Llun: Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe
Alun Rhys Chivers fu’n mwynhau Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe…

“Nid gŵyl o ymffrost bostfawr – na chwennych
Gwych winoedd a drudfawr,
Ond sbri miri’r Cyrfe Mawr
Anferth a hollol enfawr!”
(tyrfe.com)

Mor addas ac arwyddocaol yw llinell gyntaf yr englyn uchod gan Huw Dylan Owen i lansio digwyddiad Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe.

Cafodd y ‘Cyrfe’ ei gynnal ar ddiwedd wythnos pan fu cryn drafod ar ffrwti.com ynghylch (diffyg) bodolaeth y ‘Dosbarth Canol Cymraeg’ honedig. Dyma derm “hip a threndi” sydd wedi codi gwrychyn y newyddiadurwraig Iola Wyn yr wythnos hon. Dydy’r fath beth, chwedl Iola, ddim yn bodoli. Heriaf unrhyw un a fu yn y Cyrfe dros y penwythnos i anghytuno â’i barn.

Roedd Tŷ Tawe dan ei sang o bobol o bob dosbarth cymdeithasol a oedd yn rhannu nod gyffredin – cael blas ar ddiwylliant Cymraeg, o’r cyrfau Cymreig yn y gasgen i weithiau celf cyfoes i gerddoriaeth werin – ie, cerddoriaeth y werin bobol. Nid cerddoriaeth uchel ael, ond cerddoriaeth sesiynau’r tafarnau.

A’r cyfan oll wedi’i drefnu gan bobol y byddai Iola Wyn yn sicr yn eu galw’n “bobol y Pethe”, sef: “Pobl sy’n cyfrannu’n helaeth i’w cymunedau bob wythnos o’r flwyddyn, nid ar ddechrau mis Awst ac wrth gludo telyn i’r Ŵyl Cerdd Dant yn unig. Mae’r bobl yma’n trefnu digwyddiadau Cymraeg yn ein cymunedau yn gwbl wirfoddol. Maen nhw’n sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw yn ein hardaloedd.”

A diolch amdanyn nhw, ddyweda’ i. Dyma rai o’r bobol a aeth ati i sefydlu gŵyl Tyrfe Tawe ddegawd yn ôl, wedi i’r hadau gael eu plannu yn nhafarn y Potter’s Wheel – un o dafarnau mwyaf dosbarth gweithiol y ddinas – pan ddaeth criw o ffrindiau ynghyd dros ambell i beint i drafod sut y gallai gŵyl Gymraeg newydd gyfrannu i fywyd y ddinas.

Fel mae’n digwydd, yn y Potter’s Wheel – dafliad carreg o Dŷ Tawe a’r noson werin – oeddwn i nos Wener ddiwethaf, yn dathlu pen-blwydd ffrind (ac eisoes yn edrych ymlaen at ddiwrnod a hanner ddydd Sadwrn!). Ar noswyl y diwrnod mawr, ro’n innau yng nghwmni grŵp ‘organig’ o Gymry Cymraeg a dysgwyr sydd wedi digwydd dod o hyd i’n gilydd, heb wneud penderfyniad bwriadol i gwrdd oherwydd ein bod ni’n siarad Cymraeg. Yr iaith yw’r glud sy’n ein clymu, nid y rheswm pam ein bod yn cwrdd. Ac mae hynny’n hanfodol hefyd mewn dinas lle mae perygl y gallai’r iaith fodoli mewn ‘geto’ yn unig.

Natur y cymunedau Cymraeg dinesig, wrth gwrs, yw y gallant fod yn “gymunedau-gwneud” – y term a gafodd ei ddefnyddio gan Karen Owen. Y bobol hyn sy’n creu’r gymuned Gymraeg yn y lle cyntaf ac yn ei datblygu i raddau helaeth, ond mae’r newydd-ddyfodiaid i’r iaith hefyd yn hollbwysig i’w pharhad, ac mae digwyddiadau fel Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe yn hwyluso’r broses o’u denu at y diwylliant a thrwy hynny, yr iaith Gymraeg.

