Gwenno Saunders
Mae label recordio Heavenly Recordings wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r gantores Gwenno Saunders.

Bydd y label, sydd hefyd yn gweithio gydag artistiaid megis Temples, Kid Wave a H.Hawkline, yn ail-ryddhau albwm gyntaf Gwenno ‘Y Dydd Olaf’ yn fuan.

Ar hyn o bryd mae Gwenno ar daith o gwmpas Prydain gyda Stealing Sheep, sydd hefyd yn un o fandiau label Heavenly Recordings.

Bydd y daith yn ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar 4 Mai, ac fe fydd Gwenno hefyd yn chwarae gigiau yn Neuadd Ogwen Bethesda ar 16 Mai ac yn Tredfest Tredegar ar 23 Mai.