Adam Price
Fe fydd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price yn dweud mewn rhaglen ar S4C heno mai Streic y Glowyr roddodd yr hyder iddo fedru datgelu ei fod yn hoyw am y tro cyntaf.

Wrth siarad am ei fagwraeth a’i gysylltiad gyda’r Streic, fe fydd Adam Price yn dweud mai’r cyfnod hwnnw yn y 1980au oedd hefyd yn gyfrifol am lunio ei ddewisiadau gwleidyddol.

Roedd Adam Price yn 15 oed pan ddechreuodd y streic a dyma oedd y tro cyntaf iddo gwrdd â phobl hoyw. Ar ôl hynny fe deimlodd yn ddigon cyfforddus i drafod ei dueddiadau rhywiol gyda’i deulu:

“Yn ystod y streic roeddwn yn cuddio un gyfrinach fawr,” meddai’r cyn-AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Roeddwn i’n gwybod ers ysgol gynradd fy mod yn wahanol, yn hoyw. Roedd yn anodd imi ddweud wrth neb, roedd yn anodd imi dderbyn e fy hunan. Roeddwn i’n becso beth fyddai ymateb fy rhieni a’u ffrindiau nhw.

“Yn ystod y streic dyma fi’n cwrdd â phobl hoyw am y tro cyntaf erioed. Daeth London Gays and Lesbians Support the Miners lawr o Lundain – llond bws ohonyn nhw – i glwb rygbi Pantyffynon a dad a mam a’r glowyr i gyd yn eistedd lawr gyda’r hoywon a’r lesbiaid ac yn eu croesawu nhw.

“Roedd y peth i fi yn syfrdanol. Dechreuais i ddychmygu y gallen i fod yn berson cyflawn. Ac wedi ‘nny wnes i feddwl y gallen i ddweud wrth fy mam a nhad mod i’n hoyw.

“Y streic wnaeth y gwahaniaeth, y streic ddangosodd i fi pwy oeddwn i mewn gwirionedd.”

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C am 9:30 yr hwyr. Dyma’r ail raglen yn y gyfres.