Cynyddu maint testun

Golwg360

Plentyndod yn yr Ariannin

Cyhoeddwyd Awst 17, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. 3 Sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Dyma waith buddugol Mary Green de Borda, Trevelin, yr Andes a ddaeth yn fuddugol yng  nghystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. Y testun oedd ‘Plentyndod hyd bymtheg oed’.

Yn ogystal a Mary, mae Menter Iaith Patagonia hefyd yn llongyfarch Esther Evans de Hughes, Esquel a ddaeth yn ail ac Eilyw Pritchard, Rivadavia a Nantlais Evans, Rio Negro am ddod yn gydradd drydydd.

Mwy…

Gwyliau'r gaeaf

Cyhoeddwyd Mehefin 17, 2010 gan Eluned Owena Evans. Dim sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Eluned Owena Evans sy’n edrych ymlaen at wyliau… y gaeaf…

Wel dyma fi wedi bod yn byw yn yr Andes ers bron i bedwar mis erbyn hyn, ac mae gwyliau’r gaeaf ar y gorwel.  Pythefnos o wyliau sydd yn ystod y gaeaf (ychydig yn fwy yn yr Andes oherwydd yr eira a’r gaeafau caled) ac yna mae rhyw ddeufis a hanner o wyliau haf – canol mis Rhagfyr tan Fawrth 1af.   Yn ystod gwyliau’r gaeaf, fe fyddaf i’n teithio i Bariloche ac yna’n hedfan oddi yno i raeadrau enwog Iguazu yn yr Ariannin/Brasil ac yna byddaf yn treulio tair wythnos mewn Ysgol Iaith ym Muenos Aires, cartref y tango.  Mae nifer o Gymry’r Wladfa yn byw ym Muenos Aires – maen nhw’n astudio yn y Brifysgol er enghraifft, ac fe fyddaf i’n siŵr o gwrdd â rhai ohonyn nhw.   O Fuenos Aires, mae’n bosib mynd  i Colonia yn Uruguay  ar y llongau cyflym, ac felly fe wnaf i hynny cyn ei throi hi nôl am Esquel.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni ddathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo.  Nos Lun, Mai 24ain, bues i mewn cyngerdd  yng nghanolfan hamdden enfawr Esquel. Roedd y lle dan ei sang ac roedd yn gwbl wych – roedd canu, dawnsio Tango a dawnsio traddodiadol y Mapuche. Wnes i fwynhau’r pwyntpwer a oedd yn seiliedig ar hanes yr Ariannin yn fawr iawn. Am hanner nos, roedd hi’n amser i fi gydio ym maner Cymru a mynd ar y llwyfan gyda’r bobl eraill a oedd yn cynrychioli’u gwlad, a chanu anthem genedlaethol yr Ariannin wrth i’r cloc daro deuddeg. Wrth lwc, roeddwn i wedi dysgu’r geiriau o flaen llaw! Profiad gwefreiddiol!

Drannoeth, ar ôl seremoni gyda Maer y dref, fe wnes i gymryd rhan mewn ‘desfile’ gyda Chymdeithas Gymraeg Esquel. Fe wnaethon ni orymdeithio ar hyd strydoedd Esquel yn ein gwisgoedd traddodiadol wrth i filoedd o bobl wylio a chymeradwyo.  Teimlad digon rhyfedd oedd gorymdeithio yn y wisg draddodiadol Gymreig gan nad wyf i wedi gwisgo’r wisg ‘ma ers pan oeddwn i’n ddeng mlwydd oed! Serch hynny, roedd cannoedd o bobl yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol gwledydd eu cyndeidiau ac felly doeddwn i ddim yn teimlo allan o le o gwbl!

