Cynyddu maint testun

Golwg360

Rhesymeg ryfedd y banciau

Cyhoeddwyd Chwefror 2, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Yr Economi


Un pennawd sydd wedi dal fy llygad yr wythnos yma ydi bod banciau wedi penderfynu cynnig morgeisi llai i deuluoedd gyda phlant.

Mae Nationwide, er enghraifft, yn cynnig morgeisi rhwng 10% a 20% yn llai i deuluoedd sydd gyda phlant nag y bydden nhw yn ei roi i gyplau di-blant.

Mae hynny’n dipyn o ergyd. Byddai cwpwl heb blant oedd yn ennill £24,000 yr un yn gallu benthyg £207,000 o Nationwide. Ond os oes gyda nhw ddau o blant fe fyddai’r cyfanswm yn disgyn i £174,200.

Beth sy’n ychwanegu halen i’r briw braidd ydi fod angen morgeisi mwy o lawer ar deuluoedd sydd gyda phlant – mae angen rhywle i’w cadw nhw i gyd wedi’r cwbl.

Mae rhesymeg y banciau yn gwneud synnwyr ar yr olwg gyntaf – wedi’r cwbwl, mae plant yn bethau bach costus. Mae pob plentyn yn costio £200,000 erbyn eu bod nhw’n 18 oed, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd.

Ond beth mae’r adroddiad yn ei anwybyddu ydi bod cyplau sy’n gwario’i harian ar blant ddim yn gwario’u harian ar bethau eraill – gwyliau i wlad bell neu nosweithiau allan yn y dafarn, er enghraifft.

Rydw i’n amcangyfrif fod y crebachiad sylweddol ym mywyd cymdeithasol rhiant yn arbed o leiaf £200,000 dros gyfnod o 18 mlynedd.

Cyfrifoldeb

Aha, meddai’r banciau, nid dyna’r pwynt. Os nad ydi person di-blant yn gallu talu ei forgais mae o’n gallu rhoi’r gorau i wario ar arian ar gwrw neu ar wyliau i wlad bell.

Does gan gwpwl sydd gyda phlant ddim dewis ond gwario arian arnyn nhw (heblaw am eu rhoi nhw i gael eu mabwysiadu wrth gwrs).

Serch hynny alla’i dal ddim cydweld â’r banciau. Fe fydden i’n synnu pe bai teuluoedd sydd â phlant yn llai dibynadwy wrth dalu eu morgeisi.

Un peth sy’n dod â bod yn rhiant yw teimlad mawr o gyfrifoldeb dros rywun heblaw amdanat ti dy hun.

Byddwn i’n fodlon betio fy morgais bod rhieni yn fwy darbodus a gofalus gyda’u harian na chyplau di-blant, am eu bod nhw’n gwybod y byddai colli eu tŷ yn ergyd mawr i’r plant hefyd.

Dywedodd ymgynghorydd ariannol wrtha’ i unwaith bod cael ryw faint o ddyled ar gerdyn credyd yn well yng ngolwg y banciau na pheidio cael cerdyn credyd o gwbl – mae’n dangos bod y cwsmer yn gallu ysgwyddo rywfaint o gyfrifoldeb.

Yn yr un ffordd, dylai cael plant argyhoeddi banciau eich bod chi’n barod am forgais. Wedi’r cwbwl mae sortio’r morgais yn llawer haws na sortio’r holl glips bach ffidli na ar gewyn babi.

Mewn twll

Cyhoeddwyd Ionawr 8, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth, Trafnidiaeth, Yr Economi

Blynyddoedd maith yn ôl dw i’n cofio cael fy ngyrru o Livingstone yn Zambia i gyfeiriad Botswana mewn fan. Roedd y golygfeydd yn odidog ond y prif beth ydw i’n cofio am y daith hwnnw oedd y tyllau yn y ffordd. Dw i ddim yn gor-ddweud – roedd y ffordd mor llawn o dyllau a darn o gaws Swistirol. Ond dyna ni, gwlad trydydd byd oedd hon.

Nid gwlad trydydd byd mo Cymru. Serch hynny, wrth yrru i mewn i’r gwaith heddiw sylwais bod safon y ffordd bron a bod yr un mor dameidiog. Cyfrais i dros ddeg o dyllau maint troed eliffant ar daith pymtheg milltir. Rydw i’n deall bod yna sawl ffordd yn yr un cyflwr, ond mae hi wedi bod yn wythnos a rhagor ers i drwch yr eira doddi erbyn hyn, ac mae’n hen bryd gwneud ryw fath o ymdrech i ddechrau eu llenwi nhw.

Cwestiwn arall yw, pam eu bod nhw yn y fath gyflwr yn y lle cyntaf? Mae’r tywydd wedi bod yn wael, ond mae’n rhaid bod modd cymryd gofal o ffyrdd er mwyn gwneud yn siwr nad ydyn nhw’n chwalu fel blawd yn y lle cyntaf? Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod, a gan gymryd nad addewid gwag ydi hi cyn yr etholiadau ym mis Mai, dylid ymchwilio i’r peth ar fyrder.

Roeddwn i wedi meddwl blogio am hyn beth bynnag, ond dw i newydd gael galwad ffôn gan fy mhartner yn dweud ei bod hi wedi cael pynjar ar ôl mynd dros dwll yn Llandysul, ac wedi gorfod cerdded adref yn cario ein merch fach 4 mis oed dan un cesail a’i siopa dan y llall. D’oh!

