Ddau ddiwrnod yn unig wedi canmlwyddiant geni’r bardd byd-enwog o Abertawe, Dylan Thomas, mae bardd arall o’r ddinas wedi cael ei anrhydeddu gyda phlac glas.

Roedd Vernon Watkins yn cael ei ystyried gan rai yn “ail fardd Abertawe”, ac roedd yn gyfaill agos i Dylan Thomas, oedd yn ei edmygu’n fawr fel unigolyn ac fel bardd.

Fe fu’n gymorth mawr i Dylan Thomas wrth hyrwyddo’i waith, weithiau ar draul ei waith ei hun.

Cafodd y plac ei osod y bore ma ar adeilad bwcis William Hill ar Heol Sain Helen ar gyrion y ddinas.

Fe fu’n byw yn ardal Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr ond mae’r plac wedi cael ei osod ar yr adeilad lle’r oedd yn gweithio am 38 o flynyddoedd pan oedd yr adeilad yn eiddo Banc Lloyds.

Kardomah Boys

Symudodd Watkins o Faesteg i Abertawe’n blentyn, ac roedd yn byw yn ardal yr Uplands am gyfnod cyn symud i Gaswell ac yna i Bennard.

Cyhoeddwyd saith o gyfrolau o farddoniaeth – gan gynnwys pedair cyfrol wedi’i farwolaeth – ac fe gafodd ei ystyried ar gyfer swydd bardd y frenhines – neu Poet Laureate.

Cafodd ei ddisgrifio gan Dylan Thomas fel “y Cymro mwyaf dwfn a llwyddiannus sy’n ysgrifennu barddoniaeth yn Saesneg”.

Roedd y ddau yn aelodau o griw y ‘Kardomah Boys’, sef criw o gyfeillion oedd yn cyfarfod yn wythnosol mewn caffi yng nghanol y ddinas yn y 1930au i drafod llenyddiaeth a’r diwylliant.

Fe fu Watkins yn flaenllaw yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel un o’r criw torri codau yng nghanolfan Bletchley Park.