Dyma hanes y dathlu yn Nhrefelin gan Jessica Jones ac Isaías Grandis (Eseia):

Roedd mis Mai 2010 yn llawn lliw glas a gwyn i ddathlu dauganmlwyddiant yr Ariannin.  Yn Nhrefelin, cawsom y dathliad yn Neuadd y Ganolfan Hamdden ac roedd yr ysgolion lleol yn canu ac yn dawnsio.  Syrpreis oedd cael dynes sy’n siarad Cymraeg, Griselda Owen, yn dawnsio’r  tango!  Yn wahanol i weddill yr Ariannin, buodd baner Cymru yn sefyll rhwng baneri glas a gwyn yr ysgolion a’r Instituciones.  Ar y diwedd, cawson ni siocled poeth blasus iawn (rico, rico) a partelitas traddodiadol, sef rhyw fath o bestri melys gyda jam cwins neu jam tatws melys.

Yn ystod yr wythnos cyn y dathliad, cafwyd tipyn o gyngherddau yn Neuadd y Dref a gorymdaith o ddillad traddodiadol Ewropeaidd er mwyn cofio am y bobl gyntaf a ddaeth yma o Ewrop.

Yr Ariannin – fydd Maradona yn gwneud cawlach o bethau?

Cyhoeddwyd Mehefin 9, 2010 gan Gwyn Jenkins. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan y Byd 2010, Pêl-droed, Yr Ariannin

Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Yr Ariannin yw un o’r timau cryfaf yng Nghwpan y Byd o ran chwaraewyr ond mae yna amheuon mawr ynglŷn â gallu’r hyfforddwr Diego Maradona. Serch hynny, tu ôl i Sbaen a Brasil, nhw yw ffefrynnau’r bwcis i ennill y gystadleuaeth.

Y Wlad

Poblogaeth: 36 miliwn

Prif iaith: Sbaeneg

Prifddinas: Buenos Aires

Arweinydd: yr Arlywydd Cristina Fernández de Kirchner

Llysenw: Albiceleste (y glas golau a’r gwynion)

Yr Hyfforddwr

Diego Maradona:

O’r holl hyfforddwyr yn y gystadleuaeth, yr enwocaf ac efallai’r un mwyaf dadleuol yw Diego Maradona. Ym marn rhai, ef oedd y pêl-droediwr mwyaf talentog erioed, gan arwain yr Ariannin i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 1986. Eto ychydig o brofiad a gafodd yn rheoli timau pêl-droed a dim ond o drwch blewyn y llwyddodd yr Ariannin i gyrraedd rowndiau terfynol 2010.

Y Daith

Gyda holl dimau de America yn chwarae ei gilydd mewn gemau rhagbrofol ddwywaith dros gyfnod o ddwy flynedd, roedd angen i’r Ariannin orffen yn y pedwar cyntaf i fod yn siŵr o’i lle yn Ne Affrica. Wedi colli 6-1 yn erbyn Bolifia a 3-1 yn erbyn yr hen elyn Brasil, roedd gobeithion tîm Maradona yn pylu’n gyflym, ond wedi crafu buddugoliaeth dros Periw yng ngwynt a glaw Buenos Aires, a churo Uruguay yn Montevideo gyda gôl hwyr gan Bolatti, llwyddwyd i gipio’r pedwerydd safle.

Y Record

Mae’r Ariannin wedi chwarae ym mhedwar rownd derfynol gan ennill dwy (1978, 1986) a cholli dwy (1930, 1990). Curwyd yr Iseldiroedd 3-1 ym mhrifddinas yr Ariannin, Buenos Aires, yn 1978, a’r Almaen 3-2 ym Mecsico yn 1986.

Sêr o’r Gorffennol

Mario Kempes:

Blaenwr pwerus a sgoriodd ugain gôl dros ei wlad. Ef oedd y prif sgoriwr yng Nghwpan y Byd 1978, a sgoriodd ddwy gôl yn y rownd derfynol.

Diego Maradona:

Chwaraewr gorau ei ddydd, ef oedd capten y tîm a gipiodd Cwpan y Byd yn 1986. Enillodd 91 cap gan sgorio 34 gôl.