Rydw i’n deall safbwynt y cynghorau ar hyn – maen nhw’n gorfod gwneud mwy â llai fel mae hi. Ond onid oes angen newid agwedd yn gyffredinol tuag at y ffyrdd yng Nghymru – o’r top i’r gwaelod? Mae peidio gwario arian ar ffyrdd yn colli arian, yn hytrach nag arbed arian, yn y pen draw.

Petai y cyngor wedi gwario ar drwsio’r twll yn Llandysul ni fyddwn i’n gorfod talu am olwyn newydd o’r Almaen yn rywle yn hytrach na’i wario yn lleol. Yn yr un ffordd, petai yna rwydwaith ffyrdd o safon yng Nghymru byddai rhagor o fusnesau yn fodlon ymgartrefu yma i gymryd mantais ohonyn nhw.

Newid agwedd

Yn ogystal a cadw’r ffyrdd sydd â ni mewn cyflwr gwell na rhai Zambia, mae angen o leiaf un hewl dda o de i ogledd Cymru. Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad mae’n fater o falchder cenedlaethol fod gennym ni awyren sy’n gallu hedfan o Ynys Môn i Gaerdydd. Wel, onid oes bachlder cenedlaethol mewn gallu gyrru o dde i ogledd gwlad, gan ddisgwyl taith chwim a diffwdan, ar hyn ffyrdd o safon?

Dw i ddim yn gofyn am draffordd –  rydw i’n ar ddeall bod yr rheini yn costio tua £30m y milltir (ac felly ffordd o Gaerdydd i Landudno yn costio tua £5 biliwn). Ond rydw i’n siwr na fyddai cost ffordd ddeuol yn ormod iddyn nhw, hyd yn oed os oes rhaid rhoi arian wrth gefn am bum mlynedd i dalu amdano.

Ambell fryncyn yn y ffordd? Dim problem – ffrwydrwch nhw. Mae dynameit wedi bodoli ers 1867.

Dadl y gwleidyddion, wrth gwrs, yw bod pob cysylltiad o werth yn mynd o’r gorllewin i’r dwyrain yn hytrach nag o’r gogledd i’r de.  Mae hynny’n wir, ond mae yna reswm da am hynny – all busnesau ddim mynd o’r gogledd i’r de heb i’w loriau fynd yn styc ar bont Beddgelert.

A son am falchder cenedlaethol – mae yna rywbeth eithaf dadlennol am y ffaith bod pob un o’n prif ffyrdd ni yn mynd i rywle y tu allan i Gymru. Mae’r erthygl yma gan George Monbiot yn dweud y cyfan. E.e.:

Wales is poor because it was so rich. Its abundant natural resources gave rise to an extractive system, designed to leave as little wealth behind as possible.

Nid mater o genedlaetholdeb ydi hyn, ond mater o greu cyfoeth o fewn y wlad yden ni’n byw ynddi. A mater o allu dreifio i lawr i’r siopau heb gael pynjar, wrth gwrs.

0.8%

Cyhoeddwyd Hydref 27, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Yr Economi

Mae gwleidyddiaeth yn gallu bod yn gêm ryfedd weithiau. Cyhoeddwyd ddoe bod economi Prydain wedi tyfu 0.8% dros y tri mis diwethaf. Roedd Llywodraeth San Steffan wrth ei fodd, gan ddweud bod hyn yn profi bod yr economi yn ddigon cry’ i wrthsefyll y toriadau. Roedd y Blaid Lafur, mae’n siwr gen i, yn llai hapus, ac wedi gobeithio am ffigyrau gwannach er mwyn cael dweud ei fod o’n brawf bod yr economi dal yn rhy fregus ac y bydd toriadau’r Canghellor George Osborne yn ein plymio ni’n ôl i mewn i ddirwasgiad arall*.

Yr eironi wrth gwrs yw nad yw polisiau’r llywodraeth bresennol wedi cael amser i effeithio ar yr economi eto, a roedd y twf mawr dros y chwe mis diwethaf yn bennaf o ganlyniad i’r holl arian oedd y llywodraeth flenorol wedi ei fuddsoddi ynddo. Os unrhywbeth mae’r ffigyrau cry yn ddadl o blaid mwy o fuddsoddiad Keynesiaidd yn yr economi, yn hytrach nag llai.

Fydd toriadau Llywodraeth y Glymblaid yn San Steffan ddim yn taro y rhan fwyaf o bobol go iawn tan 1 Ionawr, pan fydd treth ar werth yn codi i 20%, ac y bydd y gweithwyr cyntaf yn y sector cyhoeddus yn ymadael â’u swyddi. Fydd hi ddim am flwyddyn neu ddwy arall, o leia, tan fod y llywodraeth bresennol yn cael cymryd y clod go iawn am unrhyw adferiad cryf yn yr economi – neu beidio.

Yn y cyfamser, cofiwch wario 0.8% yn fwy y Nadolig yma!

*Efallai, fel y Frenhines Elizabeth yn yr Alban, y dylai Dirwasgiad II gael ei alw’n Dirwasgiad I mewn rhai rhannau o’r wlad, am nad oes unrhyw dystiolaeth ein bod ni allan ohoni eto.

