Golygfa o'r gyfrfes Y Gwyll
Fe fydd y gyfres dditectif Y Gwyll yn cael sylw amlwg yng Ngŵyl y Gelli heddiw.

Mae un o’r awduron, Ed Thomas, wedi cymryd hoe o ffilmio’r ail gyfres yn Aberystwyth i helpu arwain gweithdy ysgrifennu ‘Yn yr Ystafell’, sy’n cael ei gyflwyno gan S4C, Pinewood, Tinopolis a menter Y Labordy.

Ymhlith y cyfranwyr blaenllaw eraill mae Hans Rosenfeldt, awdur The Bridge y ddrama a gynhyrchwyd yn Sweden a Denmarc (fydd yn ymuno â’r sesiwn drwy Skype), a Craig Wright sydd wedi gweithio ar gyfresi poblogaidd yn yr UDA: Six Feet Under, Lost a Dirty Sexy Money.

Bwriad y sesiwn ‘Yn yr Ystafell’ yw trafod cydweithio mewn dramâu teledu, a rhoi blas o’r broses o gyd-ysgrifennu gyda’r nod o gynhyrchu cynnwys safonol ar gyfer y farchnad ryngwladol. Bydd wyth o awduron yn cymryd rhan yn y gweithdy, ac yn eu plith mae Fflur Dafydd awdures cyfres ddrama newydd S4C, Parch sy’n dechrau nos Sul 31 Mai am 9.00. Hefyd yn cymryd rhan yn y gweithdy bydd Jon Gower, Bethan Marlow a Dafydd James.

Dywedodd Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C; “Mae’n gyffrous bod S4C, ynghyd â Grŵp Stiwdio Pinewood, Tinopolis a phartneriaeth hyfforddiant Y Labordy, yn cyflwyno sesiwn yn Y Gelli Gandryll eleni a hynny yng nghwmni unigolion mor brofiadol. Yn ystod Gŵyl y Gelli, mae’r dre yn ganolbwynt creadigol; yn lle i ysbrydoli a rhannu syniadau newydd, ac rwy’n siŵr y bydd hynny’n hwb i’r awduron yn y gweithdy wrth iddyn nhw arbrofi gyda’r syniad o gyd-ysgrifennu.”