Gwyliwch Rhain

Carlos Tevez:

Mae’r tarw o flaenwr o Manchester City wedi ennill dros hanner cant o gapiau i’r Ariannin gan sgorio 8 gôl. Mae’n rhoi cant y cant ym mhob gêm ond mae ei agwedd danllyd yn gallu arwain at drafferthion – cafodd ei ddanfon o’r maes ddwywaith yn ystod y gemau rhagbrofol.

Gonzalo Higuaín:

Cafodd blaenwr ifanc Real Madrid ei alw’n hwyr i garfan Maradona gan sgorio gôl hollbwysig yn erbyn Periw ar ei ymddangosiad cyntaf. Mae ei gyflymder a’i ergydio nerthol yn medru achosi hunllef i’r amddiffynwyr gorau.

Y Seren

Lionel Messi:

Bydd gobeithion yr Ariannin o lwyddiant yn 2010 yn ddibynnol ar yr asgellwr bach chwim a dyfeisgar Lionel Messi. Dewiswyd La Pulga (y chwannen) yn chwaraewr gorau’r byd yn 2009 ond yn bennaf am ei berfformiadau llachar yng nghrys Barcelona yn hytrach na dros yr Ariannin. Mae eto i lwyr argyhoeddi yn lliwiau’i wlad ond caiff y driblwr dawnus hwn y cyfle i brofi ei hun yn Ne Affrica.

Yma o hyd – yn yr Andes

Cyhoeddwyd Mehefin 1, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Clare Whitehouse sy’n mwynhau gwyrddni’r Andes…

Aeth Clare Whitehouse i Batagonia yn 2005 fel athrawes ar ran y cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa yn disgwyl bod yna am flwyddyn.

Ond mae hi’n dal yna! Erbyn hyn mae’n gweithio fel cydlynydd i ochr academaidd y project ac yn byw yn Nhrevelin wrth droed yr Andes.  Mae’n rhannu ychydig o’r profiad o fyw yng Nghwm Hyfryd.

Pan mae pobl yn gofyn pam dw i’n dal yma dw i’n dweud i mi syrthio mewn cariad yn gyntaf gyda’r ardal ac wedyn gydag un o’i thrigolion ac erbyn hyn rydyn ni’n byw mewn caban pren jyst tu allan  bentref Trevelin. Mae pobl y rhan yma o’r byd yn arbennig ond erbyn hyn mae’r tirlun a’r natur wedi gwneud lle yn fy nghalon hefyd!

O le dw i’n ysgrifennu hwn dw i’n edrych ar y panorama sydd yn ymestyn o’r chwith o Fynydd Llwyd (ar ôl Llwyd ap Iwan mab Michael D. Jones) i’r Graig Goch (lle daeth y Rifleros ar eu taith gyntaf i archwilio’r Dyffryn) rownd i’r dde i i hen bont y pentref sydd yn croesi Afon Percy (roedd Percy Wharton yn un o’r mewnfudwyr cyntaf) i Orsedd y Cwmwl ac asgwrn cefn i fynyddoedd sydd yn arwain i Barc Cenedlaethol Los Alerces.

O gwmpas y caban mae pedwar hectar o dir felly mae tua chan coeden ceirios sydd yn hyfryd yn y gwanwyn gyda’u blodau persawrus yn ogystal â lot gormod o rosa mosqueta – rhosod gwyllt wedi’u mewnforio gan ymfudwyr oedd yn meddwl efallai y bydden nhw o ddefnydd ac sydd wedi ffeindio bod nhw’n tyfu’n andros o dda efo’r hinsawdd berffaith a dim cystadleuaeth am gynefin!