Pawb a’i farn… ond neb yn gwybod yr ateb

Cyhoeddwyd Hydref 23, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Yr Economi

Ifan Morgan Jones fu’n gwylio Pawb a’i Farn ar S4C neithiwr…

Roedd gwylio Pawb a’i Farn neithiwr fel gwylio microcosm o ddadl sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ar lefel genedlaethol, os nad yn fyd-eang, ers blwyddyn a mwy. Pennod arbennig oedd hon i drafod y toriadau mewn gwario cyhoeddus, a’r cwestiwn amlwg oedd wrth galon y drafodaeth oedd a yw’r toriadau yn syniad da ai peidio.

Chwarae teg i Guto Bebb ac Elfyn Llwyd, fe wnaethon nhw job dda o gyflwyno’r ddau ochr i’r ddadl. Ond mae’r ddadl yn ddechrau teimlo fel un o’r reidiau ceffylau bach mewn ffair sy’n troi a throi, a does neb yn cael dod i ffwrdd.  Mae’r toriadau wedi’u cyhoeddi, ond rownd a rownd a ni yn dadlau’r peth, a does neb yn gwybod yr ateb.

Y diweddaraf i roi ei farn yw’r economegydd Paul Krugman, enillodd y wobr Nobel yn 2008. Mae’n dadlau mai ‘fad’ yw toriadau mewn gwariant cyhoeddus a fydd cyn bo hir yn ‘mynd allan o fasiwn’. Fe fyddai hyn yn newyddion drwg i’r glymblaid yn San Steffan, os nad oedd yna sawl economegydd yr un mor uchel eu parch yn cytuno gyda’r toriadau. Ac os nad yw’r arbenigwyr byd-eang yn gallu penderfynu a ydi’r toriadau yn syniad da ai peidio, pa obaith sydd gan gynulleidfa Pawb a’i Farn?

Un o sgil effeithiau’r chwalfa ariannol oedd dangos i’r byd nad ydi arbenigwyr economaidd yn deall sut mae’r economi yn gweithio yn llawer gwella na neb arall. Bydd neb yn gwybod yr ateb tan fod yr economi yn ôl ar ei thraed neu ein bod ni mewn dirwasgiad. A hyd yn oed wedyn, bydd yna rai yn parhau i ddadlau dros y peth am ddegawdau i ddod.

Fel y sgwennais i nol ym mis Chwefror, waeth i chi fflicio darn arian ddim

AAA! Dyfodol S4C

Cyhoeddwyd Hydref 20, 2010 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: S4/C, Y Cyfryngau, Yr Economi

Dylan Iorwerth yn ystyried rhai o’r oblygiadau posib o’r newyddion annisgwyl am S4C a’r BBC. Heb wybod y manylion, mae yna gwestiynau amlwg …

Dau gwestiwn mawr sy’n wynebu S4C heddiw – arian ac annibyniaeth. A’r hyn sydd ei angen gynta’ ydi atebion.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb – sydd hyd yma yn ei yrfa yn Nhŷ’r Cyffredin wedi bod yn agored a doeth – “cyfaddawd blêr” sy’n gyfrifol am y trefniant newydd tros arian S4C.

Y broblem gynta’ ydi mai cyfaddawd rhwng Ysgrifennydd Diwylliant  y Llywodraeth yn Llundain a’r BBC yn Llundain oedd hwnnw gyda phobol Cymru ac S4C ei hun yn y tywyllwch yn llwyr.

Dydi hi ddim yn glir eto beth ydi’r trefniant ariannol – toriadau o 6% ac wedyn dan adain y BBC, yn ôl Guto Bebb – ac, yn sicr, dydi hi ddim yn glir beth fydd y berthynas rhwng S4C a’r Gorfforaeth.

Mae yna ddau gwestiwn allweddol

Yn gynta’, pwy fydd yn rheoli maint cyllideb S4C? A fydd yna fformiwla ymlaen llaw neu a fydd y sianel yn gorfod ymladd ei chornel gydag adrannau eraill y BBC am ei chyfran o arian y drwydded?

Yn ail, pa mor annibynnol fydd y Sianel? Mae yna sôn am fyrddau ar y cyd a phethau tebyg, sy’n swnio fel y math o lanast a allai godi o ‘gyfaddawd blêr’. Yn sicr, does dim modd rhuthro newidiadau felly.

Beth bynnag fydd y trefniant gweinyddol ffurfiol, os bydd rheolaeth yr arian yn nwylo’r BBC yn Llundain, nhw fydd yn rheoli. Ac mi wyddon ni o brofiad y BBC yng Nghymru pa mor anodd yw hynny o ran hunaniaeth go iawn.

O ran rheolaeth, os na fydd annibyniaeth glir, o ran polisi golygyddol ac arian, mi fyddwn ni’n ôl bron iawn yn yr un sefyllfa ag yr oedden ni cyn 1982.

Oblygiadau eraill

Mae yna oblygiadau hefyd wrth gwrs i ddarlledu Cymreig yn gyffredinol. Mae yna beryg y byddwn ni’n ôl ynghanol brwydr adnoddau rhwng y gwasanaethau yn y ddwy iaith, yn enwedig o gofio bod y BBC yn gyffredinol yn wynebu toriadau anferth.