Mae Iola Wyn yn awgrymu bod yna “garfan fach iawn sy’n cywiro iaith bobl, ond yn sicr nid dyma’r garfan sy’n rhwystro pobl rhag siarad Cymraeg”. Dyma le dw i’n dechrau anghytuno gyda Iola. Efallai bod “rhwystro” yn air rhy gryf ond yn sicr, gall hyder rhai dysgwyr gael ei ddryllio wrth iddyn nhw gywilyddio o ddefnyddio’r gair neu’r ymadrodd anghywir yng nghwmni’r “puryddion”. Yn y ‘Cyrfe’, roedd dysgwyr a Chymry Cymraeg iaith gyntaf yn cymysgu’n hamddenol heb i’r un treiglad darfu ar ein mwynhad.

O glasuron Huw Chiswell, yr artist ystrydebol o ddosbarth canol (er ei wreiddiau yng Nghwm Tawe glofaol), i ganeuon ‘y werin bobol’ gan Gwilym Bowen Rhys, roedd rhywbeth at ddant pawb. A dyna Lowri Evans yn llenwi bwlch diwylliannol gwahanol – y bwlch rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel perfformwraig yn y ddwy iaith.

Mae rhai o’i chaneuon yn gyfieithiadau o’i gilydd ond dywedodd hithau hyd yn oed ei bod hi’n deall bellach fod lle i ganeuon gwreiddiol yn y ddwy iaith nad ydyn nhw’n croesi’i gilydd.

Er y gwahaniaethau amlwg rhwng yr artistiaid, fe lwyddwyd, rhwng y tri, i gyflwyno trawstoriad helaeth o gerddoriaeth Gymraeg – o jazz ar y piano a chanu gwlad i ganeuon gwerin poblogaidd. Roedd yr arlwy hefyd yn adlewyrchiad o ‘degawd o Dyrfe’. Er bod Gwilym Bowen Rhys yn wyneb newydd yn yr ŵyl eleni, fe fu ‘Chis’ a Lowri Evans yn perfformio yn y Tyrfe Tawe gyntaf un nôl yn 2004.

Wyneb newydd arall yn yr ŵyl oedd y comedïwr lleol Steffan Alun sy’n prysur wneud enw iddo’i hun gyda’i frand unigryw o gomedi ffraeth a chyfoes sy’n tynnu’r sefydliad Cymraeg yn ddarnau ac yn cynnig golwg tra gwahanol ar y bywyd Cymraeg. A’r cyfan oll o fewn muriau Tŷ Tawe a orchuddiwyd gan weithiau celf yr artist lleol Rhys Padarn a’i gwmni Orielodl.

Nid celf i bobol ddiwylliedig yn unig mohono chwaith – mae’n gyfuniad o gelf yn ei ffurf symlaf a geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd. Mae’r gweithiau’n cynnwys rhai o eiriau enwocaf ‘Chis’ o’i glasur ‘Y Cwm’, yn ogystal â darn arall sy’n seiliedig ar y gân ‘Tadcu’. Cafodd y darn hwnnw ei lofnodi gan ‘Chis’ ac mae’n cael ei werthu trwy ocsiwn ar Twitter a Facebook, gyda’r elw’n mynd i elusen Macmillan.

A beth gwell i gyd-fynd â thyrfe o benwythnos nag ambell i wydryn o’r cwrw a’r seidr gorau sydd gan Gymru i’w cynnig? Fe werthwyd dros 1,000 o haneri dros y penwythnos ond roedd digon o rai diodydd ar ôl i’r gynulleidfa lawen gael mynd â blas adre’ gyda nhw ar ddiwedd y nos Sadwrn. Roedd y cyrfau lleol yn cynnwys cynnyrch Tomos Watkin, Bragdy Abertawe a Bragdy Gŵyr, ac roedd cyrfau eraill wedi teithio’r holl ffordd o Borthmadog a Llŷn.

Yn llond fy nwylo o gwrw ‘Moose Piws’, es i adre o Dŷ Tawe wedi cael storm o benwythnos. Llongyfarchiadau mawr i’r trefnwyr – a hir oes i’r Cyrfe!