Erbyn hyn mae anifeiliaid yma hefyd – pedair caseg i gadw cwmni i Monty’r ci anferth a Jack y gath barus.  Mae gennyn ni ffrind sydd yn dofi ceffylau yn ffordd yr Indiaid – Horse Whisperer go iawn! – ac felly mae o’n cadw dwy o’i brosiectau yma yn ogystal â’i gaseg ei hun a’n caseg ni.  Roedd y ddwy sydd yn perthyn i Herni ac i ni yn hollol wyllt pan brynon ni nhw a phan ddaethon nhw lawr o’r lori oedd yn eu cludo yma aethon nhw ar garlam i ganol y rhosod gwyllt ac roedd hi’n dridiau cyn i ni hyd yn oed eu gweld nhw eto!  Mae’n mynd i fod yn broses hir ac un sydd yn mynd i gymryd digon o amynedd i’w dofi gan fod ganddynt ofn o bopeth ond dyna beth sy’n dda am fyw yng ngwlad y manana – hir yw pob aros ond aros mae’n rhaid!

Pan feddyliwch chi am Batagonia dw i’n eitha sicr bod chi’n meddwl am eangderau’r Paith a gwastatiroedd Dyffryn Camwy – fel roeddwn i ers 5 mlynedd!  Byddwch chi’n synnu gweld gwyrddni’r Andes.  Yma o gwmpas y caban mae coed ceirios yn tyfu yn ogystal â’r coed gwyllt fel cipres, maiten a chaqui.

Mae esblygiad wedi annog y planhigion llai i fagu draen er mwyn amddiffyn eu hunain o’r tywydd ac o unrhyw anifail sydd am eu bwyta felly mae amryw o fathau o lwyni anghyfeillgar! Maen nhw wedyn yn creu cysgod perffaith i’r llu o adar sydd yn byw yma:  un bore wrth yfed mate gwelon ni 16 math o adar mewn awr heb godi’r ysbienddrych!  Fy ffefryn ydy math o gnocell y coed pitio sydd yn crio ei gri ac yn disgyn i yfed o’r tanc Awstraliaidd sydd yn casglu dŵr i ni ac i’r ceffylau!   Hyd yn hyn mae’r De wedi gwrthsefyll y pwysau i ddefnyddio cemegau wrth ffarmio ac felly mae byd organig yn gadael bwyd i’r adar a mannau iddyn nhw nythu.

Revolución de Mayo

Cyhoeddwyd Mai 25, 2010 gan Eluned Owena Evans. Dim sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Eluned Owena Evans sy’n edrych ar ddiwrnod pwysig yn hanes yr Ariannin…

Mae wedi bod yn benwythnos brysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni baratoi ar gyfer dathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo, heddiw.  Yn wir, dw i’n ffodus iawn mod i yn yr Ariannin eleni er mwyn cael bod yn rhan o’r dathlu.  Mae baner yr Ariannin i’w gweld ym mhob twll a chornel – ym mhob ffenest siop ac ar sawl coeden – a dw innau newydd fod yn prynu baner er mwyn ei rhoi wrth ochr y ddraig goch yn ffenestr y fflat!   Bu cyfres o ddigwyddiadau chwyldroadol ym Muenos Aires rhwng Mai 18fed a Mai 25ain 1810 (Semana de Mayo) ac fe gewch chi fwy o’r cefndir yn ogystal ag hanes y dathlu yma’n Esquel/Trevelin y tro nesaf.

Fel rhan o’m gwaith Menter Patagonia, fe fues i’n ymweld â rhai o drigolion Trevelin yr wythnos hon.  Roeddwn i wrth fy modd yn edrych ar hen luniau ac yn eu clywed yn adrodd straeon am eu plentyndod.  Roedd y panedau o dê a’r cacennau yn dda iawn hefyd!  Diolch yn fawr iawn i Mair Ela Rowlands, Arwel Morgan (a Bruno’r ci!) a Vincent a Clara Evans am y croeso cynnes.