Mae’r toriadau wedi eu cuddio, ond maen nhw’n anferth er hynny.

Trwy osod S4C dan adain darlledwr arall, mae’r penderfyniad hefyd yn gwadu’r rôl ddiwylliannol ac ieithyddol allweddol sydd ganddi. Sianel deledu gyhoeddus gyffredin ydi hi bellach – neu ran o ddarlledwr cyhoeddus – nid cyfrwng diwylliannol pwerus.

Peryglon pendantrwydd

Mae Llywodraeth y Glymblaid – dan arweinyddiaeth amlwg y Ceidwadwyr – wedi dangos sut i weithredu’n benderfynol a phendant ar ôl cael grym.

Maen  nhw’n dangos beth allai Llywodraeth Lafur Blair fod wedi’i gwneud yn 1997 gyda’i mwyafrif anferth ac maen nhw’n amlwg yn credu yn y syniad bod rhaid gweithredu o fewn chwe mis i gael eich ffordd.

Y peryg eto ydi brys, a phenderfyniadau sy’n edrych yn dda ar y pryd ond sy’n creu problemau at eto. Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi cael ei freuddwyd – toriadau gwario a gwthio S4C ar blât rhywun arall.

Ond mae’r penderfyniad – a’r modd y cafodd ei wneud, heb drafod yng Nghymru na gyda Llywodraeth y Cynulliad – am greu trafferthion mawr.

Sioc 4C

Cyhoeddwyd Hydref 19, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, S4/C, Y Cyfryngau, Yr Economi

Wel dyna oedd sioc. Doedd neb wedi gweld y peth yn dod. Wayne Rooney eisiau gadael Manchester United! Ond ta waeth am hynny…

Ail sioc fawr y diwrnod oedd y bydd y BBC yn cymryd y cyfrifoldeb am ariannu S4C. Mae rhywun yn gallu gweld beth aeth drwy feddwl Jeremy Hunt wrth wynebu haid o brotestwyr Cymdeithas yr Iaith ar ei stepan drws. “Duw, mae trio torri cyllideb y sianel yma’n fwy o drafferth nac o werth. Beth am drosglwyddo’r penderfyniadau amhoblogaidd i rywun arall?”

Mae’n bosib, yn ôl gwefan y BBC ei hun, bod Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu mai dyma’r trefniant newydd ac wedi gadael y ddau ddarlledwr i frwydro dros y manylion ymysg ei gilydd.

Dyw Jeremy Hunt ddim yn gefnogwr brwd i’r BBC chwaith, ac wedi ymosod ar y drwydded teledu yn y gorffennol, felly dyma gyfle i roi tolc i’r gorfforaeth hwnnw hefyd.

Beth bynnag am y cymhelliad, yn ôl beth sy’n hysbys heno fe fydd S4C yn cadw ei ‘annibyniaeth’ ond bydd y BBC yn cael penderfynu faint o arian sydd ar gael i’w wario. Yr un annibyniaeth a phlentyn sy’n ddibynnol ar ei rieni am ei bres poced, felly.

Dyw hyn ddim yn golygu bod S4C wedi dianc gyda’i gyllideb yn gyflawn, chwaith. Mae’r llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi newid yn y ddeddf fel na fydd cyllideb S4C yn parhau i gynyddu yn unol gyda chwyddiant, fyddai’n lot o drafferth heb eisiau os ydi cyllideb y sianel am aros yr un fath.

Mae’n siŵr y byddai’r BBC yn ystyried toriad 16%, yr un toriad ac y bydd yn rhaid iddyn nhw ei wynebu dros y chwe blynedd nesaf, yn ddigon deg.

Bydd angen gwybod mwy o fanylion cyn penderfynu pa mor ddrwg yw’r newyddion i S4C, ond mae yna rai pryderon amlwg.

Un o’r pryderon pennaf, yn fy nhyb i, yw y bydd hyn gwneud S4C yn haws ymosod arno gan bobol sydd eisiau gweld cefn y sianel a’r drwydded teledu. Iawn, does yna ddim lot o wahaniaeth rhwng y cwestiynau “pam fod fy arian treth i yn cael ei wastraffu ar S4C?” a “Pam bod arian fy nhrwydded teledu yn cael ei wastraffu ar S4C?”. Ond mae arian trethi yn bethau reit niwlog tra bod y drwydded teledu yn fil sy’n disgyn drwy flwch llythyrau unwaith y flwyddyn.

Hefyd, er gwaethaf pwyslais gwleidyddion o Gymru ar geisio ehangu ffynonellau newyddion a rhaglenni’r wlad mae’r cyhoeddiad yma yn golygu y bydd mwy fyth o reolaeth gan un gorfforaeth Brydeinig.

Blogiau eraill sy’n trafod hyn: Blogmenai a Blog Guto Dafydd

Academi … trist iawn … feri sad

Cyhoeddwyd Hydref 19, 2010 gan Dylan Iorwerth. 1 Sylw.

Tagiau: Amddiffyn, Gwleidyddiaeth, Yr Economi

Dylan Iorwerth yn ystyried moeswers y datblygiad mawr na fu…

Stori drist ydi un yr Academi Hyfforddi Filwrol yn Sain Tathan. Nid am ei bod wedi ei gwrthod ond am ei bod yn saga ddigalon o ferch ifanc yn cael ei denu i bechu gan hen ddyn mawr pwerus, ac wedyn yn cael ei gadael yn ddiymgeledd ar y stryd.

