Kayleigh Jones
Mae Kayleigh Jones yn trafod trafferthion darllen fel dysgwraig – a’r help gafodd hi drwy lyfrau Stori Sydyn …

Y drafferth rwy’n cael gyda llenyddiaeth, ac rwy’n siŵr y gall unrhyw ddysgwr Cymraeg arall gydymdeimlo, yw dod o hyd i lyfrau addas.

I (rai) dysgwyr, mae’r byd llenyddiaeth yn un dychrynllyd ac rydym eisiau bod fel estrysod a chladdu’n pennau yn  y tywod.

Cyn i mi ddechrau ar radd yn y Gymraeg, rhyw chwe mis yn ôl, fyddwn i byth yn darllen unrhyw lenyddiaeth Gymraeg drwy ddewis.

Ond buan y ffeindiais foddhad enfawr wrth gwblhau darllen fy llyfr Cymraeg cyntaf ar fy mhen fy hunan.

Ac o’r diwrnod hwnnw, fe ddechreuodd fy angerdd dros lenyddiaeth Gymraeg.

Llyfr gafaelgar

Roedd Hunllef, y Stori Sydyn gan Manon Steffan Ros yn un o’r llyfrau Cymraeg cyntaf i mi ddarllen.

Ar ôl cwpla pob tudalen, fe dyfodd fy hyder yn fwyfwy. Roeddwn i’n gallu’i ddarllen a’i ddeall yn llyfn heb gymaint o fylchau yn y stori ac am y tro cyntaf, nid oeddwn yn teimlo fel dysgwr. Hwre!

O ddechrau’r stori, cawn ein hymgolli ym myd arswydus breuddwydion Glyn. Ers ei blentyndod, mae ef wedi cael ei boenydio yn ei gwsg gan yr un hen wraig gyfarwydd gyda’i llygaid llawn gelyniaeth, “gwenwyn pur, heb drugaredd”.

Wrth geisio dianc rhag hunllefau’i fywyd go iawn, er gwaethaf atgasedd ei fam, mae Glyn yn dewis symud i fyw yn Nhywyn, y dref lle cafodd ei fagu fel plentyn bach.

Ond, yn y dref dawel, mae ‘na ddigwyddiadau rhyfedd – a yw Glyn yn colli’i feddwl, neu a yw ei hunllefau’n dod yn fyw?

Mae’r stori’n delio â llawer o wahanol themâu o’r hunllefau amlwg i grefydd, ond thema bwysicaf y stori yn fy marn i yw hunanarchwiliad ac hunanadnewyddiad.

Mae Gwyn yn symud i Dywyn i ddianc rhag ei hen fywyd, ac wrth wneud hyn mae e’n ceisio newid ei hunan. Drwy’r stori, gallwn ni ddilyn ei newid.

Y thema hon yw un o brif themâu unrhyw stori. Heb ddatblygiad y cymeriadau, byddai’r stori’n wan ac yn anniddorol.

Ysgogi diddordeb

Mewn gwirionedd, nid dyma’r math o stori y byddwn i’n darllen fel arfer. Ond, mae’n debyg bod Manon Steffan Ros wedi llwyddo i wneud i mi newid fy agwedd tuag at ddarllen.

Cefais fy synnu gan y stori hon. Mae’n syml, eto, ni allwn i beidio â throi’r tudalennau. Mae pob pennod, tudalen a pharagraff yn ein gadael yn dyfalu’r troad nesaf.

Roedd y llyfr yn ddifyr iawn, ac wedi i mi ei ddarllen, es i ymlaen i ddarllen rhagor o storïau Cymraeg – yn cynnwys Jackie Jones gan Caryl Lewys sy’n dod o’r un gyfres â Hunllef. Nawr, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyhoeddiad y gyfres newydd o Stori Sydyn  fydd yn y siopau’r gwanwyn hwn.

Gallwch ddilyn Kayleigh ar Twitter ar @KayleighMEJones.