
Rhyw fath o stiw Ffrengig ydi hwn.
Pan fydd y corbwmpenni ar fin bod yn barod yn yr ardd gen i, byddaf wrth fy modd yn cael nôl un neu ddwy, eu sleisio a’u ffrio efo nionyn a garlleg ac yna eu rhoi mewn dysgl a gratio ychydig o gaws drostynt a’i frownio o dan y gril. Ond, os daw glaw di-baid am ddyddiau, mae’r corbwmpenni yn mynd yn drech na fi a byddaf yn paratoi ratatouille. Dylech ddefnyddio wylys hefyd os am wneud y saig Ffrengig go iawn ond fyddaf i ddim yn trafferthu. Weithiau fe ychwanegaf ychydig o fadarch.
Digon i 4
2 nionyn canolig wedi eu torri’n fras
3 corbwmpen ganolig wedi eu sleisio’n gylchoedd chwarter modfedd (6mm) o drwch
tun 14 owns (400g) o domatos, neu dynnu croen 4 tomato mawr a’u torri’n chwarteri (gw. Plicio tomatos, pennod Briwsion)
2 bupur gwyrdd neu goch wedi eu torri’n fras – taflwch yr hadau
4 owns (115g) o fadarch wedi eu sleisio
llond llwy de o oregano neu fasil sych
2 ewin garlleg wedi eu plicio a’u malu
pupur a halen
olew olewydd
1 Ffriwch y nionyn a’r garlleg yn araf yn yr olew mewn sosban am tua 10 munud.
2 Yn y cyfamser ffriwch y cylchoedd corbwmpen mewn olew (neu fenyn) mewn padell ffrio i’w brownio.
3 Ychwanegwch y corbwmpenni, y tomatos neu holl gynnwys y tun, y pupur gwyrdd neu goch a’r madarch at gynnwys y sosban.
4 Ychwanegwch yr oregano neu’r basil a’r pupur a halen at y gymysgfa a chymysgwch y cyfan yn drwyadl efo llwy bren. Rhowch gaead ar y sosban a mudferwch am tua hanner awr.
5 Tynnwch y caead oddi ar y sosban a mudferwch am chwarter awr arall. Dylai’r gymysgfa fod yn dew erbyn hyn. Bwytewch yn oer neu’n boeth efo reis.
Daw’r rysáit yma allan o lyfr Gwres y Gegin, gan y gogyddes adnabyddus Heulwen Gruffydd. Cyhoeddir gan Y Lolfa.
Chantal , Ebrill 6, 2012 8:09 pm
§