Y ferch ifanc, rhag ofn ichi fethu â deall, ydi Cymru. A’r Llywodraeth yn Llundain ydi’r dyn. Ac un o’r elfennau mwya’ digalon o’r cyfan yw bod llawer iawn ohonon ni wedi amau mai fel hyn y byddai pethau’n gorffen.

Ers blynyddoedd, am resymau digon dealladwy, mae gwleidyddion lleol a chenedlaethol yng Nghymru wedi bod yn despret – a dyna’r unig air – i weld datblygiadau newydd yn y maes awyr mawr ym Mro Morgannwg.

Mae Caradog Prichard yn sôn yn Un Nos Ola Leuad am ddyn â golwg fel ci lladd defaid yn ei lygaid. Golwg sbaniel gor-eiddgar sydd wedi bod arnon ni, a’n tafodau’n hongian allan o’n cegau i lawr hyd at ein traed.

Degau o filiynau

Hyd yn oed heb wybod yr holl fanylion, mae’r hyn sydd ar glawr mewn gwahanol adroddiadau’n ddigon i wneud i neb boeni …

Yn ystod y deng mlynedd diwetha’, mae Awdurdod Datblygu Cymru ac wedyn Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario degau o filiynau o bunnoedd ar y syniad o ddenu canolfan filwrol fawr i Saith Tathan a chreu Parc Busnes Aerospace ar gefn hynny.

Y syniad cynta’ oedd siwpyr-hangar DARA – y corff trwsio awyrennau milwrol. Mi wariodd yr Awdurdod Datblygu o leiaf £16 miliwn yn uniongyrchol ar hwnnw (yn ôl adroddiad gan bwyllgor dethol yn Nhŷ’r Cyffredin).

O fewn blwyddyn neu ddwy, roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi newid eu meddwl yn llwyr, ac i ffwrdd yr aeth DARA, gan adael yr hangar ar ôl.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn berchen ar gannoedd o erwau o dir ar y safle (ar ôl talu £12 miliwn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn) ac, yn ôl adroddiad gan Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol, dim ond pedwar cwmni a 45 o swyddi oedd wedi eu creu yn y Parc Busnes erbyn 2009.

Fe ddywedodd yr un adroddiad nad oedd y Weinyddiaeth a Llywodraeth Cymru’n deall ei gilydd yn ddigon da nac yn rhannu’r un amcanion. Doedd yr awdurdodau yng Nghymru ddim wedi cael gwybod mewn digon o bryd beth oedd ar droed.

Y gobaith mawr newydd

Y gobaith mawr wedyn oedd yr Academi Hyfforddi … ac mae’r un peth wedi digwydd eto. Doedd dim byd tebyg i 5,000 o swyddi am gael eu creu yno, mae’n wir, ond does dim llawer o argoel o 2,000 yn y Parc Busnes chwaith.

Roedd yna lond dwrn o wleidyddion a chyrff wedi gwrthwynebu’r datblygiad, rhai am resymau lleol, rhai oherwydd yr amgylchedd a rhai am nad oedden nhw eisiau i Gymru ei phuteinio ei hun er mwyn cael swyddi ym maes amddiffyn.

Roedd y consortiwm preifat – Metrix -i ddatblygu’r Academi’n cynnwys cwmnïau gwerthu arfau ac roedd hi’n ymddangos y gallai milwyr o wledydd eraill gael eu hyfforddi yno hefyd.

Yn ystod y cynadleddau gwleidyddol, roedd Metrix wedi bod yn lobïo i gadw’r Academi ac, yn ôl y gwrthwynebwyr lleol, roedd gwleidyddion fel Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Alun Cairns yr AS lleol a Chris Bryant o Lafur wedi cytuno i noddi ciniawau ar eu rhan.

Does ond gobeithio fod y bwyd yn neis.

O, ie … mi fydd angen gwario rhagor o arian cyhoeddus hefyd … ar yr ymchwiliadau i weld be aeth o’i  le y tro yma.

Bydd y toriadau yn taro ein cymunedau Cymraeg

Cyhoeddwyd Medi 20, 2010 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: Cymraeg, Gwleidyddiaeth, Yr Economi

Ifan Morgan Jones sy’n dweud y bydd yr adolygiad gwario yn taro gorllewin Cymru yn galed…

Hydref 20, mis i heddiw. Dyna’r dyddiad y bydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi ei Hadolygiad Gwario Cynhwysfawr, a dyna’r diwrnod y byddwn ni’n cael gwybod beth fydd hyd a lled y toriadau dros y pedwar mlynedd nesaf.

Hyd yn hyn mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau o £6.2 biliwn mewn gwariant, gan docio’r gyllideb fan hyn a fan draw fel coeden bonsai. Diwedd mis Hydref bydd y llif gadwyn yn cael ei thanio a’r canghennau mawr yn disgyn wrth i’r rhan fwyaf o adrannau golli rhwng 25-40% o’u cyllidebau.

