Cynyddu maint testun

Golwg360

Calendr

Celf

Dylanwad Josiah Wedgwood

Mai 23, 2012 | Caerdydd

Gyda Gaye Blake Roberts, Cyfarwyddwr Amgueddfa Wedgwood.

Rhôd 2012

Mehefin 3, 2012 | Aberteifi, Castell Newydd Emlyn

Digwyddiad celf awyr-agored unigryw a gynhelir yn flynyddol ym Melin Glonc, Sîr Gâr gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Sgwrs Amser Cinio

Mehefin 8, 2012 | Conwy, Llandudno

Ymunwch gyda ni am daith anffurfiol o gwmpas Gweithiau ar Ganfas a Phapur, a thrafodaeth am y berthynas rhwng proses, lliw a gofod yng ngwaith Mali Morris.

Arddangosfa Celf Agored 2012

Mai 12, 2012 | Caernarfon, Bangor

Mae Oriel Pendeitsh, Caernarfon yn arddangos cyfoeth o waith celf gan 38 o artistiaid gwahanol. Ewch draw i gael gweld yr amrywiaeth – mae mynediad am ddim.

Fred Langford Edwards: apothecari, archifau, eiconau, …

Ebrill 23, 2012 | Conwy, Llandudno

Mae Fred Langford Edwards yn artist yn byw yng ngogledd Cymru, sydd i waith yn archwilio agweddau hanesyddol a chyfoes am wyddoniaeth. Mae ei arddangosfa apothecari, archifau, eiconau yn taflu goleuni ar sut yr ydym yn dod i wybod yr hyn rydym yn wybod o'r byd, a'n lle ni ynddo, gan ystyried safle'r amgueddfa yn ein diwylliannau.

Arddangosfa – Mali Morris: Gweithiau ar Ganfas a Phapur

Ebrill 23, 2012 | Conwy, Llandudno

Mae Mali Morris yn artist haniaethol gyda diddordeb arbennig mewn lliw a'r ffordd mae'n creu golau a gofod. Mae'r arddangosfa'n ddetholiad o'i gweithiau bychan ar ganfas ac ar bapur, gydag un paentiad mawr North & South ar fenthyg o gasgliad yr Academi Celf Brenhinol yn Llundain. Dyma gyfle hir ddisgwyliedig i weld ei gwaith yng Nghymru ac i werthfawrogi ei phaentio meistrolgar.

Arddangosfa Andrew Smith ac Ann Catrin Evans

Ebrill 21, 2012 | Caernarfon, Bangor

Cyfle i weld gwaith newydd gan yr arlunydd Andrew Smith a’r dylunydd Ann Catrin Evans

Ar Ymyl Lliw a Gwaith Ann Catrin Evans

Ebrill 21, 2012 | Caernarfon, Bangor

Arddangosfa o waith newydd yr artist Andrew Smith ac Ann Catrin Evans

Jonathan Anderson (Teitl TBC)

Ebrill 14, 2012 | Caerfyrddin, Llanelli

14 Ebrill – 2 Mehefin 2012 Ar gyfer ei arddangosfa yn Oriel Myrddin, mae Jonathan Anderson yn dangos cyfres o weithiau a elwir ganddo’n       Coal Dust Mandalas.Mae’r term yn un disgrifiadol a llawn dirgelwch ar yr un...

Arddangosfa Oriel Ysbyty Gwynedd – Patrick Joyce – Incurable Optimists

Ebrill 1, 2012 | Caernarfon, Bangor

Arddangosfa newydd fydd i’w gweld yn Oriel Ysbyty Gwynedd Fydd gwaith Patrick Joyce – Incurable Optimists.