pryd, wyddon ni ddim yn union beth y mae Alun Ffred, AC Caernarfon, wedi ei ddweud wrth Peter Hain ond mae’n siŵr ei fod yn rhywbeth tebyg i “Effin El, co”.

Dafydd … os wyt ti eisio trafodaeth …

Cyhoeddwyd Medi 21, 2009 gan Dylan Iorwerth. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Y Cynulliad

Dylan Iorwerth yn awgrymu mai bod yn agored oedd eisiau … ac yna’n meiddio awgrymu fod Llywydd y Cynulliad yn anghywir …

Y prynhawn yma, mae Comisiwn y Cynulliad yn ailystyried ei benderfyniad i roi’r gorau i gyfieithu’r Cofnod – Hansard Bae Caerdydd.

Maen nhw wedi dod gan bwysau gan ACau, Bwrdd yr Iaith a bron pawb sy’n poeni am y Gymraeg i newid eu meddyliau.

Mae Cadeirydd y Comisiwn, sef Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi twt-twtian am yr ymateb i’r penderfyniad hwnnw, ac wedi gofyn am drafodaeth aeddfed.

Piti felly na fyddai’r Comisiwn wedi rhoi gwybod yn agored ac onest i bobol am eu bwriad i drafod y mater ac am eu penderfyniad wedyn.

Piti fod hwnnw wedi ei wneud yn dawel bach yng nghyfarfod ola’r tymor diwetha’ pan oedd ACau yn gadael am eu gwyliau. “Proses o wneud cyllideb,” meddai’r Llywydd. Yn hollol – gyda’n harian ni.

Os oedd o eisio trafodaeth, mi fyddai wedi gofyn am farn Aelodau’r Cynulliad ymlaen llaw, achos nhw, nid y fo na’r Comisiwn, sydd â’r hawl i ddweud. Yn eu henwau nhw – a ni – y mae’r Llywydd a’r Comisiwn yn gweithredu.

Dim ond ar ôl i Golwg 360 dorri’r stori adeg yr Eisteddfod y cafodd ACau wybod. Doedd cofnodion y Comisiwn ei hun ddim yn egluro beth oedd y penderfyniad – yn unrhyw iaith.

Pe bai’r drafodaeth wedi digwydd, mi fyddai’r Comisiwn wedi cael ar ddeall fod y Cofnod yn symbolaidd bwysig. Tra bod Dafydd Elis-Thomas yn iawn i ddweud fod angen ystyried torri rhywfaint ar gyfieithu, nid y Cofnod ydi’r lle i ddechrau.

Nid mater i’r Cynulliad ydi penderfyniad o’r fath beth bynnag. Fel y dangosodd sylwadau diolchgar CBI Cymru, mae ganddo oblygiadau mawr o ran polisi cyhoeddus trwy’r wlad.

Mae’n amlwg hefyd nad ydi’r Llywydd yn hapus fod Bwrdd yr Iaith yn ceisio dweud wrth y Cynulliad i gadw at eu Cynllun Iaith eu hunain.

Pinacl gyrfa D E-T ydi ei waith yn gosod y Cynulliad ar seiliau cadarn. Ond y tro yma, mae o’n anghywir. Un o wersi sgandal costau Tŷ’r Cyffredin ydi fod y rhai sy’n gwneud deddfau a rheolau yn gorfod eu cadw hefyd.