Er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobol yn cytuno bod angen cywiro’r diffyg ariannol, mae yna dystiolaeth bod y cyhoedd yn dechrau teimlo’n anghyffurddus ynglŷn â maint a chyflymder y toriadau. Yn ôl y pôl piniwn diweddaraf mae’r Blaid Lafur, sy’n pregethu mai sgil effaith y toriadau fydd ail ddirwasgiad, eisoes wedi dal i fyny gyda’r Ceidwadwyr – er nad oes ganddyn nhw arweinydd eto hyd yn oed.

Serch hynny mae yna ryw ymdeimlad o hyd mai rywbeth fydd yn digwydd i bobol eraill fydd y toriadau yma – er y bydd hynny’n siwr o newid unwaith maen nhw’n dechrau brathu. Ac yn anffodus, mae’r holl ffigyrau yn awgrymu mai ni, allan o Brydain gyfan, sy’n debygol  o gael y brathiad mwyaf hegar.

Mae sawl gwleidydd ac economegydd eisoes wedi rhybuddio y bydd Cymru yn dioddef yn waeth nag unrhyw ran arall o Brydain, ac mae’r ffigyrau yn cefnogi hynny. Mae 26.6% o weithwyr Cymru yn gweithio yn y sector gyhoeddus o’i gymharu â 21.1% ar draws Prydain.

“Cymru yw’r rhanbarth sy’n mynd i gael ei daro waethaf gan hyn,” meddai Cadeirydd y Ganolfan Ymchwil Busnes a’r Economi, Douglas McWilliams diwedd y mis diwethaf, gan rybuddio y byddai diweithdra yn cyrraedd 11% yng Nghymru erbyn 2015.

Ond yn waeth na hynny, i ni sy’n byw yng ngorllewin Cymru – a dw i’n siwr bod nifer mawr o’r rheini sy’n darllen y blog yma yn eu mysg – mae’n amlwg mai ardaloedd gwledig y gorllewin fydd yn ei chael hi’n waeth na neb. Nid y Cymoedd fydd yn dioddef waethaf tro ‘ma – Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro sydd â’r canran uchaf sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Ac mewn araith yr wythnos diwethaf dywedodd y ffefryn ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, David Miliband, mai “Cymru fydd yn cael ei tharo galetaf,” a’r gorllewin yn benodol:

“Mae’n anghywir mai economïau lleol mewn ardaloedd fel Gorllewin Cymru fydd yn dioddef mwy nag ardaloedd eraill cyfoethocach.”

Mae’r Llywodraeth yn pregethu y bydd rhaid i bawb rannu’r poen, ond mae’n ymddangos yn amlwg y bydd rhai yn rhannu mwy o’r boen nag eraill – cymunedau Cymraeg gwledig gorllewin Cymru yn eu mysg.

Nid pobol sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus fydd yn dioddef yn unig, wrth gwrs. Bydd colli swyddi yn golygu bod gan bobol yn yr ardaloedd yma llai fyth o arian i’w wario ac felly bydd busnesau yn cau a swyddi yn y sector breifat yn mynd hefyd.

Mis i fynd felly a mae pethau’n edrych yn ddu i ni. Fe gawn ni weld bryd hynny a fydd clymblaid San Steffan yn penderfynu ceisio arbed rhai o ardaloedd tlotaf Prydain, fel Gogledd Lloegr a Chymru, rhag y gwaethaf o’r boen.

Fel arall efallai mai’r ddadl gryfaf o blaid cadw cyllideb S4C yw y bydd angen rywbeth i ddifyrru’r holl Gymry Cymraeg sydd ar y clwt.

S4 (slaes) C

Cyhoeddwyd Medi 11, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: S4/C, Y Cyfryngau, Yr Economi

Yn dilyn cyfarfod Jeremy Hunt â Arwel Ellis Owen a John Walter Jones yn Llundain, mae Ifan Morgan Jones yn dweud nad torri cyllideb S4C yw’r ateb…

Mae pethau’n edrych yn reit ddu ar S4/C. Mae’r ‘slaes’ yn ei henw’n edrych yn fwy a mwy addas bob dydd, fel ryw ben sy’n paratoi am y gilotîn.

Roedd Prif Weithredwr y Sianel a Chadeirydd yr Awdurdod wedi mynd i Lundain dydd Mawrth gan obeithio dadlau y dylai S4C gael ei thrin fel y BBC a chael mwy o amser i baratoi ar gyfer toriadau ariannol.

Ond os oedden nhw’n disgwyl gwrandawiad cydymdeimladol gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, mae’n amlwg iddyn nhw gael eu siomi.

Mae S4C a’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwrthod rhyddhau unrhyw sylw ynglŷn â chynnwys y cyfarfod ond mae’n debyg iddo fod yn un “anodd iawn”.

Yn ôl adroddiadau roedd Jeremy Hunt wedi rhoi “ffrae” i Arwel Ellis Owen a John Walter Jones, gan feirniadu S4C am beidio â chyrraedd cyfran ddigon eang o siaradwyr Cymraeg.

Mae’n debyg ei fod hefyd wedi dangos graff iddyn nhw gan nodi bod gwariant S4C wedi codi tra bod nifer y gwylwyr wedi gostwng.

Mae’r adran eisiau torri tua 25% o gyllideb £100m S4C dros y pedair blynedd nesaf – tua 6% bob blwyddyn. Mae’r sianel hefyd wedi cael mis i baratoi cynllun ariannol ar gyfer y dyfodol.

