Theaster Gates CCA2.0
Mae enillydd y wobr gelf fwya’ yng ngwledydd Prydain yn dweud ei bod yn gystadleuaeth “arbennig iawn” i artistiaid sy’n ymwneud â chwestiynau cymdeithasol.

Theaster Gates o Chicago oedd enillydd chweched gwobr Artes Mundi mewn seremoni yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd ei gasgliad o wrthrychau symbolaidd ar newydd wedd yn cynnwys gafr artiffisial wedi’i stwffio a fu’n rhan o seremonïau’r Seiri Rhyddion.

Rhannu’r arian

Ar ôl derbyn y wobr, fe ddywedodd ei fod yn rhannu’r £40,000 gyda gweddill yr artistiaid ar y rhestr fer.

Roedd wedi curo 800 o gystadleuwyr o 70 gwlad ar draws y byd wrth i’r wobr Gymreig ddechrau disodli Gwobr Turner yn brif wobr gwaith celf arloesol.

Fe gafodd Gwobr Artes Mundi ei sefydlu yn 2002.