Geraint Percy Jones yn adrodd hanes ei dad, Percy Ogwen
Mae penwythnos o raglenni am y Rhyfel Mawr yn parhau ar S4c heno, gyda rhaglen ddogfen yn adrodd hanes gwrthwynebydd cydwybodol o Sir Fôn.

Mae Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr yn adrodd hanes gwas ffarm o Laneilian Ynys Môn. Mae hanes Percy Ogwen Jones yn cael ei adrodd gan ei fab, Geraint Percy yn Ysgol Penysarn. Roedd Percy Ogwen Jones yn dad hefyd i’r diweddar Athro Cymraeg. Bedwyr Lewis Jones.

Ar ôl wynebu sawl tribiwnlys cafodd Percy ei arestio a’i ddanfon i Faracs Wrecsam ac yna i Kinmel.

Y tri mawr arall

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys darlun o fywyd yr heddychwr George M Ll Davies a gafodd ei garcharu am bregethu yn erbyn y rhyfel. Clywn hanes y bardd o Alltwen, Cwmtawe, Gwenallt, aeth i guddio gyda pherthnasau iddo yn Rhydcymerau a Llandeilo i drio osgoi cael ei garcharu ac Ithel Davies a wrthododd wneud unrhyw waith, yn ystod ei garchariad, a fyddai’n helpu’r rhyfel.