Dadrithiad

Serch hynny digon dof yw’r ymateb wedi bod o gyfeiriad Cymru fach, a dwi’n siŵr y bydd hynny’n gwneud swyddogaeth y rhai fydd yn gorfod torri yn haws.

Mae Cymdeithas yn Iaith wedi gwneud beth sydd rhaid ac ailddechrau’r “gweithredu uniongyrchol di-drais” oedd yn nodwedd o’r ymgyrch i sefydlu’r sianel yn 1982.

Ond fel arall codi’r ysgwyddau y mae’r rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg wedi ei wneud. Mae’n saff dweud fod yna dalp mawr ohonyn nhw wedi eu dadrithio braidd gan S4C.

Dyw’r ffordd y deliodd y Sianel ag ymadawiad y cyn Brif Weithredwr Iona Jones ddim wedi helpu yn hynny o beth.

Does dim dadl nad yw penderfyniad S4C i wrthod trafod ei hymadawiad wedi bod yn gamgymeriad.

Beth bynnag ddigwyddodd yn y cyfarfod yna allai hi ddim bod yn waeth na’r cyhoeddusrwydd negyddol cyson sydd wedi dilyn yn sgil eu penderfyniad i beidio â thrafod y mater.

Mae anniddigrwydd hefyd ynglŷn â’r ffordd y mae’r gwaith o gynhyrchu rhaglenni yn cael ei rannu ymysg pwll bychan o gwmnïau, a theimlir y gallen nhw fod wedi gwneud mwy i gefnogi cwmniau fel Barcud yng Nghaernarfon.

Yn waeth byth, mae yna yna ryw fath o gonsensws yn dechrau ffurfio y gallai’r toriadau wneud lles i S4C.  Yn ôl blogwyr fel Chris Cope, “mae S4C angen argyfwng. Mae hi angen rhywbeth sy’n torri’r sianel i’w chraidd. Yn sgil hynny, efallai bod 24 y cant mewn toriadau’n union beth mae’n ei hangen.”

Cyllideb

Yn bersonol alla’i ddim cwyno am S4C. Mae eu gwasanaeth i blant bach, Cyw, yn boblogaidd tu hwnt yn ein tŷ ni. Byddwn i’n fodlon talu ffi trwydded bersonol am y gwasanaeth hwnnw’n unig.

Rydw i hefyd yn credu eu bod nhw’n dda iawn am wneud rhaglenni am ddigwyddiadau yng Nghymru (fel y gyfres Digwyddiadau ’10 yr haf yma) a rhaglenni sy’n ymweld ag ardaloedd penodol fel Bro.

Serch hynny, mae yna ganfyddiad nad yw safon rhaglenni S4C gystal a’r arlwy Saesneg ar sianeli eraill.

Ond ai torri cyllid yw’r ateb i hynny? Wel, na, dwi’m yn meddwl. Pa mor ddymunol bynnag fyddai hi i roi ‘cic yn nhin’ S4C, dyw’r ddadl ddim yn gwneud synnwyr rhesymegol.

Os mai codi braw ar S4C oedd ei angen – mae’n ymddangos bod Jeremy Hunt wedi llwyddo yn hynny o beth, beth bynnag.

Diffyg cyllideb yw un o broblemau S4C yn y bôn. Dyw £100 miliwn ddim yn llawer o arian yn y pen draw, ac fel popeth arall mae’n cystadlu gyda gwasanaeth Saesneg y BBC sydd yn cael £2.4 biliwn drwy’r ffi drwydded.

Gydag arian fel yna gall y BBC osod y bar yn rhyfeddol yn uchel, a’r unig ddarlledwr arall ym Mhrydain sy’n gallu cystadlu yw Sky, sydd â’i ffi tanysgrifio ei hun er mwyn gwneud hynny.

Un gŵyn parhaol gan bobol sy’n teithio dramor yw pa mor wael ydi safon y teledu yno. Pe baen ni’n cymharu arlwy S4C gydag arlwy sianeli nifer o wledydd fe fyddai’n eithaf ffafriol.

Y brif broblem felly yw nad oes gan S4C gymaint â hynny o arian i gynhyrchu rhaglenni o safon, ac mae yna beryg wrth gwtogi’r cyllid ymhellach y byddai’r safon yn gwaethygu eto, a hynny’n peri cwymp eto yn nifer y gwylwyr.

Diffyg creadigrwydd

Serch hynny, mae yna ffyrdd o wella safon rhaglenni S4C, a hynny drwy gywiro’r diffyg creadigrwydd sydd wrth galon y sianel.

Mae’r teclyn ‘Creu Syniadau’ yma yn dweud y cyfan  – fe allech chi weld bob un yn cael ei gomisiynu.

Y broblem dwi’n credu yw bod S4C yn ormod o ‘siop gaeedig’. Tra bod yna fwrlwm celfyddydol ymysg nofelwyr, beirdd ac artistiaid Cymru, dyw’r bwrlwm hwnnw ddim  bob tro i weld yn trosglwyddo i’n prif sianel ni.

Rydan ni’n wlad hynod o greadigol ond dyw’r brif sianel ddim fel petai o’n gallu costrelu’r creadigrwydd hwnnw at ei dibenion ei hun.

