Tulisa Contostavlos
Mae cantores a chyn-feirniad ar raglen dalent X-Factor wedi’i chael yn euog o ymosod ar flogiwr mewn gwyl gerddorol.

Roedd Tulisa Contostavlos wedi taro Savvas Morgan yn ystod ffrae yng ngwyl V Festival yn Essex. Fe’i cafwyd yn euog o’r drosedd gan farnwr yn Llys Ynadon Stratford heddiw.

Fe gafwyd ei chynorthwy-ydd, Gareth Varey, yn ddieuog o ymddwyn yn fygythiol yn ystod yr un digwyddiad ym mis Awst y llynedd.

Mae Tulisa Contostavlos wedi’i gorchymyn i dalu cyfanswm o £3,020 o gostau, yn cynnwys £2,700 o gyfraniad at gostau’r achos; dirwy o £200; iawndal o £100 i Ms Savvas Morgan, ynghyd â £20 o daliad ychwanegol.