Yn ystod yr wythnos hefyd, fe wnes i gyfarfod â Maredudd a Catrin sy’n treulio’u mis mêl yn Ne America.  Braf oedd sgwrsio gyda nhw, yn enwedig gan eu bod yn dod o’r un ardal â fi!  Fe fyddan nhw’n dychwelyd adre cyn hir.  Rhywun arall sydd yn dychwelyd i Gymru yn ystod y diwrnodau nesaf yw Lois Eluned Fychan Jones.  Yr oedd Lois yn athrawes ac yn Swyddog Menter Patagonia yma’n yr Andes y llynedd.  Yn ystod y misoedd diwethaf y mae hi wedi bod yn teithio oamgylch De America gan ymweld â gwledydd megis Brasil, Chile, a Bolifia.  Fydd hi’n rhyfedd iawn yma hebddi, ond y mae hi wedi addo dod nôl yn fuan i’n gweld ni!

Bydd dwy o Esquel yn mynd i Gymru cyn bo hir hefyd.  Llongyfarchiadau mawr iawn i Liliana Carballo a Sandra Soto sydd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ym mis Mehefin.  Mae’r ddwy yn hynod gyffrous a dw i’n siŵr y cewn nhw amser wrth eu boddau.  Dyma ychydig o hanes Liliana:

“Liliana dw i.  Dw i’n enedigol o Fuenos Aires: ces i fy ngeni a’m magu ym Muenos Aires.  Dw i’n briod ac mae dau o blant gyda fi.  Dw i’n gweithio fel cyfieithwraig i Editorial Stadium.  Dw i’n hoffi cerdded, darllen a gwrando ar gerddoriaeth, ond yn fwy na dim, dw i’n hoffi ieithoedd.  Dw i’n siarad Ffrangeg, Rwsieg, Saesneg ac wrth gwrs Sbaeneg.  Pan fo iaith yn cael ei dysgu, mae’r bobl sy’n siarad yr iaith hon yn cael eu dysgu hefyd.  Symudais i i Esquel ddwy flynedd a hanner yn ôl.  Dysgais i lawer am Gymru ac felly roedd dysgu Cymraeg yn rhywbeth hollol naturiol i mi.”

Eisteddfod Trevelin 2010

Cyhoeddwyd Mai 16, 2010 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cymraeg, Yr Ariannin

Isaías Eseia Grandis o Drevelin sy’n adrodd hanes Eisteddfod Trevelin 2010….

Pan oedd Isaías yn bymtheg oed, dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, ac yn 2006 cafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru.

Dychwelodd i Gymru y llynedd i ddilyn Cwrs Meistrioli yng Nghaerdydd a chafodd gyfle i arsylwi a chael hyfforddiant yn Ysgol Ffynnonbedr, Llambed ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd.

Yn awr,  mae’n gweithio fel tiwtor Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes, Trevelin ac fel athro Twristiaeth yn Ysgol Uwchradd Corcovado.

Cafwyd Eisteddfod Bro Hydref llwyddianus yn Nhrevelin, Patagonia, Nos Wener 31ain o fis Ebrill a Dydd Sadwrn 1af o Fai, 2010.

Mae’r traddodiadau Cymreig yn rhan o fywyd Cwm Hyfryd ers 1885 pan ddaeth y Cymry cyntaf dros y Paith i ymsefydlu yn yr Andes, dan arweiniad y Rhaglaw Fontana.

Eisteddfod ddwyieithog yw hi, Cymraeg a Sbaeneg, iaith swyddogol yr Ariannin.  Daeth bobol o Ddyffryn Camwy, sef Trelew a’r Gaiman a hefyd o Gomodoro, Dinas yr Olew. Roedd llawer o blant yn cystadlu Dydd Gwener, a Dydd Sadwrn cawsom amser da yn gwrando ar gôr lleol Seion a chorau o Drelew, Y Gaiman ac El Maiten, yn Nhalaith Chubut, ond hefyd croesawyd Nora O’Brian, Llinos, Helen ac Eluned o Gymru.

Enillodd Nant Roberts Gogledd Cymru gadair yr Eisteddfod yn yr Iaith Gymraeg a Julia Chaktoura o Drelew y goron yn yr Iaith Sbaeneg.

