Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cwrw Llŷn – Prifardd yn codi peint i ddatblygiadau newydd

Chwefror 14, 2012 13:45


Cwrw Llyn
Mae’r Prifardd a’r bragwr cwrw, Myrddin ap Dafydd, yn dweud ei fod yn gobeithio cofnodi rhan bwysig yn hanes bragu cwrw yng Nghymru trwy agor canolfan dreftadaeth cwrw ym Mhen Llŷn.

Yn ôl Myrddin ap Dafydd, sy’n un o’r 12  tu ôl i gwmni bragu newydd Cwrw Llŷn, mae angen rhoi llwyfan i’r hanes difyr o fragu cwrw sydd yng Nghymru, ac yn ardal Pen Llŷn yn benodol.

Yn ôl y Prifardd, mae archeolegwyr wedi darganfod fod cwrw cyntaf Cymru wedi cael ei fragu ym Mhorth Neigwl ar Ben Llŷn, yn ôl yn yr Oes Efydd – ac mae cynlluniau ar waith nawr i greu canolfan dreftadaeth i ddathlu’r hanes, a dangos i bobol sut mae criw newydd yn cyfrannu at yr hanes bragu lleol.

“Mae ’na hanes difyr iawn o fragu yn yr ardal ac rydyn ni am adrodd yr hanes mewn canolfan dreftadaeth, ynghyd â meicro-fragdy, odyn a chanolfan groeso newydd i bobl allu dod i weld y cwrw’n cael ei fragu,” meddai Myrddin ap Dafydd.

Fe ddechreuodd y criw fragu cwrw o hen sied wartheg yng nghartref Myrddin ap Dafydd yn Llwyndyrys fis Mai y llynedd, ond mae’r busnes wedi tyfu a phrysuro ers hynny.

Mae’r criw bellach wedi symud eu bragdy o’r hen sied wartheg i ganolfan newydd yn Nefyn, wrth i’w cynhyrchiant dreblu i 30 o gasgenni cwrw’r wythnos yn sgil y galw lleol.

Canmol mentergarwch

Mae mentergarwch y criw wedi denu canmoliaeth y Dirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru, Alun Davies.

“Mae cynlluniau’r grŵp i gyfuno’i waith bragu gyda chanolfan groeso yn dangos sut mae bwyd a diod yn cydblethu gyda’n hunaniaeth a’n diwylliant ers canrifoedd,” meddai.

“Mae manteisio ar y cysylltiadau hyn i gynnig rhywbeth newydd yn enghraifft ragorol o sut gallwn ni wneud y gorau o’n cynnyrch i annog twristiaeth bwyd yng Nghymru.”

Ac mae gan y criw gynlluniau i ddechrau tyfu barlys eu hunain erbyn hyn hefyd, er mwyn gallu creu peint “gwirioneddol leol.”

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys tri ffermwr, yn prynu’r barlys brag gan gwmni yn Nottingham ar hyn o bryd, ond mae un o’r ffermwyr wedi profi ac asesu bod y barlys y mae’n ei dyfu i borthi anifeiliaid yn berffaith ar gyfer cynhyrchu cwrw.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Guto , Chwefror 14, 2012 3:45 pm

“Fe ddechreuodd y criw fragu cwrw o hen sied wartheg” – tra gwahanol i’r dŵr, yr hopys a’r grawn arferol. “Mewn hen sied wartheg”, efallai?

§| Nodi camddefnydd

Guto , Chwefror 14, 2012 3:45 pm

Pob lwc iddyn nhw, gyda llaw – edrych ymlaen at gael llymaid!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 14, 2012 5:14 pm

Gwych & mwy gwych eto

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 14, 2012 5:15 pm

Beth a am ragor o seidr o Gymru hefyd ? Ma Gwynt y Ddraig yn wych ac yn rhatach o lawer na sawl ‘brand’ o Loegr (ac Iwerddon) sy’n erchyll!

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Chwefror 14, 2012 6:01 pm

Dwi wedi cael ambell beint o Frenin Enlli yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy. Cwrw braf iawn, a thafarn gartrefol a Chymreig – a bwyd da!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.