Ond nid torri’r gyllideb yw’r ateb i hynny. Byddai torri’r gyllideb yn gwneud creu rhaglenni creadigol, o safon, yn anoddach – nid yn haws.

A wedyn yr oll fyddai gyda ni fyddai mwy o raglenni ailadroddus, mwy o’r un hen syniadau a’r un wynebau. A sianel sydd ddim yn gwneud cyfiawnder â’i phriod iaith.

Trident? Fe fyddai un yn ddigon

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn pam bod y ddwy brif blaid yn benderfynol o gael fersiwn newydd o arfau niwclear Trident …

Ddoe fe lansiodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu maniffesto, ac un addewid wrth graidd y ddogfen oedd cael gwared ar Trident. I bawb sydd heb fod yn gwybod y cefndir (neu wedi bod yn byw mewn lloches niwclear ers y Rhyfel Oer) mae Trident yn rhan canolog o raglen arfau niwclear yr Deyrnas Unedig. Rywle allan yn y moroedd o’n cwmpas ni mae yna bedair llong danfor sydd â digon o le ar bob un i gario 160 ffrwydryn niwclear.

Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol fe fydd y llywodraeth – coch, glas, oren neu wyrdd (o ychwanegu melyn) – yn gorfod penderfynu a ydyn nhw’n mynd i adnewyddu rhaglen Trident o 2025 i 2050. Mae’r rhaglen eisoes wedi costio tua £15 biliwn, ond mae yna amcangyfrif y gallai adnewyddu Trident gostio hyd at £76 biliwn.

Yn amlwg mae yna gymhelliant ariannol yn ogystal â heddychlon er mwyn peidio ag adnewyddu. Gyda’r dasg o dalu y diffyg ariannol anferthol o’n blaen, byddai safio £76 biliwn, neu hyd yn oed hanner hynny, yn ddechrau eithaf da.

Er gwaethaf hynny, mae’r ddwy brif blaid, y Toriaid a Llafur, wedi dweud yn eu maniffestos yr wythnos diwethaf eu bod nhw’n benderfynol o gynnal Trident.

Un peth a allai newid eu meddyliau nhw ydi bod arfau niwclear yn dechrau mynd allan o ffasiwn, yn enwedig ers i Barack Obama ennill arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Echdoe fe wnaeth 47 gwlad arwyddo cytundeb yn Washinton er mwyn rhwystro deunydd niwclear rhag mynd i ddwylo terfysgwyr.

Yr wythnos diwethaf fe arwyddoddBarack Obama gytundeb gydag Arlywydd Rwsia, i dorri nifer eu harfau niwclear o tua 2,200 i tua 1,500.

Y nod oedd gyrru neges glir at wledydd fel Iran a De Korea, sy’n ceisio datblygu eu harfau niwclear eu hunain:  “Mae’r byd yn dechrau troi cefn ar arfau niwclear. Datrys pethau mewn modd heddychlon yw’r ffordd ymlaen.”

Ond cytundeb symbolaidd oedd hwn yn fwy na dim, a does yrun wlad wedi awgrymu o ddifri eu bod nhw’n mynd i roi’r gorau i’w harfau niwclear.  Oes yna wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng 2,200 a 1,500 o arfau niwclear? Y gwahaniaeth rhwng ambell i chwilen neu’i gilydd yn byw i adrodd y hanes.

Mae’r un pwynt yn gymwys yn achos arfau niwclear Prydain. Oes angen llongau tanfor arnom ni gyda’r gallu i gario 160 ffrwydryn yr un? Fel y dangosodd  Hiroshima yn Japan, mae un bom niwclear fel arfer yn ddigon i brofi pwynt. Mae mynd ar ol Nagasaki wedyn yn ‘overkill’ ym mhob ystyr o’r gair.

Yn Trident mae gan Brydain y gallu i chwythu pob prifddinas yn y byd yn ulw, dair neu bedair gwaith. Dan ba amgylchiadau fyddai’r fath beth yn cael ei ystyried?

Mae’n drawiadol nad oes un pwer niwclear erioed wedi ymosod ar un arall. Hyd yn oed gelynion chwyrn fel India a Phacistan. Y pwynt yw bod un arf niwclear – yr arf ataliol eithaf – yn ddigon i gadw rywun draw.

Hyd yn oed wrth roi dadleuon moesol o’r neilltu mae’n anodd cyfiawnhau adnewyddu Trident ynwyneb y diffyg ariannol. Mae’n wastraff. Er ei bod hi’namlwg bod y Toriaid a’r Blaid Lafur eisiau dangos eu bod wedi ymroi i amddiffyn Prydain ar drothwy Etholiad Cyffredinol, ar ôl Mai 6 bydd angen gofyn cwestiynau go iawn ynglyn â beth allwn ni ei fforddio. Dyw Prydain ddim yn gymaint o bwer mawr rhyngwladol ag oedd o a dyw faint bynnag o arfau niwclear ddim am newid hynny, yn enwedig os oes gan bawb arall nhw hefyd.

Byddai un llong danfor gyda 160 taflegryn niwclear arno yn gwneud y tro, siawns. Neu un bom niwclear, hyd yn oed. Fe wna’ i wirfoddoli i’w gadw yn yr ardd gefn os ydyn nhw’n cytuno i roi’r gorau i’r gweddill.