Dyma ran olaf y gerdd “Rhyfeddodau’r cread” a enillodd brif gystadleuaeth yr Eisteddfod hon:

Rhyfeddod prin

Ar gyfandir yn hemisffer y de,

rywle rhwng aml sgertiau gwynion yr afon a thir y tân,

fe saif teithiwr i ryfeddu.

Bydd wedi chwysu wrth ddringo’r copaon,

wedi gwlychu yn llwch dŵr y rhaeadrau,

ac wedi cyffroi wrth glywed clecian tanio gwn y rhewlifoedd.

Ac yna, ar ôl croesi’r ania1dir eang,

mae’n canfod rhyfeddod prinnach.

Mae’n synhwyro mawredd cymeriad dynion nad oedd am gael eu concro,

mae’n ymwybodol o gadernid cydwybod y rhai oedd a’r lliw haul ar eu talcen,

yn gweld patrwm cywrain gofal y gwragedd am eu plant,

a phob teulu’ n drysor.

Mae’n clywed llifeiriant parhaus moesoldeb, dysg, cerdd a chân,

mae’n blasu’r ysbryd na roddai le i anobaith ddiffodd y fflam,

yn arogli’r pridd a gloddiwyd,

ac yn teimlo cynhesrwydd y tân oedd mewn enaid.

Codwyd cartrefi a chapeli, torrwyd ffosydd,

Gyda phenderfyniad a dyfalbarhad yn lli adrenalin y gwythiennau.

Dyfrhawyd y tir, ac mae tystiolaeth yr aberth a’r llafur yno o hyd.

Yr ymdrech a’r cyffro, y chwysu, y gwlychu a’r sychu!

Er creithiau’r gofid, ni ddiffoddodd fflam yr egwyddor.

ydyn, maen nhw yno.

Ai Cymry sydd yno’n byw ym Mhatagonia?

Ai Archentwyr sy’n siarad Cymraeg?

Mae’r teithiwr yn holi,

ac yn rhyfeddu.

Maen nhw yno o hyd.

(Ffug enw: Y TEITHIWR/ Nant Roberts)

Canol nos ar ddiwedd yr Eisteddfod cawsom swper i ffarwelio â’r ymwelwyr- cystadleuwyr.

Roedd Cymanfa Ganu ar fore Dydd Sul yn Neuadd y Dref. Fe wnaeth y Parchedig Ganon Tegid Roberts o Gymru, Gweinidog Cymraeg Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa sydd yn Nyffryn Camwy am flwyddyn ein harwain yn y darlleniad a’r weddi.

Arweinwyr y canu oedd Marli Villoria, Gladys Thomas de Hughes a Rebeca White.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn gobeithio cael llawer o gystadleuwyr o Gymru y flwyddyn nesaf, croeso i bawb!

Cyfarchion o’r Andes

Cyhoeddwyd Mai 9, 2010 gan Eluned Owena Evans. 2 Sylw.

Tagiau: Cymraeg, Yr Ariannin

Eluned Owena Evans o Fenter Iaith Patagonia sy’n sôn am y profiad o fynd i wlad arall i ddysgu Cymraeg…

¡Hola! ¿Cómo estás? Rydw i wedi bod yn byw ac yn gweithio yn yr Andes ers rhyw 10 wythnos bellach. Ar ôl cyfweliad gyda’r Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd fis Tachwedd y llynedd, fues i’n ddigon ffodus i gael fy newis yn un o dair i ddod yma i Batagonia i ddysgu Cymraeg yn Esquel a Trevelin ac i weithio fel Swyddog i Fenter Patagonia.

Yn dilyn ymweliad â Dyffryn Camwy lle mae’r ddwy athrawes arall wedi ymgartrefu, teithiais ar y Coche Cama ar draws y Paith i Esquel, sydd rhyw 1,200 o filltiroedd i’r De o Buenos Aires.  Roedd hi’n daith o wyth awr, ond dyma beth oedd steil – fyddech chi ddim yn cael stecen a llond bola o bwdin reis ar fws nôl yng Nghymru! Rydw i’n byw yn y fflat sy’n sownd i Ysgol Gymraeg yr Andes yma yn Esquel. Gan ei fod reit yng nghanol y dre mae’n gyfleus iawn (ac efallai’n rhy gyfleus i’r gwaith)! Mae’r adeiladau yma wedi cael eu gosod mewn blociau ac nid strydoedd – cymysglyd tu hwnt i ddechrau, ond does dim eisiau map arna i ragor!

Rydw i wedi cael sawl profiad bythgofiadwy yn barod. Yn Buenos Aires, cafodd Helen, Llinos a fi wahoddiad i gael tê gyda Shân Morgan, Llysgennad Prydain. Roeddwn i’n teimlo allan o le yng nghanol y chandeliers a’r lluniau enfawr o Winston Churchill a’r Frenhines!  Profiad gwahanol arall oedd mynychu Cymanfa Ganu mewn capel bach yng nghanol y Paith – ar wahân i ambell i emyn Sbaeneg, y mosgitos a oedd yn fy mhigo’n ddibaid a bîps negeseuon tecst, fe allwn i fod wedi bod yng Nghapel Newydd Llanddarog!

Heb os, rydw i wedi cael croeso arbennig yma ac mae pawb wedi mynd allan o’u ffordd i ‘ngwneud i deimlo’n gartrefol. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael tri parti croeso yma yn ogystal â sawl asado. Dished ar ôl dished o dê, bara menyn, caws, jam cartref, sgons, tarten afalau, cacen ddu, bisgedi dulce de leche, empanadas – rhaid profi popeth wrth gwrs!  Lwcus ‘mod i’n un sy’n hoffi’i bwyd (cig yn enwedig), er mae’n anodd dod i arfer â bwyta mor hwyr yn y nos!

Pan nad wyf i’n gweithio, rwy’n canu yng Nghôr Seion Esquel a rydw i hefyd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau dawnsio gwerin a Salsa. Gyda’r Parque Nacional Los Alerces ar stepen y drws, golygfeydd godidog ym mhob cyfeiriad a bywyd gwyllt heb ei ail, rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn ystod y penwythnosau. Wel, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i dreulio’r holl fwyd rwy’n ei fwyta!

Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddaf yn rhoi blas i chi ar fywyd yma yn yr Andes. Bydd nifer o drigolion Esquel/Trevelin a’r cyffiniau yn cyfrannu at ein blog hefyd. Mae digon o bethau wedi bod yn digwydd yma yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gynnwys Eisteddfod Ddwl yn Esquel, Rally de los Alerces ac Eisteddfod Trevelin – fe gewch chi hanes Eisteddfod Trevelin gan Isaías Grandis yr wythnos nesaf. Ddydd Gwener diwethaf, cefais fy newis i ddal baner Cymru mewn seremoni yn Ysgol 18 (sydd bellach yn amgueddfa hanesyddol), Pentre Sydyn, yn nyffryn yr Afon Gyrraints.  Roedd cyfarfod cyffredinol yn Ysgol 18 ar Ebrill 30ain 1902 gyda’r Comisiwn Ffiniau.  Yn wir, bu ymgecru ynglŷn â’r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda’r naill wlad a’r llall yn mynnu mai hwy oedd biau’r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd.  Gan nad oedd y llywodraethau yn medru dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i’r trigolion lleol – y Cymry yn bennaf – ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn. Syr Thomas Holdich oedd arolygydd Prydain, Francisco Pascasio Moreno dros yr Ariannin a Dr. Balmaceda dros Chile.  Roedd ateb y Cymry yn unfrydol.  O ganlyniad, y diwrnod hwnnw, ychwanegwyd 360,000 hectar o dir ffrwythlon i diriogaeth yr Ariannin. Y mae diwrnod y bleidlais hon yn cael ei gofio a’i ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill 30ain. Braint ac anrhydedd ydoedd i mi, felly, gael bod yn rhan o’r seremoni hon a oedd yn wledd i’r glust a’r llygaid.